Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
BRAWDLYS SfR BORGltNWG.
BRAWDLYS SfR BORGltNWG. Y LLOFRUDDIAETH YN AEBBTAWE. Yr wythnos ddiweddaf, 0 flaen y Barnwyr Grant- ham a Cave, cynhaliwyd y frawdlys uchod. Bu amryw o achosion pwysig gerbron, ond cymerwyd y dyddordob mwyaf yn mhrawf dyn du o'r enw Allen, yr hwn a gyhuddid a ladd Mr. Kent, tafarnwr o Abertawe. Ymddangosodd Mr. Arthur Lewis ar ran y Goron, ac amddiffynwyd y carcharor gan Mr. Glascodine, o Abertawe. Tystiolaetbodd Mrs. Kent, gweddw y Ilofrucldiedig, pa fodd y dihunwyd hi ar forau Sul, y lOfed o Chwefror, gan swn yn ei hyatafell wely, ac a galw- odd oi gwr, gan ei hysbysu fod rhywun yn yr ystaf- ell. Neidiodd Mr. Kent allan o'r gwely, ao ymafl- odd yn y carcharor. Parhaodd yr ymrafael. am beth amser, ao o'r diwedd diangodd y dieithrddyn, gan adael Mr. Kent wedi ei areholli yn ei wddf a'i ochr. Bu i Mrs. Kent ymaflyd mewn revolver a gadwai ei gwr dan ei obenydd, a saethodd lofrudd ei gwr yn ei goes. Bu Mr. Kent farw yr un boreu oddiwrth archollion a dderbyniasai, ao ar ol ym- chwilie,d cafwyd allan fod y llofrudd wedi defnyddio ellyn, yr hwn a achosodd y olwyfau. Nid oedd y tyst yn alhiog i ddweyd mai y carcharor ydoadd llofrudd ei gwr. Dygwyd tyBtiolaethau ymlaen i brofi pa fodd y cymerwyd Allen i'r ddalfa, a phrofodd yr heddgeid- waid fod y dyn wedi cyfiesu ei fod yn yr ystafell. Darllenodd Mr. Aithur Lewis lythyr oddiwrth y carcharor yn cyfaddef ei drosedd. Wedi cael tystiolaeth bellach anerchodd y Barnwr Grantham y rheithwyr. Dywedodd wrthynt ei fod yn amlwg fod y caroharor yn nhy Mr. Kent gyda'r bwriad o ladrata arian y llofruddiedig. Os oeid fod y dyn yn cyflawni gweithred anghyfreithlawn, ao os barnent ei fod wedi lladd Mr. Kent er diano canlyn- iadau y weithred hono, 3U dyledswydd ydoedd dwyn i fewn reithfarn o lofruddiaeth gwirfoddol. Ar ol yohydig ystyriaeth dygodd y rbeithwyr dded- fryd yn unol & chyfarwyddyd y barnwr, a thraddod- wyd Allen i farwolaetb.
ESOBAETH TY DDEWI.
ESOBAETH TY DDEWI. Dydd Sul diweddaf cynhaliwyd gwasanaeth or. deinio yn Eglwys plwyf St. Pedr, Caerfyrddin, gan Arglwydd Esgou Ty Ddewi. Ordeiniwyd y rhai can- lynol yn ddiaconiaid. a thrwyddedwyd hwy i gurad. iaetha.u :-Watkin Walters Price, B.A., Coleg Dewi 8ant, Llanbedr, i guradiaeth Llanon, sir Gaerfyrdd- in; Thomas Jones, L.Th., Coleg Dewi Sant, Llan- bedr, i guradiaeth St. Dogmael'a gyda Llantood a Monington, sir Benfro. Urddwyd y clerigwyr can- lynol yn ofieiriaid Y Parch. Evan Davies, L.Th., Coleg Dewi Sant, Llanbedr, curad Llansamlet, Mor. ganwg y Patch. Thomas Williams, B.A., Coleg yr Iesu, Rhydychain, curad St. Pedr, Caerfyrddin. Darllenwyd yr efengyl gan Mr. Thomas Jones, a phregethwyd gan y Parch. A. G. Edwards, Esgob penodedig Llanelwy.—Y mae yr apwyntiadau can- lynol wedi eu gwneyd yn yr esgobaeth hon Parch. W. J. L. S. Stradling, M.A.. diweddar ficer Marloes, Penfro, i reithoriaeth Herbrandston, Penfro, ar ei ddeiseb ei hun fel noddwr; Parch. Richard Meredith Jenkins, diweddar gurad Margam, esgob- aeth Llandaf, i reithoriaeth Llangasty, Talyliyn, Brycheiniog-noddwr, Mr. Robert Taunton Raikes, Enderfield, Chislehurst, Kent; Parch. John Rees Jones, M.A., diweddar gurad Llangyfelacb, Morgan- wg, i guradiaeth barhaol St. Michael ac All Angels, Dafen, Caerfyrddin—noddwr, yr Esgob.
