Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

DEONIAETH UCHAF LLANDAF.

LLANF AUt. IS. GAER.

EGLWYSFUDD PENBRYN.

.CYFLAFAN YN KERRY.

Family Notices

DEONIAETH GRONEATH (UPPER…

DEONIAETH (UCHAF) I,&NDAF-DOS.…

CRICCIETH.

Y CEYNWYE A CHYNHADLEDD LAMBETH.

Y DIRPRWYWYR EGLWYSIG.

LLOFRUDDIO LLAFURWR.

CYNGAWS MR. O'BRIEN, A.S.,…

Y TRENGHOLIAD AR JOHN MANDEVILLE.

Advertising

---------..-- ---! 11ELYNT…

News
Cite
Share

11ELYNT Y CLADDU YN LLAN- FROTHEN. DYFARNIAD Y BARNWR BISHOP. Ychydig dros ddau fis yn ol, daeth y Parch. Eichard Jones, rheithor Llanfrothen, yr Arch. ddiacon Evans, a'r Deon Lewis A chyngaws yn erbyn y Mri. Morris Roberts, R. Roberts, ac eraill, am dori i mewn i gladdfa Eglwys Llan- frotben. Gwrandawyd y cyngaws gan y Barnwr Bishop a phedwar o reithwyr. Rhoddodd y rheithwyr eu rheithfarn o blaid y diffynyddion, ond go hiriodd y Barnwr ei ddyfarniad ef ar agwedd gyfreithiol y cwestiwn, hyd y llys sirol yn Porthmadog, ar y 25ain o Gorr)henaf.-Dros yr hawlwyr ymddangosai y Mri. Carter a Vincent, Caernarton; a thros y diffynyddion y Mri. Lloyd George a George. Wrth roddi ei ddyfarniad, dy- wedodd y Barnwr :—" Gan belled yn ol ag 1864 yr oedd dymuniad i gael eangu claddfa blwyfol Llanfrothen. ac yr oedd perchenog (Mrs. Owec) y tir eysylltiol yn barod i roddi darn o'i thir hi at y pwrpas hwnw, a rhywbryd rhwng yr amser hwnw a Gorphenaf, 1869, yr oedd clawdd wedi ei godi o amgylch y tir ac wedi talu am dano drwy gyfraniadau rhydd-ewyllvsiol a gasglwyd gan wardeniaid eglwys y plwyf, yn benaf, pa rai ym- ddangosent fel pe yn arolygu y gwaith, a gwnaeth y wal hon y lie yn un darn amgauedig, ac yn y sefyllfa hon y mae wedi bod, ond ni throsglwydd- wyd y tir gan Mrs. Owen ar y pryd, ni chysegr- wyd y darn, ac ni chladdwyd neb yno hyd 1872, ond claddwyd ychydig yno ar ol y dyddiad hwnw. y Z, Ar Gorphenaf 18fed, 1881, trosglwyddwyd y tir gan Mrs. Owen i'r gotynwyr ar amodau neillduol. Ar Ebrill 28&in, 1888, bu un o'r plwyfolion farw, a datganwyd dymuniad i gael ei gladdu yn y rhan hwnw a amgauwyd cyn 1869, ac a drosglwydd. wyd i'r achwynwyr yn 1881, a rhoddwyd rhybudd y gwasanaethid gan weinidog perthynol i enwad arall. Gwrthododd y rheithor i hyn gael ei wneyd, gan ddweyd fod y rhan hwnw o'r gladdfa beb fod yn rhan o gladdfa y plwyf, ac heb fod yn lie y gallai y dilTynwyr hawlio claddu yr ymadaw- edig gan mai eiddo private y rheithor ac eraill oedd efe. Y diffynwyr, ar y Haw arall, a ddadieu- ent fod y He yn rhan o gladdfa y plwyf, ac y gallent hawlio claddu yr ymadawedig yno, ac aethant ymlaen i claddu y corff, drwy dori clo llidiart y gladdfa, tori y bedd, a chladdu y corff ynddo, oherwydd yr hyn y mae y gofynwyr yn dyfod a'r cyngaws hwn ymlaen. Y mae y diffyn- wyr yn cyfaddef iddynt gyflawni y gweithredoedd a enwyd, odd cyfiawnhant hyny drwy ddweyd nad oedd y tir yn eiddo i'r gofynwyr, ond mai rhan o gladdfa y plwyf ydoedd, a hawliant iawn am i'r gofynwyr ymyryd a • hawl claddu yn y cyfryw fynwent. Yr oedd cyngaws yr erlynwyr yn fyr Rhoddent i fewn y weithred yn cyfleu y tir iddynt, dyddied- ig Gorphenaf 18fed, 1881, a chan y cyfaddefid y trespas terfynai eu eynghaws.-Dros y diffynydd- ion dadleuid mai cwestiwn o hawl ydoedd rhwng y gofynwyr a'r plwyf, ac ymresymai fod y tir wedi ei roddi drwy air y genau yn 1864—5 neu yn 1866, i'r rheithor ar y pryd, at wasanaeth y plwyf- olion i gladdu ynddo a chan ei fod wedi ei amgan oleiafmorbellyn ol ag 1869, yn Gorphenaf, a'i fod wedi cael ei ddefnyddio at gladdedigaethau, fod Mrs. Owen wedi colli ei bawl a'i meddiant o'r tir, a'i fod wedi dytod yn rhan o gladdfa y plwyf, ac nad oedd gan y rheithor ddim hawl i nacau claddu un o'r plwytolion, a chafodd y rbeithwyr yn gyntaf fod tir wedi ei roddi drwy air y genau i'r plwyfolion yn 1864 ac ar ol hyny yn ail, fod wal wedi cael ei chodi o'i amgylch cyn Gorphenaf, 1869; ac yn drydedd, fod y rheithor wedi ei ddefnyddio fel rhan o'r gladdfa blwyfol byth ar ol hyny.—Yna gwnaeth y Barnwr sylwadan helaeth ar ymresymiadau Mr. Lloyd George, a dywedodd fod yn rhaid iddo ddangos ei anghymeradwyaeth o'r cwrs a gymerodd y diffynyddion, a rhoddai ddyfarniad o du y gofynwyr am 1!5 5s.-Gofynodd. Mr. Vincent am y costau ar y scale uwchaf, a chaniatawyd byny.-Dymunai Mr. George i'r barnwr wella ei notes o'r hyn oedd dyfarniad y rheithwyr. Yn ol barn y barnwr nid oedd meddianiad o'r tir wedi dechreu ond yn 1869; pryd yn ol yr hyn y gallai efe (Mr. George) brofi yr oedd y meddianiad wedi cymeryd lie ar y flwyddyn 1864.-Dywadai y Barnwr nas gallai Mr. George ddim myned y tu ol i'r notes.—Wedi ychwaneg o ddadleu rhoddwyd rhybudd o apel. -Yr ydym yn deall fod cymdeithas gref yn Llundain am roddi pob help i gario yr apel ymlaen.

NODJADAU SENEDDOL.