Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
[No title]
Y BARNWR GRANTHAM A'R CYMRY. Paham y mae Barnwyr ei Mawrhydi mor awyddus i brofi fod y Cymry yn genedl o anudon- wyr ? Y mae y boneddigion yma, I droion bellach, wedi eymeryd arnybt i ddarllen gwors i ni fel caned!.yn y ejiei*- j iad hwn, a Mr. Justice Grantham, wrth anercb yr uchel-reithwyr yn Nghaerdydd yr wythnos ddiweddaf, oedd yr olaf i ddweyd y drefn ar y pwnc. Nid wyf yn creda mewn gwyngalchu llygredd, hyd yn nod mewn Cymro, ond credaf yn llawn mor ddiysgog fod y barnwyr hyn yn Ilunio bai Ile ni bydd." Yn ei anerchiad gorfu i'r Barnwr Grantham gyfaddef fod y Dywysogaetb yn gydmarol rydd oddiwrth droseddau cyffredin, ond," yebwanegai, nid gwiw cau ein llygaid ar y ffaitb fod y tresedd 0 anudoniaeth yn ffynu i raddau helaeth." Y mae y cyhuddiad hwn wedi ei adrodd a'i ail-adrodd nes y mae llawer 0 bobl wedi myned i'w gredn o'r diwedd. O'm rhan fy hun, tybiaf nad yw y Cymry yn bynotach na'r Saeson yn y peth hwn. Darllened unrhyw un bapyrau Llundain, yn enwedig adroddiadaa y divorcefiourts, a cha wel'd morgyffrediny mae hyd yn nod y Sais geirwir yn euog o'r trosedd hwn. o Nid wyf yn ewyllysio cyfeirio at y croesdyngu ofaadwy sydd yn cymeryd lie yn achos y Times a'r aelodau Gwyddelig, ond yn sicr y mae mwy 0 anudoniaeth wedi ei gyflawni yn yr acbos hwn nag a geir yn N gbymru mewn blwyddyn. Eto, erys yn ddyledswydd ar athrawon ein cene'dl i gymGryd mantais o eiriau chwerwon Mr. Justice Grantham er dwyn i sylw y bobl bwysigrwydd geirwiredd. Y mae yn rhy wir fod rhai wedi es- geulusoeu dyledswydd yn y cyfeiriad hwn, ie, yn hytracb yr wyf wedi clywed eyhuddiadau fod ar- weinwyr proffeseaig y bobl yn euog o demtio eu dilynwyr i ddweyd anwiredd. Nid trwy anog yr etholwyr i add aw eu pleidloiciau i ymgeisydd neillduol a'a rhoddi i ymgeisydd arall y mae dwyn y bobl i barchu y gwirionedd. Y mae yr ben ddiareb ynghylch hau y gwynt a medi y cor- wynt eto mewn grym. -+-
NODIADAU WYTHNOSOL GAN IDRIS.…
NODIADAU WYTHNOSOL GAN IDRIS. ARGLWIDD ABERDAR A'R "TYST." Crybwyllais yr wythnos cJdi. weddaf fod y Western Mail wedi gwneyd ymchwiliad i weitbrediad Mesnr Can y Tafarnau ar y Sol, gydft'r canlyniad fod Arglwydd Aberdar wedi cyfnewid ei feddwl parthed aefn- ycldic,ld,ab a gwerth y mesur hwn. Y mae troed- igaeth ei arglwyddiaeth wedi peri i'r Tijsi ffronni yn ar&thr, ac mewn ertbygl arweiniol y mae morgan yr Annibynwyr yn datgan ei farn fel y can- -lyn -Mae Argl;vydd Aberdar eto yn fyw, ae raid ymddengys ei fod ya cymeryd -addysg oddi- wrth ei gamgymeriadau blaenorol. Dyl&i Cymru Irellach ddeall nad yw ei nrglwyddiaeih yn awdur- -dod ar odid i