CYNYDD POBLOGAETH CAEKDYDD Dengys y daflen ganlynol gynydd poblogaeth Caerdydd o'r flwyddyn 1861 i'r flwyddyn 1888:- 1861, 32,954; 1871, 56,911; 1878, 77,614; 1879, 80,202 1880, 82,790 1881, 85,379 1882, 95,168; 1883, 97,767; 1884, 100,036; 1885, 103,599; 1886, 107,301 1887, 111,145; 1888, 123,000. O'r flwyddyn 1880 i 1887 adeiladwyd y nifer can- lynolo dai yn yr un dref :-1880, 904; 1881, 686 1882, 980 1883, 1,445 1884,1,345; 1885, 1,601; 1886, 1,626 1887, 1,600. Y mae canoedd yn ychwaneg wedi eu hadeiladu y flwyddyn hon.
DIENYDDIAD YN MANCEINION, Boreu ddydd Mawrth, dienyddwyd John Alfred Gall yn ngharchar Strange say, Manceinion, am lofruddio Mary Miller yn Moston. Cysgodd yn dda nos Lun, a bwytaodd ei toreubryd gydag awch. Ymwelwyd &g ef gan y caplan, wrth yr hwn y dywedodd ei fod yn hollol ddieuog. Rhwymwyd ef gan Berry, y dienyddwr, a phan ar y crogbren dywedodd eto ei fod yn ddieuog. Bu fyw am rai eiliadau wedi i'r rhaff ddisgyn.
QWAITE AUR GWYNFYNYDD. Prydnawn ddyid Mawrth, galwodd Mr. Pritchard Morgan, perchenog gwaith aur Gwyn- fynydd, ger Dolgellau, ei weithwyr ynghyd, a hysbysodd hwynt os na fydd i'r Llywodraeth ganiatau iddo gymeryd aur o'r lie y byddai dan yr angenrheidrwydd o atal y gwaith yn hollol ddydd Sadwrn nesaf. Drwg genym ddeall fod Mr. Morgan dan orfodaeth i fabwysiadu y llwybr hwn, ond oherwydd y gwrthwynebiad a ar. ddangosir gan yr awdurdodau, nid oes unrhyw ddewisiad ganddo ar y pwnc. Drwy hyn teflir rhai canoedd o ddynion allan o waith, gan fod yr hyn y gobeithid a roddai waith i filoedd wedi ei barlysu yn hollol ar ei ddechreuad.
ANRHYDEDDD ARGLWYDD SALISBURY. Yn yr Egyptian Hall, Mansiop House, Llun. dain, brydnawn dydd Mawrtb, (fadorchuddiwyd cofgolofn arddercbog p Arglwyad Salisbury, Prif Weinidog Prydain Fawr, at draul yr hon y cyf. ranwyd gan Gorpboraeth y brifddinas. Ymhlith y rhai oeddynt yn bresenol ar yr achlysur, can- fyddir enwau Ardalyddes Salisbury, Due Rutland, Arglwydd Cranbrook, yr Arglwydd Faer a'i briod, Mr. Fowler, A.S., &c. Cafwyd amryw nnerch- iadau yn ystod y prydnawn, yn y rhailY canmolid Arglwydd Salisbury fel un o brif wleidyddwyr yr oes, a diolchodd Arglwydd Cranbrook yn wresog am yr anrhydedd a ddangoswyd tuag at ei dad, a sylwai fod y Prif Weinidog yn meddu ymddiried y Frenhines a'r genedl, am yr byn a wnaeth.
