Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
/ 'Y GYNGRES EGLWYSIG.
Y GYNGRES EGLWYSIG. At Olygydd Y Llan a'r Dyioysogaeth, Syr,—Gan fod y Gynhadledd nesaf i gael ei chynal yn Caerdydd, disgwyliwyd yn naturiol y rhcddid lie i destynau oysylltiedig a'r Eglwys Gymreig yn yr ymdrafodaetb, ao ni chawn ein siomi. Ond ar yr un pryd rhaid i mi gyfaddef fy mod yn rhyfeddu gweled cwestiwn pwysig y Wasg Gymreig wedi ei adael allan. Yn Nghynadledd Abertawe cafwyd ymddiddan gwerthfawr a bywiog at y teatyn, a dichon na fyddai yn ormod dweyd fod ffrwyth dymunol wedi ranlyn, ac i'w weled heddyw ps cydmerir sefyllfa y Wasg Eglwysig Gymreig yn awr 4'r hyn ydoedd cyn hyn. Ar yr un pryd a ydyw yr aelodau Cymreig ar y pwyllgor yn meddwl fod pob peth yn foddhaol heddyw ? Nid hoff genyf chwilio beiau, ond oaniatawch i mi chwanegu fy rhyfeddod fod cyflwr crefyddol ein cydwladwyr tuallan i Gymru (miloedd ar fiioedd o honynt—sy'n mynu addoli yn Gymraeg), heb ei ddewis fel testyn cydymgynghoriad. Rhaid fod y Saeson yn Llundain, Mancetnion, Lerpwl, Birken- head, a'r Unol Daleithiau, lie gwelir symudiad am weinyddiadau Eglwysig Oymreig, yn disgwyl olywed rhyw faint ar y pwno.—Yr eiddoch, &c., EGLWYSWB CYMRBia. At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth Syr,—Byddaf yn ddiolchgar am yehydig o'ch gofod gwerthfawr i gyflwyno fy niolohgarwch i'r Parch. Evan Davies am ei lythyr yn Y LLAN 0 berthynas i w;fr Llanbedr a'r Gyngres Eglwysig. Yr oeddwn yn disgwyl gweled llawer o lythyrau yn eich newyddiadur yn canmol yr anturiaeth, ond yn hyn oefais fy siomi yn fawr, oherwydd nid oes ond dau wedi beiddio ymddangos yn eich colefnau-un yn pleidio a'r Hall braidd yn gwrthwynebu y mudiad. Fel un o'r hen fyfyrwyr sydd a'i drigle yn y Gogledd yr wyf yn cefnogi'r mudiad, ao yn,gwir gredu y bydd cyfarfod o wýr Llanbedr yn dra phleserus a dyddor. ol. Llawer o'm cydfyfyrwyr carwn eu gweled i eiarad gair ao ysgwyd Haw. Yr wyf, er hyny, yn oydsynio a Rheithor Gelligaer y byddai yn hollol an. noeth a diangenrhaid i gynal oyfarfod o wyr Llan. bedr yn unig ar adeg y Gyngres i drin materion Eg lwysig, ond y mae testynau ar ba rai y gaUwn siarad ag sydd yn dal cysylltiad uniongyrohoi a gwyr Llanbedr, heb ofni cael ein hystyried yn gul-farnol hyd yn nod gan eich gohebydd llygadgraff yr Hen Domos." Dyma destyn teilwng o'n sylw, Y modd- ion goreu i gynorthwyo Coleg St. Dewi." Rhy barod ydym i anghofio'r graig o ba un y cawsom ein naddu, a gobeithio y bydd cyfarfod cyffredinol o hen fyfyrwyr Llanbedr yn foddion i greu diolchgarwch yn ein mynwesaa i'r coleg, a hwnw yn ddiolchgar- weh ymarferol. Carwn welod ysgoloriaeth mewn cyaylltiad a'r Coleg yn cael ei sefydlu ymhob un o'r pedair Esgobaeth Gymreig, a phob un o wyr Llan- lbedr yn cyftanu yn ol ei allu yn flynyddol tuag at y mudiad. Y mae y coleg yn baeddu y diolchgarwch ymarferol hwn oddiar ein Haw, ao heblaw hyn bydd- wn yn oynorthwyo yr Eglwys yn Nghymru ar yr un pryd. Nos Lun yn amser y Gyngres fydd yr amser goreu i gael y cyfarfod, ac yr wyf fi ac eraill o'r Gogledd yma yn gobeithio y oawn y fraint o fod yn bresenol.-Yr eiddoeb, &a., J. F. REECE. Rhgfthordy Llanfwrog, Ebrill 9fed,
DIENYDDIAD DRWY GROGI.
