Hide Articles List

4 articles on this Page

NODIADAU SENEDDOL. ! .1

News
Cite
Share

NODIADAU SENEDDOL. [GAN EIN gohebydd arbenxg.] SYR CHARLES RUSSELL A'R TWRNAI CYFFREDINOL. Ddechreu yr wythnos ddiweddaf darllenodd Syr Charles Russell, yn Nhy y Cyffredin, yr ohebiaeth oedd wedi pasio rhyngddo ef a'r Twrnai Oyffredinol yn achoa Pigott. Ei amcan ydoedd ceisio profi fod y Twrnai Cyffredinol wedi gwneyd camgymeriad yn ei araith amddiffynol drwy ddweyd fod y llytbyr yn yr hwn yr oedd Pigott yn condemnio ei hun wedi ei ddangos i ddadleuydd y diffynwyr rai dyddiau cyn i Pigott gael ei arholi. Nid oedd ef (Syr Charles Russell) yn gwybod dim am y llythyr diraddiol hwnw cyn i Pigott ddiano ymaitb. Dywedodd y Twrnai Oyffredinol os oedd wedi gwneyd camgymeriad y gwnai addef hyny yn rhydd ac agored. Nid oedd ef yn credu ei fod wedi gwneyd camgymeriad ond a chaniatau ei fod, yr oedd ar fatec mor ddibwys fel nad oedd braidd yn worth sylw. Nid oedd un ddadl yn ei feddwlfnadfoedd yr -ohebiaeth rhwng Pigott a Houston wedi ei chyflwyno i Syr Charles Russell, acmai y rheswm nad oedd un sylw wedi ei dalu i'r lIythyrau ydoedd gwrthwyneb- iad Syr Charles iddynt gael eu darllen cyn i Pigott gael ei ddwyn gerbron y Ilys a'i holi. Gwnaeth Syr William Haroourt ymosodiad beidd- gar ar y Twrnai CySredinol. Gwadai fod Syr Richard Webster wedi estyn y llythyr, dyddiedig yr lleg o Dachwedd, i Syr Charles Russell, gan daflu y oelwydd i wyneb y Twrnai Cyffredinol. Dywedodd fod "ymddygiad y Twrnai Cyffredinol yn un o'r gweithredoedd mwyaf gwrthun o greulondeb ac anghyfiawnder proffeawrol a gyflawnwyd erioed." Yr oedd yn amlwg fod yr Hercwlff heb anghofio y gurfa ddicirugatedd a gawsai y nos Iau blaenorol. Mae Syr W. Harcourt wedi fforffetio pob hawl i gael ei ystyried yn foneddwr, a thrwy ei ymgyfathrach a'r Pamelliaid wedi dysgu eu moesau i'r dim. Dywedodd y Cyfreithiwr Cyffredinol fod Syr R. 'Webster wedi rhyddhau ei hun yn hollol oddiwrth y gwarth a geisid bentyru arno gan ei wrthwynebwyr. Wedi i amryw eraill siarad terfynodd yr ymgipris. Nid oedd hwn ond than o un oybuddiad ar ddeg a ddygid yn erbyn y Twrnai Cyffredinol, a rhaid fod achos yr Ysgarwyr yn anobeithiol o wan cyn y buasent yn cadw cymaint o dwrw ynghylch mater cyn lleied ei bwya; ond y mae dyn pan mewn parygl o foddi yn ymaflyd mewn gwelltyn i geisio .echub ei fywyd. YR YCHWANEGIAD AT Y LLYNGES. Ymffurfiodd y Ty yn bwyllgor ar y penderfyniad i wario f21,000,000 ar ddarpanaeth llongau newydd- ion i'r Llynges. Cynygiodd Mr. Cremer welliant yn datgan; yn ngwyneb y cysylltiadau boddhaol rhwng y wlad hon & Gall'uoedd Tramor, yr anfuddioldeb o wario y swm & Galluoedd Tramor, yr anfuddioldeb o wario y swm a ofynid gan y Llywodraeth. Siaradodd Mr. Cremer am awr i amddiffyn yr hen shibboleth o "heddweh-am-unrhyw.bris," yr hyn sydd wedi costio i'r wlad hon filoedd o fywydau dynol a miliyn- au o bunau. Yr oedd am wybpd pa le yr oedd y perygl, a phwy oedd y gelyn oedd i oresgyn ein glan- au? Yr oedd Ffrainc a Germani yn adeiladu mwy olongauamfod Lloegr yn gwneyd hyny. Y can- iyniad fyddai mewn amser byr cais pellach at y "wlad hon i ychwanegu at y Llynges. Addefodd Mr. Goschen