Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
DOSBABTE II.
DOSBABTE II. ENGLYN 0 YMHOLIAD. Ymha le mae'r prif-fardd Berw ?" A ydyw ef wedi marw ynghyd LL'i Golofn Farddol Owalia ?" Mae rhyw gadduglen yn ei uddo ef o'r golwg er's misoedd. Ein prif-fardd wedi proflon,-a gysga Mewn gwisgiad eaguson ? Ar ei ol mae trigolion, Gwalia brid yn gwelwi bron. OWAIN DIN ORWIG.
CYFABJFOn UNDEBOL MAWREDD06…
CYFABJFOn UNDEBOL MAWREDD06 YN MANCE1N10N. [GAN UNDEBWR.] Cynhaliwyd un o'r cyfarfodydd mwyaf lliosog a brwdfrydig e, gymarodd Ie erioed yn Manceinicn, nos Fercher, yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd y neuadd eang—y Frea Trade Hall—yn orlawn. Amcan y cynulliad ydoedd—rhoddi cyfleusdra i Undebwyr Ceidwadol a Rhyddfrydig y cdinas i ddatgan yn gy- hoeddus ac unedig eu hyaalyniad diysgog wrth yr achos Undabolj t'u hymddiried yn Llywodraeth ei Mawrhydi. Derbyniwyd telegram oddiwrth Syr Henry James yn cydymdeimlo ag amcan y cyfarfod, ac yn datgan ei oba.ith na fyddai i wahaniaeth barn ar faterion llai pwysig gael ei oddef i ymyraeth a'u cydweithrediad yn yr ymdreck fawr ar ran yr Undeb. Y cadeirydd ydoedd Syr W. H. Houldsworth, A.S., yr hwn pan gododd i fyny i anerch y cyfarfod a dderbyniwyd gyda brwclfrydedd angberddol, ac wedi cael distawrwydd, dy wedodd ei bod yn hyfryd- wch neillduol ganddo lywyddu mewn cyfarfod yn yr hwn yr oedd Rhyddfrydwyr a Cheidwadwyr yn yrn- ddangos ar yr un llwyfan, am yftro cyntaf erioed, fel y tueddid ef i gredu, yn yr ben neuadd enwog hono. Pan yn cyfeirio at ymddygiad y Gladstoniaid yn llurgunio ffigyrau mewn cysylltiad ag etholiadau lleol, dywedodd eu bod yn debyg iawn i ddyn pan ar foddi yn ymaflyd mewn gwelityn. Beth oedd y fieithiau ? Yn yr etholiadau anglaystadleuol nid oedd ond tair o eisteddleoedd Gladstonaidd yn y rbai y dychwehvyd ymgeiswyr yn ddiwrthwynebiad, tra yr oedd dim llai nag un ar ddeg o seddau Undebol. Heblaw hyny, allan o 45 o etholiadau cystadleuo] nid oedd y Gladstoniaid wedi Ilwyddo ond mewn 17 i gael mwy o bleidleisiau nag yn 1885 rfeu 1886, ond yr oedd yr Undebwyr wedi cael mwy o bleidleisiau mewn 28 o etholfeydd. Addefai yn rhwydd au bod wedi colli wyth eisteddle, ond yr oedd Llywodraeth Mr. Gladstone yn ystod tymor cyffelyb wedi colli 14 o eisteddleoedd. Aeth y Cadeirydd ymlaen i gynyg y penderfyniad can- lynol :—" Fod Llywodraeth ei Mawrhydi yn toilyngu cefnogaeth y wlad am eu gweinyddiad doeth a di- anvacial o'n hachosion cartrefol a thramor a bod y cyfarfod hwn yn hyderu y byddact yn alluog i basio ychwaueg o fesurau defnyddiol er gwaetbaf y llssteiriaeth digydwybod a deflir ar eu ffordd yn y Sanedd, ac hefyd defnyddio mesurau a sicrhant ddi- ogelwch yr Ymerodraeth, ac ar yr un pryd atal gwastrafi aa aneffeithiolrwydd yn holl swyddfeydd y gwasanaeth cyhoeddus." Nis gallai ef (Mr. Houlds- worth) lai, wrth sefyll o flaen y cynulliad mawr- eddog hwnw o Undebwyr yn y neuadd hono, na meddwl am y gwladweinydd mawr oedd newydd fyned i orphwys oddiwrth ei lafur—(cymeraawy- aeth)-yr hwn oedd yn ymgorfforiad o