Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
21 articles on this Page
LLANFIHANGEL ESCEIFIOG.
LLANFIHANGEL ESCEIFIOG. Dydd Sadwrn, y 23ain cyfisol, cynhaliwyd festri blwyfol yn y Nenadd Gyhoeddus, y Parch. G. W. Griffith, rheithor, yn y gadair, pryd yr etholwyd yn un- frydol y personaa canlynol yn overseers y tlodion Mri. Hugh Roberts, Nant Gwag, ac Owen Williams, Grttig Bach. Yn overseers y ff ordd f awr:-Mi i. John Owen, Gaerwen Ganol, ac O. Williams. Yn warcheid- wad y tiodion, Mr. Ricbaxd Jones Tyddynhic ac yn churchwardens, Mri. Richard Williams, Ty'nycae, ao H. Williams, Berw Uchaf.
CRAIGTREBANWS.
CRAIGTREBANWS. Da genyf glywed fod golwg lewyrehus ar y gwasan- aethau Eglwysig yn y lie hwn. Er nad oes eto dair wythnos er pan y dechrenodd yr Eglwys ar ei gwaith yma, y mae y brwdfrydedd a'r zel aydd yn cael ei ddangos ar bob llaw yn profi fod trigolion Craigtrebanws beth bynag yn gwertbfawrogi yr ymdrechion a wneir i ddwyn yr Eglwys a'i gwasanaethau yn agos atynt. Hid "Eglwyswyr tywydd teg" yw Eglwyswyr Craig- trebanws, Mr. Golygydd, o na,, y maent, yn hen ac yn ienanc, o ddifrif, ac yn benderfynol i wneyd yr hyn a allont, nn ae oil, i wneyd yr Eglwys yn alln yn y He. Y maent yn barod wedi deohren o ddifrif i ddosbarthu Y XJLAN fel moddion i ddysga y bobl yn athrawiaethau yr Eglwys. Canmoladwy iawn, onite? Ewch ymlaen Eglwyswyr anwyl, y mae tir lawer eto i'w feddiana. Daw yn rhwydd i chwi.-Collie;
LLAFIHANGEL TRE'RBEIRDD, MON.
LLAFIHANGEL TRE'RBEIRDD, MON. Y mae yn hyfrydwch mawr genyf ddweyd fod golwg bar lewyrehus ar yr Eglwys uchod. Y mae yma rai 7Ymneiliduwyr wedi dyfod yn ol i'r hen gorlan glyd a chynes, ac yr wyf yn disgwyl y bydd iddynt gael eu conffirmio cyn bo hir. Bydd yr Eglwys yma yn llawn braidd bob Sal. Y GARAWYS.-Nos Fawrth, y 12fed, traddodwyd pregeth odidog gan y Parch. T. LL Kyffin, Llanbadrig, yn yr Eglwys uchod. Darllenwyd y gwasanaeth gan ein rheithor, y Parch. R. Jones. Ar y nos Fawrth gan- lynol* sef y 19eg, cafwyd pregeth addysgiadol iawn gan y Parch. G. W. Griffith, Gaerwen; darllenodd y Parch. Q. K. Williams y gwasanaeth. Yr oedd yr Eglwys yn orlawn ar y ddaa amgjlchiad. Disgwylir y Parch. D. Ll. Jones, Amlwch, yma nos Fawrth nesaf, sef y 28ain, i draddodi pregeth y Parch. T. Thomas Owen, Lian- I gwyllog, ar yr 211 o Ebrill. a'r Parch. John Owens, Llangristiolus, ar y 9fed.- Un hoff o'r Eglicys.
BETHESDA A'R CYLCHOEDD.
