Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
NODIADAU WYTHNOSOL GAN IDRIS.
NODIADAU WYTHNOSOL GAN IDRIS. GWELLIANT GWALL. Diolch i chwi, Mr. Gol., am eich bywgraftiad dyddorol a chyf- 11 lawn o'r Parch. A. G. Edwards, M A., Esgob penodedig Llanelwy. 11 Cefais lawer iawn o bleser wrth ddarllen eich banes o hono. Diolch i "Hen Domos hefyd am ei lith beaigairp ar yr un testyn. YneicL bywgraffiad syrthiasoch, rywfodd neu gily(id,.i wall sydd yn anghyfiawnder i foneddwr arall o'r un enw. Dywedwch mai Mr. Edwards ydoedd y cyntaf a nrddwyd gan Dr. Basil Jones, Arglwydd Esgob Ty Ddewl. Mr. Edwards" oedd y cyntaf, ond nid y Parcli. A. G. Edwards. Yn yr arholiad ar urddiad cyntaf ar ol ei gysegmd gan Dr. Basil Jones, gwelir enwau y Parchn. A. G. Edwards, a T. Edwards, yr hwn sydd yn breseuol yn gurad yn Bedwas, ger Caerphili. Y blaonaf yn yr arholiad oedd i gael yr anrhydedd o'i urddo yn gyntaf gan yr Esgob. Y Parch. T. Edwarcla, M.A., oedd hwnw. Aeth y Mr. Edwards hwn yn isathraw i Ystradmourig, a'r Mr. Edwards arall yn is-athraw i Llanymddyfri. Teg i'r ysgolhaig gwych aydd yn gurad yn Bedwas yn bresenol ydyw rboddi cyhoeddusrwydd i'r ffaith hon.
IYR YMNEILLDUWYR A'R ESGOB…
YR YMNEILL- DUWYR A'R ESGOB II NEWYDD. Tra y mae Eglwyswyr yn gyff- redinol yn llawenychu oblegid dyrchafiad y Parch. A. G. Edwards, M.A., Caerfyrddin, i'r faine Esgobol, y mae amryw o bapyrau Ymneillduol a Radical- aidd yn chwerw ofnadwy oblegid yr apwyntiad. j Y mae y Goleuad yn dangos ei siomedigaeth oblegid dyrchafiad Mr. Edwards trwy geisio ei sarhau. Druan o "Nodwr." Dywed Yr anadnabyddus a'r dinod, y Parch. A. G. Edwards, Caerfyrddin, aelod o'r Eglwys filwriaethus, sydd wedi ei ddyrchafu i fod yn Esgob Llanelwy." Pe b'ai dyn gwan, anabyddus a dinod," wedi ei C, anfon i'r esgobaeth, byddai y Goleuad ar ei uebel. fan an, ond oblegid fod dyn cryf wedi ei gael i lanw IJ6 y diweddar Ddr. Hughes, cuddia newyldiadur y Corph chwerwder ei enaid mewn geiriau annoeth. --a..
MR. PIGOTT WEDI DIANC I FFWRDD.…
MR. PIGOTT WEDI DIANC I FFWRDD. Beth ddaw o achos y Times a'r Aelodau Gwyddelig yn awr, tybed ? Anmhosibl cuddio y ffaith fod dadguddiadau y dyddiau I diweddaf wedi niweidio achos y Times yn fawr, a diau y bydd yn rhaid cyfaddef fod y llythyrau enwog wedi eu priodoli i Mri, Parnell, Egan, Davitt, ac eraill ar gam. Eto rhy gynflr ydyw i ddweyd fod cyhuddiad y Times yn syrthio i'r 11awr. Nid oedd y llythyrau hyn ond rhan, a rhan fechan hefyd, o'r cyhuddiadau.
MR. GEE 0 DDINBYCH ETO.
