Hide Articles List

5 articles on this Page

/ 'Y GYNGRES EGLWYSIG.

DIENYDDIAD DRWY GROGI.

LLOFFION A NODIADAU.

News
Cite
Share

LLOFFION A NODIADAU. [GAN CYNWYL.] SUL Y BLODAU. Gan ei bod yn arferiad mor gyffredin yn ein plith ni y Cymry, a'r Saeson hefyd o ran hyny, i addurno beddau oin cyfeillion a'n perthynasau erbyn y Sul r hwn, dichon mai nid anfuddiol fyddai gwneyd yeb- ydig sylwadau ar y pen yma yr wythnos hon. Mae y dydd hwn, ymhlith y Saeaon, yn cael ei alw yn Palm Sunday—Sul y Palmwydd (loan xii. 13), oher- wydd i dyrfa fawr o drigolion Jerusalem gymeryd canghenau o'r palmwydd, a'u taenu ar hyd y fiordd yn eu mynediad allan i gyfarfod a'r Prophwyd o Nazareth, pan oedd yn marohogaeth yn ei orym- daith i'r ddinas sanctaidd ar y dydd cyntaf o wyth- nos y dioddefaint. Ni ddywedir un gair am Palm Sunday yn y Llyfr Gweddi Gyffredin, ae nid oes un oyfeiriad yn y gwasanaeth am y Sul yma at fyned- iad gogoneddus Crist i Jerusalem. Enw adnabydd- us arall ar y Sul hwn ymblith y Saeson yw Flower- ing Sunday, ac feallai mai oddiwrth ein Sul Blodau ni y maent wedi benthyca yr enw. Mae rhywbeth yn naturiol iawn mewn gweled gwynsb bedd wedi ei addurno a blodau amryliw a phrydfartb. Mae fel rhyw adfywiad ar ol tymor oer, garw, a thrwmgwsg y gauaf-gweled natur yn ei holl ogoniant a'i phryd- ferthweh yn gwenu yn ngwyneb yr haul, a'r gwlith megis yn ymbrancio dan ei belydrau llachar, a'r wawr yn tori allan yn y dwyrain gan gludo yn gysg- odol rhyw addewidion gorfoleddua fed yr byfryd foeu bron ar wawrio pan fydd Dorau beddau y byd Ar un gair yn agoryd." Y mae gobaith o bren, ar ei dori, y blagura eie eto, ao na phaid ei flagur ef a thyfu. Er heneiddio ei foncyff ef yn y pridd, efe a flagura oddiwrth arogl dyfroedd, ac a fwrw ganghenau fel plan- higyn. Ond gwr a fydd marw, ac a dorir ymaith; a dyn a drenga, a pha le y mae (Job xiv. 7—10)? Mae yr atebiad wrth law, Myfi yw'r adgyfodiad a'r bywyd, medd yr Arglwydd yr hwn sydd yn credu ynof fi, or iddo farw, a fydd byw. A phwy bynag sydd yn fyw, ac yn credu ynof fi, ni bydd marw yn dragywydd. Myfi a wn fod fy Mhrjhiwr yn fyw, ac y saif yn y diwedd ar y ddaear. Ac er ar ol fy nghroen i bryfed ddifetha'r corff hwn, eto caf woled Duw yn fy nghnawd yr hwn a gaf fi im' fy hun ei weled, a'ra llygaid a'i gwelant, ac nid arall." GWASANAETH Y CLADDEDIGAETH. Hyn ydyw cysur y Cristion wrth rodio Ilwybrau dyrys anialwch y byd a phan y mae yn talu y gymwynas olaf i'w gyfeillion a'i anwyliaid gan eu rhoddi i orphwys yn dawel yn erw Duw mewn dis- taw fedd, nid ydyw yn tristbau, fel un heb obaith, dros y rhai a hunasant yn yr Iesu. Mae yr Eglwys, trwy ei.gweinidogion, yn dangca pob parch ac ystyr- iaeth i'r marw yn gystal a'r byw. Wrth fyned i'r fynwent mae y corfi i orphwys os bydd angen o dan d6 y porth-Lych-gate-ac y mae lie i eistedd ar y naill ochr a'r Hall o'r porth hyd nes y bydd i'r offeir- iad ddyfod a derbyn yr ymadawedig mewn modd gweddus a difrifol, Mae y 'Beibl yn llefaru yn barchus am y rhai hyny a ddangosodd anrhydedd i Gorff marw yr Arglwydd lesu. Enwir Joseph o Arimathea a Nicodemus am iddynt wneuthur dar- pariaeth