Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

LLITH O'R BW1HYN GWLEDIG

anuBlBfott.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

anuBlBfott. "r'-t' Bu Ymherawdwr Germani yn ciniawa gyda'r Tywysog Bismarc yr wythnoB ddiweddaf, yr hyn a ddengys gyfeillgBrvvch neillduol rhwng y ddau. Dathlwyd priqdas Ymherawdwr China yn Pekin ddydd Mawrth diweddaf gyda rhwysg mawr. Ar ol bod yn cuddio o afael yr heddgeidwaid am rai dyddiau gwnaeth y Dr. Tanner, aelod Parnellaidd, ei ymddangosiad yn Nhy y Cyffredin nos Wener, a chafpdd groesaw gan y Parnelliaid. -Ar ohiriad y Ty aeth nifer o aelodau Gladston- aidd a Pharnellaidd yn orymdaith gydag ef i'r Westminster Hotel, ac yn fuan wedi hyny cymer- wyd ef i'r ddalfa. Dydd Gwener diweddaf cyhuddwyd tri 0 ddynion oedd yn pgwasanaeth y Mri. Cramer and Co. 0 fod wedi lladr&ta drwy dwyll 21 0 pianofortes. Traddodwyd hwynt i sefyll eu prawf. Dathlwyd 73ain pen blwydd y Pab Leo XIII. yn Rhufain ddydd Sadwrn. Yn Mrawdlys Caernarfon yr wythnos ddi- weddaf bu nifer o achosion pwysig o flaen y Barnwr Cave, yr hwn a barhaodd ei eisteddiad hyd ddydd Gwener. Cynhaliwyd Brawdlys Mon ddydd Iau, pryd y gwasanaethodd Mr. Higgins, Q.C., fel dirprwywr yn absenoldeb y barnwr. Darganfyddwyd corif boneddwr, yr hwn a dybir ydyw y Milwriad A. B. Clare, yn yr afon Tafwys, ger Deptford, yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd ar goll er's dau fie. Dydd Mawrth, yr wythnos ddiweddaf, caf- wyd Mr. Fletcher, perchenog melin bapyr 0 Bolton, mewn cerbyd yn Bolton wedi ei ladd a'i ysbeilio o'i arian. Yr oedd gwr ieuanc a gyd- deithiai gydag ef wedi diflanu. Yn nghyfarfod pymthegnosol y Cyngrhair Cenedlaethol yn Dublin ddydd Mawrth, hysbys- wyd fod £2,533 wedi cael eu derbyn, X2,000 0 honynt o'r America, a X300 o Queensland. Y mae ugain o ddynion a gwragedd, ac yn eu plith y Tad McFadden, yn awr yn y ddalfa ar y cyhuddiad 0 fod yn gysylltiol & llofruddiaeth yr arolygvdd Martin yn Gweedore. Y mae Mr. Baert, yr hwn a fu yn gwasan- aethu fel ysgritenydd i Tipoo Tib, wedi cyraedd i Brussells, a dywed y gellir disgwyl clywed oddi- wrth Mr. Stanley yn fuan. Tybia fod Mr. Stanley yn amcanu cymeryd Khartoum, ac ad- enill y Soudan oddiar y Mahdi. Cafodd Mr. W. H. Gladstone ei daro yn wael yn sydyn, ddydd Gwener, a dywedir fod perygl am dano. Y mae yn Mhenarlag. NOB Fercher, yr oedd John Aughton, g6f, yn gweithio gyda Nicholas Wright, Kirkdale, yn cwyno ei fod yn wael pan gyda'i waitb, a bu farw yn sydyn wed'yn cyn y gellid cael cymorth meddygol. Yr oedd yn 49 mlwydd oed; a bernir mai curiad y galon oedd yr achos o'i farwolaeth.

Family Notices

Advertising

GLYNCEIRIOG.

TALSARNAU.

iiflaicfmatioctJt!.

[No title]

GWRECSAM.