Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
27 articles on this Page
CORWEN.
CORWEN. DAMWAIN ANGEUOL.—Dydd Gwener cyn y diweddaf, fel yr oedd Mr. Simpson a'i briod, o'r dref hon, yn myned yn eu cerbyd, ar y ffordd ychydig tu draw i bont Corwen, dychrynodd yr anifail, a dechreuodd redeg ymaith. Ymddengys fod Simpson ar y pryd yn eistedd ar y siafft, ac yn ei ymdrech i geisio atal yr anifail, syrthiodd ar ei ben, gan ei niweidio yn ddifrifol. Dygwyd ef adref yn ddioed, ac anfonwyd am feddygon ar unwaith, ond er pob ymdrech o'n heiddo, bu farw y dydd Mawrth canlynol. Claddwyd ef y dydd Gwener canlynol yn Llanelwy. Nid oes ond ychydig wythnos- au er pan ymsefydlodd y tenia yn Nghoi wen.
CWMFELIN, WHITLAND.
CWMFELIN, WHITLAND. Dydd Mercher diweddaf cynhaliwyd cyfarfod yn yr Ysgoldy Cenedlaethol am haner awr wedi dau yn y prydnawn, pan yr oedd yr adeilad yn orlawn, er cael clywed Mri. Helm ac Afonwyson yn siarad ar hanes yr Eglwys. Nid oes angen dweyd both oedd y siarad, oblegid y mae y wlad bellach yn adwaen yr areithwyr. Digon yw dweyd en bod fel arfer a'u cawell saethau yn orlawn o bob peth angenrheidiol. Yr oedd y gynnll- eidfa, yr hon oedd wedi dyfod ynghyd o amryw filldir- oedd, yn gwrando yn astud, ac ynymddangos fel pe yn yfed pob peth a ddywedwyd. Diau genyf y gwna ym- weliadau y boneddwyr hyn gryn ddaioni yn y wlad, ac y bydd i oleuni gwybodaeth yru yr anwybodaeth dygn sydd yn bodoli ymhlith y bobl ar ffrwst. Ond ein gobaith ni yw, mai nid un ymweliad a darfod a hi, fydd. Dylem gymeryd gwers oddiwrth ein gelynion, a dilyn ar y gwaith-gwers ar ol gwers, darlith ar ol dar- lith, cyfarfod ar ol cyfarfod, nes cael y bobl i weled mai stwr, trwst, ffngiaeth, a malais yw y cyffro gwn- eutLuredig i gyd. Gobeithio y gwna ein hoffeiriaid ddeffro at y gwaith, ac y gwnant bob egni i gael modd- ion i oleno'r werin. Cymerwyd y gadair gan Mr. J. Beynon, Y.H Trewern. Yr oedd yn dda genym weled hefyd y Parch. Pngh Evans, D.G., yn bresenol.
ST. CLEAR'S.
ST. CLEAR'S. Traddododd Mr. Helm a Mr. Richards, areithwyr Cymdeithas Amddiffynol yr Eglwys, ddwy araith odid- og yn y Town Hall, prydnawn ddydd Ian diweddaf, i gynulleidfa yn awyddus am wybodaeth. Nid oedd y gynulleidfa yn rhyw fawr iawn, ac nid oedd pobl St. Clear's wedi tybied fod llawer o werth mewn presenoli eu hunain yn y cyfarfod, ond yr oedd y plwyfi o am- gylch wedi dyfod ynghyd yn rhagorol dda, a chawsom ¡ wledd fendigedig yn yr areithiau, ac yn hyn yr ydym yn siwr fod pobl St. Clear's wedi cael colled aruthrol drwy abeenoli en hnnain. Ond da genym ddeall fod y ficer wedi sicrhaj gwasanaeth Afonwyson ymhen rhyw fis. Cadeiriwyd gan Mr. J. H. Thomas, Derry. Dy- wedai mai dyma y tro cyntaf iddo gadeirio, ond os felly mae yn amlwg ddigon fod ynddo gymhwysder an- I arferol nid yn unig i'r gadair, ond hefyd i siarad ac am- ddiffyn ei egwyddorion.
LLANDDOWROR.
LLANDDOWROR. Nos Ian talodd Afonwyson ymweliad a'r lie ncbod, a rhoddodd un o'i areithiau bywiog ar Hanes yr Eglwys i gynalleidfa lied dda. Rhoddodd y darlithydd grynodeb o hanesEglwys ein Tadau o'r ganrif gyntaf hyd y presenol, yn nghyd a'r modd y dð yn feddianol ar y gwaddol sydd yn peri cymaint o ofid i'n cyfeillion Ym- neillduol, Mr. Thomas o Whitland to wit. Dywedai Afonwyson yn ddigrif iawn mae diwedd y gan ydi'r geiniog" efo'r cyffro degymol yma; ac oni bai "y geiniog" ni chlywid son am ddim. Talodd y darlithydd deyrnged fendigaid o barch i hen batriarch Llan- ddowror, sef y Parch. G. Jones, a gwnaeth capital da o hono drwy y ddarlith. Cymerwyd y gadair gan Mr. J. H. Jones, Deri. pSrfyniwyd ar Mr. Richards i ddyfod eto ar fyrder.
