Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
LLITH O'R bwihyn GWLEDIG.
LLITH O'R bwihyn GWLEDIG. Dywedai hen wr wrthyf yn ddiweddar ei fod ef 170di byw i weled tair goruchwyliaeth yn Nghymru. Bow yr un gyntaf oedd, Shon, a Shân, a Chawl;" ("Iw yr ail oedd," John, Jane, a Broth enw y drYdedd oedd, Syr, Madam, a Tbê." Y mae Hen Domos, di'r help, wedi byw yn ddigon hir i weled cYfnewidiadau mawrion, yn gymdeithasol, gwladol, lit ohrefyddol yn hen wlad y cenin. Di'r anwyl! aylia wahaniaeth oedd rhwng yr hen bregethwyr Synt a'r rhai presenol. Meistriaid eu cynulleidfa- oedd oeddynt hwy-dynion 0 ddoniau melus a kywydau tangnefeddus, y rhai a arweinient eu pra,idd yn haddychlawn tlWY y porfeydd gwelltog a. gerllaw'r dyfroedd tawel." Nid oedd son am lecsiwn gan y rhai hyn 0 Ionawr i lonawr. Cad- Went eu capeli yn gysegredig i waith yr Arglwydd, 8.c nid oedd yno un amser ond sain can a moliant 9ELti dyrfa yn cadw gwyl. Yr oedd Ymneillduaeth yo frigog fel y lawryf gwyrdd y pryd hwn. Ond daeth oes arall ar ol bon, ac agorwyd drws y deml 1 c prynwyr a'r gwerthwyr a'r cyfnewidwyr arian, ac y mae Ichabod yn ysgrifenedig ar y muriau mewn 118,Wer man. Nid wyf fi yn oredu fod Ymneillduaeth i gael oes hir yn Nghymru. Rhywbeth a godwyd i flmo yr Eglwys am ei phechod 0 ddifaterwch ydyw. ^hyw Amaleo yn yr anialwch i gadw pobl Dduw ar eu gwyliadwriaeth ydyw. Nid rhyfedd i foddion fel hyn gael eu defnyddio pan yr ystyriom gysgadrwydd ttwm yr hen fam oddeutu haner can' mlyneddjn ol. I)ruan a hi I Golwg wael oedd arni braidd ymhob Plwyf. Llwydaidd ac afiach oedd ei mburiau, a duet aflafar yr ofieiriad a'r clochydd oedd swn a sylwedd yr addoliad. Dyna Ile yr oeld y gwasan. a-eth gogoneddua sydd yn awr yn llawn bywyd a §Wres ymhob Eglwys, yn farw a dienaid o un pen blwyddyn i'r Hall t Dyfnder tylodi ysbrydol oedd YlI. nodweddu y pwlpud, a rhyw fynydd Gilboa tru. enUB oedd pob addoliad, heb arno na gwlith na gwlaw. Sais hunanol yn ceiaio crawoian Oymraeg, ac yn ami yn dyrysu yn anialwch ei bregeth gawdelog fenthyg I Nid rhyfedd i Amalec gyfodi, a chyn y eawn ni wared llwyr 0 hono, y mae yn rhaifd i ni ymestyn yn mhellach eto atberffeithrwydd. Yr ydym wedi gweithio yn rhagorol yn ystod y blyn- yddoedd diweddaf, ac wedi adnewyddu adeiladau yr hen Fam ymhob cyfeiriad. Nid yw yr adeiladu yebrydal chwaith ar ol. Swn cynydd mawr sydd vn d a° 7 mae arwyddion fod y « gwenyn ^yddiau Wrth y Canoedd hen gwoh y presenol. Y mae'dynion goreu ein gwlad Yn cael eu diflasu gan fwstwr politicaidd a gwrth- 1 Prege^bwyr, ac y maent yn troi am wch ao ymborth ysbrydol i'r Eglwys. Mae Hen Domos, di'r helpo, yn cofio am amser pryd yr oedd am y