Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Y GYNGRES EGLWYSIG.
Y GYNGRES EGLWYSIG. At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." a Syr,—Drwg genyf eich blino unwaith yn ychwaneg a llythyr byr ar y pwno uchod. Y mae Matiais yn barnu mai doethineb fuasai dewis y "Wasg Gymreig" yn destyn cyfarfod hen fyfyrwyr St. Dewi ar adeg y Gyngres yn hytrach na'r un a gynygiais i, and gadewch i mi ofyn i II Marlais "a ydyw yn ddoeth i drin testyn cyliredinol fel hwn mewn cyfar- fod neillduol o wYr Llanbedr ar waban i offeiriaid eraill sydd yn teimlo oymaint o ddyddordeb a ninau yn y cwestiwn ? Heblaw hyn, y mae y Wasg ymreig" yn destyn mor bwysig ao yn dal cysyllt- iad mor agos & llwyddiant yr Eglwys yn Nghymru fel ag y dylai gael ei drin yn un o gyfarfodydd y Gyngres yn ngwyneb haul a llygad goleuni," ya bytrach nag mewn cyfarfod bychan o wtr Llanbedr. Yr oeddwn yn hyderu y buasai y 11a mwyaf blaen- llaw yn cael ei roddi i'r testyn hwn yn rhaglen y Gyngres, ond ryw sut y mae aelodau y pwyllgor wedi barnu yn wahanol, Felly ni fyddai ond insult ychwanegol i'r testyn pwysig hwn gael ei drin mewn ihyw gyfarfod bychan heb fod yn dal cysylltiad & gweithrediadau awdurelodol y Gyngres. Diamheu genyf fod llawer o destynau y gallwn siarad arnynt heblaw yr un enwais, mewn cyfarfod neillduol o wyr Llanbedr, ao am hyny dewiswn y testyn rydd fwyaf o foddhad. Mor bell ag yr wyf yn deall y mae hen fyfyrwyr St. Dewi i gyd yn canmol y mudiad, felly, yn enw pob rheswm, cynhalier cyfarfod, gan fod dyinuniad oyffredinol am dano yn ein mysg. Y mae y peth i'w benderfynu gan wJr Llanbedr yn Unig, a pheidied eraill a'n beio am farnu drostom ein hunain, gan nad ydym am wastraffu yr un funyd o amser y Gyngres. NOB Lun yn wythnos y Gyngres fydd yr adeg oreu i gael y oyfarfod, felly, gyfeillion 086redig yn y Deheudir, darparwch ystafell gyfleus ar ESlnoyfer, a gofynwch i Archddiacon poblogaidd Llandaf neu y gwron o Rhymni i gymerydy gadair. Hefyd rhoddwch rybudd yn Y LLAN o berthynas i'r amser a man ein oyfarfod.—Yr eiddoch, &c., Llanfwrog. J. F. ItECE. v"
ANFFAELEDIGRWYDD Y PAB, &c.
ANFFAELEDIGRWYDD Y PAB, &c. At Olygydd y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—Teimlwn yn ddiolohgar i chwi, neu rai o'ch Hiaws ohebwyr, am fy nghyfarwyddo yn y pethau canlynol:— 1. Pa bryd ao ymha le y darfa i Eglwys Rhufain gyhoeddi fod y Pab yn anffaeledig ? A oes llawlyfr, oeir amseriad a dyfodiad y llygredigaefchau i fewn 1 Eglwys Rhufain ? 2. Pa la y gellir cael copy o'r Book of Almanacs gan y diweddar Broffeswr Dr. Morgan, neu y papyr gan yr un awdwr ar yr Ecclesiastical Calendar "? I lawer mae Calendar yr Eglwys yn anhawdd ei ddeall, a byddai oael egluradut arno yn dra buddiol. ■^wy a etyb?—Yt eiddocb, &c., LLIFON.
CYFFREDINOL.
