Hide Articles List

9 articles on this Page

£ eu>8tftion (Ctiffifamol.…

News
Cite
Share

£ eu>8tftion (Ctiffifamol. DAMWAIN ANGEUOL I GYMRO YN LANCASHIRE. -Cyfarfyddodcl Owen Williams, o Farnworth, & marwolaeth echrydus yn Bolton, dydd Mercher. Yr oedd yn pacio o dan ferwedydd yn pwyso again tunell, pan yn sydyn y syrthiodd y berwed- ydd ar ei ben. Wrth gwrs, lladdwyd ef ar un- waith, ond buwyd am tuag awr cyn cael ei gorph yn rhydd. MARWOLAETH SYDYN FFEBMWK YN MON.- Dydd Mercher, cynhaliodd Mr. R. Jones-Parry drengholiad ar gorph Evan Parry, 71 mlwydd oed, Ty Cobbi, Llanrhyddlad. Darganfyddwyd y trancedig yn farw yn ei wely y boreu Sadwrn blaenorol; ond cwynid fod ei wraig yn ei esgenl- uso a'i gamdrin. Dychwelwyd rheithfarn. o Farwoleeth oddiwrth achosion naturiol," a cheryddwyd y weddw yn llym. Y LLOFRUDDIAETH YN MANCEINION.— Mown canlyniad i ymbiliad y rheithwyr ar ran y c ar. cbaror Parton, yr hwn a ddedfrydwyd l farwol- aeth am y llofruddiaeth yn Manceinion, dygwyd deisebau o amgylch o'i blaid, gan osod allan nas gallai y carcharor wybod am natur beryglus y gwenwyn, ac yn dadleu ei ieuenctyd fel rheswm dros arbed ei fywyd. Dydd Sadwrn diweddaf derbyniwyd llythyr oddiwrth yr Ysgrifenydd Cartrefol, yn dweyd fod ei Mawrhydi wedi gweled yn dda i atal y ddedfryd o ddienyddiad, ac yn ei lie i'w gadw yn ngbarchar yn ol pleser y Fren- bines. ETHOLIAD BIRMIGKAM.—Y mae penderfyniad Arglwydd Randolph Churchill i beidio cydsynio i'r cais i sefyll ymgeisiaeth dros Ganolbarth Birmingham, lie a gynrychiolid gan y diweddar Mr. Bright, wedi rhoddi boddlonrwydd cyffred- inol drwy y wlad, ond y mae Ceidwadwyr y ddinas yn lied siomedig. Cydsyniodd Mr. J. A. Bright, mab y gwr enwog ymadawedig. i sefyll fel ym- geisydd Undebol, ac y mae y Blaid Geidwadol yn cyd-weithio ar ei ran gyda rhagylygon ar- dderchog. Ei wrthwynebydd Gladstonaidd fydd cyfreithiwr o'r enw Mr. Philpson Beale, Q.C. DAU BLENTYN WEDI LLOSGI I FAITIVOLAE, TU YN RHUTHYN. Cynhaliwyd trengholiad dydd Mawrth, yn ngwesty y Labour-in-vain, Llan- fwrog, gan Dr. Evan Price, a rbeithwyr, ar gorff Anne Ellen Jones, pedair blwydd oed, geneth fach Maria Maria Jones, Mwrog Street, yr hon a gyfarfyddodd 'a'i marwolaeth o dan amgylchiadau difrifol. Boreu dydd Llun yr oedd ar y fam eisiau myned allan i neges, a gadawodd yr eneth bach yn y ty, ynghyd & baban blwydd oed^ yn y cryd. Rhag ofn i'r feehan fyned allan i'r heol, clodd ei man y drws ffrynt. Tybid i'r plentyn, yn ystod ei habsenoldeb, fyned i chwaren &'? tan, a thrwy hyny roddi ei hunan a'r cryd a'r d&n. Bu y fechan farw yn uniongyrchol. Pasiwyd rheithfarn o Farwolaeth ddamweiniol."