Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
YMHA LE YN NGHYMRU Y MAE'R…
YMHA LE YN NGHYMRU Y MAE'R PLWYF. YDD NAD OES YNDDYNT DDIM UN EGLWYSWR ? At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." SYR.—Adroddir yn The Christian World am Ebrill ^oain diweddaf, i'r Parch. T. E. Williams, o Aber- ystwyth, ddweyd wrth siarad yn un o gyfarfodydd y •Baptist Union ar bwnc y Dadgysylltiad nas gwyddai "jj1 ddim un plwyf yn Nghymru heb Anghydfiurfiwr jj& preswylio ynddo; y gwyddai am ychydig heb «axm un Eglwyswr ynddynt. I know of no pariah III Wales where there is no Nonconformist resident; Ucnow of a few where there is no Churchman." by]la eiriau'r adroddiad. A fyddwch chwi, syr, neu Qyw un o ddarllenwyr Y LLAN garediced a rhoddi gwybod:- 1. Ymha le y mae'r plwyfydd hyn, eu henwau, a «*edi eu poblogaeth. 2. A oes ofEeiriaid plwyfol arnynt ac eglwysi hvyfol ynddynt.—Yr eiddoch, &c., J. L. MEREDITH.
CYMDEITHAS LENYDDOL DEON-LAETFL…
CYMDEITHAS LENYDDOL DEON- LAETFL LLIEON. Y BEIRNIADAETHAU. "CLEDDYF YR ARGLWYDD A GIDEON." Derbyniwyd tair pryddest ar y testyn dan yr ftWau Omicron," '• Rufus," a Jephtha." Omicron.—Pryddest lied wan sydd gan"Omi- /Oli." Ei wendid oyntaf yw dwyn i mewn i'w gyf- ^soddiad eiriau diystyr neu anarferedig, fel pan yr «%ifena "Buddugoliaeth ferth." Nid yw y Q^teiddair ferth" yn arferedig. Y mae y gair hft ^awdd anferth yn arferedig. Na ddefnyddied jj**ad un gair diystyr neu anarferedig. Defnyddia JUau ambell dro yn mingamu ar y naill y llall fel 8 lledan ar y traeth. Dyma esiampl Ond caerau Jericho er cryfed oe'nt I'r llawr a gwympasant oil yn wyrthiol gynt." ansawdc* meddwl tybiem mai gwaith ymgeis- leuano yw, ac felly ni ellir disgwyl newydd-deb ft ynddo' Gocheled yr awdwr wallau o'r fath ooawyd y tro nesaf, a bydd yn Uawer nes i'r wobr. lI. ufus.-Y mae "Rufus" yn llawer mwy profiadol yjf Omioron," ac wedi gallu osgoi y gwendid geir- thv cwynwyd am dano. Y mae yr ymdrech heh ^d° e £ a ''Jephtha yn un deg ar faes agored, Oorfaemawr ddim gwahaniaeth o ran iaith a mesur, ac od^ 0 un ^u' ^Qlly rhaid sylwi ar an- •"Wad barddoniaeth Jephtha a Rufus yn wyneb eu gilydd. Rhag- Qra. "J aphtha ar y dechreu yn ei ddisgrifiad o wr Israel. Moes wersi cyffredinol sydd gan ffiufua" yma., Y mae diagrifiad "Jephtha" o Gideon yn llawer gwell eto, ond pan elir at yr ym- ^odiad nid yw yn ogyetal. Yn y rhan olaf o'r Oddest rhagora Jephtha drachefn, ac y mae &odwedd lenyddol ei waith yn fwy coethedig. A chymeryd pob peth at eu gilydd "Jephtha" yn ddi- «aal yw y goreu, a theilynga y wobr.
MYFANWY HOFF OEDD HI.
