Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
DOSBARTH L
DOSBARTH L YR ANWADAL. Ar ben 'T*r hen Eglwys Nefyn, Y mae cerflun o long fawr, Sydd yn nodweddiadol ddarlnn O'r anwadal ar y lIawr Weithiau pwyntia tna'r Gogledd, Yna eilwaitth tna.'r De; Yn mhen enyd pwynt y Dwyrain Neu'r Gorilewin fydd ei lie. Felly yntau yr anwadal, Y mae'n wamal fel y gwynt; Clndir ef gan bob rhyw awel, Hwnt i rywle ar ei hynt; Y mae rnegia ton aflonydd Yn annedwydd yn mhob man; Weitliian'n t.ynu tna'r cefnfor Yna'n tafia tua'r lan. Er mor anhawdd ydyw dilyn 01 ei gamrau ar y llawr; Ni ymdrechwn oreu gallom Wneyd y gorchwyl hwnw'n awr; Y mae'n anhawdd i ni ddechreu D'od o hyd i'w gamrauln wir, Gan nad yw efe yu aros, Yn yr nn man byth yn hir. Gwelwn ef yn myn'd i'r Eglwys, Lan Gatholig foren Sul; Ffugia fod yn gywir GristioD, Ac yn rhodio'r llwybr cuI, Ar ei liniau'n ddefosiynol D'wed yn nchel yr Amen, Ar ol dyfod o'r gweddiau A'J: colectau oil i ben. Yn yr hwyr, Ow ei eisteddle, Yn yr Eglwys oedd yn wag; Yn eisteddfa y gwatwarwyr 'Roedd e'n yfed diod frig m Cawn e'n ngbapel y Bsdyddwyr Y Snl nesa'n gwneyd ei sedd, A chwi dybiech wrth ei olwg, Fod ei enaid yn cael gwledd. Gyda't Methodistiaid wed'yn Yr ymunodd yn y man, Arddangosai zel brwdfrydig Wrth ymddadleu ar ea rhan Yn ol arfaetb etholedig Oedd drwy Ddwyfol drefn ddilytb. Nef a daear elent heibio Cyn i'r cyfryw lithro byth. Nidyn hir bu yn coleddu. Yr athrawiaeth iabhus lion; At y brodyr Ltoff Wesleyaidd Rhedai tueddiadan.i fron Bwriodd yn en plith ei goeibren, I wrtbsefyll satan gaa; Credid yn ddiysgog ganddo Fod modd cwympo oddiwrth ras. Yn naturi il fel y credai Felly cwympai ef drachefn, Ar gyfundrefn y Wealeyaid Yr anwadal dross ei gefn, Credai fod yr Annibynwyr Yn agosach at y ne' Mabwysiadn hwynt yn frodyr 'N oJ ei natur ddarfa e'. Ond nis gallai yr anwadal Wneyd ei gartref gyda hwy, Ac nid oedd nn enwad arall I'r gwr cibddall yn ei blwy'; Ac am byny codi allor Ddarfa yn ei dy ei bun- Ond ar hono blino'n fnan, Fel yn mhobman wnaeth y dyn. Yn gyffelyb ei agweddan Diau'r unwedd ceir y dyn, Weithiau'n wresog ei deimladau Weitbiaa'n oer fel rhew ei hun; Weithiaa yn ddirweatwr zelog, Ac yn gwisgo colar wen Droiau eraill yn mhwll meddwdod Mewn erchylldod droa ei ben. Ar y llvvyfan mewn.rhai lleoedd Y mac yn Geidwadwr poeth, Brydiau eraill yn Hawn gwewyr Ceir ef yn hhyddfrydwr doeth; Fel Lyn mae yn anhawdd gwybod Yn mila Ie i gael y dyn, Gan ei fod ef drnan, gwamal, Yn mor ami golli ei hun. Yn ei air nid oes ymddiried, Pawb sydd yn ei wylied ef; Hysbys ydyw ei gymeriad Yn y wiad a thrwy y dref I Yn mhob cvich y troa ynddo, Wrth fyn'd rhagddo ar ei hynt, Dyna ddywed pawb am da.no,— Y mae fel y ceiliog gwynt. Llangwnadle. Ap MORUS.
