Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

[No title]

CYSEGRIAD EGLWYS Y GROES,…

News
Cite
Share

CYSEGRIAD EGLWYS Y GROES, ABERGWILI. Diwrnod o lythyren goch hir-gofiadwy yn ardal Capel y Groes, yn mhlwyf eang a phwysig Abergwili, oedd dydd Mawrth, yr 8fed eyfisol, pryd yr ymgasgl- odd torfeydd lliosog o wyr lien a lleyg o wahanol barthau o'r wlad ynghyd, i fod yn llygaid-dystion o gysegriad yr eglwys newydd dlws gan Arglwydd Esgob Ty Ddewi, trwy gyfarwyddyd yr Hybarch Archddiacon James, M.A., ficer gweithgar y plwyf. Bydd yr eglwys yma (a adeiladwyd yn mhen uchaf y plwyf, tua phum' milldir o du y^gogledd-ddwyrain o dref Gaerfyrddin, ao mewn cymydogaeth boblog) yn gofgolofn adnewyddol o'i ymdrechion difiino ynglyn a gwaith yr Eglwys yn y plwyf, yn gystal ag yn yr archddiaconiaeth. Am 11, wedi i r holl offeiriaid ymddangos yn eu gwenwisgoedd, ffurfiwyd yn orymdaith i'r eglwys, pryd yr ymwahanodd y dorf i'r Esgob flaenori, yr hwn aeth trwy Wasanaeth y Cysegru gyda dwysder gweddus i'r amgylchiad. Llafarganwyd y Gwas- anaeth Boreuol (yr hwn oedd yn gerddorol) gan y Parch. T. R. Walters, ficer St. David's, Caerfyrddin, a chyfeiliwyd yn fedrus gan Mr. Thomas, Capel Cynfab. Gwnaeth y cor eu gwaith yn ganmoladwy, o dan arweiniad Mr. Davies, ysgolfeistr, Abergwili. Canasant anthem Gwyl Gorawl Caerfyrddin am y flwyddyn hon. Traddododd yr Esgob bregeth bwr- pasol a dyddorol oddiar Rhuf. xv. 30. Prif bwnc ei ymdriniaeth oadd cyd-weddio," ac adgofiai pawb o bwysigrwydd y ddyledswydd yn yr oes hon, er sicr- hau llwyddiant a bendith y nefoedd ar ein holl ym- drechion orefyddol. Yn nesaf, aeth ei arglwydd- iaeth (yn cael ei ganlyn gan y dorf drefnus a defosiynol) i'r fynwent, lie y darllenwyd y gwasan- aeth apwyntiedig ar achlysur eysegriad claddfa Eglwysig. Ar ol hyn ymwahanodd pawb er diwallu angenrheiniau corfforol, mewn fierm gyfagos, lie yr oedd darpariaeth helaeth ar gyfer pawb. Gweinydd- wyd wrth y byrddau gau Mrs. a Miss James, Aber. gwili Mrs. Roberts, High School, Caerfyrddin; Mr. Phillips, London House, Caerfyrddin, &c. Am 4, cynhaliwyd gwasanaeth, a phregethwyd gan y Parch. A. Britten, ficer Penrhyn ac yn yr hwyr gan y Parch. S. Davies, curad Llanelli, Yr oedd y cynulleidfaoedd mor lliosog fel yr oedd yn angan- rheidiol pregethu yn yr awyr agored yn y prydnawn a'r hwyr. I goroni gweithrediadau y dydd, tra- ddododd Mr. Britten anerchiad grymus ao effeithiol ar waith cenadaethol yr Eglwys, mewn plwyfydd gwledig yn neillduol. Gwnaed casgliadau ar ddiwedd y tri gwasanaeth at y gronfa adeiladol. Yr oedd yn bresenol, heblaw y rhai a enwyd yn barod, y Parchn. A. G. Edwards, Deon Gwladol a Chaplan yr Esgob John Evans, Deon Gwladol a Ficer Llanymddyfri S. Jones, Llangunor W. Davies, Llanllawddog E. Thomas, Llanegwad; J. Lloyd, Llanpumsaint; T. Thomas, Capel Cynfab T. Lewis, Llangynog E. Jones, Golden Grove D. James, Ferryside; D. Jones, Merthyr; D. S. Davies, Llanybri; W. Davies, Llandeilo-Abercowin; J. Evans a D. M. Davies, Abergwili; E. M. Roderick a T. B. Williams, Sant Pedr, Caerfyrddin; J. Davies, Llanllwoh; J. Davies, St. Anne's, Cwmffrwd, &e. Gohebydd arall a ysgritena,- Dydd Mawrth, yr 8fed o'r mis hwn, oedd