ESGOBAETH BANGOR.
ESGOBAETH BANGOR. Yn Eglwys Gadeiriol Bangor, dydd Sul diweddaf, bu yr Arglwydd Esgob yn cynal cyfarfod er ordeinio y brodyr canlynol Offeiriaid: Y Parch. B. Thomas, B.A., Coleg yr lesu, Rhydychain, curad Aberdaron, sir Gaernarfon y Parch. John Roberts, B.A., Coleg Dewi Sant, Llanbedr, curad Machyn- lieth y Parch. Evan Lewis, B.A., Coleg Dewi Sant, Llanbedr, curad Edeyrn, sir Gaernarfon. Diacon- iaid John Williams, B.A., Coleg yr Iesu, Rhyd- ycbain—trwyddedwyd i guradiaeth Aber, Bangor Jenkin Davies. B.A., Coleg yr lesu, Rhydychain- trwyddedwyd i guradiaeth Porthaethwy Morris Davies, B.A,, Coleg Dewi Sant, Ltanbedr-trwydd- edwyd i guradiaeth Llanfrothen, sir Fou. Pregeth- wyd yn y gwasanaeth gan yr Hybarch Arcbddiacon Bryce, rheithor Trefdraeth, sir Fon. Darllenwyd yr Epistol gan y Parch. B. Thomas, a'r Efengyl gan Mr. John Williams.
ST. MARC, ABEETAWE.
ST. MARC, ABEETAWE. Cawsom y fraint 0 weled Arglwydd Esgala Ty Ddewi yn yr Eglwys uchod yr wythnos ddiweddaf yn conffirmio 24 o fechgyn a 32 0 ferched yn aelod- St. Marc, ac un efrch yn perthyn i St. Nicholas, yn gwneyd y cyfanswm o 57. Corganwyd y Litani gan y Parch. T. Meredith Williams, ficer, a darllen- wyd yr anerchiad gan y Parch. Ganon Smith, fal caplan yr Esgob. Eglurodd ei Ai glwyddiaeth mewn modd teimladwy i'r rhai a gonffirmid y mawr bwys o fod yn gymunwyr eyson, yn unol a'r llw o flydd. londeb a wnaent ar yr amgylchiad. Dywedai ei fod ef yn cymeryd eu hymddygiad gweddaidd a defosiynol yn arwydd eu bod wedi eu parotoi yn dda gogyfer a'u conffirmasiwn, ac erfyniai arnynt barhau yn ol eu haddewid ffyddlon 0 fuchedd dda. Nid oes end 15 mis er pan agorwyd yr Eglwys hon. Yn yatod y 12 mis diweddaf bedyddiwyd 140, nifer liosog o ba rai oeddent mewn oedran addfetach. Er foct gwasanaeth y conffirmasiwn am 2.15 y prydnawn, eto yr oedd yr Eglwys yn orlawn o bobl. Ar ol y gwasanaeth fiurfiodd y rhai a gonfiirmiwyd yn or- ymdaith, gan rodio i lawr i'r Mission Hall, lie yr oedd wedi ei ddarparu iddynt. Traddociodd Mri. J. T. D. Llewelyn, y Warden, Mrs. H. S. Williams, Arolygwr yr Ysgol Sul. a'r Parch. T. M. Williams, anerehiadau tarawiadol cyn ymadael.