gwestiivn ynglyn >å.'n gwlad, na'i 'arweiniad yn ddiogel mewn materion Heol na chyffredinol. Drwg enym ein bod dan orfod i ysgrifenu fel hyn ao un y mae ynddo lawer o ragoriaethau, ac i'r ihwn y mae genym lawer o barch; ond er wedi ei eni a'i fagu yn Ngbymru, a tbreulio ei oes ynddi, uid yw oto yn deall ein gwlad a'i hangenion. Mae yn fynych yn eyfeil. iorni yn fawr am bersonau yn gystal ag am fesurau ac fel llawer o ddynion yn ei gylch, ei berygl mawrydyw ymddiried yu ei ddeall ei hun. Dyrysodd y Maid Ryddfrydig yn Aberdar yn eth- oliad y Cyngor SiTol, a thybiodd ei hun yn gYlll- wys i gyfaryyddo yr etholwyr pwy i'w dde-vie yn ymgeisydd. Efe ceda y cyntaf i roddi cyhoedd- uwydd i gyhuddiad yr Esgobion fod rhyw liawsl mawr o weinidogiea yr Yameillduwyr yn euro bob blwyddyn wrth borth yr Eglwys am dder- byniad; ond er gwasgu arno am brawf dros ei haeriad, ni roddodd ef. Gwasgwyd yr Esgdbica i'r gongl yn deg, end yr oeddynt yn rhyw uchel- j fryd i gydnabod eu camgymeriad, ac ni bu Arg- Iwydd Aberdar yn ddigon mawrfoydig a bonedcl- igaidd i gydnabod ei fod wedi ei gamarwain. Mae ei ymddygiad yn yr amgylchiad hwnw wedi peri i ni golli ein hyder ynddo fel dyn tag a di- bartiaeth, ae wedi peri i ni amhen ei fod yn un o lawer o'i ddosbarih, y rhai y mae yn dda gan- ddynt gael rhywbeth a dybir ganddynt yn ae- ffafriol i Gymra," '$
[No title]
AWDURDOD EI ARGLWYDD. IAETH. Ni pberthyn i mi amddiffyn Arglwydd Aberdar yn ngwyneb y eyhuddiadau hyn. Sicr yw, fodd bynag, fod y Tyst yn ei ragfarn ddallbleidiol wedi myned bellder o ffordd y tuhwnt i derfynau gwirionedd. Beth bynag ddywefiir am Arglwydd Aberdar yn Ngbymru, y mae ya fifaitb bwysig nad oes nemawr <3ymro y telir parek mor drwyadl idde yn Lloegr. Ystyrir ei arglwyddiaeth gan ein brodyr Seisnig iel un o'r awdurdodau uchaf ar bynciau Cymreig, Ae ofer ydyw gwaith y Tyst yn ceisio darostwng y fath ddyn oblegid ei fod yn methu cydweled ag ef ar y pwnc o Gau y Tafarnau ar y SuL Gyda golwg ar yr hen ystori yngbylch yr encilwyr Ym. neillduol nid gwiw myned yn ddifrifol ar ei hol ya awr. Dywedodd Arglwydd Aberd&r fod H lliaws mawr o weinidogion yr Ymneillduwyr yn curo bob blwyddyn wrth borth yr Eglwya am dderbyuiad." Ffromodd y Tyst y pryd hwnw oblegid fod yr Esgobion yn gwrthod rhoddi enwau y gweinidogion Beth pe b'ai yr enwau wedi eu rhoddi, ni fyddai ond boycottiaeth ac esgymun- dod yn aros y cyfryw. Nid ydym ni heb wybod dichelli.on yr Ymneillduwyr. Mewn perthynas i etholiad y Cyngor Sirol, ni wnaeth Arglwydd Aberdar ond yr un peth ag a wnaoth Arglwydd Rosebery yn Llundain. Ond y mae Arglwydd Bosebery yn ffafr-ddyn y Tyst, a Gwyn y gwel y frin ei chyw." ———«.
