Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

LLITH O'R BW1HYN GWLEDIG

News
Cite
Share

LLITH O'R BW1HYN GWLEDIG [GAN HEN DOMOS. ] Y mae Hen Domos, di'r help, wedi cael difyr- wch mawr wrth wrando yr amenau clerigol ar ol ei gynghorion ymarferol i Esgob newydd Llan- elwy. Y mae rhai wedi dyfod gyda'r awelon o eithafoedd y gogledd. Y mae y clerigwyr, fel rheol, yn ddynion llwfr iawn wrth son am esgobion ac urddasolion Eglwysig. Y maent fel pe byddent wedi cael eu safnrwymo a gefynau mudandod. Nid ydynt yn credu yn anffaeledig- rwydd y bobl sydd yn arolygwyr arnynt, ac y maent yn fynych ymhell o fod yn feddianol ar barch a chariad gwirioneddol tuag atynt. Mewn teimladau siomedig ac aflonydd y maent yn chwyrnu yn ddistaw yn eu plwyfi, ac nid oes ganddynt byth air da i esgob, deon, archddiacon, na guin clatsh I" Y maent yn llawenhau o eigion eu calonau wrth weled rhywrai dan gysgod fifugenwau yn ymosod ar y personau urddasol hyn yn y newyddiaduron. Weithiau clywir hwy yn anog gohebwyr i ymosod arnynt, ond gofal- ant guddio eu teimladau eu hunain o fewn cyich cyfrinachol eu cydnabod. Mewn cyfarfodydd cyhoeddus hwynthwy yw y rhai blaenaf i ddangos eu brwdfrydedd dros bethau a phersonau a gondemniant yn ddir- gel. Y mae hyn yn anghyson ac annheg. Yr wythnos nesaf y mae Hen Domos, di'r help, yn bwriadu rhoddi ychydig 0 gynghorion ym- arferol i glerigwyr Esgobaeth Llanelwy ar eu dyledswyddan yn gyffredinol, ac yn neillduol yn eu eysylltiad &'r esgob newydd. Peidiwch chwi a meddwl, barchedigion anwyl, eich bod chwi oil yn berffaith, ac mai rhyw fwch diangol" i ddwyn eich pechodau i'r anialwch yw yr esgob i fod. Yr wyf fi am chwareu teg all round. Byddaf fi yn disgwyl eich amenau chwi yr wythnos nesaf yn llawn mor wresog ag ar ol y cynghorion di- weddaf. Rhaid myn'd ar ol yr asyn bach ar drot wyllt.

anuBlBfott.

Family Notices

Advertising

GLYNCEIRIOG.

TALSARNAU.

iiflaicfmatioctJt!.

[No title]

GWRECSAM.