Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Y GYNGRES EGLWYSIG.

LLAIS O CARON.

GWASANAETHWR YN UNIG-NID LLYW-ODRAETHWR.

IJLITH 0 LERPWL.

News
Cite
Share

IJLITH 0 LERPWL. [GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG.] "A YW IACHAWDWRIAETH YN BOSIBL WEDI ANGAU." Traddodir oyfres o chwech o ddarlithiau ar wahanol destynau gan offairiaid y ddinas ar bryd- nawn Suliau yn Eglwys St. Silas, Pembroke Place. Deohreuir y oyfarfodydd hyn, y rhai a gyfyngir i'r rhyw wrywaidd, am ohwarter wedi tri o'r gloch drwy ganu a gweddio. Y darlithydd y Sul di- weddaf oedd y Parch. James Davies, A.C.. Eglwys Dewi Sant, yr hwn a ddewisodd fel testyn—" Is Salvation possible after death ? "—" A yw Iaohawd- wriaeth yn bosibl wedi angau?" Gan fod y testyn yn un mor bwysig a dyddorol a'r darlithydd yn Gymro mor alluog a phoblogaidd hwyliais fy ngbam- rau tuag yno, er fod y pellder oedd genyf i deithio yn agos i dair milldir. Yr oedd torf o bobl ar yr "haul cyn dechi-eu y cyfarfod yn dadleu y pwno gyda gwresogrwydd anarferol, a rhai yn gwasgaru dalenach (leaflets) aphamphledau ar y ddwy ochr i'r oweatiwn. Dygai hyn yn rymus i fy meddwl yr hen amsérdedwydd yn Nghymru pan oedd y bobl yn ymgynull at eu gilydd i ddadleu yr hyn a elwid y I I Pum' Pwne," ao athrawiaethau pwysig eraill, yr hyn oodd yn llawer mwy cydweddol ag anianawd Cristionogaeth na'r ysbryd politicaidd penrhydd ag sydd wedi meddianu y werin yn,bresenol. Deallais yn union fod ymysg y dyrfa oedd ar yr heol lawer o'r bobl a elwir Cyffredinoliaid (Universalists), y rhai syd&yn credu yn y posibilrwydd i ddyn gael ei ashub mewn byd arall, a'u bod yn teimlo dyddordeb anghyffredinol yn y pwnc. Ond i ddyfod at Y DDAELITH. Dywedodd y darlithydd parchedig, yr ol myned drwy y rhan ddefosiynql o'r cyfarfod, nad oedd yn bwriadu rhoddi iddynt yr hyn a elwid yn gyffredin pregetb, ond ei fod yn awyddus i siarad a hwynt mewn modd cyfeillgar aó agored ar bwnc o'r pwys- igrwydd a'r dyddordeb mwyaf. Nid oedd angen iddo wneyd,ymddiheuriad am ddwyn y fath destyn ger eu bron yn nhymor y Garawys, oblegid ei fod yn bwno ag oedd dadleueeth ddiweddar wedi ddwyn i sylw mown modd arbenig. I ba le bynag yr elenfc, yr oedd y owestiwn yn cael ei ofyn—" A yw iaoh- awdwriaeth yn boaibl wedi angau ?" Yr oedd hyn yn codi oddiar yabryd o chwilfrydedd—yr oedd dyn yn awyddus i wybod pob dirgelion. Y owestiwn ydoedd-a oedd iachawdwriaeth yn bosibl rhwng angau a barn? Yd oedd y corff yn myned i'r ddaear a'r ysbryd i t sefyllfa hono a adnabyddid wrth yr enw Hades. A Ydoedd y cyfnod hwnw yn gyfnod o hyfforddiani neu brawf, neu ynte yn un ymha un yt oeddi yr enai4 yn gorphwys mewn disgwyliad am ikdgyfbdiad a bar-n ? Nid oedd ddadl nad oedd yr enaid yn ymwybodol o'i fodolaetb, ao yn gwybod pa una oedd yn ddedwydd neu beidio Ond a oedd y tymer hwnw yn dymor ymha un yr oedd yn bosibl i'r enaid gyraedd iachawdwriaeth, neu a oedd tymor iachawdwriaeth yn terfynu yn angau ? Wedi hyny rboddodd y darlithydd parch- edig ddarnodiad neu ddeffiniad o'r gair iachawdwr- iaeth. Yr oedd i'r gair ddau ystyr-cymodiad a Duw ao ystad o iachawdwriaeth. Yr oedd enaid y cyfiawn mewn yetad o iachawdwriaeth. Yr oedd bywydysbrydol yn dechreu yma, ao yn myned ar gynydd. Yr oedd y cynydd