DIENYDDIAD DRWY GROGI. At Olygydd Y Llan a'i- -Dywysogaeth." Syr,—Nid oes dim i'w glywed y dyddiau presenol ond hanea am lofruddiaetbau a chrogi. Mae gan Berry ddigon o waith i erchi cortynau. Byddaf yn wir ddiolchgar i chwi, syr, neu rai o'ch gohebwyr goleuedig am roddi vchvdiar o olenni i mi ar y pwne. 1. A oes gan y-1 Llywodraeth hawl gyfreithlon i grogi llofrndd ? 2. A ydyw diogelwch cymdeithasol yn hawlio crogi y llofrndd ? 3. A ydyw St. Paul yn Actaa xxv. 11, yn eydnabod awdurdod y Llywodraeth i gymeryd bywyd ymaith ? 4. A ydyw crogi llofrndd yn gyson & dysgeidiaeth y Testament Newydd ?—Yr eiddoch, &c., Llangwnwr. G. WYNN.
LLOFFION A NODIADAU.
LLOFFION A NODIADAU. [GAN CYNWYL.] SUL Y BLODAU. Gan ei bod yn arferiad mor gyffredin yn ein plith ni y Cymry, a'r Saeson hefyd o ran hyny, i addurno beddau oin cyfeillion a'n perthynasau erbyn y Sul r hwn, dichon mai nid anfuddiol fyddai gwneyd yeb- ydig sylwadau ar y pen yma yr wythnos hon. Mae y dydd hwn, ymhlith y Saeaon, yn cael ei alw yn Palm Sunday—Sul y Palmwydd (loan xii. 13), oher- wydd i dyrfa fawr o drigolion Jerusalem gymeryd canghenau o'r palmwydd, a'u taenu ar hyd y fiordd yn eu mynediad allan i gyfarfod a'r Prophwyd o Nazareth, pan oedd yn marohogaeth yn ei orym- daith i'r ddinas sanctaidd ar y dydd cyntaf o wyth- nos y dioddefaint. Ni ddywedir un gair am Palm Sunday yn y Llyfr Gweddi Gyffredin, ae nid oes un oyfeiriad yn y gwasanaeth am y Sul yma at fyned- iad gogoneddus Crist i Jerusalem. Enw adnabydd- us arall ar y Sul hwn ymblith y Saeson yw Flower- ing Sunday, ac feallai mai oddiwrth ein Sul Blodau ni y maent wedi benthyca yr enw. Mae rhywbeth yn naturiol iawn mewn gweled gwynsb bedd wedi ei addurno a blodau amryliw a phrydfartb. Mae fel rhyw adfywiad ar ol tymor oer, garw, a thrwmgwsg y gauaf-gweled natur yn ei holl ogoniant a'i phryd- ferthweh yn gwenu yn ngwyneb yr haul, a'r gwlith megis yn ymbrancio dan ei belydrau llachar, a'r wawr yn tori allan yn y dwyrain gan gludo yn gysg- odol rhyw addewidion gorfoleddua fed yr byfryd foeu bron ar wawrio pan fydd Dorau beddau y byd Ar un gair yn agoryd." Y mae gobaith o bren, ar ei dori, y blagura eie eto, ao na phaid ei flagur ef a thyfu. Er heneiddio ei foncyff ef yn y pridd, efe a flagura oddiwrth arogl dyfroedd, ac a fwrw ganghenau fel plan- higyn. Ond gwr a fydd marw, ac a dorir ymaith; a dyn a drenga, a pha le y mae (Job xiv. 7—10)? Mae yr atebiad wrth law, Myfi yw'r adgyfodiad a'r bywyd, medd yr Arglwydd yr hwn sydd yn credu ynof fi, or iddo farw, a fydd byw. A phwy bynag sydd yn fyw, ac yn credu ynof fi, ni bydd marw yn dragywydd. Myfi a wn fod fy Mhrjhiwr yn fyw, ac y saif yn y diwedd ar y ddaear. Ac er ar ol fy nghroen i bryfed ddifetha'r corff hwn, eto caf woled Duw yn fy nghnawd yr hwn a gaf fi im' fy