Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

/ 'Y GYNGRES EGLWYSIG.

DIENYDDIAD DRWY GROGI.

LLOFFION A NODIADAU.

" EGWYDDOMON PROTESTAN-A1DD."

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

EGWYDDOMON PROTESTAN- A1DD." Daeth pampbledyn bychan i'm llaw yn bur ddiweddar yn dwyn y teitl uchod, a gofynwyd i mi draethu ycbydig arno, Yn Y LLAN, a cbyda eich caniatad, Mr. Gol., gwnaf sylw neu ddau ar ei gynwysiad. Yr awdwr yw y "Parch." D. Glanant Davies, Porthmadog, ac felly (mae'n debyg), rbyw berson o'r urdd weinidogaetbol yn mhlith yr Ymneillduwyr. Y mae ynddo rai pethau digon diniwed, a phethau eraill nad ydynt yn dal ond yehydig gysylltiad a'r pwnc, tra y mae rhai dywediadau sydd yn dueddol iawn i gam-arwain yr anllythyrenog a'r unieithog. Ond hwyrach mai gwell dweyd ar y dechreu fod rhai brawddegau yn cynwys gwirioneddau a safant brawf, megis y rhai canlynol: Darfu i'r enwog wladgarwr Dr. Morgan ddwyn allan yr argraffiad cyntaf o'r Beibl Cymraeg, yr hwn, yn anad dim arall, a ddiwreiddiodd Babyddi-aeth." Rhaid cofio mai Crist sydd yn Ben yn yr Eg- Iwys," Ofnwn fod arwyddion yr amseroedd yn dangos ein bod fel Ymneillduwyr, yn herwydd ein casineb at drais unbenaethol Eglwys Eliufain, a rhag ofn gormodedd gwaseiddiwch i awdurdod honedig 'ffeiriadol, yn cael ein gyru i eithafion mewn cyfeiriad arall, sef gwadu pob awdurdod, os na bydd yn digwydd bod yn ffafriol i'n tybiau, ac ymollwng i raniadau ac annhrefn." Da fyddai i'r awdwr a'r urdd bregethwrol gymeryd at eu bystyriaeth ddifrifolaf y gosodiadau byn, canys y mae lie i ofni fod pob un o'r tri yn cael eu hanghofio yn lan ganddynt y dyddiau presenol. Ond wedi ei nithio yn deg a diragfarn, methais yn lâne. thanfod unrbyw ronyn o sylwedd na synwyr ynddo o'i ddechreu i'w ddiwedd. Dyma dipyn o'r us a loffais ynddo. 1. Awgrymiadau cits a llechwrus yn bradychu drwg deimlad at yr Eglwys, megis y rhai can. lynol :-(a) Fed y rhai a groesant o wersyll Ymneillduaeth i'r Eglwys Sefydledig yn gwneyd hyny gan mwyaf fel mater o gyfleusdra, neu fel gwarogaeth i grefydd y 'torthau?'" Hawdd gweled oddiwrth hyn fejfy mae croesi y gagendor I C, v n rhwiic, Ymneillduaeth ac EgIwysyddiaeth" yn peri mawr bryder a gofid i'r bobl hyn, a cbyn boiled ag y gallant, gwnant y peth yn annioddefol o boenus i'r cyfryw. Beth sydd yn cadw y rhan fwyaf o'r bobl sydd yn Ymneillduwyr yn y lie y maent ond materion o gyfleusdra a chrefydd y tortbau 2" Ai argyhoeddiad a gwybodaeth ? Na choeliaf fawr. Ac am y rhai sydd wedi eu gadael, rhaid eu bod yn feddianol ar bender- fyniad go fawr, a dewrder moesol go gryf, yn gystal ag argyboeddiad pur ddwfn cyn y beiddient wneyd y fath gyfnewidiad yn ngwyneb y fath erledigaeth drahaus a gormesol. (b) Awgrymir