CWMAFON.
CWMAFON. CYMDEITHAS FUGEILIOL EEGLWYSIG.—Y dydd Snl olaf yn Ebrill bu y Parch John Williams, curad Llanym- ddyfri, yn pregethu yn Saesneg yn eglwys yr Holl Saint, yn y boreu am 11, ag am 6.30 yn yr hwyr, dros y gymdeithas uchod. Casglwyd ar ddiwedd y gwasan- aethau tuag at drysorfa y gymdeithas.—J.A.D.
HIRWAUN.
HIRWAUN. Nos Lun, Mai 7fed, cynhaliwyd yr oiaf o'r cyfarfod- ydd adlomadol yn yr ystafell ddarJien perthynol i Eg- lwys St. Lleurwg, pryd y llywyddwyd gan Mr. Mark Martin. Wedi cael anerchiad byr a phwrpasol gan y cadeirydd, aethpwyd ymlaen a'r rhaglen, yn yr hon y cymerwyd rhan gan Miss Hannah J. Jones, Mr. W. Nicholas, Miss Edith Jones, y cadeirydd, Miss B. Jones, Miss E. Smart, Mr. Maslen, Mr. A. Smart, Miss Aubrey, Mr. Sedgemore, Miss A. Jones, Mr. Llewelyn Bowen, Miss H. J. Jones, Miss Sydney Jones, Mr. A. Nicholas, Mr. William Edmunds, Mr. Wm. Walters, Mr. Ben Thomas. Wedl tala y diolchiadau arferol, terfynwyd trwy gann yr Anthem Genedlaethol.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. Y LLYTHYBDY.—Deallwn fod mudiad ar droed yn y dref hon, er ceisio gan yr awdurdodau gamatau gwell trefniadau gyda golwg ar ddosbarthiad llythyrau, &e., ac y mae mwyafrif o'r trigolion wedi arwydd-nodi deiseb o blaid y mudiad clodwiw hwn. Hyderaf y bydd i'r dref gael ei chynysgaeddu a'r gwelltant hwn, gan y byddai hyny yn enill cyffredinol. Bydded i bawb sydd het) arwydd-nodi y ddeiseb, wneyd hyny yn ddi- oed, gan nad oes rmser i'w golli.-C.
FFESTINIOG.
FFESTINIOG. CYDWEITHEEDIAD CLERIGWYK A LLEYGWYR YN Y RHANBAKTH CYSYLLTIEDIG AG EGLWYS Y PLWYF.- Adeiladwyd Eglwys bresenol SqMichaol yn y flwyddyn 1845, trwy ymdrechion y diweddar Meistri George Caseon a Kobert Lloyd, y Bank, ar y draul o £3,239 15s., ond gan fod dyled o £1,470 pan ei gysegrwyd, talwyd X250 fel llog arian, ac felly bu y draul yn £ 3,489. Trwy gyfraniadau gwirfoddol y gwnaethpwyd y cwbl. Rhoddodd y Caesons, Blaenyddol, Y,860, a'r diweddar Mrs. Oakeley £ 620, a'r Parch. J. Jones, parson y plwyf, £ 20. Mr. Chessell, Penymount, yn cael ei gynorthwyo gan Mr. :John Casson, a gafodd y fraint o glirio y ddyled yn 1852-3, pryd y cyfranodd y Parch D. Edwards Y,7 tuag at hyny. Ychwanegwyd y porth a'r heating aparatus tua 1860, pryd hefyd y ceisiwyd sychn y Marian ar draul o tnd. £ 100. Y lleygwyr oedd yn 1 cymeryd y rhan fwyaf blaenllaw yn hyn oil. Ail-dowyd hi yn 1869, ail-adeiladwyd y clochdy ar ol ei daro gan fellten yn 1877, a gosodwyd organ newydd ynddi yn 1876, yr hon a gostiodd 1313. Gwnaethpwyd y gwell- iantau hyn oil trwy gyfraniadau gwirfoddol, a chyd- weithrediad pob doabarth o Eglwyswyr. Yn 1882 drachefn gwnaethpwyd ymdrech neillduol a llwydd- ianus i sychu a Uiwio y muriau, ail-staenio y seti, ac adferu yr altar coverings, ac yn y blaen, yr hyn a gost- iodd yn agos i chwe' ugain punt, pan y cyfranodd chwech o bersonau ddeg punt bob nn, a dau ar hugain o weithwyr ddeg swllt pob un, ac eraill symiau mwy neu lai. Esiamp1 ragorol o gydweithrediad oedd hon rhwng y parson, y boneddigion, a'r bobl—y