MYGIAD CYMO YN TENNESSEE.
MYGIAD CYMO YN TENNESSEE. Tarawyd y lie hwn a braw boreu y 24ain oynfisol, gan y newydd fod y C. C. Colliery ar dan, ao fod oddeutu deg o bersonau i fewn, a rhagolwg eu bod oil wedi colli ea bywydau. Y gorughwyliwr tan- ddaearolydyw Mr. William Jones, o Cwm Rhondda, D.C., a'r perchenogion ydynt y Black Diamond Coal Company. Yr oedd y gwaith wedi ei agor ar ol cynllun ardderchog, a phob peth yn gyfleus er cael glo allan. Yr oodd tail rope yn gweithio yma er's blwyddyn bellach, a pheirianau o'r fath oreu i'r perwyl hwnw. Y peirianwr ydoedd y Cymro adna- bydclus Mr. John Jenkins, o Aberdar, D.C. Yr oedd ugeiniau o lowyr ar ben y gwaith mor foreu a phed- war o'r glocb, yn barod i roddi pob cynorthwy dich- onadwy ond erbyn hyn yr oedd y owbl yn lludw- y peirianau godidog wedi eu Hwyr ddinystrio, y gwaith wadi syrthio i mewn am oddeutu 60 llatb. j holl danau mae yr ysgrifenydd wedi weled, hwn oodd y lloagiad mwyaf Ilwyr, a hyny, mao'n debyg, am fod cymaint o olew a phethau tanllyd fellv yn y genau yn barod i'w gosod ar years, &c, J' Cafwyd allan fod y dynion oedd i mewn wedi cael diangfa bra,iddyn wyrthiol trwy gael agoriad i waith arall, ond un, sef y flue man, a hwnw oedd yr hen Gymro parchus a thwymngalon, Ebenezer Davies. Oafwyd ei gorff ef ychydig gamrau o'r ffwrnes yn gorwedd mewn ychydig ddwfr. Yr oedd wedi oael ei gau i mewn o bob tu, a genau y gwaith ar ddn, a r mwg a r tarth wedi trafeilio oddeutu dwy filldir cyn ei gyraedd ef, gan lanw y gwaith yn gyfangwbl. Tebyg ei fod wedi gwneyd pob ymdrech am eifywvd. ond druan, y cwbl yn ofer. Ymfudodd yr ymadawedig o Maesteg, D. C., 27 mlynedd yn ol, i Pennsylvania, a daeth i'r lie hwn n. F "^yneaci^yn OJ. xr oedd yn ddyn a gerid gan bawb yn y lie, a chredwyf nad oedd ganddo yr un gelyn hefyd, yr oedd yn ddyn darbodus iawn i'w- deulu, a phob amser yn serchog, ao yn Gymro o'r iawn ryw. Claddwyd ef y dydd Sadwm caniynol, yn mynwent y Welsh Church, pryd y daeth torf fawr i dalu y gymwynas olaf iddo. Gwelais amryw o Oliver Springs a Knoxville, a manau eraill yn bres- enol, yr hyn oedd yn siarad yn uohel am boblosr- rwydd yr ymadawedig. Gweinfddwyd aryr achlysur yn Gymraeg yn y ty gan Mr. Howell, gym o Llwyny- pia, D. C., ao wrth y bedd yn Saesneg gan yr un person. Cafodd gladdedigaeth barchus iawn, o'r hyn yr oedd yn wir deilwng. Y mae pawb yn gyff- redinol yn cydymdeimlo a Mrs. Davies yn ei gofid, ao yn dymuno ar i Dad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon fod yn nodded iddi yn ei thrallod.-O'r Drych.