[No title]
DEDDF CAU Y TAFARNAU AR Y SUL. Y mae yr ymchwiiiad y cyfeir- iwyd ato uchod ac adroddiad gohebydd arbenig y Western Mail yn sicr yn hawlio sylw manylaf arweinwyr y genedl. Y mae chwech mlynedd wedi myned heibio oddiar y daeth mesur yr aelod anrhydeddus dros sir Fflint yn ddeddf, ac i unrhyw ddyn rhesymol dylai y fath gyfnod fod yn ddigonol er profi ei werth a'i ddefnyddioldeb. Os yw ffigyrau ac haeriadau gohebydd y Mail yn iawn, tybiaf nad oes modd gwadu fod y ddeddf, mor belled ag a wnelo & threfydd mawrion ac & chymoedd poblogaidd Deheudir Cymru, yn fethiant hollol. Dywed pleidwyr y ddeddf na ddylid ei cbondemnio oblegid fod rhan neillduol o'r wlad hab dderbyn lies oddiwrthi, eithr y dylid ei barnu oddiar dir mwy cyffredinol. A ydyw Cymrn 0 ben bwy gilydd wedi derbyn lies oddiwrth Ddeddf Cau y Tafarnau ar y Sal ? Y mae y pleidiau gwrth- gyferbyniol yn llawn mor bendant y naill a'r Hall. Carwn ddweyd mai nid cwestiwn politic- aidd yw hwn, a cham dybryd &'n gwlad fyddai ei ddaroBtwng i fod yn asgwrn cynen bartiol. Fell- ach fyfch y byddwn oddiwrth y gwirionedd wrth wneyd ymoKodiadau bustlaidd ar bersonau unig- ol. Dylid bod yn onest a diragfarn mewn achos fel hwn uwchlaw dim, ac os yw arweinwyr erefyddol y bobl, yn eu gelyn- iaeth tuag at bersonau iieti blaid, yn benderfynol o sefyll ar ffordd moeseldeb a eobrwydd, bydded iddynt gofio en bod yn ymgymeryd a chyfrifoldeb ofoadwy. Fel yr awgryinais eisoes, credaf fed dad niddiada y Mail yn ddiddadl yn profi meth- iant y ddeddf mewn rhan neillduol o'r wlad, ond beth am siroedd ae ardaloedd eraill ? Os ceir fed y ddeddf yn acliosi cynydd meddwdod dileir y ddeddf, and tuag a.t gael o hyd i broficm o'i methiant dylai y llys ymchwiliadol feddianu ym- ddiried y gwahanel bleidiau. Y mae Comisiwn Breiniol wedi eistedd ar lawer o faterion llai pwyoig na dylanwad moosola sobreiddiol y ddeddf lion.
[No title]
MASNACH Y GLO. Bymthegnos yn ol sylwais ar y ewmwl du oedd yn hongian uwch- ben y Fasnacb Lo yn Nghymru. Ofnid yn ddiau y byddai i 8trikeo natur bwysig gvmeryd lie,- ac y mae y newydd fod y meistri a'r gweithwyr wedi dyfod i gymod wedi llanw miloedd o dai & llawenydd. I fyny y mae gogwydd y prisiau wedi bod er's amryw fisoedd, ond cwynai y glowyr oherwydd arafwch y meistri yn codi eu cyflogau. Daeth un neu ddau 0 gwestiynau eraill i'r ddadl, sef angencyfaewidiad yn y sliding scale pa un a oedd dydd gwyl i fod bob mis yn y dyfodol fel yD y gorphenol a'i peidio, &c. Dydd Llun di- weddaf cyfarfyddodd y meiBtri a cbynrychiolwyr y glowyr, a pbenderfynwyd amodau heddweh. Y mae y rhybuddion a roddwyd yn y gwahanol lofeydd yn cael eu tynu yn ol, ac y mae y gweith- wyr i barhau yn eu gorchwylion 0 dan addewid fod y sliding scale i gael ysty-riaeth. Cytnnwyd befyd fod y llylrau yn cael eu arboli (audited) ar y Slain o'r mis hwn, ac fod cyflogau y gweith- wyr yn cael eu codi yn unol a'r arholiad hwn ar y cyntaf 0 Fai. Yn y cyfamser y mas y gweith- wyr i dderbyn 7 y cant 0 godiad, ac ar y cyntaf o Fai bydd codiad pellach o 2J y cant, pa un a fydd canlyniad yr arholiad yn ffafriol a'i peidio, Dyma'r nowydd masnachol goreu a glywais er's llawer dydd, ac y mae y gweithwyr wedi gwneyd yn gall wrth gytuno &'u meistriaid. Cader Idrie, Boreu dydd Mercber.
