Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
CADBEN CTMEEIG WEDI El GOLLI…
CADBEN CTMEEIG WEDI El GOLLI YN LLUNDA1N. Yr ydym yn cael fod Cadben John Lloyd, Llwyn- wermwnt, ger Ceinewydd, Sir Aberteifi, wedi ei golli yn ddisymwth yn Llundain. Yn ddiweddar, yr oedd wedi prynu y Hong Star, perthynol i Liverpool, yr hon oedd efe wedi ei chyflogi i fyned i Algoa Bay. Llwythwyd y llestr yn y West India Dock, Llun- dain, ddydd Mawrth, y 10fed cynfisol, ac yr oedd yn hollol barod i'r m6r. Am haner awr wedi pedwar y fliwrnod a nodwyd, aeth y cadben i weled y broker, )It. J. T. Jacobs. Ar ei fiordd yno, talodd swm 0 foO i'w rigger, gan gymeryd allan i wneyd hyny Qifer 0 papyrau, Ni welwyd ef byth ar ol hyny, ac ni chlywyd gair am dano. Ar y 19eg, anfonwyd at Mr. R. S. Lloyd, Aberaeron, er ymholi a wyddai efe rywbeth am y cadben. Aeth ar unwaith i Lundain, a byth er hyny y mae ymholiadau wedi eu gwneyd am y cadben. ond yr oil yn ofer. Yr oedd yn ddyn Bobr neillduol, a phob amser ar fwrdd ei lestr cyn chwech y prydnawn.
BALAAM A'I ASYN. '
BALAAM A'I ASYN. Os daw i'th gof i ofyn,—o ddau ful Pwy oedd fab y cyndyn, Pwy o'r ddau ?—diau mai'r dyn Direawm ydyw'r asyn 1 PENFSO.
AT " PENFRO."
AT PENFRO." Carnalaw yn anfon anerch, gan ymddiheuraw am ei hir ddistawrwydd. Cryn holion am Carnalaw "—sy'n Y LLAN- Swn llais ei hen athraw*;— Cerdd eirian o'i dreflan draw Ei ateb raid im' etaw. I'r Awen Eden ydyw-Glan Conwy,— Glyn ceinwych, digyfryw Nefol ardd i fardd i fyw Yw eich haddef wech, heddyw. Byw yw Carn -mae bai arno-na yrai Ryw air bach i Penfro Tro gwael oedd gadael dros go' Hen gyfaill haedda'i gofio. I Arthurf drwy drafferthion—yr einioeB Nef rano'i bendithion I ben doed-ac heb un dàn- Hirfaith fordaith dros fawrdon. I Forfydd, yn ol f' arfer,-eiddunf Nefol ddoniau lawer: Yn llaw 16n, 'run dirion, der Yn yr anial arweinier. I'w gymarea gn, em eirian,—y b'o, A0 i'r Bardd ei hunan, D -.diau a bywyd diddan," Ar cs hyd i gyd yn gan Llythyr cyhyd a llathen A gant hwy, a mwy, Amen S CARNAIIAW. Cyfeiriad sydd yma at yr amser pan oedd "Penfro yn golygn barddoniaeth y Dywysogaeth. t Arthur Nugent a Morfydd Maria. Nid yw ond megis doe genyf gofio fy mod yn croesawu yr olaf i'r byd, ond y mae er hyny uwch pum' mlynedd. Bendith ar eu penan ac ar y tenlu dedwydd
LLINELLAU'
LLINELLAU I'r diweddar Ba,rch. J. Williams (I. ap loan), Y brawd, Ap loan brydydd,-cu ydoedd, Cadarn fel duwinydd; Hynodol, anfarwol fydd Ei glod gwir fel gwladgarydd Ow! loan mewn oer anedd-a orwedd, Fel eraill caldd lygredd; Daw er hyn yn wyn ei wedd Ar derfyn hwyr daiarfedd. I'r Ian ar y fro lonydd, Uwch y boen yn iach y bydd. Ap loan hoff, ei Loffion "-a folir Gan filoedd 0 ddynion; A gwir astud hardd Gristion Oedd, a gwas addas i Ion. Felly y ter gyfaill tirion-huna 0 swn y trafferthion; Deui'n gu 'mysg y llu lion O'r gweryd-cei aur-goron. Coron dan sel y cariad Hwnw fry yn nhy fy Nhad; Miloedd y wlad sy'n moli Yn wir her ein doeth Ner ni. DEWI DYAR.