—Dydd Iau, dracbefn, cynhaliwyd trengholiad ar gorff y baban, yr hwn a fu farw y dydd blaenorol oddi- wrth effsithiau llosg, a phasiwyd rheithfarn gyffelyb. DAMWAIN ANGEUOL I GYMRO YN AMERICA.— Oddeutu chwech o'r gloch, nos Sadwrn, yr 2il cy- fisol, cyiarfu Cymro o'r enw Owen Emwnt Wil- liams a/i ddiwedd mewn modd tra sydyn ac an- nisgwyliadwyj yn Gagnon Mine, Butte City, .Montana, sef tiriogaeth berthynol i'r Unol Dal- eifchiau i'r gorllewin o Dakota ac yn ymylu ar Canada. Mvvnwr ydoedd, ac ar y pryd gweithiai ef a'i fachgen Willis, yr hwn sydd oddeutu dwy ar bymtheg oed, ar v/yneb y No. 4 Stope yn y Sixth Hundred Foot Level. Yr oedd Willie yn llenwi bsrh a mwn, a'r tad wrth y gorchwyl o bigo y waste allan ac yn sefyll ar yr ochr nesaf i'r hanging wall, pan, yn hollol ddirybudu, y daeth rhan o'r brig i lawr gan ei ladd yn y fan. Bernir i oddeutu tair. tunell ddisgyn arno. Brodor yd- oedd o Tregarth, ger Bangor, a mab i'r diweddar Owen Emwnt, Craigypandy, yn yr ardal bono. CladdvVyd ef y dydd LInn canlynol, pryd y daeth tyrfa liosog ynghyd. Gadawodd ar ei ol wraig a saith o blant. CYNLLUN HONE DIG I FRAD-LOFRUDDU TYWYSOG CYMRU.—Darfa i Dywysog Cymru ymweled dydd Sadwrn & Leicester i fod yn bresenol yn y rhed- egfeydd. Derbyniodd y Prif-gwnstabl Duns, yn ystod y nos, lythyr dienw, i'r perwyl y gwneid cais i tradlofruddio y Tywysog. Er nad oedd yn edrych arno yn beth difrifol, cymerodd bob gofal a goehelgarwch. LLYTHYR ODDIWRTH MR. STANLEY.- Treiddio i Anialdiroedd Affrica.-)Dyaa Llun, wythnos i'r diweddaf, ar ol crva ysbaid o bryder ac anes- mwythder, derbyniwyd llythyr gan Mr. A. L. Bruce, Edinburgh, yn uniongyrehol oddiwrth Mr. Stanley. Mae yn ddyddiedig Bungawta Island, Itun River, Awst 28ain, 1888. Ymddengys oddi- wrth y llythyr maith a dyddorol hwn fod yr ymdrech yma er estyn cynorthwy i Emin Pasha wedi bod yn bynod lwyddianus o Mebefin 28ain, 1887, hyd ddiwedd Awst yr un flwyddyn. Or dyddiad hwn y mae helbulon Mr. Stanley yn dechreu. Yn ystod y tri diwrnod cyntaf encil- iodd 26 o'i ddynion, a phrofodd Medi ei hunan yn fis nas anghofir mohono byth gdn Mr. Stanley a'i ddilynwyr, ac erbyn cyraedd trefedigaeth o'r enw Killings Longo ar Hydref ISred, o'r 363 o ddilyn- wyr oedd ganddo ar y cychwyn cafwyd fod 81 wedi ercilio neu farw o newyn. Eu hymborth yn ystod yr amser yma ydoedd ffrwythau gwyllt a math o ffa. Daeth y dynion mor weiniaid erbyn hyn fel y gorfodwyd hwy i adael y eweh a'r nwyddau a gludent o dan ofal Mr. Parke, meddyg, a Chadben Nelson. Wedi gorphwyso enyd ail- gychwynwyd drachefn, ac ymhen deuddeng niwrnod cyrhaeddwyd Ibwiri, pryd y cafwyd fod y lie hwn wedi ei ddarostwng a'i anrbeitbio gan Arabiaid, pari oeddynt wedi bod yn elyniaetbus iawn i Mr. Stanley o'r cychwyn. Erbyn hyn, nid oedd yn aros ond 174 o ddynion. Gan fod yna