iiciuyDiHon (ffgSietimol.…
iiciuyDiHon (ffgSietimol. MABWOLAETH SYDYN YN NHREFFYNON.—Dydd Sadwrn eynhaliwyd trengholiad yn Nhreftynon ar gorph Richard Price, 55 mlwydd oed, garddwr yn Greenfield Hall. Yr oedd y trancedig yn siarad yn y ty gwydr gyda'r cerbydwr pan y syrthiodd yn wysg ei gefn i hamper oedd o'r tu ol iddo. Cododd y cerbydwr ef i fyny, ac anfonwyd am feddyg, ond yr oedd y truan wedi marw cyn ei ddyfodiad. Dycbwelwyd rheitblarn o farw- olaeth oddiwrth achosion naturiol." GWEITHFEYDD LLECHI YSGBIFENU GOGLEDD CYMRU.—Cynhaliwyd cyfarfod arall ddydd Mer- cher diweddaf, yn Mangor, o berchenogion gweithfeydd llechi ysgrifenu yn sirodd Mon, Arfon, a Meirion, 0 berthynas i'r syndicate, a fwriedir ei ffurfio i brynu i fyny y gweithfaoudd. Cafwyd ymdrafodaeth helaeth ar y mater, ac yr oedd teimlad y cyfarfod yn ffafr i'r perchenogion gymeryd rhan o'r gwerfch a roddid ar yr eiddo mewn cyfrandxlaiiadau. Apwyntiwyd pwyllgor o dri i gario y trefniadau allan. dd i gario y trefniadau allan. CYFLAFAN ERCHYLL YN YR ALBAN.—Dywed- wyd wrth John Tarbert, dyn ieuanc a wasan- aethai fel nyddwr i'r Mri. Ballarrtine, yn Walker- burn, ger Galashiels, gan yr arolygydd, John Hislop, am gasglu darnau rhyddion o edafedd oedd o'i gwmpas, ac ar ei waith yn gwrthod cafodd rybudd i ymadael. Bygythiodd hollti pen Hislop cyn ymadael. Yn fuan wed'yn aetb Tarbert ar ol Hislop a tharawodd ef amryw weithiau yn ei ben a rhyw erfyn. Gan gredu ei fod wedi ei ladd rhedodd ymaith at reilffordd oedd gerllaw, a chan fyned o fiaen cerbydres gyflym oedd yn prysuro heibio, rboddodd ei wddf ar un o'r rheiliau, a dadgysylltwyd ei ben ymaith oddi- wrth ei gorph. Mae gobaith am adferiad Hislop. GWAS FFERM YN GAEL EI GYHUDDO 0 DY-DORIAD. -Dydd Mawrth, cynhaliwyd llys arbenig yn Bettws-y-Coed, i wrando cyhuddiad a dori i lofft- ystabl yn Hendre Isaf, ger Pentrefoelas, a ddyg- wyd yn erbyn Jonathan Edwards, Penucha'rllan, Cerrigydruidion, ond yn ddiweddar gwas yn y Llwynau, Capel Garmon. Y peth a ladratawyd oeddynt p&r 0 lodrau, gwasgod ddu, muffler, stud aur, a phar o esgidiau. Yr cedd perchen. ogion y pethau oedd ar goll yn eu hadnabod fel eu heiddo hwy. Pan gyhuddwyd ef, dywedodd y carcharor y dywedai y gwir 08 maddeuid iddo, a dywedai lie y ceid y pethau eraill. Dywedodd hefyd fod yn ddrwg ganddo am yr hyn a wnaethai —Trosglwyddwyd ef i sefyll ei brawf yn Mrawdlys Chwarterol nesaf Caernarfon. CYNGOB SIROL Mo--q.