parson yn casglu yr arian, a'r churchwarden yn eu gwario yn y modd goreu a mwyaf effeithiol. Trwy gydweithrediad cyffelyb befyd yr ydys wedi parhau i gynal yr Ysgol Wladwriaethol ger y Llan, yr hon a sefydlwyd yn 1829, er hull goatau y Bwrdd Yegol. Teimla Eglwys- wyr Ffestiniog yn gryf iawnnad y deall ydyw yr oil o'r dyn ond bod angen ffurfio moesau y plant yn gystal a dysgu y tair gradd iddynt. Yr ydys wedi bod yn casglu am flynyddau yn yr Ysgol Sul, ac o dy i a? ymhlith y bobl, o bymtheg i ngain punt y flwyddyn, heblaw cyf- raniadau y boneddwyr, er cynal yr Ysgol Sul yn y blaen, a bu cyngherdd llwyddianus yn ddiweddar i'r un diben. Credir yn sicr mai ysgol difoesau ydyw ysgol di-Ddnw, ac eir ymlaen hyd yma er gwaethaf yr anbawsderau. Cymaint a hynyna am eglwys y plwyr a chymydogaeth y Llan yn y cysylltiad arianol. J Ar yr 11 eg o Fedi, 1872, agorwyd capel cenhadol Tyddyngwyn, tua dwy filitir o eglwys y plwyf. yn nghanol poblogaeth o 1,636 yn 1881, yn 1875 adeiladwyd yno BersoDdy i'r curad fyw ynddo, ac yn 1886 helaeth- wyd y capel cenhadol, a bu y draul o wneuthur y cwbl yn agos i'ddwy fil o bunau. Cynwysa y capel 285 o eisteddleoedd. Cydweithio y bu pob gradd o ddynion yma eto, a bu dwy hatling y weddw yn cynorthwyo i ddwvn y gwaith i ben yn gystal ag aur y cyfoethogion, ac arian y gweithwyr. Ond beth ydyw ffrwyth y llafur unedig hwn yn Ffestiniog ? Dim agos cymaint ag a ellid ddymuno, ac eto nid ydyw i'w ddibrisio. Ugain mlynedd yn ol cafodd y Parch. W. S. Williama, eglwys Ffestiniog yn isel iawn., oherwydd rhyw resymau na wiw mo'il henwi; ond y mae y diwygiad a ddechreu- odd yn ei ddyddiau ef yn para hyd heddyw. Yn ddi- ameu fod pedwar o Eglwyswyr yn y plwyf yn awr am bob un oedd y pryd hyny, ac y mae y cymunwyr ac aelodau yr Ysgol Sul wedi cynyddu yn gyfatebol, er en bod yn ddigon bychain etc, a hyny er gwaethaf llawer iawn o anhawsderan. Rhyfedd ydyw ffrwythau gwaith dyfalbarhaua a chydweithrediad calonog. Cynhelir dan. gurad yn y plwyf, a chesglir yn agos i haner can' punt yma yn flynyddol tuag at eu cynal, a chyfrana y tlodion yn gystal a'r cyfoethogion at hyn hefyd. Gweithia y lleygwyr yn egniol gyda'r Yagolion Sul, cyfarfodydd canu, cyfarfodydd dirwestol, cyfar- fodydd gweddi, cyfarfodydd y plant, cyfarfodydd cymunwyr, a chfyfarfodydd y gwyr ieuainc. Mewn achos o angen y mae yma bedwar sydd wedi bod yn pregethu y-n lie y gweinidogion, a dau yn Maentwrog. Cydrhwng Ffestiniog a Maentwrog cynhelir deg gwasanaeth a phregethu a phedair Ysgol bob Sul. Yn rhanbarth St. Michael y mae yr oil o'r boblogaeth tua 3,607, a Maentwrog tua 850. Cynyddodd poblogaeth Ffestiniog 650 rhwng 1871 ac 1881. Chwarelwyr ac amaethwyr ydyw y plwyfolicn bron i gyd heb fawr o ddim dylanwad yr uwchraddolion, ac eto er gwaethaf haeriadau Mr. Dillwyn a'r dadgysylltwyr aiff lliaws-o honynt i'r eglwysi, gweithiant ynddynt, cyfranant tuag atynt, a dioddefant iawer o wawd a dirmyg dros eu hegwyddorion. Ond gan fod Eglwys Crist wedi ei hadeiladu ar y Graig, pyrth uffern nis gorchfygant I. hi."
ABERAFON.
