Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
LLANFWROG.1
LLANFWROG. Dydd Gwener, y 13eg o'r mis hwn, cafodd aelodau Ysgol Sal yr Eglwys de a bara brith yn JTghoed Marchau. Ffurfiodd yn orymdaith yn yr ysgoldy, a blaenorid hwy trwy y dref gan seindorf breB y gwir- foddolwyr. Wedi i'r ysgolheigion wneyd cyfiawnder a'r te a'r bara brith, cafwyd chwareuon diniwed, yr hyn a fwynhawyd gan bawb oedd yn bresenol.
CEINEWYDD.
CEINEWYDD. Dydd Mawrth, ymwelodd Mr. Helm a Mr. Richards (Afonwyson) a'r lie prydferth ac iachus hwn, er tra- ddodi anerchiadau ar bwnc yr Eglwys yn Nghymru, neu, fel yr oedd ar y posters, Yr Eglwya a'r Degwm." Yr oedd yr adeilad eang wedi ei orlenwi, a lliaws Mawr, o'r gwrthddegymwyr wedi rhengu eu hunain. Ond rhaid yw dweyd eu bod wedi ymddwyn yn hynod dda ar y cyfan. Mae yn wir fod yn y dorf ambell i ynfytyn a gwag-ben; ond nid oes genym rhyw le i achwyn llawer. Nid pobl "y Cei" oedd y penweig hyn. Siaradodd y darlithwyr am yn agos i dair awr, a thrafodasant y pwnc 0 bob cyfeiriad. Dichon nad oedd pawb yn cyduno a. ni, ond y mae llawer o'r Ymneilldu- wyr, a'r Y.H. yn en plith, fel Mr. Fisher, yn ymwrtbod a. dadlen y pwnc bellach. En damcaniaeth hwy ydyw, dienyddwch yr hen Eglwys, a pheidiwch caniatau iddi gael amddiffyn." Os na fedrant ddadlen y pwnc, rhaid mai achoB gwael sydd ganddynt, onide ? Cym- erwyd y gadair gan y Parch. Griffiths, y ficer.
LLANON, CEREDIGION.
LLANON, CEREDIGION. Ncs Lun diweddaf ymwelodd Mri. Helm ac Afon- -wyson a'r lie uchod, ar ran Cymdeithas Amddiffynol yr Eglwys. Yr oedd cynuileidfa rhagorol wedi ymgasglu i'r Ysgoldy 0 bob cyfeiriad, a chafodd y ddau ifoneddwr wrandawiad astud am yn agos i dair awr 0 amser; ac yr oedd yn amlwg ddigon fod y gwrandawyr yn cymeryd i fewn yr hyn a draddodid, ac yn ei fwynhau. Cymer- wyd y gadair gan Major Hughes, yr hwn a wnaeth eylwadau pwrpasol iawn. Yr oedd y cyfarfod drwyddo yn dra llwyddianus.
COCKETT, GER ABERTAWE.
COCKETT, GER ABERTAWE. Sul a Llun, Gorphenaf yr 8fed a'r gfed, cynhaliodd yr Eglwyu hon ei gwyl flynyddol. Boreu Sal dar- llenwyd y gwasanaeth, yn Seisnig, gan y ficer, y Parch- D. Roderick, a phregethwyd gan y Parch. J. T. HugheSc ficer Llanfihangel ar Arth. Yh y prydnawn cafwyd Ý Litani, yn Seisnig, gan y Ficer, a chafwyd pregetb Gymreig gan y Parch. J. T. Hughes, a Seismg gan y Parch. J. Stephen Davies, B.A.. St. loan, Hafod, Aber- tawe. Yn yr hwyr gwasanaethwyd gan y Ficer, phregethwyd gan y Parchn. J. T. Hughes, a Stephen Davies. NoL, Liin, gwasanaethodd y Parch. W. Ogwen Davies, St. Matthew, Abertawe, a phregethwyd yn Seisnig gan y Parch. T. Meredith Williams, ficer Waanwen, Abertawe, ao yn Gymreig gan y Parch. J- W. Roberts, ficer Felinfoel, Llanelii. Chwareuwvd ar yr organ boreu a pbrydnawn Sul gan Mr. Archibald Williams, mab y Parch. E. G. Williams, Glaslrvn, El nos Sul a IJlun gan yr organydd, Mr. David Hughee Gwnawd casgliad ar ddiwedd pob gwasanaeth at dreuliau yr Eglwys. Mae y sefydliad hwn yn tlll rhagorol o dda, mae blynyddau meiihion er pt1 gychwynwyd ef, ond nid yw henaint wedi effeithio di# arno er gwaeth, yr oedd eleni mor boblogaidd blodeuog ag y bu erioed, ac yr oedd y cynulliadau llawn mor lliosog ag a welwyd yma o gwbl. Yr oed» yr Eglwys yn llawn o wrandawyr drw'y yr oil o'r gwaS' anaethaii. Gobeithio y bydd i'r gwlith y clywso& ddweyd mor dda am dano ddisgyn ar ein harddel, fel t byddo pechaduriaid yn cael Ilea a Daw yn cae* gogoniant. Mor hyfryd ydoedd cwrdd ynghyd j Ar ddydd ein gwyl flynyddol, f I ganmol Duw a'i roddion rhad, | Ddydd i ni yn wastadol. I —Iovvcerth Morganwg. 1
LLANDDEINIOL.