MYFANWY HOFF OEDD HI. Ger glwysion lanau'r Ogwen, Mewn bwthyn trigai hi; Mor ddedwydd oedd a llawen, Ei hail nis gweiais i; Hi ganai fel yr eos, Enillai barch a bri, Mor ysgafn droed a'r ewig- Myfanwy hoff oedd hi. Fe'i gwelwyd hi'n ei hafiaeth Ar fryncyn Ilawn o swyn; Magwrfa per gerddoriaeth, A moethle'r awen fwyn Yn nghanol man flodionos, Amryliw teg diri', Reb ofid yn ei haros- Myfanwy hoff oedd hi. Yr haul fu'n gwenu ami, A'r goedwig werdd ar d&n, Cerddoriaeth oedd o'i deutu— Mil myrdd o leisiau man Digwmwl oedd y nefoedd, A disglaer oedd y lli', Angyles wen y miloedd— Myfanwy hoff oedd hi. Ond tra un dydd yn rhodio, Rhwng cangau coed yr ardd, Er holi'n ddwys a chwilio, Ni chaed y dduwieg hardd Parlysodd gwyneb anian, A chwyddo wnaeth y lli', Holl natur dda,eth i gwynfan- Myfanwy hoff oedd hi I Y goedwig fu'n telori, A'r haul fu'n gwenn'n brâf, A'r blodau fu'n arogli, Aeth heibio—darfu'r haf Daeth gauaf oer dryghinllyd, A chiliodd pob rhyw fri, Mae natur yn dywedyd- Myfanwy hoff oedd hi. Talybont. LLWYD FOE.
Plainer mrtnn 'bJ1l1(g.
Plainer mrtnn 'bJ1l1(g. Siaredir 587 o ieithoedd gwahanol yn Ewrop, — Rhifa gwahanol enwadau crefyddol y byd tua phymtheg cant. Cyfartaledd oedran yr holl drigolion sydd yn Lloegr yw 27 mlwydd. Yn y flwyddyn 1749 y sefydlwyd y wyddor i addysga y mud a'r byddar. Anfonir gwerth chwe' mil o bunau o ymenyn bob blwyddyn o'r Iwerddon i wahanol wledydd. Dywedir fod uwohlaw cant o foneddigesau yn gweithredu fel meddygon rheolaidd yn Chicago. — Nid oes unrhyw sail i'r adroddiad am wenwyn- iad miloedd o bobl yn Brazil ychydig amser yn ol. Sefydlwyd llythyrdai yn Paris yn y flwyddyn 1462; yn Lloegr, 1581; Germani, 1641; Twroi, 1740. Disgwylir y bydd i'r ohwareuyddes enwog Miss Minnie Palmer gyraedd i'r wlad hon ar y 4ydd o'r mis nesaf. Drwy fwyafrif o 9,437 mae trethdalwyr Glas- gow wedi penderfynu na fynant lyfrgell rydd yn y ddinas hono. Mae Llywodraeth Lloegr wedi caniatau i'r cyn-frenin Ja-Ja a'i deulu breswylio yn Ynys Grenada, West Indies. Cyflawnwyd 50 o hunanladdiadau yn Monte Carlo gan hapchwareuwyr a gollasant eu harian yn ystod y tri mis diweddaf. China ydoedd y deyrnas gyntaf yn y byd i ar- graffu newyddiaduron, gan ei bod wedi cyhoeddi rhai o leiaf ddeg canrif yn ol. Y trefedigaethau Prydeinig iacbaf yw New Zealand a Tasmania, lie na chyrhaedda y marw- olaethau ond 11 y fll yn flynyddol. Amcangfrifir fod 27,000 o ddarllawyr yn y deyrnas hon, a'u bod rhyngddynt yn cynyrchu miliwn o alwyni o gwrw yn flynyddol. Collodd 24,831 o bersonau eu bywydau yn Hindostan yn ystod y flwyddyn 1886 drwy gael eu lladd gan anifeiliaid a'u gwenwyno gan nadrodd. Llwyr ddinystriwyd Central City, Montana, America, gan