ABERAFON. Yr oedd dydd Sadwrn diweddaf yn ddydd o uchel wyl yn hen dref fremiol y bwrgishyd. Y faner yn chwifio o ben twr yr hen eglwys, y bobl yn gyru yma ac acw, a phob peth yn myned yn y blaen fel arfer, ac —ac—i'e, ac yr Hen Eglwys yn nwyfus mewn bywyd ac yni. Tynu yr Hen Eglwys i lawr I Ow ow I dim tebyg i hyny heddyw. Tybed y danfonir at Mr. Carvell Williams am lythyr o gydymdeimlad ar bwnc y con- ffirmasiwn yma ? Yn wir i chwi, rhaid yw gwneyd rhywbeth oblegid nis gall bod dros 160 o bobl o'r pedair-ar-ddeg hyd y tringain yn myn'd o dan ddwylaw y gweithiwr difefl, di-ildio, a di-droi-yn-ol, Esgob Lewis, yn un arwydd o nychdod a gwaeledd yn yr Eglwys. Diaa y ceir erthygl eto gan Mr. Gee, o Ddinbych, yn y Faner, ac hefyd gan woidd-be Afon- wyson oDowlais, yn y Seren, ar "Gynydd yr Eglwys." Yr oedd yr eglwys yn orlawn, a lliaws yn methn cael ffordd i mewn, ac anerchiad yr Esgob yn darawiadol dros ben. Gobeithio y cofia y bobl ieuainc, ac hefyd y gynulleidfn y geirian hyny o'i eiddo, "Nad oedd braich yr Arglwydd ddim wedi byrhau, na'i glustiau wedi trymhau, nac hefyd ein heisiau ninau ddim wedi llei- han," ac y gwnant fel y dywedodd-byw yn mhresen- oldeb y Daw mawr. Cynorthwywyd yr Esgob gan y Parchn. J. Griffiths, R.D., EL. Morris, Z. Williamson, ac eraill, ac aeth pobpeth heibio yn dra boddhaol.
CLYNDERWEN.
CLYNDERWEN. Dilynasom yr areithwyr i'r lie uchod, lie yr oedd y Parch. Mr. Jones wedi parotoi ystafell y ddarllenfa ar gyfer y cyfarfod. Cafwyd cyfarfod da rhsgorol eto, yr ystafell yn orlawn, a hyny yn ymyl IJlanfallteg-oj tithe sale notoriety Yr oedd y ddau areithiwr yn eu hwylian goreu, a'r bobl yn gwrando yn fendigedig. Cymerwyd y gadair gan Mr. J. H. Logan, Clynderwen House.
GELLIGAER.
GELLIGAER. lAu Y DYBCHAFAEL.—Credwyf fod y gwylian Eglwysig yn cael eu cadw yn y plwyf hwn yn debyg i'r hyn y dylent gael eu cadw ymhob plwyf yn y Dywysogaeth. Cadwyd Ian y Dyrchafael yma eleni, yn debyg fel ei cynhelir oddiar ddyfodiad y rheithor presenol-y Parch. J. L, Meredith, M.A.,—i'n plitb, sef trwy weinyddu y Cymun Bendigaid yn y boren yn y pump Eglwys. Arwydd dda ydyw gweled nifer y rhai a werthfawrog- ant y cyfle i gael jjadgoffa am yr Esgyniad yn y dull hwn yn cynyddu yn flynyddol. Yn yr hwyr gallesid gweled tyrfaoedd o bob cyfeiriad yn cyrchu tua'r fam Eglwys, pryd a pha le yr ymnnodd corau y gwahanol gangenau yn un cor, ac aethant trwy y gwasanaeth yn gorawl. Llafarganwyd y rhan flaenaf o'r gwasanaeth gan y Parch. T. Lloyd-Evans, L.D., Bargoed, a'r ail ran gan y Parch. D. Jesse Evans, Trelewis, a'r Parch. E. Evans, B.A., Deri, tra, y darllenwyd yr ail gan y Parch. W. Lloyd, Cwmfelin. Y Parch. S. R. Jones, Glyntaf, oedd y pregethwr, a chawsom bregeth gymwysiadol oddiar y geiriau, 0 byrth, dyrchefwch eich penau," &c. Yr oedd yr wyl yn llwyddiant ymhob ystyr. Gwahoddodd y rheithor caredigy dieithr i'w dJ¡ lie yr oedd darpariaeth helaeth o deisen a the wedi ei gwneyd ar eu eyfer.- U?i oedd yno.
MALLWYD.