LLANDDEINIOL. Bn y Parch. Hughes, Aberhonddu, yn cynal gwas- anaethau yn eglwys y plwyf uchod y Sul diweddaf, ar ran y Gymdeithas Fugeiliol Gynorthwyol Eglwysig. Cafwyd oynulliadau da, a chasglwyd swm dda iawn tuag at y gymdeithas.
GLYN EBBWY.
GLYN EBBWY. Ychydig iawn 0 haneB y Ilehwn a welir yn Y LLAN er pan ymadawodd yr enwog Glanmor oddiyma. Y plwyf poblogaidd hwn yw y rhan ddwyreiniol 0 hen blwyf Bedwellty, air Fynwy. Y mae y trigolion yn ymddibynu am eu bywoliaeth ar y gweithfeydd glo, haiarn, a dur sydd yn y lie; Y mae yr Eglwys wedi gwneyd darpariaeth helaeth ar gyfer anghenion ysbrydol y trigolion, canys y mae yma ddwy Eglwys, heblaw ystafelloedd cenhadol, sef Eglwys Crist, Glyn Ebbwy, a St. Paul, Cwm, y rhai sydd dan ofal yr offeiriad gweithgar, y Parch. Daniel Lewis, yn cael ei gynorthwyo gan dri 0 guradiaid. Y mae yma bedair 0 gynulleidfaoedd, tair Seisnig, ac un Gymraeg, y rhai sydd yn mynhan cyflawn freintiau Eglwyeig, ac Ysgol Sul yn perthyn i bob cynulleidfa: Arferai y pedair ysgol ddyfod ynghyd i'r un lie i fwynhau eu gwledd flynyddol odea bara brith, ond eleni penderfynwyd i bob ysgol gael ei gwledd ar wahan. ST. PAUL.—Dydd Linn, y 9fed cyfisol, anrhegwyd yr ysgol hon a'i gwledd flynyddol. Ymgasglodd aelodau yr ysgol, ac eraill, i'r Eglwys erbyn haner awr wedi dau, ac ar ol gwasanaeth. byr cawsant anerchiad addysgiadol gan y Parch. Ll. M. Williams, ficer Beaufort. Ar ol ffurfio yn orymdaith a myned trwyly He, yn cael en blaenori gan seindorf bres, aethant i'r man apwyntiedig i wneyd cyfiawnder a'r danteithion darparedig. EGLWYS CRIsT.-Dydd Mercher canlynol, yr lleg cyfisol, cafodd aelodau yr Ysgol Sul perthynol i'r Eg- lwys hon eu gwledd, a daeth amryw 0 offeiriaid y gym- ydogaeth ynghyd i gyd-lawenhau a ni. Yn yr Eglwys eawsom anerchiad rhagorol gan y Parch. Canon Evans, D.G., Rhymni. Yna aethom yn orymdaith ar ol y seindorf bres, y rhai a roddasant eu gwasanaeth i ni am y gweddill o'r dydd, tuag at y Ficerdy, lie yr oedd cyfiawnder odea bara brith wedi ei ddarparu mewn pabell ar y llanerch o flaen y ty. Aeth pobpeth ymlaen yn foddhaol i bawb, a dymunwn ddiolch i'r Ficer a'i gynorthwywyr am eu caredigrwydd.
REUTHYN.
REUTHYN. Dydd Gwener, y 13eg o'r mis hwn, cafodd aelodau Ysgol Sul Rhuthyn en pleserdaith i Abermaw, yr hyn a fwynhawyd yn fawr. Yr oedd y tywydd yn bob peth a allesid ei ddisgwyl, a'n dymuniad yw cael un arall y flwyddyn nesaf. Yn y cyfamser, yr wyf yn gobeithio, y gwnant eu goreu yn yr Ysgol Sul, ac y byddant yn fwy Ifyddlawn nag erioed yn ngwyneb yr holl ddifater- wch, annheyrngarwch, a phenrbyddid sydd yn bodoli yn y wlad, Y mae yn ddigon gwir, rhyw awr o amser a dreulir genych i ddysgu Gair Daw, er hyny dylai gael effaith briodol ar eich bywydau yn ystod yr wythnos. Y mae lie i ofni fod yr Ysgol Sul wedi colli ei dylanwad yn fawr yn bresenol, oddiwrth fel yr oadd-rhif yw'r ewbl yn bresenol, ac nid rhinwedd, nfudd-dod, a pharch i'r Beibl Sanctaidd. Y mae lie i ofni yn fawr nad yw y sefydliad hwn ddim amgen yn bresenol i filcedd 0 Gymru, na lie i ieuainc ddyfod at a siarad &'u gilydd, a rhoddi hanes y byd a'i bethau. Mewn g&ir, pob peth ond myned yno gyda'r unig ddiben 0 ddysgu, cadw mewn cof, a byw i fyny i orchymynion DllW a'i Fab Iesa. Y mae bywydau llawer o'r aelodau yn ystod yr wythnos, yn prcfi mai'r byd hwn a'i betbau sydd ar feddwl llawer o honynt, ac nid Gair Duw a'u heneidiau anfarwol eu hunain.
