Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

[No title]

CYFEIRIADUR ESGOBAETHOL TY…

News
Cite
Share

CYFEIRIADUR ESGOBAETHOL TY DDEWI AM 1889. 0 BRYD i bryd, fel y mae un flwyddyn yn dilyn y llall, cyhoeddir adroddiadau blyn- yddol gan wahanol gymdeithasau yr Eglwys yn gosod gerbron y byd y gwaith a ddygir ymlaen ganddynt. Daw y rhai hyn o'n blaen yn annibynol y naill ar y Hall, ac un canlyniad o hyn ydyw, pin bod fel Eglwyswyr unigol yn fyr o syniad cymwys a theilwng o'r gwaith enfawr ag y mae yr Eglwys, yn Haw Duw, yn alluog i'w wneyd er lies i ddynoliaeth. Y mae llawer o'r cymdeithasau rhagorol hyn o nodwedd gyffredinol mor belled ag y mae eu cyfan- soddiad yn myned, ac y mae eu gwaith a'u dylanwad, yn ganlynol i hyn, yn gyffredinol hefyd. Ar y Haw arall y mae nifer o honynt o natur esgobaethol, a'u gwaith a'u heffeith- ioldeb yn gyfyngedig i'n hesgobaethau. Fel hyn, anmhosibl ydyw ffurfio amgyffrediad cywir o'r daioni sydd yn deilliaw oddiwrth- ynt fel cydalluoedd. Pan y cyhoeddwyd Blwyddlyfr s wyddbgol yr Eglwys, gwnaeth- pwyd llawer tuag at gyfleu syniad dyladwy o helaethrwydd a mawredd y peirianwaith Eglwysig. Y mae y cyhoeddiad rhagorol hwn, er yn ei fabanaod, wedi llwyddo i agor llygaid nid yn unig ein caredigion, ond hefyd ein caseion, i weled mor amrywiol, dylanwadol, a bendithiol ydyw ymdrechion yr Eglwys i gwblhau ei chenadwraeth dros DDUW ar y ddaear. Yn ychwanegol at yr adroddiad a'r cof- I nodion uchod, llenwir lie pwysig ac arbenig gan y cyhoeddiadau hyny a adnabyddir fel Cyfeitiaduron neu gof-lyfrau blynyddol ein gwahanol Esgobaethau. Mae y rhai'n bellach yn anhebgorol angenrheidiol, ac yn ganlyniad naturiol o fywyd adnewyddol yr Eglwys. Mae o'n blaen fel yr ydym yn ysgrifenu engraifffc ragorol o'r cyhoeddiadau gwerthfawr dan sylw, sef y Saint David's Diocesan Directory with Calender." Yn allanol, neu mor belled ag sydd a fyno'r cyhoeddwyr a'r llyfryn, mae y Cyfeiriadur yn bobpeth ag y dylai fod. Mae ei ddiwyg yn Eglwysaidd, ac os yr eithriwn y tudalen- au hysbysiadol rhwng y rhan gyntaf o'r llyfr a/r ail ran, nis gellir cael ynddo yr un bai. Nid oes dim yn gysegredig yn ngolwg yr hysbysydd y dyddiau hyn—ar bob drws a phared, ac ar bob tudalen mewn llyfr, os yn bosibl, dengys ei hun. Am yr hysbys- iadau hyn, er eu bod allan o le yn y man lie maent, dymunem ddweyd eu bod yn hynod chwaethus. Yn ngwyneb y ffaeledd yma y mae swyddfa Mri. SPURREIL A'I FAB wedi gwneyd ei gwaith yn hynod o dda, ac y mae argraffiad y llyfr yn adlewyrchu cryn lawer o glod ar y cyhoeddwyr. Yr ydym wedi idarllen y Cyfeiriadur gyda gofal, a theg yw dweyd ein bod yn ystyried fod y pwyllgor, o dan olygyddiaeth pa un y cy- hoeddir y llyfr, wedi gwneyd ei waith mewn dull tra chanmoladwy. Gosodir wmbredd o neithiau |p Baen y darllenydd, ond ni theimlir unrhyw anhawsder wrth eu darllen, am fod trefniad y llyfr mor rhagorol. Mae y gwahanol daflenau wedi eu parotoi gyda chymaint o ofal fel y mae yn hawdd nid yn unig i weled sut y saif yr Esgobaeth yn bresenol, ond hefyd i gydmaru y presenol gyda'r gorphenol_, a thrwy hyny i weled y llwyddiant sydd wedi dilyn ymdrechion yr Eglwys yn Esgobaeth Ty Ddewi yn ystod y blynyddoedd diweddaf. Nis gallwn siarad yn rhy uchel am lafur a gallu y pwyllgor golygyddol. Mae wedi gwneuthur gwasan- aeth i'r Eglwys yn gyffredinol drwy osod y wlad mewn meddiaut o'r wybodaeth werth- fawr sydd yn gynwysedig yn y Directory. Teimlwn yn sicr y bydd llawer o'n dar- llenwyr unieithog yn ddiolchgar i ni am ddyfynu rhyw ychydig o ffeithiau o'r Cyf- eiriadur er eu budd hwy, ond, cofier, nis