dan yr wythnos ddiweddaf, ac y mae y trlgolion, tua mil mewn nifer, yn dioddef dirfawr dlodi. Telir ar gyfartaledd 910 yn flynyddol tuag at gynal pob pauper yn Mhrydain Fawr, yr hyn sydd yn llawer uwoh nag a delir mewn unrhyw wlad arall. Mae dyn yn America wedi ei gymeryd i'r ddalfa ar y cyhuddiad o briodi 17 o wragedd, y rhai sydd oil yn fyw, ac yn bwriadu tystiolaethu yn ei erbyn I Dywedir mai y tirfeddianydd Prydeinig mwyaf yn America yw Ardalydd Tweedale, yr hwn sydd yn berchenog tua dwy filiwn o erwau o dir yn y wlad hono. Amcangyfrifir fod gwerth P,20,000 o eiddo yn cael eu gadael mewn cerbydau yn Llundain bob blwyddyn, y rhai a-gymerir gan y cerbydwyr i'r awdurdodau. Ymdreoha Mr. Michael Davitt gasglu tua 9700 er cynorthwyo ei gydwladwyr a breswyliant yn Ynysoedd Arran, Iwerddon, lie y dywedir fod tua tair mil ar fin newynu. Hysbysir fod y Duo o Marlborough ar fedr ym- briodi a gweddw gyfoethog o'r America. Gadawodd ei gwr y swm o bum' miliwn o bunau iddi, ac y mae ei derbyniadau blynyddol yn £250)000. Derbyniodd Mri. Scott, llong-adeiladwyr, Greenock, archebion gan y Llywodraeth i adeiladu dwy long ryfsl anferth mor fuan ag sydd yn ddiohon- adwy. Pwysa pob un 850 o dunelli, a bydd y peir- ianau yn 1,250 gallu ceffyl. Heblaw y rhyfeddodau a hysbyswyd eisioes fel darganfyddiadau Americanaidd, hysbysir am y rhai canlynol yu yohwanegol :-Areithydd chwe' mlwydd oed yn Kansas; traethodwr deng mlwydd oed yn Newark; golygydd pymtheg mlwydd oed yn Ne. braska tra y oeir oerddorion o dairj ddeuddeg mlwydd oed, a phregethwyr ieuengach na hyny— pan yn eu cryd I Beth nesaf ?
.CYBIBITHIAD 0 " GOD SAVE…
CYBIBITHIAD 0 GOD SAVE THE QUEEN." Do.eth dau gyfleithiad i law-un gan "XYZ" y goreu o honvtf ^n'" Nid 068 llawer 0 §amP ar oael oyfieith- a 8waith anhawdd yn wir fyddai gwreiddiol p camPus o waith mor sych a'r or, a grvm' GwIadgarwoh a theyrngarwoh y cerdd- yni v~ r, p y gerddoriaeth, sydd yn rhoddi gwres ac X y r save Queen-" X Y 7. u— Cyfieithiad gwan iawn sydd gan yt hyn ■j Defayddir geiriau anarferedig ynddo, Oeai^ri o anQioddefol mewn can neu emyn bobl- edis i>' ane4 pawb &'r deall ac mewn iaith ddeall- niJLJ S'ySredin, Swynyddion a brudwyr fydd yn wngial mewn iaith anneallus. ,Iyn _y mae "Llewelyn" yn llawer mwy gQj ?°S tt&g "XYZ ond pa fodd y bu iddo osod 98iria,u wrth eu gilydd mor drwstan a chwithig a Bendithion pena'r nen Dyhidla ar ei phen, Ein llyw fo'n hir." neth a ddywedai morwr am y llinell olaf ? Onid t 0- May our rudder be long ?" "Cyfod a chwal, o Iôr, Elynion cis ein por, Hwy cwympa di." 1( j. ttiaei y llinell olaf yma eto yn rhy chwithig. ■Llewelyn yw y goreu, a haedda y wobr.
V YR EGLWYS YN NGHYMRU."
