Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
[No title]
— Beth amser yn ol, rhedodd agerbeiriant dros blentyn bychan o'r enw Davies, yr hwn a breswyliai ger yr hen yard 16. Dowlais, a dydd Iou bu fatw y fechan o'i niweidiau. Yr wythnos ddiweddaf cafodd Sais o'r enw Mr. Harrison, o Goleg Batiol, Rhydychain, ei gymeryd i fyny yn yr Iwerddon am gyflenwi teulu newynllyd- l ag oeddynt wedi eu troi o'u fferm a thorth.
CLADDEWGAETH Y PARCH. EVAN…
CLADDEWGAETH Y PARCH. EVAN EVANS, RHEITHOR LLANGEITHO A BETTWS-LEIEI. BYE GOFIANT. Ganwyd Mr. Evans yn Bryngwynell, plwyf Llan. badarn Trefeglwys, er's mwy na thri ugain a deg o flynyddoedd yn ol. Ceisiwil am enyd ddilyn hanes ein cyfaill hoff o aroser ei ymadawiad o Athrofa Dewi Sant hyd heddyw—dydd ei angladd. Fel myfyriwr yr oedd yr ymadawedig yn tori allan gwys yn nghychwyniad ei fywyd, yr hon a ddilynodd hyd y diwedd. Yr oedd yn ysgolor gwych, ac yn bur hyddysg yn yr Hebraeg. Fe ellir dweyd heb betruao fod ei.allu addysgawl wedi ei brcfi yn ystod ei weini- dogaeth hirfaith. Yr oedd offeiriad yr Hafod (fel ei gelwid) yn dduwinydd rhagorol, ac y mae llawer yn y fro dawel yma yn cofio yn dda am ei wybodaeth eang o'r Gair Ysbrydoledig. Yr oedd yn cael ei ys- tyried yn y rhestr flaenaf fel pregethwr, ao nid oes nemawr blwyf yn y Deheudir nad oedd ef wedi bod yn traethu gallu y Groes i bechaduriaid colledig. Fe ddywed y rhai a gawsant y fraint o fod o dan weinidogaeth Mr. Evans pan yr oedd yn ieuanc ei fod yn rhagori y pryd hwnw fel pregethwr. Fel cymydog ni fu yr un erioed yn fwy parod i weinyddu cymwynasau nag efe, ac y mae llaweroedd a gant deimlo oddiwrth ei symudiad o'n plith. Unig fai y Rheithor oedd ei fod yn rhy garedig. Fel cyfaill nis gallesid cael un yn fwy llawn yn ystyr y gair nag efe, ac y mae dagrau ar ruddiau ugeiniau heddyw wtth feddwl fod y gymdeithas hoffus ar y llawr wedi terfynu. Ond er cymaint rhagoriaethau ein cyfaill bu gorfod iddo yfed llawer iawn o ddyfroedd Mara; oariodd gorff digon aflach am flynyddoedd lawer. Yr oedd cur annioddefol ar adegau yn ei ben, ao yr oedd ei gymalau wedi eu cloi, i raddau helaeth iawn gan y rheumatism, neu, yn ol iaith y North, y cryd oymalau. Yr oedd yr hen frawd er's cryn amser wedi ei gadwyno yn ei ystafell ar y llofft, ond er's yohydig ddyddiau yn ol fe ddaeth i lawr o'i ystafell, a ohafodd anwyd trwm, yr hwn, wrth bob tebyg, afu yn angeuol iddo. 'Roedd wythnos i heddyw,fel arferol, a'i ysbrydoedd bron yn welJ nag arfer, ond dydd Sul diweddaf, tua haner dydd, fe ddeohreuodd yr hen elyn diweddaf wneuthur ei waith, a hunodd yr henafgwr tuag un o'r gloch foreu Llun. Heddyw (Sadwrn) yr hebryngwyd ei weddillion i gladdfa y teulu, sef Nantcwnlle. Gwelsom yn bresenol yn yr angladd yr offeiriaid canlynol:—Parchn. L. T. Rowland, D.G., Llanddewi Brefi; Daniel Jones, D.G., Llanbedr; Powell, D.G., Castell Newydd Emlyn; E. Williams, Nantownlle; T. Evans, Llanrhystyd; D. Jenkins, Llangwyryfon; R. Wil- liams, Dihewid a Llanerchaeron; H. Jones, Llany- byther Z. M. Davies, Blaenpenal; Jones, New Quay D. Griffiths, Trefilan; T. Griffiths, Gelli, Talsarn Timothy Davies, Gartheli; E. Morgans, Ystrad; D. Morris, Silian; R. Jenkins, Bettws Bledrws a mab yr ymadawedig, sef J. Evans, Conway. Gwnawd sylwadau cymwys gan y Parch. E. Williams, fioer Nantcwnlle, 1yn ei bregeth angladdol, ac fe gymerodd y Parchn. L. T. Rowland, a Powell, ran yn y gorchwyl pruddaidd o wasan- aethu uwchben gweddillion offeiriad adnabyddus Llangeitho. Duw a fyddo yn nodded i'w weddw a'i fab sydd yn ol yn yr anial.-Mab Llwynlorwg.