Ryddfryd- iaeth anhyblyg am haner canrif yn y gymydogaeth hono ac yr oedd ef am roddi iddynt y cwestiwn pa fodd y gwnai Mr. John Bright bleidleisio ar y pen- derfyniad. Gwyddent yr ateb dywedai aye a'i holl galon. (Bloeddiadau o gymeradwyaetb). Yr oedd gwladlywiaeth dramor y Llywodraeth yn cym- eradwyo ei hun i'w chefnogwyr, ac hyd yn nod yn hawlio derbyniad aaewyllysgar ou gwrthwynebwyr ac mewn perthynas i'r cwestiwn Gwyddelig, gwadai I' y cyhuddiad nad oedd gan yr Undebwyr ddim cyd- ymdeimlad a'r Iwerddon. Eiliwyd y penderfyniad Mr. R. B. Finlay, Q.C., A.S., yr hwn a ddywedodd na fu erioed yn gofidio oherwydd ffurfiad y blaid Undebol, ac nid oedd yr olwg ar y cyfarfod hwnw yn ei dueddu i wneyd byny yn awr. Canmolodd wladlywiaeth dramor y Llyw- odraeth yn ogystal a'i llywottrefn gattrefol, ac yn enwedig llywodraethiad doeth a phenderfynol achosion Gwyddelig gan Mr. Balfour. (Cymeradwy- aeth.) Mewn perthynas i'r cwestiwn o Ymreolaeth i'r Iwerddon, yr oedd y Gladstoniaid yn methu cyt. uno yn eu plith eu hunain gyda golwg ar beth a feddylid wrth "Home Rule." Nid oedd ef yn eu beio am beidio dwyn y oynllun ymlaen, oblegid yr oedd yn anmhosibl i ddyn ddangos yr hyn nad oedd yn feddu ond yr oedd yn eu beio am arfer iaith amwys a diystyr i gamarwain meddyliau yr ethol- wyr. Yr oedd y cynygiad o Home Rule yn cynwys nid yn unig sefydliad Parliament Gwyddelig-yr hyn oedd yn ddigon drwg ynddo ei hun-ond yr oedd hefyd yn cynwys llywodraeth weinyddiadcl i gario allan ewyllys y Parliament hwnw. Yr oedd cynygiad o'r fath yn beth newydd hollol yn llywodr- iad yr Iwerddon, m'phe caniateid ef buasai Lloegr yn hollol at drugaredd y llywodraeth weinyddiadol Wyddelig, oblegid byddai yn alluog unrhyw amser i'n harsvain i ryfel âg unrbyw Allu tramor. Yr oedd y rhan oreu o'r Iwerddon yn gwrfchwynafcu y syniad o lyvvodraeth wahanedig, Drwy yr oil o Ulster yr oedd y bobl yn deyrngarol—nid yn unig Protestan- iaid ond Pabyddion-ac yr oedd dwy filiwn, o leiaf, allan o bum' miliwn trigolion yr Iwerddon yn cashau Home Rule a chas cyflawn. A gofynid ganddynt i II drosglwyddo y ddwy filiwn hyn i'r Parnelliaid, a phaham ? Ai am eu bod yn deyrngarol, yn hedd- yohoi, a llwyddianus ? A vvnai Home Rule dawelu yr^Iwerddon ? A wnai gynyrchu teimlad da yn yr Iwerddon ei hun ? Yr oedd yn rhaid iddynt ateb yr holl gwestiynau hyn yn nacaol. Yx oedd llawer wedi ei ddweyd am undeb calonau rhwng Lloegr R,'r Iwerddoc. A wnai neb mewn aches a angbydfod rhwng gwr a gwraig gymeradwyo ysganaeth fel moddion i gynyrchu undeb calonau ? (Ohwerthin.) A wnai Home Rule hyrwyddo llwyddiant tymhorol yr Iwerddon ? Yn hollol i'r gwrtuwyneb-gyrai gyfalaf allan o'r wlad, ao ychwanegai lawer at ei thrueni presenol. Yr oedd troseddau yn lleihau yn yr Iwerddon dan y weinyddiaethibresenol; a dygodd ymlaen ystadegau i brofi hyny. Yr oedd y L!ywodr- aeth Undebol yn gwir deilyngu cefnogaeth y wlad. Y nesaf i anerch y cyfarfod oodd Arglwydd Charles Beresfordj e, siaradodd i bwrpas. Amddi- fiynodd Gyfraith y Troaeddau fel moddion i gryfbau y gyfraith a