[No title]
Nid yn ami y gwelwyd Gwener, y serenhwyrol bresenol, mor ddisglaer ag ydyw y nosweithiau hyn. Gamgymera llawer hi atQ oleuni trydanol wedi ei godi o rhyw ddiaa bell.
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Rhaid i ni erfyn ar ein cyfeillion barddonol fed mor garedig a thalu sylw i'r rheolau canly nol o hyn alkn 1. Defnyddier note, paper, ac ysgrifenar :ir nn tn i'r ddalen. 2. Ymdrecher dewis testynau o ddyddordeb eyffredinol, ac aStudier tlysni a byrdra vn hytrach na meitlider gormodol. astudier tlysni a byrdra vn hytrach na meitlider gormodol. 3. N. is gallwn ddychwelyd cyfansoddiadau annerbyniol, na barnu teilyngdod cyfieithiadau heb weled y gwreiddiol. JOHN AFAN DAVIES.—Y mae y gan yn argraffedig eisoes. Paham y ceisiwch genym ni ei chyhoeddi ? Ap MOBXTS.—Y mae eich c/wydd yn ddoniol dros ben, ac wedi rhoddi cymorth i ni chwertbin yn incline; ond y mae gormod o'r gwr du ynddo i gael lie yn y golofn. Y mae aruom ofn y canlyniadan. GLYN MYFYK.—llhai llineliau campus, ond eraill yn weinion. Mae y rhagw&nt ar y pedwerydd sill yn y llinell flaenaf. Dylai fod ar y pained. Take care, my boy.
"YN RHY WLE AI BYW YW FY MAM?"
"YN RHY WLE AI BYW YW FY MAM?" Tra'n crwydro mewn gwledydd estronol, Heb gar ac heb gyfaill yn bod, Rhyw fachgen afradlon hiraetba1. Am eilwaith i Gymru gael d'od Ymbiliai wrth orsedd trugaredd, Heb alin i symnd nn cam, A cheisiai gael gwybod gan Iesn, Yn rhywie ai byw oedd ei fam ? Yn wylo, yn danfou oeb'noidian I'r nef 'roedd y bachgen o hyd, A thywallt ei galon dromlwythog 0 flaen Pen-rheolwr y byd Erfyniai-" 0 Ðdnw bydd drugarog, Wrth nn ey'n llawn pechod a nam, Llawn hiraeth yw f'enaid am Wybod Yn rhywle ai byw yw fy mam ? Hen wersi y nefoedd a ddysgais Sydd heddyw'n ymsaethn i'm bron; Un munyd o fwyniant ni chefaia Mewn gwlad mor estronol a hon I I'r llawr ar fy nenlin af eto, I Yn estron yn goddef mawr gam, I ofyn i Dduw fy Nghynaliwr, Yn rhywle ai byw yw fy mam ? Tra'n anfon fy ngweddi i'r nefoedd s" Dych'mygwn y clywn i ei I] &is 1'1 Yn gwann fel cleddyf daa-finiog Trwy 'ngbalon, gan ateb fy ngbais, Fel byn yr atebwyd fy ng-weddl:- 0 blentyn yrafl wydd a'r earn [ Yn monwent henafol Lianbeblig, Mewn beddrod y gorwedd dy fam. '0 estroa, trwmlwythog yw'th galon Oherwydd it' adael dy wlad, Er hyny tro'th weddi i'r nefoedd Cei ateb rydd iti foddhad, Os adre' dychweli, rho'th galon I'r leeu cyn symud un cam, Efe a rydd ateb i'th weddi;— Y nefoedd yw cartref dy fam." Caernarfon. W. E. JONES (Ap ELLIS.)
DOSBARTH II.
