Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
NODJADAU SENEDDOL.
NODJADAU SENEDDOL. I GAN EIN GOIIEBYDD ARBENIG.] Y DDIRPRWYAETH FAENOL. Dydd Llun, yr wythnos flaenorol, cyuygiodd Mr. W. H. Smith ail ddarlleniad y Hesur er apwyntio Dirprwyaeth Freuhinol i wnoyd ym- chwiliad i'r cyhuddiadau yn erbyn y Parnelliaid. Dywedodd fod y Mesur yn cael ei gynyg yn lie yr hyn a hawlid gan Mr. Parnell, sef pwyllgor o'r Ty, am tod y Llywodraeth o'r farn y buasai pwyllgor o'r fath yn un hollol acghyniwys i gym- cryd i ystyriaeth y cyhuddiadau mewn ysbryd rhydd oddiwrth ragfarn a dallbleidiaeth partiol. Yr oedd y Mesur yn cynyg rhoddi galluoedd cyf- lawn i'r Ddirprwyaeth Frenhinol i wneyd yro- chwiliad trylwyr i'r holl gyhuddiadau a'r haer- iadau dychrynllyd a ddygid yn erbyn rhai o'r aelodau Gwyddelig a'r rhai oedd yn cydweithredil 4 hwynt. Os oedd ymchwiliad i fod, yr oedd yn rhaid cael ymchwiliad llawn a digamsyniol i'r holl amgylchiadau, yr hyn a roddai daw bythol at y cyhuddiadau a wneid. Yr oedd yn ddrwg ganddo ef (Mr. Smith) nad oodd gan y person all ag oedd yn dal cysylltiad uniongyrchol A'r mater ddim digon o ymddiried mewn rheithwyr Seisnig i apelio atynt am y cyfiawnder a ddymunent, ac ychwanegodd y boneddwr gwir anrhydeddus fod yr Arglwydd Ganghellydd wedi enwi Syr James Hannen, Mr. Justice Day, a Mr. Justice Smith x fod yn aelodau o'r Ddirprwyaeth. Ni byddai yn bosibl gwneyd detholiad tecach a mwy anmhleid- gar. Ni bu yr un o'r nchel-farnwyr hyn erioed yn ymyraoth a materion gwleidyddol, a dywedir ei bod yn anhawdd penderfynu i ba blaid y perth- ynant. Heblaw hyny, y mae Mr. Justice Day yn Babydd eithafol. Wedi i Mr. W. H. Smith eistedd, codcdd Mr. Parnell ar ei draed, a thraddododd araith ffyrnig yn erbyn y Mesur. Dywedodd fod y Mesur yo cynyg gwneyd ymchwiliad i holl weithrediadau J" Land League, a'i fod wedi ei fwriadu i daflu anfri ar y mudiad mawr Gwyddelig, ac i enllibio y bobl y 11 y dylai fod arnynt gywilydd eu camdrin. PO buasai yr ymchwiliad yn etiel ei gyfyngii i'r llyti" yrau ffagiol gwarthus a briodolid iaao, gallecfCf brofi ymhen wythnos nad oedd y cwbl i gyd ond twyll; ond a chymeryd i mewn yr oil a gynygid gan y Mesur, parhai yr ymchwiliad am ddwy flynedd. Galwai ar y Llywodraeth i gyfyngu yr ymchwiliad i'r cyhuddiadau a ddygid yn ei erbyn ef a'i gyd-aelodau, i adael allan" a phersonal1 eraill," ac i ganiatau i'r ymchwiliad gael ei wneyd mewn llys cyfreithiol, ac nid gan farnwyr, aIll nad oedd y Ddirprwyaeth gynygiedig yn deg iddo ef a'i gyfeillion, ond yn gywardaidd ac anghyf' iawn. Ehyw rambling speech oedd hon o eiddo y Brenin Anghoronog." Ofa sydd ar lVIr. Charles Stewart Parnell pe gwnelid ymcbwiliad i holl weithredoedd y Land League i rai o gyfloS* weision y cyngrair gwaedlyd a pha rai yr oedd Y" cydweithredu droi yn gyhuddwyr y brodyr, A euog farnu. Yr oedd disgwyliad mawr wrth Mr. Gladstone, a phan gododd i anarch y Ty derbyniwyd ef gan y Parnelliaid gyda bloeddiadau byddarol o gYI!ler¡ adwyaeth. Aeth mor bell a dweyl nad oedd e yn credu y gwnai enwau y barnwyr oedd i