BETHESDA A'R CYLCHOEDD. Y GYMDEITHAS WYDDONOL.—Cynhaliwyd y cyfarfod nos Fercaer diweddaf yn y Clabroom Ceidw-adol fel arfer, gan yr athraw Mr. Hardy. Eglarai wahanol xanau gwyddoniaeth mewn ffarf o ofyniadan, deagain mewn nifer, ac y mae am barhau hyd mis Mai. CYNGARDD.—Nos Ian, yn Neuadd y Farchnad. cyn- haliwyd budd-gyngerdd er cynorchwyo Mr. Robert John Parry (Alaw Ogwen), yr hwn sy'n anallnog i ddilyn ei alwedigaeth er's araser maith. Llywyddwyd gan Mr. BenjamiaThomas. Trosyffordd, ac arweiniwyd gan y Parch. G. Roberts, Carneddi. Gwasanaethwyd gan gor o feibion, dan arweiniad Mr. R. S. Haghes car Llanllechid, dan arweiniad Mr. Thomas Pearce (Coetmor); parti St. Anne, dan arweiniad Mr. D. B. Jones; Tenorydd Arfon; Mr. Hughes, Glanogwen; Mr. D. Gordon Williams, Misses Pritchard, Thomas, Haghes, ac eiaill. CYNGBERDD MAWREDDOG.-NLos Wener, yn y Farch- nadfa, dan lywyddiaeth y Parch. S. Jones, St. Ann's, ac arweinyddiaeth Mr. Thomas Parry, Ochre gynt, cynhaliwyd yr nchod. Cymerwyd rtan gan gor St. Ann's, dan arweiniad Mr. E. W. Thomas, organydd, Miss Smith, Ogwen Glee Party, dan arweiniad Mr. John Haghes (EOB Oeraint), Miss Williams, Bodfeirig School, Tenorydd Eryri a'i barti, Mr. D. W. Thomas, Eos Elidir a'i barti, Miss Ellis, Penrhyn House, Alaw Llechid a'i barti, Ogwen String Band, Penrhyn Royal Brass Band, Miss B. Thomas, Hendurnnike, Miss l'homas, Ficerdy St. Ann a'i pharti, a Mr. Owen Hughes, Aber. Darllenwyd llythyr oddiwrth y Parch. D.W.Thomaa,MA., St. Ann's, a Mrs. Thomas, yn gofidio nas gallasent fod yn bresenol. Mr. Thomas oedd i fod yn llywydd, a Mr. T. H. Owen, Brynllwyd, yn llywydd. Cafwyd cyngherdd da; yr elw i Mr. John Williams, Coed y Pare. REHERSAL.—Cynhaliwyd yr uchod 'yn Brynteg, nos Wener, dan arweiniad Mr. D Jenkins. CIMANFA GANU.—Dydd Sadwrn, yn Jerasalem, cyn- haliwyd yr uchod dan arweiniad Mr. Jenkins, a rhoddai ganmoliaeth lied dda i'r canu. Yr oedd y cynalliadau yn dra lliosog yn y prydnawn a'r hwyr.
JABERAYRON.
J ABERAYRON. Y GARAWYS.—Nos Wener diweddaf cafwyd gwas- anaeth a phregeth yn Eglwys y DrAndod. Darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. W. 0- Edwards. B.D., a phregethwyd gan y Parch. Jenkyn Davies, B.A., enrad Llanfair P.G., yn bnr dda pan ystyriom mai ei maiden sermon ydoedd. Yr oedd yno nifer liosog o wrandawyr. Drwg genym gofnodi mai ychydig-o gefnogaeth sydd yn cael ei roddi i'r Wasg Eglwysig yn Aberayron a'r cylchoedd. Difrawder ydyw an rheswm am y diffvg hwn. Pa le mai yn preswylio ? A fyddai hi ddim yn bosibl galw ynghyd gyfarfod e glerigwyr a lieygwyr i ymdrin ar y mater pwysig hwn ? Sicr yw mai nid ihyw haner dwsin o'r LLAN a werthid yn wythnosol pe buasai yn cael ei iawn gynrychioii yn yr ardal gan ein blaenoriaid. Gobeithio y gwnaiff ein Deon Gwladol gymeryd y mater i'w ystyriaeth er mwyn lledaenu cylchrediad Y LLAN.-P.L.
CWMAFON.
CWMAFON. Y GARAWYS.—Noa Fercher diweddaf. cynhaliwyd gwasanaeth Cymreig'mewn cysylltiad a'r Garawys yo eglwys y plwyf hwn Dywedwyd y gweddian gan ein ficer, y Parch. Mr. Griffiths. D.G., a phregethwyd gan y Parch. William Headley, B.A., cnrad Tredegar. Nos Ian canlynol cynhaliwyd gwasanaeth Seisnig yn eglwyB y plwyf, pryd y pregethwyd gan y Parch. Henry Morris, ficer Aberafon.—John Afan Dairies.
LITTLE NEWCASTLE.
LITTLE NEWCASTLE. Trwy haelioni Mrs. Crookas, gynt o Heathfield, eir Benfro, ond yn awr o Meopbam Court, Kent, y mae stove ardderchog wedi cael ei rhoddi i'r Eglwys, er mawr hyfrydwch a chysur pobl yr Eglwya. Diolch gwresocaf am y rhodd werthfawr.
LLANDDAROG.
LLANDDAROG. CYNGRAIR Y FRIALLEN.—Cynhaliwyd cyfarfod llwydd- ianus dros ben yn yr Ysgoldy Cenedlaethol, nos Fawrth diweddaf, pryd y llywyddwyd gan Mr. R. G. Lawrence, Middleton Hall, ae y traddodwyd areithiaa grymus a hyawdl gan Cadben Jones-Parry, Tyllwyd; y Parch. J. Williams, Llanymddyfri, a Mr. W. Thotras, ysgolfeistr parchas Llanarthney. Cyfeiliwyd ar y berdoneg gan Mrs. N. Thomas, Ficerdy Llanddarog, a chanwyd yn swynol iawn gan Miss Davies, Typica; Miss Thomas, Llanarthney; Mri. E. Colby Evans, Caerfyrddin; T. E. James, Caerfvrddin; James Stephens, Llanddarog, a'r Parch. J. Williams, Llanymddyfri. Yr oedd yr ysgoldy wedi cael ei addurno yn brydferth gan Mrs. Lawrence, yr hwn yw warden ac ysgrifenydd yr Habitation. Trwy ei hymdrechion hi y cafwyd y cyfar- fod, a da oedd ei weled yn llwyddiant perffaith. Dy. wedai nn ag oedd wedi bod mewn llawer cyfarfod o'r fath o'r blaen, mai hwn oedd y goren y bu ynddo erioed. Dymunwn longyfarch Mrs. Lawrence ar ei llwyddiant, a gobeithiwn y cawn gyfarfod tebyg eto yn faan. Der- byniwvd amryw o aelodaa newyddion ar y diwedd. WeU done, LLnhdarog a Llanaithney—y ddaa blwyf enwog am anfon pregethwr adref at ei braidd yn yr etholiad diweddaf. ,o'
LLANLLECHID.
