Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

[No title]

[No title]

Advertising

DEONIAETH WLADOL LLANBEDR.

CENHADAETH YN SIR FRYCHEINIOG.

EGLWYS GYMREIG CAERDYDD.

! DYDD GWYL DEvVI YN LLANDUDNO.

News
Cite
Share

DYDD GWYL DEvVI YN LLAN- DUDNO. Mae yn anhawdd deall beth yw'r cysylltiad rhwDg y Geninen a Dswi Sant, na'r priodoldeb o'i gwisgo ar Ddydd Gwyl Dewi. Ac y mae yn anhawddach fyth dyfalu pa lea a ddeilliaw oddi- wrth y wag-ymffrost boblogaidd yn y ciniawau blynyddol a gynhelir ar gorn yr wyl. Eled y geninen i'r cawl ac ymborthed y baldorddwyr gwladgarol (?) yma arno, ac yna, ond odid ceir llai o'r ynfvdrwydd—ffrwyth ysbrydoliaeth gan fwyaf y botel a'r cawe-bobi, sydd fel hunlle ar y wlad; a chaiff coffadwriaeth fendigedig yr hen Sant duwiol ei gadw yn fwy teilwng. Gwyl grefyddol Eglwysig ydyw Gwyl Dewi. Y mae yn golled lawr na b'ai Eglwyswyr yn gwneyd gwell defnydd ° honi nag y maenfi yn gyffredin. Mae yn achlysur priodol i ddysgu hynafiaeth yr Eglwys Brydeinig ac i ddangos ei chysylltiad di- dor â'rBrif Eglwys-yn gystal a thalu dioleb i Ben Mawr yr Eglwys am godi amddiffynwyr cedyrn i wirionedd yr Efengyl, ac ymdrechwyr zelog yn mhlaid y ffydd a roddid unwaith i'r saint. Da genym gael gosod gerbron ein dar- llenwyr grynodeb byr o sylwedd pregeth a dra- ddodwyd gan y Parch. W. Morgan (Penfro) yn Eglwys St. George, Llandudno, ar Ddydd Gwyl Dewi, sef dydd Gwener diweddaf. Nid rhaid i ffrwyth meddwl a chalon y bardd wrth lythyr canmoliaeth, oblegid ei fod yn llawn mor adna- byddns fel pregethwr melus, hyawdl, gafaelgar, a difrifol. Gweinyddwyd y Cymun Saectaidd yn yr hwyr, i gynal cyfarfod cystadleuol bychan cyfyng- edig i ysgolion y plw.vf, dan arvveinftd y Parch. W. Lewis (Gwilym Berw), a Penfro yn feirniad. Y llywydd ydoedd Mr. Littler, yr hwn sydd yn ffyddlon iawn i'r Eglwys Gymreig yn y plwyf. Y BREGETH. Trwyddi hi, y mae efe, wedi marw, yn llefaru eto."—HEB. xi. 4. Cyfeiria y geirit-Li hyn at Abel gyfiawn, y cyntaf ar lechres hir "ardderchog lu y merthyri," a chyfrifir ef gan yr apostol yn mhlith cewri y ffydd dros ba un y rhoddodd ei fywyd i lawr yn aberth. Trwy genfigen a digasedd Cain ei frawd y rhoddwyd ef i farwolaeth, oherwydd i'w offrwm gael ei dderbyn a'i gymeradwyo gan Dduw, tra y gwrthodwyd ei eiddo ef. Y gwir reswm am dderbyniad ei offrwm oedd yr egwyddor ar ba un y'i cyflwynodd. Trwy ffydd yr offrymodd Abel i Dduw aberth rhagorach na Chain," a thrwy yr unrhyw ffydd, "y mae efe, wedi marw, yn llefaru eto." Diau iddo offrymu ei aberth a golwg ffydd ar yr un aberth mawr a offrymid gan Oen Duw, yr Hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd." Rhaid i ninau wrth "yr unrhyw werthfawr ffydd ag yntau, cyn y byddo ein hoffrymau yn dderbyniol gan Dduw. Dyna oedd rhagoriaeth aberth Abel, a dyna ddirgelwch ein cymer- adwyaeth ninau gyda Duw. Y mae ymgais a thuedd naturiol mewn dyn am etifeddu anfarwoldeb. Dyma. yr