gyfil" soddi y Ddirprwyaeth dderbyn cymeradwyaetb gyffredinol, a chefnogodd gais Mr. Parnell ymchwiliad cyfreithiol, am adael allan y geiriol" a pheraonau eraill," a.c am enwi yr aelodau yo erbyn pa rai y dygid y cyhuddiadau. Tarawyd Y Ty a syndod pan awgrymodd Mr. Gladstone na0 gellid ymddiried yn anmhleidgarwch y barnwyr ond yn sicr nid oes achos i neb synu at dditO f) ddywedir gan yr Hen Ddyn Anwadal yn awr. Gwnaeth yr Ysgrifenydcl Cartrefol araith l\fr. Gladstone yn gyrbibion m&n. Yr oedd yn affile fod Mr. Gladstone yn ofni atebiad, oblegid rled: odd allan o'r Ty cyn gynted ag y terfynodd 01 araith. Dywedodd Mr. Matthews pe gadeWld allan a phersonau eraill "nas gellid gwneydjy111" chwiliad i'r pethau canlynol :—a ddarfu i FrttIlk Byrne brynll y cyllill & pha rai y lladdWyd Arglwydd Frederick Cavendish a Mr. Burke; ft0 a oedd y cyllill hyny wedi eu ouddio yn svvyad, feydd yr Irish Parliamentary Party," yrJ. Westminster, lie yr arferai Mr. Parnell dll" ymweliad beunyddiol ? Ni fyddai cyfyng11 yr ymchwiliad ond ffug-waith a choeg-chwal'sCl (farce.) dl Wedi i amryw eraill siarad,f^gohiriwyd y ado. hyd ddydd Mawrth. PARHAD Y DDADL. Y Adnewyddwyd y ddadl ddydd Mawrth Comisiwn Brenhinol gan Mr. Labouchere, ac o1
Advertising
(ftjjljoftii&iaimu, &r. IN I> RHE STR 0 LYFEAU A THBAETHODAU CYMRAEG AR WERTH GAN GYMDEITHAS TRAETHODAU ESGOBAETH BANGOR, iV CAEL GAN MRI. NIXON AND JARVIS, BANK PLACE, BANGOR, Tr rhai y clylid anfon pob archebion ac avian. Adenedigaeth yn y Bedydd. 4c. Ail Gatecism. e. Amddiffynydd yr Eglwys, 1874 a 1875. Anerchiadau allan o'r "Brutusiana." ic. Arwainydd i'r Anllythyrenog. 2c. Arweinydd i Eglwvs y Plwyf. 4c. Baptismal Cards. 6s. y cant. r Bugeii-lyfr Eglwysig (yn y wasg). liyr Weddiau Beunyddiol. l|c. Cartref yr Hen Wr. 3c. Confirmation Prayer, on Cards, 3s. y cant. Cydymaith yr Athraw, Rhan 1. a II. 3e. yr un. Gan y Parcii. Daniel Edwards. Cyfnill i'r Claf. lc. Cyfarwyddyd i ganlyn Gwasanaeth Eglwys Loegr. e. Cymdeithas Milwyr y Groes. Ie. Cyjuun Bendigaid, Ridley. 3c. Cymru dan felldith Babel (H. T. Edwards). 4c Dadl fer ar Fedydd Babanod. Ie. Diolch am y Cynliauaf. ie. Dydd Cyntaf o'r Garawys (H. T. Edwards). 2e. Eglwys Crist (Daniel Jones). Enbydrwydd pechod. ic. Esboniad ar Erthygl XI. lic. 2 Esboniad ar Erthygl XXVII. 2e. Esboniad ar Erthygl XXVIII. lc. t, 2 Ffordd Gul, Llawlyfr eyflawn o ddefosiwn i'r ieuanc. 6c., ac 8c. gilt. Fi'ydd achubol. Is. 6c. y cant. Ffurf JJerbyniad Darllenwyr Lleygol. Ie. Blwyddyn Eglwysig (Nicander). Is. 6c. Gweddi a Mawi yn Ysgolion Sul yr Eglwys. Ie. Gweddiau Teuluaidd. Cloth, 9c. !:> Gwersi Hawdd, Bhan I. a II. 3c. yr un. Banes y Groes a Thon i'w chanlyn. ge. y dwsin. Holiadur Eglwysig (G. Roberts). Ie. Holwyddoreg Gristionogol (Sadler). Cloth, Is. Eto eto Rhan II., 4c. Rhan IV., 3e. Hyfforddwr a'r Gan Eglwysig, Hhan I. Caniadau a'r Psallwyr. 3s. 6c. Llwybr Edifeirwch. Is. 6c. y cant. Llyfr Gweddi i Dy Gweddi. Ie. Llythyrau C. Cadfan. Ie. Morgan (Esgob William), Byr hanes. Ic. Pardwn. Is. 6c. y cant. Pedwar Nod y Wir Eglwys. 