LLANLLECHID. Cynhaliwyd cyfarfod gan E'ilwyr ienainc y Groes," Llanllechid, yn Ysgoldy Cenedlaethol Rachab, nos Sadwrn, y 23a.in cyfisol, o dan lywyddiaeth ein rheithor, y Parch. E. Davies. Trefn y rhaglen oedd fel y canlyn :-Ton gyffredinol, Yn wastad gyda Daw,' gan gor y Plant, o dan arweiniad Mr. John H. Roberts, Cachaidd; adrocldiad, 'Iawn ymddygiad yn nhy Ddnw,' Mr. T. Jones adroddiad,' Penderfyniad i fod yn fachgen da,' Mr. E. Evans emyn, 'Tyr'dYsbrycj &ian i'n e'ionan ni/ gan y Cor; adroddiad,' Mum a't mab,' Mr. W. R. Williams adroddiad, Y cawrfil a'r dyn,' Mr. W. T. Williams cydgan, Milwr bach," gan y Cor adroddiad, Bwthyn yn ngwaelod y dyffryn,' Miss Myfanwy Williams ymddiddan, Crefydd Foreuol,' Mri. R. G. Roberts, a R. Parry adroddiad, 'Er ein mwyn,'Mr. R. Williams; ymddiddan, 'Crist a'r wraig o Sauiaria,' Mr. R. G. Roberts, a Miss Maggie Williams j emyn, Sanctaidd ydyw'r ganaf, a'r cladd- edig had,' gan y Cor; ymddiddan, Ei Beren ef,' y Misses Annie Roberts, a Jane Parry; adroddwyd adnod o'r Efengyl yn ol St. Luc, ii. 15, gan Mr. M. J. i Eyans emyn, Gogoniant, clod, a moliant,' y Cor adroddiad cyfarchiadol, Yr Ysgol Sal, Mr. W. Davies; can gan y Cor anerchiad, Yr Ysgol Sal,' Mr. W. R. Williams penillion, Cor y Llan,' y Cor adroddiad, Blychaid o berlaa,' Mr. M. Williams ymddiddan, Y ddinas brydferth,' Mri. S. E Roberts, M. Roberts, a E. Griffiths; emyn 541, ail ran, Am danat gartref nefol,' y Cor ymddiddan, Y fyddin fawr,' Mri. O. Williams, a H. Roberts; penillion, 'De'wch diin y faner,' y Cor adroddiad, '(Jenhada.eth,' Mr. T. L. Owen; anerchiad gan y Llywydd, yn hynod gyuwys- fawr ac ymarferol. Dywedodd na chafodd y fath wledd er's blynyddau; fod y gynulleidfa wedi gwrando yn gampus, ac wedi ymddwyn yn rhagorol. Cynygiodd ddioichgarwch cynes i'rrhai oedd wedi ymgymeryd a'r gwaith o addysga y plant mor dda, sef Mri. John H. Roberts, John J. Roberta, a John Davies. Rhoddwyd diolchgarwch cynes i'r plant am adrodd, cann, ac ym- ddwyn mor dda. Rhoddwyd emyn allan, 0 tyred Arglwydd mawr,' a chanwyd hi gan y cor a'r gynull- eidfayn uno yn y cydgan. Chwareawyd ar y berdoneg gan Mrs. M. G. Thomas, yn hynod feistrolgar. Ter- fynwyd an o'r cyfarfodydd gorea a fu yn ysgoldy Rachab erioed.
DINBYCH A RHUTHYN.
