Hide Articles List

6 articles on this Page

flGION 0'£ WASG GYMREIG.:

News
Cite
Share

flGION 0'£ WASG GYMREIG. rC4&1; VERITAS.] EFFAITH DYSGEIDIAETH AR Y CYMRU. ( Y Goleuad, Gorphenaf 12fed.) Pa beth fydd effaith dysgeidiaeth a dull yr oes hon 0 feddwl ar galon y Cymro ? Dyma yr ymholi" ad. Calon fawr, hawdd ex chyraedd, llawn 0 dyner* wch a chydymdeimlad—dyna galon yr hen Gymry- A oes rhywbeth yn yr addysg a gyfrenir, ac yn y cyf- eiriad a rodda i feddwl ein dynion ieuaine sydd yn tueddu i grebachu eu calon, a gwneyd eu tynerwch a'u cydymdeimlad yn llai i'r graddau y maent yn cynyddu eu gwybodaeth a'u profiad ? Nid ydym wadi cael prawf teg gyda bechgyn Cymru ond os edrychir ar hanes cenhedloedd eraill, yr ydym yn gweled fod i addysg, yn gystal ag anwybodaetb, ei hanfanteision. A oes rhywbeth yn natur y ddysg- eidiaeth, neu yn y dull o'i chyfranu, sydd yn culhau calon dyn ? A ydyw yr addysg a gyfrenir yn magu balchder, culni, a hunanoldeb ? Ai ynte ar galon y dysgwr ei hunan y mae y bai ? Gailai fod cydna- byddiaeth helaethach dyn â. hanes yn peri iddo weled nad oes ond yr un pethyn digwydd heddyw ag y digwyddodd ddoe, a'r hyn hefyd a ddigwydd eto yfory. Ymladd, cael ei orchfygu, a dioddef-dyna hanes dyn, druan o hono, ao y mae y aoethwr yn deall hyny, a pha reswm sydd dros wylo oherwydd fod y dwfr yn treulio y gareg ? Neu hwyrach fod tuedd dysgeidiaeth ac arferion yr oes hon i wneyd i ddyn deimlo yn barhaus mai efe ei hun ydyw y bod pwysicai iddo ef ei hun o bawb. Y mass calon dyn yn ddigon hunanol i gofia hyn heb ei ysgrifenu ar bob pared, megis ag y mae yr arfer yn awr. Number one ydyw y pwysig. Y BARNWR FIELD A THERFYSGOEDD Y DEGWM. (Y Faner, Gorplienaf lleg.) Wrth agor brawdlys sir Drefaldwyn, ddydd Gwener, yn y Drefnewydd, dywedodd y Barnwr Field, wrth gyfarch yr uchel reithwyr, mai priodol, o bosibl, fyddai iddo wneuthur rhyw gymaint 0 sylw- adau ar fater ag oedd yn awr yn tynu sylw anghyfi- redin yn y Dywysogaetb, nid amgen helynt y deg- wm. Gobeithiai na feddyliai neb ei fod am ddweyd gair mewn perthynas i agwedd grefyddol neu wleid- yddol y cwestiwn; oblegid pan gymerai barnwyr ei Mawrhydi eu sedd ar y faine, yr oeddynt yn ymddi- eiterio yn hollol oddiwrth gwestiynau politicaidd a chrefyddol. Drwg ganddo ydoedd deall fod anghyd. fad yn bodoli rhwng perchenogion a thenant y tir a'r personau hyny i ba rai y telid y degwm. Nid teg oedd iddo ef ddweyd pa un a oedd yn faioh cyfiawn ai ynte anghyfiawn. Yr oedd y cyfryw wedi ei sef. ydlu, ac 0 ganlyniad yn fiarfio rhan o gyfraith y tir; 800 felly, yr oeddynt yn rhwym i dalu y swm penod. edig. Oa hawlid mwy na'r swm cyfreithiol, gallai pob tir berchenog a phob tenant ddwyn yr achoa i'r Ilys, lie y penderfynid yr anghydfod. Credai ef yn sicr y byddai i bawb yn y Dywysogaeth, eyhyd ag y parM y gyfraith fel yr oedd, foddloni i gadw y cyf- ryw ddeddf. Os oedd rhywun yn credu fod y gyf- raith fel ag y bodolai yn awr yn anghyfiawn, gallai y cyfryw bersonau ddatgan eu barn yn y senedd, trwy gyfrwng eu cynrychiolwyr ac felly, sicrhau oyf. newidiad. Yr hyn a barodd iddo ef wneuthur y sylwadau hyn oedd, y terfysgoedd sydd wedi cymer- yd lie o dro i dro yn Ngogledd Cymru, ynglyn a chasgliad y degwm. Oddiwrth y papyrau a ddod. wyd ger ei fron, credai fod yr helynt yngIyn a'r