3c. Pregeth y Parch. P. C. Ellis. ie. Pregeth y Parch. J. Wesley. 3c. lihestr o Wevsi ar gyfer y Suliau a'r Prif Wyliau vn y Fhvyddyn Eglwysig. 4s. 6c. y cant. Rhybudd yn erbyn Anniweirdeb. 1c. Rhybudd yn erbyn Celwydd a Thwyll. ie. Trueni Pechod. ic. Tystiolaethau Ymneillduwyr a Threfnyddion o blaid Eglwys Loegr. 2c. Udganwr byehan Cassassin. 2c. Welsh Clergyman's VadeMecum (H. Rees). 2s. 6c. Wyrlmo3 y Genhadaeth. 3s. y cant. Y Ddwy Fil. lc. Y Grefydd Barliamentaidd. lc. Y Llawlyfr (Heygata). 6c. Y Weinidogaeth. 4c. Yr Inifirmari. Ie. Yr Olyniaeth Apostolaidd. c. 2 LYFRAU, &c., PEBSONAU UNIGOL A WERTHIR DYWY Y GYMDEITHAS. Allor yr Aelwyd (Deon Edwards). 6c., lliain, 9c. Apostolion y Dadgysylltiad (Parch. E. Williams). 2e. Caniadau ac Emynau yr Eglwys (Thos. Jones). 2c. yr un, neu Is. 6c. y dwsin. Church Endowments (D. R. Thomas). le. Conffirmasiwn (D. R. Thomas). 3e. Dadgysylltiad (Thos. Edwasds). Ie. Ffyrdd yn Nghrist (D. R. Thomas). 4c. Hen Eglwys ein Tadau (D. R. Thomas). 4c. Letters to a Dissenting Minister (P. C. Ellis). 9c. Olyniaeth Apostolaidd (Deon Lewis). 2s. 6c. Pei hau fy Jihad (D. R. Thomas). le. T'regethau y Parch. G. Edwards. 4s. 'frcfn a, Dullwedd y Gwasanaeth Eglwysig (W. Wil liams). 6c., lliain, Is. Trefn a Dullwedd y Gwasanaeth Dwyfui (Evans a Davies). 9c., lliain, Is. Yr Athraw (D. R. Thomas). 6c. Yr Eglwys ai Ymneillduaeth (J. L. Meredith). 2s. z;1 HYMN A U A THON A U gan y Parch. Daniel Evans:- Limp Cloth, sprinkled edges. Is. llc. Cloth Boards, sprinkled edges, gold lettered. 2?. 8c. lioan Boards, red edges. 3s. 5c. Tonic Sol-fa Edition (without words). Is. 6e, pocket Edition Tonic Sol-fa, with words, imp cloth. Is. 11c. FAo0 t eto eto cloth boards, 2s. 3c. Eto eto eto Levant, red edges. 3s. Cerddor yr Eglwys, Limp cloth. 2s. 8c. Eto cloth boards. 3s. 5c. HYMNAU y Parch. Daniel Fvan8 Cloth limp, sprinkled edges, lljc. Cloth boards, sprinkled edges, gold lettered. Is. lc, Roan boards, red edges. Is. 6e. Pocket Edition, limp cloth. 9c. Eto, cloth boards. lle. HYMNAU A THONAU gan y Parch. S. Pryce:- Limp cloth, sprinkled edges. Is. llc. Cloth boards, red edges. 2s. 3c. Roan boards, red edges. 3s. Tonic Sol-fa Edition, limp cloth. Is. lie. Eto eto, cloth boards. 2s. 3c. Limp cloth, sprinkled edges. 9c. Cloth boards, gilt edges. Is. Roan boards, red edges. Is. 6c. WELSH CHURCH TUNE AND CHAN2 BOOK gan y Parch. Thomct8 Jones, Rheithor Llaneqzgan Limp cloth, red edges, gold lettered, 16mo. (pocket size). is. loc. Eto eto Tonic Sol-fa eto. Is. 9c. Eto eto eto paper covers. Is. 2c. HYMNAU YR EGLWYS gan y Parch. Ellis Roberts. Llian, 9c. ferns for Abbtrtising. I Class of Advertisements. « s. d. Parliamentary Notices 6D. per Line Legal and Public Notices J per Insertion Auction Announcements > 41). per Line J per Insertion Religious Services and Lectures 1 to 5 JJ 0 Bazaars, Concerts. & Eisteddfodau j ( 6 to j 1 | 3 Publishers and Educational W 12 10 25 1 3 Announcements 1 { Business Addresses 26 and up. | 0 PREPAID ADVERTISEMENTS. Words 0ne Three Six Insertion. Insertions. Insertions. s. d. s. d. s. d. 