capel a'r Eglwys. Credai awer un gynt nad oedd bwyd enaid i'w gael yn yr EgJwys, ond yn yr Eglwys y mae i'w gael yn resenol, ac nid yn y capel. Y mae yr Ymneilldu- 6U ^una^n cjfaddef hyu. Yr oedd pob (( Wedl ddrwg ychydig amser yn ol ynghylch rhyw hen 'fieirad." Ond yn bresenol am rhyw hen hregethwr" yr adroddir chwedlau felly. Y mae Wnewidiad mawr wedi cymeryd lie, a diolch am dano. Ond y mae arnom eisiau llawer 0 ddiwygiadau er tn.\Vyn rhoddi ein holl nerth mewn gweithrediad. is gallaf fi ymatal rhag codi fy lief yn ddiarbed YA erbyn y gwastraff arianol sydd mewn cysylltiad 't1. Heglwysi Cadeiriol. Sylwer ar draul yr Eglwys 44deiriol yn Ty Ddewi. Y mae yno Ddeon, pedwar anon, a lliaws o Is-ganoniaid, yn derbyn cyflogau s-wrion am wasanaethu i ychydig 0 ddynion mewn Pentref distadl ymhen draw y byd Pwy mewn asnach fyddai mor ynfyd a defnyddio arian i ddim jJ'pas fel hyn ? Tra y mae lleoedd poblog fel ertawe, Llanelli, &c., yn cael eu cynorthwyo gan ^yoideithasau i dalu eu curadiaid, y mae canoedd 0 ^au yn flynyddol yn cael eu claddu yn Ty 0Wi! Y mae yn bechod gwastraffu yr OaTk ^n iheol 8Wm mewn talu rhyw X350 yr un i'r Canon- ^ob h"m fyDe3 1 lan y m6t 1 dreulio tri mis 0 wyliau gto Dyna, mewn gwirionedd, yw eu ^ith am y tal. Y mae genyf y parch llwyraf i'r y dWfC ^anon» ao nid eu i,eic? hwy ydwyf, ond beio ^atQg11' 6aUaf gredu llai nad yw Canon Wil- ^aith wr^ y^aadael a'i blwyf poblog un- deb ^wy^dyn yn teimlo i'r byw yr afresymol- fawr° Ddewi i wastraffu ei amser gwerth- A.j ^raul esgeuluso lie mwy pwysig lawer iawn. Uq y Deon a Canon Lewis yn ddigon mewn 110 ia r 0 an ? Ai nid dysgu diogi i ddynion y Ig.oa n yr Eglwys Gadeiriol? Danfoner Abertawe a Threforis, ao eled y aegyr -,1, 1 w °ynt>rthwyo yno yn lie bwyta bara ^ycnti ar aU m°r* Bydd Hen Domos a'i ffon yn yr aoil^refn hon hyd nes cael diwygiad. Nid oes y swyddi segur yw yr oes hon, "my reverend brethren," gellwch chwi fentro. Y mae yr arohddiaconiaid yn gwneyd rhyw ychydig o waith am eu tâI, a rhai o honynt yn gwneyd llawer. Bu'm i yr wvthnos ddiweddaf yn nghyfarfod ymweliadol yr Arohddiacon James, ac yr oedd yn ddyddorol dros ben. Da iawn oedd gweled gwahanol bersonau wedi cael eu penodi i ddarllen papyrau ar y pynoiau oeddynt i'w trin. Byddai yn ddoeth mabwysiadu yr un drefn yn y Gynhadledd Esgobaethol. Yn lie clywed yr un lleisiau flwyddyn ar ol blwyddyn yn darllen eu papyrau, a'r rhai hyny, fel rheol, 0 blith y bobl etholedig, rhodder mantais i'r aelodau gwledig a'r offeiriaid israddol i dd'od allan, a oheir yn fuan welliant yn mrwdfrydedd y gwaith. Rhaid gorphen y tro hwn. Mae'r fion yn poethi wrth ddyrnu. HEN Domos.
ESGOBAETfl LLANEIIWY.
