Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
CYTffltWFL YN PALERMO.
CYTffltWFL YN PALERMO. LLIAWS 0 BERSONAU WEDI EU LLADD. Torodd cythrwfl arswydus allan yn Bancina, Palermo, ddydd Meroher, drwy yr hwn y collodd Hiaws o bersonou eu bywydau, ac yr anafwyd Qifer fawr. Ymddengys fod gorymdaith o gref- yddwyr yn myned ar hyd yr heolydd yno ar y dYdd a nodwyd, pan y rhwystrwyd hwy i fyned ymlaen gan ganoedd o'r rhai a wrthwynebent grefydd ymhob ffurf. Arweiniodd hyn i ymladdfa ffyrnig, a chyn y buwyd yn alluog i roddi tertyn arno yr oedd yr awdurdodau dan yr angenrheid- rwydd o alw y milwyr allan y rhai a orchymyn. Wyd i danio ar y terfysgwyr, yr hyn a derfynodd fel y nodwyd uchod. Mae y digwyddiad hwn Wedi oreueyffro drwy yr holl dalaeth.
EHAGLAWIAETH CANADA.
EHAGLAWIAETH CANADA. Darllenwyd yr anerchiad ymadawol a fwriedir gyflwyno i Arglwydd Landsdowne, rhaglaw Canada, yn y Senedd hono ddydd Gwener. Mae yr anerchiad yn dwyn tystiolaeth uchel i alluoedd y Rhaglaw, ae yn sylwijar y gweithredoedd mawr. ion a gyflawnwyd gan Arglwydd Landsdowne yn Ystod ei raglawiaeth. Y Bhaglaw newydd fydd Arglwydd Stanley o Preston, a bwriada ei arg- IWYddiaeth gychwyn o'r wlad hon am Canada er dechreu ar ei swydd ar y 29ain cyfisol.
YMERA WDWYR GERMANI A BRAZIL.
YMERA WDWYR GERMANI A BRAZIL. Newyddion diweddaraf o Berlin a hysbysant fod yr Ymerawdwr Frederic yn parhau i wella, ae y mae ei uchelder yn alluog i rodiana yn Dgerddi ei balas bob dydd. Gyda golwg ar iechyd Ymerawdwr Brazil, at yr hwn y cyieiriasom yr wytlmos ddiwedjaf, drwg genym ddeall ei fod yn gwaethygu, ac na choleddir ond ychydig obeith- wm am ei Wellhad gan ei feddygon.
— AYOOB KHAN.
— AYOOB KHAN. Rhoddwyd derbyniad parchus i Ayoob Khan ar el gyrhaeddiad i Rawai Pindi, lie y croesawyd ef 8an y dirprwywyr, yr awdurdodan milwrol, lliaws ? benaethiad Affghanaidd, a nifer fawr o'r brodor. ioll, Dywed y Times y dangosir pob parch iddo yo y dyfodol gan yr awdurlodau yno. Dywedir 61 fod yn ddyn teg yr olwg, ac yn ymddangos tua 30 mlwydd oed. Caniateir 25,000 o rupees yn fisol at ei gynhaliaeth.
TLLIFDDYFROEDD IN AMERICA.
TLLIFDDYFROEDD IN AMERICA. COLLEDION MA WRION. Ychydig ddyddiau yn ol gorlifodd yr afon Mis. dros ei glanau, a dywedir fod y galanas- a achoswyd yn fwy echryslon na dim a ddi- gwyddodd yn y wlad hono o'r blaen. Mae yr holl \Vlad o bob tu i'r afon yn orchuddiedig & dwfr, ac tigeiniau o dai wedi eu cario ymaith gan y rhy. feithwy, ac y mae preswylwyr y tai sydd yn SefylI dan orfodaeth i fyw yn y llofftydd, gan fod glanau isaf eu tai yn orchuddiedig a dwfr. Gellir urfio dychymyg wan am y galanastra pan hys- yswn fod uwchlaw wyth mil o erwau o dir ^erthfawr yn Missouri yn unig yn orchuddiedig. jT^aogyfrifir y colledion a wnaed i gnydau gan y fr yn dair miliwn o ddoleri, a Eierheir fod o la^ Worth miliwn o ddoleri o adeiladau wedi eu aiJJystrio. +
HUNANLADDIAD BONEDDWR AWSTRIAIDD.