TRYCHINEB YN BELFAST.
TRYCHINEB YN BELFAST. Nos Lun digwyddodd flrwydriad echrydus ar fwrdd yr agerlong Auric," yn bresenol yn dad- lwytbo glo yn yr Abercarn Basin, Belfast. Yr oedd amryw o beirianwyr a thanwyr y llestr yn ystafell y peiriant wrth eu gwaith, pryd y darfu i un o bibellau yr ager dori, a chafodd y lie yr oedd y dynion yn gweithio ei lanw yn ddiatreg ag ager a dwfr poeth. Daliwyd y dynion gan yr effeithiau cyn y gallent ddianc, a chafodd rhai yn llythyrenol eu llosgi i farwolaeth. Nis gwyddis yn sicr.pa faint a laddwyd, ond yr oedd pedwar dyn yn yr ystafell pan y di- gwyddodd y ffrwydriad. Llwyddwyd i godi dau gorph-un wedi ei losgi yn ddychrynllyd, a'r llall yn ymddangos fel wedi marw. Yr oedd yr holl ddynion yn perthyn i Belfast.
DRUNKENNESS CURED.
DRUNKENNESS CURED. A Wealthy American Lady whose only son for years Was a slave to Intemperance, Nervous Depression, and Exhausted Vitality, after seeking in vain for a cure, and trying all known remedies, at last found a simple means that cured and saved him from a drunkard's grave. Anyone suffering or desiring to help others in this worthy cause, by sending a self-addressed stamped envelope to Mr. James Holland, 25, Hart Street, High Holborn, London, will receive this information, free of I eharge. Mention this paper.
CONFFIRMASIWN.
CONFFIRMASIWN. ST. ANN'S, BETHESDA.-—Cynhaliwyd conffirmasiwn ynEglwys St. Ann's, gan Arglwydd Esgob Bangor, nos Sul, y 14eg cyfisol, pan y conliirmiwyd 46 o ym- geiswyr, amryw o honynt yn bobi mewn oedran. 0 fewn y ddwy flynedd ddiweddaf bu yr Eagob yn con- ffirmio ddwywaith yn yr Eglwys hon, un tro rai mewn oed yn unig, y rhai a rifent 28, a phedwar mis wedi hyn, yr leuainc yn rhifo 32. Yr oedd yr oedd yr oil yn dyfod yn gymunwyr yn yr Eglwye ar eu conffirmasiwn, os nad oeddynt yn flaen- orol wedi eu derbyn i'r Cymun Sanctaidd. Mae Esgob Bangor yn awr ar ei daith yn gweinyddu conffirmasiwn yn Archddiaconiaeth Bangor, a deallwn fed y rhifedi ac agwedd yr ymgeiswyr yn anogaethol iawn. Dangosant 61 parotoad a llafur bron ymhob man. PENTIE A GXJASINFKYN.—Prydnawn Sal, y 14eg, bu Arglwydd Esgob Bangor yn gweinyddu yr ordinhad o arddodiad dwylaw yn Eglwys St. Cedol, Pentir; Daeth cynifer a 44 yn nghyd, o ba rai yr oedd 28 mewn oedran a 16 yn ieaainc. Y mae hyn yn dangoa fod yr Eglwys yn adenill nerth a dylanwad yn y parth hwn o'r wlad, ac yn profi pa mor effeithiol a llwyddianus yw gwein- idogaeth rymus y Parch. Herbert Jones. Y mae Mr. Jones yn bregethwr hyawdi a duwinyddol, ac wedi enill-iddo ei hun air da gan bob gradd a dosbarth. Yn yatod y gwasanaeth canodd y cor anthem o dan arwein- iad Mr. Richard Jones, a datganodd Miss Lloyd nnawd yn wir awynol a chymeradwy. Ir oedd yr Eglwya wedi ei gorlenwi, a dywedir fod yna Ymneillduwyr yn ymuno a'r achoa da.-Gohebydd. LLANDAF.—Ar y 17eg cyfisol, derbyniodd 20 o wrywod a 58 o fenywod yr ordinhad o arddodiad dwylaw yn Eglwya St. loan, Canton, Caerdydd. EGLWYS CRIST, CASNEWIDD.—Y diwrnod canlynol gweinyddwyd yr ordinhad yn y plwyf hwn. Cyflwyn. wyd 77 o ymgeiawyr i'r Esgob, sef 20 o wrywod a 57 o fenywod.