20 1 0 2 0 3 0 SO 1 6 3 0 4 6 40 2 3 4 6 6 9 THESE CHARGES, which must be prepaid, apply only to consecutive insertions of the following classes of advertise- ments: Situations Wanted, Situations Offered, Apartments o Let, Apartments Wanted, Money Wanted, Partnerships, Businesses for gate, Lost and Found, Miscellaneous Wants, Houses, Shops, Offices, Specific Articles for Sale by Private Contract. ADVERTISEMENTS must reach the office not later than Thursday morning. IF THE INSEBIIOKS be not consecutive, or if payment be not made previous to publication, the business rate will be charged, but no order will be booked for less, than three shillings. NOTICES of Births, Marriages, and Deaths are charged 1/- each, if not exceeding 20 words, and 6d. for each additional 10 words. In all cases the Notices must be authenticated by the Signature and Address of the sender. THE GREATEST CARE is taken to insert advertisements on the dates ordered, as well as to secure their being correctly printed; but we cannot be responsible for inaccuracies in either of these respects, nor for any consequences arising therefrom. CHEQUES and POST OFFICE ORDERS should be made payable to DANIEL OWEN & Co., Ltd., Publishers. I, Y Llan" Offices, Cardiff, JDrt.' it (Bistait, &c. -¿"o. LAMPETEB Graduate Wants Curacy (English or Bilingual) for September Ordination. Experienced; Musical; Earnest; Moderate views.— Address Sigma," LLAN Offices, Cardiff. URATE Wanted in Priests' Orders for U Llangollen Graduate preferred; bilingual District to be devoloped into Sole Charge; good work for good Churchman. Address, Vicar, Llangollen." [313 ""r 'E8IU St tin Dynaunwn alw sylw in darllenwyr, jrohebwyr, a dosbarth- wyt, at y cyfnewidiadau cunlynol sydd wedi eu gwneyd mewn cysylltiad â dygiad allan Y LLAN. 0 hyn allan eyfeirier:- NEWYDDION LLEOL A HYSBYBIADAU fel y canlyn :— THE EDITOK, LLAN Office, St. Mary Street, Cardiff. BARDDONIAETH Hev. N. THOMAS (Marlais), The Vicarage, Llanddarog, Carmarthen. CYFANSODDIADAU, YSGRIFAU. A GOIIEBIAETHAU cyhoeddus a chyfrinachol, &c., ynghyd a Llyfrau i'w hadolygu Rev. LL. M. WILLIAMS, The Vicarage, Beaufort, Mon. Dylai yr oil fod mewn llaw ddim yn ddiweddarach na boreu ddydd Mawrth. DALIER SYLW.—Oherwydd prinder gofod nis gallwn addaw gosod i fewn ysgrifau meitliiozi; a chan fod nifer ein goheb- wyr caredig mor lliosog. erfyniwn arnynt fod yn fyr a chry no. Rhoddir y tlaenoriaeth bob amser i adroddiodau a newyddion Ileol. JBuasai yn dda gan y Cyhocddwyr benodi dosbarthwyr i werthu Y LLAN lie nad oes rhai eisioes. Am y telerau anfoner i'r swyddfa. Derbyniasom oddiwrth yr Hybarch Ddeon Llanelwy restr gyflawn o'r tanysgrifiadau at gofadail yr Esgob Morgan, ond oherwydd diffyg gofod gorfodir ni i ddal drosedd hyd yr wythnos neaaf ein sylwadau ar y mater, YN EIN NESAF. Pen (Llanddarog), ac Atlas." LLWYDDIANTTTR EGLAVSB (P.)-Diolch i chwi. Ceiaiwn wneyd lie i'ch ysgrif ragorol yn ein nesaf. "LLYTHYR AT GYFAILL, &c." (J.C.O.)-Yr ydym yn dra diolchgar i chwi am y dyfyniadau, a chant ym- ddangos yr wythnos nesaf.