MR. GEE 0 DDINBYCH ETO. Dywed y Western Mail fod Mr. Thomas Gee a'i Fab yn dhwenych cyfrifiad o'r bobl unwaith eto, a bod cylchlythyr wedi ei anfon allan er sicrhau cyfrifwyr teilwng a gonest. Nid wyf yn gwybod beth fydd canlyn- iadau y cylchlythyr hwn, ond teimlaf yn sicr nad oes eisiau i'r Eglwys ofni. Y mae etholiadau y gwabanol fyrddau yn ngwahanol siroedda pblwyfi Cymru yn profi yn eglur anwireddau y Dadgys- ylltwyr parthed cyfartaledd yr Eglwys ac Ym- neillduaeth yn y Dywysogaeth, a diameu genyf y byddai i gyfrifiad Mr, Gee brofi yr un peth. Cofus gan y dprllenydd, yn ddiau, fod Mr. Gee unwaith o'r blaon wedi enwogi ei hunan yn y cyfeiriad hwn. Ar y 9fed o Ionawr, 1887-08 wyf yn cofio yn iawn—gwnawd y cyfrifiad diweddat, ond atolwg, pa le y mae y canlyniad. Nid oedd y ffigyrau wrth fodd calon golygydd y\F<mer, ac os ymofynir &g ef am danynt, ond nid etyb. Amlwg yw nad ydyw profiad yn gwneyd pob ffol yn ddoeth.
ETHOLIAD IBWRDD YSGOL GELLIGAER.
ETHOLIAD BWRDD YSGOL GELLIGAER. Oymerodd yr etholiad hwn le dydd Iau diweddaf, a bydd yn dda gan ddarllenwyr Y LLAN glywed fod yr Eglwys wedi dyfod allan o'r ymdrechfa yn faddugoliaethus. id heb wybodaeth o gryfder yr Hen Fam y cyn- ygiodd y gelyn dair o eeddau i'w chynrycliiolwyr, ac etc coleddid gobaith y gellid mewn rbyw fodd osod saith Ymneillduwr i fewn. Yn y gobaith bwn dygwyd saith allan i ymgynyg ara II ymddir- iedaeth yr etholwyr, er fod cytundeb wedi ei wneyd fod tair o seddan i'w llanw gan Eglwys- wyr. Ond nid yw cadw addewid yn rhan o gredo y capelwr, a'i hen arferiad ydyw tori ei air. Cael goruchafiaeth ar Geidwadwyr ac Eglwyswyr ydyw uchaf nod bywyd yr Angliydffnrfiwr politicaidd, ac y mae moesoldeb a chrefydd yn ddaroatynged. ig i hyn. Hen gyngor bydol y Sais yw, Make money. Honestly if you can-but muke it." Felly y gellir dweyd am gapelwyr y dyddiau hyn --on harwyddair yw, I ltlwr a'r Eglwys-mewn modd aurhydeddus os gellir, ond i lawr a hi." Fe fethodd ymgais yr Henadar parcheaig a fcostfawr Aaron Davies a'i gynffonwyr yr wythnos ddi- weddnf. Yr oedd canlyniad yr etholiad fel byn LLWYDDIANUS. Paroh-T. Jas?o Jones (E.) —2,383 Parch. R. O. Jones (A.). 1,819 Parch. J. L. Meredith (E.) 1.,553 *Mr. Henry Edwards (!i.) 1,510 Mr. W. 0. Boddoe (AI.C,.) 1,496 *Parcb. Aaron Davias (M.O ) 1,403 "Mr. Edmund Lewis (B.) 1,269 Parch. J. P. Wdliama (8.). 1,168 *Mr. Isaac Phillips (A.). 1,116 AFLWYDDIANUS. *Mr. John Morgan (W.) I. 916 Aelodau o'r hen Fwrdd. Gwelir wrth y daflen uchod fod 14,632 o bleidlets- iau wedi eu cofnodi, a bod y tri Eglwyawr wedi cael 5,445 o'r cyfanswm hwn, tra y cafodsl y saith eraill 9,187 rhyagddynt. Cader Idris, Boren dydd Mercher. m,JIØ,
YDDIRPRWYiETaBA.RNELL.UDO.!