DINBYCH A RHUTHYN. Y FYDDIN EGLWYSIG.—Nos Lan, y 18fed cyfisol, ym- welwyd a. Llanrhaiadr-yn-Kinmerch gan filwyr y Charch Army o'r ddau le achod, yr oedd milwyr Din- bych yn cael en dilyn gan amryw o gefnogwyr ac ewyllyswyr da y Fyddin. Dichon mai nid antuddiol fyddai rhoddi ychydig o'r manylion pa fodd y treul- iasom yr hwyr bendigedig hwn. Yr oedd adran DID bych wedi cyrhaeddyd y Llan yn gynt nac eiddo Rhathyn, felly ffarfiasant yn orymdaith gan fyned taa'r pentref, pellder oddeatu chwarter milldir o'r Llan, a chan nad oedd milwyr Rhuthyn eto wedi cyrhaeddyd ymffarfiwyd yn gylch, ac wedi cana emyn, rhoddwyd anerchiad gan y brawd R. Hughes, a rhoddwyd gwahoddiad croesawus gan Capt. Evans i bawb dd'od gyda hwy i'r Ysgoldy Cenedlaethol. Cyrhaeddwyd yr I'sgoldy erbyn taa 7.30, a dechreawyd yn uniongyrchol ar waith yr hwyr, sef ymosod ar gaeran y diafol. Offrymwyd gweddi gan y Parch. J. Parry Morgan, B.A., y Rheithor. Ar hyn dyma y brodyr o Rhuthyn i mewn ca,nwyd"Gwaedy Groes," &c., a gweddiwyd gan Uapt. Evans a Mr. R. Haghes, yua. darllenwyd rhan o Air Duw gan Capt. Evans, a chanwyd emyn, yua cod- odd Capt. Morris i fyny, gan gymell y milwyr i ddyfod i fyny i ddweyd gair dros eu Cadfridog Iesa, ac afudd- hawyd gan y rhai canlynol (o Ddinbych), Mri. R. Haghes, R. Roberts, J. Roberts, Grov. Roberts, ao E. Roberts; (o Rbuthyn), Mri. J. Edwards, Jos. Jones, a Mrs. S. M. Davies. Yn ystod y cyfarfod cafwyd nnawdau gan Mrs. S. M. Davies, Rhutbyn, a J. Wynne, Dinbych. Ar ddiwedd y cyfarfod cafwyd anerchiadau miniog a Ilym gan y Cadbeniaid Morris ac Evans, a'n gobaith a'n gweddi ydyw ar fod i'r cyfarfod hwn fod megis bara wedi ei fwrw ar wyneb y dyfroedd —Nos Fercher drachefn. ymgynullodd aelodan byddin Dinbych wrth borth Eglwys St. Mair am 6.45, a gor- ymdeithiasant trwy rai o heolydd y dref dan gana, a rhoddwyd anerchiad byr mewn dan fan nen dri, ac aethpwyd i'r gwasanaetn Dwyfol am 7.30, i St. Mair, lie y traddodwyd pregeth ddwys a difrifol gan y Parch. J. Morgan, B.A., rheithor. Er cymaint o ymosod sydd ar gestyll pechod, ac er eu bod fel yn ymddangos yn sigledig, eto i gyd teimlwn eu bod yn dra gwydn, ond ein penderfyniad fel byddin ac Eglwyswyr yn Ninbych ydyw, myned ymlaen yn wrol yn nerth Daw nes gorchfyga.—Nos Ian, sef noswaith ffair Rhuthyn, cyn- haliwyd cyfarfod awyr agored yn Borthyn, Rhathyn, gerllaw y fynedfa i gae y shows. Dechreawyd trwy weddi gan y Cadben Morris a rhai o'r brodyr. Cynorth- wyid gan ychydig o filwyr Dinbych. Cafwyd cyfarfod heddychol a thawel, ac ystyried y fan y safent. Ar ddiwedd y cyfarfod cafwyd esiampl o'r hyn a ddichon meroh wneyd trwy i Mrs. Capt. Morris gymeryd nn o ddeiliaid Syr John Heidden mewn llaw, a choncrodd ef ar ei dir ei hun. Ymlaen yr elo y wraig wrol hon.
LLANBEDR.
LLANBEDR. YSGOLDY Y COLEG.—Y dydd o'r blaen, llwyddodd Mr. Edward Jenkins, o Goleg Dewi Sant, i enill ysgol- oriaeth agored o Y.40 y flwyddyn am Rifyddiaeth yn Ngholeg Magdalen, Rhydychain. Broder o Abertawe ydyw Mr. Jenkins, a derbyniodd et addysg ganol raddol yn Ysgol y Coleg, L'anbedr. Y mae eiBoea yn feddianol ar ysgoloriaeth o X30 am Rifyddiaeth yn Ngholeg Dewi Sant, 800 yn 1887, yroedd yn gydf addugol am y Bates Prize, a gyfrifir yn rhuban glits efryd- wyr y flwyddyn gyntaf yn y Coleg, er ei tod heb adael yr ysgol pan yr aeth dan yr arholiad. Rhydd llwydd- iant Mr. Jenkins esgnsawd i ni am gyfeirio at ber ffeithrwydd y gyfundrefn addysgiadol sydd mewn gweithredial yn Llanbedr. Siaredir llawer am wahan- ol gyfnndrefnan mewn cysylltiad ag achos addysg yn Nghymrn; a mawr ydyw y cynwrf sydd wedi bod ao yn bod am gael Mesar Addysg i'n gwlad. Ac eto