mater yn tawelu; o ganlyniad, tybiai na byddai yn angenrheidiol anfon chwaneg o heddgeidwaid allan. (Y Celt, Gorphena.f 13eg.) Y Barnwr Field sydd yn yrrrnreled a'r Gogledd y tro hwn, ac y mae yn ei anerchiad i uohel reithwyr Maldwyn wedi bod yn datgan ei ofid am fod y gwrthddegymwyr yn eu hawydd i wrthdystio yn erbyn yr hyn a ystyriant yn annghyfiawnder, yn cael eu perswadio i dori'r gyfraith. Y mae hyn, ar ryw olwg, yn beth i ofidio o'i blegid, ond mwy gofid- us ydyw meddwl fod yn rhaid i bobl wneyd rhyw- beth tebyg i droseddu'r gyfraith cyn y telir sylw o gwbl i'r owynion a wnant. Hyn ydyw tystiolaeth y Gwyddelod, ac y mae Mr. Gladstone yn cael ei gy. huddo (ac nid yw y cyhuddiad yn hollol ddisail) o ddweyd rhywbeth flynyddau yn ol sydd yn cadarn- haa yr athrawiaeth. Dywedodd y Barnwr fod y bobl yn mwynhau rhyddid mawr, nad ydynt yn cael eu gormeau mewn un modd, ac mai y ffordd i symud annghyfiawnder ydyw trwy ein cynrychiolwyr yn y senedd. Y mae hyn yn edrych yn beth rhesymol a doeth iawn i'w ddweyd i rai pobl, ond pa fodd y gall ein 30 oynrychiolwyr ni, hyd yn nod pe byddent oil yn ffyddlon symud annghyfiawnder, y mae 350 o Doriaid ac Undebwyr yn benderfynol o'i amddiffyn. Pe caem Ymreolaeth, ni fydd gan neb rith o esgus droa godi cynwrf, ond tra y mae pethau fel y maent anhawdd iawn ydyw peidio croesi'r terfyn sydd rhwng trefn ac annhrefn. YR AELODAU CYMREIG YN Y GLORIAN. (Y Genedl, Gorpenaf lleg.) Gydag eithrio yr hen ymladdwr diguro, gwr ag y mae Cymru c dan rwymedigaeth bythol iddo, sef y Gwir Anrhydeddus Osborne Morgan, ni ddyrchafodd yr un Hen Law ei lais o'n plaid. Yr un modd pan drinid digwyddiadau y cyffrawd degymol. Yn yatod yr holl Senedd-dymor sydd yn prysur ddirwyn i'w derfya, dim ond saith awr sydd wedi eu treulio uwoh ben tnaterion Cymreig. Pe heb Cynlas i gychwyn, i "dori trwyddi," anhawdd dyfalu beth ddeuai 0 honom druein! Eco i gyd yr ydym yn ddigon penwan i ymflrostio yn ein chwech-aelod-ar- hugain Rhyddfrydwyr I Yn wir, ymddengya Mr. Dillwyn ei hun fel pe yn cellwair gyda mater Dad- gysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys. Trueni na ymaflai Cynlas yn y mater bwn etc, oblegid ym- ddengya y bydd i "foneddigeidarwydd" yr aelod anrhydeddus dros Abertawe ddyhysbyddu amynedd Cymru. Pale mae Mr. Henry Richard ? Gwron llawer cM fu efe. Carai Cymru sydd glywed ei lais. Ymboona Mr. Samuel Smith ynghylch dy- lanwad aur ac arian ar fasnach. Gwaith da ddigon ond mil pwysicach amddiSyn yr amaethwyr gor- mesedig. Sieryd Mr. William Rathbone o blaid rbyw gyfnewidiadau yn y drefn 0 gasglu trethi, a chyfartalu cyflogau aelodau y Weinyddiaeth, gwaith rhagorol yn ddiau, ond llawer rhagorach gorchwyl fyddai ceisio diogelu meddianau a bywydau yr amaethwyr. Ystyriwn hi yn ddyledawydd union- gyrchol arnom i alw ar ein haelodau i ddefiro ac i symud ymlaen-neu, o'r ffordd. Dyna Mr. Gtad. atone eilwaith. Absenclodd yntau ei hun y noson y dygwyd achOB yr Amaethwyr Cymreig ger bron y Ty. 0 bawb, nid oes neb wedi brwydro a dioddef oymaint drosto ag "'amaethwyr Cymru. Dylai hyd yn nod Mr. Gladstone fod yn y Ty, nid yn unig i bleidebu, ond i ddyrchafu ei lais dihafal o blaid gorthrymedigion Anghydfiurfiol a Rhyddfrydig Cymru. YSBWRIEL Y WASG RADICALAIDD. (Tarian y Gweithiwr, Gorphenaf 12fed.) Dywedais