Hide Articles List

12 articles on this Page

DOSBABTE II.

CYFABJFOn UNDEBOL MAWREDD06…

News
Cite
Share

CYFABJFOn UNDEBOL MAWREDD06 YN MANCE1N10N. [GAN UNDEBWR.] Cynhaliwyd un o'r cyfarfodydd mwyaf lliosog a brwdfrydig e, gymarodd Ie erioed yn Manceinicn, nos Fercher, yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd y neuadd eang—y Frea Trade Hall—yn orlawn. Amcan y cynulliad ydoedd—rhoddi cyfleusdra i Undebwyr Ceidwadol a Rhyddfrydig y cdinas i ddatgan yn gy- hoeddus ac unedig eu hyaalyniad diysgog wrth yr achos Undabolj t'u hymddiried yn Llywodraeth ei Mawrhydi. Derbyniwyd telegram oddiwrth Syr Henry James yn cydymdeimlo ag amcan y cyfarfod, ac yn datgan ei oba.ith na fyddai i wahaniaeth barn ar faterion llai pwysig gael ei oddef i ymyraeth a'u cydweithrediad yn yr ymdreck fawr ar ran yr Undeb. Y cadeirydd ydoedd Syr W. H. Houldsworth, A.S., yr hwn pan gododd i fyny i anerch y cyfarfod a dderbyniwyd gyda brwclfrydedd angberddol, ac wedi cael distawrwydd, dy wedodd ei bod yn hyfryd- wch neillduol ganddo lywyddu mewn cyfarfod yn yr hwn yr oedd Rhyddfrydwyr a Cheidwadwyr yn yrn- ddangos ar yr un llwyfan, am yftro cyntaf erioed, fel y tueddid ef i gredu, yn yr ben neuadd enwog hono. Pan yn cyfeirio at ymddygiad y Gladstoniaid yn llurgunio ffigyrau mewn cysylltiad ag etholiadau lleol, dywedodd eu bod yn debyg iawn i ddyn pan ar foddi yn ymaflyd mewn gwelityn. Beth oedd y fieithiau ? Yn yr etholiadau anglaystadleuol nid oedd ond tair o eisteddleoedd Gladstonaidd yn y rbai y dychwehvyd ymgeiswyr yn ddiwrthwynebiad, tra yr oedd dim llai nag un ar ddeg o seddau Undebol. Heblaw hyny, allan o 45 o etholiadau cystadleuo] nid oedd y Gladstoniaid wedi Ilwyddo ond mewn 17 i gael mwy o bleidleisiau nag yn 1885 rfeu 1886, ond yr oedd yr Undebwyr wedi cael mwy o bleidleisiau mewn 28 o etholfeydd. Addefai yn rhwydd au bod wedi colli wyth eisteddle, ond yr oedd Llywodraeth Mr. Gladstone yn ystod tymor cyffelyb wedi colli 14 o eisteddleoedd. Aeth y Cadeirydd ymlaen i gynyg y penderfyniad can- lynol :—" Fod Llywodraeth ei Mawrhydi yn toilyngu cefnogaeth y wlad am eu gweinyddiad doeth a di- anvacial o'n hachosion cartrefol a thramor a bod y cyfarfod hwn yn hyderu y byddact yn alluog i basio ychwaueg o fesurau defnyddiol er gwaetbaf y llssteiriaeth digydwybod a deflir ar eu ffordd yn y Sanedd, ac hefyd defnyddio mesurau a sicrhant ddi- ogelwch yr Ymerodraeth, ac ar yr un pryd atal gwastrafi aa aneffeithiolrwydd yn holl swyddfeydd y gwasanaeth cyhoeddus." Nis gallai ef (Mr. Houlds- worth) lai, wrth sefyll o flaen y cynulliad mawr- eddog hwnw o Undebwyr yn y neuadd hono, na meddwl am y gwladweinydd mawr oedd newydd fyned i orphwys oddiwrth ei lafur—(cymeraawy- aeth)-yr hwn oedd yn ymgorfforiad o Ryddfryd- iaeth anhyblyg am haner canrif yn y gymydogaeth hono ac yr oedd ef am roddi iddynt y cwestiwn pa fodd y gwnai Mr. John Bright bleidleisio ar y pen- derfyniad. Gwyddent yr ateb dywedai aye a'i holl galon. (Bloeddiadau o gymeradwyaetb). Yr oedd gwladlywiaeth dramor y Llywodraeth yn cym- eradwyo ei hun i'w chefnogwyr, ac hyd yn nod yn hawlio derbyniad aaewyllysgar ou gwrthwynebwyr ac mewn perthynas i'r cwestiwn Gwyddelig, gwadai I' y cyhuddiad nad oedd gan yr Undebwyr ddim cyd- ymdeimlad a'r Iwerddon. Eiliwyd y penderfyniad Mr. R. B. Finlay, Q.C., A.S., yr hwn a ddywedodd na fu erioed yn gofidio