y mae yn ein plith gyfandrefn sydd bron yn ddi-fai ar bapyr, ac sydd yn gampus mewn ymarferiad, Edrychwch ami yn gweithio yn Llanbedr. Y mae yr ysgolion elfenol yn y lie yn dda iawn eisoes, ac yn gwella bob dydd. Y mae yr ysgol ganolraddol, sef Ysgol y Coleg, dan ofal athraw elfenol trwyddedol o gryn brofiad, sydd wedi y graddio yn uchel yn Ngholeg Dewi Sant, ac wedi hyny yn Ngholeg y Brenin, yn Nghaergrawnt. Telir y sylw mwyaf i fechgyn ienainc, a cheisir eangu en meddylian yn y modd mwyaf natnriol a boddhaol. Wedi iddynt dyfn i'r maintioli priodol, mewn ystyr addysgawl, telir yr nnThyw sylw i'w gofynion meddyliol. I fecbgyn fyddo wedi cyraedd y safon bon, y mai cysylltiad agos yr Ysgol a'r Coleg yn fantais an- mhrisiadwy, oblegid, trwy garedigrwydd y Proffeswyr, ao ar gymeradwyaeth Prifathraw yr ysgol, derbynir bechgyn ysgol y coleg i ddosbarthiadaa y Proffeswyr ac felly y mae addysg ganolraddol ac addysg uweh- raddol yn cael en hasio yn y modd mwyaf na*ariol ac effeithiol-neu yn hytrach, y mae y naiU yn rhedeg i'r llall megis yn ddiarwybod. Y mae y ddeddf drwy ba nn y mae Prifysgohon Rhydychain a Chaergrawnt wedi mabwysiadu Coleg Dewi Sant ar delerau manteis- iol iawn i'r olaf, yn cwblhaa ac.yn coroni y gvfandrefn heb fwich. Dyma i chwi ysgoll heb un ffon yngholl. Dyma i ohwi felin a fala eich yd mor faned ag y mynoch. Fel rheol, rhaid i'r meddwl, os yn ienanc a diwrtaith, gynefino a pheth cyn ei amgyffred ae yn sicr, annymunol iawn, a niweidiol iawn i wir ddadblyg- iad meddyliol, ydyw y oyfnewidiadan sydyn amgylch- iadol sydd yn cyfarfod & llawer i hogyn pan y danfonir ef o'r ysgol elfenol i'r ysgol ganolraddol, nen oddiyno i'r coleg. Yn nghyfundrefu Llanbedr, canfyddir ymgais wybyddol i dywys y Uanc bob caru o'r ffordd, o'r ysgol elfenol i fanan nwchaf y Prifysgolion, heb na thor yn ei yrfa, na bwlch yn ei fywyd, megis heb iddo deimlo'r hin yn newid o gwbl. Y mae banes symudiadau a llwyddiant Mr. Edward Jenkins, a lliaws eraill, yn eglarhad ar y cwbl. Llongyfarchwn ef, ysgol y Coleg, a Cboleg Dewi, Sant ar ei lv,yddiant, a tbeimlwn yn sicr y derbynir ef yn lion gan ei liaws trodyr o Lan- bedr, sydd eisoes yn mwynhau yegoloriaethau a man- teision dirifedi Rhydychain.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. Y FESTRI BLWYFOL.—Cynhaliwyd bon fel arfer ar y 25ain o'r mis hwn, ac yroedd llawero'rplwyfolion wedi dyfod ynghyd. Yr oedd amryw o faterion pwysig i gael ea trafod, a da yw dweyd fod cydgordiad perffaith yn teyrnasu. Y mae yn debyg mai y festri flynyddol ddiatawaf a fa ynghof neb Bydd yn fyw ydoedd, a hyny, mae lie i credo, oherwydd fod ymyrwyr a chynhyrtwyr diachos wedi cael en liwyr orchfygu o dro i dro, fel o'r diwedd gwelsant nad oedd dim yn tycio Q'n tn hwynt, ac felly mai gwell oedd cadw draw os na ch&nt fod yn benaethiaid. Etholwyd ffyrdd-geidwaid, arolygwyr trethi (overseers), a warden y plwyf. Aethpwyd dros y rhestr o'r rhai na fedrent dalu y trethi, esgnsodwyd rhai, a gorchymynwyd gorfodi eraill. Siaradwyd ar y priodoideb a ysgoi etboliad gwarcheidwaid y tlodion (guardians) am fod y draul yn fawr a diangenrhaid. Bydd y cwestiwn yma yn cael ei ddwyn mewn dull mwy ffarfiol yn y festri nesaf. Hafyd, condemniwyd y ffug-waith o ethol cwnBtabliaid, y rhai ni elwir byth i weithredu. Warden y plwyf a etholwyd yn unfrydol ydoedd Mr. Williams, Tanygader, cymunwr parchas a chyfrifol o'r Eglwys. Deallwn mai warden y rheithor yw Mr. Thomas, Garthmaelau, na o'r amaethwyr dis- tawaf a challaf y dref, a dyn o gymeriad uchel. Y rector, wrth gwrs, oedd yn y gadair, a thalwyd y diolch- garwch arferol iddo am ei llenwi.
''PENTRE BERW, MON.