Y PARNELLIAID A'R LLY WODRAETH
Y PARNELLIAID A'R LLY WODRAETH Y MAE y byd gwleidyddol yn ystod yr wythnos ddiweddaf wedi bod dipyn yn fywiog, os nad yn derfysglyd, ac nid oes llawer o argoel fod amgylchiadau y cylch politicaidd ar wella ar hyn o bryd. Ystormydd Gwyddelig sydd yn cythryblu yr awyrgylch, ac y mae ffyrnigrwydd yr elfenau i'w briodoli i'r ffaith fod Mesur y Llywodraeth mewn cysylltiad a chyhudd. iadau y Times yn erbyn y blaid Barnellaidd a'i harweinydd ar daith trwy Dy y Cyff- redin. Gwyr pawb bellach fod Mr. PARNELL wedi gwrthod eriyn y newyddiadur uchod am gyhoeddi yr hyn a elwir gan yr arwein- ydd Gwyddelig yn gabldraeth ar ei gym- eriad fel dyn cyhoeddus, ac y mae y Llyw- odraeth, ar ol hir ystyriaeth o'r pwnc, wedi cynyg Comisiwn o Farnwyr profedig i'r boneddwr anrhydeddus i eistedd mewn barn er mwyn penderfynu y ddadl. Der- byniodd yr Wrthblaid y cynyg gyda'r parodrwydd mwyaf, a dygwyd Mesur i fewn i'r Ty er mwyn rhoddi y cynyg mewn grym. Gan fod Mr. PARNELL a'i gyfeillion yn hollol ddieuog o'r holl gyhudiiadau erchyll a ddygir yn eu herbyn hwy, dis- gwyliai pawb mai mordaith dawel gawsai y Mesur drwy St. Stephan. Ond och y mae y dynion diniwed hyn ydynt mor awyddus i broil eu glendid fel eymeriadau cyhoeddus wedi arfer pob math o rwystr ag a allent roddi eu Haw arno er mwyn gyru y Mesur i'r traeth. Y mae Mr. PARNELL wedi dinystrio ei enw da fel siaradwr a dadleuwr am byth drwy ymollwng i dymherau drwg ac iaith fustlaidd a phigog yn yr ysgar- mesau ami sydd wedi digwydd yn ystod y siarad yn y Ty ar y Mesur dan sylw. Yn wir y mae y G-wyddetod wedi ymddwyn gyda'r anfoesgarweh mwyaf dybryd yn yr holl ymdrafodaeth, ac y mae y Gladston- I iaid Seisnig wedi eu cynorthwyo yn hyn gyda ffyddlondeb digyffelyb. Dydd 0 Sadwrn, yn Birmingham, anerchodd Mr. CHAMBEELAIN gynulliad lliosog a pharchus o Undebwyr Eadicalaidd y dref. Yr oedd yr araith yn odidog, a phrcfodd, gydag eglurder anarferol, fod y Llywodraeth Undebol wedi bod yn fendith i'r wlad. Cyf- eiriodd at eiriau Mr. MOITLE, Y, yr hwn sydd yn cyhoeddi ar g'oedd gwlad fod y Senedd eleni wedi llwyddo i wneyd gwaith ag y dylasai pob plaid fod yn falch o hono. Mewn arddull aruchel ac iaith deilwng o wleidyddwr o'r radd flaenaf, datganodd ei benderfyniad i sefyll i fyny hyd eifchaf ei allu dros undeb y Deyrnas. Dangosodd fod Ymreolaeth Mr. GLADSTONE yn an- mhosibl, ac yn gynllun yn yr hyn y cyn- wysid Rhyfel Gartrefol o'r fath fwyaf waedlyd, oherwydd nid tebyg ybuasai Protestaniaid gogleddbarth yr Iwerddon byth yn plygu i iau y Parnelliaid a PhJb- yddion diog, segur, a gwaedlyd y deheu- barth. Talodd warogarth uchel i Mr. BAL- FOUR, yr hwn, meddai, oedd yn teilyngu parch ac edmygedd pob gwladgarwr yn Mhrydain Fawr. Aeth geiriau y boneddwr anrhydeddus