dydd cysegriad Capel y Groes, neu fel yr adnabyddir ef yn y gymydogaeth, Capel Bach, yn y plwyf uchod. Bu eglwys o'r blaen ar yr ysmotyn hyn, a mynwent yn gysylltiedig a hi, ao yr oedd ychydig o'r muriau yn ganfyddadwy yn nghof rhai sydd yn fyw yn awr ao y mae dwy ywen fawreddog, olion beddau, a hen groes yn dystiolaethau gweledig yn bresenol o gys- egredigrwydd y fan. Ond bu am ugeiniau o flyn. yddoedd, os nad oanoedd rai, heb fod sain can a moliant yn esgyn i fyny o fewn i furiau yr hen adeilad, ond erbyn heddyw, trwy ymdrech egniol a ohanmoladwy yr Hybaroh Arohddiacon James a'i gydlafurwyr, canfyddir eglwys hardd i gynwys rhyw 140 o addolwyr, wedi ei hadeiladu ar yr un fan yn hollol ag a safai yr hen eglwys gynt. Y mae y gwaith yma yn debyg i Nehemiah gynt (fel y cyfeir- iwyd yn dlws dros ben yn y prydnawn gan y Parch. A. Britten, Penbryn) yn adgyweirio muriau Jerusa- lem. Wrth gyfeirio ein camrau boreu dydd yr agor- iad at gymydogaeth Capel y Groes, daeth yn ddi- symwth i'n golwg yr eglwys newydd yn sefyll yn nghanol tlysni anian mewn dyffryn prydferth, a'r meusydd oddiamgyloh wedi gwisgo mantell wyrdd, mor wahanol i'r hyn oeddynt ychydig ddyddian yn 01, pan oedd gwyntoedd oer y gogledd a'r gorllewin ynrhwystro tyfiant ac yn diserchu y tir. Ai nid oedd dechreuad y gwanwyn eleni yn rhyw ddarlun o sefyllfa grefyddol yr ardal mewn ystyr Eglwysig er pan y darfyddodd gwasanaeth crefyddol yn Nghapel y Groes ? Wedi bod yn hir yn dir anial, wele heddyw amlygiad o wawr newydd yn tori allan, a gwanwyn ysbrydol Eglwysig, tebyg mewn modd naturiel i ddydd y cysegriad, yn deohreu ym- agor yn Hawn gwyrddlesni yn rhoddi gobeithion o haf ffrwythlawn a thoreithiog. Trwy fod eglwys y plwyf mewn un owr, a chapel anwesLJanfihangel mewn cwr arall, yr oedd y trigolion a breswylient yn nghanol y plwyf yn anghyfleus iawn i gael modd. ion orefyddol Eglwysig; ond erbyn heddyw y mae yr anghyfleusdra yma wedi ei Bymud, trwy fod Capel y Groes yn sefyll mewn man canolog o'r plwyf, gyda drws yn agored i bawb a dd&l i mewn. Perthynai yn yr hen amseroedd i'r plwyf poblog ac eang hwn bedwar capel heblaw y fam Eglwys, ond gadawyd i'r oil oddigerth eglwys y plwyf fyned 1 ddadfeiliad ond wele un o honynt wedi adgyfodi, fel pe byddai, i fywyd newydd, a gobeithiwn o ddef' nyddioldeb mawr. Y mae yn bresenol yn y plwyf bedwar man lie y cynhelir gwasanaethau Eglwysig, a da genym fod yr Eglwys, trwy ymdrechion y ficer gweithgar a'i ddau gydlafurwr egniol, yn estyn ei chortynau, a hyderwn y bydd i'r un llwyddiant eu canlyn yma ac yn Ysbytty, lie y dechreuwyd oynal gwasanaethau crefyddol rhyw un flynedd ar ddeg yn ol, ac am yr wyth mlynedd cyntaf rhoddwyd eynorthwy gan weinidogion y plwyfi canlynol, sef Brechfa, Llanegwad, a Llanpumsaint. Ond i fyned at weithrediadau y dydd. Ar ol ffurfio yn orymdaith o ryw 25 o weinidogion yn eu gwenwisgoedd, a myned trwy y rhan o'r gwasanaeth a signio documents a ddalient gysylltiad a chysagriad yr eglwys gan Arglwydd Esgob Ty Ddewi, llafargan- wyd y gwasanaeth mewn llais eglur a swynol gan y Parch. T. R. Walters, Caerfyrddin a chwareuodd Mrs. Thomas, o Ficerdy Llanfair-ar-y-bryn, ar yr harmonium yn fedrus dros ben. Gwnaeth