V YR EGLWYS YN NGHYMRU." t>erbyniwyd tri chyfansoddiad yn cynwys chwe' ar y testyn hwn. Llwyd, Cynfal. —Cawn"benillion ar y mesur ryniau yr Iwerddon" gyda'r alaw mewu hen <«ant gan Hugh Llwyd," ond y penillion yn sydd i ddyfod dan feirniadaeth. Lied gyfiredin 'ktn penillion, a lied gymysglyd hefyd. Y mae bv^nt gryn Sftwyr perthynas agos ag emynau adna- y clus, inegis- « jy^ y trngareddau rhown foliant oil ar gan. "M0on oalonaui" am ddawn yr Ysbryd Glan. ae ynddi drugareddau i'w oael yn ddinacad." Hgj r^5^°9f-—Y mae Brysiog yn dra amoanus, ond 5^ra^ystwyth ac oer. Fel pob ysgrifenydd an- edipii d°l y mae yn defnyddio ambell air anarfer- ga^asai yn ba'wdd Sael Sair hollol syml a t, Yr Eglwys fad yn Nghymru sydd." na wnaethai— y Yr Eglwys lan yn Nghymru sydd V ^id yw Iesu cun ychwaith yn swnio yn yo ei a f11 ^wneyd yw, er fod Williams Pantycelyn tted oai |r' Yr wyf yn beirniadu y penillion hyn yn BQ Perfitithf1 6U b°d rbai da 'aWD» ao y Sellid mae mwy o fyn'd, nwyf, asbri, a Mewn gwirionedd y n 0 ganu» a dim ond cael tono gyfielyb ^°d lawer at frwdfrydedd cyf- y v?obt y do^ Eglwysig. Dyma y goreu, a haedda
Y CASGLIAD GOREU 0 DDIM LLAI…
Y CASGLIAD GOREU 0 DDIM LLAI NAG UGAIN 0 GAROLAU CYMREIG NADOLIG, CYFANSODDEDIG CYN 1830. 1, Gwaith mawr yw beirniadu y carolau, gan fod geiriad y testyn yn anmhenodol. Gofynir am y casgliad goreu, ac nid y detholiad goreu. Dywedir na ddylai fod yn llai nag ugain carol, end ni roddir terfyn i'r rhif a all fod uchlaw hyny. Cyfyngir yr awduriaeth i'r cyfnod cyn 1830. Bellaoh, sylwn ar gasgliad Gwilym ab Huw o Fon.—Y mae gan y casglydd yma 71 o garolau mewn 523 o dudalenau. Casgliad ydyw a dim arall. Cymer i mewn tua phymtheg o garolau Dafydd Ddu Eryri, ac agos i ddeg-ar-hugain o garolau Jonathan Hughes, a gwneir y gweddill i fynyo garolau Robert ab Gwilym Ddu, Bardd Nantglyn, Twm o'r Nant, Ellis Roberts (y Cowper), Hugh Llangwm, ac awdwyr llai adnabyddus. Y mae yr ysgrif yn wallus dros ben, ac yn hollol anghyfaddas i fyned i'r wasg. Nid oes yn y gwaith fynegai (index) o un math. Er maint yw swm y casgliad ni allaf ei gymeradwyo fel yn oreu. loan ab Gwilym.—Y mae casgliad "loan ab Gwilym yn ddetholiad chwaethus, trefnus o ugain carol o waith prif awduron diwedd y ganrif o'r blaen a dechreu hon. Cymer i mewn i'w ugain carol ugain o'r prif fesurau arferedig cyn y flwyddyn 1830. Dylwn, feallai, grybwyll fod rhai o'r carolau yn dra henafol, a'r amrywiaeth yn eu mysg yn fawr. Ceir Mynegai i'r Mesurau, ond dim i'r carolau eu hunain. Ysgrifenodd y casglydd yr oil ar ddau du y dalenau, yr hyn sydd groes i arferiad yr argraffwasg. Owain Tudur.-Y mae yn nghasgliad Owain Tudur ddeg-ar-hugain c garolau wedi eu dethol yn chwaethus a doeth. Cynwysa garolau o safon llen- yddol uwch at eu gilydd na chasgliad loan ab Gwilym;" y mae yr ysgrif yn fwy perffaith, a chywir hefyd, ond wedi ei hysgrifenu ar ddau du y dalenau. Y mae gan Owain Tudur Fynegai i'r Awdwyr a'r Mesurau, ond nid i'r Carolau. Mantais fawr fuasai cael llinell gyntaf bob carol mewn mynegai (index). Bu raid i ni fyned i'r llafur o ysgrifenu mynagai (indexes) cyflawn o'r tri chasgliad cyn gallu eu cyd- maru. Y mas genyf beth amheuaeth am garol Nicander, a gyfansoddwyd ef cyn 1830, ond gwyddis iddo ysgrifenu llawer cyn bod yn ugain oed. Fy nyledswydd yma yw rhoddi mantais yr amheuaeth o ochr y casglydd. Ychwanegir y tonau yn y casgliad, ond nid oes a wnelwyf a hwy a'r carolau yn unig y mae a wnelwyf. Y mae y ddau gasgliad olaf hyn yn dda, er nad yn gwbl berffaith, ac yn llawer mwy na gwerth y wobr. Y goreu yw yr eiddo Owain Tudur," a'r ail yr eiddo loan ab Gwilym."—Yr eiddoch yn gywir, Llangwm Vicarage, ELLIS ROBERTS. Mawrth 27ain, 1888.