ddigonedd o fwyd sylweddol i'w gael yn y lie hwn gorphwysodd Mr. Stanley a'i ddynion yma am dri diwrnod ar ddeg. Tachwedd 24ain, cychwynwyd tua Albert Nyanza, pellder o 126 milldir. Erbyn y 9fed o Ragfyr, cyrhaeddwyd tiriogaeth pen.9,.r,. eYi Mazamboni. Er gwaethaf holl ymdrechion Mr. Stanley i geisio myned yn ei fiaen yn heddychlawn, mynai y brodorion ymladd Ag ef, a'r canlyniad o hyfiy fu brwydr waedlyd. Lladdwyd amryw o'r gelyn, a gyrwyd y gweddill ar ffo. Oddeutu un o'r gloch, Rhagfyr 13eg, dywedodd Mr. Stanley am i'w ddynion wneyd eu hunain yn barod i gael yr olwg gyntaf ar y Nyanza. Amheuai y dynion ei air, oad ymhen haner awr wed'yn wele y llyn is. law iddynt. Yn y fan yma eto ymosodwyd arnynt gan y brodorion. Wedi gorphwyso ychydig, penderfynodd Mr. Stanley anfon nifer o'i wyr i gyrchu y cwch a adawyd ar ol i Ibwiri, yr hwn le a gyrhaeddwyd erbyn Ionawr 7fed. Yn mhen ychydig ddyddiau anfonwyd yr Is-gadben Stavis a chant o ddynion i gyrchu y eweh a'r nwyddau. Allan o'r 38 a adawyd gyda Mr. Parke a'r Cadben Nelson, yn Kilonga Longas, nid cedd ond un ar ddeg ar gael yn awr; yr oedd y gweddill wedi meirw neu encilio. Yr adel- yma cymerwyd Mr. Stanley yn glaf, ond wedi gor- phwyso am fis galluogwyd ef i fyned yn ei flaen drachefn tua Albert Nyanza. Ebrill 26ain, cyr- haeddodd i diriogaeth Mozambin ond erbyn hyn yr oedd y penaeth hwnw yn awyddus am ddyfod i delerau heddwch, a dilynwyd ei esiampl gan yr holl benaethiaid eraill. Y diwrnod nesaf cyr. haeddwyd Kavali, gan yr hwn y cafodd Mr. Stanley nodyn oddiwrth Emin Pasha. Ar y 27ain o Ebrill, cyrhaeddwyd y lie yr enciliwyd oddiyno ar Ragfyr 16eg, ac oddeutu pump o'r gloch y diwrnod hwnw canfyddwyd yr agerlong "Khedive" yn gwneyd ei ffordd tua'r man y safai Mr. Stanley a'i ddynion. Erbyn saith o'r gloch cyrhaeddodd Emin Pasha y wersyllfa, pryd y cafodd groesawiad gwresog. Wedi hysbysu beth oedd amcan ei ymgyrch, dywedodd Emin Pasha nas gallai weled ei ffordd yn glir i adael y diriogaeth, gan ei fod yn credu y byddai yn fwy o les i wareiddiad a masnach pe yr arhosai yn y man lie yr ydoeud, ac hsblaw hyny nis gallai weled yn glir pa fodd y gallai yn hawdd ddiwallu anghenion y nifer mawr oedd dan ei ofal pe buasai yn ymgymeryd &'r hyn a gynygiai Mr. Stanley. Modd bynag, aiMawodd y byddai iddo roddi ail-ystyriaeth i'r mater, a xhoddi ei atebiad terfynol i Mr. Stanley ymhen dan fis yn Fort Bodo. Felly, aeth y ddau i'w ffordd ei hun. Os ydyw pobpoth wedi myned ymlaeu vn llwydd. ianus, fel y gobeithir eu bod, mae y ddau wedi eyfarfod eilwaith, ac nid oes ond amser a ddengya beth fydd canlyniad yr ail-gyfarfyddiad. Da genym ddeall fod Mr. Stanley a'i wyr mewn iechyd da yr adeg yr ysgrilenodd y llythyr. Y DDIRPRWYAETH BARNELLAIDD.