Hide Articles List

10 articles on this Page

"TOMOSIEUANC" A'R "SEBON MEDDAL."

"VERITAS," "TOMOS IEtLANC,"…

LLUNDAIN.

LLlTfl 0 LERPWL.

News
Cite
Share

LLlTfl 0 LERPWL. [GAN: EIN GOHEBYDD ARBENIG.] ADUNIAD YR EGLWYS A'R SECTAU. Cymerodd ymdrafodaeth bwysig le yn nghynhad- ledd chwarterol cynrychiolwyr clerigol a. lleygol Deoniaeth Wladol Walton, yr wythnos ddiweddaf, yn St. George's Hall, Lerpwl, ar aduniad yr Eglwys Sectau Protestanaidd, dan lywyddiaeth y Parch. Canon Taylor, D.D. Darllenwyd Jiiipyr dyddorol gan y Parch. F. Linstra'd Downham ar "Home Re-union on the Pan-Anglican basis," neu adundeb rhwng Eglwys Loegr a'r enwadau Ymnsillduol ar y seiliau y cyd- unwyd arnynt gan y Gynhadledd Esgobol a gyn. naliwyd yn i-ilundam yr haf diweddaf. Enwodd y rhai canlynol felyr arnodau y penderfynwyd arnynt yn y Gyiitiadledd t, Fgobol.-Yu gyntaf, Ysgrythyrau Sanctaidd yr Hen Dostament a'r Newydd fel gwir a therfynol safon ffydd yn ail, Credo yr Apostojion fel arwydd (symbol) bedydd, a Chredo Niceafel mynegiad digonol 0 ffydd Gristionogol yn drydydd, y ddau Sacrament a ordeiniwyd gan Grisfc—bodydd a Svyper yr Arglwydd; yn badwerydd. y ffurllyw- odraeth Esgobaethol fel y mae yn cael ei chym- hwyso yn nuKiau ei gweinyddiad i gyfarfod 4g anghenion gv/ahanol ganetlloedd. Tystiolaeth ua- frydol yr Esgobiül;1 ydoedd fod ymhob rhan o'r byd Cristionogoi awydd gwirioneddol am undeb. Ond y cvvestiwn i'w bendorfynu ydoedd-a oedd undeb corfforedig yn Ujth i'w ddymuno ? Yr oedd llawer eto o'r farn mai gwahaniaethau oedd gogoniant y grefydd Grittionogol, a sectau ei biachawdwriaeth. Ond tuadd-ld let i gredu pa mor amddiffynadwy bynag y gallai ymraniadau, mewn amgylchiedau neillduol, fod nad oedd yn bosibl eu bod yn iawn. Yr oedd Ymneillduaeth mewn rhai amgylchiadau wedi ei chynyrehu gan awydd i dd'od o hyd i'r gwirionedd, a chyn belled ag yr oedd ymraniadau yn y byd Crietionogol yn ffrwyth yrnchwiliad gonest a difrifol am y gwir yr oeddynt yn. toilyngu parch. Ond yr oedd yr ymraniadau hyn yn anfri ar auian- awd 1C ysbryd Cristionogeeth. A fyddai gwaith yr Eglwys yn ysgafnach pa na b'ai yr ymraniadau hyn yn bodoli ? Ai ni fyddai llai o wastraff ar lafur ac avian ? Dadleuid fod y cydymgais oedd rhwng gwahanol Eghvysi yn fanteisiol. Yr oedd yn oyd- nabod hyn, ond er hyny yr oedd o'r farn fed y mudiad oedd yn myned ar gynydd beunydd yn flafr undeb wedi cael ei ddechreuad gyda Christ ei hun. Mewn perthynas i'r erthyglau y penderfynwyd arnynt gan y Gynhadledd Esgobol yr oedd ef yn ofni mai y maen tramgwydd ydoedd yr hon oedd yn. cyfeirio at esgobyddiaeth hanesiol." Yr oedd yn anhawdd gwybod pa mor bell y cymeradwyid yr orthygl, gaii y cyiff Ymneillduol. A oedd y cwestiwn yn un ymarferol ? Yr oedd llais yr Eg- lwys yn llofaru yn groew ar