Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
YR ARSYLLFA. .
YR ARSYLLFA. NODIABAU WYTHNOSOL GAN IDRIS. 1DYSGEDIGION ESGOBAETH BANGOR. Dylai dadgysylltwyr Cymru fod y dynion hapusaf dan yr haul, oblegid sugnant gysur o bob cyf- eiriad. Tybiaf, fodd bynag, fod y paragraph canlynol allan o'r Goleuad diweddafyn hawlio lie ar ei ben ei bun, gan fod Nodwr yn sicr wedi llwyddo y tuhwnt i neb o'i lfaen i gael mel allan o beth chwerw. Fel hyn yr ysgrifena y gohebydd rhyfeddol y cyf- eiriwyd ato 1" Nid o brinder gwyr graddedig y byda marw'r Eclwys yn Esaobaeth Bangor. Yr wyf newydd waled rhestr feI y canlyn o'r gwyr graddedig sydd o fewn yr Esgobaeth :-D.D. 2; graddedig yn Rhydychain 22 B.A., 31 M.A., ac 1 D.C.L.; Caergrawnt: 10 B.A., a 6 yn M.A.; Durham: 3 B.A., 1 M.A., a 4 L.Th.; Dublin 15 B.A. a M.A.; Llanbedr: 2 B,D. a 21 B.A.; Xilnndain 4 B.A. Mae 34 wedi cael eu haddysg yn St. Bee a 2 yn Llanbedr, ond heb gymeryd graddau. Mae yn y cyfrif uchod faes toreithiog i fyfyrdod ar sefyllfa yr Eglwys yn Nghymru. Dyma hi, y fwyaf dysgedig yn y wlad ydyw'r leiaf yn y wlad, a'r hon y gallesid disgwyl iddi gael ei pharchu fwyaf ydyw'r fwyaf dirmygus. Paham?" Nid wyf yn bwriadu cynorthwyo Nodwr yn ei ddyfaliadau, ond diolchaf iddo am gydnabod tlysgeidiaeth yr Eglwys, ac am ei addefiad y gall 'ÐBid disgwyl i'r Eglwys gael ei pharchu uwehlaw el y yr enwadau. Yn ddiau, hawdd yw i wrach feeuddwydio, ac yn ol y ddiareb y mae gosodiad Nodwr parthed bychander yr Eglwys a'r dir- Jmyg a gynyrcha. Y mae dynion Bydd a'u llygaid yn agored yn gofyn paham y mae'r Eglwysi yn -—Han^a'r capeli yn gwaghau. Marw yn sicr y mae Corph," yn y De o leiaf, a buddiol.fyddai i Nodwr gymhwyao ei gwestiynau at arwein- wyi y Oyfandeb. Ni ddywed neb mai dysgeid- iaeth y gweinidogion sydd wrth wraidd eu meth- iant-tybed mai eu hanwybodaeth sydd yn cyfrif am hyn.
[No title]
AMCANION Y WYR. Os yw yr Eglwys i fuddugol- iaethu ar ei gelynion rhaid i'w phlant a'i charedigion godi yn fuan at eu gwaith. Y mae y Dadgysylltwyr yn brysur yn 0 ■^arotoi i ryfel, ac nid ydynt yn celu mai dad- gysylltiad a dadwaddoliad yr Eglwya a'a bodd- iona. Yr wythnos hon ysgrifena Lladmerydd y Tyst lythyr i'r Genedl Gymreig, ac ymhlith pethau eraill, dywed Dr." Thomas: Dad- gysylltidd a Dadwaddoliad yr Eglwys yn 0 Hghymru sydd erbyn hyn yn gydnabyddedig fel tnesur nas gellir ei ohirio ddim yn hwy nag y .:tel') y blaid Ryddfrydol i awdurdod. Ffurf ddi- "Weddar mewn cydmariaeth ydyw y ffurf yma ar y cwestiwn i'w gyiyngu i Gymru. Cychwynwyd yr ymgyrch er's yn agos i haner can' mlynedd yn ol dros Ddadsefydliad a Dadwaddoliad yn gyff- aedinol; ond wedi Dadsefydliad yr Eglwys Wyddelig, ac yn arbenig wedi cael y mesur i gau tafarnau ar y Sabbath yn Nghymru ar wahan i Loegr; meddyliwyd am gael Dadgysylltiad i G:rmru am ei bod yn addfed i hyny, heb aros i ^disgwyl wrth Loegr ac er y cymetodd yr ym- gyrch y ffurf hono, mae y cwestiwn wedi gwneyd cynydd dirfawr, ac yn cael ei gydnabod gan y Ilaid Byddfrydol yn gyffredinol fel un o gwest- iynau deddfwriaeth ddyfodol uniongyrchol." "Gwelir felly mai nid chwareu y mae ein gelynion "Olad yn unig, arhosant am gyfleusdra i dynu yr Eglwys i lawr a'i hysbeilio o'i meddianau.
