Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

LLITH O'R bwihyn GWLEDIG.

ESGOBAETfl LLANEIIWY.

News
Cite
Share

ESGOBAETfl LLANEIIWY. Hwyrach y bydd yn dderbyniol gan y golygydd a'r darllenwyr gael gair yn fyr ynghylch gwahanol blwyfydd yn yr esgobaeth hon yn awr ac eilwaith ao os felly y bydd hi, yr wyf yn cyflwyno y lloffion canlynol fel yr ysgub gyntaf at eu gwasanaeth. HAEUOHI BHYDDPBTDWa Yn Ninbyoh mae llawer o drafodi wedi cymeryd lie yngtyn si darparu ychwaneg o le i gladdu y meirw. O'r%liwedd penderfynodd y mwyafrif o'r plwyfolion helaethu hen erw'r meirwon-mynwent yr Eglwys Wen. Yn haelionua rhoddodd Mr. Hughes, Kinmel, y perohenog, aoer a haner 0 dir i'r perwyl. Y tenant oedd y Parch. Thomas Gee, noddwr blaenllaw pob gorthrymedig I Yr oedd myned ag erw a haner o dir oddiar denant tyddyn mawr, a feddai lea arno, yn ei alluogi yn ol grym .cyfraith i ofyn iawn. Ond wrth gwrs, ni wnai y ffermwr cefnog a'r Bhyddfrydig Mr. Gee mo hyny, tra yr oedd ei feistr tir, sy'n dlotach nag ef ac ystyr- ied ei sefyllfa mewn cymdeithas, yn rho'i y tir ei hun am ddim Ond arhoswch dipyn mae Mr. Gee wedi ysgrifenu i'r festri i ddweyd na ollynga mo'i afael yn y tir, er budd plwyfolion Dinbych yn gyffredinol, heb gael iawn am wneuthur hyny. Well done, Mr. Gee, am ddangos i bobl mai pethau tra gwahanol yw cydymdeimlo ar air & gorthrymed- igion, er mwyn gwerthu'r Faner, a chydymdeimlo &'i logell â'i gymydogion. ABERGELE. Drwg genyf i'r ficer gael ei adael allan yn ethol- iad gwarcheidwaid ond pa ryfedd ag ystyried y dylanwadau a weithient yn ei erbyn. Ond nid drwg genyf i brif wrthwynebydd y ficer hefyd gael ei adael yn yr un twll, ao yn is ynddo hefyd, oblegid efe oodd yr isaf ar y rhestr. Dywedir fod Huw yn lied boethwyllt pan welodd ei fod allan. CLERC YR HEDDWCH. Mae Mr. fr. T. Kelly, yr hwn sydd wedi gweinyddu fel deputy clerk of the peace am cbwarter canrif dros sir PBint, wedi cael ei apwyntio fel deiliad y swydd, ar ymddiswyddiad Mr. A. T. Roberts, yr hen glero. Tybir mai gweled Act Llywodraeth Leol wrth y drws oedd achos y cyfnewidiad sydyn yma, gan y bydd yr Act hono yn ymyraeth yn wahanol i'r Act bresenol a swyddion o'r fath yma. NANTLLYS. Yr oedd hi yn ddydd llawan chwedl yn ddiweddar yn mhlwyfydd Bodffari, Tremeirchion, &c., pan y dathlai y plwyfolion ddyfodiad Mr. David Pennant, mab hynaf yr adnabyddus Mr. P. P. Pennant, i'w oed. Y mae'r gwr ieuanc yn dwyn enw ei hynafiad aanabydaus a thalentog, Mr. David Pennant, yr hynafiaethwr, awdwr «• Tours in Wales," &c. ehuihyn. Fe gofir i rai 0 fiardials y dref hon yn ddiweddar, ar ddiwrnod ffair, gario dyn gwellt o Picer Llanfwrog drwy'r heolydd. Cododd hyny ddigofaint rhai 0 garedigion y Ficer, y rhai a wnaethant fyr orchwyl ar y bwbach. Yn eu plith yr oedd Isaac Jones, yr hwn a ddangosodd fawr wrhydri. Yn llys yr ynadon, yr wythnos ddiweddaf, cyhuddwyd Isaac 0 ymosod ar un o hyrwyddwyr y bwbach, sef Evan Tyddyn Galchog. Ond taflwyd yr achos allan, er fod gwr y bwbach yn cael ei amddiffyn gan neb llai pWysig na Mr. Alun Lloyd, cyfreithwr y bobl wrthodant dalu eu degwm. YSBEILIO Y TLQDION. Nid digon gan rai o blwyfolion Llanrhaiadr Dyffryn Clwyd ysbeilio yr offeiriad, ond myn rhai 0 honynt ysbeilioy tlodion hefyd. Yn ddiweddar torwyd i mewn i'r eglwys, a lladratawyd yr hyn oedd yn mlwch y tlodion. Mae dwy bunt o wobr am hysbysrwydd ynghylch y lladron wedi ei chynyg. GWRECSAM. Mae ystafell wedi ei hagor gan Canon Howell at wasanaeth gwyr ieuaino yr Eglwys, oyffelyb i'r un a agorwyd yn Ninbych, ac un arall yn y Wyddgrug, ychydig amser yn ol. RHYL. Yr wythnos hon cynhelir Genhadaeth Eglwysig yn y dref yma, a'r cenhadon ydynt y Parchn. G. Everard, Dover, a J. Sander, Lerpwl. Saesneg yw'r holl gyfarfodydd ond y mae son am gael C3nhad- aeth Gymraeg yn nechreu y gauaf nesaf. PRESTATYN. Ycbydig amser yn ol torodd Mr. Williams, yr ysgolfeistr, ei goes, ac aeth pethau o ddrwg i waeth fel ag y bu raid tori ymaith yr aalod. Da genyf ddeall fod y dioddefydd yn araf wella. Brodor yw Mr. Williams 0 Llanllechid. LLANGORWEN. Trwy weithgarwoh y Parch. W. Roberts mae'r Eglwys yn codi ei brig yn y plwyf bychan yma, lie yn ddiweddar y oynhaliwyd cenhadaeth Iwyddianus gan amryw o weinidogion y gymydogaeth. BRYMBO. Yr wythnos ddiweddaf sefydlwyd Cymdeithas Gwyr Ieuaino yr Eglwys yn y plwyf hwn, dan lyw- yddiaeth y Ficer. Ymunodd lliaws a hi, so nid oes amheuaeth na fydd y sefydliad yn un pur werthfawr yny plwyf. Yn y cyfarfod nesaf ymdrafodir a phwnc y Dadgysylltiad. Lloetwr.

PHIODAS EICER GLYNDYFRDWY?…

LLANGATTWG, CRUGHYWEL.

FFAITH GWERTH EI CHOFNODI.

Y LLADRAD 0 WAITH AUR GWYNFYNYDD.

ARDALYDD RIPON YN LLANELLI.

IECHYD YMERAWDWR GERMANI.

Y FRENHINES VICTORIA YN BERLIN

MAINDEE.

Boreu DDYDD Iau.

Y DIWEDDAR ARGLWYDD BEACONSFIELD.

GWELLIANT GAN MR. GLADSTONE-