DOSBARTH II. GWYWDRA FY EINIOES. Haf a gauaf 'rwy'n gwywo,—beunydd Heb enyd orphwyso; Yfory a'i graith af i'r gro— Af i lawr i falnrio. Bran ydyw, a bfer odiaeth,—fy einioe3- Un fanyd ysywaeth Rhyw un gwg a'm dyry'n gaeth Yn mOr hell marwolaeth. Rhyw einioes fel dnr wenol,-yn wibiog El heibio'n breeenol Amharod i'r dyfodol Wyf yn awr, byddaf yn 011 Gwregys ewynawg rwyga,—a Heni Hoil anian ddatoda; Ow och! eilwaith fe chwala' Mae angau'n min y blin bla. Dyn ydwyf yn dwyn nodwedd,-nn rhydlyd Afradlon a rhyfedd; Ond yr Oen a'i waed-rinwedd A dyr y boen cyn daw'r bedd. Difater ydwyf eto,—am achos Bu'r Heicbiau yn wylo O'i blegid; pwy na blygo I weddi;gref, am ei ddagrau 0 ? Daw dwthwn cei di dy ethol,—f enaid I fynydd ysbrydol; A'r lesa gwyn a'th droes i'w goi Er y goddef trag'wyddol. O na fedrwyf fi adrodd,-haneei Y Rhinwsdd a'm golchodd Hwn o'i raa o'mewn a roes,—wen Insern Na feiddia nffern, na'r nef ei ddiffodd. 'Rwy'n diolch am fy ngoichi,—it' lean Tywysog goleuni; Ac yn lan ti a'm chni Fwriid doeth, yn frawd i Ti. Blaenau Ffestiniog, GLYN MyFYR.
NODJADAU SENEDDOL. —
NODJADAU SENEDDOL. — [GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG.] YR IAITH GYMRAEG A'R CYNGHORAU SIROL. Gofynwyd amryw gwestiynau yn Nhy y Oyflredin mewn perthynas i hen ddeddfau o eiddo Harri VIII. yn gwahardd defnyddio yr iaith Gymraeg (mown llysoedd, corfforaethau dinesig, a chyrfi oyhoeddus eraill yn Nghymru. Mewn atebiad i gwestiwn gan Mr. T. E. Ellia dy- wedodd Mr. Smith os oedd rhai aelodau o'r Cyng- horau Sirol yn Nghymra yn dewis. gwneyi defnydd o'r iaith Gymraeg yn y Cynghorau Sirol fod gan- ddynt berffaith hawl i wneyd hyny heb ofni unrhyw goab nadirwy. Defnyddid y Ffrancaeg yn Lower Canada, yr Italaeg yn Malta, a gellid defnyddio y Gymraeg gan foneddigion yn Nghymru a fyddai yn dewis anerch eu cydawyddogion yn yr iaith hono. Gallent wneyd hyny yn ddiberygl, and nis gailai ef ymgymeryd &'r cyfrifoldeb fod gweithrediadau y Cynghorau Sirol i gael eu dwyn ymlae4 yn Gymraeg. Buasai hyny yn afrosymol. Dywedodd Mr. Oaborne Morgam. fod y statute yn anhawdd iawn ei deall, ac yn ddirym mewn ystyr ymarferol; a gofynodd a wnai y boneddwr gwir an- rhydeddua ddefnyddio mesurau i'w diddymu. Dywedodd Mr. W. H. Smith ei fod wedi gorch- ymyn ar fod i'r mater ga.l ei gyflwyno i'r Statute Law Revision Commission. Tybed a fydd hyn yn ddigon i foddloni y Cateceis- wyr prysur hyn ? ELUSENAU SIR DDINBYCH. Gofynodd Mr. Thomas Ellis i'r aelod dros ran- barth Penrith pa bryd y cyhoeddid adroddiad y dir- prwywyr cynorthwyol a apwyntiwyd i wneyd ym- chwiliad i elusenau sir Ddinbyob, a pha bryd y gwneid ymchwiliad cyfielyi) i elusenau siroedd eraill ? Dywedodd Mr. W. Lowther nad oedd