Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

•J LLANFABON.

News
Cite
Share

•J LLANFABON. Dydd Mercher a dydd Iau, y 18ted a'r 19eg o Gor- phenaf, cynhaliwyd bazaar yn Ysgoldy Genedlaethol St. Cynon, Llanfabon, er cynortbwyo y gronfa sydd Wedi cael ei chychwyn tuag at gael organ at wasan- aeth Eglwys St. Cynon. Y mae yr offeryn sydd genym yma yn bresenol wedi gwneydeiwaithyn sganmoladwy am feithion flynyddoedd, ac ni ddy- Wedwn Nil nisi Borum am dano yn ei henaint a'i fthiant, eto i gyd y mae yr hen chwedl Ddaw henaint ddim ei hunan yn hollol wir mewn per. thynas âg ef, di'r help," oblegid y mae ei lais wedi tnyned yn bur fratiog a thoredig y blynyddoedd diweddaf hyn, ac y mae yn cael ei flino yn ddrwg gan y clefyd poenus hwnw a elwir yn gyffredin gan y meddygon yn asthma, neu ddiffyg gwynt. Ond yn awr, pa fodd bynag, mae genym le i obeithio y gallwn ddywedyd wrtho orphwys mewn heddwch heb fod yn faith. Mae enwau y skill-holders, &c., fol y canlyn: -Stall 1, Miss Morgan a Miss Edwards, yn cael eu cynorthwyo gan Miss Edith Edwards, Miss Gibbon, Misses Lanwarne, a Miss Lewis. Stall 2, y Misses Martin, yn cael eu cynorthwyo gan y Misses Jenkins. Stall 3, Miss Jones, Quaker's Yard, yn cael ei chynorthwyo gan Miss Dowdeswell, Miss Oawley, a Miss Thomas. Refreshment Stall, Mrs. Baker a Miss Thomas, yn cael eu cynorthwyo gan Mrs. Carslake a. Mrs. Manley. Yr oedd y noddwyr yn tael eu gwneyd i fyny o arglwyddi ao yswainiaid enwocaf y rhan hon.o'r Dywysogaeefh. Ar y cyfan Ðafwyd tywydd pur ffafriol, a throdd yr anturiaeth allan yn llwyddiant hollol; yn ystod y ddau ddiwrnod derbyniwyd tua £ 70. Yr ydym yn dymuno talu diolchgarwch cyhoeddus i bawb a gymerasant ran yn y gweithrediadauj-yn anwedig i'r boneddig. esau, y rhai yn benaf a fu yn foddion i ddwyn y bazaar oddiamgylch. Dymunwn ddioloh hefyd i s,elodau seindorf bres Treharris, y rhai a roddasant gwasanaeth i ni yn rhodd ac yn rhad,

Y PARCH. JOHN EVANS (EGLWYSBACH)…

[No title]

iila £ >nadj, Jllafur, Set.…

Æarcbltabotbl1.

Advertising

LLANLLECHID.