HUNANLADDIAD BONEDDWR AWSTRIAIDD. h ^fae railiwnydcl wedi eyflawni hunanladdiad. .&.Iarfa H barfl, i Elerr Stephan von Kegel, dyn ieuane ^eg a ffasiynol, a pherchenog dros filiwn o Qau, ynghyd &g etifedd ffortiwn o ryw ugain 0 florins, saethu ei hun ddydd Llun cyn y adn e b dBf. wstriad ydoedd, a hapchwareuwr yn Hungari. Aeth i Pesth ar tua 6 Ia< yr 06<^d yn fwy coegfalch nag arfer. ar ei ystad ger Stuhl. He y eaethodd ei hun yn y fan.
PR10DAS Y TYWYSOG HENRY 0…
PR10DAS Y TYWYSOG HENRY 0 PRWSIA. Dydd Iau, ymbriododd y Tywysog Henry o Prwsia, ail fab Ymerawdwr Germani, gyda'r Dywysoges Irene, yr hon sydd yn ferch i r ddi- weddar Dywysoges Alice, ac felly yn wyres i'r Frenhines Victoria.
GERMANI f, A.
GERMANI f, A. Yn Berlin y mae teimlad cryf yn erbyn Rwsia yn cynyddu yn amlwg, ac mae y wasg German- aidd yn dechreu cywirdeb a dilysrwydd dymun- iadau Rwsia am heddweh.
HELYNT CAPEL HERMON, CONWIL.
HELYNT CAPEL HERMON, CONWIL. Dygwyd helynt y capel uchod gerbron y Barnwr Stirling yn Llundain ddydd Gwener. Apel ydoedd hwn at ei arglwyddiaeth, pa un ai gan yr ymddirielwyr neu y gynulleidfa yr oedd hawl i benderfynu yr anghydfod ynglyn a r capel yno, ond gan y byddai lliaws mawr o dyation i gael eu holi, penderfynodd ei arglwyddiaeth ohirio y prawf hyd ar ol gwyliau y Sulgwyn. Yn y cyfamser, anogai y ddwy blaid i addoli ar wahan fel ag y maent wedi gwneyd er's peth amser bellach. Yn ngwyneb hyn bydd, gan rai penboethiaid Radicalaidd, fel arterol, ddigon o wynebgaledwch i haeru ar lwyfanau dadgysyllt. iol nad oes gan y Llywodraeth hawl i ymyraeth a'u capeli, eu bod yn rhydd oddiwrth lyffetheir- iau, ac yn medru gweithredu fel y mynont. Ond dengys y ffaith uchod, a chanoedd o rai blaenorol, mai hollol ddisail yw eu haeriadau cableddus. 4
LLOFRUDDIAETH A HUNANLADDIAD…
LLOFRUDDIAETH A HUNAN- LADDIAD YN COLCHESTER. Brawychwyd trigolion Colchester yn fawr nos Lun ar dderbyniad y newydd fod dyn o'r enw Murdock Jessman wedi llofruddio ei wraig, ac yna gyflawni hunanladdiad. Ymddengys i Jess- man briodi gwraig weddw tua blwyddyn yn ol, ond ymhen ychydig fisoedd ymadawsant Alu gilydd gan na allent gytuno. Parhai hi i gadw tafarndy, tra y gwasanaethai yntau fel pobydd mewn rhan arall o'r dref. Nos Lun, aeth i'r tafarndy, ae ymhen ychydig ftmydau cafwyd ei ei fod wedi lladd ei wraig drwy ei saethu a llaw- ddryll, ar ol yr hyn y saethodd ei hun, a bu farw bron yn ddisymwth. Pan ddarganfyddwyd y ddau gorff, cafwyd dau lawddryll ar lawr, ac ergydion ynddynt.