gorfodi y bobl i ufuddhau iddi. Pe pasid Home Rule yr oedd yn dweyd wrthynt fel Gwyddel na wnai y Teyrngarwyr ei goddef (the Loyalists would not stand it). (Gymeradwyaetb.) Ni wnaent ufuddhau i'r gyfraith ymladdent, a phe saethid hwynt i lawr eu hunig drosedd a fyddai eu teyrngarwch i'w Brenhines a'u gwlad. (Bloeddiadau o gymeradwyaeth.) Aeth ymlaen i siarad am lest- eiriaeth yn Nhy y Cyffreain ac adgyfnerthiad y Llynges. Cyfarfod rhagorol oedd hwn, a nodweddid yr holl weithrediadau o'r dechreu i'r diweda gan yr unol- iaeth llwyraf. Nis gall na bydd yn godiad ysbryd i'r Undebwyr mewn parthau eraill o'r deyrnas, ac yn anogaeth iddynt i barhtu yn ffyddlon i'w Brenhines a'u gwlad, ao i'w cydtddeiliaid teyrngarol yn yr Ynys. Ni fyn Ulster mo Home Rule yr Ysgarwyr- a dyna ddigon.
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Rhaid i ni erfyn ar ein cyfeillian barddonol fod mor garedig a thalu sylw i'r rheoiau canlynol o hyn allan 1. Defnyddier note paper, ae ysgnfener ar un tu i'r cldalen. 2. Ymdreelier dewis testynau o ddyddordeb cyffredinol. ac aSfaflier tlysni abyrdra yn bytrach na meithder gormodol. 3. N ia gallwn ddychwelyd cyfansoddimiau annerbyniol, na barnu teilyngdod cyfieitlliadau heb weled y gxvreiddiol. Y.MAE y felin yn llawn iawn o yd rhagorol yr wythnos hon. Drwg gan ein calon ddeall fod Pentro ffyddlon yn gorwedd ar ei glaf-wely. Ein dymnniad diffnant yw ar iddo gael adferiad baan i'w ieehyd. T. N. JONES, (Pontardnlaie).—Rhagozol bob darn. Carem i'r beirdd yn gyffredinol ymeatyn at atachel- edd syniadau tebyg i'r eiddoch chwi, Croesaw calon i chwi i'r golofn. Double first class. G. B.—Y mae y ddameg yn swynol iawn. Ymdrechwn gael lie iddi yn e;n nesaf. OWAIN I)INORI'VIG. -.Diol ell i chwi am eich englynion o glod, ond nis gallwn eu cyhoeddi. Y mae arnom ofn ffon yr Hen Domos i ddefnyddio sebon meddal. J. G. (Ynispenllwch)-—Gwan-yd sydd gan y brawd hwn, heb ei nithio na'i graBu. Rhaid g030d ei sach- aid o'r neilldu. Y GYSTADLEUAETH. Wyth o ymgeiswyr o amgylch Shon Chwaren Teg." Awn o'r gwaelod i fyny hyd at y gan oreu fel hyn:- DEINIOX, O'B WIG.—Baledaidd. Llinellau anystwyth, megis, 11 Rhenwcla 'rymrafael," &c. BYTHON.—Y chwaeth yn isel wrth son am "dadll plant, &c. Geiriaa estronol i'r iaith Gymraeg ydynt, 'settlo," sham," rils (race), &c. J. C,-Aros gormod gya,.t l,bwtbyn 3hon." Brawddeg- au anystwyth. Rhy fach o farddoniaath. PICTON.—Y syniadau yn dda, ond wedi en gwisgo yn dra chlogyrnog. Y mae llawer meddylddrych tlwa yn colli ei ragoroldeb oherwydd y wisg ieithyddoI gyffredin sydd am dano. TEITHIWR.—Arwyddion o frya. Nid iawn "bargen dryw." "Dryw" yw wren, onite? Nid da darnio geiiian, megis 'rio'd," c. Er hyn oil y mae llawer llinell gam pus yn y psnillion hyn. LLAI NA'R LLKIAF a FAIR PLAY.-Y mae y ddau hyn yn gyfartal. Talt d y blaenaf sylw i sillebiaeth. Ail- orea. G. B.—Dyma y go. eu, ac iddo ef y rhoddir llawryf bnddguoliaeth y tro hwn. Y TEST?N nesaf yw chwe' penill neu chwe' englyn desgrifiadol o "DDYDD YR ETaOLTAD." I fod mewn lliw erbyn Mai 2il.