PENTRE BERW, MON. Y mae genym y gorchwyl galarna o gofnodi marwol- aeth Mrs. Davies, Plas Berw, o'r lie ocnod. Bn faxw ar yr 28ain cynfiaol, yn 83 mlwydd oed. Claddwyd hi ar y 6ed cyfisol yn mynwent Llanfairynghornwy. Gweinyddwyd ar yr achlyeur yn y ty cyn cychwyn ac yn yr eglwys gan y Parch. G. W. Griffitb, rheithor Llanfihangei Esceifiog, ac wrth y bedd gan y Parch. H. L. Pryce, rheithor y plwyf. Yr oedd yr ymadawedig yn hann o deala, Iliosog a pharchua yn Mon, ac yn un a fawr gerid gan bawb ar gyfrif ei tbypier hynaws, tawel, aoharedig. Gellid dweyd am dani ei bod yn GriBtuon cywir ac yn fam yn Israel. Pan yr ymddi- ddenid a hi am bethan crefyddol yr oedd yn amlwg i bawb fod ei meddwl a'i chalon yu ymgartrefa ao yn ymhyfryda yn y pethau a bertbynant i'w dedwyddwch tcagywyddol. Borea Sul, y 17eg cyfisol, pregethwyd pregeth angladdol etfoitoiol ar ei hoi gan y Parch. R. L. Pryoe oddiar 1 Cor. xv. 53, 54.
LLANBEDROG.
LLANBEDROG. CYNGEKDD MAWREDDoG.-Cynhiliwyd cyngerdd blyn- yddol yr ysgol ddyddiol yn Ysgoldy Ceaedlaethol y lie uchod nos Wener, yr 22ain cyfisol, pryd y llywyddwyd gan y rheithor, y Parch J. Rowlands, gtUl yr bwn y cafwyd anerchiad o berthynaB i amcan y cyngerdd, sef casgla i gronfa yr yagoldy i gyfarfod a'r Lniu reidiau ag aydd eto yn aros heb eu cwblhaa, ae mewn canlyniad sydd yn dal Bafon yr ysgol ychydig ialaw yr hyn a ddymnnid. A ganlyn sydd raglen o'r cyngerdd;— Vocal Waltz, Sew Saw,' gan blant yr ysgol dan ar- weiniad Mr. H. King; can, I Gwroniaid Gwlad y Gan,' Mr. D. Roberts, Rhywsena; deuawd, On the blue wave,' MisseB G. E. a M. Jones, National Schools, Mynytho cSn, The Plain FamilyMr. R. Block, Penrhyndendraeth; einig, I Tha Emigrant Ship,' gan y plant; can, 'Y Bacbgen Dewr,' Sergeant Jones, Abersoch; c'n, I Steering Home,' Mr. F. Toon, biop Uahaf; deuawd, 'Upper ten and lower five,' Mri. Roberts a Harris; can, I Y Milwr,* Mr. W. Williams; can, Mr. Tempest, Llangybi; cydgan, 'Laughing Chorus,' gan y plant; can, I'll tell your mother what you've done,'Mr. R. Roberts. West Eud; cin, First in the field,' Mr. W. Wallis, Tanywynydd; can, Gwlad y Mynyddoedd,' Mr. D. Roberts; can, The Twins,' Mr. Brock; ton gron, Sneezing,' y plant; can, Sergeant Jones; can, Y mae'r hwn a garaf eto'n fyw,' Miss M. Jonea, Brymbo can, The little Gardener,' y plant; ein, Three acres and a cow,' Mr. Tempeat; denawd, I know a bank,' Misses G. E. and M. Jones; can, Y bwthyn ar y traeth,' Mr. W. Williams; can, 'Billy Johnson's ball,'Mr. R. Roberts; achlowydi fyny y rhestr drwy gann God save the Queen.' Aeth- pwyd trwy y rhaglen gyda medrnarwydd di-ail ac er ooddhad cyffredinol, fel y profai y gwenaa bywiog a ymdonai dros bob wyneb a'r mynych encorio. Y mae clod yn ddyledos i'n hysgolfeistr am ei arweiniad medrus a'i ymdrech. Dyledus ydym hefyd mewn modd neillduol i Miss Caldecot, Hoi ton Cottage, am ei gwas- anaeth canmoladwy ar y berdoneg trwy gwrs y cyfar- fod. DIRWEFIT.-Nos Lan, y 25ain cynfisol, oynhaliodd y brodyr dirwestol en cyfarfod arferol, pryd y llywyddwyd gan Mr. W. Heighway, cashier y Llanbedrog Granite Quarry, gan yr hwn y cafwyd anerchiad rhagorol. Yna cafwyd ca,n gan y Cor Dirwestol; anerchiad gan Mr. H. Hughes; can gan y Cor; adroddiad, 'Geiriau olaf Tomi bach, plentyn y meddwyn,' Miss Maggie Jones, Eivion Terrace; can gan y Cor; anerchiad gan Mr. W. Russell; can gan y Cor; anerchiad gan y Rheithor. Gan fod pedwar o'n cyfeillion ag sydd wedi bod o was- anaeth rhagorol i'r achos dirwestol ac i achosion eraill yn y lie, yn ymadael i'r America, gwnaeth y Rheithor sylwadau buddiol mewn cynghorion a'u cymell i barhau yn ftyddlon fel dirwestwyr, ac i wneyd y gorea o'a breintiau i fyw er gogoniant Daw. Ni welsom gymaint o barch yn cael ei dalu i neb nag a gafodd y becbgyn hyn gan wreng a bonedd. Yr oedd tenia Glynywedd Hall, ymysg eraill, yn bresenol. 0s dyma y tro olaf y cawn weled ein brodyr sydd yn awr yn ymadael yn pyncio eu tonau dirwestol ar y llwyfan hwn, gobeithiwn y cawn gwrdd ar lwyfan nwch i gyd-foli, Lie na bydd cynulleidfa yn ysgar na diwedd i Sabbath yn bod. Tyivotyn.