un bwriad i gyhoeddi adroddiad ar un o'r elusenau hyd nes y byddai yr ymchwiliad i elusenau sir Ddinbych gael gwblhau. Byddai oryn draul ynglyn ag ymohwiliad o'r fath i elusenau siroedd eraill. Ymddengys nad oes gan y boneddwr prysur h'wn ddawn i ddim ond i ofyn cwestiynau, ao ymyraeth & materion nad ydynt yn perthyn dim iddo. AMCANGYFRIFON Y FYDDIN. Nos Lun, gwnaeth Mr. Stanhope fynegiad dyddor- ol iawn ar amcangyfrifon y fyddin. Mown perthyn- as ir amddiffynfeydd cartrefol, dywedodd y gellid mewn amser o berygl alw allan y militia. Yr arfer- iad cyffredin ydoedd rhoddi pymtheg niwrnod o ry- budd, ond mown amser o berygl gwirioneddol gellid eu galw ar lawer llai o rybudd. Yna gellid gaiw allan y reserves. Yr oedd profiad blaenorol yn dangos y gallai adran fawr o'r reserves "fod yn barod ymhen wyth awr a deugain, ac nid oedd ganddoef (Mr. Stanhope) un amheuaeth nad ellidcael y corff mawr o hohynfc yn barod mewn podwar diwrnod. Yr oedd yr holl arfau ag oedd yn angenrheidiol lddynt yn barod i unrhyw alwad ar unrhyw adeg. Heblaw hyny, mewn amser o wir berygl chwyddid yr hoil rengoedd hyn gan nifer mawr o ddynion a fyddai wedi bod yn y gwasanaeth. Mewn amser o berygl rhenid y galluoedd hyn i ddwy adran un i amddiffyn ein porthladdoedd a'r Hall y gorsafoedd glo drwy yr Ymer- odraetb. Yn y lie blaenaf, thoddid gorcbymyn i oaocl i lawr Submarine mimes. Y cam nesaf yd. oedd-darparu gwarchodwyr j'r porthladdoedd. Yr oedd y gwarchod-luoedd yn barod wedi eu trefnu. Byddaji cyfanrif y gwarchodwyr yn yr holl borth- laddoedd hyn yn ddim llai na 124,000. Y flwyddyn ddiweddaf gwnaed darpariaeth ar gyfer 7,000 o geffylau eleni yr oedd y nifer wedi ei ychwanegu i 14,000. Credai y byddai y Llywodraeth yn alluog i gael yr holl geffylau hyn yn y wlad. Yr oedd y fyddin yn bresenol (heb son am y galluoedd Indi- aidd) yn cynwys 157,282 o bob graddau. Dywedodd Arglwydd R. Churchill, yr hwn a gym- ercdd ran yn y ddadl a ,ddilynodd, fod y mynegiad yn dra, boddhaol. Mae yn berfiaith eglur," meddai Arglwydd Randolph, "fod y Swyddfa Ryfal wedi bod yn anarferol o ymdrechgar yn ystod y flwyddyn a basiodd i ddefnyddio a threfnu yr ad- noddau a'r galluoedd dan eu rheolaeth." Well done, Randolph Datganodd Syr George Trevelyan ei ofid na fuasai mwy o ystyriaeth wedi cael ei dalu i economy. Pe buasai y oynilwyr crintachlyd hyn yn cael eu ffordd ni fuasai genym na byddin na llynges o fath yn y byd. Pwy a ddywedodd. wrth y ceiliog gwynt gwleidycidol hwn ei fod yn un math o awdurdod ar faterion milwrol ? Ceir clywed llawer o faldordd eto gan Mr. Peace at-any-price a Mr. Economy. PENDEFIGION ANGHYMWYS. Dygodd Arglwydd Caernarfon fesur ymlaen yn Arglwyddi, amcan yr hwn ydyw anghymwyso pen. defigion, mewn amgylchiadau neillduol," i gym- eryd rhan yn ngweithrediadau y Ty; a darllenwyd ef y waith gyntaf. 