tuag at ei glaadedigaetb, ac am osod y corff mewn bedd newydd. Felly hefyd y gwragedd hyny a ddaethent 4 phemroglau i eneinio ei gorff sanctaidd, Ac ni a wyddom pa fodd y d&eth Mair i Bethania, a chanddi flwch o enaint, ac á 'i tywallt- odd ar ben y Gwaredwr, a'r cymhwysiad a wnaeth ef ei hun o'i gweithred, Canys hi yn tywailt yr enaint hwn ar fy nghorff, a wnaeth hyn i'm claddu i. Yn wir meddaf i chwi, pa Ie bynag y pregethir yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa am dani hi," (Matt. xxvi. 12, 13.) Yr ydym yn gwybod fod y coffin yn y diwedd yn cael ei gario gan rywrai neu gilydd. A hyny y mae yn debyg, am y dywedir am yr angladd Gristionogol Syntaf Gwyr bucheddol a ddygasant Stephan i'w gladdu," (Actau viii. 2,) Ie, gwyr da eu buchedd. Mor anweddua a difuchedd yw llawer a welir yn oymeryd rhan mewn angladdau y dyddiau hyn! Ni wnant un ymgais i symud eu hetiau oddiar eu penau pan weinyddir uwchben y bedd. Mae llaweroedd ychydig o'r neilldu yn hollol anystyriol o'r hyn a draddodir gan y sawl a fyddo yn gwaBanaethu. Yn wir, mae ymddiddanion mor uchel yn cael eu cario mlaen yn fynych ymblith rhai dosbarth fydd yn bresenol nes peri i-ddyn braidd i gredu mai mewn ffair ac nid mewn angladd y mae. Onid ydyw ym- ddygiadau o'r fath yn dangos dideimladrwydd tuag at y byw ac anystyrweh tuag at y marw ? Am- t"nir gan yr Eglwys i bob peth gael ei gario allan yn drefnus a gweddus. Gosodir pob bedd yn yr un oyfeiriad, ae y maent yn un wrth bwys y Ilall a'u gvsynebau i'r dwyrain, ac felly y saif yr Eglwys ar ei hyd o'r gorllewin i'r dwyrein, gan hyny mae yr aelodau Eglwysig yn addoli yn nby Dduw a'u gwynebau tua'r dwyrain. Pan ddaeth y Gwaredwr i'n byd ni o'r uchelder y tro cyntaf, Efe a ymwel- odd a ni o godiad haul (Luc i. 78), fel y prophwyd- odd Malachi iv. 2, pan ddywedodd, Haul Oyf- iawnder a gyfyd i chwi a meddyginiasth yn ei esgyll." A dyna ydyw un achos paham y mae Cristionogion yn wynebu tua'r dwyrdin pan yn addoli. Ond mae pob gwir Gristion hefyd yn edrych ymlaen gan ddisgwyl am y gobaith gwyn- fydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a'n Hiachawdwr Iesu Grist (Tit. ii. 13). Ao yr ydym yn cael oyfeiriad amlwg at fan ei ymddangos- iad pan ddywedir, A'i draed a safant y dydd fewnw ar fynydd yr Olewydd, yr hwn sydd ar gyfer Jerusalem, o du'r dwyrain" (Zech. xiv. 4). Mae hyn yn ddiameu yn cyfeirio at y dydd diweddaf, oherwydd yn y nawfed adnod yr ydym y darllen, A'r Arglwydd a fydd yn Frenin ar yr holl ddaear y dydd hwnw y bydd un Arglwydd, a'i enw yn un." Am hyny y cleddir y meirw â'u gwynebau i'r dwyrain fel y byddo iddynt weled yr Arglwydd lesu ar ei ail-ddyfodiad. Bydded i ni droedio'n dirion ac ysgafn pan yn riiodio Erw Duw4 lie mae ein perthynasau, ein cyfeillion, a'n cyndeidiau yn huno, a bydded i'r blodau a welwn yn gorchuddio eu beddau lefaru wrthym am fyrdra einioes dyn, ac hefyd am adgyfodiai dedwydd a bywyd newydd i ddyfod. Rhoddir yr had i'r ddaear, sel" daear j'r ddaear, lludw i'r lludw, pridd i'r pridd, mewn gwir ddiogel obaith o'r adgyfodiad i fywyd tragywyddol."

" EGWYDDOMON PROTESTAN-A1DD."

YR YSWAIN A'R PERIGLOR.