-Dydd Iau diweddaf yn Llangefni, cyfarfyddodd cyd-bwyllgor 0 ynadon ac aelodau o'r Cyngor, i drefnu ar gyfer tros- glwyddo gwaith y Frawdlys i'r Cyngor. Dewis- wyd Mr. R. Davies (Arglwydd Raglaw. y Sir), i gymeryd y gadair. Penderfynwyd ar fod i bwyll. gor yr heddgeidwaid gael ei wneyd i fyny 0 24 0 aelodau—deuddeg 0 ba rai a benodii gan y frawdlys, a deuddeg gan y eyogor. Awgrymai y pwyllgor hefyd y priodoldeb i'r cyngor ddewis eu deuddeg yn eu cyfarfod ar yr 21ain cyfisol, ac i'r frawdlys ddewis eu rhai yn y cyfarfod gohiriedig ar yr 22ain cyfisol. Wrth gwrs, nid ydyw yr hyn a wnaed yn dertynol, ond fel aw.^rymiadau i'r Cyngor.—Trwy ryw amryfusedd hysbyswyd yn In y yr adroddiad 0 weithrediadau y pwyllgor a benod- wyd i ystyried taliadau y rheilffordd, mai y Cynghorwr R. Hughes oedd y cadeirydd, ac hefyd 0 a wnaeth y dafien tra mai enw y Cynghorwr Lewis Hughes ddylasai fod yn y naill a'r Hall. j PUM' MLYNEDD o BENYDWASANAETH,—Catod Ephraim Hindley, 36 mlwydd oed, glowr, ei gy- buddo yn Mrawdlys Llynlleifiad, ddydd Iau, 6" geisio llofruddio Jane Gore, yn Tyldesley, yn Rbagfyr diweddaf. Ymddengys i'r ddynes ieoanc wrtbod cymeryd sylw o'i lythyrau ati, yna ceisiodd dori ei gwddf gydag ellyn, ac yna danio llawddryll ati. Caed ef yn euog, a dedfrydwyd ef i bum' mlynedd 0 benydwasanaeth. BEADWRIAETH TN YR INDIA.—Y dydd o'r blaen achoewyd cyffro anarferol yn yr India gan yr hysbysrwydd fod bradwriaeth wedi ei ddarganfod yn Nhalaeth Cashmere yn erbyn y Llywodraeth Indiaidd. Daeth i'r golwg drwy lythyrau oddi- wrth Brif Weinidog diweddar y dalaeth. Ymysg pethau eraill yr oedd cynllun ar droed gan y Ma- harajah i wenwyno y Trafnoddwr Prydeinig. Yn ngwyneb y darganfyddiad, y mae y Maharajah wedi cynyg ymddiswyddo. GWAITH DWFR LLANWDDYN.-Parhau i lenwi y mae y llyn, a hyny yn y modd mwyaf ffafriol i Gorphoraeth Lerpwl. Cynhaliwyd pwyllgor ar- benig yr wythnos ddiweddaf, ymha un yr ymdrin- iwyd a gwahanol faterion yn dal perthynas &'r gwaith. Hysbyswyd yn y pwyllgor fod cyfanswm y dwfr yn y llyn ar hyn 0 bryd yn 5,479,400,000 o alwyni, yr hyn a dderbyniwyd gyda graddau helaeth 0 lawenydd. Amlygwyd syndod yn y cyfarfod fod y llyn wedi llenwi cymaint mor fnan. MARWOLAETH PLENTYN YN LLANRWST.