ESGOBAETH TY DDEWI.
ESGOBAETH TY DDEWI. Y mae y penodiadan canlynol wedi en gwneyd yn ddiweddar yn Esgobaeth Ty Ddewi:— Y Parch. D. Watcyn Morgan, B.A., diweddar gurad Llangyfelach, sir Forganwg, i ficeriaeth y piwyf. Noddwr: yr Esgob. Y Parch. J. H. Watkins, diweddar gurad Brynmawr, sir Frycheiniog, i guradiaeth Eglwys Crist, Abertawe. Y mae y Parch. Samuel Jones, ficer Llangunnor wedi ei benodi yn ddeon gwladol deoniaeth Caerfyrddin a waghawyd drwy ddyrchafiad y deon gwladol blaenorol i Esgobaeth Llanelwy. Y Parch. T. Jones Jenkins, B.A., i guradiaeth Rud- baxton, air Benfro, tra yn wag.
GORSEDDIAD ESGOB LLANELWY.
GORSEDDIAD ESGOB LLANELWY. Cymer gorseddiad Eagob newydd Llanelwy Ie heddyw (dydd Iau). Bydd adroddiad cyflawn yn y rhifyn nesaf o'r LLAN.
PRIODAS FICER ST. DOGMELL'S.
PRIODAS FICER ST. DOGMELL'S. Dydd Mawrth diweddaf, yn Eglwys St. Dewi, Llan- dyssnl, ymnnwyd y Parch. T. Jones, ficer St. Dogmell's, sir Benfro, & Miss Lloyd, Gilfachwen, mewn glan briodas. Gweinyddwyd ar yr amgylchiad gan y Parch. W. G. Jenkins, ficer y plwyf, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. E. Evans, ficer Moylgrove. Ymadawodd y par ieuanc, yn nghanol dymuniadau goreu eu cyfeill- ion lliosog, yr un boreu i dreulio eu mis mel yn Llun- dain.
NWESGOBAETH LLANDAF. ^.5
NWESGOBAETH LLANDAF. ^.5 Mewn gwasanaeth neilldnol a gynhaliwyd yet) alas, I Llandaf, dydd Sadwrn diweddaf, trwyddedwyd y peraonau canlynol g Jon yr Arglwydd Esgob :—»■ Y Parch. Morgan Powell, B.A., i guradiaeth Margam, sir Forganwg. Y Parch. William Gwynne Vaughan, i guradiaeth Bettwa, air Forganwg. Y mae Esgob Durham yn parhau i wella, ac y mae ei arglwyddiaeth yn gobeithio dychwelyd o Bournemouth i gymeryd gofal ei esgobaeth tua diwedd mis Mai. Anrhegwyd y Parch. R. A. Williams (Berw) gan drigolion Abergynolwyn & Marble Time-piece ardderch. og, gwerth deuddeg gini, ar ei ymadawiad i ymgymeryd a rheithoriaeth Llanfihangel-y-Pennant, sir Gaernar- fon. Apwyntiwyd y Canon Henry Ware yn esgob cyn- orthwyol Barrow-in-Furness, a'r Parch. J. Palleme yn esgob cynorthwyol Richmond. Yr oedd disgwyliad mawr y byddai i'r Deon Chnrch roddi eyfres o bregethau adeg y Pasg yn Eglwys Gadeiriol St. Pani yn Llnndain. Cymerwyd ei le gan y Canon Mason. Y mae y Deon pan yn pregethu yn sicrhau y cynulleidfaoedd mwyaf yn Llundain. — Mae y Canon Knox-Little wedi dychwelyd o'i daith yn yr America, ac yn ystod yr ychydig ddyddiau diweddaf bu yn gweinyddu yn St. Paul's. Yn ystod y Garawys pregethodd ar gymeriadau neilldnol, megis "Caiaphas, y bydol-ddyn"; "Pilat, y llwfrddyn a'r anghredadyn;" ,Herod, y cnawdola "Judas, y bradwr," ac yr oedd ei bregethau yn nerthol yn ymdrin a nodweddion drwg y eymeriadan hyn. Y mae dros dair mil o aelodan newyddion wedi ymuno a'r Undeb Eglwysig Seisnig oddiar ddechreu y flwyddyn hon.
