Hide Articles List

11 articles on this Page

NODIADAU SENEDDOL.

News
Cite
Share

NODIADAU SENEDDOL. GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG.] Y DIWEDDAR YMERAWDWE FREDERICK. Yn y ddau Dy, ddechreu yr wythnos ddiweddaf, darllenwyd cenadwri oddiwrth Syr E. Malet, Llys. I negesydd ei Mawrhydi yn Berlin, yn hysbysu fod yr Ymerodres Victoria wedi ei awdurdodi yn bersonol i ysgrifenu afcefciad i'r anerchiad o gydymdeimlad a anfonwyd iddi gan y Parliament Prydeinig ar farwolaeth yr Ymerawdwr. Dymunai yr Ymerodres ddatgan ei diolehgarwch mwyaf diSuant am yr arwyad hwn o gydymdeimlad yn ei dygn drallod a'i hamddifadrwydd, gan obeithio y byddai i goffadwr- iaefch y diweddar Ymerawdwr, ei hanwyl briod, gael ei achlosu am oesau lawer. YR ARGLWYDDI AC ETHOLIADAU. Cymerodd ymdrafodaeth ddyddorol le yn Nhy yr Arglwyddi ar adroddiad o bwyllgor datholedig o Dy y Cyfireain, mewn perthynas âg ymyriad pendefigion a phreladiaid mewn etholiadau Seneddol. Amheuai yr Arglwydd Ganghellydd a oedd pen- derfyniad Ty y Cyff redin yn golygu na ddylai yr Arglwyddi ymyraeth mewn etholiadau. Pa fodd bynag, yr oedd o'r farn nas gallai penderfyniad o eiddo Ty y Cyff redin rwymo Ty yr Arglwyddi mwy nag y galiei Ty yr Arglwyddi rwymo Ty y Cyffredin. Nid oedd yn bosibl i benderfyniad un Ty newid dim ar y gyfraith. Dywedodd Arglwydd Esher, un o'r oyfreithwyr a'r barnwyr enwocaf yn y deyrnas, fod gan Arglwyddi berfiaith hawl i ymyraeth mewn etholiadau. Yr oedd Arglwydd Herschell o'r farn mai gwell gadael y mater yn Ilonydi. Ymddangosai Arglwydd Granville hefyd fel o'r un farn. Ond barnai Ardalydd Salisbury y gallai yr Ar- glwyddi weithredu fel y mynent mewn etholiadau Ssnedclol, ac os nad oeddynt yn meddu hawl i bleid- leisio, fod ganddynt berffaith hawl i ddatgan eu syniadau ar unrhyw faterion gwleidyddol. Nid yw y Radicaliaid yn foddlon canidtau rhyddid i neb ond iddynt eu hunain. Y casgliad a ellid dynu oddiwrth yr ymdrafodaeth ydoedd fod gan y pendefigion fwy o ryddid a mwy o ddylanwad mewn etholiadau Seneddol nag a dybir yn gyffredin, a'u bod yn benderfynol i'w ddefnyddio. GWAITH Y TY. Gwnaetli Mr. W. H. Smith fynegiad ddydd Mawrth mewn perthynas a gwaith cyhoeddus y Ty. Dywedodd eu bod yn penderfynu myned ymlaen gyda Meaur Llywodjtaeth Leol, hyd yn nod y rhanau perthynol i'r Brif-ddinas. Gallai yr adranau yn dwyn perthynas a'r cynghorau rhanbarthol (district councils) gael eu gadael heibio hyd y Senedd-dymor nesaf, gan na. ddelent i weithrediad cyn Tachwedd y flwyddyn ddyfodol. Hyderai y boneddwr gwir an- rhydeddus y byddai Mesur y Llywodraeth Leol drwy y pwyllgor yr wythnos yma, neu y nesaf. Llongyf- archai y pwyllgorau sefydlog ar y gwaith rhagorol oeddynt wedi gyflawni, ao hyderai y gosodid lliaws o fesurau gwerthfawr ar y deddlyfr oyn diwedd y tymor Seneddol. Da iawn oedd geDym gael ar ddeall fod Mesur y Degwm ymysg y mesurau y bwriedir ou gwthio ymlaen. Mae Mesur Addysg Ganolradd i Gymru, Mesur Addysg Gelfyddydol, a rhai mesurau eraill, ymysg y Claddedigion." Dywedodd Mr. W. H. Smith os gellid pasio Mesur y Llywodraeth Leol, Cyflenwad, a dau neu dri o fesurau eraill yn gynar yn Awat, y gellid gohirio y Ty hyd ddiwedd mis Hydref neu ddechreu Tach- wedd. Cynygiodd fod y flaenoriaeth i gael ei rhoddi i fesurau y Llywodraeth yn ystod y gweddill o'r tymor. Y CYHUDDIADAU YN ERBYN MR. PARNELL. Dydd lau, gofynodd Mr. Parnell a wnai y Llyw. odraetb apwyntio pwyllgor detholedig i wneyd ym- chwiliad i'r cyhuddiadau a ddygwyd gan y Times yn ei erbyn. Yr oedd y "Branin Anghoronog" yn awyddus i gyfynga yr ymohwiliad i awdariaeth y Uythyrau a briodolid iddo ar a prawf. Dywedodd Mr. Smith y buasai pwyllgor detholed- ig yn hollol anghymwys i wneyd ymchwiliad i'r cy- huddiadau, ao mai y owrs priodol i'r aelodau oedd yn teimlo dyddordeb yn yr achos ydoedd apelio i'r llysoedd cyfreithiol er gwneyd ymchwiliad trwyadl i'r cyhuddiadau difrifol hyn. Ond yr oedd y LJyw- odraeth yn barod i basio Act i apwyntio Comisiwn, cyfansoddedig yn hollol, neu yn rhanol, o farnwyr. Tra yr ydym yn ysgrfenu nid oes sicrwydd eto a wna Mr. Parnell gymeradwyo y ddirprwyaeth gyn- ygiedig. SENEDD-DYMOR HYDREFOL. Cyfarfu y Cabinet ddydd Sadwrn, ac yr ydym yn deall mai canlyniad eu hymgynghoriad fu i beidio d'od i benderfyniad yn bresenol mewn pertbynas i ohirio y Parliament hyd yr Hydref. Barnent y byddai ganddynt well mantais ymhen pythefnos. Penderfynwyd, fodd bynag, i barhau y Senedd- dymor hyd y drydedd wythnos yn Awst. Mae hyny yn ymddibynu yn hollol ar faint a gymer Mesur y Llywodraeth Leol i fyned drwy y pwyllgor. Nid oes dadl na oheir eiateddiad yn yr Hydref.

ADGOFION CTFEEEDWOL.

" Y GWENYN YN DYCHWELYD."

MACHYNLLETH.

CROESOSWALLT.

URDDIAD ESGOBION.

[No title]

Advertising

ESGOBAETH TY DDEWI.

ARHOLIADAU YSGOLION EGLWYSIG.

PABNELLIAETH A TIIROSEDDAU.