y c6r o dan arweiniad Mr. Davies, ysgolfeistr Abergwili, eu gwaith yn dda. Yroadd y chants, yr anthem, &c., o'r llyfr a barotowyd erbyn y Gwyliau Cerddorol yn yr Archddiaconiaeth hon eleni. Darllenwyd y ddwy lith gan y Parchn. J. Evans, D.G., Llan- ymddyfri, ac S. Jones, Llangunnor. Pregethwyd yn alluog gan yr Esgob ar weddi, yr hyn oedd mor briodol i'r amser yma o'r flwyddyn, sef tridiau y gweddiau (Rogation Days), ac hefyd i'r amgylchiad o neillduad adeilad i fod yn Dy Gweddi. Ar ol gweinyddiad y Cymun Bendigaid aeth yr Esgob a'r offeiriaid yn orymdaith i'r fynwent i neillduo rhan o'r tir amgylcbynol yn gladdfa y meirw, ac yr oedd y gwasanaeth yn ddwys ac addysgiadol dros ben. Yr oedd y fynwent wedi ei threfnu yn y modd mwyaf destlus, a phob path oddif ewn ae oddiallan i'r eglwys yn edrych yn brydferth a threfnus, yr hyn a ddengys 01 llafur mawr ar ran yr Archddiacon James a'i gyd-lafurwyr. Yr architects oeddynt y Mri. Middle- ton, Prothero, a Phillott, o Cheltenham, a'r adeil- adwyr y Mri. J. a D. Evans, Llanddewi Bren, ac y mae y gwaith yn dyst o alluoedd medrus yr architects, ac o ddidwylldra yr adeiladwyr adnabyddus o Gered- igion. Ar ol y gwasanaeth mwynhaodd yr Esgob, Y clerigwyr, a'r dieithriaid eu hunain a'r danteithion a barotowyd mor helaeth ar eu cyfer yn Ffoesygestj ac er fod canoedd yn cyfranogi, eto ymddangosai fod y darpariadau bron yn annherfynol. Diolch yn fawr i chwi, gyfeillion caredig Abergwili, am eicil caredigrwydd. Yn y prydnawn, gorfu i Mr. Britten, oherwydd lliosogrwydd y cynulliad, bregethu yn yr awyt agored, a rhyfedd mor astud y gwrandawai y dyrfa liosog ar ei hyawdledd, a llawer deigryn a gollwyd o dan ei apeliadau difrifol. Yn yr hwyr yn yr eglwys, pregethwyd yn swynol ac addysgiadol gan Mr- Davies, Llanelli, ac ar ol hyny rhoddwyd rymus a thoddedig gan Mr. Britten, a theiml&<j calon y gwrandawyr lliosog oedd, Da yw i ni fo" yma." Deallwn fod cenhadaeth am ddeg diwrnod yn X plwyf, o dan arweiniad Mr. Britten; a bydded I fendith y nefoedd fod ar y gwaith da, fel ag y byddo i Ysbryd Duw gyffroi y rhai sydd yn ysbrydol farwi a dyfnhau'r had da yn nghalonau y sawl sydd yn barod wedi ei dderbyn, Gosodwyd y gareg sylfaen i lawr yn mis Hydrsi» 1886, gan Mrs. Llewellyn, Penlle'rgaer, a chafwy" anerchiadau grymus ar y pryd gan yr Eagob, lUt, Llewellyn, yr Arohddiacon, ac eraili. Costiodd yr adeilad tua Xl,200, a da genym ddeall fod swm a.J1' rhydeddus wedi ei chasglu yn barod. Ymhlith Y tanysgrifwyr canfyddwn enw yr Esgob am 2250 9 Mr. Llewellyn am ;e100, heblaw y tir, yr hyn Byd yn brawf pellach o haelioni yswain Penllergaer bob achos da, lie y mae ganddo feddianau. Gwy11 fyd na bai mwy o fawrion ein gwlad yn sylweddoli Y gwirionedd pwysig fod meddianau yn dwyn at, cyfrifoldeb mewn ystyr foesol a chrefyddol yn ogystal a thymhorol. Ymhlith y lleygwyr a gymerasant ran a dyddorcle1 yn y gwaith oeddynt Capt. Phillips, Cwmgwilii t Capt. Dalrymple. Deallwn fod amryw filoedd WOdi eu casglu yn y plwyf hwn tuag at achosion Eglwys1^ er pan y mae y Ficer presenol yma. Aed ymlaenj gwaith da ydyw dymuniad llawer heblaw yr ysgrl1' enydd.

[No title]

PIGION O'R WASG GYMREIG.

RHAI 0 GAMSYNIAÜAU MR. W.…