hun ei weled, a'ra llygaid a'i gwelant, ac nid arall." GWASANAETH Y CLADDEDIGAETH. Hyn ydyw cysur y Cristion wrth rodio Ilwybrau dyrys anialwch y byd a phan y mae yn talu y gymwynas olaf i'w gyfeillion a'i anwyliaid gan eu rhoddi i orphwys yn dawel yn erw Duw mewn dis- taw fedd, nid ydyw yn tristbau, fel un heb obaith, dros y rhai a hunasant yn yr Iesu. Mae yr Eglwys, trwy ei.gweinidogion, yn dangca pob parch ac ystyr- iaeth i'r marw yn gystal a'r byw. Wrth fyned i'r fynwent mae y corfi i orphwys os bydd angen o dan d6 y porth-Lych-gate-ac y mae lie i eistedd ar y naill ochr a'r Hall o'r porth hyd nes y bydd i'r offeir- iad ddyfod a derbyn yr ymadawedig mewn modd gweddus a difrifol, Mae y 'Beibl yn llefaru yn barchus am y rhai hyny a ddangosodd anrhydedd i Gorff marw yr Arglwydd lesu. Enwir Joseph o Arimathea a Nicodemus am iddynt wneuthur dar- pariaeth tuag at ei glaadedigaetb, ac am osod y corff mewn bedd newydd. Felly hefyd y gwragedd hyny a ddaethent 4 phemroglau i eneinio ei gorff sanctaidd, Ac ni a wyddom pa fodd y dð Mair i Bethania, a chanddi flwch o enaint, ac á 'i tywallt- odd ar ben y Gwaredwr, a'r cymhwysiad a wnaeth ef ei hun o'i gweithred, Canys hi yn tywailt yr enaint hwn ar fy nghorff, a wnaeth hyn i'm claddu i. Yn wir meddaf i chwi, pa Ie bynag y pregethir yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa am dani hi," (Matt. xxvi. 12, 13.) Yr ydym yn gwybod fod y coffin yn y diwedd yn cael ei gario gan rywrai neu gilydd. A hyny y mae yn debyg, am y dywedir am yr angladd Gristionogol Syntaf Gwyr bucheddol a ddygasant Stephan i'w gladdu," (Actau viii. 2,) Ie, gwyr da eu buchedd. Mor anweddua a difuchedd yw llawer a welir yn oymeryd rhan mewn angladdau y dyddiau hyn! Ni wnant un ymgais i symud eu hetiau oddiar eu penau pan weinyddir uwchben y bedd. Mae llaweroedd ychydig o'r neilldu yn hollol anystyriol o'r hyn a draddodir gan y sawl a fyddo yn gwaBanaethu. Yn wir, mae ymddiddanion mor uchel yn cael eu cario mlaen yn fynych ymblith rhai dosbarth fydd yn bresenol nes peri i-ddyn braidd i gredu mai mewn ffair ac nid mewn angladd y mae. Onid ydyw ym- ddygiadau o'r fath yn dangos dideimladrwydd tuag at y byw ac anystyrweh tuag at y marw ? Am- t"nir gan yr Eglwys i bob peth gael ei gario allan yn drefnus a gweddus. Gosodir pob bedd yn yr un oyfeiriad, ae y maent yn un wrth bwys y Ilall a'u gvsynebau i'r dwyrain, ac felly y saif yr Eglwys ar ei hyd o'r gorllewin i'r dwyrein, gan hyny mae yr aelodau Eglwysig yn addoli yn nby Dduw a'u gwynebau tua'r dwyrain. Pan ddaeth y Gwaredwr i'n byd ni o'r uchelder y tro cyntaf, Efe a ymwel- odd a ni o godiad haul (Luc i. 78), fel y prophwyd- odd Malachi iv. 2, pan ddywedodd, Haul Oyf- iawnder a gyfyd i chwi a meddyginiasth yn ei esgyll." A dyna ydyw un achos paham y mae