y pwno. Yr oedd yr Eglwys heddyw yn sefyll yn saflo y tangnefeddwyr, ac yn estyn allan y gangen olewydden i'w phlant oedd wedi crwvdro yn hir o hen gartref anwyl a chysegredig eu Mam (from the sweet sanctity of the maternal home). Wrth derfynu dywedodd y boneddwr parchedlg ei fod wedi bod yn ymholi ar y pwnc a rhai gweinidogion AnghydSurfiol enwog, Ysgrifenodd y Parch. Dr. Parker fel y canlyn pob peth fyddo yn tueddu yn ddoeth ac yn deg of, undreb i'w gefnogi. Qwha llythyrau bugeiliol fel eiddo yr Esgob How ddaioni dirfawr. Nis gellir byth benderfynu y owestiwn rhyngom drwy ym- resymu. Rbaid i ni gael awyrgylch ysbrydol giir yn yr hon y gallwn benderfynu dadleuon o bwys. Pan gawn olwg iawn ar Grist cawn olwg iawn ar y naill y llall." Da iawn I Pe b'ai pawb yr un ysbryd a Dr. Parker, o'r City Temple, buasai gwell gobaith am undeb. Dywed y Parch. Guinness Rogers fod undeb corifforaothol yn both anmhosibl, am mai y canlyniad o hyny fyddai i Eglwys Loegr lyncu i fyhy yr holl eglwyai Ym- neillduol. Yabryd chwerw ac anghymodlon sydd yn noclweddu atebiad Mr. Rogers, fel yr Yruneillduwyr poiiticaidd yn gyffredin, Dywed y Parch. Mark Guy Pearse, y gvveinidog Wesleyaidd poblogaidd:- "Byddai yn olygfa fendigadig i mi weled Anghyd- ffurfiaeth yn cael ei chyfaich gan Esgobyddiaeth Saisnig," &c. Cafwyd rhydd-ymddiddan dyddorol ar y papyr, ond gofocl a ballai i mi roddi ond rhyw dalfyriad byr o'r areithiau. ¡ Yr oedd yn dda gan y Deon Gwladol glywed fod y Pt),n-Ariglican, Conference yn cydnabod yn ddi- floesgni fod undeb âg Eglwys Rufain yn anmhosibl. Mewn perthynas i gyrff erefyddot eraill yn y wlad hon, yr oedd yn awyddus i ofyn, os oedd undeb cor- fioraethol gweledig yn beth dymunol, a oedd yn bath ymarferol ar y safon a osodwyd i lawr ? Yr an- hawader mawr, oedd gyda'r cwestiwn o lywodraeth Eglwysig. Er dyddiau yr apostolion yr oedd wedi m& yn yr Eglwys y tair urdd—esgobion, henuriaid, a iaiaconiaid ond yn amser y Diwygiad nid oedd rhai o'r duwinyddion enwooaf yn credu yn yr angen- rheidrwydd oyffredinol am esgobyddiaeth. Os nad oedd undeb ar y tir hwnw yn beth angenrheidiol, nid oedd efe yn credu ei fod oherwydd rhesymau I ecaill yn beth dymunol. Ni ddylai fod cymaint o eiddigedd rhwng gwahanol bleidiau yn yr Eglwys, a dylai fod mwy o ddeaildwriaeth rhwng gwahanol enwadau Ymneiilduol mewn trefn i ochelyd y fath I wastraff ar ddynion ac arian drwy adeiladu bob on ei Fethel byeban He yr oedd un He o addoliad yn ) ddigon iddynt i gyd. Heblaw hyny, yr oeddynt yn haner Uwgu eu gweinidogion. Ac addef fod undeb yn beth angenrheidiol a dymunol, yr oedd o'r farn ei fod yn anmhosibl ar safon esgobyddiaeth. Yr oedd ef yn credu y buasent yn gofyn mwy i'r Anghyd- ffurfwyr nag a allent ganiatau. Eu dyledswydd yn' bresenol ydoedd meithrin