YDDIRPRWYiETaBA.RNELL.UDO. TrSTIOLiETHAP PWlSo. Cymeiid dyddordeb neillduol yn ngweitbred-i iadau y llys yr wythnos ddiweddaf. Arholwyd Mr. Pigott gan y Twrnai Oyfixedinol, Rboddodd fanylion ychwanegol gyda golwg ar ei ymdrafod- aeth &g Eugene Davies ynglyn &'r llythyrau. Yr oedd wedi cymeryd 11 w difriiol ar Lyfr Gweddi Pabyddol na bydilai iddo byth ddadleau enwaa y personau y cafodd y llythyrau ganddynt, nac ym- ddangos fel tyst pe y cymerid gweithrediadau cyfreithiol. Cymerodd ei lw yn y llys na ddarfu iddo ffagio y llythyrau. Hefyd, rhoddodd ad- roddiad o'i ymdrafodaeth & Mr. Labouchere, Mr. Parnell, a Mr. George Lewis. Darllenwyd yn y llys lythyrau a aethant rhwng Mr. Pigott a Mr. Lewis (cyfreithiwr Mr. Parnell). Wrth gael ei groesboli gan Syr Charles Russell addefodd Mr. Pigott iddo ysgrifenu llythyr at yr Archesgob Walsh dri diwrnod cyn i'r erthygl gyntaf ar Barnelliaeth a Tliroseddan gael ei chyhoeddi yn y Times yn ei hysbysu fod yna ddarpariaeth ar droed i ddinystrio dylanwad y blaid Barnellaidd yn y Sanedd, a bod y dadlen- iadau a wneid yn honiprofi cysylltiad Mr. Parnell a rhai .o'i gefnogwyr A'r troseddau a gyf- lawnid yn yr Iwerddon, ac yn ol pob tebyg y byddai i'r Llywodraeth gymeryd cwrs cyfreithiol yn erbyn yr aelodau hyny. Dywedai y llythyr ymhellach y gallai et ddangos i'r archesgob pa fodd y gellid gorehfygu y cynllwynion byn, ac awgrymai ar i'w Baslonrwydd gyfleu sylwedd ei lytbyr ef i rai o'r personau cysylltiedig fx helynt heb ddatguddio ei enw ef. IYIewn olysgrifen ychwanegodd Mr. Pigott, Pe buaswn yn ystyried y cyhuddedigion yn euog o'r byn ag y cyhuddid hwynt o hono 0 ni buaswn yn breuddwydio awgrymu ar i'ch Graelonrwyddwneyd unrhyw ymgais i'w ham- ddiffyn." Wrth gael ei groesholi gwadai Mr. Pigott mai at y llythyrau Parnellaidd yr oedd yn cyfeirio; a phan ofynwyd iddo at beth y cyfeiriai, dywedodd mai at rywbeth pwysicach o lawer, ond ei fod wedi angliofio yn lan beth ydoedd. Achos- odd ei gyfaddefiadau trwstan ddifyrwch mawr yn y Ilys. ( Yn ystod y gweithrediadau gofynodd Syr Charles Russell i Mr. Pigott ysgrifenu amryw eiriau ar bapyr yn y llys, yr hyn a wnaeth, ac ysgrifenodd y gair hesitancy yn hesitency," a'r gair "likelihood yn likolehood," sef yr un fath ag y sillebwyd hwynt yn y llythyrau ffugiol. Dydd Gwenercroesholwyd Mr. Richard Pigott yn mhellach gan Syr Charles Russell. Addefodd y tyst ddarfod iddo ysgrifenu o Paris at yr Arcbesgob Walsh, yn 1887, gan ddatgan fod y dystiolaeth oedd ganddo parthed y llythyrau yn gymysg- edd o wirionedd a chelwydd ond yn y llys dy. wedai fod y datganiad yn hollol ddisail. Ar ol hyny, ysgrifenodd at yr Archesgob i fynegu ei fod ef o'r farn mai ffug ydoedd "llythyrau" Mr. Parnell, ond tystiai nad efe a'u