Cristionogion yn wynebu tua'r dwyrdin pan yn addoli. Ond mae pob gwir Gristion hefyd yn edrych ymlaen gan ddisgwyl am y gobaith gwyn- fydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a'n Hiachawdwr Iesu Grist (Tit. ii. 13). Ao yr ydym yn cael oyfeiriad amlwg at fan ei ymddangos- iad pan ddywedir, A'i draed a safant y dydd fewnw ar fynydd yr Olewydd, yr hwn sydd ar gyfer Jerusalem, o du'r dwyrain" (Zech. xiv. 4). Mae hyn yn ddiameu yn cyfeirio at y dydd diweddaf, oherwydd yn y nawfed adnod yr ydym y darllen, A'r Arglwydd a fydd yn Frenin ar yr holl ddaear y dydd hwnw y bydd un Arglwydd, a'i enw yn un." Am hyny y cleddir y meirw â'u gwynebau i'r dwyrain fel y byddo iddynt weled yr Arglwydd lesu ar ei ail-ddyfodiad. Bydded i ni droedio'n dirion ac ysgafn pan yn riiodio Erw Duw4 lie mae ein perthynasau, ein cyfeillion, a'n cyndeidiau yn huno, a bydded i'r blodau a welwn yn gorchuddio eu beddau lefaru wrthym am fyrdra einioes dyn, ac hefyd am adgyfodiai dedwydd a bywyd newydd i ddyfod. Rhoddir yr had i'r ddaear, sel" daear j'r ddaear, lludw i'r lludw, pridd i'r pridd, mewn gwir ddiogel obaith o'r adgyfodiad i fywyd tragywyddol."
" EGWYDDOMON PROTESTAN-A1DD."
EGWYDDOMON PROTESTAN- A1DD." Daeth pampbledyn bychan i'm llaw yn bur ddiweddar yn dwyn y teitl uchod, a gofynwyd i mi draethu ycbydig arno, Yn Y LLAN, a cbyda eich caniatad, Mr. Gol., gwnaf sylw neu ddau ar ei gynwysiad. Yr awdwr yw y "Parch." D. Glanant Davies, Porthmadog, ac felly (mae'n debyg), rbyw berson o'r urdd weinidogaetbol yn mhlith yr Ymneillduwyr. Y mae ynddo rai pethau digon diniwed, a phethau eraill nad ydynt yn dal ond yehydig gysylltiad a'r pwnc, tra y mae rhai dywediadau sydd yn dueddol iawn i gam-arwain yr anllythyrenog a'r unieithog. Ond hwyrach mai gwell dweyd ar y dechreu fod rhai brawddegau yn cynwys gwirioneddau a safant brawf, megis y rhai canlynol: Darfu i'r enwog wladgarwr Dr. Morgan ddwyn allan yr argraffiad cyntaf o'r Beibl Cymraeg, yr hwn, yn anad dim arall, a ddiwreiddiodd Babyddi-aeth." Rhaid cofio mai Crist sydd yn Ben yn yr Eg- Iwys," Ofnwn fod arwyddion yr amseroedd yn dangos ein bod fel Ymneillduwyr, yn herwydd ein casineb at drais unbenaethol Eglwys Eliufain, a rhag ofn gormodedd gwaseiddiwch i awdurdod honedig 'ffeiriadol, yn cael ein gyru i eithafion mewn cyfeiriad arall, sef gwadu pob awdurdod, os na bydd yn digwydd bod yn ffafriol i'n tybiau, ac ymollwng i raniadau ac annhrefn." Da fyddai i'r awdwr a'r urdd bregethwrol gymeryd at eu bystyriaeth ddifrifolaf y gosodiadau byn, canys y mae lie i ofni fod pob un o'r tri yn cael eu hanghofio yn lan ganddynt y dyddiau presenol. Ond wedi ei nithio yn deg a diragfarn, methais yn lâne. thanfod unrbyw ronyn o sylwedd na synwyr ynddo o'i ddechreu i'w ddiwedd. Dyma dipyn o'r us a loffais ynddo. 