ABERAERON.
ABERAERON. Prydnawn ddydd Mawrth cynhaliwyd cyfarfod am 3 o'r gloch, mewn cysylltiad a'r Ddeoniaeth Wladol, er sefydlu cangen 0 Gymdeithas Amddiffynol yr Eglwys yn y Ddeoniaeth. Cymerwyd y gadair gan v Parch. Mr. Edwards, y Deon Gwladol; ao yr oedd yn "bresenol y Parchn. Mr. Evans, Llanddewi-Aberarth Griffiths, New Quay Williams, Glan Aeron; Jones, Cilcennin; Richards, Llandysilio, &c., a lliawa 0 leygwyr mwyaf dylanwadol yr ardal. Siaradwyd yn effeithiol iawn gan Mri. Helm ac Afonwyson, ar yr angenrheidrwydd a'r priodoldeb 0 sefydlu y canghenau hyn ymhob Deoniaeth Wladol drwy y Dywysogaeth. Da genym ddweyd fod y siarad wedi llwyddo, a bod cangen ddylanwadol wedi ei sefydlu, a'r Parch. Mr. Williams, Gan. Aeron, wedi ei nodi yr Ysgrifenydd jMygedol. Weithian, yr ydys yn lied obeithio y gwna y pwyllgor frysio i drefnu cyfrea 0 gyfarfodydd yn y ddeoniaeth ar fyrder, ac y gelwir am wasanaeth y ddau ddarlithydd ymhob cyfar- fod.
LLANWRIN. ;
LLANWRIN. Cymerwyd y gradd o M.A. yn mbrif Athrofa Rhyd- ychain ar y 7fed o'r mis hwn gan Mr. J. Henry Silvan- j Evans, B.A. (Oxon), mab y Parch. D. Silvan-Evans, ( B.D., rheithor y plwyf hwn.
GLYNCORRWG.
GLYNCORRWG. PIC-NIC Y COR CANU.—Ddydd Sadwrn diweddaf caf- odd aelodau y cor uchod eu pleserdaith flynyddol, ac yr oedd yr hin yn ffafriol dros ben. Fel y flwyddyn ddi- weddaf, Jubilee Beach Aberafon oedd eu dewisfan, ac aethant i lawr gyda'r Rhondda and Swansea Bay yn dorf gref, yn rhifo tua 53 0 gantorion. Go dda, onite, o le bychan fel Glyncorrwg ? Yr oeddent yn edrych yn gryno iawn pan yn cael eu harwain gan y Parch. R. Evans a'i gyfaill Bob. Mae y Bob hwn yn fodach rhyfedd dros ben, ac yn ymddangos fel teyrn yn y canine fraternity. Cynorthwywyd hefyd gan Miss Evans a'r ddwy Miss Jenkins, Ynyscorrwg, y rhai sydd yn ddiflino yn el1 llafur gyda'r achos da. Dill genym ddweyd eu bod wedi dychwelyd adref yn ddiogel oil, ac wedi mwynhau y trip i berffeithrwydd.
..HENDY GWYN AR DAF.
..HENDY GWYN AR DAF. Ddydd Llun wythnos i'r diweddaf, ymgyfarfu pwyll- gor yr Ysgolion Sul, 0 dan lywyddiaeth ein parchus Ddeon Gwladol. Ceiaiwyd gan yr ysgrifenydd mygedol ysgrifenn at Mrs. Norton, 0 Gastell Llacharn, a chyf- lwyno ein diolchgarwch gwresocaf iddi am ei haelioni a'i charedigrwydd mawr i ni ar y 26ain 0 Fehefin di- weddaf. Yn union ar ol hwn ymgyfarfu pwyllgor y Genbadaeth Ddeoniaethol. Cymerwyd y gadair gaa y Deon Gwladol. Penderfynwyd derbyn cynyg rhagorol y Parch. Canon Mason i ymweled a phlwyfi Seisnig y Ddeoniaeth yn miB Awst nesaf. Yr oedd yn bresenol y Parch. A. Britten, rheithor newydd Mydrim, yr hwn yn garedig a ymgymerodd &g ymweled a'r plwyfi Cym- reig i'r un pwrpas. Gohiriwyd y cyfarfod hyd ddydd Gwener, pan yr oedd yn bresenol hefyd y Parch. D. L. Davies, ficer Llanybri, yr hwn, ar gais y pwyllgor, a addawodd gynorthwyo y Parch. A. Britten yn mis Awst. Gyda bendith y Pen Mawr disgwylir y bydd ein gwasanaethau cenhadol yn adfywiad i'n Heglwys. Coded yr offeiriaid a'r lleygwyr at eu gwaith, a llefwn am yr eneiniad nefol. Hyderwn yr adferir y rhai hyny ag ydynt wedi myned "fel defaid ar gyfyrgoll," ac y b dd Y dyddian tawel yn Llanbedr Felfre a'r genhad- aeth yn symbyliad ac adgyfnerthiad ysbrydol i ni oil, fel y byddo yn ddechreuad cyfnod newydd yn hanes ein bywyd crefyddol. Dydd Gwener, yn