CYFFREDINOL. Samuel Morris sydd wedi cael y penodiad i fod yn bostfeistr newydd Troy, N. Y. Pregethai y Parch. J. D. Evans yn eglwysdy Episcopalaidd Holy Trinity, New York, nos Sul di- weddaf. Rai dyddiau yn ol bu farw priod y Parch. D. C. Roberts, yn awr rheithor yr Eglwys Episcopalaidd yn Concord, N. H., cyn hyny o Brandon, Vt. Cynwyaai y New York limes y Sul diweddaf bron ddwy golofn am neillduolion, dylanwad, a chynyrchion y Cymry yn America. Mae yr eithygl yn dda a dyddorol. Disgynodd awyrfaen enfawr yn Yelm Prairie, Wash. Terr., ar y 31ain cynfisol. Tra yn ymsaethu drwy yr awyr. goleuai yr holl wlad, a gwnai swn fel taran hir-barhaol. Mae deddfwrfa Wisconsin wedi pasio mesur i fabwysiadu y oynllun Awstralaidd o bleidleisio. Gwrthwynebodd y Llywydd Hill fesur cyffelyb yn New Yorky llynedd. Byddai yn dda i ni gael prawf teg ar y cynllun hwn. Ar y 31ain cynfisol, bu farw Mrs. Catherine Cooper, Tribes Hill, sir Montgomery, N. Y., yn 96 mlwydd oed. Seilid ei henwogrwydd hi ar ddwy golofn-ei henaint teg, a'r tIaith nafu hi erioed ar gerbydres. Yr oedd hi yn hynach na'r locomotive. Am y tro cyntaf erioed mwynhaodd merched teg Michigan gyfle i bleidleisio ar yr 2il cyfisol. Trwy en dylanwad hwy, gyda ohydweithrediad Democrataidd, etholwyd un foneddiges yn Detroit i arolygu yr ysgolion. Cariwyd y Dalaeth gan y Gwerinwyr. — Dechreu yr wythnos fynedol, ail redai y Gwer- inwr John N. Irwin am Faerolaeth Keobuk, Iowa, ond gorchfygwyd ef trwy 155 o fwyafrif am iddo fod yn Syddlon i roddi y gyfraith waharddol mewn grym yn y ddinas hono ar hyd y deuddeg mia di- weddaf. Dyn cryf oedd y diweddar Alexander MoCue, Brooklyn. Bu yn drysorydd oynorthwyol y Taleith- iau Unedig. Ganwyd ef yn Mexico yn 1826, a graddiodd o Goleg Columbia yn 1846. Parlys a'i cymerodd ymaith. Tua wythnos yn ol, tra yr oedd y Parch. Edward Beecher, brawd i'r diweddar Henry Ward Beecher, yn disgyn o heol gerbyd symudol yn Brooklyn ayrthiodd dan yr olwynion, a drylliwyd ei goes mor ddrwg fel y bu raid ei thori ymaith. Mae y dyoddefydd parchus yn 85 mlwydd oed. Dydd Mawrth yr wythnos aeth heibio etholwyd tocyn cyfansoddedig o ferohed yn unig i edrych ar ol Cottonwood Falls, Kansas, am y deuddeg mis nesaf. Mrs. Minnie Morgan fydd y Faeres. Ni ddylai y chwiorydd yn y lie hwnw gwyno nad ydynt yn oael eu hiawnderau. Tro go wael yn y diweddar John Scott, Pitts- burgh, Pa,, llywydd rheilffordd Dyffryn Allegheny, oedd gadsel tri o'i 14 o blant heb ond sent yr un o'i ystad o 350,000. Trosedd y tri hyny oedd ochri gyda'u mam yn hytrach na chydag ef yn mater an- ffodus