1. Awgrymiadau cits a llechwrus yn bradychu drwg deimlad at yr Eglwys, megis y rhai can. lynol :-(a) Fed y rhai a groesant o wersyll Ymneillduaeth i'r Eglwys Sefydledig yn gwneyd hyny gan mwyaf fel mater o gyfleusdra, neu fel gwarogaeth i grefydd y 'torthau?'" Hawdd gweled oddiwrth hyn fejfy mae croesi y gagendor I C, v n rhwiic, Ymneillduaeth ac EgIwysyddiaeth" yn peri mawr bryder a gofid i'r bobl hyn, a cbyn boiled ag y gallant, gwnant y peth yn annioddefol o boenus i'r cyfryw. Beth sydd yn cadw y rhan fwyaf o'r bobl sydd yn Ymneillduwyr yn y lie y maent ond materion o gyfleusdra a chrefydd y tortbau 2" Ai argyhoeddiad a gwybodaeth ? Na choeliaf fawr. Ac am y rhai sydd wedi eu gadael, rhaid eu bod yn feddianol ar bender- fyniad go fawr, a dewrder moesol go gryf, yn gystal ag argyboeddiad pur ddwfn cyn y beiddient wneyd y fath gyfnewidiad yn ngwyneb y fath erledigaeth drahaus a gormesol. (b) Awgrymir y gwna boneddigion ar gais offeiriaid atal ffermydd i Ymneillduwyr, a'u rhoi i Eglwyswyr. Gwyr pawb sydd yn gwybod dim, nad oes sail i'r haeriad yma. Nid wyf yn dweyd nas gall fod am bell i engraifft o hyn ar gael, ond anaml iawn y mae Ymneillduwr yn cael ei omedd ar y sail o'i ymneillduaeth, ac anaml iawn y mae yr Eglwys- wr yn derbyn ffafr, oherwydd ei fod felly. Os yr un, dylai y gwyn fod fel arall, Y mae y bonedd igion er's blynyddoedd wedi rhoddi y lluoedd goreu i'r Ymneillduwyr mewn ffermydd a swyddi, nes erbyn hyn y maent wedi ymgyf- oethogi ac ymlesgau ar eu sefyllfacedd. Ac o'r ocbr arall, a geir un engraifft fod yr Ymneilldu- wyr yn ffafrio Eglwyswyr ? Edryehwn ar eu hymddygiad yn awr gyda'r Bwrdd Ysgol, neu'r Byrddau Sirol, neu unrbyw fwrdd arall. Os byddant mewn awdurdod, pwy sydd yn llenwi swyddi oddi danynt ond eu pobl eu hunain ? Dylai y rhai sydd yn byw mewn tai gwydr ofalu peidio lluchio ceryg." (c) Awgrymiad arall a geir ydyw, fod gogwyddiad yn un dosbarth o feddylwyr yn yr Eglwys tuag at Babyddiaeth, ae mai oddiwrthynt hwy yn unig y deillia perygl i athrawiaeth iachus. Ychydig wyr yr awdwr am ddaliadau a gweithrediadau y cyfryw ddynion, onide ni fuasai yn eu camliwio fel y gwnaeth. Digon yw dweyd nad oes yr un dosbarth o grefyddwyr yn sefyll mor gadarn dros egwyddor- Ion eang a Chatholigaidd y Baibl na'r rhai a gondemnir, na neb yn wrth-safwyr mor eofn a diofn yn erbyn Pabyddiaeth. 2. Ond cymerwn rai petbau i ddangos fod yr hyn a gondemnir fel Pabyddiaeth yn ar- feredig ymblith yr Ymneillduwyr, ond mewn agweddau eraill llawn mor beryglus, ac felly yn profi fod dau eithafion yn cydgyfarfod. (a) Meddai. yr awdwr :—" Ymgeisiai Eglwys Rhufain a'i boll egni gadw Gair Duw o ddwylaw y lleygwyr." Dywedaf finau fod Ymneillduwyr yr oes bon yn ymdrechu ymhob ffordd i alltudio y Beibl allan o'r ysgolion elfenol, ac