Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

ANUDONIAETH YN NGHYMRU.

News
Cite
Share

ANUDONIAETH YN NGHYMRU. Y MAE cyhuddiadau, o dro i dro, yn cael eu dwyn yn erbyn ein cydwladwyr sydd yn tafiu anfri ar ein cymeriad fel cenedl. flynyddau yn ol darfu i Mr. HOMMEKSHAM Cox (y Barnwr) ddatgan yn ddifloesgni fod tyngu anudon yn nodweddu y Cymry ac awgrymai fod hyn yn perthyn i ni yn fwy felly nag i genedl y Saeson. Teimlai pob gwladgarwr i'r byw wrth feddwl fod y fath beth yn boribl, ac aeth rhai mor bell a haeru nad oedd yr un sail o gwbl droa yr achwyniad; a phriodolaaant yr iaith a ddefnyddiwyd naill ai i anwybodaeth, neu gulni meddwl a rhagfarn yn erbyn y Cymry. Ond parhau i gondemnio yn yr un cyfeiriad y mae Barnwyr ac Ynadon Heddwch. Ac felly y gwnaeth y Barnwr GRANTHAM yu Nghaerdydd yn ddiweddar ar ddau achl) sur. Y mae ei fod wedi dweyd yr un peth ddwy- waith, yn brawf mai nid mewn byrbwylldra a gwylltinob y gwnaeth y datganiad, ond mewn arafwch ac ar ol ystyriaeth; Dy wedodd, "Er y gwyddai y c'ai ei gondemnio oherwydd ei iaith, eto ail-adroddodd fod pobl yr ardal hono yn euog o anudoniaeth heb weled y niwed o hyny. Yr oeddynt yn teimlo eu bod o dan orfodaeth i ddweyd anwireddau, am nad oeddynt yn dymuno rhoddi tramgwydd trwy ddweyd y gwir." Hefyd, wrth drin achos o ffug-ysgrifenu I ewyllys, dywedodd ei fod yn un o'r achos- ion rhyfeddaf a ddaeth o dan ei sylw erioed ac mai elfaith yr un drwg ydoedd, sef y drwg o arfer celwydd, yr hyn oedd yn cael ei anwesu gan bobl heb y petrusder lleiaf.' Ymddangosai fel peth hollol ddifater iddynt pa'r un ai gwir ai celwydd a ddywedant Dyma swm a sylwedd ei gondemniad, ac y mae o natur mor ddifrifol fel na ddylai neb sydd yn caru ei wlad a'i grefydd ei daflu o'r neilldu fel peth disylw, nac ychwaith geisio ei guddio trwy daflu llaid at y condemniwr a gwyngalchu y condemniedig. Y mae dwy ffordd i drin briw, naill ai ei adael i groeni am ychydig, neu ynte i'w agor a'i ddinoethi er mwyn dyfod at wraidd y drwg, ac felly i'w symud i ffwrdd yn gyfangwbl. Y mae y cyntaf yn driniaeth fwy esmwyth, ac yn fwy cydweddol a'n teimladau, ond gan fod elfenau crawnllyd ac afiach yn cael eu cuddio, y maent yn sicr o dori allan mewn rhyw fan arall, neu byddant yn achos o ddadfeiliad yr holl gorff. Tra y mae y Hall yn fwy poenus a chroes i'n tueddiadau tyner, ond yn fwy diogel yn y diwedd mewn gair, dyma yr unig foddion C) effeithiol i symud y drwg. Felly, beth bynag am y cwrs a ddefnyddia ein cyfoesolion newyddiadurol, ein pender- fyniad yw gwneyd ein dyledswydd, doed a ddelo, trwy ddinoethi y gwendidau sydd yn perthyn i'n cenedl yu hytrach na'u cuddio. Efallai y byddv^n trwy hyn yn gwneyd ein hunain yn anmhoblogaidd ond nid yw enill pobiogrwydd ar draul sathru dan draed y gwirionedd yn worth ei fedd- ianu, heblaw mai byr-hoedlog fydd. Gwnawn gyda'r parodrwydd mwyaf ddau neu dri o gyfaddefiadau ar y dechreu. (1) Nid ydym yn. cyfiawnhau iaith y Barnwr