MALLWYD. YR YSGOLION SUL.Dian yr addefir fod yr Ysgol Snl yn llaw-forwyn fuddioi iawn i'r Eglwys ac oherwydd hyny dylid ymdrechu rhoddi pob cefnogaeth iddi. Hen ddnll Eglwysig tra effeithiol i gyfrann addysg ydyw holwyddori—y mae yn ddifyr, eglur, ac adeiladol. Y mae y cyfarfodydd holwyddori cyhoeddus, yn lied gyffredin yn ein mysg bellach, a deillia daioni dirfawr trwyddynt. Cynhaliwyd un o'r cyfryw prydnawn dydd Snl diweddaf yn Ysgoldy Minliyn, pryd yr arholwyd y ddwy Ysgol Sul gan y Parch. W. Richard, Cemaes. Holwyd oddiar Matth. xxviii., yn Saesneg; y 5ed benod o Rhodd Mam," a'r ail bwnc o'r Credo (Parch. G. Jones.) Canwyd yr ant-heman "I'r unig ddoeth Ddaw" a Molwch yr Arglwydd (Eos Llechyd.) Y mae yn hyfrydwch genym hysbysu fod yr holi yn hynod ddy- munol, ac yr oedd yr atehion yn well a mwy cyffredinol nag yn y cyfarfodydd blaenorol. Cafwyd canu am- genach a chynulliad lliosocach. Y mae pawb yn teimlo yn dra diolchgar i'r Parch. Mr. JRichard am ym- weled i ni, ae befyd am ei bregeth odidog ar Yr EglwyB," a draddodwyd ganddo yn yr hwyr yn Mallwyd. Gresyn na chlywsai yr holl blwyfolion y bregeth hon. Hyderwn y cawn wasanaeth y gwr parchedig eto heb fod yn hir, a bydded bendith ar ei lafur.
TALSARNAU.
TALSARNAU. YSGOLDY LLASDECWYN.—Dydd Gwener yr lleg cyf- isol, cafo.d plant yr ysgol uchod wiedd o de a bara brith. Y Parch. J. Hughes, curad, fn yn foddion i ddwyn oddiamgylch y tath v/ledd ragorol. Casglodd efe ynghyd a Miss Sephton, G.M., ddigon i dalu yr holl dreuiiau. Yr oedd y tywydd yn ffafriol iawn. Tua thri o'r gloch daeth amryw o foneddigesau a bonedd- igion yr ardal ynghyd i'r ysgoldy, er mwyn gweini i'r plant, ac er mwyn eu difyru, trwy chwareu gyda hwyntv mewn cae gerllaw. Cyn myned adref, aeth pawb i'r ysgoldy, pryd y talwyd diolchgarwch gwresocaf i bawb ag oedd wedi rhoddi eu harian a'ti hamser mewn cys- yiltiad a'r wledd uchod, a chafodd pob plentyn bun wrth ymadaei. Terfynwyd trwy ganu yr Anthem Genedl- aethoi, "Duw gadwo'r Frenhines."
PENMACHNO.
PENMACHNO. CYEAEFOD LLEHYDDOL EGLWYSIS.—Cynhelir y cyfar- fodydd hyn yn flynyddol trwy ymdrechion canmoladwy ein rheithor parchus, sef y Parch. J. Jenkyns, a mawr yw y llwyddiant a'r daioni sydd yn deiliiaw 0'11 cynal, Yr oedd y cyfarfod a, gynhaliwyd ddydd Sadwrn di- weddaf yn yr Assembly Room, yn llwyddiant yn ngwir ystyr y gair, ac y mae hyn i'w briodoli i'r ymdrech a gymerir i barotoi y plant yn ystcd misoedd y ganaf yn cghyfarfodydd y pla,nt. Beirniaid ar yr adroddiadau, traetbodan, &c., oeddynt y Parch. R. Williams, B.A., ficer Dolwyddelen; Parch. E. Evans, Bettws-y-Coed Mr. R. H. Roberts (Glan Cledwen), National School, Dolwyddelen, a Mr. Jones, National School, Yspytty, Y farddoniaeth, Tadnr Arfon. Ceifyddydwaith, Mr. O. Jones, Glasgwm Hall; a'r geiddoriaeth, Gutyn Arfon. Gan fod y maes llafur mor eang yr oedd yn angenrheidiol arholi yr adroddiadau Saesneg a'r dictation yn yr ysgoldy y boren, pan yr ymgeisiodd nifer liosog o aelodan ysgol ddyddiol y Llan. Gwobrwywyd y goreuon yn nghyfarfodydd y prydnawn a'r hwyr. Dechreuwyd y cyfarfod prydnawnol am ddau, ac' arweiniwyd gan Mr. W. Edwards, School House. Am ateb gofyniadau o 'Rhodd Mam,' y goreuon oeddynt John Richards, Llewellyn Street, a John P. Edwards, School House. Elizabeth Williams, Dylasa