Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
MARWOLAETH Y DIWEDDAR DDEON…
MARWOLAETH Y DIWEDDAR DDEON LLANELWY. Dydd LInn diweddaf bu farw y Tra Pharcchedig Richard Bonnor, cyn Ddeon Llanelwy, yn eidy, Gorphwysfa, Llanelwy, yn 85 mlwydd oed. Cafodd ei apwyntio yn Ddeon Llanelwy yn y flwyddyn 1859, a Uanwodd y swydd bwysig hyd Gorphenaf, 1886, pryd yr ymddiswyddodd oblegid aflechyd. 0 dan ei arolygiaeth llwyr adgyweiriwyd yr Eglwys Gadeir:ol, 8ó chyfranodd yn helaeth o'i feddianau ei hun tuag at ddwyn y gwaith i derfyniad.
PERIGLORIAETH RUDBAXTON, SIR…
PERIGLORIAETH RUDBAXTON, SIR BENFRO. Y mae yr Arglwydd Ganghellydd wedi cyny, y tywoliaeth uchod i'r Parch W. Henry Walters, M.A., Cllrat St. Paul's, Bekenham, ac y mae yntau wedi ei Serbyn. Mab ydyw Mr. Walters i'r Doctor parch- adigo Llansamlet. Bu yn fyfyriwr yn Ngholeg Dewi Sant, lie yr enillodd ysgoliaeth, ao y graddiodd yo B.A. yn y flwyddyn 1874. Enillodd y Milner Exhibition yn Ngholeg St. Pedr, Caergrawnt, a graddiodd yn B.A. (junior optime) yn 1879. ac yn H.A. yn 1883. Ordeiniwyd ef yn ddiconyn 1881, ac yn offeiriad yn 1883, ac y mae wedi gwasanaethu fel Curttd yn Everton, Lorpwl, Selattyn, ger Oswestry, ac yn St. Paul's, Eeckenham. Eiddunwn iddo Iwyddiant mawryn ei blwyf newydd.
EGLWYS NEWYDD MELINCRYTHAN.I
EGLWYS NEWYDD MELINCRYTHAN. Dydd Iau diweddaf gosodwyd careg sylfaen Eglwys newydd St. Catherine, Melincrythan (Gastell Nedd), gan Miss Place. Er fod y tywydd braidd yn anffafriol yr oedd tyrfa fawr wedi d'od ynghyd, ao ymhlith eraill yr oedd yr Hybarch Archddiaoon Llandaf, y Parchn. J. Griffiths, D.G. Lewis Jones, Gadoxton T- W. Edmondes, Penybont D. Lewis, Briton Ferry; H. Morris, Aberafon Peter Wil- liams Henry Williams; E. Bulstrode Pryce; D. Jonna, a — Hughes, Briton Ferry, yn bresenol. Cafwyd gwasanaeth byr, ac anerohiadau gan yr Afchddiaoon, y Parchn. John Griffiths, a T. W. Edmondes. — Mewn gwasanaeth arbenig agynhaliwyd ddydd Mercher diweddaf yn Llandaf, bu i'r Esgob ganiatau trwyddedau i'r curadiaid canlynol:- Y Parch. Joseph Hall, B.A., Llandenny y Parch. William Morris, B.A., Glyncorrwg, Resolven. Y mae Esgob SodoraManaw wedi gwella oddi- Wrth yr afiechyd dilynol i'r anwyd a gafodd yn Eg- !wys Gadeirlol Caerefrog ar yr amgylchiad o gysegr- iad Esgob Jayne. BI) Esgob Carlisle yn llywyddu cyfarfod o Gymdeithas Cynorthwyo Clerigwyr ei Esgobaeth yn •^diweddar, pan y dywedodd ei fod, oblegid henaint, dan orfodaeth i edrych allan am wr cymwys i'w Synorthwyo yn ei waith esgobol. Hysbysa Rheithor Penarth, ger Caerdydd, ei fo wedi derbyn rhodd o £ 3000 oddiwrth Arglwydd Windsor tuag at gronfa adeiladu eglwya newydd yn Y plwyf. Y mac ei arglwyddiaeth hefyd