undeb llai ffurfiol ar'saiL unoliaeth athrawiaethol ar bynoiau hanfodol. Barnai y Parch. J. W. Rhodes y dylent dalu i'r Gynhadledd Ban-Anglicanaidd y parch llwyraf ar gyfrif ei hawdurdod. Nid oeid ef yn credu fod dim yn yr hyn a hawlient nas gallai Anghydffurfwyr ai dderbyn. Dywedodd y Parch. W. J. Adams mai anwybod- aeth oedd yr achos o ymraniadau. Mewn perthynas i esgobyddiaeth fel ffurl-lywodraeth Eglwysig, yr oeddynt yn ymlynu yn gryf wrthi am ei bod yn vr Eglwys cyn i'r Testament Newydd gael ei gasglu at ei gilydd. Terfynwyd y gynhadledd heb fabwysiadu unrhyw benderfyniad neillduol. Mae hwn yn bwnc dyrys. Byddai yn anmhosibl flurfio un math o undeb a'r Oyfuudebau Ymneillduol heb eu cydnabod fel Eg- Iwysi theolaidd, ac y mae hyny yn fwy nag y dichon yr Eglwys ei wneuthur, Nid oes dim llai nag undeb corfforedig a wna ei. boddloni. Dyledswydd yr Eglwys ydyw symud pob rhwystr oddiar ffordd eu dychweliad-arloesi y ffordd a symud y meini tramgwydd. Mae'r bob!, yn neillduol yn Nghymru, yn dechreu ymofyn am yr hen ffordd; mae awn tyrfa yn el'od. Mae'r gwenyn yn dychwelyd i'r hen gwch." Mae dyddiau Ymneillduaeth wedi eu rhifo, n'i gogoniant wedi ymadaoJ, os bu gogoniant yn perthyn iddi. Dawr genedl adre' i Ganaan." EGLWYS GYMREIG ST. NATHANIEL. CENHADAETH WYTH NIWRNOD. Dechreuwyd oenhadacth wyth niwrnod yn Eglwys Gymreig St. Nathaniel y Sul diweddaf, a pbregeth- wyd yn y boreu a'r hwyr gan y Parch. W. A. Ellis, y curftd-mewn-gofal. Ei destyn yn y boreu ydoedd St. Matthew xv. 28, Ha wraig, mawr yw dy ffydd," ;t.t.] .t.1.. __I- 11 a uuisiHju uih pnwrpasoi ar cldeeiireu y gwasanaethau cenhadol byn ar ffydc1 y wraig o Canaan. Yn y gvrasanaeth hwyrol cvmerodd ei destyn oddiwrth 1 Cor. i. 30, 31, Eithr" yr ydych chwi o hono ef yn Nghrist Iesu, yr hwn a wnaeth. pwyd i ni gan Dduw yn ddoethineb, ao yn gyfiawn- der, ac yn sancteiddrwydd, ac yn brynedigaeth," &c. Pregeth rymus ac cffcithiol oedd bon ar yr Arglwydd Iesu Grist oil yn oil yn nhrefn gras. Cafwyd gwas- anaeth gwresog a chyfarfod gweddi ar ol, i weddio am lwyddiant ar y genhadaeth. Cynhelir gwasan- aethau bob nos yn ystod yr wythnos a'r Sul nesaf. Pregethwyr: y Parch. W. H. Jones, curad St. Martin's-in -the -Fields; y Parch. Stephen Jones, curad St. Matthew's, Toxteth Park, a'r Parch. W. A. Ellis. Cymerir rhan yn y gwasanaethau hefyd gan Mri. M. J. Hughes ac It. Roberts, myfyrwyr o Goleg St. Aidan, Birkenhead. Amcan y genbadaeth ydyw adeiladu pobt yr Arglwydd, a dychwelyd pech- aduriaid at Grist. Gwneir casgliadau neillduol Sul, y 24ain, tuag y treuliadau. Bydd genyf ychwaneg am y genhadaeth yn y rhifyn Desai. "O! na ddenai'r hen awelon Megis yn y dyddiau gynt." -40-.

CYFFREDINOL.

GWEITHFAOL A MASNACHOL.

Advertising

Y GYNGRES EGLWYSIG.

GAIR AT "PENFRO.",

[No title]