Hide Articles List

4 articles on this Page

NODIADAU SENEDDOL. .

News
Cite
Share

NODIADAU SENEDDOL. [GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG.] GWELLIANT MR. JOHN MOBLEY. Y prif fater a fu dan sylw Ty y Cyffredin ynghorff yr wythnos ddiweddaf oedd gwelliant Mr. J. Morley i'r Anerchiad, yr hwn oedd yn condemnio gweinydd- iad y gyfraith yn yr Iwerddon, ac, mewn gair, yn ail-agor yr holl Gwestiwn Gwyddelig. Dygodd Mr. Morley ei welliant ymlaen ddydd Llun mewn araith faith a gwasgarog. Rhoddodd gerbron y Ty lawer o engreifftiau i geisio profi foi gweinyddiad Cyfraith y Troseddau yn llym, creulawn, a gormesol, ac yn ddiffygiol mewn doethineb, rhagocheliad, a gofal. Beiai y Llywodraeth am beidio ymddwyn tuag at yr aelodau Gwyddelig oedd yn cael eu carcharu yn wahanol i droseddwyr eraill. Hen gwyn y Radical- iaid ydoedd anghyfarfcaledd gweinyddiad y gyfraith, ond yr oedd yr athronydd mawr o Gasnewydd-ar. Dyne yn condemnio y Llywodraeth am beidio trin yr aeloclau Parnellaidd yn wahanol i ddrwgweithred- wyr cyfiredin. Athrawiaeth newydd yw hon yn nghredo y Gladstoniaid. Dywedodd fod y Llyw- odraeth yn dirmygu teimladau mwyaf anrhydeddus yr Iwerddon. Pan ganfu yr Undebwyr fod Mr. Morley yn darllen erthygl o'r Freeman's Journal ar y gorthrwm a'r creulonderau dychymygol hyn bu chwerthin mawr yn y Ty. Gwyr pawb faint o werth sydd i'w roddi ar dystiolaethau o'r fath. Dywedodd fod yr adeg yn ymyl pan y gwnai y genedl (pa genedl tybed 2) hawlio dadoorff oriad. ("Wait a bit, sir, don't be in such a hurry.") Y mae yn ddigon buan i son am ddadgorfforiad y Senedd eto. ATEBIAD MR. BALFOUR. Dywedodd Mr. Balfour nad oedd yn synu dim fod Mr. Morley wedi dwyn ei welliant ymlaen. Yn ystod y senedd-oediad yr oedd cyhuddiadau dy- chrynllyd wedi cael eu dwyn yn ei erbyn ef a'i gyd- weinidogion o farbareidd-dra, creulondeb, a dideiml- adrwydd. Nid oedd y cyhuddiadau hyn wedi eu gwneyd yn Nhy y Oyffredin am fod yr Wrthblaid yn ymwybodol mai chwedlau maleisus ac hollol ddisail oeddynt. Gwadai Mr. Balfour fod y Llywodraeth yn euog o'r cyhuddiadau a ddygid yn ei herbyn os oedd oamsyniadau wedi eu gwneyd yr oeddynt i'w priodoli i gyfeiliornad mewn barn ar ran yr hedd- geidwaid. Amddiffynodd yr ynadon yn ngwyneb yr anfri a'r cabledd a bentyrid arnynt. Nid oedd ef yn gyfrifol am reoleiddiad y caroharau Gwyddelig, fel' yr oedd wedi hysbysu drosodd a throsodd ac os oedd rheolau y oarcharau i gael eu newid yn yr Iwerddon buasai raid eu newid mewn parthau eraill o'r Deyrnas. Nid oedd yr holl helynt ynglyn a charchariad Mr. O'Brien ond peth wedi ei drefnu i ddylanwadu moddyliau y bobl yn y wlad hon. Yr oedd y cynydd mewn troseddau yn Kerry ar ol gosod y Plan of Campaign mewn grym i'w briodoli i areithiau Mr. O'Brien. Dadleuai Mr. Balfour fod grym y gyfraith yn cynyrchu heddwch yn y parthau mwyaf terfysglyd o'r Iwerddon, ac mai ymddygiad yr Wrthblaid oedd y prif rwystr ar ffordd ym. hediycfiiad. Aeth Mr. Balfour ymlaen ynghanol gwrthwynebiad ffyrnig i roddi y gwir resymau dros garohariad Mr. William O'Brin a Mr. Harrington. Mewn perthynas i Ymreolaeth, dywedodd: A siarad yn gyffredinol, y mae pob aelod o Eglwys yr Iwerddon, pob aelod o Eglwy& Bresbyteraidd yr Iwerddon, pob aelod o'r Cyfundeb Wesleyaidd yn yr Iwerddon, pob aelod o Gymcfeithas y Crynwyr, ao enwadau ereill yn yr Iwerddon, yn ymlynu wrth yr undeb rhwng yr Iwerddon a Phrydain Fawr; 800 nid yn unig hyny, ond y mae pob Pabydd o safle, pa un bynag ai wrth y bar neu mewn masnaoh y byddo ei alwedigaeth.11 Beth a feddylia Ymneillduwyr Cymru am y ffaith bwysig hon ? Yr oedd araith Mr. Balfour yn llawn ffeith- iau cedyrn a diymwad, ac o wawdiaith lem a miniog pan yn oyfeirio at ei wrthwynebwyr. Pan yn cyfeirio at yr araith a draddodwyd gan Syr George Trevelyan yn tglasgow, oddiwrth yr hon y gellid tynu y easgliad na ddylai Mr. O'Brien gael ei gar, charu am ei fod yn meddu y fath hyawdledd," dywedodd Mr. Balfour nad oedd yn ameu hawl Syr, George Trevelyan i farnu hyawdledd Mr. O'Brien,, am nad oedd yr un dyn yn fyw wedi cael mwy o brofiad o'r hyawdledd bwnw na'r boneddwr gwir anrhydeddus pan yn y swydd o Brif Ysgrifenydd. Dyna hit ardderchog i Syr Pliable." Araith odidog oedd hon o eiddo Mr. Balfour, ond gan fod y ddadt mor faith, rhaid i mi frysio yn mlaen at Y DDADL NOS FAWRTH. Yr araith bwysicaf a draddodwyd nos Fawrth ar welliant Mr. John Morley oedd eiddo y Milwriad Saunderson. Dywedodd y gwyddai Mr. Morley o'r goreu fod troseddau wedi lleihau yn yr Iwerddon, a bod llai o droseddau yn y wlad yn awr nag a fa o ddechreu y oynwrf tirol. Y prif ymosodiad ar y Llywodraeth oedd carchariad Mr. Harrington, ond. ni fu dyn erioed yn haeddu ei garoharu yn fwy. Yr oeddynt yn ymladd y frwydr fwyaf difrifol ag oedd yn bosibl i unrhyw genedl wareiddiedig ei hymladd, oblegid yr oeddynt yn ymladd dros uwohafiaeth- Cyfraith y Tir yn erbyn buddugoliaeth ao uwohaf- iaeth y Leagtre. Yn nghwrs ei araith, oyfeiriodd y Milwriad Saunderson at yr achosion creulawn O evictions y oyfeiriwyd atynt gan Mr. Gladstone, to.

Advertising

DULL YR EGLWYS 0 DDEWIS ESGOBION.

Advertising