wediitddaw thoddi tir yn Victoria Road, gwerth £ 3,000, yn rbad €r adeiladu aglwys newydd arno. Bydd yr eglwys yn aefyll mewn ysgwar o dair a haner o aceri. p~- Bydd Sadwrn wythnos i'r ddiweddaf bu farw y f^oh. Alfred Edersheim, yn bur sydyn, yn Men- tQOe. Yr oedd yr ymadawedig yn awdwr amryw o J'eithiau poblogaidd cysylltiedig Eg hanesyddiaeth AUDDEWIG. Y maa ei lyfr, "The Life and Times of the Messiah," wedi myDed trwy amryw ar- ^affladau. Ordeiniwyd Dr. Edersheim yn d&iacon r5 yn offeiriad yn y flwyddyn 1875, ao yr oedd yn j?ect preacher yn Rhydyehain yn y flwyddyn 1884. a yn meddiant ficeriaeth Loders, swydd Dorset, 1883, ond yn ystod y bl.ynyddoedd diweddaf bu In ttigo yn Rbydychain. Yr oedd ei iechyd yn wael <\Wn er's peth amsor. Dywedir fod Esgob Wakefield, yr hwn sydd :edl pregetbu ddwy waith neu dair bob Sul oddiar 1 gysegriad, yn awr wedi gorphen ei ymweliad d holl! 68lwysi ei esgobaeth. P v Dydd Sadwrn wythnos i'r diweddaf, gosodwyd y Paroh. E. S. Talbot, D.D., diweddar Warden • °'eg Kefcle, Rhydyehain, mewn meddiant o Ficer- Leeds, yn olynol i Dr. Jayne, Esgob Gaer.
LLITH 0 LERPWL.
LLITH 0 LERPWL. [GAN EIN GOHEBYDD AEEENIG,] GWASANAETHAU CENHADOL. ■Mudiad diweddar yn yr Eglwys ydyw cynal gwas. cenhadol, neu, hwyraob, yn fwy priodol, yr Yr wyf am gymeryd gclwg gyffredinol ad{ •'3rios yma ar y gwasanaethau hyn fel moddion Cg^iad Eglwysig ac achubiaetli pechaduriaid. ^^aeth ar raddfa eang yw yr Eglwys, a gellir rhVw hyny yn ddigon priodol, mai yr un a'r un- ydlo y"yw amcan ei gwainyddiadau cyffredin a sef- HiQ | aS eiddo y gwasanaethau arbenig hyn. Ond a,etha yny ya UI1 rheswm yn erbyn cynal gwasan- ge1:ha.u oenha.dol. Moddion anghyffredinol yw y °aSi i gyfarfod S, chysgadrwydd ysbrydol yr gvyasari y bobl yn rhy dueddol i ymgynhefino a synhioa^hau ^Sredin yr Eglwys ac, o ganlyniad, byilv 1 odifrawder a difaterweh ysbrydol. Heblaw aUolU0ddir llawer i ddyfod i'r gwasanaethau neill- yn nad ydynt un amser yn mynychu un lie o addoliad. Rhoddant gyfleusdra arbenig i'r oenhad- on i ddyfod yn nes at y bobl, ao i siarad & hwynt, megis, wyneb yn wyneb, a dwyn ger eu bron mewn modd syml a difrifol wirioneddau mawrion a difrifol yr efengyl. Rhoddant hefyd i'r bobl fantais i glywed gwahanol ddoniau. "Dewiswch y doniau goreu," medd yr apostol. Nid oes dim ynddo ei hun allan o le yn hyn. Er mai yr un yw y genadwri, y mae gan oslef y llais, y dull o feddwl, yngbyd & gwahanol ddulliau ei thraddodiad ddylanwad neillduol ar y gwrandawyr. Barn onest yr ysgnfonydd ydyw mai rhy fach o gyfleusderau i bregethu ydoedd un o'r prif rwystrau ar ffordd llwyddiant yr Eglwys yn Nghymru yn yr oesau a aethant heibio. Mae y gwasanaethau oenhadol