Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

NODIADAU WYTHNOSOL GAN IDRIS.

[No title]

[No title]

HctogWton Cgfftrtuiol.

News
Cite
Share

HctogWton Cgfftrtuiol. DAMWAIN ANGEUOL.—Yn y Buck Hotel, Gwrec- sam, ddydd Sadwrn, cynhaliodd Mr. B. H. Thel. wall, crwner, drengholiad ar gorph Stephen Jones, glowr, 23 mlwydd oed, yr hwn a niweid- iwyd drwy i ddaear gwympo arno yn Nglofa Gwrecsam ac Acton, ac a fu farw oddiwrth y ni- weidiau hyny yn Ysbytty Gwrecsam. Bhoddwyd tystiolaethau ynghylcli yr anffawd gan Mri. Jonathan Dodd, William Tomkins, a J. L. Hed- ley. Dychwelwyd rheithfarn o Farwolaeth Ddamweiniol." MR. PJSITCHABD MORGAN. Dydd Sadwrn, wythnos i'r diweddaf, cynhaliwyd gwyl flynyddol gyntatcioddfa Mr. Morgan. Rhoddoddy perchenog giniaw rhagorol i'w holl weithwyr am haner dydd. Ar ol y ciniaw traddododd Mr. Morgan anerchiad hyawdl i'r dynion yn ystod yr hwn yr olrheiniai hanes y darganfyddiau yr aur yn Ngwynfynydd. Ar ol vr anerchiad daeth dirprwyaeth o Ddol- geilau i'r He yn cynwys Dr. E. Jones, Y.H.; Dr. Thomas, Mr. J. Meurig Jones, Mr. VV. Hughes, Mr. W. Williams, Mr. G. Armfield, a Mr. John Evans. Traddododd Dr. Edward Jones araoth ddyddorol ar yr achlysur, a darllenodd Mr. Charles Millard anerchiad oddiwrth bobl Dol- gellau i Mr. Morgan, i'r hyn yr atebwyd yn briodol gan Aur Frenin Sir Feirionydd." Ar ol hyny cynhaliwyd mabolgampau mewn cae ger- llaw Bryntirion, pryd y rhanodd Mr. Morgan nifer liosog o wobrwyon. DAMWAIN DDYOHRYNLLYD YN NYFFRYN NANTLLE. —Yn Ciiwarel Talysarn, boreu dydd Sadwrn di. weddaf, cymerodd un o'r damweiniau mwyaf difrifol le megis ar darawiad llygad. Yr oedd nifer o chwarelwyr yn gweithio ar step uwcbben dyfnder oddeutu haner cant o latheni. Defnyddid matth o graen neu jam i godi ceryg o step islaw; pan fyddis wedi eodi careg i fyny gyfeibyn &'r "5 gwcitlÚd, byddis yn ga-fael yn y gadwen or tyna y gareg ar y step, yna gollyngid yn llac fel y byddai yn gorphwys ar y step lie y gWeithid. Tra yr oedd un o'r dynion o'r enw William T. Williams, Ty'nrhos, Groeslon, yn y weithred o afael yn y gadwen er tynu y gareg ato, tra y byddai y Ileill yn slacio, rhoddodd y gadwen ys- gytiad neu blwc sydyn, gan ei gipio dros yr ymyl nes y disgynodd i'r dyfnder mawr islaw. Yr oedd y trancedig yn hollol farw pan aed ato. Cydym- deimlir yn fawr a/i briod drallodus, ac helyd a/i blant bychain — pedwar mewn nifer. Dyma rybudd difrifol i gyraeryd pob gofal wrth weithio ar stepiau. Mab ydoedd y trancedig i Thomas Williams, Ty'nrhos. Yr ydoedd yn ddyn gweith- gar, hynaws, a chrefyddol, a theimlir colled fawr ar ei ol. YSGOL GENETHOD CYMREIG ASIIFORO.—■Bhaniad y Gwobrivyon.—Form Pripes.-Form VI.— Annie Richardson, Wolf's Castle, general pro- ficiency Mable Issard, Newtown, religious knowledge'; Rachel Jones, Llandysil, English Ella Gladdisli, Bridgend, Latin Bertha Kate Jones, Llangollen, French; Edith Lomax, Here- ford, mathematics. Form Upper V.