YR EIRA.
YR EIRA. D'od mae 0, raedd bro a bryn,—a'i osgo Yn ysgafn i ddisgyn Ond yn ddw'r a, y gwr gwyn, A'i ddullwedd er mor ddillyn. Anian o dan dy wen di—a gilia O'r golwg, a'i mhawrfri Sain o'th fawredd byth swni- Dim i fyd ond-dyma fl 1 DEWI DYAR.
'RWY'N AELOD 0 GLWB Y LLANCYDDION.
'RWY'N AELOD 0 GLWB Y LLANCYDDION. 'Roedd Gweno, fy nghariad, a minau, un hwyr Yn sefyll tan dderwen Caegwynion, Ac yno anghoflais fy hunan yn llwyr Wrth wrandaw ei dwysaidd gynghorion: Siaradai'n feistroJgar ar ffasiwn y byd, A d'wedai yn gu wedi hyny- Chwi wyddoch o'r goren ei bod yn llawn bryd I ninau ein dan i briodi. 0 dan ei liathrawiaeth hi wnaeth i'm' pryd hyn I deimlo i'r byw fy anhunedd, Nea rhoddi fy mreichiau am dani'n fwy tyn, A d'wedyd rhyw eirian tra rhyfedd I Ond da gan fy nghalon yn wir i mi dd'od O'i gafael heb ro'i addewidion; Waeth, rywsut, 'rwy'n credu mai gwell ydyw bod Yn aelod 0 glwb y llancyddion. Ceir ambell i lencyn tra nwyfus ei fron, A'i benglog fel wedi ymdd'rysn; Fe ddywed pob gweithred a wna efe bron, Tueddfryd ei galon yw earn Yn nghwmni'i iserchetos hardd beunydd myn fed, Am danynt y nos y brenddwydia; Mae'n credn yn gadarn, chwi welwch ei n6d, Mai gwynfyd fydd newid sefyllfa! Ond siomiant a chwerwder feallai a ddaw, Gan hyny, pa raid yw petrnso; A minau ni roddaf yn fyrbwyll fy llaw, I foddio mawr awydd fy Ngweno 'Rwy'n gweled mai doefchach yw aros fel 'rwy', Er myn'd braidd yr oil o'm cyfoedion; A chanaf fel yma dros flwyddyn neu ddwy, 'Rwy'n aelod 0 glwb y llancyddion. DEWI DYAR.
OLADDU YN FYW r
OLADDU YN FYW r Y mae ofieiriad adnabyddus yn Llundain o'r enw y Parch. Harry Jones, yn datgan ei opiniwn nad yw yn annhebyg, mewn adegau 0 heintiau, fod rhai pobl yn cael eu claddu yn fyw. Y mae yn dweyd fod merch ieuanc adnabyddus iddo ef unwaith wedi cael ei chyhoeddi yn farw olt cholera, ac hyd yn nod wedi ei rhoddi allan yn barod i'r undertaker erbyn v buasai yn galw. Ar yr adeg daeth cymydoges i mawn gan alaru uwch ei phen, 11 Ac a ydyw Sarah druan, wedi marw? ebai y gymydoges. Wei v mae yn debyg ei bod," ebai y fam, a bydd yn fuan wadi ei chymeryd. ymath; ond os gellwch wneya rhywbeth, y mae 1 chwi roesaw." Yn gweithredu oddiar yr awgrym, dechreuodd y gymydoges rwbio y corph a mwstard, ac yn fuan eisteddodd Sarah ar ei heistedd, a gwellhaodd i'r fath raddau fel y priododd a darfu 1 mi fy hon," ebai Mr. Jones, "fedyddio pedwar neu bump o'i phlant." Y mae yn adrodd belynt nou ddau arall Ilayvn mor ryfedd.
Y BRIF EGLWYS YN NHY DDEWI.