CYSTADLEUAETH " Y LLAN,"
CYSTADLEUAETH Y LLAN," Cynygir gwobr o £1 am y traetbawd goreu ar y pwnc canlynol Y PROFION, YN YSGRYTHYROL A HANES- YDDOL, FOD ESGOBION, OFFEIRIAID, A DIACONIAID YN YR EGLWYS GATHOLIG I ODDIAR AMSER YR APOSTOLION." TELERAU Y GYSTADLEUAETH. 1. Rhaid i'r traethawd gynwys ddim llai a 1,500 o eiriau a dim mwy na 2,000, sef rhwng dwy a thair colofn o'r LLAN. 2. Y cyfansoddiadau, yn dwyn ffugsnwau gwedd- aidd, i fod yn llaw y Golygydd cyn neu ar yr 8fed o Fai. 3. Rhaid i ymgeiswyr ysgrifenu ar un tu i'r ddalen. 4. Cyhoeddir rhestr o'r ymgeiswyr yn Y LLAN am y 10fed o Fai. 5. Hysbysir dyfarniad y beirniad mor fuan ag sydd bosibl. Os yn deilwng cyhoeddir y goreu yn ein newyddiadur ar dderbyniad enw priodol yr awdwr. Da genym hysbysu fod y Tra Pharchedig Ddeon Bangor garediced ag ymgymeryd a'r gwaith o feirn- ia.da.
. I BUirtib gr aaolgggua.
BUirtib gr aaolgggua. BETHLEHEM I'R OLEWYDD.—Oyfres o wersi ar Fywyd lesu Grist, ar gyfer athrawon yr Ysgol Sul ac eraill. Gan John Palmer, awdwr "Gwaith yr AthraW;" Rhan I. Bangor: Nixon a Jarvis, dros Gymdeithas Traethodau Esgobaeth Bangor. Llawlyfr hylaw ydyw hwn i'r athraw, ao y mae yn llanw bwlch mawr a deimlid, mae'n ddiamheu, gan bob athraw sydd yn ceisio gwneyd ei oreu gyda ei ddosbarth. Anhawsder mawr yr athraw ydyw crynhoi, a dwyn yr hyn a ddarllenwyd i ryw un canolbwynt, fel ag i fod y a o fuddioldeb i'r yegolheigion. Wel, ceir hyn yn y llyfryn bychan a destlus hwn. Y mae yn cynwys deg o wersi ar hanes bywyd Iesn Grist. Nodir allan y rhanau i'w darllen, a'r adnodau i'w dysgu allan; ac yna ceir sylwadan cyffredinol ac ymarferol, y rhai a arweinia y meddwl at sylwedd neu bwnc mawr y wers. Yna daw y cwestiynan priodol i'w gofyn oddiwrth y wers ac yn canlyn ceir nodiadau eglurhaol ar yr adnodau mwyaf dyrys yn y wers; yatyr enwau; arferion yr luddewon; hanes y cymeriadau y sonir am danynt ynghyd a daear- yddiaeth gwlad Canaan. Yn sicr y mae hwn yn gaffaeliad mawr a dylai swyddogion pob Ysgol Sul yn y Dywysogaeth ofalu ei fod yn meddiant pob athraw, a bod ei gyfarwyddiadau yn cael eu cario allan. Y mae hanes ein Gwaredwr yn werth i'w astudio yn drwyadl ac yn y modd perffeithiaf, a help tuag at hyny yw o Bethlehem i'r Olewydd." IESU Y BUGAIL DA.—Gan y Parch. Griffith Wil- liams, curad Gwrecsam. Hen Nodiant 6c., Tonic Sol-fifa 4c. Gyda phleser yr ydym yn cyflwyno y llyfryn bychan hwn i sylw darllenwyr Y LLAN. Cantata gysegredig ydyw yn cynwys detholiad ardderchog o donau a geiriau yn gosod allan yr Arglwydd Iesu yn y cymeriad o Fugail Da. Y mae y tonau, y chants, &c., yn hawdd eu dysgu, tra ar yr un pryd yn swynol a chwaethus, ac y mae y geiriau bron yn ddieithriad yn ad- nabyddus ac yn anwyl gan y rhan fwyaf o honom. Credwn fod Mr. Williams wedi llwyddo yn ei amcan o ddarparu ar gyfer un o angenion pwysig yr Eglwys Gymreig, sef gwasanaeth o fawl addas i'r plant. Fel y cyfryw y mae Iesu, y Bugail Da yn haeddu derbyniad cyffredinol. Danfoner am gopiau at yr awdwr.