hyn sydd yn enyn medrusrwydd y cerflunydd, yn anog ymchwiliadau y darganfyddwr, ac yn ysprydoli caniadau y bardd. Ond nid oes gwir anfarwoldeb i'w gyraedd ond trwy gyf- rwng ffydd. Etifeddion ffydd yw gwir etifeddion an- farwoldeb. Awgrymir hyn yn ddigon eglur yn yr hyn a ddywedir gan yr apostol am Abel, oblegid trwy ffydd, "y mae efe wedi marw, yn llefaru eto." Mae ei enw mor fyw heddyw ag erioed, a hyny oherwydd fod sel cymeradwyaeth y nef wrth ei weithred. Yr un modd os mynem i ddylanwad ein bywyd ddwyn effeithiau parhaol ar yr oesau dyfodol, fel, wedi ein marw, y byddo i'n gweithredoedd lefaru eto, gweddiwn am gael yr unrhyw ffydd ag a hynodai Abel gyfiawn. Yr ydym yn dysgu, gan hyny, y wers bwysig hon oddiwrth y 'testyn, mai etifeddu ffydd yw sail neu delerau etifeddiaeth anfarwoldeb. Nid gormod, feddyliwn, ydyw cymhwyso geiriau y testyn at y gwr enwog, c6f-wyl yr hwn a gedwir genym heddyw. Mae enw Dewi Sant mor fyw heddyw ag prioed, er fod mwy na 1,300 o flynyddau er y pryd y bu farw, a hyny o herwydd ei fod yn ddeiliad y wir ffydd, yr hon a sicrha. i'r henuriaid air da." Diau, iawn ydyw dywedyd, "y mae efe, wedi marw, yn llefaru eto." Cawr diysgog ydoedd, ac amddiffynydd diwrth- dro yn mhlaid y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint." Prin y mae yn angenrheidiol nodi hanes ei fywyd, na theithi ei gymeriad gloyw, gan fod yr hyn a wnaeth a'r hyn ydoedd yn dra hysbys, ac yn hawlio yr aurhyd- edd a'r parch mwyaf digymysg. Nid ydys yn gwybod yn sicr pa bryd nac yn mha le y ganwyd ef, ond tybir yn gyffredin iddo gael ei eoi tua chanol y burned ganrif yn ardal Mynyw, neu Ty Ddewi. Yr oedd yn fab i Satdde, wyr i Ceredig, a gor-wyr i Gunedda Wledig. Ei fam oedd Non, merch Ynyr o Gaergawch, gwr enwog am ei dduwioldeb a'i haelioni tuag at wasanaeth crefydd. Ymddengys iddo gael ei addysgu yn more ei oes yn ngholeg Illtyd, ac wedi hyny yn athrofa enwog Pawl hen yn Nhy-gwyn- ar-Daf, lie yr oedd Padarn a Theilo yn gyd-ysgolheig- ion ag ef. Wedi aros fyno am yspaid deng mlynedd, ymneillduodd i'w hen fangre, a ffurfiodd gymdeithas grefyddol yn ardal y Rhos, ger Mynyw, lie y dywedir fod Dewi a'i gyd-aeledau yn nodedig am eu gweddiau, eu dirwest, a'u haelioni i'r tlawd. Ond yr hyn sydd fwyaf dyddorol i ni, a'r hyn a ddyry y bri mwyaf ar enw y gwr clodfawr hwn, ydyw ei ymlyniad wrth y ffydd, a'r ymdrech egniol a llwyddianus a wnaeth o'i phlaid yn yr hen Eglwyg Brydeinig. Oddeutu dechreu y chweched ganrif, ad- fywiodd heresi gyfeiliornus y Morganiaid, yr hon, yn nghylch can' mlynedd cyn hyny, a osodasid i lawr trwy ymdrechion Garmon a Bleiddyn, dau Esgob o wlad Gal, neu Ffrainc, y rhai a ddaethent drosodd i'r wlad hon ar gais Eglwyswyr Cymru i wrthwynebu pleidwyr y gau-athrawiaeth. Galwyd Cymanfa yn Mrefi, sir Geredigion, gan Dyfrig, Archesgob Caerlleon- ar-Wysg, i ba un y daeth goreugwyr yr Eglwys yn nghyd. Ond ni ellid gorthrechu rhesymau yr