Y BRIF EGLWYS YN NHY DDEWI. At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,-Yr oadd Hen Domos yn llygad ei le pan YN tynu ein sylw yn Y LLAN at y defnyddioldeb a ellid wneyd o'r Brif Eglwys yn Nhy Ddewi, drwy gynyg fod Gwyl Gorawl Archddiaconiaeth Oaer- fyrddin i ymweled a'r lie y tro nesaf, ymhen rhyw flwyddyn non ddwy, mwy neu lai. Cynygiad ardderckog yw yr uchod, mi debygwn i, ao yr wyf yn awchus am dalu diolch i "Han Domos" am ei ddodi i lawr. Campus, yn wir, Hen Domos." Y niaa yn syndod na fuasai rhyw fesurau o'r fath ar droed er's blynyddau. Os na ellir troi y Brif Eglwys i fod yn fwy gwaaanaetbgar i'r esgobaeth yn y dy- fodol nag ydyw wedi bod yn ystod y ganrif ddiwsdd- af, fe gryfha y waedd yn ei herbyn, o ddydd i ddydd, gan fod yr oes, ar y cyfan, yn myned yn fwy ymar- ferol y naill ddydd ar ol y llall. Ie, ysgrifenir yn y Swansea Cambrian a'r Western Mail am Abertawe yn barod fel lie tsilwng a chyfleus ar gyfer adeiladu cathedral yno, yn lie yr un yn Nhy Ddewi. Rhaid gwneyd rhyw- beth cyn y gellir rhoddi taw ar siarad fel hyn. Y prif rwystrau ar fiordd myned a'r wyl gorawl i Dy Ddewi fydd yr anghyfleusderau a'r draul ynglyn a hyny, ond nid wyf yn meddwl fod y rhwystrau hyn yn anorchfygol. Ys dywed y Sais, "Where there is a will there is a way." Ie, oa byddis am fyn'd, ynte, fe eir. Dim ond creu tipyn o gywreinrwydd yn y bobl am weled y lie, fe ddiflana y rhwystrau y naill ar ol y llalll fel niwl ben boreu. Wel, gyda. llaw, efallai nad yw y rhan Gymreig o sir Benfro, er yn byw yn yr ymyl, yn rhyw gyfar- Wydd iawn a'r Brif Eglwys ao os gwir hyn, yr wyf yn cynyg fod Gwyl Gorawl Archddiaconiaeth Ty Ddewi i ymweled a'r Brif Eglwys yn gyntaf, fel y gallant roddi esiampl dda i ddieithriaid. Y mae oynghori Archddiaconiaeth Ty Ddewi i fyned ar bererindod i Dy Ddewi yn swnio dipyn yn od, ond y naae y cyngor yn un hollol iach, serch hyny. Charity begins at home," ac felly dylai sir Benfro ddechreu y mudiad hwn. Gallant hwy, hefyd, wneyd yr experiment yn rhwyddach a rhatach na'r naaaau pellenig. Yna, yn yr ail le, hoffwn weled Gwyl Gorawl Archddiaconiaeth Caerfyrddin yn talu ymweliad a'r lie. Yn drydydd, hoffwn weled Gwyl Gorawl Ceredig- ion yn myned yno. Yn bedwerydd, hoffwn weled Gwyl Gorawl Aber- nonddu yn cymeryd at y peth. Dyna raghysbyslen bur dda, a gobeithio y dechreuir ymgymeryd a hi ar Unwaith. "Deuparth gwaith yw ei ddechreu," ac yn neillduol felly os dechreuir ef yn iawn. Yn Nhy Ddewi, yn ddilys, y mae y deml addoliad- 01 ardderchocaf yn'y Dywysogaeth. Ycfrydig iawn, er hyny, mewn oymhariaeth, sydd yn gwybod hyny. Y mae yr adgyweiriadau sydd yn myned rhagddynt yno er y flwyddyn 1863 yn agos ar ben, ac yr ydys wedi gwarie rhyw X40,000 ar yr adgyweiriadau hyn. Yn awr, pe gofynid rhyw ofyniad syml fel hyn, I ba duiben y gwariwyd cymaint o arian ar y Brif Eg- lwys ynV yfath. le ? byddai yn anhawdd rhoddi ateb- iad llawn a boddhaol iddo, Os ydyw gwario y fath swm anferth o arian yn waith da, y mae yn hollol afresymol cuddio y gwaith, rhag y bobl, fel canwyll da.n lestr, yn lIe at ganwyllbren. Fel ag v mae pefclaau yn bresenol nid wyf yn meddwl fod un o bob all ° boblogaefch yn Esgobaeth Ty Ddewi, a chau y ffaith^on5?0' -we-di gw-ile// ?K.if Dylai Bydd „ on 1 m gywilyddio f 3l Eglwyswyr. VMwoi Cristionogion yn yr hen amserau yn talu Weth au arQl a'r Brif Eglwys, ac yr wyf yn hwvl paham na's gallwn ninauyn