" HANES RUTH."
HANES RUTH." Daeth dau draethawd i law ar y testyn wedi eu harwyddo Esther a Mair." Ysgrifena. y ddwy yn syml, eglur, ac yn drefnus. Mae y sillebiaeth a'r atalnodiad yn y ddau draethawd yn dda, er nid yn berffaith. Mae llaw-ysgrifen -1 Mair yn rhagori. Rhagora hefyd mewn addfedrwydd, ond mae Esther yn rhagori mewn cyflawnder, ac arwydda ymchwiliad manylach. Mae teilyngdod Mair bron yn gydradd & theilyngdod Esther," ond ar y oyfan mae y fantol, yn ol fy meddwl i, yn troi o blaid Esther."
I"HANES Y TRI CHREDO."
"HANES Y TRI CHREDO." O'r tri traethawd a ddaeth i law y goreu yw eiddo "Dinawd." Tra mae traethodau "Junius" a Giraldus Jones" yn rhai teilwng, ac i fyny at safon uchel cyfarfod llenyddol Llifon, mae traeth- awd Dinawd yn arwyddo llafur anferth, ynghyd â theilyngdod. Cynwysa, nid yn unig hanes am amseriad a dibenion y Tri Chredo, ond hefyd esboniad maith a meistrolgar o'r heresiau a achos- asant yr amddiffyniad i'r gwirionedd a geir yn nghredo Nicea a St. Athanasius. Mae darllen traethawd Dinawd wedi bod yn adeiladaeth i mi, ac, os ydyw yn wreiddiol, ac nid oes genyf achos i ameu, mae yn Llifon dduwinydd cyflawn, medrus, ao uniawn-gred ag sydd yn anrhydedd i'r ddeon- iaeth. Mae y cyfansoddiad yn dda, ond yr wyf yn synu ei weled yn defnyddio ac yn lie ag," ei yn lie eU," hynu yn lie hyny," debig yn lie debyg a mwyaf bwyllog yn He mwyaf pwyllog," pan yn ysgrifenu sylwedd mor alluog a rhesymegol. St. Ann's, Bangor. D. W. THOMAS.
JSIMUTI r AJFDLKSKIIII.
JSIMUTI r AJFDLKSKIIII. YE HAUL, am Mai, 1888, dan olygiaeth Elis Wyn o Wyrfai. Caerfyrddin William Spurrell. Y mae yr Haul am Mai, fel arfer, yn oynwys llawer o amrywieth a digon o dal i'r neb a'i pwroaso. Ar y dechreu ceir darlun ao ysgrif ragorol ar Eglwys Gadeiriol Carlisle yna ceir parhad o'r ysgrif ragorol ar Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd," gan y Parch. W. Hughes, Llanuwchllyn. Yn dilyn mae y parhad o'r ysgrif ar y Saith Esgob neu yr Eg- lwys yn aohub y Wladwriaeth." Hefyd, mae ysgrif y Eos Llechid ar "Emadur Bywgraffyddola Beirniad. 01 o Gerddorion ymadawedig Cymru II yn wir deil- wng o'r awdwr. Yn yohwanegol at yr uchod ceir amryw ysgrifau cynwysfawr ac adeiladol, megis "Dydd Iau y Dyrchafael" Enwogion yr Eglwys Edward gamuel," gan Glan Menai; "Egwyddorion Amaethyddiaeth," gan Charles Ashton; «' Y berth- ynas rhwng yr Eglwys a'r Ysgrythyr Lân; "Y Sulgwyn;" "Ein Trefedigaethau;" "Parhad Eg- lwys Loegr yn nghyfnod y Canol Oesau a'r Diwyg. iad," gan E. Phillip Howell, Bottwnog; "Aberth Crist," gan O. G. Pritchard, Gaerwen; Yr Eglwys yn Nyffryn Clwyd;" 11 Daeareg a'r Diluw," gan R. R., Rhostryfan; "Gwroniaid y Groes," gan W. M. R. yna ceir ysgrif alluog ar Ddadgysylltiad Pa beth ydyw ?" gan y Gwir Barchedig John Charles Ryle, D.D., Arglwydd Esgob Llynlleifiad, yr hon sydd yn adlewyrchu clod nid bychan ar y cyfieith- ydd, sef Myfenydd. Ceir hefyd doraeth o wybod- aeth Eglwysig ynddo; ao ni ddylai unrhyw Eglwys- wr gwirioneddol fod yn foddlawn heb dderbyn yr Haul, gan fod ynddo wybodaeth a thalent.
