Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

[No title]

[No title]

Advertising

DEONIAETH WLADOL LLANBEDR.

CENHADAETH YN SIR FRYCHEINIOG.

EGLWYS GYMREIG CAERDYDD.

! DYDD GWYL DEvVI YN LLANDUDNO.

NODIADAU SENEDDOL. .

News
Cite
Share

'wedi hyny galwodd sylw at yr arwerthiadau oeddynt wedi cymeryd lie ar ystad Penarlâg. ac at yr esgus gwag ac afresymol a roddwyd gan Mr. W. H. Gladstone dros beidio gostwng yr ardrethoodd-11 Pa ddiben gostwng yr ardreth a chefnogi y tenantiaid i ymsuddo ddyfnach, ddyfnach mewn dyled. Gofynai y Milwriad dewr—" Paham na wnai cyfeill- ion y tsnantiaid yn yr Iwerddon fyned i Sir Ffiint i ddangos eu cydymdeimlad a gweddw dlawd ?" Yr oedd y cyfeiriadau a wnaeth at yr hyn a ddigwyddodd ar ystad Penarlâg yn ddigymar. A yw yr hyn sydd yn ddrwg moesol yn yr Iwerddon yn iawn mewn ystyr foesol yn Nghymru?" Ni fyddai yn bosibl rhoddi gwell puzzle i'r philsophyddion Gladstonaidd. Yr oedd gwraig weddw yn Mhenarlag yn dal saith erw o dir, ac yn methu talu y rhent. Y flwyddyn ddiweddaf, dywedodd Mr. Gladstone ei bod yn gamwri ao yn greulondeb o'r mwyaf i wneyd i ddyn dalu £ 3 17s am saith acer yn yr Iwerddon, ond disgwylid i'r weddw dlawd yn sir Fflint dalu, nid £3 17s., ond e25 yn y flwyddyn I Yn sicr, y mae yr hen ddiareb Seisnig yn ddigon gwir-" Curses are like young chickens and still come home to roost." Mae y melldithion a ben- tyrwyd gan Mr. Gladstone ar ben y tir-arglwyddi Gwyddelig wedi dyfod adref i glwydo yn Mhenarlag. Siaradwyd yn mhellaoh dros ao yn erbyn y gwell- iant gan Mr. Dillon, Mr. Johnston; Syr George Tre- velyan, Mr. Stanhope, &-c., a gohiriwyd y ddadl hyd ddydd Mereher. PARHAD Y DDADL. Adnewyddwyd y ddadl ar welliant Mr. John Mor- ley dydd Meroher gan Mr. Canning, Is-Iarll Wolmer (yn erbyn), Syr J. Pease, &e. Cafwyd araith.alluog gan Gyfreithiwr Cyffredinol yr Iwerddon. Dygodd ystadegau ymlaen i brofi fod sefyllfa psthau yn gwella yn yr Iwerddon, a heriodd unrhyw aelod i brofi fod gweinyddiad y gyfraith wedi difuddio y Gwyddelod o'u hiawnderau ond yr oedd wadi bod yn oSorynol i adferu rhyddid personol i filoedd oadd wedi eu hamddifadu o hono. Y ptif siaradwr nos Iau oedd Mr. Chamberlain, a thraddododd araith certhol mewn amddiffyniad i wladlywiaeth Wyddelig y Llywodraeth. Ni ddylai tynged yt Ymerodraeth a heddwch yr Iwerddon gael ei adael i ymddibynu ar y owestiwn a oedd gwallt un o'r aelodau Gwyddelig wedi cael ei dori, neu a oedd un arall wedi nacau cymeryd ei bwyso. Yr amcan oedd gan yr Wrthblaid mewn golwg yd- oedd arwain meddwl y cynoedd oddiwrth bwnc mawr y ddadl, sef Home Rule. Yr oeddynt am i'r Ty lyncu y wladlywiaeth hono a'u llygaid yn gauad, ond gwrthodai wneyd hyny. Yr anhawsder mawr oedd Ulster; ao nid oedd gan y Llywodraeth hawl i drosglwyddo nifer mor liosog o'r bobl fwyaf teyrn- garcl i fod dan lywodraeth arall yn groea i'w dym. uniadau. Parhaodd Mr.JBradlaugh y ddadJ, a siaradwyd yn gryf yn erbyn y gwellianfc gan Mr. Mattison, yr aelod galluog dros ranbarth Walton a Wavertree, YB YMRANIAD. Siaradodd Mr. Gladstone nos Wener am yn agos i ddwy awr, ond nid oedd dim yn newydd yn ei araith. Gwadai yr angenrheidrwydd am Ddeddf y Trosedd- all, gwadai yr haeriad nad oedd yr Iwerddon yn gymwys i lywodraethu ei hun, a bod rfodaeth wedi gwella ei sefyllfa. Yr oedd Mr. Gladstone yn awyddus i gael barn y wlad ar driniaeth y earohar- orion Gwyddelig. Mae yr Ysgarwyr yn awyddus yn bresenol i gadw Home Rule yn y background, a gorohfygu y Llywodraeth drwy side-wind. Yr oedd Mr. Goschen yn ei hwyliau goreu, a chondemniodd yn ddiarbed yr iaith a ddefnyddiwyd gan Mr. Gladstone: mewn perthynaa i'r Plan of Campaign." Parhawyd y ddadl gan Mr. Rathbone, Mr. Seton- Karr, Mr. Parnell, ao amryw eraill, ac ymranodd y I Tyambum' munyd i ddeuddeg o'r glooh, pryd y cafwyd- Dros y Llywodraeth 339 Yn erbyn 260 Mwyafrif 79 I Gorchfygwyd gwelliant Mr. John Morley drwy fwy. aftif o 79. Yr oedd amryw o'r aelodau Undebol yn J Aoalluog i fod yn bresenol, aa yr oedd y mwyafrif I dan yr amgylchiadau yn fwy na'r diagwyliad. Bljtaid i'r Ysgarwyr dreio rhywbeth hoblaw cloi3 An i orchfygu y Llywodraeth. Beth nesaf ?