Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Family Notices
6cnctitgnctljau, ^riotin0au, a ÆarínolartfJau. 'r-r"r'>J' GENEDIGAETHAU. Jones.—Mai 3ydd, priod Mr. Samuel Jones, iron- monger, Corwen, ar ferch. Ellis.—Ebrill 21ain, priod Mr. Davies, Ffridd, Llan- degai, ar fab. Francis—Ebrill 30ain, priod Mr. T. Francis, Parade, Caerfyrddin, ar fab (maiwanedig). Griffiths. -]El br,.11 23ain, priod Mr. Benjamin Griffiths, Pantycrugiau, ger Caerfyrddin, ar fab. Jones.-Mai 4ydd, priod Mr. William E. Jones, Lletty Fadog, Talysarn, ar fab. Jervis.-Ebrill 16eg, yn Commercial Inn, Penisa'r- waen, Llanddeiniolen, priod Mr. Thomas Jervis, ar fab. Roberts.—Ebrill 29ain, yn 1, Gonnock Street, Lemwl priod Mr. W. R. Roberts, ar fab. Williams.—Ebrill 26ain, yn 78, Newby Street. Lernrol priod Mr. T. H. Williams, ar fab. MARWOLAETHAU. Davies.—Ebrill 27ain, yn 44 jmlwydd oed, Mr. Thomas Davies, Nantswrn, Tregeiriog. Davies.—Ebrill 28ain, yn Rhos, Gwyddelwern, Mr David Davies (gynt o Trewyn Fawr. Corwen) Jones.-Mai 2fed, yn 26 mlwydd oed, Edward, auwyl fab John ac Ellen Jones, Efailymensydd, Llandrillo. 54 wydd oed, yn ei breswyl- fod, Mr. Owen Thomas, Uywodraethwr Carchar ei Mawrhydi, Caerfyrddin.
LLITH O'R BWIHYN GWLEDJG.
LLITH O'R BWIHYN GWLEDJG. Mae Hen Domos, di'r help, am draddodi homily fach yxi y gladdfa y tro hwn. Dywed St. aul yn rhywle, "Gwneler pobpetb yn weddaidd, ac mewn trefn." Ac Did oes un man ar y ddaear lIe y mae anweddeidd-dra ac annhrefn yn fwy aanioddefol nag yn y fynwent. Ystyrir cladded- 'gaeth y gymwynas olaf i'r marw. A chan ei fod y* olafj dylem fod yn ofalus iawn wrth ei chyf- lawni. Nid ydym yn cael cyfleusdra i dala y deyrnged hon o barch i neb ond unwaith. Ac y 111ao Gwasanaeth Claddedigaeth y Marw yn ardderchog iawn fel cyfansoddiad, ac yn ddifrifol iawn ei natur o'r dechreu i'r diwedd. Y mae yn anmhosibl i un dyn ystyriol beidio meddwl am ei diwedd wrth wrando arno. A phaham na fyddai dynion yn fwy cyffredinol yn uno yn y gWasanaeth hwn ? Nid oes dim yn enwadol a sectol yn y Salmau. Nid yw gweddi yr Arglwydd yo perthyn i'r Eglwys yn fwy nag i'r Ymneilldu- Wyr. Dylai pawb] sydd yn arddel crefydd Iesu Grist fod yn ddigon brawdol i uno yn y rhai hyn a* ddydd angladd. Ac yr wyf fi wedi bod yn 111 eddwl lawer gwaith ar lan y bedd, pa mor b Yfryd fyddai clywed pawb, hen ae ieuane, Eg. Wswyr ac Ymneillduwyr, yn uno yn ngeiriau ssu Grist i anerch gorsedd trugaredd! 0 mor Wdd fyddai yr olygfa yn y gladdfa! 