wrth- blaid hereticaidd hyd nes i Dyfrig a Deiniol, Esgob Bangor, ar awgrym Pawl hen, fyned i Fynyw i gyrchu Dewi i'r Gymanfa, yr hwn wedi ei ddyfod, trwy ei gadernid a'i hyawdledd, a hvyr-orchfygodd y gau-ath- rawiaeth, ac fel hyn a burodd yr Eglwys o'r cyfeil- iornad hwnw a btrasai anghydfod a blinder mawr yn mhlith ei haelodau. Yn ganlynol i hyn, rhoddodd Dyfrig ei swydd i fyny i Dewi, yr hwn felly a ddaeth yn Archeigob Cymru oil, ac a symudodd yn mhen ychydig, trwy ganiatad y Brenin Arthur, sedd yr Esgobaeth i Fynyw, yr hon wedi hyny a elwid Ty Ddewi, mewn anrhydedd i enw prif amddiffynydd y Ffydd Gatholig. Parhaodd yn ei swydd am lawer o flynyddoedd gyda'r dyfalwch mwyaf, ac yr oedd yn enwog am ddiehlynder ei fuchedd, purdeb ei grefydd, ac haelioni ei gymwynasgarweh. Bu farw mewn oed- ran teg tua'r flwyddyn 544, a byth oddiar ei farw; gellir dweyd ei fod, trwy ei ymdrech yn mhlaid ffydd hen Eglwys ein tadau, "yn llefaru eta." Mae bellach yn arferiad pur gyffredin i gadw gwyl St. Dewi mewn gwahanol ft'yrdd gan Gymry yn mhob man lie y byddont, ac ymffrostio ynddo fel nawdd-sant y genedl Gymreig. Ymddengys mai peth cydmarol ddiweddar ydyw ystyried St. Dewi yn y cymeriad hwn, er na raid i neb gywilyddio ei arddel fel y cyfryw, na beio neb am feithrin ysbryd gwladgarwch mewn cy- sylltiad a'i enw. Ond oni ddylid cofio ei fod ef yn rhywbeth mwy a phwysicach na gv7ladgarwr yn unig ? Yr oedd efe hefyd yn Eglwys garwr, ac yn garwr y ffydd yr hon a ymddiriedasid i gadwraeth yr Eglwys. Fel y cyfryw yr ydym yn ei edmygu, ac yn anrhydeddu ei goffadwriaeth, gan ddioleh i Arglwydd mawr yr Eglwys am iddo weled fod yn dda gymhwyso ei was a doniau cymhesur i'r oes derfysglyd yr oedd efe yn byw ynddi. Ac nis gallwn lai na datgan ein go-aitli nad yw y dydd nepell pan y daw Cymru oil, megis yr oedd efe yn Archesgob Cymru oil, i garu yr Eglwys or fronau yr hon y magwyd ef, ac i'r hon y bu efe yii ffyddlawn fab a chadarn amddiffynydd. Nid ydym yn cyfeiliorni wrth ddathlu coffadwriaeth gwyr cyffelyb i hwn. Er esiampl i ni yr ysgrifenwyd hanes eu gwrhydri. A phe na buasai dim arall, onid yw y ffaith fod Eglwys ein henafiaid, trwy en meibion gwro], megis St. Dewi, wedi cadw athrawiaeth iachus i ni yn yr oes hon, yn dywedyd ei bod o leiaf yn haeddu ei pharchu, ei eharu, a'i hamddiffyn ? Llef- ara llais ei meibion wrthym ni-" Mawrhewch eich breintiau, glynweh wrth y wir athrawiaeth, a chofleid- iwch y ffydd a draddodwyd "i chwi trwy ffyddlondeb yr Eglwys o dan gadwraeth Duw." Bydded i ni ym- debygoli fwyfwy i'r hen saint pybyr a fu'n sefyll yn ddewr ar furiau'r Eglwys yn yr oesau gynt. Safwn ninau yn benderfynol dros y gwirionedd, a chawn yn ein hachos ni, fel yr eiddynt hwythau, y byddwn wedi marw, yn llefaru eto." Enillodd Abel gyfiawn anfarwoldeb trwy ei ffydd. Dewi Sant a'i eniliodd trwy ei ymdrech yn mhlaid y ffydd. Boed i ninau ei enill yn yr un modd.

NODIADAU SENEDDOL. .