yr oes oleu, wa>lUS' a c^y^eus ^°n, ymweled a'r lie rhyw un- aita mewn bywyd, fodd bynag. Yr ydym fel vymry yn hoff iawn 0 excursions, ac yn barod i yned bron i bob man ond i Dy Ddewi yn y wedd ?n. Tan yr amgylchiadau fiafriol hyn, bydded i 1 wneyd Ty Ddewi yn gyrchfan i dynu ato yn y blynyddau dyfodol. Y mae yn llawer mwy cyfleus 1 Wneyd hyn yn awr nag yn y dyddian y byddent yn d,? ymw0liadau pererindodol a'r lie ganoedd 0 flyn- yddau yn ol, ie, a hyny yn hollol ddirwgnach. Nid rhyw 14 fwbach i darfu dynion ddylai Ty Ddewi iod, fel ag y mae ar hyn o bryd Byddai ymweliad a r Brif Eglwys yn sicr 0 adael argraff dda ar yr ym- Welwyr—yn sicr o'u llanw a syndod a rhyfeddod- yn sicr 0 enyn serch at y prydferth ynddynt-yn sicr 0 ddyrchafu eu teimladau at yr henafol a'r Mitwredclog-yn sicr 0 eangu y meddwl cul a chre- bachlyd-yn sicr 0 roddi tsstyn siarad iddynt am flynyddau ar ol hyny. Rhwydd hynt, ynte, i'r MUDIAD.—Yr eiddoch, &c., DEWI CYNFAB. Llandysilio-gogo.
[No title]
A- ydych chwi yn ofergoelns, John Jones ?' Na, ch yn ueilldnol; paham ydyeh yn gofyn ?' Ydych Cj y^ meddwl y byddai yn arwydd o farwolaeth fod sicr v k ° ° dan eich ffeneBtr ganol nos ?' ir wyf yn Vn .by"dai yn arwydd o farwolaeth 03 arhosai yno uigon hir i mi gael cyraedd fy nryll.'
.11'\11-'"",,-ISIROEDD FFLINT…
.11'\11- SIROEDD FFLINT A DINBYCE. GWBTHDDEGYMWYB YN EU HAFIAETH.—Y'maa'r I bodau hyn yn ymhyfhau, a'u rhysedd ar gynydd, yn enwedig yn nghymydogaeth argraifdy y Faner, a'r plwyfydd hyny y ceir dyianwad y papyr enliibus hwnw yn oruchaf ynddynt. Fel engraifit gallaf gyfeirio at ymddygiad cythryblus a digyfraith mintai fawr 0 bobl Dinbych a'r cymydogaethau yn y dref bono ar noson farcimad yr wythnos ddiweddai. Yr I oedd Mr. Stevens, y degymwr, a'i osgordcllu-pobl barchus yn enill eu cynhaliaeth mewn fiordd onest, oblegid nid anonest casglu dyledion—yn dychwelyd i'r dref, pryd yr ymosodwyd arnynt gan ganoedd o bersonau; rhai yn eu cilgwthio, ac eraill yn eu I llabuddio a meini. Ac oni bai fod yno haner dwsin o heddgeidwaid yn digwydd bod yn bresenol diameu y darnladdesid yr holl fintai. Cafodd y degymwyr loches mewn tafarndy, tra. yr oedd yr ymosodwyr arnynt yn ysgyrnygu danedd a rnalu poor, ac yn gollwng allan fygythion a chelaneddau am dair awr o amser o flaen y ty. Er nad oedd hyn oil ergyd careg o breswylfcd y Parch. Thomas Gee, dywed un o'r papyrau newyddion nad oedd ef na Howell yn ei hvatyried yn ddyledswydd arnynt i geisio lliniaru cynddaredd cynddeiriog y bobl. Ond y mae'n amlwg nad oedd y Faner heb gynrychiolydd yn y lie, oblegid yn ei hargrafnad am ddydd Sadwrn ceid adroddiad sensational am yr aspri," heb air 0 anghymeradwyaeth iddo.! Nid oedd. yr oil, meddai papyr Mr. Gee, and "tipyn o horseplay I" Nid ,)a. dyna arferiad yr hen Fethodistiaid o edrych ar gyffro ymosodiadol o'r fath yma. Ac os ydyw y oyfryw both yn y dyfodol i dderbyn set cymeradwyaeth aelodau'r Corpb, goreu po gyntaf y cyfnewidir ychwaneg nag un adran yn y Oyffes Fiydd. GWEITHSED FOCHYNAIDD.—Arferid eyfeirio at bobl Dinbycb, mewn coegni neu mewn difrif, fel own." Ond mwy' priodol rhagllaw i rai 0 honynt gael eu galw yn fleiddiaid, ac eraill yn foch. Un o'r dosbarth diweddaf ydyw'r "masnaohwr parchus yn un o brif heolydd y dref, yr hwn, ar noson yn ddiweddar, a aeth i'r gwesty y Iletya y degymwyr ynddo, ac (y mae'n ffiaidd genym ei adrodd) a boerodd yn ngwyneb un 0 honynt,'ac wedi hyny a gymerodd y goes. PASSIVE RESISTANCE."