0 mor nefol fyddai wrth roddi daear i'r ddaear, Iludw i'r Uudw, pridd i'r pridd." Rhaid cyfaddef fod ymddygiad llawer o dynion yn anweddaidd iawn hyd yn nod ar yr 4,chlysur sobr a difrifol o gladdu y marw. Yn lle eanlyn y corff i lan y bedd yn barchus, mown ardal, ymdyrant hwnt ac yma ar hyd y fynwent i chwedleua a'u gilydd. Nid Eglwyswyr, fel rheol, By'n euog o'r trosedd hwn ar foesgarwch, ond pobl y capel. Ac yr wyf wedi gweled y rhai hyn Yn cael eu galw i gyfrif lawer gwaith gan BWYddogion yr Eglwys am eu hymddygiad an- heilwng. Y mae yn rhaid fod rhywbeth yn eisiau ar eneidiau dynion fel hyn pan nas gallant fod yn ddistaw am ychydig o funydau hyd nes y euddir y marw yn y pridd. Y mae diffyg mawr Yn rhywle. Diffyg addysg grefyddol-diffyg Parch i'r IAarw-diffyg teimlad Cristionogol- diffyg cydymdeimlad &'r galarwyr—a diffyg dif- rifoldeb yn y galon I Dywed yr hen Lyfr :— Wylwch gyda y rhai sydd yn wylo." Ewch i lan y bedd gyda hwy, ceisiwch gydymdeimlo a hwy, a pheidiwch eu gadael a'u diystyru hwy a'r naarw trwy sefyll draw i cbwedleua am bethau yr hen ddaear yma. Byddai yn llawer gwell i'r 7i7) 7 ° 0ncy^0^ yoaa aros gartref na gwneyd ex- a chrefydd^i°n^ GU ^Una^n a'U moesol i y mae Un hen arferiad salw ac atgas mewn rhai ardaloedd yn t3ir Gaerfyrddin mewn cysyllt- lad ag apgladdau ag sydd yn warth i gymdeithas areiddiedig. Mewn gwirionedd, ymddengys i Vai Y, hollol baganaidd. Yr wyf yn golygu y aith or fynwent i'r tafarndy. Nid wyf yn gWybod am fwy o anfri a sarhad ar y marw na bod y perthynasau yn myned yn un orymdaith aall yn gywir oddiwrth y bedd at y ddiod a'r gwirod poeth Nid oes dim i'w ddweyd yn erbyn oddi ymborth i'r rhai sydd yn dyfod o bellder ordd gyda'r corff. Y mae hyn yn rhesymol. Qd y mae yr arferiad ffiaidd o fyned oddi wrth y bedd i'r tafarndy ar bob achlysur yn ymddangos i tni yn farbaraidd i'r pen. Nis gallaf fi ddeall teimladau dynion sydd yn medru ymddwyn felly. Ond dyma y rheol gyffitedin mewn llawer ardal, ac y mae yn warthus dros ben! Ar ol cadw gWylnos y nos o'r blaen, ar ol pregethu yn y ty, ac ar ol gwasanaeth difrifol yn yr eglwys, ffrwyth y gweddio, y canu, a'r cynghori yw myned i'r afamdy i eistedd ac yfed 0 y fath anghyson- deb dybryd I Yn mhenod y gladdedigaeth y mae St. Paul yn son am rywrai sydd yn dweyd:— II wytawn ac yfwn, canys yfory marw yr ydym." nid dyma yw iaith y rhai a sint oddiwrth y edd ar eu cyfer at y ddiod feddwol ? Na ^yller chwi," meddai yr apostol, y mae ym- ^Jddanion drwg yn Uygra moesau da." Ehai wybodaeth am Dduw sy'n ymddwyn felly. to j °.ywily(?d 1 cllwi yr wyf yn dweyd hyn," A chywilydd mawr i alarwyr, perthyn- abo'll ceraint, a chydnabod yw myned yn un dorf da.wr "ddu o'r gladdfa i'r tafarndy. Y mae yn di £ C^0S Ca*on§ale^wch niawr, a diraddiad, anfri, a y§ parch i'r marw. Hen arferiad anwaraidd, S naidd, llygredig. ac anfoesol ydyw, ac y mae ion aWn e* stampio hi allan o wlad Grist- Gyniru. Ar ol rhoddi y marw i orphwys pa Pridd, priodol a gweddaidd yw gweled P'll,b Yu dyebweled adref yn ddrylliog a difrifol ^ar^ at*au" -Dyna a wna pob dyn ystyriol a Perth US' a° ar y ddaear pa fodd y gall by(j(jf'r!asau at y breci a'r ddiod os na n yn llawenhau yn lie galaru ar ol y marwl Dyna yr unig esboniad a ellir roddi ar eu hym- ddygiad. Y