ffugiodd. Modd bynag, barnai yn awr eu bod yn rhai didwyll. Dywedodd fod gryn debygrwydd rhwng rhai o'r brawddegau oedd yn y llythyrau a brawddegau a ysgrifenodd Mr. Parnell a Mr. Egan mewn llyth- yrau ato ef ynghylch pryniant ei newyddiadur. Rhoddodd Syr Charles Russell lythyrau ger- bron a ysgrifenwyd rhwng y tyst ao Egan, yrnha rai y dywedai Pigott ddarfod i ddau ddieithrddyn gynyg X500 iddo am gyhoeddi ystadegaeth gywir o dreuliadau y Cyngrair Tirol, yn yr Irishman. Dywedodd Pigott ei fod yn credu mai twyll oedd yr y&tadegau, ond gofynodd i Egan am arian am beidio eu eyhoeddi, a chafodd X-200 ganddo. Cyfeiriodd Syr Charles Russell at waith y tyst yn ysgrifenu y gair hesitancy" y diwrnod blaenorol gydag e" yn lie a," a bod yr un gair wedi ei sillebu yr un fath yn un o "lythyrau" Mr. Parnell. I'r hyn yr atebodd y tyst fod yn debyg fod y gair yn oi ben felly pan yn y llys. Nid mewn sillebu yr oedd cuddiad ei gryfder. Mr. Wemys Raid a ddygodd gerbron ohebiaeth a basiodd rhwng y tyst &'r diweddar Mr. Forster yn 18bl. Hawliai Pigott arian am fod ei bapyr yn wrthwynebol i'r Cyngrair Tirol, a dywedai fod ei amgylckiadfiu yn dra chyfyng. Gwrthododd Mr. Forster roddi yr un ddimai iddo ar ran y Llywodraeth. ond rhoddodd £ 170 iddo ar ei gyfrifoldeb ei bun. Nid oedd y tyst yn cofio iddo ysgrifenu llythyr yn dweyd fod yna gynllun i ¡ fradiofruudio Mr. Forstar. >, Ungbrifddigwyddiadau y diwrnod oeddynt lytbyrau a ddangosodd Syr Charles Russell o eiddo Egan, y rhai agydnabyddid yn rhai didwyll a'r rhai a gynwysent frawddegau a gyfatebent yn hollol A, brawddelgau yn y llythyrau Parnell- aidd." Rhoddid pwya neillduol ar y llythyrau hyn. DIFLANIAD PIGOTT. Pan ymgyfarfyddodd y llys foreu dydd Mawrth yr oedd yr ystafell yn orlawn o edrychwyr, y rhai a gymerent y dyddordeb mwyaf yn y gweithred. iadau. Gwnaeth Mr. Parnell ei ymddangosiad yn brydlawn, ac yr oedd Mr. Davitt yn ei le ar- ferol wrth fwrdd y cyfreithwyr. Ymhlith y gwyddfodolion yr oedd Mrs. Gladstone, Argl- wyddes Maud Parry, Mr. Childers, Mr. Labouchere, &c. Ar ol aros am beth amser cododd y Llywydd, gan ofyn Pa le y mae y tyst ? Atebodd y Twrnai Cyffredinol: J-Iysbysir fi gan glerc Mr. Soames, yr hwn a ddanfonwyd i'r gwestdy, na welwyd mo hono (Pigott) oddiar 11 o'r gloch neithiwr—felly y dywed Mr. Soames, Cymerwyd tystioliaeth i'r perwyl, a chafwyd fod y tyst Pigott wedi ffoi, a dywedir ei fod wedi cyffesu fod y llythyrau a ymddangosasant yn y Times wedi eu ffugio. Ar gynygiad Syr Charles Russell caniatawyd gwarant or cymeryd Pigott i'r ddalfa. LLYTHYRAU Y "TIMES" WEDI EU TYNU YN OL. Foreu dydd Merchor hysbyswyd fod y Times yn tynu yn ol y llythyrau a briodolwyd i Mri. Parnell, Egan, ac eraill. Gohiriwyd y llys hyd ddydd Gwener.