hyn hefyd yn brawf fod yr Eglwys o ddifrif. Nid oes dim ag sydd wedi gwneyd mwy o niwed i'r Eglwys yn Nghymru na'r syniad o ddiSyg ysbrydolrwydd. Gellid dwyn y cybuddiad hwn gyda llawa cymaint o briodoldeb, os nid mwy, yn erbyn y cyfundebau Ymneillduol. Hen gan yr Ymneillduwyr ydyw nad oes dim orefydd yn yr Eg- lwys, ond byddai yn burion i'r cyhuddwyr gofio y gorchymyn dwyfol, Na fernweb," &c. Pan oedd yr Eglwys yn esgeuluso ei dyledswyddau aa yn gorwedd mewn cysgadrwydd ysbrydol, yr oedd llawer o wir yn y cyhuddiad, ond yn awr pan y mae yn ymysgwyd o'r llwch ac yn deSro o ddifrif at ei gwaitb, priodolir gau ddibenion i'r offeiriaid Cymreig, a hyny gan weinidog Methodistaidd o safla y Paroh. Dr. Saunders. Mae y llwyddiant sydd yn dilyn y gwasanaethau cenhadol difrifol hyn yn mynecl ymbell i symud y syniad o ddiSyg ys. brydolrwydd yn yr Eglwys yn Nghymru, a gofaled ei gelynion rhag eu hod yn ymiadd yn erbyn Duw. Pa un ai Dya Dall ynte Dyn Dwl a olygir wtth y D.D. o Abertawe, barned y darllenydd. AMSEB EU CYNHALIAD. Gellir cynal y gwasanaethau adfywiadol hyn un- rbyw dymor o'r flwyddyn, yn ol fely byddo amgylch- iadau yn caniatau; ond nid oes un adeg mwy cymwys a pbwrpasol yn y Flwyddyn Eglwysig na thymor y Garawys, sef yr amser sydd wedi ei neill- duo gan yr Eglwys Gatholig i ymostwng gerbron Duw mewn edifeirweh am ein pechodau. Da genyf weled yr arferiad o gynal gwasanaethau cenhadol y tymor pwysig yma o'r flwyddyn yn dyfod yn fwy cyfiredin. Ond rhaid i mi frysio ymlaen at Y GENHADAETH YN EGLWYS GYMREIG ST. NATHANIEL, at yr hon y eyfairisis yn fy llith ddiweddaf. Parha- odd y gwasanaethau cenhadol am wyth niwrnod, a dygwyd hwynt i derfyniad y Sul diweddaf. Am 7 30 nos Lun darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. W. A. Ellis, a'r Vith gan Mr. Thomas Jones, warden. Pregethodd Mr. Ellis oddiwrth Diar. iv. 7, "Penaf oeth yw doethineb cais ddoethineb, ac A'tla holl gyfoeth oais ddeaU." Nos Fos Fawrth, darllenwyd y gwasanaeth gan Mr. Ellis, a pbregethodd Mr. R. W. Roberts, m/fyriwr o Goleg St. Aidan, oddiwrth Salm xxxix. 12, 13, "Gwrando fy ngweddi, Arglwydd a chlyw fy lief; na thaw wrth fy wylofain, canys ymdeithydd wyf gyda thi, ac alltud, fel fy holl dadau," &c. Y cenhadwr nos Fercher oedd Mr. Ellis, yr hwn, yn absenoldeb anocheladwy y Parch. W. H. Jones, curad St. Martin'e-in-the-fleld, a wnaeth sylwadau pellach oddiwrth yr un testyn g nos Lun. Nos Iau darllenodd Mr. Ellis y gwasan- aeth, a phregethodd y Paroh. Stephen Jones, curad St. Matthew, Toxteth Park, oddiwrth St. loan i. 11, 12, 13, At ei eiddo ei hun y daeth, a'r eidiio ei hun nis derbyniasant ef." Pregeth dda a sylweddol. Dangosodd mai nid yr Iuddewon