ysgariad y ddau flynyddau yn ol. Ar y dyddolaf o Fawrth bu farw Major Marcus A. Reno, yr hwn a wnaeth wrhydri amryw droion yn y Gwrthryfel, ond a andwyodd ei enw wedi hyny drwy beidio myned i helpu y Cad. Custer yn mrwydr Little Big Horn. Yn Washington yr oedd pan y bu farw. Dywedir fod nifer o ferched ieuainc aris- tocrataidd" yn ninas New York newydd ffurfio yr hyn a alwant yn Glwb y Clysion." Ond diameu y câ ambell hogen go hyll aelodaeth yn y Clwb hwnw, os bydd ei thad yn meadu digon o'r pethau hyny sydd yn cuddio lliaws o ddiffygion-doleri. Gan y bydd y 30ain cyfisol yn gan-mlwyddiant urddfreiniad eyntaf George Washington, cymer- adwyo yr Arlywydd Harrison fod holl drigolion y wlad hon yn ymgynull i'w lleoedd arferol o addoliad i ofyn i Dduw am i fendithion rhyddid, Ilwyddiant, a heddwch ein harwain ar Iwybrau cyfiawnder a gweithredoedd da." Awgrym tra phriodol. Yohydig amser yn ol, aeth J. W. White, Sirydd Sir McLean, Ky., i gyfarfod diwygiadol, a obafodd argyhoeddiad mor ddwfn nes y eyff esodd ei fod, dair blynedd ar ddeg yn ol, wedi celoio 1,000 o ddoleri o arian y sir, y rhai a dalodd yn y fan gyda 800 o ddoleri o log. Dyna brawf sylweddol fod Mr. White wedi oael gwir grefydd. Ni fuasai yn bosibl iddo byth fod yn sant heb ddyohwelyd yr arian. Y dydd o'r blaen, tra yr oedd torf fawr mewn claddedigaeth yn y fynwent Babaidd gar New Brunswick, N.J., rhuthrodd tarw gwyllt a ddiangasai o afael cigydd gerllaw, i'w plith, a charniodd rai o'r oeffylau yn ddrwg. a gwasgarodd bawb o'r lie, oddi- eithr y corff. Yn ffodus, ni. wnaeth niwed i neb. Clywsom o'r blaen am y Pope's bull, ond ni chlywsom erioed mai fel hyn yr oedd hwnw yn aotio.
BAltDDONIAETH ATHRODOL (LIBELLOUS…
BAltDDONIAETH ATHRODOL (LIBELLOUS POETRY). At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—Dro yn ol gwelais nodiad genych At ein Gohebwyr 11 hynod gall ao amserol ar y perygl o gy-' hoeddi rhywgywydd a anlonodd bardd (?) ichwi i'r bwriad hwnw. Yr hyn a darawodd i;m meddwl wrth ddarllen eich nodiad oedd fod yr awen, am yr bon y dywedir ei bod wedi disgyn o'r nef, yn cael ei darostwng .i safle mor isel, ei bod yn beryglus i'w chyboeddi I Awen, os awen hefyd, at wasanaeth dysgawdwyr, a'i ffrwyth yn rhy wenwynig I A raid i'r beirdd, er mwyn cyraedd rhyw amcan, halogi'r awen er gwneyd hyny ? Ai nid oes ganddynt well teatyn i awenu arno na ohywyddu athrod ? Yn wir, mae hyn, felllawer peth arall, yn syndod i feddwl am dano. Dylai darllenwyr Y LLAN fod yn ddiolch. gar i ohwi am eich nodiad doeth.—Yr eiddoch, &c., PENCOED IAL.
Y MUDIAD I WADDOLI CURADIAETHAU.