yn llawenychu wrth weled priodasau bydol (heb yr un gair o Air Duw) yn myned yn fwy mynycb, &c. (b) Priodola Mr. Davies yr anesmwytbdra a'r galanastra yn yr Ynys Werdd, i raddau belaeth i'r ffaith fod mwy- afrif y trigolion yn gadwynedig yn llyffetheiriau y Babaeth." Ac eto y mae yr Ymneillduwyr a'u holl egni yn gweithio law yn Haw a'r Pabyddion i ddwyn yr ynys i gyflwr mwy cyfyng yn y dyfodol drwy drosglwyddo y Protestaniaid" yn gyfan- gr'bl i grafangau y bobl ormesol hyn. Yn lie bod yn wrthglawdd yn erbyn Pabyddiaeth. y mae yr Ymneillduwyr yn gwneyd eu goreu i ddwyn y wlad yma a'r chwaer ynys o dan ei ddylanwad. Pe caent eu ffordd eu hunain trwy ddadgysylltiad yr Eglwys, ni bydd un sierwydd nad Teyrn Pab- yddol fyddai ar yr Orsedd cyn pen hir, fel y maent eisoes wedi bod yn offerynan i roddi swyddi a safleoedd pwysicaf mewn athrofeydd, ac yn y llywodraeth, yn barod iddynt. (c) Sonia yr awdwr am gyfyngwriaeth yr offeiriadaeth" Anhawdd iawn yw gwybod pa un o'r ddau ddy- lanwad yw y gwaethaf—dylanwad yr offeiriaid Pabaidd ar eu deadellau, ynte dylanwad y preg- ethwyr Ymneillduol ar eu canlynwyr. Ni raid ond cydmaru moe&oldeb a geirwiredd y naill ddosbarth a'r llall, a cheir gweled. Os na chred Mr. Davies a'i gyffelyb mewn rhyw fath o "offeir- iadaeth," paham y myn ele y teitl Parch." o flaen ei enw, a phaliam yr ymyra a'r bobl o gwbl. (d) Dywed mai un o egwyddorion gwir Brotestan- iaeth yw rbyddid i farn bersonol, a rhyddic7: i ym- ddwyn yn ol argyhoeddiad cydwybod." Gwir ond y mae yn alarus gweled fel y mae yr Ym- neiIlduwyr. yn cario hyn allan i'w heithafion peryglus, fel y mae braidd gymaint o opiniynau ag sydd o beifau. Y mae dau ffrwyth o hyn, (1) y mae barn bersonol llawer un mor anffaeledig yn ei olwg ag ydyw barn y Pab ei hun pan yn llefaru oddiar ei gadair, a gwae y neb a'i gwrth- wyneba. (2) Y mae tueddiad i gredu nad yw o bwys beth a gefleidir, a'r canlyniad yw y collir gafael yn mhrif byn jiau y ffydd. Mewn gair, tra y mae y Pabydd yn credu gormod, y mae yr Ym- netllduwr yn credu rhy fychan, go y mae perygl iddo i beidio credu o gwbl. 3. Pe byddai amser a gofod yn caniatau, gallaswn ddangos beth sydd yn ddiffygiol yn yr v hyn a elwir Protestaniaeth, a pheth sydd gymer- adwy. Wrth gwrs, gwyr pawb mai daioni nacaol yn unig a geir ynddi, am mai gwrthdystio yn erbyn cyfeiliornedau a wneir. Ond pe y bodd- lonir ar hyn, diffygiol iawn ydyw. Rhaid, nidyn unig cilio oddiwrth ddrwg, ond gwneyd yr hyn sydd dda." Tra y mae yr Eglwys yn --wrth- dystio yn gadarn yn erbyn pob math o gyfeiliorn- adau (a chyfeiliornadau Eglwys lygredig Rbufain yn eu plith) y mae yn ei meddiant Gredoau hefyd sydd yn cael eu proffesu gan boll Eglwysi Cred trwy yr boll fyd. Tra y mae yn rhoddi ei le priodol (sef y lie a'r anrhydedd uwchaf) i