oherwydd ffurfiad y blaid Undebol, ac nid oedd yr olwg ar y cyfarfod hwnw yn ei dueddu i wneyd byny yn awr. Canmolodd wladlywiaeth dramor y Llyw- odraeth yn ogystal a'i llywottrefn gattrefol, ac yn enwedig llywodraethiad doeth a phenderfynol achosion Gwyddelig gan Mr. Balfour. (Cymeradwy- aeth.) Mewn perthynas i'r cwestiwn o Ymreolaeth i'r Iwerddon, yr oedd y Gladstoniaid yn methu cyt. uno yn eu plith eu hunain gyda golwg ar beth a feddylid wrth "Home Rule." Nid oedd ef yn eu beio am beidio dwyn y oynllun ymlaen, oblegid yr oedd yn anmhosibl i ddyn ddangos yr hyn nad oedd yn feddu ond yr oedd yn eu beio am arfer iaith amwys a diystyr i gamarwain meddyliau yr ethol- wyr. Yr oedd y cynygiad o Home Rule yn cynwys nid yn unig sefydliad Parliament Gwyddelig-yr hyn oedd yn ddigon drwg ynddo ei hun-ond yr oedd hefyd yn cynwys llywodraeth weinyddiadcl i gario allan ewyllys y Parliament hwnw. Yr oedd cynygiad o'r fath yn beth newydd hollol yn llywodr- iad yr Iwerddon, m'phe caniateid ef buasai Lloegr yn hollol at drugaredd y llywodraeth weinyddiadol Wyddelig, oblegid byddai yn alluog unrhyw amser i'n harsvain i ryfel âg unrbyw Allu tramor. Yr oedd y rhan oreu o'r Iwerddon yn gwrfchwynafcu y syniad o lyvvodraeth wahanedig, Drwy yr oil o Ulster yr oedd y bobl yn deyrngarol—nid yn unig Protestan- iaid ond Pabyddion-ac yr oedd dwy filiwn, o leiaf, allan o bum' miliwn trigolion yr Iwerddon yn cashau Home Rule a chas cyflawn. A gofynid ganddynt i II drosglwyddo y ddwy filiwn hyn i'r Parnelliaid, a phaham ? Ai am eu bod yn deyrngarol, yn hedd- yohoi, a llwyddianus ? A vvnai Home Rule dawelu yr^Iwerddon ? A wnai gynyrchu teimlad da yn yr Iwerddon ei hun ? Yr oedd yn rhaid iddynt ateb yr holl gwestiynau hyn yn nacaol. Yx oedd llawer wedi ei ddweyd am undeb calonau rhwng Lloegr R,'r Iwerddoc. A wnai neb mewn aches a angbydfod rhwng gwr a gwraig gymeradwyo ysganaeth fel moddion i gynyrchu undeb calonau ? (Ohwerthin.) A wnai Home Rule hyrwyddo llwyddiant tymhorol yr Iwerddon ? Yn hollol i'r gwrtuwyneb-gyrai gyfalaf allan o'r wlad, ao ychwanegai lawer at ei thrueni presenol. Yr oedd troseddau yn lleihau yn yr Iwerddon dan y weinyddiaethibresenol; a dygodd ymlaen ystadegau i brofi hyny. Yr oedd y L!ywodr- aeth Undebol yn gwir deilyngu cefnogaeth y wlad. Y nesaf i anerch y cyfarfod oodd Arglwydd Charles Beresfordj e, siaradodd i bwrpas. Amddi- fiynodd Gyfraith y Troaeddau fel moddion i gryfbau y gyfraith a gorfodi y bobl i ufuddhau iddi. Pe pasid Home Rule yr oedd yn dweyd wrthynt fel Gwyddel na wnai y Teyrngarwyr ei goddef (the Loyalists would not stand it). (Gymeradwyaetb.) Ni wnaent ufuddhau i'r gyfraith ymladdent, a phe saethid hwynt i lawr eu hunig drosedd a fyddai eu teyrngarwch i'w Brenhines a'u gwlad. (Bloeddiadau o gymeradwyaeth.) Aeth ymlaen i siarad am lest- eiriaeth yn Nhy y Cyffreain ac adgyfnerthiad y Llynges. Cyfarfod rhagorol oedd hwn, a nodweddid yr holl weithrediadau o'r dechreu i'r diweda gan yr unol- iaeth llwyraf. Nis gall na bydd yn godiad ysbryd i'r Undebwyr mewn parthau eraill o'r deyrnas, ac yn anogaeth iddynt i barhtu yn ffyddlon i'w Brenhines a'u gwlad, ao i'w cydtddeiliaid teyrngarol yn yr Ynys. Ni fyn Ulster mo Home Rule yr Ysgarwyr- a dyna ddigon.

AT Y BEIRDD.

SHON CHWAREU TEG.

DUW, AWDWR IECHYD.

Y CROGLITH.

Y DEIGRYN.

Y LILI.

Y MEDDWL.

Y WLADEA.

[No title]

[No title]