-tl-rb)Vbbioii CgffrrtJinoI. PRIODAS Y TYWYSOG HENRY 0 PRWSIA.—Hys- bysir fod y briodas rhwng y Tywyeog Henry o Prwsia a'r Dywysoges Irene o Hesse, yr hon oedd i gymeryd lie yn Postdam ar y 24ain cyfisol, wedi ei gohirio oherwydd rhyw amgylchiadau hyd y gwanwyn. Y DIWEDDAR GADFRIDOG GORDON.—Y mae y Llywodraeth Chindaidd, mewn parch i goffadwr- iaeth y Cadfridog Gordon, wedi penderfynu cod1 cofgolofnau iddo ar y manau o'i fuddugoliaetbau yn y gwrthryfel Taiping. Li-Huug Chung yw y prif symudydd yn y mudiad hwn. HUNANLADDIAD BONEDDWR CYFOETHOG-.—Hys- fod y Barnwr von Kegel, boneddwr yn werth mil- iynau o bunau, wedi cyflawni hunanladdiad drwy saethu ei hun ar etifeddiaeth ei dad yn Stuhi- weissenburg, Awstria, nos Iau diweddaf. Nid oes unrhyw wybodaeth wedi cyraedd i roddi un- rhyw oleuni ar gyflawniad y fath weithred erchyll. BODDIAD ALAETHUS. Yn Sunderland nos Sadwrn, syrthiodd geneth fechan o'r enw Sophia West i'r môr. Gwelwyd yr eneth yn syrthio gan forwr, yr hwn a anfonodd ei gi i geisio ei hachub, ond pan ganfyddodd fod yr anifail yn aflwydd. ianus, neidiodd ei hunan i'r m6r er ceisio gwaredu yr enetb, ond boddwyd y ddau cyn i neb allu eu cynortbwyo. TAN DINYSTRIOL YN LLYNLLEIFIAD.—Torodd tan dinystriol allan yn Bootle, Llynlleifiad, boreu ddydd Sul mewn ystordai perthynol i Mri. Ralli, ac er pob ymdrech ar ran y tân-ddiffoddwyr methwyd diffodd y tan hyd yr hwyr. Cyfrifir fod y colledion yn ugain mil o bunau. Niweidiwyd pump o'r tan-ddiffoddwyr yn ddiffrifol. DINYSTRIAD AMRYW FILOEDD 0 DDEFAID.— Newyddion o Melbourne, Awstralia, a bysbysant fod tanau mawrion wedi tori allan mewn amryw goedwigoedd yn y wlad hono yn ddiweddar, drwy ba rai y llosgwyd miloedd lawer o ddefaid, yr hyn sydd wedi llwyr ddinystrio amgylchiadau amryw ffjstiachwyr, y rhai. Lyd ymal a fwynhaent fywol. iaeth gysurus. Bydd hyn yn sicr o effeithio hefyd i raddau helaeth ar y wlad hon, gan fod cymaint o gig yn cael ei allforio o'r wlad hono i'r wlad hon, lie y gwerthir ef am brisiau isel. YSTORI HYNOD.—-Hysbysir y bu gwraig mwnwr o'r enw Davis, yr hwn a drigai yn Dolcoath, Cornwall, yn wael am amryw fisoedd, ac ni allai gael gwellhad er holl ymgais y meddygon. Haerai y teimlai rywbeth byw yn ei chylla, yr hyn tyddai yn agos a'i thagu ambell waith, a dangosai ei wynebpryd arwyddion o hyny. Yr wythnos ddiweddaf, aeth at feddyg arall i dref gymydog- aethol, yr hwn a lwyddodd i dynu creadur pedwar [troediog, yn mesur 3t modfedd o'i gwddf. 2 Priodola y meddyg fodolaeth y trychfilyn yn n nghylla y wraig, i'w gwaith yn yfed dwfr anmhur t, yn ystod y sychder yr haf diweddaf. Mae Mrs. Davies yn awr yn dda. CYFRIFON BWRDD MASNACH.