YR IWERDDON.
YR IWERDDON. Y mae yr oil o'r tenantiaid a drowyd allan ar etifeddiaeth Mr. Olphert, yn rhifo tua haner cant, wedi cymeryd meddiant eilwaith o'u fferm- ydd a'u tyddynod er gwaetbaf pob rhybudd. Dy- wedir yn awr y bydd yn rhaid i'r meistr tir bellach gymeryd cwrs mwy eithafol i'w troi a'u cadw allan. Gwahoddodd y Milwriad Vandeleur Syr Charles Russell i weithredu fel canolwr yn yr anghydwel- ediad a gododd rhyngddo ef A'i denantiaid; a chan iddo gynyg amryw gymhelliadau er sicrhau tawelwch, dyfarnodd Syr Charles fod i'r tenant- iaid fyned yn ol i'w cartrefi ar y telerau a gynyg. iai y tir-feistr, yr hwn a addawai adgyweirio yr aneddau a gadael amser i'r tenantiaid ghrio eu hardrethoedd. Mewn cyfarfad o'r Gymdeithas Wyddelig Americanaidd, yr wythnos ddiweddaf, hysbyswyd fod y tanyBgrifiadau at gronfa amddiffynol Parnell wedi cyrhaedd dros ddeuddeng mil o ddoleri. ac yr anfonir y cyfryw drosodd i Mr. Parnell ar unwaith. Gwrandawyd apal Mr. O'Brien yn erbyn y dded- fryd o chwe' mis o garchariad a basiwyd arno yn Kilkenny yn ddiweddar, o flaen y Barnwr Curran, yn Tralee yr wythnos ddiweddaf. Dywedodd y i barnwr ei fod yn ystyried y ddedfryd yn un bur gymedrol; ond gan ystyried yr oil o'r amgylch. iadau a'r addewid a wnaed gan Mr. O'Brien pan o flaen yr ynadon, byddai iddo ef leihau y dded- fryd fel ag i beri iddi gyd-redeg a. chyd-derfynu A'r cyfnod o garchariad yr oedd efe dano yn awr, yr hwn a ddaw i ben ar yr 22ain o Fai. Gellir disgwyl erbyn hyn y bydd Mr. O'Brien wedi cael digon ar iywyd yn ngharchar, ac y bydd yn lied ofalus i gadw allan rhaglaw.
LLOFRUDDIO CENHADWR A'I DEULU.
LLOFRUDDIO CENHADWR A'I DEULU. I Y mae y llong Mobile," a gyrhaeddodd Efrog Newydd o'r Bay of Honduras, yn dwyn newyddion am drycbineb a ddigwyddodd y mis diweddaf yn I Ynys Rustan. Cafodd y cenhadwr, y Parch. Henry ) Hobson, ei wraig, a chydymaith i'r olaf, eu llofrudd- I io i gyd gan was o'r enw Joseph Mures. Ymddengys ItDai ei amcan oedd ysbeilio ei feistr, a thorodd yr I ysgelerddyn eu gyddfau.