[No title]
CYFEIRIAD "AFONWYSON."—Y mae "Afon- wyson," fel y cyhoeddwyd yr wytbnos ddi- weddaf, wedi symud i Gaerdydd. Cyfeirier ato fel y canlyn :—Mr. W. Richards, 186, Cowbridge Road, Canton, Cardiff. PRIODI GWEDDW A 16 o BLANT A'R CANLYN- IADAU.—Dydd Gwener cynhaliwyd trengholiad yn Alpraham, swydd Gaerlleon, ar gorph William Williams, crydd, yr hwn a gyflawnodd hunan- laddiad drwy grogi ei hun. Darfu i'r trancedig briodi gweddw gydag un-ar-bymtheg o blant, ac ymadawodd oddiwrtbi, gan ymroi i feddwi. Wrth symio y tystiolaethau i fyny dywedodd y trengholydd os oedd un peth mwy na'i gilydd yn profi gwallgofrwydd y trancedig, mai y ffaith iddo briodi gwraig weddw gydag un-ar-bymtheg o blant ydoedd hyny. Dychwelwyd rheithfarn o Hunanladdiad mewn pang o wallgofrwydd."
flelupbbteit Cpffrtbinot.
flelupbbteit Cpffrtbinot. TAN MAWR MEWN TYDDYN-DY YN RHYDWEN.— Prydnawn dydd Iau, torodd t&n mawr allan mewn ydlan ar dyddyndy Hen Dyddyn, yn Rhydwen, sir Fflint, yn naliad un John Williams Ymddengys fod Mr. Williams wedi gadael box o fatches ar fwrdd y gegin, ac i'r plant eu cymeryd allan i'r ydlan. Er cael t&n-ddiffoddydd i'r lie, cafodd yr boll ydlan ei llosgi. Nid oedd wedi ei yswirio. DAMWAIN DDIFRIFOL AR Y RHEILFFORDD GER GWRECSAM—Prydnawn Sadwrn, fel yr oedd y gerbydres deithwyr ar Reilffordd Gwrecsam, Wyddgrug. a Connah's Quay, yn mylled trwy orsaf Rhosddti, rhedoid y peiriant oddiar y rheil- iau, ac aetb ar draws llinellau y Great Western, gan fod yddwy reilffordd yn rhedeg yn gyfochrog yn y fan hono. Taflwyd y gyriedydd, Joseph Roden, a'r taniwr, Abel Bellis, oddiar y peiriant, ond ni dderbyniasant nemawr niwed heblaw cael hysgytio yn lied dost; ond niweidiwyd y guard yn bur ddifrifol. Ar ol rhedeg am ychydig bellder trodd y cerbydau ar eu hochrau, ond diangodd y teithwyr yn ddianaf oddigerth gwraig o'r enw Margaret Edge a dyn o'r enw Samuel Owen. Maluriwyd amryw gerbydau ac ataliwyd trafnid- iaeth dros y ddwy reilffordd am amryw oriau. YMRYSONFA AREDIG YN NHRAWSFYNYDD.—Cyn- haliwyd yr uchod dydd Sadwrn diweddaf mewn maes perthynol i Mr. J. D. Jarrett, Wern Gron, ac ymgyetadleuodd tri-ar-ddeg. Yn y dosbarth, cyntaf, gwobrwywyd yn laf, John Roberts 2il, John Powell, y ddau yn weision yn y Wern Gron; 3ydd, Owen Roberta, Frondirion, Maentwrog; 4ydd,Lloyd; gwas Gilfachwen. Yn yr ail ddosbarth, y laf ydoedd William Jones, (ien.), Brongoch, Maentwrog 2il, Edwin Roberts, gyda gwedd Tyddyn Bach; 3ydd, William Tudur, Ty'ntwll; 4ydd, Edward Joaes, gyda gwedd Coedyrbygyn. Ymwelwyd d'r maes gan bobloedd lawer, ac yr oedd y tywydd yn ffafriol iawn. Rhoddwyd bwyd a lluniaeth mewu llawnder i'r aradrwyr, y beirniaid, a'r pwyllgor gan Mr. Jarrett. Beirniadwyd y gwaith gan Mri. Evan Jones, Dolgain (gyct), a William Ellis, Voty Bach (gynt). Canmolir yr aredig yn fawr, a theimlid dyddordeb neillduol yn y gystadleuaeth. ANUDONIAETH HONEDIG GAN ORTTCHWYLIWR L'R MILWRIAD WEST.