Hide Articles List

10 articles on this Page

Y MESURAU DEGYMOL.

LLYWODRAETH LEOL I'R IWERDDON.

AIL-AGOHIAD EGLWYS DEEYNOG.

News
Cite
Share

AIL-AGOHIAD EGLWYS DEEYNOG. [GAN HYWEL IDLOES.] Dydd mawr ydoedd dydd Mercher, y 25ain o Ebrill, yn y plwyf hwn; la, red letter day yn nghalender a hanesyddiaeth hen Eglwys Defynog ydoedd. Y mae llawer o adgofion ynglyn a'r Eglwys hon, pa rai ydynt yn anwyl gan bobl Defynog. Hi ydyw y Fam Eglwys yn y rhan hon o'r sir, ac y mae wedi cael ei gwasanaethu gan amryw o offeiriaid enwog yn eu dydd, fel pregethwyr ac ysgolheigion. Yma terfynodd yr anfarwol Parry, Llywell, ei yrfa, ar ol llawer hlwyddyn o waith caled yn ngwinllan ei Arglwydd; a chafcdd ei olynu gan y Parch. R. Evans, yr hwn sydd fwyaf adnabyddus wrth yr enw Evans, Llandebie," oherwydd yn Llandebie, lie y treuliodd flynyddoedd meithion, y gwnaeth ei hun yn enwog fel ofleiriad gweitbgar a llwyddianus, yn ogystal a phregethwr poblogaidd a dylanwadol. Yn wir, y mae Defynog wedi bod yn ffodus er's blynydd- oedd lawer i gael ficoriaid galluog ymhob ystvr. Dydd Mercher, Ebrill 25ain, ail-agorwyd yr hen Eglwys hanesyddol ar ol adgyweinad trwyadl, a hyny ddim diwrnod yn rhy fuan, oherwydd yr oedd wedi myned yn anghysurus ac anaddas i addoli ynddi. Tua blwyddyn yn ol, oydymgynghorodd y ficer a'i wardeniaid pa fodd, y gallent ymgymeryd a'r fath waith pwysig, a phenderfynasant nad oedd dim i wneyd ond anturio a dechreu yn ddioed. Felly y gwnaethant, a galwasant yr arobadeiladydd, Mr. Kempson, o Henffordd, i ystyried pa beth oedd yn ofynol i gael pethau mewn trefL. Tynwyd y cyn- lluniau, a rhoddwyd y contract i Mr. Cullins, Hen- ffordd. Gorphenwyd y cwbl yn foddhaol iawn, yr hyn a gostiodd tua £1,400, ao y mae'n ddywenydd genyf ddweyd nad oes ond ychydig iawn, os dim, o ddyled yn sefyll ac yn pwyso ar ysgwyddau y ficer a'i wardeniaid. Yr oedd dydd yr agoriad yn hynod oer i'r amser hyn o'r flwyddyn,. eto daeth canoedd o bobl ynghyd, nes oedd pentrei gwledig Defynog fel tref boblogaidd yu cynal gwyl. Dechreuwyd y gwasanaeth boreuol am 11 o'r gloch. Darllenwyd y gweddiau gan y Parch. R. Evans, ficer parohus y plwyf; y llithiau gan y Parch. Prebendary Garnons Wxiliams, a'r Parch. D. Price, caplan Aberhonddu; ac yna esgyn- odd yr Archddiacon Griffiths, Castellnedd, y pwlpud, a chawsom bregeth wrth fodd ealon pawb. Ni raid i'r Arcbddiacon wrth air o ganmoliaeth oddiwrthym ni-y mae yn ddigon adnabyddus drwy yr holl eg- Iwysi fel pregethwr ac areithiwr. Yna gweinyddwyd y Cymun Sanctaidd i liaws o gymunwyr. Yr oedd yr offeiriaid canlynol yn bresenol yn eu gwenwisgoedd Y Parchn. D. Price, Aberhonddu: D. Saunders Jones, curad Aberhonddu W. Howell, Garthbrengi; Rees Price, St. David's, Aberhonddu Prebendary Garnons Williams. Rees Evans, ficer y plwyf; a'r Archddiacon Griffiths, Caatallnedd. Hefyd yn y gynulleidfa yr oedd y Parchn. Canon Walters, D.D.: W. Bowen, Llangorse; M. Powell Williams, Llansantfread J. Price, Llanfeigan; T. Jones, Llywell J. Williams, Trallong J. Davies, St. Illtyd; T. H. Hughes, Aberhoddu; Thomas Price, Prestatyn, J. Davies, Llansamlet D. Griffiths, Cwmamman; W. Evans, Cray; H. Jones, Manordeifi W. Williams, curad Llywell; D. Jones' Ystradfellte ac eraill. Y wardeniaid oeddynt Mr. Morgan Thomas, Aberrenny, a Mr. Jones, Cefnfedwfawr. Ar ol y gwasanaeth cafwyd luncheon ardderchog yn rhad ac am ddim yn y Club Room ey'n perthyn i'r Blue Hotel. Cawsom areithiau dyddorol iawn gan yr Archddiacon Griffiths, Canon Walters, v Parch. Rees Price, y ficer, ac hefyd gan Mr. Kemp- son ac eraill. Yn y prydnawn, am dri o'r gloch, cawsom bregeth dda iawn gan y Parch. Rees Price, St. David's, Aberhonddu, a phregeth alluog dros ben gan y Parch. Canon Walters ar hanes yr Eglwys. Yn yr hwyr darllenwyd y gwasanaeth gan y Paach. J. T. Powell, Panscallog; y llithiau gan y Parch. W. Howell, Garthbrengi a phregethwyd yn Gymraeg gan y Parch. D. Griffith, Owmamman, a'r Parch. Henry Jones, Manordeifi. Y mae'n ddigon dweyd eu bod ill dau yn eu hwyliau goreu. Mewn gair, yr oedd yr oil o'r pregethwyr wedi rhoddi bodd- lonrwydd cyffredinol i'r torfeydd a ddaethant i'r gwasanaethau drwy y dydd. Gallwn longyfarch y ficer a'i wardeniaid eu bod wedi llwyddo ymhob ystyr i ddwyn y gwaith pwysig hwn i derfyniad mor foddhaol. Yr oedd, ys dywed y Sais, yn 4, perfect success." Casglwyd trwy y dydd zC24, Y mae'r c6r yn deilwng o sylw. Canasant drwy'r dydd yn hynod o dda, ac y mae Mr. Thomae Thomas, eu harweinydd, yn haeddu canmoliaeth nid bychan am ei lafur gyda'r c6r. Cyfeiliwyd vn wir dda ar yr harmonium gan Mr. Powell, yr ysgol- feistr. Gadewch i ni roddi gair o gyngor i'r cantor- ion. Peidiwch a llaesu dwylaw a myned yn ddi- fater, oherwydd ni raid i chwi ofni cael eich cyd- maru ag un cor yn y sir; y mae defnyddiau campus ynoch fel cantorion i wneyd c6r a all fod yn enwog tu allan i sir Frycheiniog, yn neillduol y bass a'r treble. Gobeithio y cawn wyl gerddorol yn Eglwvs Defynog cyn bo hir gan gorau yr ardal. Efallai y cawn amser eto i sylwi ar y rhoddion costfawr a gyf- ranwyd gan y plwyfolion ac eraill.

Family Notices

IAWN-LYTHYRENIAETH YR IAITH…

YR EGLWYS YN MLAENAU FFESTINIOG.

UNDEB YR EGLWYS A'R ENWADAU…

DADL WYDDELIG GYNHYRFUS.

DIWYGIAD TY YR ARGLWYDDI.

MESUR Y GYLLIDEB.