HENEGLWYS.
HENEGLWYS. YSGOL SUL YR EGLWYS.—Ar y 15fed cyfiaol, ba y Parch. G. W. Griffith, Gaerwen, yn arholi aelodau cyfarfod y plant a gynhelir yn yr Eglwys hon gan y Parch. E. B. Thomas, B.A., curad mewn gofal. Y mae y eyfarfodydd hyn wedi eu cynal yn wythnosol er mis Medi diweddaf, a diameu genym y bydd i ddylanwadau daionus eu canlyn. Maes yr arholiad ydoedd y llaw- lyfr, "0 Fethlehem i'r Olewydd," yr hwn a benodwyd gan Bwyllgor Ysgol Sal Esgobaeth Bangor. Da genym byabysu fod yr arholydd parchedig wedi ei foddloni yn drwyadl gan atebion y plant, yn gystal a chyda'r canu- Enillwyd tystysgrifau (certificates) gan y rhai can- lynol -Dosbarth I.-John Hughes, David Jones, Margaret Jones, William Haghes, Margaret Hnghes, John Morris, Richard Evans, William Thomas, Samuel Jones, Mary Hughes, a R. H. Thomas. Dosbarth II.-— Anne E. Williams, a Ellis Hughes. Dosbarth III.— Griffith Owen, Richard Owen, Grace Jones, Hugh Haghea, O. T. Hughes, John Owen, a John R. Wil- liams. Yn yr hwyr cynhaliwyd gwasanaeth yn yr Eg- lwys, pryd y daeth cynnlleidfa gref ynghyd, a chafwyd pregeth byawdl ac adeiladol gan Mr. Griffith.- Llwydian.
CILYCWM. 1
CILYCWM. Ychydig ddyddiau yn ol hl1 farw Mary Rees, o'r lie hwn, yn 102 mlwydd oed. Ganwyd hi mewn Felin-fal, yn mhlwyf Llanddewi-Abergwesin, Gorphenaf 2&ain, 1787. Yr ydoedd yn meddu ar gyfansoddiad cryf, ac nid yn fynych y dioddefai oddiwrth unrhyw aflechyd- Ymddengys fod llawer o'i hynafiaid wedi cyraedd oedran teg. Yr oedd ei thad yn 105 yn disgyn i'w fedd. Yr oedd y bibell yn un o'i chyfeillion goreu. Ysmygai chwarter pwvs o fyglys yn wythnosol. Perthynai l'r oes batriarchaidd o r Jon amlder blynyddoedd, i'r cewri 0 ran cryfder, ac i'r rhyw wrywaidd o ran ei harferiadau. Nid oedd yn y cyfnod boreuaf yn un o'r cymeriadau disgleiriaf. Cafodd droedigaeth trwy glywed pregeth, a pharhaodd yn aelod ffyddlawn gyda'r Eglwys Sefydledig. Claddwyd hi y dydd Mawrth canlnnol yn nghladdfa Cilycwm, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysnr gan y Parch. T. E. Evans, offeiriad y plwyf.
PRENTEG, GER TREMADOG.
PRENTEG, GER TREMADOG. CENHADAETH EGLWYSIG.-Dydd Linn, yr 16eg eyfisoly a'r dyddiau caulynol hyd nos Sul, cynhaliwyd y gen- hadaeth uchod yn nghhpel Eglwysig Llannon, yn y lie hwn. Y cenhadwr ydoedd Mr. Owen Huglea (Tyswyn), darllenydd Ileygol Penrhosgarnedd. Cyn- haliwyd gwasanaethan nosweithiau Linn, Mawrth, Mercher, Ian, a Gwener. Y Cymun Bendigaid forea Mercher a Gwener, yn cael ei weinyddu gan y Parch. J. Lewis, Deon Gwladol (pedglor y plwyf). Piydnawn Mawrtb a laa, cynbaliwyd cyfarfod i ferched. Pryd- nawn Sadwrn cyfarfod i blant. Nos Sadwrn cyfarfod dirwestol yn yr ysgoldy, pryd yr areithiwyd gan y Rheithor, y cenhadwr, a Mr. R. Price Hughes, lay deacon Uafarns y lie. Yr oedd y gwasanaethati yn wlitbog a'r pregethau yn effeithiol a deffrons, y cynall- eidfaoedd yn astad wrando, a ohynnlliadan da yn ystod yr boll wythnos. Cynhaliwyd cyfarfodydd neilldaol ar ol pob gwasanaeth, ac ymunodd amryw H'r Eglwys, a chynhelid cyfarfodydd gweddi lleygol o flaen y gwasan- aethaa bob nos. Gwasanaethodd y cenhadwr drwy dydd Snl-y borea gwasanaeth a phregeth, dan o'r gloch pregeth i'r YBgol Sul, a gwasanileth a phregeth y noa, a chyfarfod neillduol ar ol. Yroedd gwlith ben- dith y nefoedd yn amlwg yn y cyfarfodydd. Chwareuai Mr. John Williams (Peryddon) ar yr harmonium y rhan fwyaf o nosweithiau. Derbyniodd yr holl gymunwyr docyn ymrwymiad i wasanaethu yr Arglwydd ar ddi- wedd y cyfarfod nos Sul. Hyderwn y bydd 61 parhaus a daionus yn dilyn y genhadaeth hon. Yn awr yw'r adeg i weithio, a diamhen pe byddai i'r clerigwyr a'r lieygwyr ddyfod yn nes at eu gilydd a chydweithio, elai cerbyd yr Eglwys ymlaen yn fwy grymns. Pan y mae ami i un yn dyfod yn benderfynol i gorlan yr Eg- lwys o gomins yr Ymneilldawyr, ni cbyfeillornem brwyphwydo fel hono gynt, Gad, y mae tvrfa'n dyfod." ■
GWAITH EGLWYSIG YN NGHAERDYDD.