Family Notices
^riotinSau, a JHariuoIaftfiau. MARWOLAETHAU. SPURRELL.-Ar ddydd Llun Pasg, yn Nghaer- fyrddin, William Spurrell, cyhoeddwr, yr hwn a anwyd Gorphenaf 30ain, 1813. Bu farw Ebrill 22ain, 1889. W ATHEN.-Boreu dydd Gwener y Groglith bu farw, yn dra sydyn, Mr. William Dean Wathen, M.R.C.S., a L.S.A., yn ei breswylfod, Castle Hill, Abergwaun, yn 69 mlwydd oed.
NODIADAU SENEDDOL. ..
o nwyddau. Yr oedd Mr. Goschen o'r farn yn hytrach na chymeryd mantais annheg ar dreth yr incwm ymhob cyfyngder arianol ei bod yn angen- theidiol iddynt edrych o gwmpas am ffynonellau cyllidol newydd. A chymeryd pobpeth at eu gilydd, 7r oedd cyllid y flwyddyn ddiwaddaf o bob ffynhonell yn fwy na'r amcangyfrifon o zCI,615,000, ac yr oedd y treuliadau yn £ 941,000 islaw yr amcangyfrifon, yr hyn oedd yn gwneyd y weddilleb (surplus) mwyaf er y flwyddyn 1873. Yr oedd y swm a dalwyd o'r Ddyled Wladol yn 97,150,000, ac yr oedd yr holl daliadau yngtyn a'r oynllun o dalu y ddyled yn oyraedd y swm o £ 3,000,000. Mewn perthynas ag amcangyfrifon y flwyddyn ddyfodol dywedodd mai cyfanswm y treuliadau ydoedd a6,967,000, neu gynydd o £ 352,000 a'r derbyniadau £ 85,055,000, yr hyn oedd yn lleihad o £ 3,400 ar y flwyddyn ddi- weddaf. Yr oedd hyn yn gwneyd diffyg o £ 1,917,000. I gyfarfod y diffyg hwn yr oedd yn cynyg rhoddi 000,0 o'r enillion oddiwrth y cynllun i dalu y Ddyled Wladol, a rhoddi yr haner miliwn gweddill oddiwrth y oynllun hwnw at dalu y Ddyled. Yn hytrach nag ychwanegu at dreth yr incwm yr oedd yn cynyg ychwanegu un y cant at y tranc-dollau ar ystadau fyddai yn werth mwy na ze.10,000, ao yr oedd yn cynyg gwneyd y gweddill i fyny drwy yohwanegu un ran o bedair-ar-ddeg o geiniog at y doll ar bob galwyn o gwrw, yr hyn, fel yr oedd yn disgwyl a wnai £ 300,000. Yr oedd y darllawyr mawr yn gwneyd elw aruthrol o'u masnach. Y DDADL AR Y GYLLIDEB. Cymerodd dadl hirfaith le ar y cynygion hyn, a datganwyd oymeradwyaeth pur gyffredinol o honynt ,98611 aelodau o'r ddwy ochc i'r Ty. Yr oedd Mr. SUaw-Lafevre a Mr. Labouchere ymysg y rhai oedd Yn cymeradwyo cynygion y Gyllideb, i raddau mwy neu lai; a Mr. Childers. Wedi hyny oydunwyd ar benderfyniadau y Gyll- ideb, a gohiriwyd y Ty am 12.30. ADOLYGIAD. 1; mae Cyllideb Mr. Goschen ar y oyfan yn fodd- k&ol, ac oai b'ai am y gofynion ychwanegol oedd gftQ Ganghellydd y Trysorlys i'w cyfarfod buasai yn Uwyddiant perffaith. Yr oedd ganddo i drosglwyddo drogodd i'r Cynghorau Sirol swm mawr o arian i ys- gafnhau beichiau y trethdalwyr, a swm cyffelyb tuag y Llynges, er amddiffyn ein glanau a. diogelu ein trafnidiaeth. Nid bai Mr. Goschen Ydoedd-na. bai neb o ran hyny-na. fuasai ganddo aWln anferth yn ngweddill i yggafnhau y beichiau ^ynxion sydd ar ysgwyddau y trethdalwyr. Mae rydaia Fawr yn rhwym, deued a ddelo, o fod yn latire8 ar y moroedd, ac ni wna yr un gwladgarwr !