'Does un ddadl nad oes rhai, "defaid duon yn y Siamber oreuredig, ond y mae llawer mwy o angen mesur o'r fath i "Dyy Glebar," fel y galwai rhywua Dy y Cyffredin. Mae amryw o aelodau yn cael eu goddef yn y Ty hwnw wedi bod yn ngharchar am droseddu y gyfraith Dechreuer ohwynu yn "Nhy y Glebar." DR. BARR AR DDISGYBLAETH MEWN CARCHARAU. Gofynodd Syr William Harcourt liaws o gwestiyn- au i'r Ysgrifenydd (jartrefol ddydd Mawrth mewn perthynas i'r llythyr a anfonodd Dr. Barr i'r Times, yn oyferbynu y driniaeth mewn caroharau yn y wlad hon a'r Iwerddon. Dywedodd Mr. MatthewB fod y llythyr dan sylw wedi ei gyhoeddi heb yn wybod iddo ef. Yr oedd y rheol yn erbyn cyhoeddi materion oyf- riniol gan un yn dal swydd dan y Llywodraeth i'w chymhwyEO yn unig at y cyfeiriadau yn y llythyr mewn perthynas i garobarau yn y wlad hon, ao yr oedd af wedi gorchyrftan i Dr. Borr yn y dyfodol i dalu sylw i'r rheol hono. Dywedodd Syr William Harcourt y gwnai alw sylw pellach at ymddygiad Dr. Barr, ao at ei anghymwysder i fod yn ngwasanaeth y Llywodr- aeth. Mae y gwirionedd a gyhoeddodd Dr. Barr yn ei lythyr i'r Times fel tan ar gig noeth yr Ysgarwyr, a dyna yr achos o'r holl gynwrf. Dyma y dynion Bydd yn baldorddi yn dragywyddol am ryddid: y gormeswyr gwaethaf dan haul ydynt a phe b'ai hyny yn eu gallu rhoddent derfyn ar ryddid llafar, rhyddid y wasg, Be hyd yn nod rhyddid barn i bwy bynag a feiddiai wahaniaethu oddiwrthynt. TRINIAETH 11 CARCHARORION POLITIC- AIDD." Nos Fercher, yn Nhy y Cyffredin, cynygiodd Mr. John O'Connor ail ddarlleniad mesur, amcan yr hwn ydoedd sicrhau triniaeth ysgafnach i garchar- orion politicaidd yn yr Iweyddon-y rhai hyny a etwg-farnwyd dan Act y Troseddau. Cefnogwyd y mesur gan Syr William Harcourt, yr hwn a wadodd nad oedd dim a wnelai y Prif Ys- grifenydd & rheoleiddiad y carcharau; a dadleuai nas gellid ymddiried yn nhegwch yr ynadon. Gwnaeth yr Hsrcwlff Gladstona,idd ymosodiad ffyrnig ar Dr. Barr. Dywedodd Mr. T. W, Russell fod yr aelodau Gwyddelig wedi dwyn y Mesur hwn ymlaen i'r diben o amddiffyn eu hunain. Rhoddodd 38 o engreifftiau o ymosodiadau personol, terfysgoedd, ac hyd yn nod lloftuddiaethau, oedd wedi digwydd mewn canlyniad i areithiau a, draddodasid gan y pedwar aolod Gwyddelig oedd yn awr yn ngharchar. Dywedodd Mr. Russell, ynghanol chwerthiniad y Ty, fod y Parnelliaid yn awyddus i droi y catcharau Gwyddelig yn fa.th o hydropathic establishments" pe damweiniai iddynt fyned yno eu hunain. Cynyg- iodd welliant yn condemnio y Mesur. Siarododd Mr. Balfour yn gryf yn erbyn yr ail ddarlleniad y Mesur. Politics, meddai, ac nid dynoliaeth oedd wrth wraidd y cynwrf. Yr oedd Mr. Gladstone yn bresenol, ond ni chy- merodd ran na chyfran yn y ddadl. Siaradodd Mr. John Morley, Mr. Howorth, ac a.mryw eraill, dros ao yn erbyn yr ail ddarlleniad, a rhanwyd y Ty, pryd y cafwyd- Dros yr ail ddarlleniad. 