yBbrydol bwn yn beth posibl mewn byd arall. Ymha un o'r ddau ystyr yma yr oeddym i edrych ar iachawdwriaeth yn y sefyllfa ganolog y cyfeiriwyd ati ? A oedd yn bosibl i'r anghyfiawn.a oedd yn ddiohonadwy i ddyn drwg gael ei aohub wedi angau ? Nid oedd dim a wnelai yr athrawiaeth o anfarwoldeb amodol a'r pwno, sef fod y cyfiawn i fyw a'r drygionus i gael ei ddifodi. Yr oedd y cwestiwn, pa fodd bynag, yn profi ein bod yn oredu yn anfarwoldeb yr anaid. Yr oedd y Calfin, yr hwn oedd yn credu na fyddai ond niter feohan yn gadwedig, yn gwadu y posibilrwydd or iachawdwriaeth mewn byd arall. Yr oedd yr Universalist yn ateb, Ydyw. Gan fod Crist wedi marw dros bawb, yr oedd yn credu y buasai pawb yn y diwedd (in the long run) yn gadwedig. Yr oedd yr Armjniad hefyd yn oredu ei bod yn sefyllfa o brawf. Yr codd y,pmwf i barhau hyd ddydd y farn Yr oedd llawer nad oeddynt wedi oael inanteision i wneyd derbyniad o'r Efengyl. Dyna farn yr Aroh- ddiacon Farrar. Yr oedd yr hil ddynol yn gyfan- soddedig o ddau ddosbarth-y rhai oeddynt yn mwynau digon o gyfieusderau yn eu bywyd, a'r rhai oeddynt wedi byw mewn tywyllwch ac anwybod- aeth. Yr oedd ef (y darlithydd) yn gadael pagan- iaid, gwallgofiaid, a phlant i ben-arglwyddiaeth Duw ond am y rhai hyny oedd, wedi derbyn oyf- lawnder o fanteision yn eu bywyd, ac, wedi an- ufuddhau i alwadau yr EfengyJ, yr oedd yn ateb yn benderfydol nad oedd yn bosibl iddynt fod yn gadwedig. Yr oedd y rhai oeddynt yn bresenol yn perthyn i'r dosbarth olaf. Yr oeddynt yn byw yn nghanol goleuni tanbaid yr Efengyl ac wedi derbyn pob manteision ysbrydol. Yr oedd tri pheth yn profi fod iachawdwriaeth yn anmhosibl mewn byd ar.all-(l) y Beibl ei hun, (2) rhesymoldeb y peth ynddo ei hunan, ac (3) tystiolaeth yr Eglwys. Yr oedd y Beibl mewn ystyr negyddol yn hollol ddistaw ar y pwnc. Nid oedd gair ynddo o'r dechreu i'r di- wedd yn ffafriol i'r athrawiaeth—dim gair. Yr oedd perygl i ddynion i wyrdroi yr Ysgrythyrau, ac adeiladu athrawiaeth ar un testyn neillduol, a hwnw yn cael ei gamesbonio, megis y geiriau hyny yn St. Matth, xii. 31, 32, Am hyny y dywedaf wrthych chwi, pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion ond cabledd yn erbyn yr Ysbryd Glan ni faddeuir i ddynion. A phwy bynag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo ond pwy bynag a ddywedo air yn erbyn yr Ysbryd Glan, nis maddeuir iddo, nac yn y byd hwn, nac yn y byd a ddaw." Nid oedd yn y geiriau hyn un cyfeiriad at sefyllfa ganolog, ac yr oedd yn synu fod Eglwys Rhufain wedi adeiladu y gyfundrefn o burdan (purgatory) ar y testyn nnigol hwn. Amoan yr Arglwydd Iesu Grist yn llefaru y geiriau hyn ydoedd-dangos mawredd ac eohryslonrwydd y pechod yn erbyn yr Ysbryd Glan. Yr oedd yn ym- wneyd a phechod neillduol, ao nid oedd yn golygu dim mwy na llai wrth y geiriau na'r ystyr a roddem ninau yn ami i'r gair byth." Yr oedd yn rhaid i un ran o'r Beibl gydgordio a rhanau eraill. Nid oedd yn debygol y buasai Duw yn cadw cwestiwn o'r fath bwysigrwydd oddiwrthym. 