Mydrim, gosodwyd y Parch. A. Britten mewn meddiant o'r rheithonaeth hono gan yr Hybarch Archddiacon James, Abergwili. Cafwyd gwasanaeth cynes, ac anerchiad eglur a phwrpaBol ar ddyledswyddau'r Eglwys ganddo. Nid oes eisiau i ni ddweyd dim am gymwysderau y Parch. A. Britten, gan fod ei glod yn yr holl Eglwysi. Gwnaeth waith da, rhagorol yn Llanelli, Dafen, a Phembryn. Y mae yn bregethwr hyawdl ac yn weithiwr llwyddianus yn y winllan. Yr ydym yn llongyfarch pobl dda Mydrim ar yr apwyntiad, ac yn croesawu ein cyfaill i'n mysg yn ein deoniaeth. Eiddunwn fendith y nef ar ei ymdrech- ion eto. Yn nghyfarfodydd y pwyllgorau uchod yn yr Hendy Gwyn yr oedd yn bresenol:—Y Parchn. S. Davies, Llanglydwen; O. Thomas, Cyffig; T. Davieo, Llan- gan; B. H. Jones, Cilmaenllwyd; S.Rowlands, Eglwys Fair; E. F. Lewis, Llanfallteg; T. Jones, Llanddow- ror Miss Bowen Jones, Mrs. Thomas, Parke; Mr. Davies, Bank, St. Clears, &c. Yr ydym yn dymuno talu diolch i Mr. Thomas, o'r Derry, am ei danysgrifiad o haner coron at y Wasg Eg- lwyeig Gymreig. Dilyned eraill esiampl Mr. Thomas.
GWRECSAM.
GWRECSAM. Nos Fawrth, y lOfed cyfisol, gweinyddwyd y ddefodo arddodiad dwylaw gan Arglwydd Esgob Llanelwy, pan yr ymgynullodd nifer fawr i eglwys y plwyf. Yr oedd yr oil o'r ymgeiswyr, y rhai a rifent 40, yn aelodau o'r Fyddin Eglwyaig. Dywedir fod y fyddin yma yn awr yn rhifo tua. cant 0 aelodau. ac y mae y gwaith da yn cael ei ddwyn ymlaen gydag yn a brwdfrydedd. Ar y noswaith dan sylw, daeth y fyddin ynghyd i'r Mission Hall am saith o'r gloch, ac wedi gv;asanaeth byr aeth yn orymdaith i'r eglwys, yn cael ei blaenori gan y seindorf ac offeiriaid y plwyf. Yn yr eglwys darllen- wyd y gwasanaeth gan Canon Howell, a'r llith ar yr achlysur oedd Josua xxiv. 14-26. Anerchodd yr Esgob y rhai oedd yn myned i gael eu conffirmio mewn iaith blaen a syml, gan ddangoa iddynt amcan a diben yr ordinhad. Wedi y gweinyddiad cefnogodd hwy mewn geiriau pwrpasol i fyned ymlaen yn nerth yr ysbryd, ac 1 ymladd 0 dan faner Crist yn erbyniy byd, y cnawd, a'r diafol.
LLYWEL.
LLYWEL. EGLWYS YCHWANEGOL I'BPLWYF.—Dyddiau diweddaf rhoddwyd i aelodau Ysgolion Sul a Dyddiol Llywel a Threcastell eu gwledd biynyddol o de a bara brith, yn yr Ysgoldy Genedlaetbol. Wedi i bawb gyrneryd o'r danteithion oeddynt wedi en parotoi ar eu cyfer, ffnrf- iwyd gorymdaith, yn cael ei blaenori gan y Trecastle Drum and Fife Band, a symudwyd tua Pont-ar-hydfer, lie y mae eglwys ychwanegol yn cael ei hadeiladn i'r rhan hono o'r plwyf. Ar ol i'r Ficer fyned tiwy y ffnrf 0 wasanaeth sydd wedi cael ei awdardodi i'r esgobaeth hon ar yr achlysur 0 osod careg sylfaen, gosodwyd careg sylfaen yr eglwys newydd i lawr gan Mrs. Jeffreys, Castle House, i'r hon y cyflwynwyd mallet ar- dderchog gan Mr. J. Anthony, yr adeiladwydd. Yna canwyd yr emyn, "Un Sylfaen fawr yr Eglwys," yn odidog gan y cor a'r dorf oedd yn bresenol, yn rhifo oddeutu 300, o dan arweiniad Mr. Thomas Thomas, Fedw. Ar ol y ceremoni anerchwyd y gynulleidfa yn bwrpasol iawn gan y Parchn. T. Jones, ficer; W. Evans, ficer Crai, a W. Williams, curad Llywel. Ar ol y Fendith-awd i gae cyfagos, oedd wedi ei roddi yn fenthyg i ni trwy garedigrwydd yr hen frawd gwresog a thwymngalon Mr. Howell T tiomas, fcrtia, ac yno y darfn i ni fwynhau ein hunain mewn pob math o chwareuon.
CWMAFON.