Y MUDIAD I WADDOLI CURADIAETHAU. At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." .Syr,—Oddiwrth y Church Times am yr wythnosau diweddaf yr ydym yn gweled fod Esgob Llundain, yn y gynhadledd flynyddol, wedi tynu sylw neillduol yr Eglwyawyr yno at y mudiad nchod. Yr oeddem yn meddwl y buasai rhai o ddarllenwyr lliosog Y LLAN Wadi dweyd rhywbeth am byny cyn hyn ond gan nad oes neb hyd yn hyn wedi cyifwrdd a'r pwno, dymunaf eich gofod i yohydig linellau. Dyma.'rcynygiad :Unrhyw blwyf gyda 6,000 o boblogaeth, a'r fywoliaeth yn werth llai na £ 30C y fiwyddyn, os gwna gasglu X2,000, a'u rhoddi i'r Dir. prwywyr Eglwysig, a g&nt oddiwrthwynt yn flynydd- ol y swm a P,120 at gynalcurad. Os digwydd i'r bablogaeth leihau, neu i werth y fywoliaeth gynyddu i fwy na £300 y flwyddyn, y dirprwywyr a allent yn unig anfon zC60 ynflynyddol yn lie £120. Feallai fod llawer i'w ddweyd o ochr ac yn erbyn y symudiad yma. Gobeithiaf glywed darllenwyr lliosog Y LLA-N yn traethu eu barn ar y mater. Fy marn ostyngedig i yw na faasai y mudiad byth yn ateb am y drafferth i godi yr arian, ha faasai yn gWneuthur unrhyw ddaioni i'r curadiaid, ond yn hytrach i'r ficeriaid, y rhai eisioes sydd a gormododd o awdurdod ganddynt mewn plwyf. Onid yr hyn sydd angenrheidiol yw rhanu arian Eglwysig yn fwy gwastad-ac i'r hwn na fyno weithio beidio derbyn cYfiog ychwaith ?-Yr eiddoch, &c., UN O'R NORTH.
UNDEB YSGOLION SUL YR EGLWYS.
UNDEB YSGOLION SUL YR EGLWYS. At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—A fydd i rai o hyrwyddwyr cyfarfodydd un- debol Ysgolion Sul yr Eglwys fod mor garedig a rboddi hanes manwl yn Y LLAN o'r dull y dygir ym. jaen y cyfarfodydd yn eu cymydogaethau hwy ? Y ^nll o barotoi ar eu oyfer, natur y gwaith, many lion am wsithrediadau y dydd, y modd y parotoir ym- borth ar gyfe!: y dieithriaid, ac os oynhelir oyfarfod o natur mwy eyfiredinol yn yr hwyr? Byddai am y gwaUaaol gynlluniau yn sicr o fod er bn3d mawr nid yn unig i'r ardaloodd hyny nad yflyut hyd yn hyn wedi cychwyn, ond i'r rhai hyny BYad yn barod ar y mass, ao a hoffent wybod rhyw bethau a allent fod o gynorthwyo i berfieithio yr eiadynt hwy. Nid oes yr un cynllun nad ellir ei wella, na'r an gwaith da nad oes eisiau ymestyn tUwy at berffoifehrwydd gydag ef. Yr ydym yn deall fod dwy wyl getddorol bwysig wedi eu oynai Llun y Pasg yn Aberayron a Llanddarog. Gobeithio y oawn hanes Ilawn o'u gweithrediadau yn Y LLAN.- Yr eiddoch, &c., CARWR UNDEB. t:h..
anugluion.