[No title]
I' NV-ILIADAU •J'B EGLWYS. Cyhoeddwyd yn Y LLAN bym- thegnos yn ol fod rhai o weinidog- ion yr Ymnelllduwyr yn troi eu wynebau i gyfeiriad yr Eglwys. ^ywedodd Escob-Llandaf yehyclig ddyddiau cyn <byny ei fod newydd gonffirmio boneddwr a arferai bregethu gyda'r Bedyddwyr, yr hwn sydd wedi yned i goleg duwinyddol Birmingham er parotoi bun i dderbyn urddau sanctaidd yr Eglwys. ystod yr wythnos ddiweddaf daeth un o weini- 4loicn y Methodistiaid Calfinaidd drosodd, ac y yn awr yn llafurio fel darllenydd lleyg yn *hagfynedol i'w urddiad. Cyfeiriaf at y Parch. oila Williams, yr hwn oedd yn fagail eglwys y 0 810. Methodistiaid yn nghapel Libanus, Maesteg, ac yn un o ddynion ieuainc mwyaf addawol Cyfarfod Misol Gorllewin Morganwg. Bu Mr. Williams yn Ngholeg Trefesca am bum' mlynedd, ac yn yatod yr holl amser enillodd iddo ei hun safle uchel fel efrydydd, gan sefyll yn mlaenaf yn ei holl ddosbarthiadau. Yn yr arholiad cymdeith- asfe.ol a gynhelir gany" Corph" yn flynyddol cymerodd yr un boneddwr y lie cyntaf allan o ryw ddeg-ar-hugain o bregethwr ieuainc y Cyfun- deb. Wedi gadael y coleg cymerodd ofal yr achos Seisnig yn Nantymoel, ac oddiyno symud- odd rhyw bum' mlynedd yn ol, i fugeilio y ddeadell yn Maesteg. > Y mae wedi enill iddo ei hun air da fel pregethwr a gweinidog, ac y mae yn dyfod drosodd i'r Eglwys heb lychwino ei hun memn unrhyw fodd. Beth a ddywed yr awdur- dodau y Methodistiaid wys ? Ac eto nid hwn yw ycwestiwn pwysicaf, eithr pa fodd ymas gwneyd lie yn yr Eglwys i'r nifer fawr o weinidogion Ym. neillduol a fyddent ar unwaith yn ymadael a sism pe b'ai siawns iddynt gael derbyniad genym. Y mae mwy o bregethwyr wedi blino ar Ymneill- duaeth nag a feddyliodd neb erioed. 0
[No title]
Yr oedd yr Ysgarwyr yn dechreu BUDDUGOL- meddwi ar eu llwyddiant oblegid IAETH eu bod wedi bod yn ffortunus i ENFIELD ddychwelydy un neu ddau 0'11 dynion i'r Senedd yn ddiweddar. Daeth etboliad Enfifield yn amserol i Sobri tipyn arnynt. Cymerodd yr ymdrech le ddydd Sadwrn ddiweddaf gyda'r canlyniad i Mr. H. F. Bowles, yr ymgeisydd Ceidwadol, gael ei ddycbelyd gyda 1512o fwyafrif dros ben ei wrthwynebydd ys- garol Mr. Fairbairns. Yn 1885 yr oedd y ffigyrau fel y canlyn -Viscount Folkestone (C.), 3,644; Mr. J. Kemster (R.), 2,684; mwyafrif Ceidwadol* 960. Gwelir fod y mwyafrif Ceid- wadol wedi ychwanegu 552 oddiar 1885. I
[No title]