wrthych yr wythnoa ddiweddaf fy mod wedi disgyn o ben Penpych, a'r man y cefais fy hun ynddo oedd tiriogaeth Ilywyddol y llywydd dwy- flwydd. Rhyfeddais yn ddirfawr ei fod wedi cael y fath Irish Promotion pwysig-from five shillings to half-a-crawn. Gofynais i ddyn wyneb-llipa oedd yn myned heibio am Ben, hen gaffer y lie gofynais eilwaith am ddau neu dri o bersonau eraill o ddy. lanwad yno flynyddoedd gynt, ond yr un oedd yr atebiad-11 wedi ymadael," gan ychwanegu fcd holl lwyth gwareiddiedig y G ibeoniaid wedi canlyn eu llywydd i ryw gulfa fwy deheuol. Tra yn siarad a'r gwr gwyneb-llipa, ac yn cael ychydig fanylion gweithfaol ganddo, y rhai a fyddant yn ddefnyddiol eto, pwy a ddeuai heibio yn ei ddau ddwbl, ond fy hen-hen gyfaill Daniel, wedi bod fel hwnw gynt yn ngwres y t&n am flynyddoedd lawer, a chafodd y Llwynog hefyd, ar lawer noson oer, twymfa dda yn ngwres yr un tin. O! Daniel bydd fyw byth. Wedi gofyn am berson neillduol pertbynol i bob gwaith, am ei gymeriad, a'r dull goreu o ddynesu ato er cyraedd fy amcan a'i ffafr, dywedodd y dyn gwyneb- llipa, y mae Efe yn fenyio fawr, ond yn gawr rnygyrnan, Yn rhegwr gwych, a'i goesau'n geincxau." Yna trodd ymaith, gan ychwanegu, Y mae yn rhaid i mi gymeryd at yr hen goesau, a byddai yn well i tithau gymeryd at yr hen draed. Heb ym- gynghori a chig a gwaed, ac yn ofni fod rhyw ddrwg yn agos, cymerais gyfeiriad y mynydd ar fy aswy gan bendarfynt* os gallaswn gyraedd, dreulio noson, yn fy hen ogof yn agos i'r Cap. (Y Gweithiwr, Gorphenaf 12fed.) Yn enw dyn—dyn," gofynai y wraig gyda yr hon yr wyf yn lletya. yn bresenol, Paham na. baech yn priodi ? Y mae llawer poor fellow yn codi merched yn y gymydogaeth hon ag y teimlai yn fendith fawr i gael gwared o rai o honynt." II Wel," ebe finau, II mi a ddywedaf y gwir wrthyob," ac mi a ddywed- ais. Yr oedd hen ewythr i mi, yr hwn feddai gryn lawer o Gregyn Heddwch," wedi priodi merch o deulu pur amddifad o bethau felly a daeth i ddeall maes o law ei fod wedi priodi o leiaf haner cant I Nid yn unig daeth y fam-yn-nghyfraith (hen firynd Rees H. Rees) a chwiorydd ei wraig ar ei gefn, ond yr oedd pob un ag a fedrai honi y berthynas leiaf â'm modryb yn y Ilechres; ao yr wyf braidd yn sicr fod amryw nad oeddynt yn dwyn y berthynas leiaf 4 hi wedi ymuno yn dorf gariadus i gadw cydbwysedd yr hen walch. Yr oedd yn ei dy bob amser rhyw ddeg neu bymtheg o honynt. Yr oedd yno dair o hen bensioners pariiaus, sef hen fodryb wedi tori ei choes wrth geisio tynu nyth brân; gweddw hen filwr anghofiodd anadlu y boreu ar ol brwydr Waterlw, a hen widow bewitched, gwr yr hon redodd ymaith gyda'i chwaer, a'r chwaer hono oedd yr unig un o'r tylwyth nad oedd yn poeni fy ewythr. Yr olygfa fwyaf ryfedd a welais erioad oedd bwrdd fy ewythr ar "feeding time." Yr oedd yno ddigon o fenywod weithiau i boblogi trefedigaeth. Gallent guddio digon o fwyd i boithi Gwirfoddoliaid Aber- dar, bob copa walltog, hyd yn nod pan fo yr hen grydd cyfrwy boldew hyna yn ei hwyl oreu. Ac nid ".rhywbeth wnelai y tro iddynt, yn enwedig i'w yfed. Yr oedd un o honynt yn dra hon o ddyferyn o Gin, un arall bob amser yn dioddef oddiwrth "syohed cwrw," tre. un arall yn dioddef oddiwrth "wendid syched rum,"

AT Y BEIRDD.

Y FONWENT.

DEIGRYN

EIRIOLAETH CRIST.

" GLANFFRWD " A'I GYHUDDWYE.