- Y mae cyfrif Bwrdd Masnach, a gyhoeddwyd ychydig ddydd- iau yn ol, am fis Ebrill a'r tri mis blaenorol, yn bur galonogol. Dengys y cyfrif fod masnach y wlad yn cynyddu yn raddol, er nad yn gyflym, ac oherwydd hyn y mae yn debycach o barhau. Effeithia y gwellhad ar bob cangen o fasnach y wlad, ac y mae hyn yn fwy calonogol o lawer na gweled rhyw ychydig ganghenau yn deibyn yr holl fudd. Mae y cynydd yn yr allforion (exports) yn ystod mis Ebrill yn £1,323,812, tra y mae y cynydd am y pedwar mis yn diweddu yn -Ebrill yn J3,881,262. Y mae y ffeithiau hyn yn llawn dyddordeb, ac yn rhwym o godi ysbryd pawb yn gyffredinol. CROESI Y WE SYDD MEWN AWYREN.—Newyddion o Paris a hysbysant fod un o'r enw M. Jovis, yr awyrenwr enwog, yn parotoi awyren fawr, gyda'r hon y bwriada groesi o New York i rywle i Ogledd Ewrop yn ystod yr Hydref nesaf. Gelwir yr awyren yr Atlantic," a bydd oddeutu 200 troedfedd o uchder, a rhwng ei llwyth a phobpeth a berthyn iddi, ni bydd iddi bwyso mwy na 4,500 o bwysau. Bwriedir i'r parti fydd yn yr awyren fod yn gynwysedig o chwech o bersonau, a thyb- iant y bydd iddynt Iwyddo myned drwy yr awyr yn ol y cyflymder o 70 milldir yr awr. Gobeithia M. Jovis y bydd iddynt dirio yn ddiogel yn yr Iwerddon, Norway, neu Sweden, ymhen tri diwrnod a haner. Bydd i'r awyren gostio wyth mil o bunau. LLWYDDIANT MADAME PATTI YN BUENOS AYRES. -Yr oedd y gantores enwog Madame Patti yn canu yn Buenos Ayres un noson yr wythnos ddi- weddaf, ac yr oedd y derbyniadau yn cyraedd y swm anferthol o £ 4,800. AGOR AMGUEDDFA AR Y SUL.-Mae Cyngor Trefol Wclverhampton, drwy fwyafrif o 15 o bleidleisiau, wedi penderfynu agor yr Amgueddfa yno o dri hyd bump o'r gloch bob prJdnawn Sul am y pedwar mis nesaf, er rhoddi prawf ar y mudiad. LLOFRUDDIAETH PLENTYN YN BIRMINGHAM.— Yn Birmingham ddydd Mawrth, dedfrydwyd merch o'r enw Fanny Bunch i sefyll ei phrawf ar y cyhuddiad o lofruddio ei phlentyn ychydig ddyddiau yn ol. Cyfaddefodd y cyhuddedig ei bod yn euog. YSGRIFENYDD YNADON CAERDYDD.—Ddydd Llun diweddaf yn Nghyngor Trefol Caerdydd, gwnaed cais ar i gyflog Mr. Rees, ysgrifenydd yr ynadon yn y dref hono, gael ei ddyrchafu o X600 i X750 yn flynyddol, ond gwrthodwyd y cynygiad gyda mwyafrif mawr. YMWELIAD BRENHINOL A BRISTOL. Dad- orchuddir cofgolofn o'i Mawrhydi y Frenhines yn Bristol gan y Tywysog Albert Victor, mab hynaf Tywysog Cymru, Mehefin 28ain, a'r un dydd bydd i'w uchelder ranu y gwobrwyon i'r gwirfoddolwyr llyngesol. YMGAIS AT HUNANLADDIAD YN TREFFOREST.— Prydnawn ddydd Sul, ceisiodd Mr. James Jepson, o'r Commercial Hotel, Ferndale gyflawni hunan 0 laddiad gerllaw Trefforest, Pontypridd, drwy dori p ei wddf a chyllell. Anfonwyd am y meddyg, ond ofnir na fydd i'r truan wella. ETHOLIAD ST. STEPHEN'S GREEN, DUBLIN.— Cymerodd yr etholiad uchod le ddydd Sadwrn, a chyhoeddwyd y canlyniad ddydd Llun. Yr ym- geiswyr oeddynt Mr. T. A. Dickson (R.G.), a Mr Sexton (U.). Safai y pleidleieiau fel y canlyn Dickson, 4,819; Sexton, 2,932; mwyafrif i Dickson, 1,887. YMLADDFA GER MERTHYR TYDFIL.