ETHOLIAD BWRDD YSGOL ABERDAR. Yn etholiad Bwrdd Ysgol Aber- dar, llwyddodd yr Eglwyswyr yn lew iawn i oaod eu dynion i fewn. Da genyf weled y ficer gweithgar a phoblogaidd ar ben y poll. Rhoddwyd y pleidleisiau fel y canlyn Parch. R. B. Jenkins, ficer 6,395 Mr. William Hughes, colliery manager 6,055 Mr. Gwilym Jones, colliery manager. 5,906 Mr. Owen Harries, grocer 3,963 Mr. Thornaa Railton, colliery manager. 3,929 Parch. William James 3,879 Mr. David Morgan, miners' agent. 3,439 Mr. T. Walters, medical assistant 3,267 Mr. D.P. Davies, Y. H 3,235 Mr. J. H. James, chandlec 3,041 Mr. W. D. Wight, colliery agant. 2,959 Mr. R. H. Rhys. Y.H. 2,859 Parch. Benjamin Evans 2,783 ir oedd 26 yn ymgeiswyr am y seddau ar y Bwrdd, ac etholwyd y 13 uchod. Cader Idris, Boreu dydd Mercher.
jfetogijtrion CgfTi'tUmol.
jfetogijtrion CgfTi'tUmol. DEWINIAETH YN NGHROESOSWALLT. — Dydd Llun, dygwyd dynes 55 mlwydd oed, o'r enw Mary Morgan, o flaen yr ynadon yn Nghroesos-1 wallt ar y cyhuddiad o fod yn ymarfer swyn- I gyfaredd. Yr oedd yr beddgeidwaid wadi cael fod nifer mawr o bobl o'r wlad wedi bod yn myned at y ddynes, ac am swm neillduol byddai yn dweyd ffortiwn ac unrhyw beth arall y dy- munai pobl hysbysrwvdd yn ei gylch. Rhoddwyd tystiolaeth gan amryw o bersonau, ac mewn atebiad i'r fainc aetb ymlaen i faldorddi rhyw druth ffug-grefyddol ei bod yn gweithredu dan ddylanwad 11 ysbrydoliaeth." Dedfrydwyd hi i fis o garchariad. GWNEYD Y TLAWDYN WR BONEDDIG.-Derbyn- iodd hen wr o'r enw Richard Lewis, yn byw yn Ty'nrhosbach, Bow Street, ger Aberystwyth, newydd da iawn ddydd Sadwrn diweddaf. Ym- ddengys fod ganddo fab yn Columbus, America, yr hwn wrth ei alwedigaeth ydoedd saer maen. Nid oedd wedi clywed gair oddiwrtho er's llawer blwyddyn a chan fod yr hen wr yn analluog i weithio derbyniai gyfran blwyfol wythnosol o Undeb Aberystwyth. Deallwn i'r saer maen Iwyddo mewn amgylchiadau bydol yr Unol Daleithiau; a chan iddo farw yn ddi-deulu, r hen wr ei dad ydoedd y perthynas agosaf ato, ac iddo ef y syrthiodd yr eiddo, sef 12,000 o ddoleri. "MIS MEL CHWERW.—Yn heddlys Birken- head, anfonwyd Cymro, o'r enw Isaac Thomas Jones, i garchar am fis, am ymosod ar ei wraig, Millicent Amelia Jones, a gorchymynwyd iddo dalu punt yn yr wythnos at ei chadw. Nid oes ond prin ddau fis wedi myned heibio er pan y priodwyd hwy ac yu ddiymdroi ar ol dydd y briodas dechreuodd Isaac guro abaeddu. GENETH WEDI LLOSGI I FARWOLAETK. Dydd Marcher, yn Worsbro Dale, cafodd Lucy Bell, 6 oed, genethig i fwnwr, ei llosgi i farwolaeth, trwy i'w dillad gyffwrdd a'r tan. Bhedodd y plentyn i'r llofft ac ymroliodd ar y gwely gan roddi y dillad ar dan. Bhuthrodd i'r ffenestr, a gwelodd y cymydogion y fflamau o gylch ei gwddf. Gwthiwyd y drws nes tori y clo, a gwel. saEty plentyn yn trengu yno, bron wedi ei rhostio. DAMWAIN ANGEUOL YN LLANDUDNO.