y gwna boneddigion ar gais offeiriaid atal ffermydd i Ymneillduwyr, a'u rhoi i Eglwyswyr. Gwyr pawb sydd yn gwybod dim, nad oes sail i'r haeriad yma. Nid wyf yn dweyd nas gall fod am bell i engraifft o hyn ar gael, ond anaml iawn y mae Ymneillduwr yn cael ei omedd ar y sail o'i ymneillduaeth, ac anaml iawn y mae yr Eglwys- wr yn derbyn ffafr, oherwydd ei fod felly. Os yr un, dylai y gwyn fod fel arall, Y mae y bonedd igion er's blynyddoedd wedi rhoddi y lluoedd goreu i'r Ymneillduwyr mewn ffermydd a swyddi, nes erbyn hyn y maent wedi ymgyf- oethogi ac ymlesgau ar eu sefyllfacedd. Ac o'r ocbr arall, a geir un engraifft fod yr Ymneilldu- wyr yn ffafrio Eglwyswyr ? Edryehwn ar eu hymddygiad yn awr gyda'r Bwrdd Ysgol, neu'r Byrddau Sirol, neu unrbyw fwrdd arall. Os byddant mewn awdurdod, pwy sydd yn llenwi swyddi oddi danynt ond eu pobl eu hunain ? Dylai y rhai sydd yn byw mewn tai gwydr ofalu peidio lluchio ceryg." (c) Awgrymiad arall a geir ydyw, fod gogwyddiad yn un dosbarth o feddylwyr yn yr Eglwys tuag at Babyddiaeth, ae mai oddiwrthynt hwy yn unig y deillia perygl i athrawiaeth iachus. Ychydig wyr yr awdwr am ddaliadau a gweithrediadau y cyfryw ddynion, onide ni fuasai yn eu camliwio fel y gwnaeth. Digon yw dweyd nad oes yr un dosbarth o grefyddwyr yn sefyll mor gadarn dros egwyddor- Ion eang a Chatholigaidd y Baibl na'r rhai a gondemnir, na neb yn wrth-safwyr mor eofn a diofn yn erbyn Pabyddiaeth. 2. Ond cymerwn rai petbau i ddangos fod yr hyn a gondemnir fel Pabyddiaeth yn ar- feredig ymblith yr Ymneillduwyr, ond mewn agweddau eraill llawn mor beryglus, ac felly yn profi fod dau eithafion yn cydgyfarfod. (a) Meddai. yr awdwr :—" Ymgeisiai Eglwys Rhufain a'i boll egni gadw Gair Duw o ddwylaw y lleygwyr." Dywedaf finau fod Ymneillduwyr yr oes bon yn ymdrechu ymhob ffordd i alltudio y Beibl allan o'r ysgolion elfenol, ac yn llawenychu wrth weled priodasau bydol (heb yr un gair o Air Duw) yn myned yn fwy mynycb, &c. (b) Priodola Mr. Davies yr anesmwytbdra a'r galanastra yn yr Ynys Werdd, i raddau belaeth i'r ffaith fod mwy- afrif y trigolion yn gadwynedig yn llyffetheiriau y Babaeth." Ac eto y mae yr Ymneillduwyr a'u holl egni yn gweithio law yn Haw a'r Pabyddion i ddwyn yr ynys i gyflwr mwy cyfyng yn y dyfodol drwy drosglwyddo y Protestaniaid" yn gyfan- gr'bl i grafangau y bobl ormesol hyn. Yn lie bod yn wrthglawdd yn erbyn Pabyddiaeth. y mae yr Ymneillduwyr yn gwneyd eu goreu i ddwyn y wlad yma a'r chwaer ynys o dan ei ddylanwad. Pe caent eu ffordd eu hunain trwy ddadgysylltiad yr Eglwys, ni bydd un sierwydd nad Teyrn Pab- yddol fyddai ar yr Orsedd cyn pen hir, fel y maent eisoes wedi bod yn offerynan i roddi swyddi a safleoedd pwysicaf mewn athrofeydd, ac