—Dydd Gwener cynhaliwyd trengboliad ar gorph Eliza. beth Alice Owen, 6 mlwydd oed, geneth Mr, Owen Owen, Mission House, Scotland Street, Llanrwst. NosFeraher yr oedd yr eneth yn chwareu gerllaw careg drom a orphwysai ar bared gefail oedd yn agos i'w thy, pryd y syrthiodd y gareg ar ei chefn. Canfyddwyd hi yn gorwedd c. dan y gareg gan gymydoges o'r enw Mrs. Hughes, yr hon a waeddodd nes tynu ei gwr i'r lie, yr hwn, drwy fawr ymdrecb, a lwyddodd i godi y gareg, & fchymvyd yr eneth odditani, one? bu farw yn fuan ar ol ei rhyddhau. Dychwelwyd rheitbfarn 0" Farwolaeth ddamweiniol." DAMWEINIAU GLOFAOL DYCHRYNLLYD YN NGHYMRU.—Yn ychwanegol at y ddamwain ddi- frifol a ddigwyddodd yn nglofa Pentwll, di- gwyddodd damwain lofaol, brydnawn dydd Mercher, yn mhwll Hafod y Bwell: yn ymyl Johnstown, Rhiwabon, gan achosi marwolaeth dyn ieuanc o'r enw Georgo Davies, yr hwn oedd yn signalman yn y lofa. Nid oedd y trancedig ddim ond 17 mlwydd oed. Tra yn gostwng 16 o ddynion i lawr i bwll yn Nyffryn Bhondda dydd Iau, collodd y peirianwr lywodraeth ar y peiriant, a diagynodd y cage gyda chyflymder dychrynllyd, nes ei falurio yn ulw. Niweidiwyd dau ddyn yn echrys, ac ofnir am danynt. Cafodd chwech eraill hefyd 6U niweidio. LLOSGI CARCHARDY GAN GARCHABOR.—Y mae y newyddion diweddaraf a ddaeth i law yn hysbysu. fod hen garchardy Cassell, Berlin, wedi ei lwyr losgi. Ymysg y carcharorion yr oedd hen dro- seddwr, 0 dan ofal yr hwn yr oedd glanhau a geleuo y lampau. Un diwrnod, tra wrth y gwaith hwn, rhoddodd gic i un o'r llestri a ddalient yr olew, fel y rhedodd ar hyd lawr yr ystafell. Rhoddodd dan ar yr olew, fel yr aeth yr ystafell yn goelcertb yn y fan. Tra yn y sefyllfa hon, llosgwyd y carcharor yn arswydus, a gwaith caled a gafwyd i'w achub rhag myned yn aberth i'r fflamau. Yr oedd nifer mawr o droseddwyr yn y oarchar ar y pryd, pa rai a gymerwyd ymaith o dan ofal nifer o filwyr i'r Barracks, lIe y maent yn aros hyn yn byn. DINYSTRIO CERBYDRES GAN LADRON.—Y mae un o'r gweithredoedd mwyaf annynol wedi cym- eryd lIe yn Odessa rai o'r dyddian diweddaf. Yn ol brysneges a ddanfonodd gohebydd 0 Vienna, mae'n ymddangos fod haid o ladron wedi dinystr- io llinell reilffordd y Transcaspian mewn twnel. Fel yr oedd y gerbydres yn chwyrnellu ymlaen i'r twnel, aeih y peiriant gyda dau.ar-bymtheg o'r cerbydau oddiar y Hineli, a dinystriwyd hwy yn hollol. Lladdwyd oddeutu haner cant o ber- sonau yn y fan, a derbyniodd lliaws eraill niweid- iau trymion. Gwnaed y weithred anfad gyda'r bwriad 0 ysbeilio'r teithwyi. Er hyn oil, diangodd rhai o'r teithwyr yn wyrthiol, a gwnaethant eu goreu i sicrhau rhai o'r lladron, a llwyddasant i'w trosglwyddo drosodd i'r awdurdodau. Diangodd y gweddill, ond hyderir y dygir y fileiniaid i'r ddalfa yn fuan.