CWMAFON. GYFLWYNO TYSTEE.—NOS Fawrth diweddaf, yn yr ysgol ddyddiol, cynhaliwyd cyfarfod Jlewyrchus iawn o ganu, adrodd, ac areithio, pryd y cyflwynwyd tyateb i'r browd anwyl Mr. Evan Thomas Davies, arweinydd y cor yn Eglwys y plwyf hwn, ar yr achlysur o'i briodas a. Miss Mary Elias, aelod o'r cor nchod. Cym- erwyd y gadair gan y Parch. John Griffiths, D.G., ficer y plwyf. Wedi i'r cadeirvdd ddatgan amcan y cyf- arfod, awd yn y blaen yn y drefn a ganlyn :-Cann gan Miss Waters a'i pharti; can gan Mr. Thomas Richards. Darfu i Miss Waters a'i pharti gann dair gwaith. Y gorchwyl nesaf oedd cyfiwyDo y dysteb: marble clock, ac arno yn ysgrifenedig:—" Presented to Evan Thomas Davies by his Church friends for his faithfulness as Choir-master and Sunday School teacher of the Parish Church, Cwmafon, June, 1888." Galwodd y cadeirydd parchus ar Mrs. Griffiths, Ficerdy, 1 gyflwyno yr awrlais i Mr. E. T. Davies, a chafwyd araith bwrpasol iawn ganddi yn Saesneg. Diolchodd Mr. E. T. Davies iddynt yn Gymraeg a Saesneg am y rhodd werthfawr hon, ac am y teimladau da yr oeddynt wedi ddangos tnag ato. Siaradwyd yn bwrpasol iawn i'r achlysur gan ein ficar parchus, Mr. Griffiths, Mr. Jenkins, ein curad, Mr. Alfred Roberts, Mr. Elias Elias, Mr. Thomas Phillips, a Mr. John Afan Davies. Dylaswn ddweyd fod Band of Hope Eglwys y plwyf hwn wedi canu yn y eyfarfod hwn 0 dan arweiniad Mr. rom Richards, tra y chwareuai Mr. E. T. Davies ar yr harmonium. Cawsom gyfarfod wrth fodd ein calon, a lymunwn i lwyddiant mawr ddilyn y par ieaauc.- T,A,D.
BRYNAMAN A'R CYLCH.
BRYNAMAN A'R CYLCH. LLANFAIR CWMGOP.S.—Dydd Sal, yr 8fed cyfisol, ym- gynullodd Ysgolion Snl Eglwys St. Catherine, Eglwys Cwmaman, a Glanaman, i'r eglwys uchod. Bu disgwyl- iad mawr am y diwrnod, ond gwawriodd, ac anian megis ar drengu. Eithr tua chanol dydd symudwyd y lleni cymylog oddiar ffenestri y nefcedd, a pheri i'r hnan ymddangos mor siriol ac erioed, gan daflu ei phelydrau llachar i Joni dyn ac anifail. Wedi myned i'r eglwys am ddan o'r gloch brydnawn, cafwyd gwledd y mae pob Eglwyswr twymngalon yn ei hoffi. Llafar- ganwyd y Litani gan y Parch. David Griffiths, offeiriad Cwmaman, a'r corau yn cann y responses. Wedi canu emyn adroddodd Ysgol Sal Llanfair benod o'r Rhodd Mam dan athrawiaeth Mr. Morgan. Llongyfarchwn Mr. Morgan ar ei holl ymdrech gyda'r gwaith da. Diamen ei fod yn llafurio dan lawer 0 anhawsderau, am ei fod mewn congl mor ddallbleidiol o Radicalaidd a sectyddol. Eto, da genym alln dweyd fod yr Eglwys yn llwyddo. Yn nesaf, holwyd yr ysgolion eraill gan Mr. Griffiths, yn y chweched pwnc o'r Credo (Griffith Jones.) Yna canwyd yr anthem Cenwch gan 0 fawl" (Stainer) gan y corau. Cafwyd araith alinog, hyawdl, a didderbynwyneb, gan y Parch. John Morlais Jones, curad Brynaman. Nid oos raid i Mr. Jones wrth gan- moliaeth, ond y mae ei ymdrech yn weladwy yn nifer lioscg ei gynulleidfa, a'r wedd lewyrcblls sydd ar ei eglwys. Terfynwyd trwy ganu emyn. AeSih pawb allan wedi ei Iwyr foddloni, yr hyn oedd yn ganfydd- adwy yn y wyneban siriol. CWMAMAN.—Nos lau canlynol cafwyd rehearsal yn eglwys y lie uchod i barotoi gogyfer & dydd y gymanfa, yr hon sydd i'w cbynal yn Llanelli, ddydd Mawrth, y 24ain cyfisol. Daeth corau Eglwysi y Bettws, Cwm- aman, a Brynaman yngyd, pryd yr arweiniwyd gan Mr. Radcliffe, Abertawe, yr hwn a gafodd ei foddhau yn yr ymdrech oedd i'w ganfod gyda y gwahanol gorau er perffeithio cerddoriaeth y cysegr. Y mae i'r dyffryn yma agwedd ddymunol yn bresenol. EBENEZER, B.RYNAIAN.