SHON CHWAREU TEG.
SHON CHWAREU TEG. (Bnddngol yn ngbystadleuaeth Y LLAN.) Mae llawer Shon yn Nghymru- fychain a rhai'n f3.wr- 0 Shon sydd ar i fyny, I Shon Bydd ar y ilawr: Shon Gorph yn awr yvilx brenin; Ond nid oes un o ddeg Mor Isel yn gyffredin A Shon y Chwareu Teg. Mae Shon o deuiu nchel FU'JI enwog yn y byd Am chwarea teg i'r iael, A'i ddodi mewn lie clyd Syr John oedd teitl Shonyn "Yr amser oedd mor chweg; Yn awr, mae wedi disgyn I Shonyn Chwareu Teg. Bu tarian Shon a'i gleddyf Mor loewon yn y tir,— A Phrydam fel rbyw wyryf, Yn sefyH dros y gwir,— Fel na cheid clywed yma Un Shonyn llydan geg; A'r iaith ymhob cymanfa Oedd iaith Shon Chwareu Teg. Daeth llyffaint Ffrainc i Gymrn Drwy gegin Becca Gceb, J Alr cenin, maidd, a'r llymru A ro'w'd yn nghafn y moch Aeth Cymra'n gaeth i'r estron— Fe'n synwyd gan en rheg A drylliwyd gan y lladron Hoff arf Shon Chwareu Teg. ,Th:Vte'n awr heb gydymdeimlad, Yn byw mc-wil gül; Ni chaiff ro'i amddiffyniad I geffyl nac i fill; Ond pan y daw i fuaitb, Ceir gwe'ted deg o ddeg 0 gan y wlad yn cyfarth A chuoi Shon Chwaren Teg. Y mae dan ddwfn archollion, Ac isel iawn ei barch, A hwylio mae'r gelynion l'w aùodi yn ei [rcb Ond wedi'r ymgynhyrfn, Daw eto ddeg o ddeg 0 holl bnblogaeth Cymru 0 du Shon Chwareu Teg. I>' G. B.
DUW, AWDWR IECHYD.
DUW, AWDWR IECHYD. Dnw'r Goruchaf fedr grea iechyd,-ei ddal Ei ddwyn a'i adferyd Heb anadl Duw bob enyd, A'i hedd ar bawb—snddai'r byd. Ar glaf-wely, Mawrth 29, 1889. PENFRO.
Y CROGLITH.
Y CROGLITH. Ha Wener Croglitb, mae rhyw nefol swyn, Ymhoh llythyren yn dy enw Parhau drwy'r blwyddi i'n hadgono wyt, Or dydd bu Awdwr bywyd farw Y weithrec1 fythgofiadwy hono roea Hynodrwydd arbenigol arnat: Nis gelhr cofio'i ddioddefaint Ef, Heb gofio yn y fan am danat. Pontardolais. T. N. JONES.
Y DEIGRYN.
