Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

NODIADAU SENEDDOL. ! .1

DAMWAIN OFNADWY YN Y 1 SlANEL.

- ICEIL)WADWYR SIR GAERNARFOJf.

News
Cite
Share

CEIL)WADWYR SIR GAERNARFOJf. Prydnawn dydd Sadwrn diweddaf cynhaliwyil cyfarfod blynyddol y gymdeithas uchod. Yn absenoldeb Mr. Nanney, cadeirydd y gym- deithas, yr hwn sydd ar y Cyfandir, etholwyd y Milwriad West i'r gadair. Darllenwyd llythyrau oddiwrth Milwriad Piatt, Mri. O. Lloyd Evans, W. B. C. Jones, E. Wyatt, a Richard Thomas, yn amlygu eu gofid oherwydd eu hanallu i fod yn bresenol. Y busnes cyntaf ar y rhaglen oedd etholllywydcl y gymdeithas am y flwyddyn ddyfodol, ac ar gynygiad Mr. R. Hughes Pritchard, yn cael ei eilio gan Mr. T. Dutton, Trefriw, ail-etholwyd Mr. Ellis Nanney gyda brwdfrydedd mawr. Fel archwiliwr y cyfrifon ail-etholwyd Mr. G. R. Rees, Old Bank, Caernarfon, yr hwn sydd wedi gwasanaethu y swydd i foddlonrwydd cyffredinol yn ystod y pedair blynedd diweddaf. Darllenwyd ystadegau gan yr ysgrifenydd yn dangos fod y gymdeithas mewn sefyllfa arianol flodeuog, ac fod gweddill sylweddol yn llaw y trysorydd ar ol talu holl dreuliau y flwyddyn. Galwodd Mr. Owen sylw at y ffaith fod yr ar- ddangosiad mawreddog a gynhaliwyd er dathlm ymweliad Ardalydd Salisbury wedi troi allan yn llwyddiant perffaith, ac na chostiodd i'r gym- deithas ond £ 33, gan fod boneddigion y sir wedi tanysgrifio yn haelionus tuag at gario allan y trefniadau. Yr oedd yn gallu liongyfarch y gym- deithas ar y ffaith tod yr arddangosiad y mwyaf mawreddog a gynhaliwyd erioed yn Ngogledd Cymru, ac wedi dylanwadu er daioni i achos Ceidwadaeth yn y parth hwn o Gymru. Dangoswyd fod y Ceidwadwyr wedi gwneyd enill clir ar yr etholrestr newydd yn rhanbarthau Arfon ac Eifion, ac fod y blaid yn parhau i lwyddo drwy'r sir yn gyffredinol. Yr oedd yr adroddiadau o'r gwahanol ddos- barthiadau gwledig yn hynod addawol, ae yn dangos yn eglur fod y clybiau Ceidwadol a sef- ydlwyd yn y gwahanol bentrefydd yn gwneyd gwaith da ac yn sicr o fod er daioni mawr yn y dyfodol. Ymdriniwyd a gwahanol faterion a gryn ddyddordeb yn ystod 5 prydnawn, a chync terfynu y cyfarfod cynygiwyd gan y Milwriad Sackville West, ac eiliwyd gan Mr, T. H. Owen, fod pleidlais 0 gydymdeimlad a. theulu y di- weddar Wir Aarhydeddus John Bright gael ei phasio, yr hyn a dderbyniodd gymeradwyaeth un- frydol y cyfarfod. Pasiwyd hefyd bleidlais o ym- ddiried yn y Llywodraeth. Ac ar ol talu dioleh i'r Milwriad West am lywyddu, a phasio y diolch- iadau arferol, terfynwyd y cyfarfod.

BRAWDLYS SIR GAERNARFON.