—Yn eisteaa- iad y Ddirprwyaeth Arbenig uchod dydd Ian, ai agorodd Syr Charles Russell ei araith dros yr ochr amddiffynol. Dywedodd mai amcan Cyng- rair y Tir oedd gostwng rhenti uchel, amddiffyn y rhai hyny y bygythid en troi o'u ffermydd am na fedrent dalu rhenti anghyfiawn, ac i gael di. wygiad yn neddfau y tir; ac os oedd hwn yn fradwriaeth droseddol yr oedd yn gwahaniaethu oddiwrth bob bradwriaeth y gwyddis am dani. Y mae yn wir fod drygau wedi bod ynglyn & gweith- rediadau y Cyngrair, ond yr oeddynt yn anoehel- adwy mewn pob symudiad o'r fath, ac nid oedd unrhyw gynhyrfiad mawr wedi cael ei ddwyn ymlaen yn Lloegr heb ddrygau o'r fath. Nis darfu i Mr. Parnell ar y dechreu gydsynio i fÏnrf- iad y Cyngrair, ond ar ol hyny ymunodd &g ef yn galonog, a daeth yn llywydd; ac wedi i niwi rhagfarn glirio ymaith, cydnabyddid Mr. Parnell fel wadi ehwarell rhan gwladweinydd. Dywed- odd fod yr hyn oedd wedi cael ei wneyd gan y Cyngrair yn gyfarwyddiadol; ac fod y wlad wedi syrthio i gyflwr gwaeth pan y darlethid ef gan y Llywodraeth. Siaradodd y dadleuydd dysgedig. yn helaeth i gondemnio Deddf Gorfodaeth 1881, a beirniadodd Deddf y Tir am y flwyddyn yma. Yna gohiriwyd y llY8 hyd dydd Mawrth.- Gofynodd Syr Charles Russell, cyn i'r Dirprwy- wyr adael eu lleoedd, am orcbymyn i ddwyn Mn. O'Brien a Harrington o flaen y Dirprwywyr, a chaniatawyd hyny. MORWYR 0 FON AC ARFON MEWN ENBYDRWYDD.— Nos Sadwrn diweddaf, oddeutu wyth o'r gloch, cymerodd gwrthdarawiad difrifol le ger y Beachy Head, English Channel, rhwng y Nordenland," agerlong ymfudol perthynol i Gwmni y Red Star, a deithia rhwng Antwerp a New York, a'r brigantine Carrie Dangle," perthynol i Lerpwl yr hon oedd yn rhwym o Borthmadog am Ham- burg, gyda llwyth o lechi. Llywydd y Carrie Dangle ydyw Captain Charles Roberts, PreswyL fa, Garth Road, Bangor, a'r mate oedd Mr. Wil- liams, o Amlwch. Yr oedd ar fwrdd y I I Norden. land adeg y gwrthdarawiad dros ddeuddeg cant o ymfudwyr. Teithiai yr agerlong gyda chyflym- dra mawr, ac er i ddwylaw y brigantine ei chan. fod o gryn bellder, methasant er pob ymdrech a galw sylw ei dwylaw er osgoi y gwrtlidarawiad. Ar ol i'r agerlong daraw y brigantine yn ei starboard botv, pasiodd heibio am oddeutu milltir o bellder cyn y gallwyd ei hatal a'i throi yn ol. Suddodd y Carrie Dangle ymhen dwy awr. Yn ffodus, modd bynag, ni chollwyd un bywyd. Enwau y gweddill o ddwylaw y Carrie Dangle" y rhai a laniwyd yn ddiweddarach yn Dover ydywRobert Roberts, Amlwch; William Davies, Caernarfon; William Mathews, Caernar. fon, a John Thomas, Red Wharf. — — ■■■■

MAEW QL A.ETEL

YR ARSYLLFA. ; I

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

ERGOB TRURO.

AGORIAD YSGOLDY NEWYDD YN…