nad oedd un perygl un- iongyrchol i ryfel dori allan, ond y gallai cymylau yhyfel dori unrhyw foment. Beth fyddai eu sefyllfa ynahen tri neu bedwar mis pe b'ai dadforionacall- forion y wlad hon mewn perygl difrifol? Y cwest. iwn i'w benderfynu ydoedd pa un a oeddym yn ddiogel ai peidio ? Yr oedd y Llywodraeth yn gyf. rifol am sefyllf c, amddiffynol y wlad. Nid oedd yr la elfen gryfaoh yn heddwch Ewrop na'r ymwyb- yddiaeth fod Prydain Fawr yn gryf. (Bloeddiadau 0 gymeradwyaeth.) Yr oedd y: _bonecldwr anrhyd- eddus (Mr. Oremer) wedi awgrymu y dymunoldeb o alw cynhadleddau i anog cenhedloedd i ddiarfogi, ond yn y dyddiau hyn ni fyddai y cyfryw fesur ond peth hoUol ddifudd a gwag-ddychymygol. Yr adeg y byddai Lloegr yn fwyaf tebygol i lwyddo yn y cyf- eiriad hwnw fuasai yr adeg pan gydnabyddai yr holl Alluoedd eraill fod ei chyfeillgarwch a'i dylanwad yn gyfryw na ellid ei ddiystyru. Er nad oedd unrhyw Perygl uniongyrchol, buasem yn ddall i'n dyledswydd- au fel cenedl pe gwnaem esgeuluso gosod ein hunain ttiewn safle o ddirgelwch. Nis gallem ymddiried ein diogelweh i gyfeillgarwch cenedloeddj, estronol. YVell done, Goschen Dywedodd Mr. Caleb Wright oni b'ai am y gwast- I rafl yn y Morlys na. fuasai galwad am yr j^hwaneg- ia.d dirfawr hwn at y Llynges. Pwy yw y doethwr hwn, tybed? Cymerodd Syr E. J. Reed hefyd ran yn y ddadl, yr hon a ohiriwyd ar gais Arglwydd Charles Beres- ford. MESUR CAU Y TAFARNAU AR Y SUL (LLOEGR.) Fel yr hysbyswyd yn y rhifyn diweddaf pasiwyd -all ddarlleniad y Mesur hwn, nos Fercher, yn Nhy hy y Cyfiredin, ond nid oes gysgod o obaith iddo Sael oi ddarllen y drydedd waith. Nid oedd haner yr aelodau yn bresenol, a byohan oedd ymwyafrif °»blaid—22. Dywedodd Mr. J. Stevenson wrth gynyg ail ddar- lleniad y Mesur fod pob diwygiwr yn edrych arno fel y cam cyntaf tuag at ddeddfwriaeth ar y cweatiwn o gymedroldeb, a bod yr holl eglwysi, beth bynag oedd eu gwahaniaethau ar bynciau athrawiaethol, yn un- frydol yn ffafr y Mesur. Yn Ysgotland nid oedd un llais i'w glywed yn erbyn cau y tafarnau ar y Sul, ao yn Nghymru yr oedd yr Act wedi profi yn fendith neillduol i'r dosbeirth gweithiol. Cynygiodd Mr. Cavendish Bentinck wrthodiad y Mesur mewn araith faith. Dadleuai fod Act Cau y Tafarnau ar y Sul yn Nghymru yn fethiant. Yr oedd ystadegau yn erbyn cefnogwyr y Mesur. Yr oedd meddwdod yn myned ar gynydd lie yr oedd yr Act mewn grym, yn enwedig yn sic Forganwg. Yr oedd y bobl yn oariofgwirodydd mewn jars a photeli, a'r enw ar un o honynt oedd "John Roberts." (Chwerthin.) Nid oedd cefnogwyr y Mesur yn gyson & hwy en hunain. Paham na fuasent yn cau i fyny y clybiau ? Am nad oeddt hyny yn gyfleus iddynt Nid oedd y deisebau a arwyddid yn flafr y Masur yn amlygiad o deimlad cyffredinol y wlad. Yr oedd y cweatiwn yn cael ei wneyd yn un politicaidd. Y ceiliog gwynt rhyfeddaf a welsai ef erioed oedd Syr William Harcourt. Yr achos o'r cyfnewidiad yn ei' farn ydoedd awydd i sicrhau pleidleisiau dosbarth o bobl. (Chwerthin.) Yr oedd y gormes mwyaf yngtyn a'r cwestiwn hwn yn Nghymru. Ni feiddiai yr un aelod Cymreig ddweyd mai ei eiddo ei hun oedd ei ewyllys-yr oedd yn hollol yn nwylaw y gweinidogion