Y DEIGRYN. Dyferyn a'i lon'd o fawredd—cenad Cyni neu orfoledd Dylanwadol yw nodwedd Ei araeth bur wrth y bedd. Pontardnlais. T. N. JONES.
Y LILI.
Y LILI. Ar wyl ael y der liIi-erys swyn ,rj, bpi y gerddi; Ac er yn rnysg mieri, Rhywiog led ei harogl bi. Pontardulais. T. N. JONES.
Y MEDDWL.
Y MEDDWL. Allnog feddwl! talp o ddwyfol yni, Mae rhyfeddodau fyrdd yn perthyn iti; Nls gallwn eu desgrifio yn-.briodol Tra'n byw o fewn terfynau'r byd materol: Tydi yw tad pob gwyddor a cheifyddyd, Mae pobpeth wrth dv archiad braidd ondbj wyd, Gafaeli yn y fellten fforchog anwar, A gwnei hi'n neges-gludydd ewyllysgar Mae pob creadur drwy y greadigaetu Yn talu iti deyrnged o warogaeth. Chwitn deithiwr wyt, esgyni hyd y lleuad, A deui'n ol o'th ymdaith bell mewn eiliad, Yr ydwyt weithiau'n tremio i'r dyfodol, Dychweli adeg arall i'r gorphenol: Ni chei arosfa'n unman i dy foddio, Awyddus wyt am arall fyd i drigo, Oherwydd mae'r byd yma yn rhy fychan I ti gael lie i ledu'th eagyll llydan. Etitedd anfarwoldeb, o dy rwymau Gollyngir di yn fnan gan law angau, Am hyny 0 cysegra dy dalentau I wasanaethu'th Grëwr, Duw y duwiau. Pontardulais. T. N. JONES.
Y WLADEA.
Y WLADEA. Yn y Buenos Ayres Standard am Chwefror 21ain, ceir yr ohebiaeth a ganlyn.—Ydwyf, yr eiddoch yn wladgar, MICHAEL D. JONES. Y Gwir am y Garnwy-Cynydd Sefydlog y Wladfa -Tramffyrdd a Chynlluniau Porthladdol- Stanley y Camwy. [ODDIWRTH EIN GOHEBYDD EIN HUNAIN.] Am fy mod yn gwybod y dawr a gymerwch yn nghynydd y Wladfa, anturiaf anfon i chwi rai man ylion a ddengys i'ch darllenwyr, yr hyn sydd wedi ei wneyd drwy amynedd a dyfalbarhad y Cymry yn nyffryn pelienig Camwy. Mae'r Wiadfa. yn cynyddu yn sefydlog, ao y mae y cynydd yma yn cael ei gynyrchu gan undeb a chaledwaith y sefydlwyr. Y maent wedi gwneyd camlesydd dyfrhaol, y rhai a fesurant chwech llech ar hugain (78 milldir) o hyd, heb son am y cangen- ffos/dd sydd yn troi at y gwahaaol dyddynod, y rhai y tyfcir eu bod gyhyd ddwywaith a'r cyffgamlesydd. Mae argae befyd ar draws yr afon, a phont grogedig. Talwyd am y rhai byn bob gymorth oddiallan. Mae'n wir fod cwmni y rheilffordd wedi rhoddi iddynt amser i dalu am ddefnyddiau yr argae, ond wrth WDeyd hyny nid oedd y cwmni yn mentro dim y cacnt un golled, gan fod yr holl randalwyr yn meddu ffermydd ac yn dda allan. Mae wyth-ar-hugain o beirianau dyrnu yn y Wladfa, tair o felinau peilliaid, a ihyw ddeg a thri ugain o glymfedelau {binders). Mae yno nifer mawr o feni Americanaidd, certi, &c. Er mwyn difyru, y mae yno chwe' perdoneg, a chynifer a hyny, os nad rhagor, o felodegau (har- moniums), offerynau seindorf pres, dwy neu dair o delynaa, a chrytbau yn aneirif. Hefyd, cynhelir yno eisteddfodau cyfnodol a chyngherddau. Gellir tybio wrth hyn mai nid gwaith yw hi yno o hyd, heb ddim difyrwch. Mown perthynas ag addysg y mae yn cael syhv neillduol yn bresenol, gan fod dros 