- Dydd Gwener diweddaf cynhaliwyd trengholiad ar goift Owen Roberts, gyriedydd, Pensarn, ger Llandudno Junction. Cychwynodd gyda'r ger- bydres 9.15 • o Landudno nos Fercher. Ar ol myned ychydig bellder o'r orsaf collodd y taniwr olwg ar Roberts, ac mewn canlyniad safodd y gerbydres, ac aethpwyd i chwilio am dano, a chafwyd hyd iddo yn gorwedd ar y llinell a'i ben wedi ei archolli yn fawr. Bu farw boreu Iau. Dychwelwyd rheithfarn o "farwolaeth ddam. weiniol," DAMWAIN I WAITH DWFR BANGOR.—Boreu dydd Mawrth diweddaf bu damwain i'r gronfa newydd sydd yn cael ei hadeiladu er ystorio dwfr i gyflenwi Bangor yn Nghwm-llafar, ger Bethesda. Yr oedd y gwaith wedi bod yn myned ymlaen er's amser dan arolygiaeth Mr. Gill, y peirianydd trefol, yr hwn oedd wedi cyflogi nifer o weithwyr i wneyd y gwaith. Yr oedd ei amcangyfrif ef o gost y gwaith yn rhywlo oddeutu dwy fil o bunau yn yr oil. Yr oedd mur wedi ei adeiladu tua saith troedfedd o drwch, ar draws yr afon, ac oddeutu deunaw troedfedd o uchder. Yn ystod y n os 'a'grybvsryllwy<i daeib Hifeiria^i isawr, ac yx oedd yn pwyso cymaint ar y mur fel yr ysgubwyd ef ymaith. Ni wyddis eto beth fydd y golled, ond y mae y ddamwain wedi peri cyffro mawr drwy yr ardal. DAMWAIN ANGEUOL YN DYFFRYN NANTLLE.— Prydnawn dydd Iau wythnos i'r diweddaf, fel yr oedd Mr. Robert Roberts, Tyddyn Seion, Nebo, Llanllyfni, ac un arall o'r un lie, yn dilyn eu galwedigaeth yn Chwarel Fronheulog, disgynodd y graig yn sydyn o dan eu traed, a chladdwyd Robert Roberta yn y malurion, Yr oeddynt wedi gwneutbur rhyw fath o stage bron ar ganol y graig, ar yr hon y tyllent, ac yr oedd ganddynt raffau eu dau, a daliodd ei gyd-weitbiwr ei afael yn y rhaff, ac ni frifodd ond ychydig, ond goll- yngodd ef a daeth i lawr ynghanol y graig, a bu am oddeutu awr o dan y malurion, ac yr oedd yn dolefain mor dorcalonus, fel yr oedd y gweithwyr bron yn methu gwneyd eu gwaith wrth ei glywed ond, distawodd rhyw ddeng munyd cyn iddynt ei gael, ac yr oedd yn farw pan y cafwyd ef. Dyma'r cyntaf erioed a gyfarfyddodd &'i ddiwedd yn y chwarel hon. Gadawodd wraig ac un plentyn i alaru ar ei ol, a mawr gydymdeimlir a hwy, ac â'u teuluoedd oil. CYMUNRODD ARALL I GOLEG ABERYSTWYTH.—Y mae Mr. Aaron Thomas, cyfreithiwr, Abertawe, wedi hysbysu Cyngor y Coleg hwn tod y diweddar Mr. Richard Hughes Richards, o Casnewydd, wedi gadael yn ei ewyllys fil o bunau tuag at sefydlu yagoloriaeth i frodorion o air Aberteifi yn y Coleg hwn. Un genedigol o Clorach, ger Aber. ystwyth, ydoedd Mr. Richards; gwasanaethodd ei amser fel cyfrwywr yn y gymydogaeth, yna aeth i weithio i Pontypool, ac ymhen amser symudodd oddiyno i Casnewydd. Ymbriododd & dynes ieuanc o Bristol, ac yna ymsefydlodd mewa masnach ar ei gyfrifoldeb ei hunan yn Weston- super. Mare. Ar gais lliaws o gyfeillion a marsiandwyr, dychwelodd i Casnewydd, ac ym- gymerodd a masnach fwy eang. Yma bu yn hynod o egniol a llwyddianus. Bu farw ar y 13eg cynfisol yn 69 mlwydd oed. Yr oedd Mr. Richards yn ddyn o alluoedd meddyliol cryfion, ac yn hynod o lygadog ac egniol gyda'i amgylch- iadau. Ni chatodd ond ychydig iawn o fanteision addysg yn moreu ei oes, ac yr oedd hyny yn peri fod ei gydymdeimlad yn gryfach &'r cyfeillion ymdrecbgar oedd yn llafurio gyde'r Coleg yn Aberystwyth, er mwyn dwyn addysg uwchraddol o fewn cyraedd y werin am bris isel. Bydd yr ys,colt-.riaeth lyn cael ei galw yn Ysgoloriaeth Mr. Richards." Dyfernir y gyntaf yn mis Medi nesaf. ARDDANGOSFA GYMREIG YN LLUNDAIN.—Yr oedd yn mwriad rhai o foneddigion y Brifddinas i gynal Axddangosfa fawr Gymreig yno y flwyddyn hon. Cynhaliwyd amryw bwyllgorau dyian- wadol, a mawr ydoedd y dyddordeb a deimlid tu ag at y symndiad, yn enwedig ymysg y Cymry yn Llundain. Erbyn hyn, mae'n ymddaiigos fod anhawsderau wedi cyfodi o berthynas i'r tir He y bwriedid ei chynal, fel y mae'n anmhosibl ei chynal y flwyddyn hon. Ond er hyn oil, da genym ddeall fod y pwyllgor wedi pasio yn un- frydol, mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn ngwesty Westminster Palace, ddiwedd yr wythnos ddi- weddaf, o dan lywyddiaeth Syr Pryce-Pryce Jones, fod yr Arddangosfa i gael ei chynal y flwyddyn nesaf. Sicijheir y bydd yn hollol Gymreig. TAN YN NGHAERGYBI. Nos Sul diweaaai oddeutu haner awr wedi chwech, a'r ol i'r bobl fyned i'r gwahanolleoedd o addoliad, darganfydd- wyd Mn yn masnachdy Mr. Moncras, general dealer, Boston Street. Gwelwyd y t&n gyntaf gan Mr. Robert Cross, Feathers Inn, yr hwn a alwodd sylw yr heddgeidwad Parry; at fwg oedd yn dyfod o'r masnachdy. Torodd y ddau i fewn, ac yr oedd y lie yn Hawn o fwg a than. Anfonasant yn uniongyrchol i swyddfa yr heddgeidwaid am y fire-hose, ac hefyd am Mr. Moncras, yr hwn oedd ar y pryd mewn lie o addoliad. Yn y cyfamser yr oeddynt yn lluchio dwfr gyda bwcedi i geisio diffodd y tan ac yn bynod fuan dygwyd y fire- hose i'r lie, gyda'r hon y llwyddwyd ilwyr ddiffodd y tsin. DIANGFA GYFYNG YN ABERYSTWYTH.