Hide Articles List

11 articles on this Page

BRAWDLYS SfR BORGltNWG.

ESOBAETH TY DDEWI.

ESGOBAETH BANGOR.

ST. MARC, ABEETAWE.

EGLWYS NEWYDD YN NGHAERDYDD.

ESGOBAETH LLANELWY.

CONFFIRMASIWN.

LLITfI trii jjwihynITwledig.I

DEONIAETH WLADOL UWCH GRO…

News
Cite
Share

DEONIAETH WLADOL UWCH GRO NEDD. Cynhaliwyd cyfarfod diweddaf y Ddeoniaeth yn Nghastellnedd, dydd lau, Mawrth y 14eg, ac yr oedd yn bresenol y Deon Gwladol, Parchn. Lewis Jones, Henry Morris, Wm. Edwards, Thos. Jenkins, David Hughes, J. L. Thomas, David A. Lewis, David Jones, J. Davies, M. J. Marsden, P. Williams, Mr. M. Tenant, a Mr. Francis. Y ddau bwnc fu dan sylw y tro hwn oeddynt "Amddiffyniad yr Eglwys yn y Ddeoniaeth, a'r Wasg Eglwysig Gymreig." Wedi cael ychydig sylwadau oddiwrth y Deon, daethpwyd i'r penderfyniad unfrydol mai buddiol fyddai sefydlu yn ddioed gangen o'r fam Gymdeithas amddiffynol yn y ddeoniaeth hon-y pwyllgor i'w ffurfio 0 ficer- iaid gwabanol blwyfydd y ddeoniaeth, ynghyd a'r aelodau canlynol :-Mri. G. H. Davey, J. Francis, M. Tenant, D. Rees, J. Stanley, Joseph Thomas, H. Lloyd, J. H. Moore, J. E. Moore, Roes Jenkins, M. J. Roberta, Dr. Whittington, Parch. Peter Williams, a'r Parch. J. L. Thomas. Etholwyd Mr M. Tenant yn gadeirydd y pwyllgor, a'r Parch. J. L. Tnomas yn ysgrifenydd. Y pwyllgor gweithredcl i fod yn gynwyaedig o Mr. M, Tenant, Parch. L. Jones, Parch. Peter Williams, y Deon Gwladol, a'r Ysgrif- enydd. Penderfynwyd fod y cyfarfod cyhoeidus cyntaf i'w gynal yn y Public Hall, Aberafon, yn mia Mai nesaf. Hyderir, gyda chydweithrediad y gwa- banol blwyfydd, y bydd y gangen newydd hon yn un Iwyddianus ac yn foddion i gryfhau yr Eglwys yn y gymydogaeth boblogaidd hon. Darllenwyd papyr dyddorol gan y Deon Gwladol ar y Wasg Eglwysig yn Nghymru." Datganodd ei 15 grM mai y gallu cryfaf ,i ddylanwadu ar y meddwl Cymreig yn bresenol yw y Wasg a dangosodd yn eglur y mawr angenrheidrwydd o wrthweithio yr effaith er drwg a wneir gan ysgrifau gwenwynig y Wasg Radicalaidd ar deimlad y wlad. Gwasgai ar y rhai oedd yn bresenol y ddylodswydd o gefnogi ymhob modd gyhoeddiadau y Wasg Eglwysig. Teimlai mewn perthynas i'r LLAN y dylid ei gwneyd yn fwy teilwng o safle yr Eglwys yn Nghymru, trwy ei gwneyd yn fwy eang a rhydd agored fel i gynwys o'i mewn ddaliadau y gwabanol ddosbarthiadau o Eglwyswyr. Ofnid fod pwyilgor Y LLAN yn rhy gyfyngedig i un dosbarth 0 Eglwyswyr. Credai eraill y dyiid gwneyd Y LLAN yn fny dyddorol trwy gael ysgrifau ynddi i'r Amaethydd," Y Glowr," Y teulu," "Holiadau ao Atebion," &c. Y teimlad cyfiredinol oedd nad oedd boneddigion yr Eglwys wedi gwneyd yr byn ddylent i gefnogi y Waag Eglwysig yn y dyddiau gynt. Fel rheol, nis medrenc siarad Cymraeg, ao yr oeddent yn amddifad o'r teimlad Cymreig, eto dylid dangoe iddynt yn eglur y fath offeryn dylanwadol yw'r Wasg Gymreig, yn enwedig yn rhanau amaethyddol y wlad. Nid yn unig dylent gefnogi Y LLAN a'u rhoddion arianol, ond hefyd ei lledaenu yn eu gwahanol ardaloedd. Teimlad yr hell aelodau oedd y dylid gwneyd ym- drech adnewyddol i ledaenu cylchrediad Y LLAN, a. thrwy hyn i alluogi y pwyllgor i belaethu ei cholofn- au. Y mae y Cymro, rywfodd, yn edrych ar faint rhagor na sylwedd yr hyn a bryna. Rhwydd iddo gredu mai ceiniogwerth wael yw'r LLAN wrth edrych ar ei maint; ond credem pe oydmarai efe hi 0 ran sylwedd-ei hysgrifau—o ran coethder a lledneis- rwydd ei hertnyglau—a'r goreu o'r newyddiaduron wythnosol, y deuai allan o'r gyatadleuaeth a Uawryf buddugoliaeth ar ei phen. Y teimlad ar ddiwedd y cyfarfod oedd y dylai pob aelod ymdrechu hyd eithaf ei allu i hyrwyddo cylchrediad Y LLAN, a'r cyhoedd- iadau Eglwysig eraill yn ei blwyf a'i ardal, yn gystal ag anfon pob newydd 0 bwya i'w gyhoeddi yn ngholofnau Y LLAN.

ETHOLIAI) BWRDD YSGOL FFESTINIOG.

TROEDIGAETHAU.