-Dydd Sadwrn, y Meg cyfisol, daeth tyrfa liosog 0 blant a deiliaid Band of Hope y lie ynghyd, er mwynhan eu hunain yn eu gwledd flyn- yddol. Yr oedd y byrddaa wedi en hulio a'r danteith- ion goreu, a phawb yn llawen ac yn siriol yn ymddangos yn gwneyd cyfiawnder a bwynt. Y mae dirwest yn dra llewyrchus yma, ond eto Ily,mae lie" i symud ymlaen gyda'r gwaith da hwn. Y mae yn rhaid sobreiddio dynion cyn eu barwain at y gwir a'r bywiol Dduw, lley cant fan diogel, lloches rhag y dymeati, a chysgod rhag y gwres. Nis gall yr efengyl wneyd ei gwaith os na chaiff ddyn sobr. Rhaid trwsio y galon a phirotoi cyn gofyn am fendith. Yn yr hwyr cafwyd cyfarfod adlon- iadol, pryd yr adroddwyd darnau tarawiadol gan amryw o'r plant, ac anerchwyd y cyfarfod hefyd gan rai o'r brodyr dirwestol. Anogwyd i fod yn gadarn dros yr egwyddor ddirwestol er ceisio sobreiddio y byd, ac arwain y meddwon i dir mwy diogel. ST. CATHERINE.—Dydd Sul diweddaf cynhaliwyd cyfarfodydd blynyddol yr egiwys uchod. Yn y boreu pregethodd y Parch. J. M. Jones, am ddau llafarganwyd y Lita,ni gan Mr. Jones, a phregethodd Dr. Waiters, 1 Llan^amlet; ac yn yr hwyr liafarganwyd ygwasanaeth gan y Parch. D. Griffiths, Cwmaman, a phregethwyd gan y Doctor. Yr oedd yr bin yn lied anffatriol, ond cawsom dyrfa liosog, a gwledd ysbrydol felus. Gobeithio y caiff y cynghorion dwys ystyriaeth fanwl pob un fel y byddo ifrwyth toreithiog yn canlyn, a Duw yn cael ei yn cael ei ogoneddu. Yr Arglwydd o'r nef gaffo'r clod, a'r angylion fyddo yn cael testvn i lawenhaa am ryw J hen bechaduriaid yn troi o'u ffardd ddrygionus i ofyn am eu golchi yn y fryron,, a darddodd ar y bryn gan ddywedyd Golch fi a byddaf wynach na'r eira." Ar- ddeled Duw ei waith, a. thywaUted ei fen(lith arno.- Gohebydd.
DOWLAIS.
DOWLAIS. GWFL DE FLYNYDDOL YSGOLION SUL YR EGLWYS YN MHLWYF DOWLAIS.-Dydi lau, y 12fed o'r una hwn, ymgyfarfl1 y gwahanol ysgolion yn chwareule yr yagol- dy am chwarter wedi dau, ac ymffurfi wyd yn orymdaith yn y drefn ganlynol :-(1). Ysgol Sul yr Eglwys Saesneg, (2) Pant, (3) Penygarnddu, (4) Gellifaelog, (5) Eglwys Gymraeg. Chwareuid o liaen yr orymdaith gan seindorf bres y gwirfoddolwyr, odan arweiniad Mr. E. O'Neill, ar y ffordd i'r Eglwys Gymraeg, He y cafwyd gwasanaeth byr. Yna ail-ymffuifiwyd yn orymdaith, a cherddwyd trwy amryw o'r prif heolydd, ac yn eu piith heol Bryntirion, yr hon oedd hyd yn hyn heb ei chysegru. Yr oedd golwg hardd ai- ir orymdaith. Y seindorf bres yn eu gwisgoedd cochion, a llumanau a banerau yr amryw ysgolion yn chwifio yn yr awel. Ac wrth sylwi ychydig gwelid nad oedd neb yn y plwyf yn rhy falch i uno yn yr orymdaith na neb chwaith yn rhy dlawd. Yma yr oedd y tlawd a'r cyfoetbog, y gwreng a'r bonheddig, wedi ymgyfarfod. Erbyn cyrhaedd yr ysgoidy yr oeddy byrddan wedi en destlua barotoi gan ryw ddau ddwsin o wragedd o'r gwahanol ysgolion. Mr. T. Lloyd, fel arfer, ddarparodd y deisec, ac yn wir, ys dywed un o'r Ymneiliduwyr oedd yn bresenol, yr oedd yn lan." Wedi gorphen y tê, aeth- pwyd allan i'r bryniau, a'r seindorf yn arwain. Yma yr oedd rhaglen faitoh a threfnus wedi ei darparn gan bwyllgor y chwareu. Yr oedd yr ymgeiswyr yn lliosog a brwdfrydig, ac ofnwyd fwy ;na,, unwaith y byddai i Mr. R. P. Rees, a Mr. M. Lewis, ddyfodi ddrwg gan fel y gwa^gai f to ieuanc arnynt. Ond do. genym ddeaIl i amynedd y ddau ddal allan a rhoi mawr foddlonrwydd i'r oil o'r ymgeiswyr. Cafwyd diwrnod braf iawn o ran yr hin, a mwynhawyd yr oil o'r trefniadau^jan bawb— yn gystal edrychwyr a chyfranogwyr.—Gohehjdd.
LLUNDAIN.