EGLWYS NEWYDD YN NGHAERDYDD.
EGLWYS NEWYDD YN NGHAERDYDD. Parhau i fyned rhagddo y mae yr achos Eglwysig yn y dref boblcg uchod. Dydd Sadwrn diweddaf gosodwyd careg sylfaen Eglwys newydd St. Paul, yr hon sydd yn cael ei hadeiladu yn y rhan o'r dref a elwir Grangetown, yn gyfangwbl ar draul Arglwydd Windsor. Gosododd ei arglwyddiaeth y gareg sylfaen yn mhresenoldeb niler fawr o glerigwyr a gwyr lleyg. Bydd yr Eglwys newydd yn cynwys eisteddleoedd i 600 0 bobl.
ESGOBAETH LLANELWY.
ESGOBAETH LLANELWY. Y mae Esgob newydd Llanelwy wedi apwynfeiay clerigwyr caolynol yn gapleniaid iddo:- Canon Howell Evans, ficer Polton. Parch. G. W. Gent, M.A. (arholiadol), Penaeth Coleg St. Mark, Chelsea. Canon Howell (arholiadol), ficer Gwrecsam. Tra Pharchedig H. A. James, Deon Llanelwy. Hybarch Archddiacan Thomas (arholiadol), ficer Meifcd. Parch. Watkin Williams, M.A., ficer Bodelwydd- an.
CONFFIRMASIWN.
CONFFIRMASIWN. NEWCASTLE.—Ar y 12fed cyfisol, ymwelodd Arglwydd Esgob Llandaf &'r He hwn er gwein. yddu yr ordinhad uchod. Cafwyd gwasanaith difritol ae adeiladol, a rhoddwyd gwrandawiad astud i gynghorion dwys yr Esgob. Nifer yr ymgeiswyr oedd fel y canlyn :-Gwrywod, 33; benywod, 20; cyfanrif, 53. ST. SAVIOUR'S, ROATH.-Mawrth 13eg, aeth ei arglwyddiaeth i blwyf Roath, a derbyniodd chwech ugain, sef 49 o wrywod a 71 0 fenywod, arddodiad dwylaw yr Esgob. MYNWY.—Ar y 14eg cyfisol, cynhaliwyd gwas- anaeth er gweinyddu confiirmasiwn yn y dref hon. Cyflwynwyd 1650 ymgeiswyr i'r Esgob, 0 ba rai yr oedd 76 yn wrywod, a 89 yn fenywod. Yn en plith yr oedd un boneddwr, yr hwn byd yn ddi- weddar, ydoedd yn bregethwr gyda'r Ail-fedydd- wyr. Y mae wedi ymwadu & eisna ac wedi dyfod yn ol i gorlan yr Eglwys Lgn Gatholig. Deallwn ei fod erbyn hyn, yn fyfyriwr yn Ngholeg Duwin, yddol Birmingham. Ar ol treulio rhyw amser yno, bwriada geisio urddau sanctaidd yn yr Eglwys. LLANGATTOCK-FIBON-AFEL.—Yr un dydd, sef Mawrth 14eg, aeth yr Esgob i'r plwyf hwn, pryd y conffirmiwyd 63 o bersonau-31 0 fecbgyn, a 32 0 ferched. Hysbyswyd yn ein rliifyn diweddaf fod yr Arglwydd Esgob wedi cynal gwasanaeth conffirmasiwn ar y 12fed, yn Briton Ferry, pryd yr arddodwyd dwylaw ar 42 0 ymgeiswyr. Ar y pedwar diwrnod a enwir uchod le welir, felly, fod 443 o wyr a gwragedd wedi derbyn yr ordinhad yn Esgobaeth Llandaf. Bendith Duw fo ar ei Eglwys, ac ar bob un sydd yn llafurio yn ei wiallan! Y mae Esgob Durham yn parhau i wella. Y mae ei arglwyddiaeth yn awr yn Bournemouth, ao yn alluog i fyned allan o'i cly. Er fod afiechyd Esgob Truro lawer yn well, nid yw eto yn alluog i ymgymeryd a llawer iawn 0 waith yr esgobaeth. Y mae Dr. Stanton, Esgob North Queensland, yn bresenol