ESGOBAETfl LLANEIIWY. Hwyrach y bydd yn dderbyniol gan y golygydd a'r darllenwyr gael gair yn fyr ynghylch gwahanol blwyfydd yn yr esgobaeth hon yn awr ac eilwaith ao os felly y bydd hi, yr wyf yn cyflwyno y lloffion canlynol fel yr ysgub gyntaf at eu gwasanaeth. HAEUOHI BHYDDPBTDWa Yn Ninbyoh mae llawer o drafodi wedi cymeryd lie yngtyn si darparu ychwaneg o le i gladdu y meirw. O'r%liwedd penderfynodd y mwyafrif o'r plwyfolion helaethu hen erw'r meirwon-mynwent yr Eglwys Wen. Yn haelionua rhoddodd Mr. Hughes, Kinmel, y perohenog, aoer a haner 0 dir i'r perwyl. Y tenant oedd y Parch. Thomas Gee, noddwr blaenllaw pob gorthrymedig I Yr oedd myned ag erw a haner o dir oddiar denant tyddyn mawr, a feddai lea arno, yn ei alluogi yn ol grym .cyfraith i ofyn iawn. Ond wrth gwrs, ni wnai y ffermwr cefnog a'r Bhyddfrydig Mr. Gee mo hyny, tra yr oedd ei feistr tir, sy'n dlotach nag ef ac ystyr- ied ei sefyllfa mewn cymdeithas, yn rho'i y tir ei hun am ddim Ond arhoswch dipyn mae Mr. Gee wedi ysgrifenu i'r festri i ddweyd na ollynga mo'i afael yn y tir, er budd plwyfolion Dinbych yn gyffredinol, heb gael iawn am wneuthur hyny. Well done, Mr. Gee, am ddangos i bobl mai pethau tra gwahanol yw cydymdeimlo ar air & gorthrymed- igion, er mwyn gwerthu'r Faner, a chydymdeimlo &'i logell â'i gymydogion. ABERGELE. Drwg genyf i'r ficer gael ei adael allan yn ethol- iad gwarcheidwaid ond pa ryfedd ag ystyried y dylanwadau a weithient yn ei erbyn. Ond nid drwg genyf i brif wrthwynebydd y ficer hefyd gael ei adael yn yr un twll, ao yn is ynddo hefyd, oblegid efe oodd yr isaf ar y rhestr. Dywedir fod Huw yn lied boethwyllt pan welodd ei fod allan. CLERC YR HEDDWCH. Mae Mr. fr. T. Kelly, yr hwn sydd wedi gweinyddu fel deputy clerk of the peace am cbwarter canrif dros sir PBint, wedi cael ei apwyntio fel deiliad y swydd, ar ymddiswyddiad Mr. A. T. Roberts, yr hen glero. Tybir mai gweled Act Llywodraeth Leol wrth y drws oedd achos y cyfnewidiad sydyn yma, gan y bydd yr Act hono yn ymyraeth yn wahanol i'r Act bresenol a swyddion o'r fath yma. NANTLLYS. Yr oedd hi yn ddydd llawan chwedl yn ddiweddar yn mhlwyfydd Bodffari, Tremeirchion, &c., pan y dathlai y plwyfolion ddyfodiad Mr. David Pennant, mab hynaf yr adnabyddus Mr. P. P. Pennant, i'w oed. Y mae'r gwr ieuanc yn dwyn enw ei hynafiad aanabydaus a thalentog, Mr. David Pennant, yr hynafiaethwr, awdwr «• Tours in Wales," &c. ehuihyn. Fe gofir i rai 0 fiardials y dref hon yn ddiweddar, ar ddiwrnod ffair, gario dyn gwellt o Picer Llanfwrog drwy'r heolydd. Cododd hyny ddigofaint