adref fel saeth flaenllym, oblegid pan ymddangosodd yn y Ty nos Lun yr oedd digllonedd y Parnell- iaid a'r Gladstoniaid fel llif-ddyfroedd ar ol eur-wlaw. Sarhawyd ef ymhob modd, dygodd Mr. PAENELL gwyn yn ei erbyn, sef ei fod wedi bradychu ei gyd- wleidyddwyr l'hwng y blynyddoedd 1876 ac 1880, a thaflodd Mr. T. P. O'CONNOR y llys- enw Judas i'w wyneb. Gyda'r tawelweh mwyaf heriodd Mr. CHAMBEELAIN yr aelod anrhydeddus dros Cork i brofi ei haeriadau, a'i barodrwydd hollol i'w cyfarfod. Yn eu hanfoesgarwch a'u dibrisdod gwarthus (cywilyddiwn i ddywedyd hyn) cynorthwyir hwynt gan gyfangorph yr Wrthblaid. Y blaenaf yn y gwaith ydyw y gwleidyddwr eliphantaidd ac amrosgo hwnw Syr W. HARCOURT. Y mae llygad y wlad ar y bobl hyn, ac nid ydyw y distadlaf o'u hetholwyr yn analluog i iawn-werthfawrogi a chon- demnio y fath ymddygiadau gwaradwyddus. Hyd yn nod yn Nghymru y mae y mwgwd ar ei symud oddiar lygaid y werin-y mae pob un o newyddiaduron a gweision cyflog- edig y blaid Gladstonaidd yn Nghymru wedi bod yn ceisio euyn ychydig o deimlad yn y Dywysogaeth dros y deddf-dorwr JOHN DILLON. Segurwyr pregethwrol a gwleid- 0 C, yddol sydd wedi bod wrth y gwaith, a methiant truenus fu y canlyniad. Diameu na fuasai teimladau cynhyrfus y Cymro wedi eu symud i raddau helaeth o blaid y dyn truenus hwn sydd yn nghadwynau y gyfraith am anghyfreithlondeb, (oherwydd hawdd gan y Celt Cymreig d svymno dros neb sydd yn dioddef, pa un ai< ar gam ai peidio) onibae fod digwyddiadau cyffelyb i'r ymchwiliad i farwolaeth JOHN MANDEVILLE ac anfoesgarweh y blaid Wyddelig yn y Senedd yn agor llygaid y werin, ac yn profi yn ddios wir gymeriad y symudiad a ar- weinir gan Mri. PAHNELL, SEXTON, BIGGAR, a TANNER. Yn yr awyr uwchben y mae cymylau sydd yn feichiog o'r hyn sydd o'r 0 pwys mwyaf i un dosbarth o'n gwleidydd- wyr. Yn fuan bydd esgoriad oherwydd y mae y dduwies NEMESIS, os yn araf ei cherddediad, yn symud gyda sicrwydd a phenderfyniad. Y mae yr anghyfiawnder anferth sydd wedi anurddo y chwaer ynys o dan y Land a'r National Leagues yn esgyn hyd at orsedd barn, ac y mae y gwaed gwirion a dywalltwyd gan ddyhirwyr llof- ruddiog y cyngreiriau hyn yn llefain ar Farnwr yr holl ddaear fel gwaed ABEL gyixt, am gosbedigaeth. Pwy wyr nad yw awr y gosbedigaeth gerllaw ? Boed felly, ofned yr euog yn unig, a'r rhai hyny sydd wedi ymgyfranogi yn eu herchyllwaith drwy gydymdeimlo a hwynt, a thrwy dderbyn eu cydweithrediad. Nis gwyddom pwy ydynt, na phwy sydd wedi cydymdeimlo a'u drygioni, ond hyn a wyddom, fod argoelion diamwys fod pob peth yn addfedu er mwyn dwyn yr anfadwaith hwn adref at ddrysau yt euog, ac y dinoethir cyn bo hir i'r holl fyd pwy sydd wedi bod drwy y blynyddau yn gosod peiriant mwrdrad, lladrad, a boycottiaeth ar waith yn yr Iwerddon.