ANRHYDEDDU MR. CHAMBERLAIN…
ANRHYDEDDU MR. CHAMBERLAIN A.S. Prydnawn ddydd Gwener, cyflwynwyd anerch iad harddwych a chosfawr i Mr. Joseph Chamber- lain, A.S., gan ei edmygwyr, fel arwydd o'u gwerthfawrogiad o'r gwasanaeth dirfawr a gyf- lawnwyd ganddo mor Hwyddianus ynglyn a'r pysgodfeydd yn yr Unol Daleithiau a Canada. Arwyddwyd yr anerchiad, ymhlith eraill gan y rhai canlynol:—Due Westminster, Aglwydd Tennyson, Arglwydd Aberdar, Esgob Llundain, Arglwydd Northbrook, Esgob Durham, Arglwydd Derby, Mr. Fowler, A.S., Ardalydd Hartington, Syr R. N. Fowler, Syr John Lubbock, Mr. John Bright, Mr. Thomas Burt, Mr. Villiers, Syr A. K. Rollitt, Mr. Lewis Fry, Mr. Jesse Collings, Mr. Joicey, a Syr Henry James. Gwnaed y cyflwyn- iad ar ran y tansgrifwyr gan Mr. Appleton, ysgrif- enydd amhydeddus y Gymdeithas Gyflafareddol Brydeinig a Thramor, a ciolchodd Mr. Chamber. lain yn wresog am y teimladau da a arddangoswyd tuag ato gan ei gyfeillion.
HELINT Y DEGWf YN LLAN-EFYDD.
HELINT Y DEGWf YN LLAN- EFYDD. Cymerodd ymrafaelion arswydus le yn Llan. efydd, ger Dinbych, ddyddiau Iau, Gwtner, a Sadwrn diweddaf, pan yr ymwelwyd a'r lie i gasglu y degymau dyledus gan Mr. Stevens a'i wyr. Ymosodwyd arnynt hwy a'r heddgeidwaid mewn modd mileinig, a'r canlyaiad fu i ysgarmes waedlyd gymeryd lie rhwng y ddwy blaid, ac y maetlifer tawr wedi eu clwyfo, un gymaint felly fel yr ofnir am ei fywyd. Ymwelwyd & 14 o ffermydd, ond ni fawyd yn llwyddianus ond mewn tair o honynt, a gobiriwyd ymweliadau pellach am v'/thnoa.
.'HetogtiSton Cgffrciituol.…
HetogtiSton Cgffrciituol. GALANASDRA YN SAXONY.—Dywed bryshysbys. iad o Stadefurt, yn nhalaeth Saxony, fod cwymp ofnadwy o graig wedi eymeryd Ile mewn glofa yn y lie hwnw ddydd Mercher. Claddwyd nifer mawr o lowyr, lladdwyd 18, a niweidiwyd eraill yn ddifrifol. HUNANLADDIAD TWYLLWR ENWOG.—Hysbysir fod Benson, y twyllwr enwog, yr hwn a garchar- wyd amryw weithiau, wedi eyflawni hunaniaddiad drwy neidio o lofft gwesty yn Efrog Newydd. Niweidiwyd ef mor ddifrifol fel y bu farw ymhen ychydig funydbu. y YMFUDIAD GWANWYNOL I NEW YORK.-Y mae yr ymfudiad gwanwynol i New York yn fwy nagfarferol. Y maent ar hyn o bryd yn cyrhaedd yn ol y cyfartaledd o fil y dydd, ac y mae yn agos i 54,000 wedi glanio er y cyntaf o Ionawr. Yr oedd y 10,190 o ymfudwyr a laniasant yn Ionawr yli cynwys:-Saeson, 1,103; Gwyddelod, 638; Ysgotiaid, 222; Cymry, 189; Italiaid, 2,129; Germaniaid, 1856; Rwsiaid, 1,091; Hungariaid, 1,064 DEWRDER BACHGEN PEDAIR MLWYDD OED.- Dydd Gwener yr oedd baban chwe' mis oed wed cael ei ddodi mewn cryd gan ei fam mewn ty yn Bristol, ac yr oedd gofal y baban a phlentyn pedair mlwydd oed wedi ei roddi i eneth unarddeg EP' ydd oed. Ymddengys i'r ddiweddaf, er di- ddami y baban, ddodi lamp fechan oleuedig yn ei law, ac aeth ymaith i ran arall o'r ty. Ymhen ychydig eiiiadau canfyddwyd fod dillad y b&ban ar dan, a phan welodd y bachgen hyn, cyfododd y baban o'r cryd, ac er gwaethaf y fflamau, cariodd ef o'r llofft i'r gegin, lie y bu y truan farw ymhen ychydig funydau. 