—Florence Griffiths, Hay, religious knowledge; Mary Lewis, Trelowis, English Mary Jane Jones, New Quay, Latin; Ethel Daniel. London, French; Lizzie Owen, Newport, mathematics. Form V.-Orace Rowland, Whitland, religious knowledge; Annie Robotliam, Pontypridd, English; Agnes Evans, Ynysrwyddfa, Latin; Katie David, Porthcawl, French Maggie Davies, Newtown, mathematics. Form IV.-Liilio Gower, Monmouth, religious knowledge Margaretta Lewis, Llandvsil, English; Annie Witchell, Blaenavon, mathematics Florence Hazel, Swansea, languages. Form III.—Sarah L. Davies, Monmouth, religious L-fiowledLe: Marv Jane Llovd. Aoervstwvth. .o-, English Nellie Gladdish, Bridgend, arithmetic Esther Stephens, Llanstepixan, languages. Form II.—Cbrissie Williams, London, religious know- ledge Katie Henry, Bridgend, English; Edith Lewis, Pontypridd, arithmetic; Selina Cole, Abergele, languages. Form I.—Lily May, Lon- don, religious knowledge Florence Hall, Mon- mouth, English; Beatrice Clayton, Carnarvon, arithmetic Gwendoline R. Davies, Bridgend, languages. Special Prizes.—Music 1, Annie Richardson, Wolfs Castle 2, Kate David, Porth- cawl 3, Margery Jenkins, Dowlais. Drawing: 1, Mary Edith Tlicinag, Llantarnam 2, Edith Francis, Bedford Leigh; 3, Marion Hicks, Lon- don. Needlework Wenona Pughe, Aberdovey. Drill: Edith Domax, Hereford. CYHUDDIAD DIFRIFOL. Dydd Sadwrn bu i reitbwyr mewn trengholiad yn Nghaerdydd ddwyn rheithfarn o "Lofruddiaeth Wirfoddol yn erbyn dwy wraig, o'r enwau Mrs. Wilson a Mrs. Eees. am gyflawni triniaeth feddygol ar ddynes briod ieuanc o'r enw Mrs. 'Williams, yr hyn a achlysurodd ei marwolaeth. Yr oedd y drancedig yn ferch-yn-nghyfraith i glerigwr o Eglwys Loegr. DIENYDDIAD JACKSON.-Hysbysir y bydd i ddi- enyddiad Jackson, yr hwn a gafwyd yn euog yn mrawdlys Manchester, yr wythnos ddiweddaf, » lofruddio Webb, y gwarcheidwad cynorthwyol yn ngbarchar Strangeways, Manchester, gymeryd lie yn y carchar dywededig, dydd Mawrth, Awst 7fed, am wyth o'r gioch yn y boreu. Darperir deiseb i'w chyflwyno i'r Ysgrifenydd Cartrefol ar ran Jackson. Dadleuir ynddi na roddwyd un dystiol- aeth i dclangos i'r gwarcheidwad gael ei daraw, ac nad oedd yna ddim i ddangos fod yna fwriad i ladd, ac oherwydd anhawsder cvfreithiol, nad oedd dadleuydd y carcharor yn meddu hawl i ofyn i'r rbeithwyr a oedd yna y fath fwriad. Oherwydd hyny, yr oedd y deisebwyr yn deisyf ar i'r dded fryd o farwolaeth gael ei chyfnewid. AELOD GWYDDELIG YN Y DDALFA.