Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

TAITH TRvVY WLAD CANAAN.

News
Cite
Share

TAITH TRvVY WLAD CANAAN. [CYF. GAN D. 0 GILIAU.] Dydd Llun, Chwefror 20fed.-Nid ydwyf wedi an- turio disgrifio yr holl fanau dyddorol yn Jerusalem; ymfoddlonaf ar enwi y rhai mwyaf pwysig. Ymad. awsom a'r ddinas am wyth yn y boreu. Yr oedd y mnlod wedi cychwyn a'r luggage oyn hyny. Gwnaeth y Dragoman ei ymddangosiad yn awr yn ei gyflawn wisg, a'i geffyl Ma.bruk yn ei lawn colours. Y mae heol ag y gellir gyru cerbyd ar hyd-ddi o Jerusalem i Bethlehem, ond troisom ni allan o'r ffordd i weled Llynoedd Solomon, y rhai a arferenfc gyflenwi Jeru- salem & dwfr. Ac wedi troi ymaith i ffordd fynydd- ig, oyrhaeddasom Bethlehem mewn awr. Cefais fy siomi yn yr olwg gyntaf ar bethlehem, gan ei bod yn ymddangos mor fychan a brwnt; ond cefais fy moddloni yn llwyr yn Eglwys y Genedigaeth Church of the Nativity); ac y mae'r ogof dros ba un y mae'r Eglwys wedi ei adeiladu yn ymddangos i mi yn union fel yr arferwn eynied am y man y cafodd Crist ei eni. Cefais fy moddloni yn well yn Bethle- hem ar ol cael golwg arni o'r oohr arall. Ar ol myned trwyddi ac edrych yn ol ami, ymddangosai yn hynod brydferth, yn cael ei hamgylchynu gan ddyffrynoedd ffrwythlawn. Saif Maes y Bugeiliaid oddeutu haner milldir o'r dref, ac ymddengys yn fan tawel iawn. Wedi ymadael & Bethlehem yr oedd y ffordd yn arw iawn, gymaint feliy fel y bu raid i ni ddisgyn oddiar gefn ein ceffylau. Ar ol trafaelu am ddwy awr trwy wlad ddiffaeth, ddi. ffrwyth cawsom gipolwg ar y Marw draw draw ynypellder; man "marw" iawn yn wir yr ym- ddangosai o'i gymharu i feusydd gwyrddlas Bethle- hem. Gwelsom fynyddoedd Moab yn cyfodi eu penau gwyrddlas tu draw i'r mor, a chanfyddem lynydd Nebo yn eglur. Fel yr oeddym yn dynesu at y Mor Marw, delai y wlad yn fwy gwyllt ao anial. Fel yr oedd yn hwyrhau teimlem yn flinedig gan wres a lludded y dydd, ae yr oedd yn dda genym weled ein gwersyll bychan yn gorwodd mewn pant odditanom, yn agos i Fynachdy Marsaba; y eeffyl- au a'r mulod yn glymedig wrth ochr y pebyll, a'r gweision yn gotwedd a siarad A'a gilydd ganys- mocio. Enwau y gweision ydynt:—George Mabberdy (Dragoman), Solomon Taine (cook), Salim Habit (waiter), Joseph ac Ibeshara (Muleteers, h.y., gwewyr mulod), Taunos a Joseph (oynorthwywyr). Heblaw y rhai hyn y mae genym amddiffynydd Syriaidd i'n harwain trwy y wlad am y ddau ddiwr. nod nesaf ac i wylied drosom y nos. Mab i Sheikh ydyw, ao y mae ganddo geffyl glas Arabaidd rhagor- ol. Talodd John a'i gyfaill ymweliad A'r Mynachdy ni chaniateir i un fenyw fyned i mewn, felly gorfu i mi ymfoddloni ar ysgrifenu fy nyddlyfr. Y mae golwg hardd dros ben ar y pebyll: wedi eu goroh- uddio gan frethyn amryliw. Y mae'r waiter yn un cymwynasol iawn, ond nis gwyr air o Saesneg. Yr wyf yn gwneuthur fy ngoreu i'w cdysgu. Dydd Mawrtb, Chwefror 21ain.—Cysgasom yn gysurus yn ein cartref crwydredig, ond dihunwyd ni am chwech yn y boreu gan swn y ceffylau yn gwer- yru a'r mulod yn brefu. Tra yn oymeryd ein boreu- fwyd dechreuwyd crynhoi'r celfi, a'u gosod, ynghyd a'r pebyll, ar gefn y mulod, y rhai a ddanfonwyd, ynghyd &'u gyrwyr, ymlaen i Jericho. Yna cyoh. wynasom ninau, y Dragoman a'r Syriad yn mlaenaf yn cario revolvers, rhag ofn oyfarfod Ag, yaboilwyr; ninau ein tri yn y canol, ac un o'r gweision yn dilyn. Ar ein ffordd aethom heibio dau encampment o