—Clywais wrth-ddegym- wyr yn dweyd droion nad oes eisiau dim plismyn i amddiffyn caslwyr y degwm, gan na wna'r bobl ddangos dim ond "passive resistance. (Moesed Carnalaw air Oymraeg am y rhai hyn !) "Passive resistance a gaed ar heol Dinbych Passive resistance a gaed dranoeth at y fiordd i Lanefydd, pan gyfarfyddwyd a'r degymwyr gan fintai fawr 0 bobl, yn curo llestri, yn bloeddio, ac yn gwneyd y fath nadau fel ag i yru y ceffylau a dynent gerbyd y gosgorddlu yn haner gwallgof. Passive resist- ance oedd gosod meini mawrion ar y ffordd i atal tram 7y aeth a "passive resistance" oedd fel hyn orfodi y degymwyr i ddychwelyd heb gyflawni eu gorchwyl. DIRWYO GWRTHDDEGYMWYR !— Yn Ninbych, dydd Iau, dirwywyd tri pherson am fod yn feddw ac afreolus ar yr heol pan wnaed yr ymosodiad ar y degymwyr. Darfu i un o honynt alw ar Mr. Hywel Gee yn dyst drosto ond nid digon oadd dylanwad y riya ieuanc yma i achub y cyhuddiedig rhag cosb. I ABWTDDIOK YR A-MSERAU.— Yn llys Ynation bwrdeisiol Dinbych yr oedd Cadeirydd un 0 ganghenau lleol y cyngrair gwrthddegymol wedi cael ei wysio am beidio talu y sanitary rate. Paham y gwrthodai nis gwn; os nad yw yn tybied fod y trethi yn bethau mor "anghyfiawn" a'r degwm. 0 leiaf dyna fydd barn rhai cyn pen ychydig amser, a gosodir ardreth a phob tai arall ar yr un tir. CAIS I BROSELTTIO.—Dywed papyr Gwrecsam fod un 0 deulu Mr. Gee wedi ymdrechu cael gan Capt. Evans, yr hwn a fu'n llafurio yn llwyddianus dros Fyddin yr Eglwys yn Ninbych, i ymuno a'r Capel Mawr Gan na lwyddwyd, nid oedd dim yn aros ond dial ar yr efengylwr Eglwysig trwy gyhoaddi ymosodiad arno yn y Faner, Yr oedd y grawnwin allan 0 gyraedd, a chan hyny yn sur POLITICIAETH A GWARCHEIDWAID y TLODION.—Yn Mwrdd Llanelwy ceisiwyd gan yr aelodau ddeisebu yn erbyn darpariaeth Mr. Ritchie o roi iawn i dafarnwyr y cvmerid eu trwyddedau oddiarnynt. Anrhydeddwyd y gwyddfodolion âg araith didotalaidd gan wr ieuanc Ilr enw Mr. Jacob Jones, Rhyl ond rhoddodd Mr. Joseph Lloyd gynfas wleb" arni, trwy ddweyd fod pawb wedi darllen yr hyn a gynwysai lawer tro yn y papyrau. Ar yr ymraniad gwrthodwyd cario y cynygiad. Yn Mwrdd Rhuthyn hefyd dygodd T.P." gynygiad oyffelyb ymlaen, ond ni chafodd ef ddim cefnogaath. Mae gan y byrddau hyn ddigon i'w wneyd ond iddynt yn unig ymgadw at eu dyledswyddau priodol. DARLITH DDARBUBIADOD.—Gwelaf yn yFree Press ddarfod i'r Parch. Daniel Edwards, person y OefD, Llanelwy, draddodi darlith ar Hanes yr Eglwys Brydeinig, o'r dyddiau boreuaf hyd yr amser pre- senol," yn ysgoldy Rhuddlan. Yr oedd y ddarlith yn cael ei hegluro a magic lantern slides, a mwyn- heid y dorf a lanwai yr ysgoldy yn fawr. Da iawn genyf fod yn mryd Mr. Edwards draddodi y ddar- lith mewn plwyfydd eraill etc, oblegid yr wyf yn sier y bydd 0 fudd a lleshad dirfawr. "CYDYMAITH YR ATIIRA w. "-Mae cyfeirio at Mr. Edwards yn fy adgofia o'r catecism rhagorol a ddygir allan ganddo dan yr enw uchod, neu gyd- ymaith yr ofieiriad a'r athraw." Yr wyf fi wedi cael y llyfr yn wasanaethgar iawn, a diamheu mai dyma brofiad derbynwyr eraill. Gwelais hysbysiad fod y rhan olaf, y bedwaredd, yn awr yn y wasg, a hyderaf y rhydd ein cydwladwyr Eglwysig y gefnog- aeth i'r Cydymaith a haeddir ganddo. Lloffa mewn ychydig feusydd a wnaethum yr wythnos hon, ond y tro nesaf yr af allan ymdrechaf fyned ychwaneg yma ac acw. LLOFFWR.