Isaf, ac Ann J. Hughes, Bryn Llewellyn, ydoedd y goreuon ar yr adroddiad Saesneg, Julins Csssar.' Am ateb gofyn- iad o'r Ail Catechism,' gwobrwywyd William H. Davies a Maggie H. Davies, High Street. Dyfarnodd Glan Cledwen Anne Evans, Cwm, yn oreu ar ffurfio geiriau ar yr adnod" I Cofiwch wrüig Lot,' Am y traethawd ar I IlaneEi Merched a gofnodir yn Llyfr y Barnwyr,' derbyniodd Miss S. Griffiths, Rheithordy, y wobr flaenaf. Am yr adroddiad Saesneg, 'Casabianca,' Thomas Owen, Mary Street, ydoedd y goren. Miss Ellen Hughes, Eagles Cottage, a Miss S. Griffiths, a ddyfarnwyd yn gydradd y 1 Chemise.' Ar y gys- tadleuaeth i biant dan ddeg oed ar gann I Piid a'm gadael dirion Iesn,' rhoddwyd y wobr flaenaf i John Richards, Llewellyn Street. Am adrodd, The Wi nd,' derbyniodd Maggie H. Davies y wobr flaenaf. Y goreu allan o liaws o ymgeiswyr ar y darlun o 'Dy Gweithiwr' ydoedd W. H. Davies, High Street. Anne Evans, Cwm, ydoedd y goreu ar aidrodd awdl loan Madoc i goffadwriaeth Dr. Morgan.—Cynhaliwyd cyfarfod yn yr hwyr, pryd yr a,rweiniwyd gan Mr. E. J. Williams, Rhydlanfair, gyda medrasrwydd, yr hwn foneddwr sydd yn earn gwnenthur bob amser yr hyn sydd yn ei allu er lies trigolion y plwyf hwn. Wedi cael anerchiad gan Mr. Williams, ynghyd ag anerchiad barddonol gan Tudur Arfon, aed ymlaen gyda'r rhaglen. Am adrodd yr emyn 537 o lyfr tonau Dr. Evans, Anne Evans, Cwm, ydoedd y goreu. David Richards, Llewellyn Street, a enillodd ar y traethawd ar yr A-rehoffeiriaid Iuddewig.' Cafwyd hwyl neilldnol pan yr adroddodd y plant" Y Llwynog' yn Saesoneg; y odwy oreu ydoedd Miriam Davies ac Alice Jones, High Street. Cystadleuaeth ar gann unawd i fecbgyn, 'Redd mown trallod,' goreu, W. H. Davies. Dyfarnwyd y wobr am adrodd Santa Claus I i John P. Edwards, School House, Cystadleu- aeth cor o biant ar ganu 'Gwyn ein byd,' goreu, cor David Roberts, Higbgate. Lewis Richards, Hafod, Lian, a dderbyniodd y wobr am y pryddest ar I Esgob Morgan.' Miss Williams, Cwm, ydoedd y goreu ar y penilion I Yr Amddifad,' Ymgeisiodd trio bartion ar ganu y don 511 o lyfr Dr. Evans goreu, parti D. W. Hughes. Am ffurfio gofyniadau ar St. Luc i.—viii., dyfarnwyd y wobr flaenaf i C. 0. Roberts, Bryncrug, Un yn unig a ymgeisiodd ar yr araeth byrfyfyr, Aur sir Feirionydd,' sef Mr. Thomas Williams, London House, a chafodd y wobr. Jane Roberts, Higheate, vdoedd yr oreu am ganu yr unawd, Afradlon.' W. D. Hughes ydoedd y goreu, allan o naw o ymgeiswyr, ar yr unawd 'Rhyddid Cyraru.' Dyfarnwyd y wobr am y prif draethawd, sef I Tabernael,' i Mr. H. Parry Roberts. Cystadleuaeth gorawl ar ganu Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd.' Ni ddaeth ond un cor ymlaen, sef cor Peniuachno, o dan arweiniad Mr. D. P. Davies, High Street. Cafodd y beirniad berffaith foddionrwydd yn y datganiad, ac yr oeddynt ya gwir deilyngu y wobr. Wedi talu diolchgarwch i Mr. Williams am arwain, ac i'r Parch. J. Jenkyn am ei ymdrech gyda'r cyfarfodydd hyn, dygwyd y cyfarfod llwyddianus hwn i derfyniad. Arwisgwyd y buddugwyr gan Mrs. Jenkyn, ac amryw o foneddigesau eraill. Yr oedd hefyd yn bresenol heb- law y gwahaiicxl feirniaid, y Parch. O. Jones, rheithor Pentrefoelas. Parch. R. Edwards. Yspytty, a Mr. W. Michael Williams, M.B., Mostyn Villa, &c.
GLANOGWEN, GER BANGOR.