LLUNDAIN. Pa nn, ai diwertb ac islaw sylw y cyfrifir misolion a phapyrau wythnosol Eglwysig yn y Brif ddinas, a'i di- faterwcb, diystyrwch, neu ochelgarwch yn en prynu yw y rheswm y dosberthir mor ycbydig o honynt, nis gwn. Y mae yn ffaith mai ychydig bach iawn 0 gefnogaeth a roddir i lenyddiaeth Eglwysig yma. Cymerwcli fel engraifft ddosbarthiad Y LLAN A'R DYWYSOGAETH yn Llandain. Fe vvyr y Golygydd pa faint a werthir yma o hono, a theimlaf yn sicr pe cyhoeddid y rhif y codai wrid i wyneb llawer pentref bychan ar odrau ami un 0 fynyddoedd Cymru gan mor ychydig ydyw. Yn y Genhadaeth, Paddington Green, W., chwech a ddos- barthii, a synaf yn ddirfawr os dosbel tbir gymaint a hynyna mewn unrhyw fan arall yn y ddinas. Yr un modd y gellir dweyd am gyhoeddiadau eraill Eglwysig. Uefnogaeth wael a gânt-dim gwerth son am dano. Fe fydd ambell i gyfaill ffyddlon yn prynu un, ac fel y gwnelid er's talm, pan oedd yr arian yn brin a phapyr yn ddrud, yn ei anfon 0 law i law. Meddyliwch ddar- llenwyr Y LLAN am y ddinas fawr yma, a'i thrigolion Eglwysig Cymreig, i'w cyfrif wrth y canoedd, eto, y mae cefnogwyr Y LLAN yn llai na dwsin Mae Mr. John Pearce yn dosbarthu Y LLAN yn y Genhadrwth yn ffyddlon, a theimlaf yn sicr y gwna efe ei oren i hyrwyddo ei dylanwad a'i chylchrediad, oblegid y mae ei gariad mor fawr at yr Eglwys fel y gwna ei oreu i gynorthwyo pawb i fod yn wybyddus a materion Eg- lwysig, ac i ddiwyllio en meddwl, Rhodder, gan hyny, brawf arno, a rhodder cefnogaeth uniongyrchol i'r papyran oil. Mae genyf reswm neillduol am roddi gair o gefnogaeth i lenyddiaeth Eglwysig yn Llundain, a hwnw ydyw ceisio ysgwyd a chynhyrfu Eglwyswyr ola hystad 0 gysgadrwydd a difa;terwch i gydio gafael yn y manteision sydd 0 fewn eu cyraedd am ychydig geiniogau, Credaf hefyd ei bod hi yn ddyledswydd ar offeiriaid i gymell hyn weithiau ar eu cynulleidfaoedd. Anfantais fawr iawn i'r Eglwys bob amser ydyw fod ei haelodau yn swrth a difater; mae'r ysbryd yna mewn £ rhai yn effeitLio yn niweidiol ar eraill, fel yr a yr Eglwys yn gyfan oil i gydgysgu bob yn dipyn. Mae difaterwch yn ei lienyddiaeth yn dangos i ba gyfeiriad y mae yu myned, a'r canlyniad pwysig i byn ydyw fod crefydd Iesu Grist yn dioddef mewn llawer modd. Gwyddoch os teflir careg i ganol llyn y cyrhaedda y tonau i bob glan. Wel, yn awr, fechgyn, pwy a dafl y gareg i lyn mawr difaterwch Eglwyawyr Llundain.? Peidiwch ag aros am atebiad. Tafled pob un ei gareg fel y berwa y dyfroedd o'a berwydd. Gofyner ar un- waith i'r dosbarthwyr am werth eich ceiniogau, ac 03 nad oes dosbarthwyr ar gael, urdder un ar unwaith, a. bydded hwnw yn ddyn bywiog a chymhelliadol, ac yn ddyn wedi ymarfer a, masnachu. Gofaled yntau am arian parod, a thaled i'r cyhoeddwyr yn brydlon, yna fe aiff y peiriant mawr ymlaen yn rheolaidd, ac y der- bynir llu o gyhoeddiadau yma, a mawr fydd y mwyn- had yn misoedd yr haf yn darllen y cyfryw mewn awyr agored, yn y ceufeusydd yma, ac yn y gauaf mewn cymdeithasau^ yn y cynulliadau llenyddol, ac ymhob math 0 gyfarfodydd a godir ac a gychwynir yn uniongyrchol wedi cael y fath fywiogrwydd. Deffro- wch, gyfeillion Eglwysig, a gadewch i ni weled yn ddi- i atreg o ba ddefnydd yr ydych wedi eich gwneyd. (. Rhoddwch i ni weled yn uniongyrchol pa sail sydd i'ch proffes, a pha mor ddwfn ydyw eich cariad droa len- yddiaeth Eglwysig Gymreig. Rhoddwch brawf i ni yn hyn y gallwn ddisgwyJ ynoch rbyw gynhyrfiad pellach eto i wella sefyllfa Eglwyswyr Llundain. Deffrowch I -Givi- y Gan.
TREHERBERT.