[No title]
Nid yw cyfrwysder yn ddim ond rhywbeth y mae ffolyn yn ei ddefnyddio yn lie doethineb. Y mae adnoddau penaf dedwyddwch a defnyddiol- deb yn hollol agored i gyfoethog a thlawd fel eu gilydd. Beth yw y peth hwnw nad yw yn gnawd nac asgwrn, ao eto sydd yn meddu pedwar bys a bawd ? Maneg.
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Rhaid i ni erfyn ar ein cyfeiilion barddonol fod mor garedig a thalu sylw i'r rheolau canlynol o hyn allan:- 1. Defnyddier note paper, ac ysgrifener ar un tu i'r ddalen. 2. Ymdrecher dewis testynau o ddyddordeb cyffredinol, ac astudier tlysni a byrdra yn hytrach na meithder gormodol. 3..Nis gallwn ddycliwelyd cyfansoddiadau annerbyniol, na barnu teilyngdod cyfieithiadau heb weled y gwreiddiol. OGWENYDD.—Drwg genym nas gallwn gydsynio A'ch cais. Ceisiwch gan y gwr parchedig a enwch ddefnyddio ei ddylanwad er unioni y camwri a'r anghyfiawnder y cwynwch o'i blegid. Neu gosodwch yr achos o flaen y Parch. D. W. Thomas, M.A., St. Ann's, a bydd yn sicr o wneyd yr hyn sydd yn angen- rheidiol. LLWYDFOR.—Tlws iawn. Danfonwch yn ami. PENF.Ho.-Nid ydych yn cwyno heb achos. Ceisir cadw y gwr du mewn cadwynau o hyn allan. Cym- eradwy oil. CARNALAW.—Yn ein nesaf. Rhy ddiweddar y tro hwn.
Y LLYTHYR- GRLUDYDD.
Y LLYTHYR- GRLUDYDD. Pan fyddo'r wawr fel morwyn Ner Yn agor dorau'r dwyrain, Y lleaad dies a'r dirif eer Yn cuddio'u gwenau mirain A'r ednod man yn deffro'i gyd, Wrth ganiad yr ehedydd, Pryd hyn o'i anedd fechan glyd Cychwyna'r llythyr-gludydd. Rhydd ar ei gefn ei lythvr-gôd, Wrth ado'i artref diddig; Ac a i'w daith yn iach ei n6d, Trwy'r pentref bychan gwledig; Lie can ei udgorn yn ddidaw, Nes adsain ei heolydd; A llawer un a'i nodyn ddaw I'w ro'i i'r llythyr-gludydd. Wrth wrando ar ei s\Vn o draw, 0 hyd yn nesu, nesn, Pob nn a deifl ei bin o'i law, Gan gan ei nodyn fyny Ac os y ilaw-ysgrifen fydd Ar hwn yn dra anghelfydd, Rhaid gwneuthur brys, neu golli'r dydd, Yn myn'd mae'r llythyr-gludydd. Nid yw efe yn llai ei frys Wrth ddrws y gwaelaf fwthyn, Na phan ar hiniog porth y llys Rhagoraf yn y dyffryn: Bod yn y drellan bell mewn pryd, Rhag caffael yno gerydd A d'od yn ol á'i lwyth bach drud, Yw camp pob llythyr-gludydd. Bydd llawer un mewn pryder mawr, Yn gwylio ei ddychweliad, A phob mynydyn braidd fel awr Yn pwyso ar y teimlad I A'r fynwes oil yn orlawn gan Rhyw bryder a llawenydd, Wrth feddwl am yr adeg pan Y daw y llythyr-gludydd. Rhyw anwyl ferch ar drothwy