RHODD HAEL10NUS ARALL GAN…
RHODD HAEL10NUS ARALL GAN lR. ASSHETON SMITH. Hysbysa Captain Stewart, mewn llythyr at Mr. R. R. Williams, Caernarfon, fod Mr. Assheton Smith wedi penderfynu dychwelyd y rhent haner blwyddyn sydd yn ddyledus nesaf oddiwrth bryd- leswyr ar ei ystad. Dyma rodd odidog yn ych. wanegol at ei rodd dywysogaidd i'w denantiaid ar achlysur ei
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Rhaid i ni erfyn ar ein eyfeiilion barddonol fod mor garedig a thalu sylw i'r rheolau canlynol o hyn allan 1. Defnyddier note paper, ac ysgrifener ar un tu i'r ddalen; 2. Ymdrecher dewis testynau o ddyddordeb cyffredinol, ac astudier tlysni a byrdra yn hytrach na meithder gormodol. 3. Nis gallwn ddychwelyd cyfansoddiaclau annerbyniol, na barnu teilyngdod cyfieithiadau heb weled y gwreiddiol. DEWI DYAR.—Yr ydych yn canu yn well yn y mesur rhydd nag yn y mesur caeth. Sylwch fod englyn da yn wastad a'i nerth yn ei gynffon. Gcchelwch rhag rhoddi llinell eiddil fel hon i ddiweddu:— Lan rhyw ddydd 0 dan lonedd." Nid yw yr Englyn i'r Ffon i fyny â'n safon. Nid yw Eira yn mis Mai yn dymhorol, ond rhoddwn le iddo y tro hwn, ar yr amod i chf/i gadw at y rheol o ysgrifenu ar mte-paper y tro nesaf. Rhaid cadw'r I gyfraith.
DYLANWAD CERDDORIAETH.
DYLANWAD CERDDORIAETH. Angel a sant yng nghlo sy'n—nno can Mewn cerdd yn ddiddychryii; CUn yma ddydclana ddyn- Y d- 1 a of na'r delyn. PEN FRO.
Y BYD HWN A'R BYD ARALL.
Y BYD HWN A'R BYD ARALL. Ami yn awr yn ngwisg mawredd-y rhodia Cawr adwyth a chamwedd, Ond yn myd yr hyfryd hedd Cewri enwog gwirionedd. PENFRO.