rhai 0 garedigion y Ficer, y rhai a wnaethant fyr orchwyl ar y bwbach. Yn eu plith yr oedd Isaac Jones, yr hwn a ddangosodd fawr wrhydri. Yn llys yr ynadon, yr wythnos ddiweddaf, cyhuddwyd Isaac 0 ymosod ar un o hyrwyddwyr y bwbach, sef Evan Tyddyn Galchog. Ond taflwyd yr achos allan, er fod gwr y bwbach yn cael ei amddiffyn gan neb llai pWysig na Mr. Alun Lloyd, cyfreithwr y bobl wrthodant dalu eu degwm. YSBEILIO Y TLQDION. Nid digon gan rai o blwyfolion Llanrhaiadr Dyffryn Clwyd ysbeilio yr offeiriad, ond myn rhai 0 honynt ysbeilioy tlodion hefyd. Yn ddiweddar torwyd i mewn i'r eglwys, a lladratawyd yr hyn oedd yn mlwch y tlodion. Mae dwy bunt o wobr am hysbysrwydd ynghylch y lladron wedi ei chynyg. GWRECSAM. Mae ystafell wedi ei hagor gan Canon Howell at wasanaeth gwyr ieuaino yr Eglwys, oyffelyb i'r un a agorwyd yn Ninbych, ac un arall yn y Wyddgrug, ychydig amser yn ol. RHYL. Yr wythnos hon cynhelir Genhadaeth Eglwysig yn y dref yma, a'r cenhadon ydynt y Parchn. G. Everard, Dover, a J. Sander, Lerpwl. Saesneg yw'r holl gyfarfodydd ond y mae son am gael C3nhad- aeth Gymraeg yn nechreu y gauaf nesaf. PRESTATYN. Ycbydig amser yn ol torodd Mr. Williams, yr ysgolfeistr, ei goes, ac aeth pethau o ddrwg i waeth fel ag y bu raid tori ymaith yr aalod. Da genyf ddeall fod y dioddefydd yn araf wella. Brodor yw Mr. Williams 0 Llanllechid. LLANGORWEN. Trwy weithgarwoh y Parch. W. Roberts mae'r Eglwys yn codi ei brig yn y plwyf bychan yma, lie yn ddiweddar y oynhaliwyd cenhadaeth Iwyddianus gan amryw o weinidogion y gymydogaeth. BRYMBO. Yr wythnos ddiweddaf sefydlwyd Cymdeithas Gwyr Ieuaino yr Eglwys yn y plwyf hwn, dan lyw- yddiaeth y Ficer. Ymunodd lliaws a hi, so nid oes amheuaeth na fydd y sefydliad yn un pur werthfawr yny plwyf. Yn y cyfarfod nesaf ymdrafodir a phwnc y Dadgysylltiad. Lloetwr.
PHIODAS EICER GLYNDYFRDWY?…
PHIODAS EICER GLYNDYFRDWY? LLANGOLLEN. ARDDANGOSIADAU MAWREDDOG. Dydd Mercher, yr lleg cyfisol, yr ydoedd pentref prydferth a thawel Glyndyfrdwy yn ferw drwyddo am mai dyma y diwrnod yr ydoedd y Parch. D. Williams a Mrs. Williams yn dychwelyd adref o'u mis mfil," yr hwn a dreuliwyd ganddynt yn Llun- dain. Mor fuan ag y deallodd y plwyfolion fod Mr. Williams wedi do'd i'r penderfyniad mai nid da bod dyn ei hunan," a'i fod yn bwriadu myned i'r ys tAd briodasol, ffurfiwyd pwyllgor i ystyried y modd- fon mwyaf cymwys i ddathlu yr amgylchiad hapus. Cadeirydd y pwyllgor ydoedd Mr. Edward Jones, timber merchant, a gweithredoedd y Mri. Richard Roberts, Dee Cottage, a Thomas Jones, Ty Cerrig, fel