anugluion. — Y mae Mr. Gladstone wedi ysgrifenu llythyr i longyfarch etholwyr Rochester ar eu buddugoliaeth, yr hwn oedd fel balm ar y briw a ddioddefodd yn Birmingham. Yr wythnos ddiweddaf bu farw Thomas Palmer, hen filwr a fu yn ymladd yn mrwydrau dechreu y ganrif hon, yn Weston-super. Mare. Yr oedd yn 100 oed. Y mae un Mr. William CiiS yn myned i ad. eiladu, a dodrefnu ar ei draul ei hun, ysbytty yn nglyn a Chartref Hen Forwyr yn Lerpwl. Bydd i'r adeilad gostio dros £ 2,000. Yn hwyr nos Fercher lladdwyd Owen Griffiths, glowr, gan gwymp o'r nenfwd tra yn gweithio yn Nglofa'r Standard. Dyn priod ydoedd, 46 mlwydd oed, a pharchus iawn yn y gymydogaeth. Bu Ymherawdwr Germani ar ymweliad ag Oldenburg am rai dyddiau, Ile y cafodd dderbyniad gwresog, Yna bu yn arolygu rhan o'r llynges Germanaidd yn Wilhelshaven, ac yna dychwelodd i Berlin. Yn Leyland, ddydd Marcher, anfonwyd am James Tattersall, deunaw oed, i sefyll ei brawf ar y cyhuddiad o achosi marwolaeth un o'r enw Thomas Mawdsley, trwy ei gicio yn ei frest tra yis, ymddadleu mewn perthynas i ymrysonfa bel-droed. Y mae Arddangosfa Gyffredinol Paris i gael ei hagor yn gynar yn mis Mai; ond gan na bydd wedi ei chwblhau erbyn yr adeg hono, fe'i cauir hi am ysbaid er gorphen y gwaith. Ni bydd yr oil yn barod hyd ganol mis Mehefin. Cynhaliwyd cyfarfod haner-blynyddol Bwrdd Llywodraeth Coleg Gogledd Cymru yn Mangor ddydd Merohar diweddaf, dan lywyddiaeth larll Powis. Etholwyd Esgob Llanelwy yn unfrydol fel aelod o'r Cynghor yn lie y Deon James. Hysbys- wyd fod amryw foneddigion wedi cyfranu yn helaeth. Y mae gweddw y diweddar Ymherawdwr Frederick, o Germani, mam yr Ymherawdwr pres. enol, a merch hynaf Brenhines y wlad hon, yn ddi- weddar wedi dyfod i etifeddiaeth o £ 200,000, ynghyd a nifer Iliosog o emau a ystyrir yn hynod werthfawr, pa rai a adawyd iddi mewn ewyllys gan y Dduces o Galliera. Y mae yr Ymherodres wedi gosod yr arian hyn allan mewn meddianau Prydeinig. Y mae brys.lythyrau newydd gyraedd i'r wlad hon fod yr oil o'r oriw a'r 800 o deithwyr yr ager- long Danmark yn ddiogel wedi glanio ar ynys- oedd yr Azores. Aohubwyd hwynt gan yr agerlong "Missouri," o LerpwJ, cadbenyr hon a daflodd swm mawr o'r llwyth dros y bwrdd er gwneyd lie i'r fath nifer. Yr oedd ofnau am eu diogelwcb, a phrin y rhaid dweyd fod y newyddion wedi peri llawenydd yn Llundain a Lerpwl. Yn Mrawdlys Chwarterol sir F6n, a gynaliwyd yn Beaumaris, ar y lOfed o'r mis hwn, nid oedd cy- maint ag un troseddwr i gael ei brofi a chwynai y cadeirydd, y Gadlen Verney, wrth anerch yr uohel- reithwyr oherwydd nad oedd darpariaeth yn y gyf- raith i wneyd yn hysbys iddynt ymlaen llaw nad oedd eu gwasanaeth yu angenrheidiol, er arbed iddynt fyned i'r draul, a cholli ameer i ddyfod yn nghyd, heb fod yna un amcac yn cael ei gyraedd. Dywedir fod Llywodraeth Germani yn gweithio yn egniol er ceisio sicrhau cydweithrediad amryw o'r