yn unig a wrthod- asant yr Arglwydd Iesu Grist, ond nad oedd llawer a broffesent grediniaeth ynddo yn y dyddiau hyn yn ei dderbyn. Nos Wener darllenwyd y gwasanaeth gan Mr. Ellis, a'r Ilith gan Mr. Davies, o Goleg St. Aidan, a chafwyd pregeth effeithiol gan Mr. R. W. Roberts, o Goleg St. Aidan, oddiwrth 2 Cor. v. 10, Canys rhaid i ni oil ymddangos gerbron brawdle Crist," &e. Y pregethwr nos Sadwrn oedd Mr. M. J. Hughes, o'r Coleg, a phregethodd oddiwrth y geiriau—" Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a'm hanfonodd, tra yr ydyw hi yn ddydd," &c. Amcan bodolaeth dyn oedd gwneyd rhywbeth yn y byd ali Eglwys. Yr oedd gan bob dyn ei waith, ao yr oedd yn rhaid ei gyflawni yn ei amser-11 Tra ydyw hi yn ddydd." Yr oedd yn waith pwysig yn ei ganlyn- iadau yn waith pwysig am na allai neb ei gyflawni drosom. Yr oedd gwaith y meddyg yn bwysig, ond gwaith oedd hwn oedd yn dwyn perthynas a'r enaid. Yr oedd yn rhaid ei gyflawni mewn amser byr, yr hyn oedd yn hynod yn banes yr Arglwydd lesu Grist ydoedd-icldo orphen ei waith cyhoeddus mewn tair blynedd. Dydd mown cyferbyniad i nos—nos erledigaethau, a nos angau. Byddai yn nos gyffred- inol-" Ni ddichon neb weitbio." Pregeth ragorol oedd hon, ond rhaid ymatal. GWASANAETHAU Y SUL. Boreu y Sul diweddaf darllenwyd y gwasanaeth gan Mr. Ellis, a'r llith gan Mr. Thomas Jones. Pregethodd Mr. Ellis oddiwrth Salm xlv. 3—6, "Gwregyaadygleddyf ar dy glun, O Gadarn, &'th ogoniant a'th harddwoh, ao yn dy harddweh marchoga yn llwyddianus, "&c..l:'rít later ei bregeth ydoedd—mawrhydi brenhiniaeth Crist, yr ofierynau drwy y rhai yr oedd yn gweithio, a'i fudd- ugoliaethau. "0 Gadarn "—dyna deitl y Com- mander mawr. Ceid profion o'i gadernid yn y greadigaetb, mewn Rhagluniaeth, ac yn nhrefn gras. Yr oedd yn gadarn yn ei alio, ei ddoethineb, a'i ddaioni. Gwaith dieithr i Grist oedd dinystrio -ei hoff waith oedd trugarhau. Yr oedd yn ddigon cadarn i amddiffyn ei iawnderau ei Hun, ac amddiffyn ei Eglwys. Yr oedd yn gorohfygu pob anhawsderau. Sylwodd at fuddugoliaethau y Groea. Yr oedd wedi creu chwyldroad ysbrydol yn y byd. Yr oedd wedi dinystrio allorau ss dym- chwelyd temlau paganaidd. Gallai wneydyr un peth eto-cipio pentewynion o'r gyneuedig ddn. Yr oedd cyfaddasder neillduol yn Ngair Duw i dreiddio i'r galon, ac yr oedd y saethau yn glynu yn nghalon- au gelynion y Brenin. Cymhwvsodd y gwirionedd mewn modd grymus ao eff (iithiol at y gynulleidfa. Yn yr hwyr darllenwyd y gwasanaeth gan Mr. Ellis, a phregethodd Mr. M. J. Hughes oddiwrth Gal; vi. 7, 8, 11 Na thwyller chwi. Ni watworir Duw, canys beth bynag a hauo dyn, hyny hefyd a fed efe," &c. Prif fater y bregeth ydoedd y cydweddiad rhwng