85 y cant o'r boblogaeth yn gallu darllen ac ysgrifenu. Mae cynllun yn awr ar droed i ddefnyddio y cam- lesydd dyfrhaol at yr amcan o gludo. Ni chostia hyn ond ychydig, gan fod y prif neu y cyff-gamlesi yn ddigon llydan, ond mown rhai manau, a rhaid gosod Hoc yma a thraw. Mae cynllun tramffordd a phorthladd o flaen y llywodraetb, am yr hwn y gobeithir cael adroddiad ffafriol, ac y pasir ef ar unwaitb. Mae yr arian i dalu am y gwaith a'r defnyddiau yn barod, yr eiliad y caniatair y reithrodd (conassion) yma. Mae y lheilffordd yn bresenol yn gweithio yn foddhaol. Er fod y draul yn fawr, y mae ffordd wedi bod o wasanaeth i'r Gwiadfawyr, drwy ddwyn y cynyrch yn gynt i'r farchnad nag mewn un ffordd arall. Ni fydd y enwd gwenith eleni gymaint a'r llynedd. Nid yw hyn i'w briodoii i unrbyw ddiffyg yn nghyf- undrefn y dyfrhau, nag am fod malldod yn y grawn, ond yn unig am na hauwyd gymaint a'r llynedd. Bydd eleni tua 5,000 o dunelli, neu 45,000 fanega (lachaid). Yr aydig amser yn ol, trefnodd Mr. J. M. Thomas ymgyreh er gwneyd sefydliad yn nhroed yr Andes, i'w alw yn Gwmhyfryd. Yr oedd y cwmni yn gynwysedig o 50 o ddynion, 12 m6n, 350 o geffylau a mulod, 25 o wartheg, ao befyd ymborth am haner blwyddyn. Hwn oedd yr ymgais cyntaf i gymeryd meni o'r Camwy i'r Andes. Prophwydai pawb am helbulon lawer, os nad methiant llwyr. Dywedai rhai y oymerid haner blwyddyn ar y daith, ao eraill nad elent haner y ffordd yn hyny o amser, ao y gor- fodid hwynt o'r diwedd i fyned at yr hen gynllun o gludo ar geffylau. u Yr oedd yr ymdeithwyr yn cychwyn yn dra. gobeitbiol yr elent yn llwyddianus. Yr oedd y gwyr yn bur benderfynol o weithio yn galedigael eu clud- feni i'r sefydliad newydd. Byddent felly yn alluog i gymeryd eugwragedd a u plont yn gysurus yno, ac hefyd lawer o bethau n.ad ellid eu cymeryd ar geffylau. Teithiwyd yn araf iawn y deuddydd neu'r tri cyntaf, am fod y paith yn bynod wlyb. Croesasant yr afon Chico mewn pum' niwrnod o daith o Dre Rawson. Mae'r afon yn ddofn, a ffrwd wyllt ynddi yr amser yma o'r flwyddyn; felly gorfodwyd y teithwyr i gymeryd y cychod a gymerasant ar olwynioja. Croeswyd pob peth yn ddiddamwain. Mae dyffryn y Rio Chico yn bynod o gul, ond y mae yr ychydig dir sydd yno yn hynod ffrwythlon. Yr oeddent yr amsor yma yn agos i'r cymer neu gydiad y ddwy afon, a'r daith nesaf daethant ar draws y Camwy, a theithiasant gyda hi nes dyfod yn agos i'r "Bryniau." Gorfu arnynt aros yma i wneyd ffordd dramwyol i'r meni, a chymerasant rai dydd- iau at hyn. Nid oedd hwn ond un man o lawer y gorfu arnynt weithio. Buont ar y ffordd un di- wrnod ar ddeg a thriugain. Yr oedd y dynion yn rhai rhagorol, a phan yn rheidiol hwy a weithiasant yn egniol. Ni chymerodd unrhyw anghydwelediad le o gwbl. Heblaw ffyrdd, gorfu arnynt wneyd pontydd draws afonydd o'r mynyddau, y rhai y gellir eu tramwy ymhen ugain mlynedd. Gobeithiant yr