Air Duw, dysg hefyd fod yr Eglwys yn dyst a cheidwad y Gair. Tray croesawa "ryddid barn," eto dysg fod deddf a llais i reoli barn, a bod yn o'fynol ymostwng, onide aiff y rhyddid yn annhrefn a thryblith. Tra y caniaia agoshad pob enaid at Dduw, eto rhydd gynorthwy a moddion agosliaol. Gellid yn hawdd ymhelaethu yn y cyfeiriad yma, sef, fod yr oil sydd dda mewn Protestaniaeth meddiant yr Eglwys, a'i bod hi (a hi yn unig) yn yn gwneyd i fyny ei ddiffygion. Y mae hi yn sefyll yn y canol rhwng credu gormod (ofergoel. edd) a chredu rhy fychan (tir yn tueddu at anghrediniaeth); ac felly tra yn rbagfur yn erbyn pob gau athrawiaeth, y mae hefyd yn adeilad nerthol a chadarn, lie y cynygir gwirioneddau penodol, Ysgrythyrol, Efengylaidd, a Chatholig. aidd. SYLWEDYDD 0 FEIRION.
YR YSWAIN A'R PERIGLOR.
YR YSWAIN A'R PERIGLOR. At Olygydd T Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—Pwnc dyddorol iawn ydyw pa fodd i ym. ddwyn tuag at yswain y plwyf, ac ar ol dros 40 mlynedd o brofiad yn y wlad ac yn y gweithfeydd poblogaidd nid wyf fi ddim yn sicr fy mod wedi dysgu y wers yn agos i berffeithrwydd. Yn sicr i chwi, nid yw y clerigwyr ddim yn anfEaeledig mwy na'r yswein- iaid, er fod y llywodraeth ganddynt yn ddiamheuol. Y mae gwahanol fathau o ysweiniaid hefyd yn eu hymddygiadau tuag at yr Eglwys. Adwaenwn yswain ag oedd bob amser yn barod i gyfranu at bob achos Eglwysig yn ei blwyf; ond rbyw dro cymerodd yn ei ben i roddi ffenestr liwiedig yn mhen dwyrein- iol yr Eglwvs, a gwnaeth hyny yn ddirgel er mwyn achosi syndod i'r Rheithor. Tybiaf mai Goddef ein gilydd mewn cariad fyddai ddoethaf dan yr atngylchiad yna. Mewn Eglwys gyfagos tafododd yr yawain a'i briod y periglor yn dda am nad oedd efe yn edrych ar ol yr Eglwys i'w chadw yn lan ond nid oedd efe yn cyfranu ond ail i ddim tuag at achoaion yr Eglwys yn y lie. Yr oedd yma le i Amynydd gael perffiith waith." Er hyny dan y, cyfryw amgylchiadau dylid cofio y gall pob gwirion ffraeo; ond mai cadw yr heddwch ydyw y gamp." Y mae dau beth na anaf fi byth oddef i'r yswain wneuthur, sef cam &'r Cymry o barth i'r addoliadau Cymraeg er mwyn cael addoliadau Saesneg, neu ymyraeth a'r athrawiaethau yr wyf i'w Ptegethu a'u dysgu. Mewn pethau dibwys, megis adcturno yr Eglwys, defodau, a ohanu y gwasanaeth, ye wyf fi yn foddlon 14 i wneuthur fy hun yn bobpeth i bawb fel yr enillwyf rai." Dywedai rhywun nad Oes dim eisiau synwyr, gras, nac urddau i ffraeo, ao nad oes dim clod yn perthyn i neb am hyny. Cy- nierer yr haneayn canlynol fel eglurhad :—Rhyw ddeebreunos yr oedd tri o henafgwyr gyda'u gilydd, dau o ba rai oeddynt reithoriaid plwyfydd gwledig cyfoethog ond yr oedd y trydydd a cbanddo blwyf- Ydd yn cynwys miloedd o drigolion, heb fod y gwaddol yn chwarter digon i ddavparu ar gyfer yr