crefydd Natur a chrefydd Datguddiad—"Yr hyn a hauo dyn, hyny hefyd a fed efe," ac mai ar hyn yr oedd llawer o ddamegion yr Arglwydd Iesu Grist yn sylfaenedig. Yr oedd pob peth a wna dyn yn dwyn ffrwyth, a phob gweithred o'i eiddo yn weithred foesol. Yr oedd dyn yn hau yn gorfforol, meddyliol, cymdeithasol, a chrefyddol. Yr oedd hau yn gymdeitbasol yn dwyn ffrwyth mewn oym- deithas, &c. Yr oedd y dyfodol yn perffeithio y presenol. Nid oedd dim amheuaeth am y canlyn. iadau—Beth bynag a hauo dyn," &o. Yr oedd yr hauwr yn gyfrifol am yr hyn yr oedd yn hau yr oedd y medi yn dangos natur yr had. Hwn oedd y Ilafur oaletaf o bob llafur. Nid oedd yn bosibi myned i'r nefoedd heb lafurio. Yr oedd dyn yn gwneyd aberth er mwyn y dyfodol. Gwers fawr y Groes ydoedd aberthu yr oedd Crist ei hun dan y ddeddf hon. Yr oedd dyn yn enill ei sefyllfa mewn byd arall drwy lafur. Y mae yn brofedigaeth i ddy- fynu, ond rhaid gadael. Nid yn fynyoh y clywais y fath ddarn o ymresymiad. Wel, hyderaf yn gryf wrth derfynu y bydd i'r had da a hauwyd yn Eg- lwys Gymreig St. Nathaniel yr wythnos ddiweddaf gael dyfnder daear yn nghalonau y gwrandawyr fel y dygo ffrwyth buchedd dda. Cafwyd cynulleidfa. oedd lliosog, yn enwedig nos Sul, gwasanaethau gwresog, pregethau grymus, ac arwyddion o foddlon- rwydd y Nef ar y genbadaeth. Profiad llawer yn y gwasanaethau bendithiol hyn ydoedd- Ni gawsom rai defnynan i lawr, Beth am yr awr cawn fyn'd i'r mor Ceir adolygiad gan Mr. Ellis ar y Genbadaeth yn y gwasanaeth nos Fercher.
NODIAJJAU 8ENEODOL. ..
NODIAJJAU 8ENEODOL. [GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG.] HYD AREITHIAU SENEDDOL. Cynygiodd Arglwydd Denman, yn Nhy yr Ar. glwyddi, ddechreu yr wythnos ddiweddaf ail-ddar- lleniad mesur, amcan yr hwn, meddai, ydoedd cyf- yngu hyd areithiau Seneddol. Bttrnai Arglwydd Salisbury mai doethaoh fyddai iddynt beidio mabwysiadu mesur o'r fath oddieithr eu bed yn cael eu blino gan araithiau afresymol o hir, fel y Ty arall; a chynygiodd fod y mesur i gael ei ddarllen ymhen y chwe' mis, neu, mewn geiriau eraill, ei wrthod. Cydunwyd at y gwelliant heb ranu y Ty. Mae gwir angen am fesur o'r fath yn Nhy y Cyffredin, ond nid yw y eaccothes loquendi (ysfa am siarad) mor gryf yn Nhy y Pendefigion. RHYDDFREINIAD MERCHED. Oynygiodd Arglwydd Denman drachefn ail-ddar- lleniad y mesur hwn at y tir fod gan wragedd gweddwon a merched di-briod oedd yn talu trethi lleol ac Ymerodrol hawl gyfiawn a rhesymol i'r etholfraint Seneddol. Dywedodd Arglwydd Salisbury ei bod yn ddrwg ganddo ymddengoe yn y cymeriad o wrthwynebydd i'w gyfaili urddasol, yn enwedig am ei fod ar y oyfan yn cymeradwyo amcan y mesur. Yr oedd, modd bynag, yn fater o