Bedouins..Fel y disgyn3m ar byd y llwybr careg- ■■og a arweiniai i'r M6r Marw, ymddangosai y wlad yn fwy gwyllt ae erchyll na dim a welsom hyd yn hyn, hyd nes y cyrhaeddasom wastadedd helaeth. Yn awr cawsom gyfleusdra i adael y ceffylau godi carlam, a chymerodd fy ngheffyl i yn ei ben i yru ffwrdd, ond fel y bu'r hap yr oedd digon o le iddo redeg faint y byd a fynai. Ond fel y bu gwaetha'r modd yr oedd yn frwd anghyffredin, gan fod pob awel o wynt fel yn diflanu fel yr oeddym yn dynesu at y m6r. Arosodd y eeffyl gydag amser, heb iddo ef na minau gyfarfod ag un damwain. Wele ni yn awr ar la.n y M6r Marw. Yr oedd tarth yn gor- chuddio y mor, ond ymddangosai'r dwfr yn berffaith loew. Yma ac acw ar y lan gwelsom ddarnau o goed wedi eu canu gan effaith yr halen, ac yr oedd yr olygfa yn un berffaith anghyfanedd—yr haul yn taflu ei belydrau tanbeidiol i lawr a dim un math o gysgod i'w gael yn un man. Profai'r dwfr yn chwerw hallt. ClywLAis fod dyn rhyw dro yn ym. olchi yn y dwfr, a chan ei fod yn methu dyfod i'r lan neidiodd ei gyfaill i mewn ar ei ol, â'i ddillad am dano, a chan fod y diwrnod yn frwd meddyliai y sychai ei ddillad yn y gwres, ond cyn pen hir aeth ei ddillad mor stiff fel y bu raid ei dynu i lawr oddiar ei geffyl a gorfu llifio ei ddillad oddiam dano fel pe baent yn estyll. Ar ol crynhoi ychydig gregin cychwynasom ar ein taith drachefn, ganhwylio ein camrau ychydig tua'r gogledd, a chyraeddasom lanau'r Iorddonen ymhen awr. Yr oedd yr olygfa hon yn wahanol iawn i'r hon ag yr oeddym newydd adael. Ar bob ochr i'r Iorddonen tyfai corsenau hirion-rhai o honynt yn ugain troadfedd o hyd. Y I mae rhywbeth yn rhyfedd ac ofn&dwy ynghylch y Mõt Marw a'r gwastadedd 110 y mae Sodom a Gommora wedi eu clad3.u, ynghyd a'r bryniau gwynion sydd yn amgylchu'r mor ae y mae cael o golwg ar lanau gwyrddlas a ehoedydd cysgodol yr Iorddonen yn adnewyddu fy nerth. YC oedd y gwres yn angerddol. Yr unig greaduriaid a ym- ddangosent fel pe ynmwynhau eu hunain oedd nifer o gamelod ag oedd wedi eu troi allan i bori. Dis- gynasom wrth Ryd y Pererin (The Pilgrim's Ford), lie y bernir y cafodd ein Harglwydd ei fedyddio. Bum yn ymolchi yn y fan yma, a mwynheais swim iaohus. Y mae'r afon yn y fan hyn yn chwyrn a'r dwfr yn lleidiog—y glanau yn wyllt, a'r coed yn llawn dail. Gorchuddir y glanau gan oleanders a pherthi blodeuog eraill, ao y mae Jackals ac Hyenas yn cartrefu yma a dywed ein arweinydd fod y teigr a'r llewpard i'w gweled yma weithiau. Y mae'r nadroedd sydd yma yn rhai gwenwynig iawn, a dywed y Dragomau ei fod wedi cael ei ddilyn gan un ryw dro. Saethodd hi yn ei phen a mesurau 22 troedfedd. Cychwynasom yn y prydnawn tua Jericho, yr hon a gyraeddasom ymhen dwy awr, Cawsom y pebyll wedi eu codi yn barod. Saif ar fan prydferth, wrth droed mynydd, ond pentref byoban iawn yw yn awr, yn gynwysedig yn unig oychydig dai o glai, ao y mae'r trigolion yn dwyn yr un oym- eriad yn awr ag yn amser ein Hiachawdwr. Dy- wedir eu bod oil yn Iladron. Yn yr hwyr daeth rhai o'r brodorion o flaen ein pebyll i ganu a dawnsio. Cyneuodd Capt. Peuno fagnesium wire, yr hyn a'u synodd yn fawr. Y mae yn ddrwg genym fod y Cadben yn ymadael yfory, gan ein bod yn barti bach dedwydd iawn. Ehaid iddo ddychwelyd i Cairo at oi gatrawd. (I'w barhau.)

ADGOFION CYJFEKEDINOL.

LLOFFION A NODIADAU.

YR ESGOB A GWRAIG. CURAP-ÐYRCHAFIAD…

MARW 0L AETHMRJS. LEWIS HARBIS,…