ysgrifenydd a trysorydd. Penodwyd casglyddion, y rhai a fuont yn hynod ddiwyd gyda'u gwaith, ac erbyn yr amser penodedig yr ydoedd y swm anrhyd. eddus o X20 mewn Haw. Am ddau o'r gloch pryd- nawn y dydd uchod cyrhaoddodd y pilr ieuanc orsaf Glyndyfrdwy, lie yr ydoedd ugeiniau wedi ymgasglu ynghyd i'w derbyn. Chwifiai llumanau, canai y clychau, chwareuai y seindorf, a thaniai y magnel- au nes gwneyd ein pentref byohan yn fywiog iawn. Wrth yr Ysgoldy Genedlaethol yr ydoedd arch ardderchog wedi ei chyfodi, ac arni yr arwyddeiriau canlynol:—"Success to the bride and bridegroom," "Mewn undeb mae north," Hir oes i Mr. a Mrs. Williams," &c. Ffurfiwyd gorymdaith fawr yn yr orsaf, yr hon a flaenorid gan y pwyllgor a Seindorf Bres Glyndyfrdwy. Llusgwyd Mr. a Mrs. Williams mewn cerbyd gan ugain o ddynion ar hyd y pentref. Pan gyrhaeddwyd y Ficerdy diolchodd Mr. Wil- liams mewn modd teimladwy ar ran Mrs. Williams ag yntau am y caredigrwydd a'r teimladau da a ar- ddahgoswyd tuag atynt. Am 3.30, eisteddodd oddeutu 450 yn yr ysgoldai Cenedlaethol a Brytan- aidd i gyfranogi odea bara brith a barotowyd ar eu cyfer. Ar ol y tê, aethpwyd i faes cyfagos, lie y cafwyd cystadlu mewn cerdded, rhedeg, tynu mewn rhaffau, &c. Y starter ydoedd Mr. W. E. Roberts, yr hwn a wnaeth ei waith yn ganmoladwy. Yn yr hwyr cafwyd dawnsfa yn yr ysgolion Cenedlaethol, a chyfarchodd 4 neu 5 o'r beirdd y p&r priodasol gydag englynion pwrpasol. Diolchodd y Ficer un- waith eto i'r gwyddfodolion am y caredigrwydd a arddangoswyd tuag atynt, a dywedodd ei fod yn gobeithio yn fawr y byddai iddo ef a'i briod fod 0 les tymhorol ac ysbrydol i'r plwyf yn gyffredinol. Gwelsom amryw ddathliadau yn Glyndyfrdwy, ond erioed ni welsom gymaint 0 ddyddordeb yn cael ei gymeryd mewn unrhyw amgylchiad a'r un presenol. Yr ydoedd y llawenydd yn un cyffredinol-enwad- aeth a phlaid wedi eu hangofio yn gyfangwbl. Ym- neillduwyr zelog ydoedd yr ysgrifenydd a'r trysor- ydd, amryw o'r casglyddion, a'r rhan fwyaf o'r boneddigesau ydoedd yn cymeryd gofal o'r tê. Y mae hyn yn dangos fod Mr. Williams, er pan y mae yn Glyndyfrdwy, wedi enill lie amlwg yn nghalonau pob un o'i blwyfolion, a'i fod yn cael ei ystyried fel boneddwr caredig ac fel gweinidog cymwys ao ym- roddgar Credwn hefyd y bydd Mrs. Williams yn gynorthwy mawr iddo |gyda'i ddyledswyddau, gan ei bod yn Gymraes lan loew, ac yn ol pob ym- ddangosiad yn foneddiges ostyngedig a charedig. Hir oes a llwyddiant iddynt i wneuthur llawer o ddaioni ydyw dymuniad mwyaf diffuant eu hoi blwyfolion.
LLANGATTWG, CRUGHYWEL.