bwys i'r ddau Dy gael eu gadaeJ i edrych ar ol eu oyfanseddiad eu hunain. Nid oedd dim a allai roddi mwy o gefnogaeth i Dy y Cyffredin i ymyraeth a chyfansoddiad Ty yr Ar- glwydtiinag ymgals o eiddo yr olaf i ym wneyd â. ohyfansoddiad y Ty arall. Dylaimuàur o'r fath gael ei ddwyn i mewn yn Nhy y Cyffredin. Dywedodd Arglwydd Granville fod y Prif Weini- dog ar achlysur arall wedi siarad yn ffafr y mesur. Atebodd Arglwydd Salisbury nad oedd y datganiad a wnaeth yn ffafr y mesur ond amlygiad o'i farn bersonol. Cydunwyd ar y meBur heb ranu y Ty. Mae un nodwedd neillduol o werthfawr yn nghymeriad yr hen wladweinydd hybarch, ond mympwyol, Arglwydd Denman nid yw un amser yn gwybod pan fyddo wedi ei orchfygu. LLESTEIRIAETH YN NHY Y CYFFREDIN. Ychydig waith a wnaed yn Nhy y Glebar yn ystod yr wythnos. Gwastreffid amser y Ty drwy ofyn cwestiynau gan y Gladstoniaid a'r Parnelliaid mewn perthynas i'r Ddirprwyaeth Farnol, y car- charorion Gwyddelig, Pigott a Daly, llythyr Dr. Barr yn y Times, ao yn y blaen ad infinitum. Am. can y gwrthbleidiau hyn ydyw rhwystro y Llywodr- aeth i fyned ymlaenjgyda'r amcangyfrifon. Gwrth- wynebant bob cynygiad o eiddo y Llywodraeth yn y pwylIgorau drwy godi. cwestiynau hollol anmherth- ynasol. GWAITH Y TY. Nos Fawrth, cynygiodd Mr. W. H. Smith fod y flaenoriaeth i gael ei rhoddi i'r pleidleisiau arianol ar bob gorohwylion eraill, ac arweiniodd hyn i ddadl boeth. Protestiai Mr. Bradlaugh ynferbyn gwaith y Llyw-1 odraeth yn ymyraeth 4 hawliau aelodau preifat. Dywedodd Syr W. Harcourt nad oedd y cynygiad hwn 0 eiddo Prif Arglwydd y Trysorlys ond ffurf newydd a drwgdybus o'r Cloadur, ae mai amcan y Llywodraeth bedd atal dadleuaeth dZg ar gwestiynau cyhoeddus," ao y deuai yr amsar yn fuan pan na fyddai Ty y Cyffredin yn 11a i ddadleu cwestiynau o gwbl, end lie i gofrestru penderfyn- iadau y Llywodraeth. (Chwerthin.) Enwodd lawer o bethau ynglyn â,'r Ddirprwyaeth Barnell- aidd yr oedd yn awyddus i alw sylw atynt. Dywed. odd ei fod yn awyddus i wneyd ymosodiad at y Llywodraeth am roddi tystion at wasanaeth y Times, a'i fod yn bwriadu gwrthwynabu y bleidlais i'r Twrnai Gyffredinol. Dywedodd Mr. Goschen fod araith Syr William Harcourt yn ddirgelwch iado ef. Yr oedd y Llyw- odraeth yn awyddus i hwylusu gwaith y Ty, ond yr oedd Syr W. Harcourt a'r rhai oedd yn oyd. weithredu fig ef wedi eu rhwystro i ddyfod at y vote on account (sef y bleidlais am y flwyddyn ddyfodol), ac wedi gwastraffu yn fwriadol amser y Ty. Protestiwyd yn erbyn y oyhuddiad hwn gan Dr. Cameron, Dr. Tanner, a Syr George Trevelyan. Dywedodd Mr. Gladstone nad oedd gan Ganghell- ydd y Trysorlys ddim hawl i f arnu faint oamler & ddylid dreulio i ddadleu