—Yn hwyr nos Fawrth, daliwyd Mr. James O'Kelly, yr A.S. droa Ogledd Roscommon, ar y cyhuddiad o anog ei etholwyr yn Boyle i beidio rhoddi eu tystiolaeth mewn ymchwiliad a gynelid o dan yr hyn a eilw ef yn adran "Star Chamber" o Gyfraith y Trcssddau. Rboed gorchymyn pendant gan yr awdurdodau yn Scotland Yard i ochel un olygfa. yn nghymydogaeth Ty'r Cyffredin. Yr oedd My. O'Kelly yn y Ty yn ystod yr awr giniaw, ond, taa un ar ddeg, aeth oddiyno, gan fod ganddo rbyw fusnes i'w wneyd yn y ddinas. Dilynodd yr heddgeidwaid dirgelaidd ef i orsaf Ffordd Haiarn y Dosbarth, a theithiasant yn yr un tren i Mark- lane, ac yno cymerasaat ef i lyny. Nid oedd un o'r aelodau Gwyddelig yn gwybod ei fod wedi ei gymeryd i'r ddalfa hyd y boreu canlynol. Treuliodd Mr. O'Kelly y noson yn 'Whitehall Place; ac am un o'r gloch ddydd Mercher, cym- erwyd ef i orsaf Euston, ac aeth oddiyno i Dublin. Sibrydir fod gwysiau wedi cael eu rhoddi allan j. ddal Mr. Leamy, ac aelodau Gwyddelig eraill. DYFODIAD ETIFEDD. NANTLYS I'W OED.—Cym. erodd cryn rialtwch le yn Nantlys, ger Llanelwy, palas Mr. P. P. Pennant, ddydd Mercher ar ach- lysur dyfodiad yr etitedd, Mr. David Falconer Pennant, i'w oed. Ymgynuliodd nifer liosog i'r pare, lie yr oedd te wedi ei ddarparu ar eu cyfer gan Mr, a Mrs. Pennant. Yn ystod y prydnawn darfu i'r Milwriad Mesham, ar ran cyfeiUion ac ewyllyswyr da, gyflwyno anrheg i Mr. David F. Pennant o urn arian ardderchogj a salver pryd- ferth ac yr oedd yn gerfiedig ar y naill a'r llall o honynt arfbeisiau teuluoedd y Pennant a'r Pearson. Ar ran y tenantiaid yn Nhreffynon ac- Ysceifiog, cyflwynodd y Parch. D. Morgan, fieer, Ysceifiog, inkstand a tray arian i'r etifedd. Cydnabyddodd Mr. David Pennant yr anrhegion hyn yn ddiolchgar; a diolchodd i'w gyfeillion a'i. gymydogion am y dyddordeb a gymerent ynddo,, ef a'i denlu. Cymerodd amryw chwareuon Ie ya ystod y prydnawn, pan y difyrid hwy gan seindor. gwirfoddolwyr Dinbych. Croesawyd tenantiaid Ysceifiog a Threffynon i giniawa yn y Beuno Inn, a dydd lau gwnaecl darpariaeth gyffelyb ar gyfer tenantiaid Tremeirchion a Bodffari, CYMBXT FYDD." Dydd Sadwrn cynhaliodd cymdeitliasau Cymru Fydd," yn cael eu cyn. orthwyo gan gymdeithasau Rhyddfrydol Batter- sea a Clapham, arddangosiad gwrthddegymol yn Mbarc Battersea- Er nad oedd y tywydd yn ffafriol yr oedd nifer liosog wedi i wran, daw ar v gwahanol ddoniau. Yr oedd seindorf ynr blaenori gorymdaith gyda banerau drwy yr heolydd. Yn y prif gyfarfod cymerwyd y gadair gan Mr. Octavius V. Morgan, A.S., Cyinro, meddai ef, yr hwn a wnaeth y sylwadau ystryd- ebol arferol ynghylch y degwm a'r dadgysylltiacl. Dywedai efe mai un o'r pethau cyntaf a wnelai y Rhyddfrydwyr ar ol iddynt gael eu dychweiyd i awdurdod a fyddai dadsefydlu yr Eglwys yn Nghymru. Cynygiodd Mr. W. Willis bleidlais o gydymdeimlad a. ffermwyr Cymru. Cefnogwyd hyn gan Mr. T. E. Ellis, A.S., Mr. Pickersgill A.S., Mr. Roy, a Mr. J. C. Morton. Cynygiwyd fod i'r Cymry gael llywcdraethu eu materion eu hunain gan Mr. Morton, yr hyn a gefnogwyd gan Dr. Humphreys a Dr. McKenna. Traddod. wyd areithiau mewn cyfarfod arall gan Mr. J. Bryn Roberts, A.S., Mr. Matthews, Mr. W. J. Lloyd, Mr. W. Davies, a Dr. O'Neill.

[No title]

[No title]