ystyria'r Llywodraeth y draul yr aethant iddo, ac y telir hwynt am eu llafur, Pan y ditethnnt at droed yr Andes, gwelsant golofn fawr o fwg yn ymdorchi, yr hon a achosid, fel y tybid, gan yr Indiaid yn tanio'r wlad. wrth bele. gwartheg gwylltion, ond i fod yn sici, pigodd Mr. Thomas ddeg o ddynion wedi eu hatfogi yn dda, a chyda'r rhai hyn. a'r Comisario, cymerasant gad- olwg ar y tan, a daethant ur draws pump o Indiaid ag oeddent yiri hela gvvaitheg, a ehawsant bump ar hugain o honyat mewn corlan yn hollol ddofion. Ni wnaeth y Cymr-y ddim i'r Indiaid mewn un modd, ond cynghorasant iddynt ddiffodd y tan, a pheidio tanio y goadwig yn rhagor. Ar y 19eg o Dachwedd, 1888, cyrhaeddodd yr ym- gyrchwyr^y fan yr oeddent oil i gydgyfarfod, cyd- rhwng mynyddau wedi eu cuddio ag eira yn lisdred deheuol 43 a hydred gorllewinol 72, ac yr oedd y gwres yn 80 gradd yn y cysgod. Yr oedd y coed mefus a orchuddient y llawr yn eu llawn flodau, ac felly yr oedd coed rhyfon (citrrants).. Hefyd y culaffate a choed Srwythau eraill. Yn ymyl penant, ceid digon o'r rheonllys (rhubarb), berw'r dwfr, &c. Yr oedd bedw duon, coed fer, pinwydd, onen, cedr- wydd, a shypreswydd yn y florestydd. Yr oedd yno ddigonedd o wartheg gwylltion. Yn yr haf Ant i gymydogaethau yr eira i'r mynyddoedd, ac yn y gauaf deuant i'r iseldiroedd. Ceir helwriaeth arall ddigonedd yno, ceirw, gwanacod, estrysod, pumod, a hanimul, &c. Mae hyn yn gaffaeliad mawr i sefydl- wyr newyddion, gan ei fod yn diogelu digon o gig iddynt, heb ladd eu hanifeiliaid dofion, y rhai yn y diriogaeth ffrwythlawn yma a ddeuant o leiaf a haner cant y cant o elw yn fwy nag yn un man arall o diriogaeth Camwy. Ar yr 20fed o Dachwedd, cwhwfanwyd y faner Archentaidd, a chyfarchwyd hi Ag un-ar-hugain cawod o ergydion, a chanwyd yr anthem genedlaethol yn yr Hispanaeg a'r Gymraeg, a rhoddwyd banllefau dros Juaraz Celman, a'r Llywydd Fontana, a'r Werin- iaeth Arianin. Cyfarchodd y Comisario dros y Llywydd Fontana, y blaenor, J. M. Thomas yn, yr ymgyrch presenol, a'i gymdeithion, gan eu canmol am eu gwrolder a'u hyni, yn gorchfygu blinderau ac anhawsderau'r daith o oror y Werydd i'w safle pres- enol, a gobeithiai y byddent yn llwyddianus a dedwydd yn eu cartref newydd. Ar ol hyn cawsant wledd, a saethu at gasgal, bolio, rhedegfeydd, &c. Pasiwyd y dydd yn bleserus i'r rhai oeddent yn cy- meryd rhan yn y gwaith. Ar yr 21ain o Dachwedd, dechreuodd y Gwiadfawyr weithio o ddifrif, a chy- mynasant gced i wneyd corlanau, tai, ffiniau, &c., a dewiswyd chwecb o ddynion yn helwyr i gasglu ymborth i'r cwmni. Cychwynodd Mr. J. M. Thomas drwy'r dyffryn ilr Gogledd, i archwilio'r diriogaeth anadnabyddus rhwng Cwmhyfryd a'r Camwy, a gorfu arno fyned ar hyd aberoedd at dor y ceffylau am haner diwrnod, wrth doithio ar hyd y Camwy ger y gadwen fynydd- oedd sydd yn Choelila, am nad allai deithio glanau yr afon y rhai