GRANTHAM, nac yn tybied fod ganddo ddigon o resymau dros wneyd cyhuddiad cyffredinol yn erbyn cenedl, pan yn trin achosion neillduol ac unigol. Anmhosibi yw tynu casgliad am ansawdd gwlad gyfan, neu gyfran o honi, wrth archwilio un ys- motyn; felly ahnheg a chenedl yw barnu ei chymeriad fel cyfangorph, neu ddosbarth o honi, wrth roddi llinyn mesur dros unig- olion. (2) TSTis gall unrhyw Farnwr sydd yn dyfod yn achlysurol i Gymru ddyfod i gyffyrddiad a'i bywyd mewnol a moesol fel, ag i dreiddio i mewn drwy ei haenau ar- wynebol, a dyfod o hyd i'w hegwyddorion llywodraethol. (3) Rhaid cofio fod y Cymry o dan anfantais pan yn rhoddi tyst- iolaeth mewn Ilys gwladol, gan eu bod yn fcprfod gwneyd hyny naill a'i mewn iaith F^tronol neu trwy gyfieithydd ac y mae y dystiolaeth yma i gael ei barnu gan un s) dd yn amddifad o iaith ac anianawd y tyst. Ond, er y bydd i'r anfanteision yr ydym fel cenedl yn dioddef oddiwrthynt, bylu llawer ar fin y cyhuddiadau a wneir o bryd i bryd yn ein herbyn, eto rhaid cydnabod yr erys gormod o wirionedd ynddynt. Nid ydym yn meddwl y ceir llawer o engreifft- iau o "dyngu anudon ac o ffugio ysgrif- au yn ein plith ni nac a geir mewn llys- oedd barnol yn Lloegr. Ond rhaid cyffesu fod lie da i wellhau mewn hoffder at y Gwir yn erbyn y byd." Y mae llawer o bethau yn ddiweddar wedi bod yn cyd- weithredu tuag at wneyd ein eenedl yn llai geirwir nag y byddai ein tadau a'n teidiau yn arfer bod. Enwn bedwar yn unig. (1) Alltudir addysg' Feiblaidd o'n Hysgolion dyddiol. Unwaith yr eir i beidio edrych ar egwyddorion y grefydd Gristionogol fel sylfaen pob gwir addysg, buan y dirywia ein gwlad mewn geirwiredd, moesoldeb, gonestrwydd, a phob rhinwedd arall. (2) Ystyrir mewn materion gwleidyddol y gellir addaw un peth a chyflawni yn hollol groes i hyny, heb wneyd cam a, llais cydwybod. Y mae dosbarth o wleidyddwyr (sydd yn bresenolyn y mwyafrif), yn euog o hyn, ac felly i raddau helaeth wedi colli y gallu i gyd-wybod a mantoli a gwerthfawrogi y gwir fel y mae yn rhagori ar y gau, ac i gofleidio y naill a gwrthod gyda chasineb y llall. (3) Edrychir ymhlith rhai mathau o grefyddwyr ar "ddweyd profiad" fel rhinwedd, ac fel arwydd o grefyddolder a'r canlyniad yw y temtir llawer i ddweyd yr hyn ni theimlant, ac mewn amser y mae hyn, nid yn unig yn magu calon-saledwch, ond hefyd yn meithrin y tueddiad o gelu yngwydd Duw a dyniou eu gwir gyflwr. (4) Y mae llacrwydd cymdeithasol beius yn cael ei ddangos at y pechod gwaradwyddus yma, a diffyg parch dyladwy yn ein cyd- ymdnniad beunyddiol at y gwir, a dim ond y gwir. Hyd nes y symudir y diffygion uchod yn addysg, gwleidyddiaeth, crefydd, a bywyd cymdeithasol ein cenedl, parha y perygl i anwiredd a.c anudoniaeth andyo ein gwlad. Folly, er nad ydym yn haeddu yr oil a ddywedir yn ein herbyn, eto dylem fod yn ddiolchgar am y rhybudd (yr hyn ddylai achosi huuan-vmholiad ac ymchwil- ind dwys-dreiddiol). a lladd y drwgyn y blaguryn.

TROEDIGAETHAU.