0 HAELXONI SYR GEORGE ELLIOTT, A.S.-Bwr. iedir adeiladu neuadd eang at wasanaeth trigol- ion Brynaman, Aberdar, ac anfonwyd dirprwyaeth at Syr George Elliott, A.S., yr hwn sydd yn perchenogi glofeydd yn y gymydogaeth, ynglyn a'r mater. Hysbysodd y ddirprwyaeth fod arnynt angen tir, a chyda'i haelioni arferol, amiygodd y barwnig anrhydeddus ei barodrwydd i roddi darn helaeth o dir am ddim, er adeiladu y neuadd, ac yn ychwanegol at hyn, cyfranodd X125 tuag at y draul, Mae y weithred hon o eiddo Syr George Elliott yn cael ei gwerthfawrogi yn fawr gan drigolion Aberdar a'r cylchoedd, ac y mae yr hyn a wnaeth yn esiampl teilwng o efelychiad. YMGAIS AT HUNANLADDIAD YN LLANTRISANT, MORGANWG.—Dydd Gwener, cafwyd John Lewis, glowr, Llantrisant, yn crogi wrth raff yn ei dy ei hun. Ychydig funydau yn flaenorol, yr ydoedd wedi anfon ei fachgen allan i chwareu, a phan ddychwelodd cafodd ei dad yn crogi gerfydd ei wddf. Aeth y bachgen yn uniongyrchol i ymofyn cymorth, a daeth amryw gymydogion i mewn, pan y canfyddasant fod y rhaff wedi tori, a'r dyn truenus yn gorwedd yn anymwybodol ar lawr. Ymddengys ei fod wedi bod yn yfed yn drwm am rai dyddiau, a phan ddygwyd ef gerbron yr ynad cyflogedig yr un dydd dywedodd nas gwyddai beth oedd yn wneuthur. Gohiriwyd y prawf am bythetnos, a gollyngwyd y carcharor yn rhydd dan feichniafon. Y CARCHAR YN GARTREF.—Y dydd o'r blaen, cyhuddid dynes o'r enw Eliza Hastings, o flaen ynadon Westminster, o fod yn feddw yn Victoria Street, a dedfrydwyd hi i fis o garchar. Rhoddid y gosb yn drom o^herwydd ei bod yn arfer tros- eddu. Collodd y garchares ei thymher, nid o herwydd fod y gosb yn un drom, ond o herwydd nad oedd ond un mis bawaidd." Taflodd ei hesgid at yr ynad er ceisio ei yru i roddi dedfryd drymach arni, ond ni chyffrowyd Mr. D'Eyncourt, ac aeth y fenyw ymaith dan regi ei dynerwch. Dywedir ei bod wedi byw yn ddiweddar bron yn hollol yn y carchar. Y mae yn cyflawni troseddau er cael myned i'r carchar, ei hunig gartref ond yr heol." Y mae y carchar wedi colli lei effaith ami. I CEIDWADWYR EDINBURGH.Liysbysir tod ueicr wadwyr Edinburgh wedi rhoddi gwahoddiad Ardalydd Salisbury ymweled & hwy yn yr hydref nesaf, pryd y disgwylir y bydd i'w arglwyddiaet draddodi araeth bwysig ar brif bynciau gwleid- yddol y dydd. YR EISTEDDFOD AM 1890. Gwneir ymdrechion egniol yn Bangor i sicrhau cynhaliad yr Eisteddfod Genedlaethol yu y ddinas hono yn 1890, ac y mae y rhagolygon presenol yn hynod addawol, a phwyllgor dylanwadol wedi ei ethol er hyrwyddo yr amcan. EFFEITHIAU CANU.—Cynhelid cyngerdd yn yr Albert Hall, Llundain, ychydig ddyddiau yn ol, pryd y cymerwyd rhan gan brif gerddorion y deyrnas, ac yn eu plith Madame Albani, yr hon a ganoddd Home, sweet home." Boddhawyd un foneddiges gymaint yp y dadganiad, fel y cyfran- odd fil o bunau yn y fan at un o ysbyttai y brif ddinas. BEIDDGARWCH Y CADFRIDOG" BOOTH.