— Ddydd Gwener diweddaf dringodd un o fechgyn yr Ysgol Gatholig, sydd newydd gael ei sefydlu yma, i fyny i un o'r creigiau uchel cyfagos i'r dref a elwir Craiglais, a phan tua haner y ffordd methu myned yn uwch ceisiodd ddisgyn, ond methodd, a gorfu arno aros. Ceisiodd pedwar o"i gymdeithion, gan weled ei sefyllfa beryglus, ddringo i fyny i'w gynorthwyo, ond gorchfygwyd tY hwythau drachefo gau yr un anhawsder i ddisgyn. Baont yn ymgripio ar wynsb y graig am d-coe awr. Gwelwyd hwynt yn y diwedd, ac fe ddyg- wyd rhaffau i'w hestyn i lawr o'r cribyn, a chan ymaflyd ynddynt llwyddwyd i ollwng y bechgyn i lawr o un i un, ond nid heb berygl enbydus, oherwydd fod y rhaffau gyda phwysau y plant arnynt yn cynhyrfu a gollwng yn rhydd geryg mawrion oddi uchod, y rhai a gwympent i lawr yn unionsyth, a chafodd pob un ddiangfa mwyaf cyfyng. Creodd yr amgylchiad bryder mawr, ac yr oedd tyrfa wedi ymgynull ar y pryd a rhcdd- wyd pob cynorthwy yn eu gallu. Y mae y creigiau a'r fangre yma yn beryglus dros ben, yn neillduol i rai anghyfarwydd fej y bechgyn hyn sydd newydd ddyfod i'r dref, ac mae rhai wedi colli eu bywydau trwy gwympo dros neu oddiar y creigiau ac eraill wedi cael eu cau i mewn gan y llanw. DAMWAIN OFNADWY AR Y RHEILFFORDD.—Boreu dydd Sadwrn diweddaf digwyddodd damwain ofn- adwy yn Penistone, ger Sheffield, lie sydd yn ddigon hynod eisioes am ddamweiniau cyffelyb. Yr oedd cerbydres arbenig yn rhedeg gydalnifer mawr o bleserdeithwyr o Southport a Lerpwl i Lundain ar gyfer yr ymrysonfa rwyfawl rhwng y Prifysgolion. Yr oedd nifer mawr o deithwyr ynddi, ac ar y pryd yr oedd y gerbydres yn teithio gyda chyflymdra trwy le y mae amryw o gang henau yn tori ymaith. Yr oedd y gerbydres yn cynwys tua deunaw o gerbydau llwythog, a'r syn- dod fawr ydyw pa fodd y diangodd cynifer heb eu niweidio. Yr oedd oddeutu tri o'r gloch y boren pan ddigwyddodd y ddamwain, ae y mae peth goriwaered yn y lie. Gadawodd y peiriant y cledrau yn y lie y mae y canghenau yn tori allan, a rhuthrodd i'r ochr. Parodd hyny i'r cerbydau oedd yn ol i ruthro naill i'r llall gyda'r fath nerth fel yr oedd nifer o honynt yn yfflon. Yr oedd yr olygfa yn hynod frawychus, a'r llefain am help yn ofnadwy. Clywyd y gwaeddiadau o'r orsaf ae hefyd o waith cyfagos lie yr oedd nifer mawr o weithwyr. Daeth nifer mawr o gynorthwywyr i'r fan mewn ychydig funydau, a chafwyd pob cyfleusderau i weinyddu help i'r teithwyr anafus. Pellebrwyd am nifer o feddygon yn ddioed, a dechreuwyd ar y gwaith o ryddhau y rhai oedd yn gaeth yn nghanol y cerbydau drylliedig. Yr oodd yn syndod cyffredinol pa sut y diangodd cy- nifer heb eu lladd. Ni chafwyd ond un wedi ei ladd, a phedwar.ar-ddeg wedi eu. hanafu, rhai yn bur dost. Yr oedd canoedd lawer yn y gerbydres, y rhai a ddiangasant yn ddianaf, llawer o honynt hyd yn nod yn parhau y daith gyda cherbydres arall i Lundain, tra yr arhosodd eraill i weini ar y rhai anafus. Barnai rhai mai diffyg ar olwynion y peiriant a barodd y ddamwain.