pleidleisiau mewn pwyll- gorau oyflenwadol, ac nid oedd jef (Mr. Gladstone) yn credu fod brys neillduol am y vote on account. Dywedodd Mr. John Ellis fod y Llywodraeth yn awyddus i osgoi dadi mewn perthynas Ar Twmai Gyffredinol. Gyffrodd y oyhuddiad brwnt a maleisus hwn Mr. W. H. Smith, a dywedodd os gwnai Mr. Gladstone a'i gydweinidogion ddwyn cynygiad pendant ar y mater gerbron y Ty fod y Llywodraeth yn barod i roddi eu holl amser at eu gwasanaeth. Derbyniwyd y cynyg teg hwn gyda bloeddiadau byddarol a gymeradwyaeth o feinoiau y Weinyddiaeth. 'Doet dim yn debyg o ddigon o bluch. Hawdd ddigon i'r llygod yn y ddameg areithio yn ddoniol ar y priod- oldeb o osod oloch am wddf y gatb, ond gwneyd hyny oedd y pwno. Gollyngodd Mr. Labouchere y gath o'r cwd pan ddywedodd os na wnai y Llywodraeth apelio at y wlad y gwnai yr Wrthblaid daflu pob rhwystrau yn eu gallu ar ffordd pob deddfwriaeth. Cynygiodd welLiant i adael allan y geiriau ag oedd yn galluogi y Ty i eistedd wedi haner nos, yr hwn a gollwyd drwy fwyafrif o 106. Wedi hyny rhoddwyd oynygiad Mr. Smith i'r Ty. a chariwyd ef drwy fwyafrif o 99. Bravo I APEL AT YR WRTHBLAID. Nos Fercher, gwrthdystiodd Mr. W. H. Smith yn gryf yn erbyn y gwastraff ar amser y Ty, yr hyn oedd yn cadw y Llywodraetbrhag cael cyfleustra i ateb y cyhuddiadau y rhai, fel y deallai, a fwriedid ddwyn yn eu herbyn. Yr oedd y Llywodraeth yn awyddus i gyfarfod y cyhuddiadau hyn. Yr oedd y ewrs a gymerid gan yr Wrthblaid heb ddim cyffelyb iido yny gorphenol, a'r canlyniad fyddai atal pob deddfwriaeth fuddiol i'r wlad. Yr oedd y gwastraff eywilyddus hwn ar amser y Ty yn sict o brofi yn llwyr ddinystr i'w ddylanwad, ei awdurdod, a'i urddas. Y DDIRPRWYAETH FRENHINOL. Gwnaed ymosodiad Byrnig ar y Llywodraeth a Dr, Barr yn mhwyligor y eyflenwad. Dywedodd Mr. A. J. Balfour fod haeriadau cywil- yddus Syr William Harcourt wedi eu gwneyd i'r diben o grou "politioal capital gyda golwg ar y rhna gymerodd y Llywodraeth yn y Ddirprwyaeth Barnellaidd. Gwadai ei fod yn gyfrifol am lythyr Dr. Barr. Ymosodid ar Dr. Barr am ei fod wedi dinoethi yr ysbwrial a gyhoeddid ynghylch y rhai & gam-enwid yn "garcharorion politicaidd" yn yt Iwerddon. Yr oedd disgwyliad y buasai yr Ysgarwyr yli gwneyd ymosodiad ar y Twrnai Cyffredinol (Syr R. Webster) yn ei gysylltiad a'r Ddirprwyaeth BarnelU aidd, ond digon prin y crybwyllwyd ei enw. Pasiwyd amryw bleidleisiau arionol yn nghanol y berw Gwyddelig, a darllenwyd y Consolidated Fund Bill yr ail waith. Mesur y Gronfa Soddedig. « DEFAID DUON YN NHY YR ARGLWYDDI. Dydd Iau, yn Nhy yr Arglwyddi, oynygiodd Arg- lwydd Caernarfon ail ddarlleniad y Mesur a ddygodd ymlaen yr wythnos fiaenorol, amcan