galluoedd Ewropaidd er rhoddi y gaethfasnach i lawr yn Affrica a dywed y Temps, newyddiadur a gyhoeddir yn Paris, fod Llywodraeth Ffrainc, ynghyd ag amryw Lywodraethau eraill Ewrop, yn barod ao awyddus i gydweithredu a Germani yn y gwaith da hwn, a'i bod yn debygol y bydd i gynadledd rhyng- gonedlaotbol gael ei chynal yn fuan ynglyn a'r mater. — Er mor lleied o son ao ysgrifenu sydd drwy y wlad yngbyich Eisteddfod Genedla-etholAberhondda eleni, y mae yn dra thebygol yr ymddeffrca y pwyllgor yn fuan i ymgymeryd a'r trefniadau paro- toawl. Y mae Tywysog a Thywysoges Cymru wedi ysgrifenu eto i hysbysu eu bwriad i fod yn bresenol, ao yn ychwanegol y bydd iddynt ymweled a manau eraill yn Nghymru yn ystod eu harhosiad. Tra yn Aberhonddu arhosant gyda Syr J. R. Bailey, Barwnig. y mae y newyn yn parhau i gael ei deimlo yn fawr mewn rhanau o China, a'r bobl mewn sefyllfa druenus liawer yn meirw o effeithiau y newyn, a miloedd ar filoedd, y mae lie i ofni, heb ddim ond angau yn ei ffad waethaf yn eu gwynebu. Nid ydyw trysorfa Arglwydd Faer Llundain er cynorth- wyo y dioddefwyr, hyd yn hyn, yn cyraadd ond i £ 24,500; ac y mae yn amlwg nad ydyw oalon Prydain, hyd yma, wedi dyfod i deimlo megis y dylai dros ddioddefiadau dynoliaeth yn China ac ofnwn fod Cymru yn fawr arol mewn gwneyd ei rhan yn ngwyneb sefyllfa druenus miliynau o'u cyd-ddynion yn China. Mewn gwledd a roddwyd iddo gan fasnachwyr, arianwyr, ac eraill, yn y brif ddiiias, ar y 10fed o'r mis presenol, dywedai .Mr. W. H. Smith, Arweinydd Ty y Cyffredin, tra yr oedd gan y Llywodraeth rhwng 80 a 90 o fwyafrif o'i thu, ac fod y mwyafrif hwnw yn cynyddu yn gyflym at y 100, na fyddai ond gwasfcrafl ar amser a thraul arianol diangenrhaid iddi apelio at y wlad drwy etholiad cySredinol, megis ag y mynai rhai iddi wneyd ac mai ei phen- derfyniad oedd, aros mewn swydd hyd nes y byddai i'r amser arferol iddi apelio at y wlad i ddyfod, a thra yr oedd gan y Llywodraeth gefnogaeth y mas- nachwyr, yr arianwyr, a'r nwyddau-wneuthurwyr (manufacturers), nad oedd arnynt y canlyniadau. Dywedir yn Paris fod y Barwn Alphonse de Rothschild, cynrychiolydd teulu luddewig cyfoethog y Rothschildiaid yn y ddinas hono, wedi colli dim llai na 3,000,000p. drwy fethiant yr Undeb Pres (Copper Syndicate) ond gan fod ei dad, y Barwn James Rothschild, wedi ei gadael iddo, er's path amser yn ol, y swm o 10,000,000., ni wna y gollsd hon y Barwn Alphonse da Rothschild yn ddyn tiawd. Ystyrir y teulu Iuddewig hwn y teulu cyfoethocaf yn y byd, ac y mae gwahanol aelodau y teulu, fel pawb o'r Iuddewon, yn hynod flyddlawn y naill i'r Hall. Ystyrir yr holl deulu gyd a'u gilydd vn werth o leiaf 100,000,OOOp. Y mae y gangen Brydeinig o'r teulu, drwy benderfyniad a rhagweliad y Barwn Alfred do Rothschild, wedi cadw allan o'r undeb eydd wedi troi allan yn fethiant mor ddinystriel i nifer o fas- nachwyr cyfoethog Ewrop.
GWEITHFAOL A MASNACHOL.