yn cynal cyfres o gyfarfod- ydd yn Cornwall er gweinyddu y ddefod o arddodiad dwylaw-yn lie Esgob Wilkinson. Cyhoeddir hanes marwolaeth Mr. George Eevan, Oxwich, Gower, yr hwn, y mae'n debyg, oedd y churchwarden bynaf ynywlad hon. Yflwydd- yn ddiweddaf ymddangosodd yn Eglwys St. Mair, am y bedwaredd dro ar bymtheg a deugain, heb golli unwaith, i wneyd yr ardystiad arferol o flaen yr arch- ddiacon. Bu yr henafgwr parchus farw dydd Gwener, wytbnos i'r diweddaf, yn 80 mlwydd oed. Y mae yr S.P.C.K., gydachynorthwy Eagobion Durham, Ripon, a Newcastle, yn bwriadu sofydlu Canoniaeth newydd, gwerth R300 y fiwyddyn, o dan ddeddf y diweddar Mr. Beresford Hope, i fod yn feddiant i glerigwr, yr hwn a ddisgwylir i deithio yr esgobaethau uchod er darlithio ar Brofion Cristion- ogaetb. Yr wythnos ddiweddaf bu farw y Parch. Maurice Stack, ficer St. John, dwyreinbarth Llun- dain. Nid oedd ond dyn ieuanc, a phriodolir ei farwolaeth gynarol i orlafur i wella amgylohiadau tlodion y rhanbarth hwnw o'r Brifddinas.
LLITfI trii jjwihynITwledig.I
LLITfI trii jjwihynITwledig. I [GAN HEN DOMOS.] Y mae Hen Domos, di'r help, am roddi how d'ye do fach y tro hwn i glerigwyr parchus Esgobaeth Llanelwy. Di'r anwyll y mae blynyddau meitbion Wodi myned heibio er pan yr oedd rhai o honynt yn Yr un ysgol a mi. Nid rhyfedd fod y pren almon yn blodeuo ar eu penau. Yr oedd rhai o honont yn feohgyn addawol iawn y pryd hwnw. Colled fawr iddynt oedd marwolaeth Esgob Hughes. Hen 1 Dad yn Nuw rhagorol oedd efo. Yr oedd ynddo w9ndidau, fel sydd yn y goreu o'r bil syrthiedig, ond a'i gymeryd trwyddo draw yr oedd yn hen gymeriad gogoneddus. Darfu i mi alw yn y Pal as oddeutu y lhvyddyn 1872 i gael papyr bach da.n ei law ao a ydych chwi yn meddwl y cawswn ymadael i chwilio aIn lety a thalu am dano ar hyd y ddinas ? Na You must stay here to-night, Hen Domos," medd- ai ei arglwyddiaeth. Yr oeddwn i heb yr asyn bach y pryd hwn. Arhoaais yno ar ei gais ac ar ol tê, dfteth allan gyda mi, a dyna lIe y buom ein dau yn rhodio fraioh yn mraioh ar hyd y rhodfeydd o am- gylch y palas. Yr oeddwn yn teimlo fy hun yn oynheau bob modfedd tuag ato. A ydych chwi yn meddwl fod llai o barch yn fy mynwea tuag ato ar ol y caredigrwydd hwn ? Na 1 Yr wyf yn parchu ei goffadwriaathhyd y dydd heddyw. Yr wyf yn redu y bydd i Esgob Edwards ofelychu el ragflaenor duwiol yn hyn, a gwneyd i bawb deimlo yn gartrefol yn ei gymdeithas. Ac yn, awr, my reverend brethren," gadewch i mi sibrwd ychydig o gynghor- ion ymarferol yn eich clustiau cyn y daw yr Esgob fcewydd i drigo yn eich plith. 