GLANOGWEN, GER BANGOR. DYDD Y DyRci-i irAE, L.-GWYL FLYNYDDOL EGLWYSIG. -Dechrenwyd yr wyl y nos Fercher blaenorol, pryd y darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. H. Roberts, Brymbo. a chafwyd pregeth gan y Parch. T. Edwin Jones, curad Eglwya SQ, Mair, Bangor. Boreu dydd Ian darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. John Thomas, Rhosymedre; gwasanaeth y cymnn gan yr Hybarch Archddiacon Evans, Llanllechid; yr Epiatol gan y Parch. J. Morgan, ficer Glanogwen; a phregeth- wyd gan y Parch. Hngh Roberta, Brymbo, Yn y prydnawn intoniwyd y Litani gan Canon Will-, ams, Bangor, a phregethodd y Parch. M- Roberts, Llan- llyfnf. Yn yr nwyr darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. H. Grey Edwards, lilanfachraeth, a pbregeth- wyd gan y Parchn- T. Lloyd, ficer corawl L'anelwy, a H. Roberta. Yr oedd hefyd yn bresenol y parchedigion eanlynol :-D. W. Thomas, M.A., ficer, a S. Jones, St. Ann's; D. O. Dalies, Llanddeiniolen: J. Morgan Jones, curad St. Mair, Bangor; John Morgan ficer, ac E. R Jenkins, cnrad Glanogwen. Cafwyd cynulleidfa- oedd lliosog trwy yr oil o'r cyfarfodydd, yn enwedig nos Fercher a'r prydnawn a'r hwyr dydd lau, Yr oedd y cor, yr hwn sydd o dan arweiniad medrus Mr. John Roberts, yn ei hwyliau goreu. Canwyd pump o an the man yn ystod y cyfarfod, ac yr oedd y dadganiad o Lift up your heads, 0 yo gates," yn hynod o dda, ac ystyried "byrdra'r amser a gymerwyd i barotoi, ac yn adlewvrchu clod nid bychan ar yr axweinydd ieuanc a galluog.
[No title]
— Mae haner can' mil o fidogau newyddion wedi eu gorchymyn i gael eu gwneyd i filwyx Prydain Fawr. Mae Hong ryfel wedi ei gorphen yn America, yr hon sydd i saethu shells yn cynwys dau gan' pwys o dymameit' yr un. Sictha papyrau Vieuns6 fod ffermwr newydd farw yn Moravia wedi cyraedd i'r oedran teg o 142 o flynyddoedd I Dywedir hefyd ei fod wedi gadael ar ei ol fa.b yn 115 oed, ao wyr yn 85.
Y DIWEDDAR DDEON STANLEY.
Y DIWEDDAR DDEON STANLEY. Mae Dr. Bradley, Deon Westminster, yn awr yn ysgrifenu bywgraffiad y diweddar Ddeon Stanley af ddymuniad Dr. Vaughan, Deon Llandaf, yc nas gall habgor yr amser angenrheidiol at y orchwyl llafurus. Mr. Theodore Walrond a benod- wyd ar y cyntaf i ysgrifenu y bywgraffiad, ond bu farw cyn dechreu ysgrifenu, er ei fod wedi caslu ugeiniau o ysgrifau gwerthfawr yn dwyn cysylltiaci a'r diweddar Ddeon.
YMDDISWYDDIAD DR. STAINER,…
YMDDISWYDDIAD DR. STAINER, ORGAN YDD ST. PAUL'S, LLUNDAIN. Nos Sul diweddaf terfynodd Dr. Stainer, yr argon- ydd enwog, ei wasanaeth hirfaith yn Eglwys Gadelr- iol St. Paul's, Llundain, ac y mae yn awr yn pres- wylio yn Rhydvchain. Cyflwynwyd amryw antbeg- ion gweithiawr i'r Dr. ar ei ymadawiad gal1 glsrigwyr, corau, a swyddogion St. Paul's, ac ersill. Yn ddiweddar bu farw tad Mrs. Stainer, yr hwu adawodd £ 80,000 iddi yn ei ewyllys.
DEON LLANELWY A'R EGLWYS YN…
DEON LLANELWY A'R EGLWYS YN NGHYMRU. Boreu ddydd Sul diweddaf ymwelodd 149ber Lerpwl (Mr. T. W. Oakshott) fig Eglwys Gymreig Brownlow Hill; yr oedd y gynulleidfa yn dra lluosog. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parchn. JaJBe0 DavieB, Lerpwl, a W. Glanfirwd Thomas, Llanelwy, Traddodwyd y bregeth gan y Gwir Barchedig Ddeotl James, o Lanelwy, yr hon oedd yn seiliedig ar IoaD vii. 16. Yn ystod y bregeth sylwodd mai nid y lie P oedd efe yn sefyll ynddo oedd y lie priodol i ddvvyll materion dadleuol i sylw, ond gofynai ar fod i'w wrandawyr beidio anghofio fod yr Eglwys yJJ. Nghymru yn awr yn ymladd brwydr—nid brwydr YO erbyn rhai yn gwahaniaethu oddiwrthynt ar bynoJaU athrawiaethol a feddyliai, ond brwydr yn erby11 anwybodaeth ae anghrefyddoideb, ae yr oedd yl1 gwueyd hyny o dan amgylchiadau anghyffredio0 anhawdd. Ymladdid y frwydr hon yn ddifrifol a. yn ffyddlon a'r hyn oedd yn fwy, yr oedd yn cael 01 hymladd yn llwyddianus. Os oedd pobl Lloegt YO tybied mai Eglwys farw ydoedd yr Eglwys yn Nghymru, yr oeddynt yn camgymeryd, ac nid oe-B. ynt yn darllen arwyddion yr amserau yn gywir.
HAELIONI EGLWYSIG.