GWEITHFAOL A MASNACHOL. Yr wythnos ddiweddaf ysgubodd tsln dros ranau o South Dakota, gan wneyd niwed mawr i bentrefi Volin, Olivet, Pukanana, Losterville, Mt. Vernon, Mt. Pleasant, a lleoedd eraill yno ac yn neheubarth Minnesota. Bernir fod y colledion o leiaf yn 2,000,000 o ddoleri. Dioddefa canoedd o bobl galedi aruthr, Llosgodd y Standard Iron Works yn West Superior, Wis., tua wythnos yn ol, er coiled o 45,000 o ddoleri. Y dydd o'r blaen cychwynodd melinau cwmni baiarn Bethlehem (Pa.), yn llawn, ond gyda gostyngiad o 3 80 o ddoleri i 3 45 o ddoleri y dunell yn nghyflogau y pydleriaid. Y mae John E. Jones, New York, wedi cael breinteb at weather strip gwell nag a fu yu y farchnad o'r blaen. Dydd Gwener diweddaf, ffaelodd y gwneuthur- wyr crysa,u Downs & Finch, New Yorle, am 450,000 c ddoleri. Y mae 16 o lofeydd newydd gychwyn yy rhan- barth Wilkesbarre, Pa., gyda 2,700 o ddynion a beohgyn. 0 herwydd gwasgfa fasnachol, lladdodd Frank Shebalka, Austin, Minn., ei hun, gan adaelar ei oi wraig a saith o blant. Defnyddir yn y Talaethau Unedig bob blwyddyn 13,000,000 o farilau o halen, yr hwn a geir gan mwyaf yn New York a Michigan. Diarjgodd P. F. Pratt, diweddar cashier y First National Bank yn Anoka, Minn.) i Canada, ar ol liadrata 100,000 o ddoleri o'r arian. Dynes ddrwg a'i llusgodd i lawr.
LLOFRUDDIAETH AC HUNANLADDIAD…
LLOFRUDDIAETH AC HUNAN- LADDIAD MEWN CERBYDRES. DYGWYDDIAD RHAMANTUS. Nos Sadwrn, cyflawnwyd cyflafan ddycbryn- llyd mewn cerbydres ar linell y ffordd haiarn rhwng Nottingham a Trent. Arferai y tren o Lincoln i orllewinbarth Lloegr aros yn Nottingham am ugain mynyd i ddeg o'r gloch, ac yna rhed yn mlaen i Trent, lie y cesglir tocynau y teithwyr fyddont yn myned i Derby, Pan agorodd casglydd tocynau ddrws cerbyd neillduol, un o'r dosparth cyntaf, mawr ydoedd ei ddychryn gweled gwr ieuanc yn nghongl y cerbyd yn gwaedu oddiwrth archoll yn ei arlais, a merch ieuanc yn y gongl gyferbyniol a'i gwaed hithau yn llifo o archoll yn ei phen. Yr oedd y ddau a'u pwysau ar y lleoedd i orphwys breichiau arnynt. Ymddangosai y dyn fel yn gwbl farw, ond gwelid fod y ddynes yn anadlu rhyw gymaint. Anfonwyd pellebyr i Derby am ambulance a meddyg i fod yn barod, a dodwyd dau o weision y cwmni i mewn yn y cerbyd i fyned gyda'r tren. Yn mhen oddeutu 15 mynyd cyrhaeddwyd Derby, ond erbyn hyny canfyddwyd fod y dyn yn hollol farw, ond y ddynes yn fyw. Symudwyd hi i'r meddygdy yn y fan ond bu farw yn ddioed bron ar ol iddi gyraedd, Yn ymyl y dyn ieuanc caed llawddryll pedwar baril—dau o'r barilau yn weigion ae oddiwrth yr ystâd yr oedd y cerbyd ynddo nis gellid llai na thynu y casgliad fod y dyn yn gyntaf wedi saethu y ddynes, ac yna ei fod wedi gollwng ergyd i'w ymenydd ei hun. Yn ymyl y man He yr eisteddai hi caed bwled, wedi syrihic o'i harlafs yn ol pob tebyg. Erbyn gwneyd ym. chwiliad, caed mai enw y dyn oedd Robert Feron. Brodor o Brussels, yn Belgium, oedd efe, ac yn ngwasanaeth masnachwyr sidan yn Derby