1. Byddwch yn frawdol a charladus tuan, at eieb gilydd, ac yn onest a gwyneb-agored tuag at yr •Kagob. Rhaid cyfaddef fod gormod o enllibio a Phardduo cymeriadau lawer iawn ymhlith offeiriaid. Y raae rhyw deimladau sal o genfigan, eiddigedd, a hunangarwch yn perthyn mor drwyadl i lwyth Lefi aS unthyw ddosbarth o bobl. Ni, ddylai y petbau hyn fod. Dywedwch y gwirionedd yn rbwydd wrth Yt Esgob am bawb, ond peidiwch lliwio cymeriad un dyn â. thrwyth eiddigedd a fialsder. Yr wyf yn eynghori Esgob Edwards i ddal sylw ar bob un fVddo yn dwyn oam-dystiolaeth yn erbyn ei gym- Ydog," a'i gadw i gnoi ei gil yn ddiaylw hyd ddiwedd ei oea. Nid wyf yn gwybod am un cymeriad mor 186vvlyd a'r hwn sydd yn ceisio drygu ei frawd trwy gelwydd. Nid wyf yn gwybod a oes rhai o'r rhai byn yn Esgobaeth Llanelwy, ond y maent i'w cael Izewn manau eraill. 2. Be open. Y fiordd sydd gan lawer i niweidio eraill yw dweyd dim am danynt. Ni ddywedaf fi ddim am dano," yw yr ateb awgrymiadol sydd yn CoLel ei roddi yn ami i niweidio arall. Beth a fodd- Ylin. Esgob pan y clywa rhyw hen we o lwyth Lefi yn dweYd am gurad, I say nothing about him." Bydd ya barod i grodu fod rhywbeth allan o la ynddo—nid YW't cwbl yn ei gylch yn iawn-y mae rhyw screw Yn loose yna yn rhywle. Dim yn y byd allan o le yn y curad, ond calon yr hen Wr sydd allan o le. Y 1na,0 arno ofn i'r ourad hwn gael ei ddyrchafu i fyw- Oliasfch sydd yn wâg, ac yntau yn ymdrechu cael ei Wthynas i mown! Gallaf fi enwi i chwi yatranciau 0 r fath hyn, a'r rhai hyny wedi Ilwyddo i gadw yn 01 am flynyddau ddynion teilwng, a rhoddi dyrchaf- iad i rai llawer islaw iddynt ymhob ystyr Y mae igon o synwyr cyffredin yn Esgob newydd Llan- elwy i weled trwy rhyw gynllwynion dichellgar fel byn, ao i ffurfio bara briodol am y rhai fyddont yn eu ha.rfer. Byddwch chwi ar eioh gwyliadwriaeth oIl rhag trosoddu deddfau moesoldeb a thegweh tuag at eich brodyr. A gwybyddwch y gcddiwedda. eich Peohod ohwi." 3. Na feddyliwch fod M.A. o Rhydychain neu Caergrawnt yn ddigon i roddi y lie blaenaf i chwi Yrnbob man. Y mae lliaws o offeiriaid ar ol iddynt g9.el eu hordeinio yn ymorphwys trwy eu bywydau ar eu degrees, fel pe byddai y rhai byny yn annibyn- 01 ar weithgarweh a llwyddianl gweinidogaethol, yn fendith fawr i'r Eglwys Ac y^mao eagobion wedi bod trwy y blynyddoedd yn colli golwg ar allu natariol, hunan-ddiwylliant, a defnyddioldeb clorigwyr rhagorol trwy edrych ar gymhwysder y cyfryw yn ngolouni y degrees. Y raaa degree o un o'r prif ysgolion yn beth canmoladwy, ond nid yw yn ddigon o reswm dros feddwl fod mwy o synwyr, o dalent, o ras, aa o tallu yn yr hwu sydd yn fedd- ianol arno na'r hwn sydd hebddo. Nid yw ychwaith yn arwyddo rhagoriaeth mewn gwybod- aeth. Yr unig beth a ddengys yw fod gwybodaeth ei berchenog wedi ei