193 Yn erbyn 259 Mwyafrif yn erbyn 66 TY YR ARGLWYDDI. Dydd Iau, yn Nhy yr Arglwyddi, cymerodd yr Arglwydd Ganghellydd ei eisteddle ar y sach wlan am chwarter wedi pedwar o'r gloch, pryd y cymer- odd y Gwir Barchedig Dr. Stubbs y llw arei symud- iad o Esgobaoth Caerlleon i Esgobaeth Rhydychain. CWESTIYNAU GWYDDELIG. Gofynwyd path wmhredd o gwestiynau G wyddelig yn Nhy y Oyffredin yn ystod yr wythnos, yr hyn a gymerodd i fyny lawcr iawn o amser y Ty. Dydd lau, gofynodd Mr. Craig i Brif Arglwydd y Trysorlys a wllfi y Llywodraeth gydsynio i benodi pwyllgor detholedig i wneyd ymchwiliad i'r driniaeth a dder- byniai personau a garcharwyd dan Gyfraith Tros- eddau 1887. Dywedodd Mr. W. H. Smith mewn atebiad, nad oedd y Llywodraeth yn cradu y byddai pwyllgor o Dy y Cyffredin, yr hwn oedd yn gynwysedig o bleid- wyr politicaidd, yn llys boddhaol i benderfynu cwestiynau mewn perthynas i'r rhai yr oedd cymaint .o ddadleu. Dywedodd Mr. Balfour hefyd nas gallai ef roddi ei gydsyniad i apwyntiad pwyllgor detholedig, nac un- rhyw lys arall mewn perthynas i driniaeth Mr. W. O'Brien tra yn ngharchar. Arweiniodd hyn i ddadl ffyrnig; a rhoddodd Mr. Gladstone rybudd y byddai iddo ofyn a wnai y Llyw- odraeth gynyg unrhyw ddull arall i ymwneyd a'r mater, gan eu bod yn nacau apwyntio pwyllgor. ■ Ceir clywed ychwaneg am hyn. Look out for squalls. TIR ARGLWYDDI GWYDDELIG A'R AR- DRETH-DAL DEGYMOL. Hysbysodd Mr. Goschen Mr. P. O'Brien nad oedd gostyngiad wedi ei wneyd yn yr ardreth-dal degymol yn yr Iwerddon mewn amgylchiadau yn y rhai yr oedd y Llys Tirol wedi gostwngyr ardrethoedd. Hwn oedd y tal cyntaf ar dir, ac nis gallai y Llywodraeth ganiatau iddo gael ei ychwanegu neu ei leihau gyda'r ardreth. Byddai yn burion i'r Dadgysylltwyr penboeth yma gofio hyn. Faint gwell a fyddai yr amaethwyr yfory nesaf ? Dim cymaint a dimai'r delyn. Gwyr y botynau gleision-swyddogion y Llywodraeth-a fyddai yn ei gasglu wed'yn ac ofer fyddai iddynt ddisgwyl am ffyrling o ostyngiad. Mae yn achos o syndod fod amaethwyr Cymra mor wirion 4 chymeryd eu harwain gan gynhyrfwyr politic- aidd uohelgeisiol a diegwyddor. Byddant yn mell- dithio y dydd ar ol hyn y darftt iddynt ymrestru dan y Faner Goch o Ddinbych. -1 AMCANGYFRIFON Y LLYNGES A'R FYDDIN. Bu Ty y Cyffredin yn eistedd ar byd yr wythnos mewn pwyllgor ar amcan-gyfrifon y Llynges a'r Fyddin, a phaaiwyd amryw bleidebau arianol, ond rhaid rhoi pen ami yn y fan yma;