mae yr olygfa yn boenus i'r eithaf i mi, a phe byddai gronyn o barch i'r marw yn y bobl, ni byddai y tafarndy mor anwyl ganddynt. Di'r anwyl 1 yr wyf fi wedi gwel'd rhai yn dy- chwelyd adref yn yr hwyr yn feddw o angladd Yr wyf yn bwriadu cadw cyirif o'r holl angladdau barbaraidd hyn, a rhoddaf restr o honynt rhyw ddydd yn Y LLAN. Dyweder a fyner, rhyw grefyddwyr arwynebol a ffugiol iawn yw y Cymry. Ail beth yw moes- oldeb. Y mae "cwstwm gwlad yn fwy pwysig yn eu golwg na Gair Duw. Os bydd pechod neillduol yn un cyfiredinol mewn ardal nid ystyrir ef yn bechod o gwbl. Y mae anniweirdeb ac an. lladrwydd bron cael eu cyfrif yn bethau cyireith- lawn, ac y mae meddwdod yr un mor barchus. Bobl anwyl! rhyw Phariseaid yw ein haner ni. Nid oes un drwg na wnawn ar y sly. Ond cael cefn dyn, nid ydym yn gofalu fawr am Dduw! Bydd i mi dalu ymweliad A Dyffryn Tawe y tro nesaf, ac efallai yr af i Mountain Ash, os y caf lift o Pontardawe i Gastellnedd. Hyn ar air a chydwybod. HEN DOMOS.
NODJADAU SENEDDOL. .
NODJADAU SENEDDOL. GAN BIN GOHEBYDD ARBENIG.] Cymerodd dadl gynhyrfus le yn Nhy y Cyffredin, ddechreu yr wythnos ddiweddaf, ar ail ddarlleniad Mesur dan yr hwn y cynygid fod eyflog i gael ei dalu i Is-ysgrifenydd Seneddol Arglwydd Raglaw yr Iwerddon (y Milwriad King Harman.) Dywedodd Mr. A. J. Balfour fod y Llywodraeth wedi hysbysu y Senedd-dymor diweddaf eu bod yn bwriadu dwyn y Mesur i mewn gyda'r cyfleustra cyntaf; ac o ganlyniad, nad oeddynt yn euog o'r cyhuddiad a ddygwyd yn ddiweddar yn eu herbyn gan Mr. John Morley o dwyllo y Ty. Cynygiodd Mr. J. Morley wrthodiad y Mesur mewn araith feiddgar a phersonol, ac hollol an- nheilwng o foneddwr, am fod y boneddwr yr ym- osodai arno yn absenol gan afiechyd. Sylwodd Mr. Balfour, er ei fod yn gwahaniaethu o ran ei 3yniadau politicaidd oddiwrth Mr. John Morley drwy gydol ei yrfa gyhoeddus na ddychym- ygodd erioed y gwnai barhau i ddwyn y cyhudd- iadau ag oedd wedi eu gwrthbrofi i foddlonrwydd yn erbyn gwrthwynebydd er mwyn ei waradwyddo. Nid oedd ef (Mr. Balfour) wedi gosod y boneddwr anrhydeddus yn yr un dosbarth a rhai o'i gefnog- wyr, ac ni feddyliodd erioed y gallai ymsuddo i'r fath raddau fel ag i ddefnyddio eu hiaith a'u hystrywiau annheilwng. Rhoddodd y Prif Ysgrifenydd y filangell yn ddidostur ar yr athronydd dwfn-dreiddiol" o Newcastle. Y mae cwmpeini drwg yn llygru moesau da, ac y mae ym- gyfathraoh y Gladstoniaid a'r Parnelliaid wedi gwneyd i'r blaenaf golli pob ymsyniad o anrhydedd, gweddeidd-dra, a mo esgarwch cyffredin. Gwnaeth Mr. T. P. O'Connor ymosodiad ffyrnig ar y Milwriad King Harman, a galwodd y Llefarydd arno i dynu rhai o'i gyhuddiadau yn ol. Mae'r Parnelliaid yn ddig ofnadwy wrth y Milwriad dewr am ei fod yn Brotestant, ond y prif achos o'u digofaint angherddol tuag ato ydyw-iddo unwaith fod yn Home Ruler, ao felly wedi bod y tufewn i'r Ilen, ac