-Hysbysir i ymladdfa ffyrnig gymeryd lie ar y mynydd rhwng Merthyr ac Aberdar, boreu Sul diweddat am £ 80. Perthyna un o'r dynion i Penrhiwceibr, a'r llall i Mardy. Parhaoda yr ymladdfa am amser maith, a dywedir fod un o'r ymladdwyr wedi ei faeddu yn lied chwerw. Gresyn na fuasai yr heddgeid- waid yn bresenol i gymeryd hwy a'u cefnogwyr i'r ddalfa. DYMCHWELIAD Owcn. Cymerodd damwain ddifrifol le yn Belfast ddydd Mawrth diweddaf. Tra yr oedd dau frawd o'r enw Shuters, ynghyd a dau gyfaill o'r enw Marks, yn rhwyfo mewn cwch ar lyn gerllaw Belfast, dymchwelodd y llestr, a thaflwyd y pedwar allan i'r dwfr. Achub- wyd y ddau Marks, end boddodd y ddau frawd arall. Nid oes ond un o'r cyrff wedi ei ddargan- fod. LLOFRUDDIAETH BRAWD YN WOLVERHAMPTON. -Mewn trengboliad a gynhaliwyd yn Wolver- hampton ddydd Llun, dychwelwyd rheithfarn o Lotruddiaeth Gwirfoddol yn erbyn Ernest Harpur, 22 mlwydd oed, am lofruddio ei frawd tra yr ydoedd yn cysgu drwy dori ei wddf ag ellyn. Nid oedd unrhyw ddrwg deimlad ym- ddangosiadol rhwng y ddau frawd, ond bernir fod y carcharor ar y pryd yn wallgof. CURO GWRIG YN NG]aAERDYDD.-Yn Ilys ynadon Caerdydd ddydd Mawrth, cyhuddwyd Edward Hughes o gamyddwyn yn greulawn tuag at ei wraig y diwrnod blaenorol. Ymddengys oddiwrth y dystiolaeth fod y wraig wedi gwystlo rhai o ddillad y gwr, a phan ddeallodd ef hyny ar ei ddychweliad gartref ymosododd yn ffyrnig ami, gan ei niweidio yn arswydus yn ei phen a'i gwyneb. Yr oedd golwg echrydus ar y ddynes yn y Ilys, a gohiriwyd y prawf er galluogi y meddyg fu yn gweini arni i roddi ei dystiolaeth. FFLANGELLU LLADRON.—Yn Mrawdlys Llyn- lleifiad ddydd Llun, gerbron y Barnwr Day, ded- frydwyd pump o ladron i wahanol gyfnodau o garchariad ac i gael en fflangellu. Wrth gyhoeddi y ddedfryd, sylwodd y barnwr ei fod, ar ol profiad maith, wedi dyfod i'r penderfyniad mai fflangellu ydoedd y gosb effeithiolaf ar droseddwyr, gan mai anfynych y ceid un a fflangellwyd yn troseddu drachefn.—Yn yr un frawdlys dedfrydwyd Robert James Thomas i benyd wasanaeth am bum' mlynedd am ladrata zC70 o ariandy yn y ddinas. Datganai y barnwr ei ofid nad oedd yn ei allu i roddi ychwaneg o gost i'r dyhiryn am ei anfad- waith.
YMOSOIHAD AR GERBYDRES. Brysneges o Efrog Newydd, America, a hys. bysa fod niter o ladron wedi ymosod ar gerbydres yn Arguazarca, ar linell rheilffordd Sonora, nos Wener, a llofruddiasant y gyriedydd a'r conductor, tra yr anafwyd amryw o'r teithwyr yn beryglus. farhaodd yr ymosodiad am beth amser, oDd ni Iwyddodd y lladron i sicrhau ond 139 o ddoleri. Mae yr awdurdodau wedi llwyddo i gymeryd Hiaws o'r lladdron i'r ddalfa, a hyderwn yr ym- ddygir atynt yn ol eu haeddiant.
DAMWAIN DDIFRIFOL YN RWSIA. Digwyddodd damwain ddychrynllyd nos Sul diweddaf ar reilffordd gerllaw Moscow, drwy yr hyn y collodd 11 o bersonau eu bywydau, ac yr Anafwyd 27, deunaw o ba rai na ddisgwylir iddynt wella. Ymddengys mai achos y ddam- cy ^aiu ydoedd i'r gerbydres ddyfod i wrthdarawiad â. cherbydres nwyddau oedd ar yr un llinell drwy 68geulusdra rhai o'r awdurdodau. -0.