Ymneillduol. Anganrheidrwydd gwleidyddol oedd wrth wraidd y cyawrf. Yr oedd yn dda ganddo ef ddeall fod y Llywodraeth yn barod i apwyntio dirprwyaeth i wneyd ymchwiliad i weith- rediad yr Act yn Nghymru. Yr oedd ganddo y oyd. ymdeimlad llwyraf & Bobrwydd, ond yr oedd yn awyddus i'w ddwyn oddiamgylch drWy ddarbwylliad ac nid drwy foddion gorfodol. Barnai Mr. Osborne Morgan fod Mr. Justice Grantham, pan yn cyfeirio at fethiant Act Cau y Tafarnau yn Nghymru, yn cael ei lywodraethu gan ragfarn politicaidd, yn gymaint a'i fod pan yn aelod o'r Ty hwnw yn wrthwynebydd cryf i'r Mesur. Gwrthdystiodd yn yr ymadroddion oryfaf yn erbyn y sylw a wnaed gan Mr. Cavendish Bentinck fod y bobl yn Nghymru dan lywodraeth y gweinidogion Ymneillduol. Y rheswm syml fod y gweinidogion Anghydffurfiol yn meddu y fath ddylanwad yn y Dywysogaeth ydoedd-fod ei opiniynau mewn per ffaith gydgordiad 8g eiddo y cynulleidfaoedd. Nid oedd ystadegau yr heddgeidwaid yn dal perthynas a'r ymchwiliad i weithrediad yr Act yn Nghymru Nid oedd ychwaith ddim coel i'w roddi ar ystadegau y Western Mail. Yr oedd y Carnarvon and Denbigh Herald yn meddu safle llawn mor uchel yn Nghym- ru, ac yr oedd tystiolaeth y newyddiadur hwnw yn hollol wahanol am weithrediad, yr Act. Wei, wel, y fath ymresymiad dihafal Yr aelod Gwyddelig, Mr. J. O'Connor, siaradodd gryfaf o bawb yn erbyn y Mesur. Gwadai fod Act Cau y Tafarnau ar y Sul yn yr Iwerddon wedi profi yn llwyddiant, a phriodolai y cynydd mewn sobr- wydd yn y wlad bono i ddylanwad yr offeiriaid (Pabaidd, wrth gwrs.) Siaradodd amryw eraill dros ac yn erbyn y Mesur gyda'r canlyniad a nodwyd. I MARWOLAETH MR. JOHN BRIGHT. Yn Nhy y Cyffredin, ddydd Mercher, cyfeiriodd Mr. W. H. Smith mewn modd teimladwy a thodd- edig at farwolaeth yr hen arwr gwleidyddol enwog, Mr. John Bright, a dywedodd am fod Mr. Gladstone i yn absenol y gwnai ohirio hyd ddydd Gwener un- rhyw syfwadau pellach ar y digwyddiad galarus. Cydnabyddodd Mr. John Morlay, ar ran yr Wrth- blaid, Mr. W. H. Smith am ei ystyriaeth yn gohirio unrhyw gyfeiriadau pellach at farwolaeth Mr. Bright nes y byddai Mr. Gladstone yn alluog i fod yn bresenol; a chyfeiriodd at y rhwyg annedwydd oedd wadi cymeryd lie rhwng Mr. Bright a'i gyd- lafurwyr. Nid oedd yr ymraniad hwnw, modd I bynag, wedi anmhara yn y mesur lleiaf eu diolch- garwch iddo, a'u parch, a'u sarch tuag ato. ,-TI ARGLWYDD SALISBURY AR FARWOLAETH I MR. BRIGHT A'R DUC 0 BUCKINGHAM. Dydd Iau, yn Nhy yr Arglwyddi, gwnaed cyfeir- iadau at farwolaeth Mr. John Bright a'r Due o Buckingham. Dywedodd Arglwydd Salisbury, er pan gyfarfydd- asent o'r blaen fod angau wedi bod yn brysur yn eu mysg, ac wedi symud oddiar lwyfato bywyd cyhoedd- us ddau ddyn o gyrhaoddiadau cwbl wahanol, ond a bywyd cyffredin y rhai yr oeddynt oil yn gydnabydd- us. Dywedodd fod Mr. Bright y meistr mwyaf ar areithyddiaeth yn y wlad hon a gynyrchodd y genhedlaeth bresenol, ac yn wir, llawer o genedl- aethau. Dywedoddeifodwedicyfarfoddynionoedd wedi clywed Pitt a Fox, y rhai a farnent fod hyawdledd y gwladweinwyr enwog hyny yn is-raddcl i eiddo Mr. John Bright pan yn ei hwyliau goreu. Yr oedd yn nodedig ar gyfrif unplygrwydd ei