yn gyfarwydd &'u holl ystrywiau. Gwnaeth y Milwriad Saunderson araith ar- dderchog yn ol ei arfer. Dywedodd mai un o'r gwrthwynebiadau a ddygid yn erbyn y Milwriad King Harman ydoedd nad oedd mewn cydym- dhimlad a. phob dosbarth yn yr Iwerddon. Er dyfod o hyd i ddyn o'r fath buasai raid iddynt gymeryd un a fyddai yn perthyn i bob plaid. Yr oedd ef yn meddwl y gallasai Syr W. Harcourt hwyrach, feddu yr holl gymhwysderau i'r swydd. (Chwerthin.) Rheswm arall a ddygid yn erbyn ei benodiad i'r swydd ydoedd nas gallai gael ei ethol fel aelod o fwrdd y gwarcheidwaid, ond yr oedd ef (Colonel Saunderson) yn beiddio dweyd nad allai unrhyw ddyn gael ei ethol ar fwrdd gwarcheidwaid yn yr Iwerddon yn groes i ddymuniad y National League. Talodd warogaeth uchel i'r Milwriad King Harman. Wedi peth dadleu pellacb, ymranodd y Ty, pryd y cafwyd- Dros yr ail ddarlleniad 226 Yn erbyn 177 Mwyafrif dros y Llywodraeth. 49 Rhaid i'r Mesur fyned drwy bwyllgor eto. MESUR DISGYBLAETH EGLWYSIG. Dydd Mawrth, yn Nhy yr Arglwyddi, cynygiodd Archesgob Caergaint fod i'r Ty ymffurfio yn bwyll. gcr ar y Mesur uchod, a bod iddo gael ei ail- gyflwyno, er rhoddi mantais iddynt i ystyried y gwelliantau a fwriadai ddwyn ymlaen. Dywedodd Arglwydd Grimthorpe, mor belled ag yr oedd yn deall y Mesur, fod oryn lawer 0 welliantau yn angenrheidiol. Gohiriodd Arglwydd Coleridge ei hawl i gynyg gwrthodiad y Mesur hyd nes y byddai draohefn dan ystyriaeth y pwyllgor. Pasiodd y Mesur drwy y pwyllgor yn ddiwelliant, ao ail-gyflwynwyd ef. Mae gwrthwynebiad cryf i'r Church Discipline Bill," ac nid oes un ddadl nad yw yn gofyn cryn lawer o'i ail falu." Pasiodd MESUR YR EGLWYSI CADEIRIOL, ei drydedd darlleniad ar gynygiad Esgob Carlisle. HYD AREITHIAU SENEDDOL. Cynygiodd Arglwydd Denman ail-ddarlleniad Mesur, amcan yr hwn ydoedd cyfyngu areithiau seneddol i ddeng munyd, gyda'r eithriad 0 areithiau gan y Gweinidogion. Siaradodd ei arglwyddiaeth am chwarter awr, ond sicrhaodd y Ty, ar yr un pryd, na ddarfu iddo ef erioedjsiarad m 71Y na deng munyd, ac y gallai draddodi araith mewn dau funyd. Sylwodd Arglwydd Cranbrcok fod y Mesur yn hollol ddiangenrhaid i Dy yr Arglwyddi, ac nad oedd ganddynt ddim rheolaeth ar Dy y Cyffredin. Gorchymynwyd ar unwaith i'r Mesur hynod hwn gael ei ddarllen ymhen y chwe' mis. Gall Arglwydd Denman ddwyn ei gynygiad ymlaen eto os ceir eisteddiad yn yr hydref, ond digon prin y credid fod ei arglwyddiaeth yn ddifrifol gyda'r cynygiad hwn mwy na llawer 0 gynygion eraill o'i eiddo. TIR ANWRTEITHIEDIG. Yn Nhy y Cyffredin, cynygio&d Mr. Bradlaugh benderfyniad yn datgan ei farn y dylai pob tir yn y Deyrnas Gyfunol na wnai ei berchenog wrteithio, neu wneyd rhyw ddefnydd o hono, gael ei dros- glwyddo i'r awdurdodau lleol, hyny yw, rhoddi hawl i'r byrddau lleol ei bwrcasu drwy orfodaeth, a'i osod i denantiaid i'w wrteithio. Cynygiodd