fesur. Gall yr hwn sydd heb yr un gradd fod yn rhagorach neu yn waelach ysgolhaig oherwydd nid yw ei faintioli yn hysbys i'r byd. A fiolineb mawr i offeiriaid yn yr oes ym- arferol hon yw matchogaeth rhyw lawer ar gefn eu degrees. Byddai yr un peth i Hen Domos dFr help, ymgodi oherwydd tfod' ganddo bedolau neillduol i'w glocs Y mae ugeiniau o loygwyr wedi derbyn eu degrees yn y prif ysgolion, ac ni chlywir byth son am danynt. Y maent yn llawer mwy hunanyiliwadol na'x clerigwyr yn, yr ystyr hwn. Yn yr Eglwys y mae Rhydychain yn edrych i lawr ar Durham a Llanbedr, y mae Llanbedr yn edrych i Jawr ar St. Bees, St. Aidan's, a Birmingham, ao y mae yr eiddigedd fwyaf yn bodoli rhwng yr ofieiriaid. Yn awr my reverend brethren," bydd i ohwi gael eich mesur o'r newydd pan ddaw eich meistr i'ch plitb, gellwch chwi fentro. Ni wna efe sylwi rhyw lawer ar yr ben suit o ddillad oedd genych wrth a.daely coleg rhyw ugain neu ddeng mlynedd as hug&in yn ol. Beth ydyw eich agwedd yn bresenol fydd y pwnc. Os y bydd St. Bees yn well gwr na Rhyd- ychain, efe gaiff y flaenoriaeth. Yr wyf yn credu y cewch chwi berffaith chwarau teg i gyd, gan hyny, byddwch yn blant da. 4. Derbyniwch ef fel dyn didwyll. Yr wyf yn credu eifodlyn ddyn hollol gydwybodol, Ymddyg- wch tuag ato yn yr un modd. Nid yw yn anffael- edig, a bydd., iddo o bosibi wneyd camsyniadau. Peidiwoh ei.ddrwgliwio a'i redeg i lawr yn ei gefn am.hyn, ond.ewch ato, a dywedwch wrtho ei ffael- eddau mown ysbryd cariadlawn, a gwn y bydd yn ddiolchgar o galon i^ohwi. Y mae ynddo gymaint o awydd i wneyd daioni fel y bydd yn falch o bob cymorth i symud y rhwystrau oddiar ei ffordd. Gwnewch chwi iddo ef fel y dymunach iddo ei wneyd i chwi. 5. Byddwoh yn Eglwyswyr trwyadl, heb fod yn eithafol mewn high jinks, neu yn gapelog yn eich oyflawniadau swyddogol. Ac yn awr, tbendith arnoch oil, heb na digtes na Hid. Gair bach wrth "ohebydd Hen Dy Gwyn at Dâf" a Tomes Iauanc." Byddwsh yn dangnef- eddus, fy mhlantj aawyli, Yr ydycheichdau yn milwrio dros yr un aohos. Peidiwch ymladd a'ch gilydd. Yr oedd bai ar Tomos Ieuanc" am fod yn bersonol, a rhaid iddo wneyd apology mewn munyd. Ao yr oedd bai ar Ty Gwyn ymosod ar Hen Domos, di'r help, heb roddi yr un tramgwydd iddo. Mae apology yn ddyledus oddiwrto yntau. Nid wyf yn cydweled ag ef gyda golwg ar adael pethau fel y maeut yn yr Eglwys. Y fiordd i wella clwyfau crawnllyd yw defnyddio y lancet; ond nid oes eisiau bod yn bersonol. Puro yr Eglwys o bob path annheilwng yw y dull goreu i'w hamddifiyn. Gwell yw glanhau y beddau oddi fewn na'u gwyn- galchu oddi allan 03 am gael gwared o'r arogl afiachus. 11 Rhydd i bob un ei farn, ac i bob barn ei llafar."