yr hwn ydoedd anghymwyso unrhyw aelod o'r Ty a fyddai yn euog o gamymddygiadau neillduol i gymeryd than yn ei weithrediadau, ac ar ol cryn ddadleu ymranodd y Ty, pryd y pleidleisiodd- Dros yr ail ddarlleniad 14 Yn erbyn 73 Mwyafrif 59 CAU AR Y SUL YN NGHYMRU. Mewn atebiad i gwestiwn dywedodd yr Ysgrifen- ydd Cartrefol fod ei sylw wedi ei alw at y cyfeiriad a wnaed gan Mr. Justice Grantham yn Mrawdlys Morganwg at weithrediad Act Cau y Tafarnau ar y Sul yn Nghymru, a'u bod o'r farn y byddai ymchwil- iad y byddai ymohwiliad i'r mater yn ddymunol. Yr oedd y cwestiwn dan eu hystyriaeth pa. un ai Pwyll- gor Datholedig ynte Dirprwyaeth Frenhinol fyddai y goreu i wneyd yr ymchwiliad. Y CYHUDDIADAU YN ERBYN Y LLYW- ODRAETH. Yn Mhwyligor y Cyflenwad ar y flaen-bleidlais (vote on account), dywedodd Mr. John Morley mai y rheswm fod yr Wrthblaid yn oedi dwyn ymlaen bleidlais o gerydd ar y Llywodraeth ydoedd fod ffeithiau newyddion yn dyfod i'r amlwg beunydd; ond nid oedd dadl na wneid y oynygiad wedi iddynt gael yr holl ddefnyddiau yn llawn at eu gwasanaeth. Yna aeth ymlaen i feirniadu y Llywodraeth a'a swyddogion yn yr Iwerddon mewn perthynas &'r Ddirprwyaeth Barnellaidd. Rhoddodd Mr. Balfour gurfa i'r athrodwyr Glad- stonaidd nad anghoflant mo honi y rhawg. Dywed- odd fod gwrthwynebwyr y Llywodraeth yn y Ty yn cyfyngu eu hunain ilr gorchwyl o ofyn cwestiynau, ac yn y wlad yn taenu anwireddau am y Llywodr- aeth. Yr oedd Syr William Harcourt wedi bod yn haem o'r tu allan i'r Ty fod Mr. Houston yn ngbyfrinaoh Pigott, fod y Times yn nghyfrinach Houston, a bod y Llywodraeth yn nghyfrinaoh y Times." Ni fu erioed athrod mwy dyobrynllyd, mwy gwaradwyddus, a mwy disail." Gwrandewch yu inhollach: "Mao ein gwrthwynebwyr yn ym-
CONFFIRMASIWN.
ddygwyd ato 40 o ieuenctyd, a 10 o rai mewn oed- ran hynach. Anerchodd hwynt yn syml a phwysig, am euhymrwymiad yn nghyfamod y bedydd. Canodd y Car yr anthem "Mor hawddgar yw dy bebyll di," o dan arweiniad Mr. T. Price (Coetmor). Nifer yr ymgeiswyr oedd fel y canlyn:—Gwrywod, 23 henywod, 27; cyfanrif, 50. Bendith Duw f'o ar ei Eglwys, ac ar bob un sydd yn llafurio yn ei winllan. -Gohabydd achlysurol. EGLWYI FAIR, CAERDYDD.—Ar yr 17eg o'r mis hwn ymwelwyd â'r plwyf uchod gan Arglwydd JEsgob Llandaf er gweinyddu conffirmasiwn. AI- ddodwyd dwyfaw ar 115, sef 35 o wrywod. a 80 o lonywod. ROATH (ST. MARGARIET).-Dydd Mawrth, y 19ag, cynhaliwyd gwasanaeth o'r un nafcnr yn yr Eglwys hon. Dorbyniodd 146 y ddefod. O'r rhai'n yr oedd 43 yn feohgyn, a 103 yn ferched. EGLWYS ST. lOAN (CAERDYDD).- Y cliwrnod can- lynol conffirmiodd ei Arglwyddiaeth 136 yn Eglwys St. loaD. Gwnelid y rhif i fyny o 36 o wyr, a 100 o Wragedd.