Mr. Seton-Karr, yr aelod galluog a phoblogaidd dros St. Helens, welliant i'r perwyl nad oedd, yn ngwyneb y dirwasgiad amaethyddol pres- enol, rhoddi gallu i awdurdodau Ileol i bwrcasu drwy orfodaeth, yn ddull effeithiol a dymunol i ym- wneyd a thir gwyllt ac anwrteithiedig. Yr oedd yn edrych ar gynygiad Mr. Bradlaugh fel troseddiad ar iawnderau eiddo (rights of property) acyn ddim mwy na Ilai nag ysbail noeth. Cymerodd rhai aelodau eraill ran yn y ddadleuaeth, ond cyfrifwyd allan y Ty am haner awr wedi wyth. Tir, tir-mwy 0 dir," yw holl gan y Radicaliaid. Breuddwydiant y gall yr holl genedl fyw ar y tir ond y gwir am dani ydyw na thalai y rhan fwyaf o'r tir anwrteithiedig yn y Deyrnas Gyfunol am ei wrteithio, ac na allai y bobl fyw arno pe caent ef am ddim. Y CROFTERS ETO. Cynygiodd Dr. Clarke ohiriad y Ty i alw sylw at sefyllfa y Cadlaswyr yn Ysgotlarid. Dadleuai fod y Crofters Act wedi profi yn llwyr fethiant i gyraedd yr amcan mewn golwg. Dywedodd yr Arglwydd Ddadleuydd ei bod yn an- mhosibl goohelyd y casgliad nas gallai Ynys Lewis gynal ei thrigolion pe caent y tir i gyd iddynt eu hunain. Nid oedd y Crofftwyr mewn sefyllfa i stocio na gwrteithio y tir, yr hyn oedd yn anhebgor- ol angenrheidiol mewn trefn i ganiatau mwy o dir. Nid oedd dim ond ymfudiaeth a allai wella am- gylchiadau y bobl yn yr Ucheldiroedd. Yr oedd gan y Llywodraeth ymddiried 0 hyd yn eu cynyg- ion, ao yr oeddynt o'r farn pe dygid hwynt i weith- rediad y cynyrchent lawer 0 ddaioni. Dywedodd Mr. Chamberlain ei fod ef wedi talu ymweliad a'r ynysoedd dan sylw, ac mai y gwyn gyffredin ydoedd rhy fach 0 dir. Yr oedd y bobl, rywfodd, wedi cymeryd yn eu penau fod ganddynt hawl wreiddiol i'r tir. Hen athrawiaeth haner- Panaidd yw hon—" y bobl bia'r ddaear," ac y mae lliaws o'r Radicaliaid yn Nghymru yn credu yr un athrawiaeth wirionffol. Dywedai Mr. Chamberlain fod y camwri dychymygol hwn yn ychwanegu llawer at anfoddogrwydd y Crofftwyr. Yr anhawsdra yd- oedd nad oedd dim digon o dir gogyfer a'r holl bobl- ogaeth-prin ddigon o'r haner. Dywedodd Mr. W. H. Smith fod yr anhawsderau y oyfeiriodd Mr. Chamberlain atynt yn wir anhaws- derau, ac na fyddai yn iawn i'r Llywodraeth eu han- wybyddu. Ymranodd y Ty- Dros y gohiriad 99 Yn erbyn 205 Mwyafrif yn erbyn 106 CAU CYNAR. Nos Fercher, cynygiodd Syr J. Lubbock ail ddar- lleniad yr Early Closing Bill." Dywedodd fod ei fesur yn cynyg cau siopau am wyth o'r gloch am bum' niwrnod, ac am ddeg dydd Sadwrn, ac yn rhoddi awdurdod i'r byrddau lleol i osod darbodion y Mesur mewn grym. Gwadai fod y siopwyr yn erbyn y Mesur, a dygodd ymlaen ffigyrau i brofi eu bod yn ei gefnogi. Heblaw hyny, yr oedd canoedd o weinidogion perthynol i'r holl enwadau crefyddol wedi datgan eu cymeradwyaeth o'r Mesur 0 Archesgob Canterbury i lawr. Cynygiodd Mr. Blundell Maple wrthodiad y Mesur ar y tir y gwnelai ymyraeth a bywoliaeth