Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

NODIADAU SENEDDOL. ! .1

DAMWAIN OFNADWY YN Y 1 SlANEL.

News
Cite
Share

DAMWAIN OFNADWY YN Y SlANEL. Nos Sadwrn diweddaf bu damwain ofnadwy trwy wrthdarawiad dwy agerlong yn y Sianel rhwng Dover ac Ostend, yr hyn a barodd golliad un ager- long ynghyd a phedwar-ar-ddeg o fywydaa. Yr oedd yr agerlong Ffrengig, Comtesse," o Flanders, wedi gadael Ostend foreu Gwener gydag ugain o deithwyr ar ei bwrdd, a daeth i gyfarfyddiad ag agerlong arall, "Princess Henriette," yr hon oedd wedi gadael Dover oddeutu yr un adeg am Ostend. Yr oedd yr hin yn niwliog ar y pryd, ac ni ddaeth y ddwy ager. long i olwg naill y llall hyd nes yr oedd yn anmhosibl osgoi gwrthdarawiad. Rhedodd y "Princess Henrietta yn erbyn yr agerlong arall, gan ei thori o'r bron yn ddwy. Dywedir fod y berwedydd wedi ¡ cael ei ddryllio fel y bu ffrwydriad sydyn ac ofnadwy. Yr oeddynt oddeutu 22 o filldiroedd o Ostend ar y pryd. Yr oedd yr Henriette wedi amrywio ych- ydig ar ei chwrs er clirio cwch pysgota oedd ar ei ffordd a thebygir fod y Comtesse yn gwneyd yr un modd. Ar ol y gwrthdarawiad darfu i'r Henriette" ymryddhau oddiwrth y llestr arall. Yr oedd y cadben ar y dec ar y pryd, a thebygir iddo I gael ei ladd gyda'r ffewydrad. Yr oedd bachgen ao un o'r criw ar y bont ar y pryd, a tbrwy iddynt neid. io ar y rhan ol o'r llestr, yr hon oedd yn nofio, achubwyd hwynt. Cafodd y mate ei ladd mewn ofnadwy yn ei gaban, a thebygir fod y thai oeddynt yn yr engine-room wedi eu lladd yr un modd. Cadwyd yr haner ol&f o'r Hong yn nofio ohe^wydd y water-tight compartments. Un o'r rhai olaf i adael y bwrdd ydoedd y Tywysog Jerome Bonaparte, yr hwn oedd yn un o'r teithwyr, ac un o'i weision yr hwn a anafwyd. Cafwyd hefyd foneddiges yn un o'r ystafelloedd wedi ei niweidio, a llwyddwyd i'w hachub hithau. Cafodd un o weision y tywysog ei ladd, ond dygwyd ef i'r lan. Y mae Cadbonyr "Henrtètte" yn tystio ei fod ef wedi bod yn ofalus i ddilyn y rheol o chwibianu bob tri munyd fel y gwneir yn ystod niwl. Yr oedd 240 griw ar y "Comtesse," as ymhlith y teithwyr yr oedd tri neu bedwar o Saeson un boneadwr o Fanceinion, yr hwn a dystia ei fod yn y caban pan y clywodd y cynwrf ar y dec, ac iddo redeg i fyny. Yr oedd y cadben a'r mate ar y bwrdd yn gwneyd eu goreu i atal cyffro yn mblith y teithwyr. Yr oedd y ddwy lestr wedi dyfod mor agos i'w gilydd fel nas gellid gwneyd dim i osgoi y ddamwain. Yroedd y Princess flenriette" yn llostc llawer mwy na'r llall, a daeth yn erbyn y Comtesse gyda'r fath nerth fel y torodd hi o'r hron yn ddwy. Yr oedd rhai o'r merched ar y bwrdd ar y pryd, ac yr oedd y peth mor sydyn fel ag yr oedd pawb wedi syfrdanu cyn deall yn iawn beth oedd wedi digwydd. Cafodd rhai o'r dwylaw a'r teithwyr eu hachub trwy iddynt ddal eu gafael ar cldarnau o goed, a chael eu codi i'r cychod a ostyngwyd gan y Princess Henriette." Tystir fod y dwylaw ar y naill loug fel y llall wedi clywed y chwibanau, ond nis gallent wneyd allan o ba gyfeiriad y deuai. Y mae cryn lawer o goed a chelfi eraill perthynol i'r 11 Comterse wedi eu golcbj i'r lan ger Dovsr.

- ICEIL)WADWYR SIR GAERNARFOJf.

BRAWDLYS SIR GAERNARFON.