HAELIONI EGLWYSIG. Agorwyd Eglwys yn cynwys eisteddleoedd i 410 ° addolwyr yn Smethwick, Birmingham, ddydd Stil wythnos i'r diweddaf. Adeiladwyd yr Eglwys draul Mr. J. R. Tilley, a dywedir ei bod yn adeUftd costfawr a gwych.
MYDRIM.
MYDRIM. Y mae y plwyf hwn yn wag drwy farwolaetb Y Parch. R. T. Jenkins, y diweddar ficer. Noddwt Yr Eglwys-fudd yw Esgob Tyddewi.
LLANGOED.
LLANGOED. Gwag hefyd ydyw yr Eglwys-fudd hon farwolaeth Dr. Hariies Davies (Pererin). Yr "Pererin" yn adnabycldus fel lienor ac fel aW^f amryw lyfrau. Noddwr Llangoed ydyw Mr. B. Hughes.
CANON PULLEINE.
CANON PULLEINE. Cyssegrir Canon Pullaine fel Esgob cynoithv?/ Penrith, dydd Mawrth ;y Sulgwyn. Cydweitb'^ fydd yr Esgob hwn ag Esgob Ripon.
TYSTEB I'R PARCH. J. H. CLOUGHER,…
TYSTEB I'R PARCH. J. H. CLOUGHER, 13.i. Ar ymadawiad y boneddwr parchedig uchod Chastellnedd, cyflv/ynwyd tysteb iddo gan drigolj0f y plwyf fel arwydd o'r teimladau da oeddynt yn b°a', oli cydrhyngddo a'r plwyfolion ar ol arhosiad o bØrJJ miynedd yn eu plith. Y mae Mr. Clougher f myned i'r Goetre yn sir Fynwy. Yn ystod ei vfeij?. idogaeth yn Nghasteilnedd, y mae wedi cylch helaeth o gyfeillion, ac nis anghofir yn faa11 i lafur a'i ddiwydrwydd fal curad yr Archddi&c°f, Griffiths. Cyflwynwyd y dysteb iddo mewn cy^ fod cyhoeddus, ac yr oadd yn gyfansoddedig o sa^ arian, gwerth £ 10, a chod yn cynwys £ 50 mewn.a^' Oddiwcth ei ddosbarth yn yr Ysgol Sul derbyni0'i Mr. Clougher awrlais hardd ynghyd fig inkst<$' Yn yr areithiau a draddodwyd ar yr achlysur lygodd amryw o foneddigion eu gofid fod Clougher yn ymadaei a'r plwyf, ond llongyfarok j,, ef ar ei ddvchaiiad. Llywyddwyd gan yr &tC ddiacon. Y mae Mr. Clougher wedi sefydlo Goetre, ac nis gallwn lai nag eidduno iddo ™ llwydd a benclith yn ei blwyf newydd.
CYNHADLEDD ESGOBAETHOL LLANDAF.
CYNHADLEDD ESGOBAETHOL LLANDAF. Cofus gan ein darllenwyr fod un o'n gohehwy1' ddiweddar wedi taflu yr awgrym allan mai fuasai cynal Cynhawlledd Esgobaeth Bangor &e^et gwahanol faztau yn yr Esgobaeth. Y mae llfLl i'w adweyd dros hyn. Deallwn fod Esgob Llaudaf, ar ol ymgynghori a'i gyfeillion, wedi Pedd derfynu oynal cyfarfodydd blynyddol y Gynbadf Esgobaethol am eleni ynnhref Casnewydd. o oyfyngu y gweithrediadau i un diwrnod. Gobe»%jJ| y gwelwn y gynhadledd yn cylchrodio yr Esgoba ac y daw yn ei thro i Aberdar, Castellnedd, 0j gafenni, Merthyr, a Chwm Rbondda. Dylasid nerth yr Eglwys, a'i hategu lie mae yn wan? dI fyned a'r gynhadledd yno o bryd i bryd.
[No title]
— Y mae Dr. Howe, Esgob Wakefield dechreu ar ei waith yn ei esgobaeth newydd. ddangoswyd teimladau hynod o ddwys a gofidU ei gyfeillion yn LtLundain ar ei ymadawiad. — Bwriedir cynal cenhadaeth yn mhl^y r y Ann's Llandegai, ger Bangor, y mis nesaf. ■-h^' plwyf yw y Parch. D. W. Thomas, M.A., a'r fod wr fydd y Parch. Evan Davies, Bryngwran- j^^y15 yr Eglwys yn llewyrchus yma, eto y mae lie 1 yfl rhagor i mewn yn ogystal a defiro y rhai sy °ysgu- — Ymddengys nas gall Eglwys newydd David's, Glanadda, Bangor, gael ei gorpheo. pryd i'w hagoryd ar y 18fed cyfisol, fel 7 ar y cyntaf. ——" 1 rhaii It
[No title]
— Y dydd o'r blaien, deuwyd ar draws^ uP" hen gaer Rhuieinaidd a amgylohynai Lia" waith i'r General Post Office.