ar- gymellion (motives) ac uniondeb ei fywyd. Er ei fod yn ddadleuydd llym, nid oedd un amser yn cael ei lywodraethu gan hungarweh personol na phleidiol. Cynhyrfid ef gan y gwladgarwch puraf o gychwyniad ei yrfa. gyhoedcf&s hyd ei diwedd. Yr oedd yn amlwg fod Arglwydd Salisbury mewn teimladau dwysion, a bod cydymdeimlad y Ty yn hollol gydag ef. Cyfeiriodd ei arglwyddiaeth hefyd at farwolaeth sydyn ao annisgwyliadwy y Duo o Buckingham, yr hwn mewn ffordd dawel ajUiymhongar a arweiniodd fywyd anrhydeddus. Cyfeiriodd Iarll Granville hefyd at y ddwy farwol- aeth mewn modd teimladwy a phwrpasol. Y DIWEDDAR JOHN BRIGHT. Yn Nhy y Oyffredin, dydd Gwener, wedi darfod a'r cwestiynau, oododd Mr. W. H. Smith i wneyd cyfeiriadau pellach at y diweddar Mr. John Bright. Talodd warogaeth uchel i Mr. Bright fel gwlad- weinydd, ac i gadernid, gonestrwydd, symledd, a chysondeb ei gymeriad. Nid oedd neb a'i clywodd yn ameu ei ddidwylledd. Ei ddiffyg ydoedd, os oedd yn ddiffyg hefyd, angherddolrwydd ei amddiffyniad o'r egwyddorion yr ymladdai drostynt. Yr oedd y teimlad o ddyledswydd oedd bob amser yn ei nod. weddu-dyledswydd tuag at ei Deyrn a'i wlad-yn ymgodi uwchlaw ystyriaethau pleidgarol. Dilynid ef i'w fedd gan alar didwyll a diffuant y rhai oedd yn gwahaniaethu oddiwrtho, y rhai oedd yn cyduno ag ef, a chan genedl ag oedd yn canfod ynddo esiampl o ddyn ag oedd o ddechreu ei yrfa gyhoeddus wedi cyfiwyno ei hun yn ol:ai argyhoeddiadau yn gyfangwbl i wasanaeth ei wlad. Da iawn I Dywedodd Mr. Gladstone ei fod yn meddwl fod Mr. Bright yn ddedwydd yn adeg ei symudiad, am ei fod wedi byw i weled buddugoliaeth bron pob achos mawr ag oedd wedi gosod ei galon a'i feddwi arnynt. Nid oedd yr anghytundeb rhyngddo a'r rhai yr oedd wedi gwahaniaethu oddiwrthynt yn ddiweddar ar bwnc neillduol wedi effeithio dim ar y diolchgarwch a'r edmygedd a gyfiawn haeddai. Wedi cyfeirio at y safle a gymerodd Mr. Bright yn amser rhyfel y Crimea, a'i gydymdeimlad a dioddefiadau pob cenedl aeth Mr. Gladstone ymlaen i siarad am dano fel gwarcheidwad yr iaith Saesneg. Y ganmoliaeth uchaf ag oedd yn ddyledus iddo ydoedd-ei fod wedi dyrchafu bywyd gwleidyddol i safle uwch. Yr oedd enw Mr. Bright wedi ei ysgrifenu yn annileadwy ar gofnodion amser ac ar galonau y genedl fawr gyflym- gynyddol.y perthynai iddi, &c. Yr oedd Arglwydd Hartington yn fyr a difrifol. Yr oedd Mr. Bright, os nid y blaenaf, yn un o wlad- weinwyr blaenaf yr oes-pa fodd bynag, yn un o'r cymeriadau mwyaf urddasol a welwyd erioed yn y Senedd. Mr. Justin McCarthy a siaradodd ar ran y Nasiwn- aliaid Gwyddelig, gan gyfeirio at y diolcbgarwch oedd ddyledus oddiwrthynt i Mr. Bright am ei ym- drechion ar eu rhan yn y gorphenol. Mr. Mc.Carthy oedd yr unig un o honynt a ddywedai hyn. Cyfeiriodd Mr. Chamberlain at yr ymlyniad neill- duol oedd gan ei etholwyr yn Birmingham wrth Mr. Bright. Yr oedd yn deyrngarol, di-dderbyn-wyneb, ao anhunangar (unselfish). Gwroldeb, gonescrwydd, a chysondeb oedd prit nodweddion ei fywyd cyhoedd- us. "Tre, rhedo haul yn yn nen yablenydd Y rhed ei fawl, \VI dihefelydd."

DAMWAIN OFNADWY YN Y 1 SlANEL.

- ICEIL)WADWYR SIR GAERNARFOJf.

BRAWDLYS SIR GAERNARFON.