gallwn wneyd cyfiawnder a'r llyfr tufewn i derfynau ein gofod. Haedda y rhestr o blwyfi ac offeiriaid (tud. 86—131) sylw neillduol. Yn y daflen hon ceir, ymhlith pethau eraill, y nifer o blant ac ysgol- heigion sydd yn mynychu yr Ysgolion Cenedlaethol a Sabbothol yn yr Esgobaeth. Fel rheol gellir dweyd nad oes achos cywilyddu o'a plegid. Pan yr ystyriom mor eang ydyw Esgobaeth Ty Ddewi, ac mor wledig ydyw rhanau o boni, mae yn y daflen hon lawer iawn sydd yn achos llawen- ydd i gyfeillion yr Eglwys. Gresyn fod di- ofalwch rhai offeiriaid yn anurddo y daflen, oblegi4 poenus i'r eithaf ydyw dyfod ar draws No return" yn awr ac eilwaith wrth fyned drwy y rhestr. Gobeithio fod I ffon gnwpa yr Arglwydd ESGOB yn ddigon hir i ddyfod o fewn cyrhaedd i'r offeiriaid hyny yn yr Esgobaeth ydynt yn rhy segur i ddanfon yn ol atebion parthed i'w plwyfi pan yr ymofynir am danynt. Buasai yn dda genym weled Esgobaethau eraill yn dilyn Ty Ddewi yn hyn drwy gyhoeddi yn flynyddol ystadegau tebyg i'r rhai a geir yn y daflen hon. 0 dan y penawd Expendi- ture, from Donations and Subscriptions, on Buildings and Endowments in the yeais 1885-1888 inclusive," rhoddir ffeithiam sydd yn haeddu astudiaeth drwyadl. Dyma. gneuen galed i'r Dadgysylltwyr i'w thori. Mewn pedair blynedd y mae Eglwyswyr Ty Ddewi wedicasglu a gwa-io ar adeiladau a gwaddoliadau dim llai na £ 120,842. Rhoddwyd y swm hwn yn wirfoddol i'r Eg- lwys gan iei phlant, a "hyny ynghanol bloeddiadau y Dadwaddolwyr sydd bryd ar anrheithio yr Eglwys. 0 dan lyw- yddiaeth eu HESGOB galluog a diwyd yn mlaen yr elont hyd nes y llwydd- ant i ddwyn yr Eglwys yn ben- moliant yn eu plith. Ar tudalen 165- ceir nifer y conffirmiedig bob blwyddyn oddiar 1877. Yn y flwyddyn hono derbyn- iodd naw cant a phedwar-ar-hugain yr ordinhad. Yn 1888, y mae eu rhifedi wedi chwyddo i dair mil a dan. Gyda pharch- edig ofn gofynwn i'r 11 Dr." SAUNDERS, 0 Abertawe, pa fodd y gellir cyfrif am y ffigyrau hyn yn unol a'r egwyddor an- nheilwng a fabwysiedir ganddo i egluro cynydd ein haddoldai a'n heglwysi. Atebed y Dr. (Americanaidd) hyn y tro nesaf yr ymfflamycha ar uchelfanau Radicaliaeth Cymru Fydd. Buasai yn dda genym pe y gallasem roddi dyfyniadau helaeth o'r rhan yma o'r Cyfeiriadur gerbron ein darllenwyr ond rhaid atal. Cyn terfynu ein hadolyg- iad, dymunem gyfeirio yn arbenig at Adroddiad Cronfa Abertawe a Dwyrein- barth Gower er Lledaenu yr Eglwys." Y mae chwyldroad perffaith wedi cymeryd He yn y rhan hono o'r Esgobaeth sydd o dan ddylanwad Pwyllgor y Gronfa uchod. Hyd yn ddiweddar yr oedd cymydogaeth Aber- tawe yn un o fanau gwanaf yr Eglwys yn Nghymru. Erbyn heddyw y mae un Eglwys ar ol y Hall wedi ei hadeiladu, ac y mae anialwch Abertawe yn dechreu blodeuo fel y rhosyn. Nid rhyfedd fod disgyblion Cymru Fydd ar eu hymweliad yn ddiweddar a'r dref wedi danfon am y proffwyd Calfin- aidd sydd yno i felldigo Israel. Mewn tua. deuddeg canolbwynt y mae y Pwyllgor ar waith neu wedi bod yn gweithio. Y mae eisoes yn medi ffrwyth ei lafur, ac y mae mynych ymweliadau yr EstaoB a'r ardal, ynghyd a gwaith egniol yr Eglwyswyr lleoi, yn lien a lleyg, yn prysur sefydlu yr Eglwys yn serchiadau y bobl. Wrth ddwyn ein sylw- adau i ben llongyfarchwn ein brodyr yn Nhy Ddewi ar yr agwedd iachusol sydd i'w weled ar yr Eglwys, a diolchwn yn wresog i gasglwyr diwyd a galluog y Cyfeiriadur Esgobaethol am y gwasanaeth y maent wedi ei wneyd i'r Eglwys yn gyffredinol drwy gyhoeddi blwyddlyfr mor ardderchog a. champus. 0 ran diwyg, trefn, a natur ei gynwysiad nid oes eisiau ei well.

CLADDEDIGAETH MR. BRIGHT,…