yn y llywodraeth, yn barod iddynt. (c) Sonia yr awdwr am gyfyngwriaeth yr offeiriadaeth" Anhawdd iawn yw gwybod pa un o'r ddau ddy- lanwad yw y gwaethaf—dylanwad yr offeiriaid Pabaidd ar eu deadellau, ynte dylanwad y preg- ethwyr Ymneillduol ar eu canlynwyr. Ni raid ond cydmaru moe&oldeb a geirwiredd y naill ddosbarth a'r llall, a cheir gweled. Os na chred Mr. Davies a'i gyffelyb mewn rhyw fath o "offeir- iadaeth," paham y myn ele y teitl Parch." o flaen ei enw, a phaliam yr ymyra a'r bobl o gwbl. (d) Dywed mai un o egwyddorion gwir Brotestan- iaeth yw rbyddid i farn bersonol, a rhyddic7: i ym- ddwyn yn ol argyhoeddiad cydwybod." Gwir ond y mae yn alarus gweled fel y mae yr Ym- neiIlduwyr. yn cario hyn allan i'w heithafion peryglus, fel y mae braidd gymaint o opiniynau ag sydd o beifau. Y mae dau ffrwyth o hyn, (1) y mae barn bersonol llawer un mor anffaeledig yn ei olwg ag ydyw barn y Pab ei hun pan yn llefaru oddiar ei gadair, a gwae y neb a'i gwrth- wyneba. (2) Y mae tueddiad i gredu nad yw o bwys beth a gefleidir, a'r canlyniad yw y collir gafael yn mhrif byn jiau y ffydd. Mewn gair, tra y mae y Pabydd yn credu gormod, y mae yr Ym- netllduwr yn credu rhy fychan, go y mae perygl iddo i beidio credu o gwbl. 3. Pe byddai amser a gofod yn caniatau, gallaswn ddangos beth sydd yn ddiffygiol yn yr v hyn a elwir Protestaniaeth, a pheth sydd gymer- adwy. Wrth gwrs, gwyr pawb mai daioni nacaol yn unig a geir ynddi, am mai gwrthdystio yn erbyn cyfeiliornedau a wneir. Ond pe y bodd- lonir ar hyn, diffygiol iawn ydyw. Rhaid, nidyn unig cilio oddiwrth ddrwg, ond gwneyd yr hyn sydd dda." Tra y mae yr Eglwys yn --wrth- dystio yn gadarn yn erbyn pob math o gyfeiliorn- adau (a chyfeiliornadau Eglwys lygredig Rbufain yn eu plith) y mae yn ei meddiant Gredoau hefyd sydd yn cael eu proffesu gan boll Eglwysi Cred trwy yr boll fyd. Tra y mae yn rhoddi ei le priodol (sef y lie a'r anrhydedd uwchaf) i Air Duw, dysg hefyd fod yr Eglwys yn dyst a cheidwad y Gair. Tray croesawa "ryddid barn," eto dysg fod deddf a llais i reoli barn, a bod yn o'fynol ymostwng, onide aiff y rhyddid yn annhrefn a thryblith. Tra y caniaia agoshad pob enaid at Dduw, eto rhydd gynorthwy a moddion agosliaol. Gellid yn hawdd ymhelaethu yn y cyfeiriad yma, sef, fod yr oil sydd dda mewn Protestaniaeth meddiant yr Eglwys, a'i bod hi (a hi yn unig) yn yn gwneyd i fyny ei ddiffygion. Y mae hi yn sefyll yn y canol rhwng credu gormod (ofergoel. edd) a chredu rhy fychan (tir yn tueddu at anghrediniaeth); ac felly tra yn rbagfur yn erbyn pob gau athrawiaeth, y mae hefyd yn adeilad nerthol a chadarn, lie y cynygir gwirioneddau penodol, Ysgrythyrol, Efengylaidd, a Chatholig. aidd. SYLWEDYDD 0 FEIRION.

YR YSWAIN A'R PERIGLOR.