- llatorr tnrtim CfJllbíg.…
llatorr tnrtim CfJllbíg. "r- Cynwysa milldir Wyddalig 2,240 o latheni. Amoangyfrifir fod 600,000 0 dai yn Llundain. Trigiana 350,000 0 Germaniaid yn New York. Hyd Camlaz Suez yw can' milldir; dyfnder 26 troedfedd. Cyhoeddir uwchlaw pedwar cant 0 newyddiad- uron yn Llundain. Cyhoeddir fod 0 leiaf 30,000 0 bobl digarcref yn y Deyrnas Gyfunol. Ar gyfartaledd, gwerir Is. 11e. y dydd gan bob person yn y Deyrnas Gyfunol. Dywedir fod llefarwyr cyflym yn siarad wyth mil 0 eiriau mewn awr Y swm a delir gan ei Mawrhydi y Frenhines am gerbydresi neillduol yw 7s. y filltir. Mae ystormydd o genllysg yn fynychaf yn ystod yr haf na'r gauaf. Derbynir gwerth pedair miliwn 0 bunau 0 ddillad parod yn y wlad hon yn flynyddol. Nifer gwirfoddolwyr Prydain Fawr yw 230,000, ac y mae y draul o'u cynal yn wyth miliwn 0 buneu yn flynyddol. Rubenstein ydyw yr unig gerddor Rwsiaidd sydd yn gwneyd ei fywoliaeth drwy gyfansoddi cerddoriaeth. Y mae esboniad rhagorol ar yr Epistol at yr Hebreaid newydd ei gyhoeddi gan y Parch. T. Charles Edwards, D.D. Y wlad a drethir yn Ewrop drymaf yw Ffrainc, lIe y trethir ar gyfartaledd X4 10s. ar gyfer pob pre. swyliwr yn flynyddol. Hysbysir fod awdurdodau y trefadigaethau Awstralaidd wedi gwario tuag wyth miliwn 0 bunau er hyrwyddo ymfudiaeth. Dywedir fod oyfanswm y genedigaethau yn Lloegr a Chymru yn flynyddol uwchlaw 370,000 yn fwy na'r marwolaethau, Y chwareuwr cerddorol cyfoethocaf yn America ydyw Joseph Jefferson. Tybir ei iod yn werth 750,000 0 ddoleri. Mae dau argraffiad 0 "Robert Elsmere," llyfr Mrs. Humphrey Ward, wedi ei werthu mewn pyth- efnos o amser yn unig. A Bydd i Dywysog Coronog Itali dalu ymweliad â Llnndain yn fnan, er agor yr Arddangosfa Ital- aidd sydd wadi ei gosod yno. Pe gosodid pob person yn Lloegr a Chymru i «e.j.yll mewn ileoso-ci penodoJ, bydciai y gwagle rhwng pob un yn 90 0 latheni. c Mae y nofelydd adnabyddus, Mr. George Manville Fenn, wedi ymneillduo i'r wlad er mwyn cael heddwch i ysgrifenu llyfr newydd. Mae y Parch. J. Williams (Ceulanvdd) newvdd gyhoeddi yr awdl-bryddest a fu yn fuddugol yn Eis- teddfod Llandudno y flwyddyn ddiweddaf; Oddiwrth y cofrifiad a wnaed rai blynyddau yn ol mae 50 0 alwedigaethau yn y Deyrnas Gyfunollle y mae llawer mwy 0 farched yn gweithio na dynion. Cynhelir Gwyl Gerddorol Dair-blynyddol Han- del yn y Palas Grisial y mis nesaf. Mae y gerddorfa. fa yn cynwys 2,500 0 Lundain, a 1,500 o drefydd aill, Mae cylchgrawn Seisnig newydd i wneyd ei ymddangosiad yn fuan dan olygiaeth Mr. Harry (punter, Mae Mr, Lewis Morris wedi ysgrifenu Arwemgan iddo. Dywedir fod yr ymchwiliwr Puritanaidd di- flino, Dr. Grosart, wedi d'od o hyd i rai caniadau dyddorol i Richard Crawshaw, y rhai na chyhoedd- wyd eisioes mo honynt. Yn nghyfarfod Cymmrodorion Abertawe, yr hwn a gynhaliwyd ddydd Mawrth cyn y diweddaf. traddododd Hwfa Mon araith odidog ar Egwydd- orion Cymmrodoriaeth." Dathlwyd can' mlwyddiant Mrs. Robb yn Laurencekirk, ddydd Sadwrn, a'r un dydd yr oedd ei nith yn cael ei anrhydeddu ar gyrhaeddiad yr haner can' mlwydd o'i phriodas.
[No title]
hen ™gddnwiolyn Morganwg wedi cyraedd ymhell dros gant oed._ Galwodd y meddyg un diwrnad jwgweied a chwyna! wrtho fod poen fn ei hochr Anfonaf foddion i chwi i chwaln y boen/ebai'r doctor 'O'r goreu, eba! y wraig a gwnaeth yn ol ei addewid' meddwl cymeryd dim a hono), pe buaswn i wedi âner eymeryd moddion doctor, ni buaswn wedi byw cyhyd a hyn.