er's rhai misoedd. Yr oedd yn dra pharchus o ran ei, gysylltiadau, ae anfonwyd ef drosodd i Brydain, yn benaf er mwyn iddo berffeithio ei hun mewn Saesneg a myned yn gyfarwydd yn y fasnach sidan. Nid oedd efe ond deunaw mlwydd oeds a'r ferch oedd gydag ef, enw yr hon oedd Nellie Bamford, o Princes Street, Derby, yn ugain mlwydd oed. Yr oedd hi yn eneth nodedig o. brydweddol, ac yn aros am I le ddyfod" yn, wâgyn un o westtai y dref, er mwyn iddi fyned yno i weinyddu wrth y bar. Er yn ddiweddar, yr oedd Feron, debygid, wedi bod yn troi cryn lawer o'i chwmpas a'r dydd Sadwrn crybwylledig, cyrch. odd hi o'i chartref mewn cerbyd. Aethant gyda'u gilydd i Nottingham, ao ymddangosai y ddau ar y telerau goreu A'u gilydd. Pan yn myned i mewn i'r tren i ddyohwelyd, sylwyd fod y ddan yn difyr ymgomio ac yn chwerthin yn galonog. Ond y mae'n amlwg fod Feron wedi penderfynu cyflawni hunanladdiad cyn eychwyn o Derby, canys yn ei logellau cafwyd saith o lythyrau pump wedi eu cyfeirio at ei rieni a'i gyfeillion yn Brussels, a dau at gydnabod yn Derby ei hun. Anfonwyd un i'w gyfeiriad nos Sadwrn, ac ynddo efe a ddywedai ei fod yn bwriadu gwneyd pen ar ei einioes, gan chwanegu -,I Cewch wybod y rheswm ar ol hyn." Nid oedd dim gair yn cael ei ddweyd am yr eneth yn y Itythyr hwn, ae hyd y mae yn wybyddus, nid oedd dim tebyg i gweryl wedi cymeryd Ilerhyng- ddynt. Y dytaliad mwyaf naturiol ydyw ei fod ef, o dan ddylanwad ffit o wallgofrwydd, wedi penderfynu lladd ei gariad cyn lladd ei hun. Yr oedd gan Feron ddigon o arian, fel nas gallai fod y weithred ysgeler wedi ei hachosi gan unrhyw ddyryawch yn y cyfeiriad hwnw.
CLYWEDION 0 JDDYEFMiN1 TEIFI.
CLYWEDION 0 JDDYEFMiN1 TEIFI. Glywed fod plwyfolion Penboyr yn bwriadu cyf- Iwyno tysteb i'w rhaithor, y Parch. J. Lloyd, M.A. ar ei ymadawiad i'w faes newydd. Clywed y cymsr all agoriad Eglwys blwyfol Pen- boyr le, ar ol myned o dan adgyweiriad trwvadl. vn mis Mehefin nesaf. Olywed fod y parchedigion canlynol wedi bod yn pregethu yn Penboyr yn ystod tymor y Garawys i gynulleidfaoedd lliosog:—J. Lloyd, Penboyr; J. Williams, Llangel«r; Davies, curad Llandyssil • Janes, Llanfair-orllwyn a Powell, Gastell Newydd' Emlyn. 3 Olywec1 fod y brodyr yn y lie hwn yn bwriadu codi datlienfa gyhoeddus. Oynwysa y pwyllgor wJr o bob plaid-un haner yn Geidwadvvyr, a'r haner arall yn Rhyddfrydwyr. Clywed fod y brodyr o Saron, Llangelar, yn bwr. iadu codi capel eto arfferm Rhosgnler, ac felly bydd yno ddau gapol YmneiUduol-Didymus.
[No title]
Dydd Sadwsn diweddaf cwerylodd Owen Morgan, a iibr-wr arall yn Clifton, Staton Island, N. Y., a tharawyd Morgan yn boryglua gan raw yn Haw oi elyn. ° J Yn lIe ffoi ar 01 cael oi rybuddio gan y Capiau Gwymon, troi IW herlyn hwy yn ddiarbed a Ilwydd- ,iauus wnaetn iiliatn Jones, fiermwr cyfrifol per Rugby, Ind. h i-Mrs. Sarah Roberts Morris o West New brigaton, N. Y., sydd wedi cael ei hapwynfcio yn athrawes :<r.cv.'n drawing yn Teachers' Institute y Dalaeth, J