aughenion Eglwysig. Yr oedd ganddo yswain cyfoethog parod i'w gynorthwyo i gynal ouradiaid, Yr ysgolion dyddiol, a'r adeiladau. Ymdrechai yntau foadio yr yswain, trwy ganiatau i'r boneddigesau addurno yr Eglwys, oanu y Salmau, a pbethau cyffelyb. Tybiai ei ddau hen gyfaill ei fod yn myned Yn rhy bell mewn defodaeth, a dechjpuasant ei ^yrnodio yn anuniongyrchol, trwy lada ar yswein- laid yn ymyraeth yn yr Eglwysi. Llefarai y naill ar 01 y Hall na oddefai na'r yswain na'i deulu ymyraeth 0 gwbl. Ar ol gwrando dros dipyn a deall eu bwriad chwarddodd y trydydd, a dywedodd, 0 beth mor braf ydyw cael bywoliaeth fris heb ddim angen cynorthwy. Beth a wnaech chwi pe buasecb megis ^yfi, druan o honof, yn gorfod, i raddau pell, ddi- ^ynu ar yr yswain a'i deulu ? A fuasech_ chwi yn oddlon i droi ymaith y curadiaid, cau i fyny yr ysgolion dyddiol, a chyfyngu yr addoliadau Eglwys- VUn^asanaeth ymhob eglwys ar y Sul, a hyny yn hytrach na chaniatau canu y Salmau, addurno y £ eglwys §, blodau, a'r cyfielyb ? Tarawyd y ddau ^udanrwydd yn y fan. Lies yr Eglwys a ddylid Saaw mewn golwg yn yr oil a wnelom, ac nid porthi ein mympwyon ein hunain mewn pethau dibwys. Dyna i Tomoa Ieuanc farn un HENAFGWB. At Olygydd P Llan a'r Dywysogaeth." Syr,-O dan y penawd—" Gwasanaethwr yn unig —nid Llywodraethwr," dymunwn ddweyd gair fel offeiriad plwyfol o blaid yswain y plwyf. Nid ydwyf yn dweyd fod pawb mor ffortunus a myfi yn hyn. Nis gallaswn adael llythyr Tomos Ieuanc" yn llonydd heb ddweyd gair mewn amddifiyniad i yswain y plwyf. Yr ydwyf yn credu fod llawer iawn o annoethineb yn cael ei ymarfer o du yr oSeiriaid yn fynych, yn enwedig felly os digwydda yr yswain fod yn weithiwr difefl o blaid yr Eglwys (fel y mae yn dda genyf dystiolaethu am yswain y plwyf hwn). Os bydd yr yswain yn ymdrechu, trwy adeiladu neu adgyweirio Eglwys, ac yn cymeryd y rhan mwyaf blaenllaw yn y gwaitb, credwyf mai annoethineb o'r mwyaf ydyw i'r offeiriad wrthwynebu arocanion daionus yr yswain. Y mae genym esiamplau ddigon lIe y mae yswam gweitbgar, llawer mwy felly fel y mae yn ddrwg dweyd nag ydyw'r oSeiriad.. Pa byddai digwydd i'r yswain awgilymu fod angen gwneuthur hyn ag arall, y mae llawer Ficer yn too high and mighty i wrando ar gyngor dyn sydd- yn dymuno llwyddiant yr eneidiau ag sydd wedi cael eu gosod o dim ofal bugail diwerth a di-waitb. Ein cred ydyw yn yr adeg bresenol fod eisiau galw y dwylaw i gyd ar fwrdd y llestr. Credwn ni neu beidio, nid amser i offeiriad i ymladd a'r lleygwyr blaenaf yn y plwyf ydyw. Nid ydym am foment am wadu nad oes llawer o'r yswainiaid am ormeau, ond fe gredwn fod rhengoedd y rhai yma yn teneuo yn gyflym iawn. Fe ddichon y daw hen arwyr Y LLAN allan ac yr ysg,ifenant yn llawer mwy de- heuig ar y testyn yma.—Yr eiddocb, &c., MAB LLWYN IORWG.