—Yn llys yr lieddgeidwaid yn Rhuthyn, dydd Llun, darfu i Mr. Osbert Edwards, eyfreithiwr, wneyd cais am wys am anudoniaeth yn erbyn John Probert, goruchwyliwr i'r Milwr- iad West, A.S., a chynghorwr trefol i'r fwrdeis- dref. Cyhuddid ef o gyflawni anudiaeth mewn llw a wnaeth mewn cynghaws perthynol i'r Queen's Bench Division. Y cwestiwn yw pa un a oedd tirfeadianwr wedi cymeryd meddiant o ryw gae; neu pa un a oedd yn parhau yn mecKi- iant y tenant; ac un o elfenau y dystiolaeth oedd pa un a oedd y llidiart i'r cae wedi ei gloi ar, nen oddeutn, ryw ddyddiau neillduol. Ar y pwynt yna aeth y diffynydd ar ei lw fod, mor bell ag y gallai ef gofio, glo a chadwen ar y Ilidiart-rhwng yr lleg a'r 30ain o Dachwedd. Yr oedd ef (Mr. Edwards) yn awr mewn sefyllfa i brofi, uwchlaw amheuaeth, nad oedd clo na chadwen ar y llid- iart yn ystod y cyfnod a enwyd gan y diffynydd, nac yn agos i'r dyddiad yna. Yr oedd ganddo ef dystiolaetn annibynol i brofi hyn, ac o dan wys gallai gael tystiolaeth nas gallai fodd arall ei chael. Caniatawyd y cais. Y GYMRAEG A'R CYNGHORAU SIltOL.-Mae Mr. Samuel Pope, Q.C., yr hwn a ddewiswyd yn gad- eirydd Cyngor Sirol Meirionydd yn y cyfarfod cyntaf, wedi cael barn y Cyfreithiwr Cyffredinol ar y cwestiwn, A ydyw yn gyfreithlon cario ymlaen waith y CyDghorau Sirol yn Nghymru yn Gymraeg ? Dyma farn Syr Richar Webster —" Nis gellir cyfrif y mater hwn yn hollol rydd oddiwrth ddyryswch ond, ar y cyfan, yr wyf fi o'r farn fod yn rhald i weithrediadau y Cynghor- au Sirol gael eu cario ymlaen a'u croniclo yn yr iaith Saesneg. Y mae Deddf 27 Henry VIII., c. 26, s. 20, fel y diwygiwyd hi gan 50 a 51 Vic., c. 55, yn awr mewn grym. Yr oedd y rlmn twyaf o'r gwaith a gyflawnir gan y Cynghorau Sirol yn cael ei wneyd yn flaenorol gan yr ynadonyny brawdlysoedd Chwarterol; ac yr wyf o'r farn fod yr adran uchod o Ddeddf Henry VIII. yn gosod rheidrwydd ar yr ynadon i gario y gwaith hwnw ymlaen yn Saesneg ac nid yw darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol, 1888, sydd yn trosglwyddo y cyfryw waith i'r Cynghor- au Sirol, wedi symud yr ang6nrheidrwydd hwn. Felly credaf nad ydyw yn gyfreithlon cadw cof- nodion sirol a phenderfyniadau eraill yn yr iaith. Gymraeg."