IECHYD YMERAWDWR GERMANI. liewyddion o Berlin a hysbysant fod iechyd ^merawdwr Germani yn well nag ydoedd yn flaenorol, ac y mae y dwymyn bron wedi ei adael Yn bollol. Yr oedd ei fawrhydi yn alluog i gerdded yn ei ystafell y dyddiau diweddaf, a bu ^ewn ymdrafodaeth a'i brif swyddogion ynglyn gwahanol faterion yr Ymerodraeth. Mae yr anhwylder yn ei wddf yn Ilai peryglus nag ydoedd, 4c y.mae ei fawrhydi yn alluog i gymeryd llun- iaeth yn well nag y bu er dochreuad ei afiechyd. +
DEDDF diodydb MEDDWOL YNI AMERICA. y mae Sene(3d °gyBtal a Chyn- y deddfwrfa Talaeth New York, wedi pasio y ,e8Ur Uc^el drwyddedol. Ni drlarfu i fwy na 6 war o "Werinwyr ymuno a'r Democratiaid i'w Wrthwynebu yn y Senodd, lie y safai y bleidlais yn 17 drosto ac yn 15 yn ei erbyn. Credir mai ei Wrthwynebu wna y Llywodraethwr Hill.
YSBEIL WYR YN ASIA LEIAF. Tra yr ydoedd y Count Strongsnoff, ei chwaer, 150 o'i ddeiliaid yn ymdeithio yn Asia Leiaf Wythnos ddiweddaf, ymosodwyd arnynt gan cryf o ysbeilwyr pertbynol i lwyth a adna- Jddir Wr^ yr enw Kir(i) a chymerasant yr oil ddalfa. Anfonwyd gorchymyn gan y Sultan iddynt gael eu rhyddhau, ond gwrthoda y ^aeth wneyd byny, gan bawlio swm aruthrol eu rhyddhad. Ofnir yr arweinia y weithred 5(1 o eiddo y penaeth a'i lwyth i anhawsderau, a laad i ryfel waedlyd.
EOlLIAD ODDIWRTfl YR EGLWYS BABAIDD. ChYdig amser yn ol achoswyd peth cyffro yn c,^ ^ork gan enciliad y Gwir Barch. R. Rouland K §lwys Babaidd i ymuno a'r Episcopaliaid. Ce Q ^ftner can' mlwydd oed, a Ffrancwr o ran WT yw y caffaeliad newydd bwn i Brotestan- Cv„ Am resymau athrawiaethol y gwnaeth y
SULTAN ZANZIBAR. hng^aw°^d diweddar Sultan Zanzibar saith-ar. a* ^agedd a 232 o blant i alaru eu colled
s BYDDIN ye america. y Prii GaaiywyM Bea fod 14,000 0 Mclin Qewyddion wedi eu hychwanegu at ^eriniaeth yn yBtod y tri mis di-
DAMWAIN ECHRYDUS IN NYFFRYN OGMORE. PUMP 0 BERSONAU WEDI EU LLADD. Ychydig funydau wedi deuddeg o'r gloch nos Sul diweddaf, digwyddodd ffrwydrad arswydus yn Rhif 2 Level yn nglofa Aber, Tynewydd, Dyffryn Ogmore, drwy yr hyn y collodd pump o bersonau eubywydau, ac y clwyfwyd amryw eraill. Nid oedd unrhyw arwyddion o nwy yn y pwll yn flaenorol, ond yr amser dywededig digwyddodd ffrwydrad arswydus, swn yr hwn a glywid am filldiroedd. Mor fuan ag y deallwyd am y ddamwain, ffurf. iwyd cwmni o weithwyr i fyned i lawr i'r pwll, a chanfyddasant bump o gyrft, enwau a chyfeiriad- au y rhai sydd fel y canlyn :-Rees Joseph, River Street, Tynewydd; Jenkin Stanford, Llewelyn Street, Tynewydd; Edward Gibbon, eto; David Williams, Bridge Street, eto; Evan Jones, High Street, eto. Yn ffodus, nid oedd llawer yn gweithio yr amser a nodwyd, onide buasai y canlyniadau yn alaethus. Bernir mai yr achos o'r ffrwydrad ydoedd i un o'r dynion ddefnyddio goleu noeth tra yn gweithio. Cyn. haliwyd trengholiad ar y cyrff ddydd Mawrth, pryd y gohiriwyd am wythnos.
MR. BALFOUR A MR. GLADSTONE. Yn Battersea, Llundain, nos Fercher, traddod- odd Mr. Balfour araith ddysgedig mewn cyfarfod a gynhaliwyd yno, pryd yr amddiffynodd ei hun yn ngwyneb yr ymosodiadau a wnaed arno gan Mr. Gladstone yn ddiweddar. Ymddengys cryn- odeb o'i araith yn ein rhifyn nesaf.