TREHERBERT. Dydd lau, Gorphenaf 12fed, oedd y diwrnod apwynt" iedig i Eglwys St. Mair i roddi gwyl flynyddol i ddeil' iaid yr Ysgol Sul. Trodd yr hin yn ffafriol, a mwynha' odd oddeutu cant a haner o blant eu hunain gyda,r sirioldeb mwyaf 0 ffrwyth y ddeilen Chineaidd a'r bara j bntk o'r lath oreu ar y lawn perthynol i'r E,,Iwys' Gweinyddodd y boneddigesau canlynol gyda'r brawdgar" wch a'r parodrwydd mwyaf wrth y byrddauMrs- Richards, Mrs. Hockleday, a Mrs. Roderick, yn cael ell cynorthwyo gan Bliss S. Davies, Miss E. Griffiths, a. Miss M. Hughes. Bn Mri. Richards, Broom, Hockley day, Rickets, a Mertz yn gwneyd yr oil a fedrent er ei wneyd yn llwyddiant. Cafodd y plant chwaren a rhedeg am y cyntaf ar y Uanerch, a gwobrwywyd yr ymgeiswyr yn ol eu teilyngdod. Yr oedd ein parchuB fngail, y Parch. L. Roderick, yn ei hwyliau goreu gyda,'r' plant. Ir oeddynt yn ei ganlyn ymhob man. Gobeith- iaf y bydd yn offeryn yn llaw Daw i ddwyn Ilawer o'r rhai hyn yn ganlynwyr i Iesu Grist. Yr oedd yn bre- senal y Parchn. J. Rees,"curad eglwys y plwyf, Ton, a'i briod M. Morgans, curad Eglwys Treorci; a J. D- Evans, carad Eglwys Penyrenglyn. Yr oedd yr olaf yn cynorthwyo a'i holl egni ei gymydog a'i frawd, f Parch. L. Roderick, gyda'r plant. Digon yw dweyd fod pob peth mewn cysylltiad a'r uchod wedi rhoddi boddlonrwydd nid bychan i bawb oedd yn bresenol.
CAERDYDD.
CAERDYDD. CYMDEITHAS EGLWYSIG DEwi SANT.—Cynhaliwyd f cyfarfod pynathegnosol arferol o'r gymdeitbas ucbocl nos Lun diweddaf. Daeth nifer dda o'r aelodatt ynghyd, a derbyniwyd Mr. D. Thomas yn aelod o'r gymdeithas, ar gynygiad Mr. H. Griffith, yn cael & eilio gan Mr. D. Pagh. Darllenwyd papyr dyddoroi gan Mr. John Davies ar Llyfr Gweddi Gyffredin." Ar ol ychydier sylwadau byr ar ei gynwysiad gan rai o'r aelodau a'r Warden, ac i Mr. Davies roddi atebio0 boddhaol iddynt, pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwcli iddoam ei bapyrar gynyEriad Mr. D. James, vn Cf^ ei eilio gan Mr H. Gnftioh. Penderfynwyd pdbV { gynal cyfarfodydd y gymdeithas yn lst&,fell úenho,Ml St. Dyfrig, gyda chaniafcad caredig y Parch. G. bl. Jones, ficer St. Mair, yn hytrach na'u cynal yn Nghapel yr Hen Gladdfa, fel yr oeddid yn bwriado* Cynhelir y cyfarfod nesaf nos Lun, y 30ain cyfisol, pryd y disgwyhr y bydd papyr yn cael ei ddarllen gan Bir, D. Pugh.
!PENYCAE, YSTRADGYNLAIS.;
PENYCAE, YSTRADGYNLAIS. Yn Ysgoldy Cenedlaethol Penycae, ar y l4eu cyfisol, rhoddwyd gwledd rhagorol 0 a bara brit" i ysgolion Sul, corau, a chymunwyr eglwysi Abe^" cravo, Penycae, a Callwen, yn rhifo tua 850- oedd yr. holl ddarpariaetbau yn cael eu rhad gan Mrs. Gwyn, Dyffryn, Neath, ac y mae M' a Mrs. Mooro yn myned i roddi lliaws o wobrwy0** mewn llyfrau i'r Ysgolion Sul uchod. Wedi i baW fwyta a chael eu digon, aethant allan i gae i ddifyru eu hunain mewn gwahanol ffyrdd. Yn dychwelwyd i'r ysgoldy, ac wedi fcalu diolchgarWC gwresocaf i Mrs. Gwyn am ei charedigrwydd, Mr. a Mrs. Moore am eu cydweithrediad a'n enoldeb, ac am eu haddewid 0 wobrwyon, oan3V^jj yr Anthem Genedlaethol. Yr oedd y diwrnod 7^ ffafriol, a'r hin yn hynod 0 dda, a darfu i ba. n fwynhau eu hunain yn y modd goreu. Yr oedd y ddrwg iawn genym weled Mrs. Gwyn yno phriod gyda hi. Yn marwolaeth Mr. Gwyn ein gwlad un o'i dynion goreu, a'r Eglwys chefnogwyr mwyaf ffyddlawn ao haelionus efc0» ej genym weled taulu'r Dyffrj'n yn rhodio p lwybrau ef, ao yn bwriadu dwyn pobpeth ymlaen !Íit ol yr addysg a'r esiampl a gawsant gydag ef. -x oes iddynt i fwynhau doniau rhagluniastb, wnej'd daioni i'w gwlad ao i'r Eglwys, a b0n Duw fyddo arnynt.