Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Y MESURAU DEGYMOL.

LLYWODRAETH LEOL I'R IWERDDON.

News
Cite
Share

LLYWODRAETH LEOL I'R IWERDDON. Nos Fercher, cynygiodd Mr. Carew ail-ddarlleniad Mesur Llywodraeth Sirol Wyddelig. Cynygiodd Mr. Smith Barry welliant i'r perwyl nad oedd yn ddiogel yn bresenol i wneyd eyfnewid- iadau cyfansoddiadol pwysig yn llywodraeth yr Iwerddon. Dywedodd y gwnai y Mesur ysgubo ymaith y lleiafrif teyrngarol o bob bwrdd yn yr Iwerddon, gan adael llywodraeth achosion lleol yn nwylaw y Nasiwnaliaid. Boneddwr o Cork yw Mr. Barry, ond yn cynrychioli rhan o Sir Huntingdon, ac y mae yn deall holl ystrywiau y gwladgarwyr Gwyddelig. Cefnogwyd y Mesur gan Mr. Gladstone, ond nid oedd yn credu y gwnelai llywodraeth sirol rhyw lawer o les i'r Iwerddon hyd oni sicrheid y sefydliad mawr hwnw a alwai yn Llywodraeth ganolog, wrth yr hyn y meddyliai yn ddiddadl, Parliament yn Dublin. Home Rule sydd ar ymenydd Mr. Glad- stone yn barhaus. Dywedodd Mr. A. J. Balfour na wnaeth Mr. Glad- stone erioed un ymgais i sicrhau llywodraeth leol i'r Iwerddon. Yr oedd ef (Mr. Balfour) yn gwrth- wynebu y Mesur, nid yn unig am nad oedd amser i'w basic, ond am ei fod yn anamserol. Yr oedd y blaid Nasiwnalaidd dros y Mesur, nid er iawn lyw- odraethiad eu hachosion lleol, ond er cario allan chwyldroad cymdeithasol. Cefnogwyd y Mesur gan Arglwydd Randolph Churchill ar y tir fod y Llywodraeth yn 1886 wedi ymrwymo y gwnaent gyda'r cyfleusdra cyntaf estyn yr un Mesur o lywodraeth leol i'r Iwerddon ag a ganiateid i Loegr a Chymru. "Rbybuddiodd" y Llywodraeth yn erbyn y cwrs a gymerent ynghanol taranau o gymeradwyaeth oddiwrth y Parnelliaid a'r Gladstoniaid. Dyn hollol ddiymddiried yw Arglwydd Randolph, ac ni wyr yr un dewin pa le y ceir ef. Mae rhyw fits rhyfeddol arno. Beth oedd amcan ei araith ? Yr oedd y Mesur yn rhy ddrwg iddo allu pleidleisio drosto; ond, ar yr un pryd, yr oedd yn rhaid iddo gael ymosodilar y Llywodraetb, ac ymrwbio yn y Parnelliaid I Dywedodd Mr. Chamberlain y gwnai efe gyca chalon yegafn fotio yn erbyn y bill, am mai Mesur drwg oedd, ac am ei fod yn afresymol tybied y gallai y Llywodraeth basio mesurau o lywodraeth leol i Loegr a'r Iwerddon yr un Senedd-dymor. Yr oedd y Mesur yn gynamserol. Wedi i Mr. John Morley ac eraill siarad, ym- ranodd y Ty- Dros yr ail ddarlleniad. 195 Yn erbyn 282 Mwyafrif yn erbyn 87

AIL-AGOHIAD EGLWYS DEEYNOG.

Family Notices

IAWN-LYTHYRENIAETH YR IAITH…

YR EGLWYS YN MLAENAU FFESTINIOG.

UNDEB YR EGLWYS A'R ENWADAU…

DADL WYDDELIG GYNHYRFUS.

DIWYGIAD TY YR ARGLWYDDI.

MESUR Y GYLLIDEB.