2. Mewn ystyr gadarnhaol. Yr oedd yn y Beibl ddigon o brofion mai ar y ddaear yn unig yr oedd ein prawf. Yr oedd holl apeliadau yr Arglwydd Iesu Grist yn profi hyn. Yroedd Actau yr Apostolion a holl epistolau St. Paul yn profi yr un gwirionedd. Wele yn awr yr amser cymeradwy." "Y rhai hyn a ant i gosbedigaeth dragywyddol, ond y rhai cyfiawn i fywyd tragywyddol." Os oaddym i gyfyngu cosb- edigaeth yr annuwiol, yr oedd yn rhaid i ni gyfyngu dedwyddwch y duwiol. Dadleuid nad oedd y gosb yn gymhesur a'r peohod-oosbi yn dragywyddol am bechu am ychydig ar y ddaear. Yr oedd yn amlwg nad oedd gan y rhai a ddadleuent felly yr un syniad am ddrwg pechod. Mor fawr yr ymddangosai pechod i Dduw I Yr oedd y saint befyd yn y nef yn edrych ar bechod yn dra gwahanol i ddynion ar y ddaear. Nid Duw oedd yn cosbi pechod, ond pechod oedd yn cospi ei hun. Effaith pechod oedd y gosbedigaetb. Yr oedd dameg Dives a Lazurus yn dangos fod y gagendor wedi ei sicrhavi, a bod pob tramwyfa wedi ei chau i fyny. Yr oedd y Beibl drwyddo yn dangos fod perthynaa agos iawn rhwng angau a barn, ac mai bywyd oedd amser hau, a marwolaeth amser medi. Yr oedd Duw yn drugarog, ond yn gyfiawn ar yr un pryd. Nid oedd dyn yn gymwya i farnu ymddygiadau Duw. 3. Tystiolaeth yr Eglwys. Dyna ddysgeidiaeth yr Eglwys Apoatolaidd a Chyntefig. Nid oedd gwaith Eglwys Rhufain yn gweddio dros y mllorw-yn profi fod hyny yn iawn. Yr oedd athrawiaeth y purdan yn anadnabyddua i'r Eglwys am un cant ar bymtheg o flynyddau, a dygwyd hi i mewn fel dyfais ddynol ac ofergoelus. Tuedd ddrwg ac anfoesol oedd i'r athrawiaeth fod iachawdwriaeth yn bosibl mewn byd arall. Yr oedd yn anogaeth i ddynion i fyned ymlaen yn eu pechod- au. Yr oedd yr athrywiaeth ar y goreu yn amheus, a'r oil a ellid ddweyd yn ei ffafr ydoedd-y gallai fod yn iawn. Gwnaeth y darlithydd apel nerthol at y gwrandawyr i beidio oymeryd eu harwain ymaith gyda pbob awel dysgeidiaeth. Yr oedd yr enaid yn rhy werthfawr i'w grogi ar faoh amheuaeth. Yr oedd diweddglo yr araith yn un o'r darnau mwyaf nerthol ac argyhoeddiadol a wrandewis erioed. Yn sicr, cyn terfynu rhaid i mi gael dweyd gair am Y DASLITHYDD. Mae Mr. Davies mor gartrefol yn yr iaith Saesneg ag yw yn iaith ei fam, ac yn un o'r pregethwyr Oym- reig a Seisnig goreu yn y ddinas fawr ar lan y Ferswy. Teimlwn yn falch o'r hen genedl wrth ei wrando. Mae yn ymgyfathrachu mwy a'r Saeson na'r un offeiriad Cymreig a fu o'i fiaen yn Llynlleiflad. Yehydig amser yn ol bu yn darllen papyr mewn cyfarfod deoniaethol. Llwyddiant iddo CYNGERDD. Cynhaliwyd cyngerdd ar y 26ain oynfisol, yn y Windsor Mission Hall gan gorau Eglwysi Seisnig a Chymreig St. Nathaniel, dan lywyddiaeth y Parch. R. Hobson, ficer. Y prif leiswyr oeddynt Miss Trevitt, Mrs. Thomas Jones, Mr. J. Greenfield, a Mr. J. Herbert Thomas. Cyfeiliwyd gan Mr. F. Sander. son, a Mr. J. K. Cave. Oanwyd detholion o't Messiah," a gwnaeth pawb eu rhan yn ganmol- adwy. Gynwysai yr ail ran o'r rhaglen amryw ganeuon, y rhai a roddasant foddlonrwydd cyffredinol. Unodd y gynulleidfa yn galonog ar y diwedd i ganu yr hen emyn nefolaidd Gwaed y Groes." Yr elw at dreuliau yr Eglwys Gymreig. Ni ddaeth cynifer vnghyd ag a allesid ddisgwyl, yr hyn a briodolid i'r ffaith fod y cyngerdd wedi ei gynal mor fuan ar ol y genhadaetb.

[No title]

-AMRGTOIOU. -.....r"'-.-"""'-"-.......,r"""'-....r-........,-",-.....-...........................,-,.................

CLYWEDION GAN HEN FEUDWY 0…

[No title]

HY LLAN" PEL ORGAN YR EGLWYS.