drws Hoff dy ei thad anwylfad, Sy'n disgwyl derbyn nodyn tlws Oddiwrth ei hanwyl gariad; Er fod ei breswyl ef tadraw I lawer pant a mynydd, Caiff nodyn bach o waith ei law Bob dydd trwy'r llythyr-gludydd. Mae merch amaethwr yn y wlad Yn siarad am briodi, Ond nid oes modd darbwyllo'i thad I fod yn foddlon iddi; A chan fod cariad yn ei bron, Yn trydar yn aflonydd, Diolcha'n Hon yr adeg hon Am nawdd y llythyr-gludydd. Y Hanc adawodd aelwyd gu Hen breswyl ei rieni, A dderbyn air mewn amlen ddu Yn un o'r mawrion drefi .■ SWn dyfroedd llwydion trallod sydd Yn dyfod yn ddirybudd, Trwy'r genadwri fechan brudd 0 g6d y llythyr-gludydd. Amrywiol yw'r newyddion sydd Yn nghôd y llythyr-gludydd; Bydd rhai yn lion a rhai yn brudd, Ar ol eu darllen beunydd Ond eu trosglwyddo hwy i gyd, Yn iawn i'w perchenogion, Yw gwaith y postman da bob pryd, Heb wybod eu dirgelion. Y llythyr-gludydd sydd yn d'od, Ac mae yn lied dafodrydd Nis g\Vyr y gwalch fod yn ei gOd Ef gan fach i'r Golygydd I Ac os bydd iddo godi'i gloch, Ar ol i hon ymddangos; DiBgwylied ef i Iolo Goch Ro'i iddo ddogn bob wythnos IOLO GOCH,
ARIAN YW ASGWRN Y GYNEN.
ARIAN YW ASGWRN Y GYNEN. Nid egwyddor, ond agweddiad—yr aur A'r arian yw'r dwnad Nid mawr les, na dim i'r wlad— Y swllt yw'r Dadgysylltiad PENFBO.
APOSTOL Y DADGYSYLLTIAD.
APOSTOL Y DADGYSYLLTIAD. Pregethwr y 'stwr, a'r stori-ddigroen Sydd ag urdd gwrach arni; Rh'odd ei fryd ar ddifrodi, Hynod yw dawn y D.D.! PENFEO.
OFER YMRESYMU A FFOL.
OFER YMRESYMU A FFOL. E'en though vanquished, he could argue still." -GOLDSMITII. Os dMes dulio asyn,—ofer yw'r Prawf a roed i'r hurtyn Er i'r doeth lwyr loriaw'r dyn, Haeriadau boera wed'yn. PENFEO.
[No title]
Y mae eistedd yn llonydd, hyd yn nod pan y byddo yr hyn fyddo yn myned ymlaen yn peri i chwi flinder, yn emll. I Beth yw eich enw, fy merch fechan i Minnie.' Minnie beth ?' Minnie Peidiwch,«iae fy mam yn wastad yn fy ngalw.' Paham y gellir tybied fod preswylwyr y gororau pegynol yn bobl ffasiynol? Oherwydd eu bod yn symud yn y cylchoedd nwchaf. Gallwn ddall-ddilyn Rhagluniaeth, a pheidio gofyn cwestiynan pan ein barweinir at gyfoeth; ond pan ein harweinir i dlodi, ymollynga ein duwinydd- iaeth, ac yn sydyn deohreuwn ameu. Nid yw bla ur lyn dyfocl i fyny mewn diwrnod, ac os arhoswch, gellwch ddyfod o hyd i flodau, lie ychydig amser cyn hyny yr oeddech chwi yn meddwl mai anial- woh diffrwyth ydoedd. Eich cadernid yw eistedd yn llonydd a goddef yn amyneddgar.