—Cyfeir- iodd y Cadfridog Booth, wrth anerch cyfarfod yn Glasgow y noson o'r blaen at y dirwyon a roddwyd ar rai o aelodau Byddin yr Iachawdwr- iaeth gan ynadon Torquay, a dywedodd os oedd y Llywodraeth yn bwriadu cario ymlaen yr erlyn- iadau, y dylai y carcharau fod yn barod, gan fod 80,000 o'r aelodau yn barod i fyned i garchar yn hytrach na thalu dirwyon am gynal eu cyfarfod' ydd yn yr heolydd. LLYSOEDD SIROL DEHEUDIR CYMRU .-Derbynia cofrestrwyr y llysoedd sirol yn ngwahanol drefi Deheudir Cymru y symiau canlynol ar gyfartal. edd bob blwyddyn :—Abergafeni, .£309 15s.; Caer- dydd, £ L,400; Aberdar, £ 625 19s. 6c.; Aber- honddu, R135 9s.; Penybont, zC462 15s.: Merthyr Tydfil, X967 3s. 6c.; Pontypridd, i £ 865 15s.; Abertawe, el,563 6s. 4c.; Caerfyrddin, £534 159 10c.; Llanelli, £ 803 Castellnedd, X826 5s. 6c.; Pembroke Dock, X549 13s. RHODD HAELION-US &AK FAER ABERHONDDU.— Mewn cyfarfod a gynhaliwyd gan Gyngor Trefol, Aberhonddu ddydd Mawrth, hysbysodd y maer, y Milwriad Morgan, a'r hwn yw uchel-sirydd sir Frycheiniog am y flwyddyn hon, ei fwriad i adeil- adu neuadd drefol newydd ar ei draul ei hun. Ni raid dweyd fod y cynygiad wedi ei dderbyn gyda diolohgarwch cynes yr holl aelodau. Bydd adeilad o'r ffath yn gaffaeliad pwysig i dref Aberhonddu, a bydd yn gofadail o haelfrydedd y Milwriad Morgan, yr hwn sydd bob amser yn hynod haelionus at bob achos da. GORNEST RHWNG DWY FFRCH.-Mewn sefydl- iad bychan Mormonaidd yn nyffryn Luna, cymerodd ymladdfa a 11a w-ddrylliau le rhwng dwy ferch-un yn 16eg oed a'r Ilail yn 18eg oed. Achos yr annealltwriaeth oedd bachgon cenhedlig a edrychai ar ol y da, enw yr hwn oedd James Whitman. Yr oedd y ddwy ferch yn gyfeillesau da nes iddynt gael eu denu i rwyd cariad y dyn ieuanc, a throdd cyfeillgarwch y ddwy ferch yn ddigofaint chwerw. Wedi cael ymladdfa law-law, penderfynasant setlo yr anghydfod a llawddryll yr un. Cyfarfyddasant yn unig, ac wedi mesur y tir, tynasant eu llaw-ddrylliau allan, a gjllyngas- ant ergydion nes i'r ferch 16 oed gael ei chlwyfo yn ei hysgwydd a. phelen. Erbyn hyn y mae yr eneth hynaf wedi ei lladd. BWYTA CIG CEFFYLAU.—Y mae yr arferiad o fwyta cig ceffylau yn dirfawr gynyddu yn Paris. Agorwyd y fasnach gigyddol gyntaf mewn cig ceffylau yn y ddinas uchod yn y flwyddyn 1866. Yn y flwyddyn 1867, cafodd 1,152 geffylau eu bwyta gan y Parisiaid yn 1874, 4,358; yn 1884, 10,323; yn 1886, 13,708. Parodd gwarchead Paris i lawer o'r Parisiaid i ymgymodi a chig ceffylau, oblegid yn ystod yr amser hwnw ni chafodd dim llai na 65,000 o geffylau eu lladd a'u bwyta. Nid oes yno ar hyn o bryd dim llai na haner cant o gigyddion yn Paris nad ydynt yn delio mewn dim ond cig ceffylau. Pryna y cig- yddion geffylau fyddo wedi cael eu gorweithio, ond ydynt er hyny mewn iechyd da. Talant am geffylau felly o 120 i 153 francs. Masnachir mewn cig ceffylau ar raddfa eang, a gwerthir y cyfryw mewn bwyd-dai cyffredin, ac y mae yn eithaf sier fod llawer un o'r wlad hon, pan ar daith i Paris, wedi bwyta hyd ddigonedd o gig ceffyl heb fod yn gwybod mai cig ceftyl ydoedd.
[No title]
Cyferbyniaethau a wnant undebau agosach na thebygTwydd tueddfryd.