y man siopwyr. Profai yn ddinystr Ilwyr i lawer o ferched, gwragedd gweddwon, a phlant amddifad, ac ni byddai dim ond y workhouse o'u blaen. Siaradodd Mr. Bradlaugh yn gryf yn erbyn y Mesur ar y tir y byddai yn ymyriad ar ryddid y bobl. Yr oedd yr hyn a ddywedai yn ddigon gwir, ond pwy sydd wedi cyfyngu mwy ar ryddid y deil- iaid na'r Radicaliaid ? Cafwyd dadl frwd a dyddorol ar y cwestiwn. Yr oedd yn amlwg yn ystod y ddadl fod tynged y Mesur wedi ei setlo, a phan ymranodd y Ty, cafwyd- Dros y Mesur 95 Yn erbyn 278 Mwyafrif yn erbyn 183 Derbyniwyd y result gyda bloeddiadau 0 gymer. adwvaetb. 'Does un ddadl nad oedd egwyddor y Mesur yn iawn, ond yr oedd yn rhy sweeping. Bai y Mesur ydoedd ei fod yn cynyg gormod, a hyny a brofodd yn angeuol iddo. MESUR Y GYLLIDEB. Bu y Mesur hwn dan sylw y Ty, a phasiwyd am- ryw o'i adranau. AUR YN NGHYMRU. Dywedodd Mr. W. H. Smith, mewn atebiad i amryw gwestiynau, na, wnai y Llywodraeth daflu rhwystrau ar ffordd unrhyw anturiaeth i ddargan- fod aur yn Nghymru i'r gwrthwyneb, yr oeddynt yn awyddus i wneyd pob peth yn eu gallu i gefnogi yr ymchwiliad.
CAU Y TAFARNAU YN YR IWERDDON.
CAU Y TAFARNAU YN YR IWERDDON. Yn Nhy y Cyffredin ddoe ail ddarllenwyd y Mesur er cau tafarndai ar y Sul yn yr Iwerddon.
CAU MASNACHDAI AR Y SUL.
CAU MASNACHDAI AR Y SUL. Mae Cyngor Trefol Abertawe wedi penderfynu erlyn nifer 0 fasnachwyr yn y dref hono am agor eu masnachdai ar y Sal, ac y maent eisioes wedi eu gwysio i ymddangos gerbron yr ynadon.
LLEIHAU ORIAU GWEITHIO MEWN…
LLEIHAU ORIAU GWEITHIO MEWN GrLOFEYDD, Dygir mesur ymlaen yn y Senedd rai o'r dyddiau nesaf gyda'r diben 0 gyfyngu oriau gweithio yn y glofeydd i wyth awr y dydd. Cynygir y mesur gan Mr. Graham, a chefnogir ef gan Mabon.
LLOFRUDDIAETHAU YN YR IWERDDON.
LLOFRUDDIAETHAU YN YR IWERDDON. Hysbysir fod amryw bersonau wedi eu llof- ruddio mewn gwahanol barthau o'r Iwerddon, ond nid yw yr awdurdodau wedi llwyddo i gym. eryd neb i'r ddalfa, -+--
ANRHYDEDDU TYWYSOG A THYWYSOGES…
ANRHYDEDDU TYWYSOG A THYWYSOGES CYMRU. Rhoddwyd derbyniad hynod groesawgar i Dywysog a Thywysoges Cymru yn Glasgow a Blackburn ddyddiau Mawrth a Mercher. 0
MARWOLAETH FICER MYDRIM.
MARWOLAETH FICER MYDRIM. Drwg genym hysbysu am farwolaeth y Parch. Rhys Thomas Jenkins, ficer Mydrim, yr hyn a gymerodd le boreu ddoe yn ei ficerdy.
YR ANGHYDFOD YN GOWERTON,…
YR ANGHYDFOD YN GOWERTON, ABERTAWE. Ymddengys fod rhai o'r gweithwyr anfoddog yn ngweithiau dur Elba, Gowerton, Abertawe, wedi dangos eu llidiogrwydd at un o'r rhai sydd yn parhau i weithio mown dull echrydus. Boreu ddoe gwnaed ymdrech i chwythu ei dy i fyny a rhyw sylwedd ffrwydrol, ond yn ffodus ni fu yr ymgais ddieflig yn llwyddianus, onide buasai ef a'i deulu wedi eu chwythu yn ddarnau. Hyderwn y llwydia yr heddgeidwaid i ddarganfod 0 Uwfr- iaid diegwyddor a maleisus, ac y cosbir hwy yn ol eu haeddiant.