GWAITH EGLWYSIG YN NGHAERDYDD. Yn ystod y pum' mlynedd olaf y mae dros hanet can' mil o bunoedd wedi eu gwario yn nhref Caer- dydd ar adeiladau Eglwysig fei y canlyn St. loan (adgyweirad a helaethiad) aio,ooo. St. German's, Roath. 12,000 St. Saviour's Roath 6,000 St. Anne's, Roath 3,000 St. Agnes', Roftth 1,600 St. Martin (Eglwys haiarn), Roath. 600 St. Andreas (organ ac adgyweiriad). 4,500 St. Teilo (organ ac helaethiad), plwyf St. Andreas 750 St. Illtyd (Eglwys haiarn, plwyf St. Andreas 250 St. Dyfrig, plwf St. Mair 3,500 St. Michael (Eglwys haiarn), plwyf St. Mair 400 St. loan, Canton (organ newydd). 500 St. Catherine, Canton 3,000 St. Paul, Grangetown, Canton. 4,000 St. Dewi, Ysgoldy yr Eglwys Gymreig 800 Cyfanawm £ 50,000 Dylid hysbysu nad yw y gwaith ynglyn ag Eglwysi St. loan, St. Paul, St. Dyfrig, a St. Andreas wedi ei orphen,
CYMUN-RODDION I GYMDEITHASAU…
CYMUN-RODDION I GYMDEITHASAU EGLWYSIG. Y mae y diweddar Mrs. Tendant, boneddiges Leeds, wedi gadael y swm 0 ddwy fil 0 bunau yr un i'r cymdeithasau canlynol yn ei hewyllys :-Yr S.P.O.K., y National Society, yr Additional Curates Society, a'r Gymdeithas er pregethu yr Efengyl mewn Gwledydd Tramor.
FICERIAETH LLANFAES-CUM-PENMON-
FICERIAETH LLANFAES-CUM-PENMON- Deallwn fod y Parch. T. L. Kyffin, M.A., rheithor Llanbadrig, sir FSn, wedi ei ddyrebaf u i fioeriaeth Llanfaes-cum-Penmon. Noddwr y fywoliaeth yw Syr R. Williams-Bdlkeley. Bu Mr. Kyffin yn myfyrio yn Ngholeg yr lesu, Caergrawnt, lie y graddiodd yn B.A. yn y flwyddyn 1857,. a M. A. yn 1866. Ordeiniwyd ef yn ddiaoon yn y flwyddyn 1858, ac yn offeiriad yn 1859 gan Esgob Bangor. Yn ystod y blynyddoedd 1858-62 bu yn gweinidogaethu fel curad yn Llanynghenedl, o'r He y symudodd i Dremadog i lafurio hyd 1868. Yn y flwyddyn hono dyrchafwyd ef i reithoriaetn Llanbadrig.
CONFFIRMASIWN.
CONFFIRMASIWN. CWMAMAN.—Dydd Gwener, Mawrth 22ain, ymwelodd Esgob Ty Ddewi a'r lie nchod er gweinyddn yr or din- had 0 arddodiad dwylaw. Cafwyd gwasanaeth gwresog ao adeiladol, a gwrandawiad aatud gan dyrfa liosog- Cyflwynwyd i'r Esgob yn agos i 100 o ymgeiawyr, o'r nifer uchod yr oedd47 o honynt o Eglwys St, Catherine. Brynaman. Da genym weled hen Eglwys anwyl ein tadau yn cynyddu.-Gohebydd. LLANLLECIEIID.-Cynhaliodd y Gwir Barchedig Arglwydd Esgob Bangor Wasanaeth y Cadarnhad (Conffirmasiwn), yn Eglwys plwyf Llanlleohid, boreO dydd Sul, y 24ain cyfiso], am ddeg o'r gloch, Pvkll