DEONIAETH WLADOL UWCH GRO…
DEONIAETH WLADOL UWCH GRO NEDD. Cynhaliwyd cyfarfod diweddaf y Ddeoniaeth yn Nghastellnedd, dydd lau, Mawrth y 14eg, ac yr oedd yn bresenol y Deon Gwladol, Parchn. Lewis Jones, Henry Morris, Wm. Edwards, Thos. Jenkins, David Hughes, J. L. Thomas, David A. Lewis, David Jones, J. Davies, M. J. Marsden, P. Williams, Mr. M. Tenant, a Mr. Francis. Y ddau bwnc fu dan sylw y tro hwn oeddynt "Amddiffyniad yr Eglwys yn y Ddeoniaeth, a'r Wasg Eglwysig Gymreig." Wedi cael ychydig sylwadau oddiwrth y Deon, daethpwyd i'r penderfyniad unfrydol mai buddiol fyddai sefydlu yn ddioed gangen o'r fam Gymdeithas amddiffynol yn y ddeoniaeth hon-y pwyllgor i'w ffurfio 0 ficer- iaid gwabanol blwyfydd y ddeoniaeth, ynghyd a'r aelodau canlynol :-Mri. G. H. Davey, J. Francis, M. Tenant, D. Rees, J. Stanley, Joseph Thomas, H. Lloyd, J. H. Moore, J. E. Moore, Roes Jenkins, M. J. Roberta, Dr. Whittington, Parch. Peter Williams, a'r Parch. J. L. Thomas. Etholwyd Mr M. Tenant yn gadeirydd y pwyllgor, a'r Parch. J. L. Tnomas yn ysgrifenydd. Y pwyllgor gweithredcl i fod yn gynwyaedig o Mr. M, Tenant, Parch. L. Jones, Parch. Peter Williams, y Deon Gwladol, a'r Ysgrif- enydd. Penderfynwyd fod y cyfarfod cyhoeidus cyntaf i'w gynal yn y Public Hall, Aberafon, yn mia Mai nesaf. Hyderir, gyda chydweithrediad y gwa- banol blwyfydd, y bydd y gangen newydd hon yn un Iwyddianus ac yn foddion i gryfhau yr Eglwys yn y gymydogaeth boblogaidd hon. Darllenwyd papyr dyddorol gan y Deon Gwladol ar y Wasg Eglwysig yn Nghymru." Datganodd ei 15 grM mai y gallu cryfaf ,i ddylanwadu ar y meddwl Cymreig yn bresenol yw y Wasg a dangosodd yn eglur y mawr angenrheidrwydd o wrthweithio yr effaith er drwg a wneir gan ysgrifau gwenwynig y Wasg Radicalaidd ar deimlad y wlad. Gwasgai ar y rhai oedd yn bresenol y ddylodswydd o gefnogi ymhob modd gyhoeddiadau y Wasg Eglwysig. Teimlai mewn perthynas i'r LLAN y dylid ei gwneyd yn fwy teilwng o safle yr Eglwys yn Nghymru, trwy ei gwneyd yn fwy eang a rhydd agored fel i gynwys o'i mewn ddaliadau y gwabanol ddosbarthiadau o Eglwyswyr. Ofnid fod pwyilgor Y LLAN yn rhy gyfyngedig i un dosbarth 0 Eglwyswyr. Credai eraill y dyiid gwneyd Y LLAN yn fny dyddorol trwy gael ysgrifau ynddi i'r Amaethydd," Y Glowr," Y teulu," "Holiadau ao Atebion," &c. Y teimlad cyfiredinol oedd nad oedd boneddigion yr Eglwys wedi gwneyd yr byn ddylent i gefnogi y Waag Eglwysig yn y dyddiau gynt. Fel rheol, nis medrenc siarad Cymraeg, ao yr oeddent yn amddifad o'r teimlad Cymreig, eto dylid dangoe iddynt yn eglur y fath offeryn dylanwadol yw'r Wasg Gymreig, yn enwedig yn