-7naoh oherwydd y ddarpariaeth a wneir gaily -ywodraefch i wneyd ein Llynges yn fwy effeithiol. Wnaetij Mr. GoBohen ei ran yn dda so, yn sior, dan yr amgylchiadau, nid gorohwyl hawdd oedd cael Y (Idau ben ir lly ynghyd. Dangosodd fedrus- lWydd mawr fel cyllidydd. Nid rhyw "financial juggler yw Mr. Goschen yn cuddio y oardiau yn ei lewys ond y mae yn gwneyd y cyfan above board. Mae ffigyrau ei Gyllideb-er mai pethau digon sych- ion yw ffigyrau fel rhdol-yn hynod foddhaol. Maent ya dangos oynydd yn adnoddau y wlad. Nid oedd y oynydd oddiwrth fyglya gymaint ag a ddisgwyliai, 1 r hyn oedd i'w briodoli i'r ffaith fod rhai mathau dybaco yn ysmygu yn araf," a bod Ilai, mewn can- yaiad, yn cael ei ddefnyddio ond y fEaith bwysicaf Jlawer i bawb ond y casglwr trethi oedd fod lleihad yi1 y cyllid oddiwrth wirodydd poethion. Nid yw cy^lid oddiwrth ddicdydd yn oynyddu gyda chyn- d y boblogaeth." Newydd da i holl garwyr sobr- yad. Buaeid yn disgwyl bloeddiadau o gymerad- yð o'r meinciau lie yr eisteddai Syr Wilfrid L%,Wson M'i gyfeillion, ond dim o'r fath beth. Yr y diwygwyr cymdeithasol ystwrllyd hyn yn 111 i'r Gyllideb droi yn fantais i'r Llywodraetb. lIoe II Politics" yn llawer mwy pwysig yn eu golwg 3d ^QmPerance-" Siaradodd Mr. Goschen am awr a thri chwarter, ao yr oedd yn nofio yn mewn moroedd 0 ffigyrau. Yn sicr i CqWi, Cyllidydd call ydyw." y^edodd wrth derfynu ei fod yn credu y buasai °,Usi cyllidol yn fendith i'r wlad. Boed felly. aCT CAU Y TAFARNAU AR Y SUL YIO NGHYMRU. y^d Mawrth, gofynodd Mr. Bowen Rowlands i'r ^Stifeaydd Cartrefol a wnai ef roddi sicrwydd y Un slolod 0 leiaf o'r Ddirprwyaeth Freiniol a.r J Wneyd ymohwiliad i Ddeddf Gau y Tafarcau ^ghymru, yn ogystal ag Ysgrifenydd y ^^n, yn bersonau oyfarwydd &'r iaith Gym- f0^wf^°3d Mr. Matthews nad oedd yn barod i |'t .\8*otwycld pendant. Yr oedd cydnabyddiaeth, Gymraeg yn ddiddadl yn beth dymunol 08dd yn ymddangos iddo ef yn anhebgorol e{ ai^eidiol i aelodau y Ddirprwyaeth. Yr oedd VJ> „ rych allan am ysgrifenydd oedd yn medru .^hGymraeg. ai0lr u yr arholwyr hyn, yn ddiddadl, ydyw ceisio fleirw?a ar y Oomisiwn a fyddo yn cydym- »mio Act IEITHIAD CYMREIG 0 DDEDDF LLYW. by ODRAETH LEOL. t Mr. Ritchie, mewn atebiad i Mr. T. E. lS 0 y oyfieithiad o Act y Llywodraeth Leol wedi ei gysodi, a bod prawfleni yn nwylaw y cyfleith- wyr. Yr unig hyabysrwydd a fedrai ef roddi mewn perthynas i'r oediad oedd anhawsder oynwynol yr iaith Gymraeg. AMCANGYFRIFON Y GWASANAETH GWLADOL. Mewn pwyllgor oyflenwadol cymerodd dadl boeth le ynglJn a chyflogau swyddogion y ddau Dy, a chynygiwyd amryw welliantau, ond pasiwyd y pleidleisiau. GOHIRIAD Y TY. Am saith o'r gloch nos Fawrth gohiriodd y Ty e weithrediadau hyd dydd Llan, y 29ain oyfisol.