oeddynt'yn rhy goediog. Ar ei ddy- chweliad pasiodd heibio Chubut Gush, ac yna drwy ddyffryn Teleje, a chroesodd yr afon Lipa, a chyr- haeddodd Eskall ar y nawfed dydd. Yma cyfarfydd. odd a. dynion ag oeddent wedi myned i chwilio am dano, gan ei fod bum' niwrnod yn hwy nag y dis- gwylid. Mae y peithiau y lleolwyd y sefydliad newydd yn rhagorol, a digon o goed, gwabanol fathau o goed ffrwythau, a dwfr-rym a ellid ei ddefnyddio at felinau blawd neu goed. Mae arwyddion o fwnau, a phe byddai daearegwr ymarferol yn ymweled a'r gororau hyn, diau y telid ef yn rhagorol am ei anturiaeth mewn darganfyddiadau pwysig. Mae cynllun ar droed i agor florcld, i Chili o'r sefydliad yma. Mr. J. M. Thomas yw'r arweiniwr yn y mudiad yma. Bwriada gychwyn ar ol toddiad yr eira, dyweder yn Awst, i agor ffordd naill ai ar hyd y dwfr neu ar hyd y tir, Tybia, ar ol iddo Iwyr archwilio'r gororau yma, y gall fyned i Chili mewn deuddydd. Os felly, bydd hyn yn gaffaeliad anmhrisiadwy i holl sefydl- iadau troed yr Andes, a bydd y sefydlwyr yn alluog i werthu eu nwyddau yn llawer mwy manteisiol na thrwy eu hanfon i'r Camwy drwy Buenos Ayres. Ar ol trefnu gwaith dyfodol y sefydliad, ac ar ol treulio rhai wythnosau yn y lie, cychwynodd Mr. J. M. Thomas tua Thre Rawson, ac i brofi pa faint o amserid i ddychwel ar hyd y ffordd newydd, cymer- odd bedrolfen a cheffylau at y daith. Cymerwyd 71 dydd i fyned yno o'r Camwy, ond deuwyd yn ol mewn 17 diwrnod. Yr osdd hyn yn cynwys pedwar dydd o arosiad, fel na theithiwyd ond am 13 dydd. Dyma brawf ymarferol o'r hyn a ellir ei wneyd drwy drefsiu yn dda i orchfygu anhawsderau. Wedi iddo gyraedd Dyffryn Camwy, llongyfarchid ef gan bawb ar ei lwyddiant. Dyma oedd y pumed ymgyrch a drefnodd Mr. Thomas ac a'u cariodd allan yn llwyddianus yn Nyffryn y Camwy.
[No title]
Rhydd y Stubbs' Weekly Gazette nifer y meth- daliadau yn diweddu y 6fed o'r mis hwn fel y canlyn 1889. 1888. 1887. Builders and building materials.. 13 11 12 Chemists anddrysalters. 6 3 3 China, glaBa, and earthenware. 2 2 2 Confectionery, toys, fancy goods.. 3 4 — Corn, coals, and minerals 8 5 3 Drapery, clothing textures 23 18 12 Farmers 9 8 9 Furniture and upholstery trades.. 3 2 6 Horses and vehicles 2 4 2 Jewellery and watches- 2 1 3 Leather 12 3 3 Metals. 9 4 5 Paper, printing, tfc 1 1 5 Provisions 33 21 16 Wines, spirits, beer, tobacco 10 13 6 Miscellaneous 38 16 24 174 116 112
[No title]
A CARD.—AN IMPORTANT DISCOVERY is announced in the Paris Figaro," of a valuable remedy for nervous debility, physical exhaustion, and kindred complaints. The discovery was made by a missionary in Old Mexico it saved him from a miserable existence and an early grave. The Rev. Joseph Holmes, Bloomsbury Mansions, Bloombury Square, London, W.C., will send the prescription, free of charge, on receipt of a self addressed stamped envelope. Mention this paper.