rhanau amaethyddol y wlad. Nid yn unig dylent gefnogi Y LLAN a'u rhoddion arianol, ond hefyd ei lledaenu yn eu gwahanol ardaloedd. Teimlad yr hell aelodau oedd y dylid gwneyd ym- drech adnewyddol i ledaenu cylchrediad Y LLAN, a. thrwy hyn i alluogi y pwyllgor i belaethu ei cholofn- au. Y mae y Cymro, rywfodd, yn edrych ar faint rhagor na sylwedd yr hyn a bryna. Rhwydd iddo gredu mai ceiniogwerth wael yw'r LLAN wrth edrych ar ei maint; ond credem pe oydmarai efe hi 0 ran sylwedd-ei hysgrifau—o ran coethder a lledneis- rwydd ei hertnyglau—a'r goreu o'r newyddiaduron wythnosol, y deuai allan o'r gyatadleuaeth a Uawryf buddugoliaeth ar ei phen. Y teimlad ar ddiwedd y cyfarfod oedd y dylai pob aelod ymdrechu hyd eithaf ei allu i hyrwyddo cylchrediad Y LLAN, a'r cyhoedd- iadau Eglwysig eraill yn ei blwyf a'i ardal, yn gystal ag anfon pob newydd 0 bwya i'w gyhoeddi yn ngholofnau Y LLAN.
ETHOLIAI) BWRDD YSGOL FFESTINIOG.
ETHOLIAI) BWRDD YSGOL FFESTINIOG. Cyhoeddwyd result yr etholiad uchod am haner awr wedi deuddeg nos Sadwrn-yr oedd fel y canlyn Parch. T. J. Wheldon, B.A. (C.) 1997 Parch. J. Rhydwen Parry (A.) 1833 Parch. W. Parri Huws (A.) 1686 Parch. J. Williams (C.) 1551 Mr. H. Roberts (G.) 1545 Parch. J. Harries, B.A. (E.) 1413 Dr. Evans (B.) 1395 Mr. T. G. Roberts (C.). 1251 Dr. G. J. Roberts (C.) 992 I Mr. Ellis Roberts (W.) 851 Mr. J. O. Jones (0.) 137 Mr. J. T. Williams (A.) 74 Y saith blaenaf i ffurfio y Bwrdd. Gwelir fod y Parch. J. Harries, B.A., curad St. Dewi, yn ua o'r saitb.—Mem Nun. o'r saitb.-Mem Nun.
TROEDIGAETHAU.
eistedd ar yr orsedd yr eisteddai gwir Sfefy^d arni unwaith. Ni ryfeddwn Os clywn am ragor o droedigaethau yn y dyfodol," ydoedd ein geiriau yn Y LLAN ar y 25ain o Fai, 1888. Gyda mwy o sicrwydd ¥* ydyin yn ail-adrodd y geiriau ar yr adeg bresenol, gan gredu fod y dyfodol agos yn Slcr o weled llu mawr o Ymneillduwyr, yn Weinidogion a phobl, yn dyfod yn ol i'r hen §orlac. Awr erledigaeth ydyw, ac y mae «anes yr Eglwys ac addewidion Duw yn <jaiigo8 rnae yn y fath amser y mae i ni daisgwyl am gynydd. Ein dyledswydd fel ^glwyswyr ydyw bod yn ffyddlawn i'n *Ieglwys, ei hathrawiaethau a'i threfniad- au, ac ar yr un pryd bod yn dasr mewn SWeddi, ymarfer hir-ymaros a hyrwyddo Ulhob modd ddychweliad ein cydwiadwyr 1 undeb Eglwys DDUW. Os oedd yr undeb hwn mor werthfawr yngolwg ein HIACH- ^WDWB Bendigedig, fel y gweddiodd a'i 3-UADL olaf braidd, ar i DDUW ei sicrhau i'w Eglwys, yn ddiau dylasai pob crefyddwr Wlleyd ei oreu i gyfanu ein hymraniadau crefyddol. Yn arbenig felly dylasai yr Eg- hvys weithio er dwyn yr undeb hwn oddi- anagylch.