LLANGATTWG, CRUGHYWEL. Saif Eglwys Llangattwg, Crugbywel, yn un o'r dyffrynoedd prydferthaf yn Neheudir Cymru. Y mae golwg baradwysaidd ar y wlad oddiamgylch— natur yn ei gogoniant cynbenid a gwareiddiad heb gyffwrdd & hi ond i'w barddu. Rheithor y plwyf ydyw y Parch. T. J. Bowen, ac y mae yn adnabydd- us fel pregethwr gwir dda a gweitbiwr difefl. Fel canlyniad y mae yr Eglwys yn llewyrchus yny plwyf. Y mae llwyddiant yr Eglwys yn ymddibynu bob amser nid yn unig ar yr offeiriaid, ond hefyd ar y lleygwyr. Os oes lleygwyr gweithgar ao ymrodd- gar mewn unrhyw blwyf, y mae yr Eglwys yn blaguro ac yn blodeuo. Yn y gorphenol y mae Llangattwg wedi bod yn hynod ffortunus yn y cyf- eiriad hwn, oherwydd yma y trigai y boneddwr haelionus a duwiol hwnw, sef Mr. G. W. P. Miles. Bu Mr. Miles yn ei ddydd yu gyfaill trwyadl i'r Eg- lwys yn y lie, a chan ei fod yn gyfoethog ao yn hael- frydig gwnaeth lawer drosti o bryd i bryd. Tanys- grifiodd 111 o bunau tuag at adferiad Eglwys St. Cattwg, neu haner y draul, cymerodd ddyddordeb ymarferol yn helaethiad yr Ysgoldy Cenedlaethol, ao adeiladwyd ty i'r meistr drwy ei ymdrechion diflino. Naturiol felly fod y plwyfolion yn mynwesu teimlad- au cynes am goffadwriaeth un mor garedig a da. Dydd Gwener wythnos i'r diweddaf cafodd y teim- ladau hyn fynegiad mewn oyfarfod cyhoedduB a gynhaliwyd yn y pentref i osod careg sylfaen adeil- ad sydd i'w gyfodi yn y He i'w goffadwriaeth. Y bwriadydywadeiladu "Parish House." Amcenir i'r Ty Plwyf" hwn fod yn rhyw fath o ganol- bwynt i waith yr Eglwys mewn ystyrfoesol a chym. deithasol yn y plwyf. Ceir yma lyfrgell a reading- room, a chartrefle i'r cymdeithasau Eglwysig sydd wedi eu fiurfio yn y plwyf. Ar yr achlysur crybwyll- edig traddodwyd anerchiadau gan Syr Joseph Bailey, Mr. J. Doyle, Parchn. R. Vigors, ac E. Jones. Gosodwyd y gareg sylfaen yn ei lie gan Miss Savile, Llanwysg, chwaer-yn-nghyfraith y diweddar Mr. Miles. Cyn dechreu ar ei gorchwyl derbyniodd Miss Saville anrheg o lwyarn arian, yr hon a rodd- wyd iddi ar ran y plwyfolion gan Mr. Thomas Wat- kins. Ymneillduwr ydyw Mr. Watkins, ond y mae yn ddigon eang ei syniadau nid yn unig i addef fod yr Eglwys yn gwreyd daioni, ond i gydweithio a hi mewn mudiad tebyg i'r presenol. Deallwn fod Miss Saville wedi rhoddi darn o dir yn ddiweddar er hel- aethu y fynwent, ac am hyn derbyniodd ddiolchgar- woh y rheithor yn y cyfarfod dan sylw. Yr oedd y bnneddigion canlynol yn bresenol ar yr achlysur Parchn. A. Griffiths, Llanelli; W. H. Sinnett, Llan- gynidr; S. T. Phillips, Brynmawr; E. Jones, Golden Grove J. M. Jones, Llangattwg; W. Ll. Harries, Llangenny; J. Hughes, Cwmdu D. Lewis, Ebbw Vale J. H. W. Jones, Brynmawr J. Jones, Llanbedr; J. Howell, Abergavenny.
FFAITH GWERTH EI CHOFNODI.
FFAITH GWERTH EI CHOFNODI. Cynhaliwyd cenhadaeth blwyfol ychydig amser yn ol yn mhlwyf poblog Broughton Mills, ger Barrow- in Furness, gan y Parch. Hay Aitken. Yr oedd ben- dith amlwg yn dilyn gwaith y cenhadwr, ac ymun- odd lliaws a chrefydd fel canlyniad i ymdrechion Mr. Aitken. Ar ol y genhadaeth gwelwyd fod angen eglwys newydd yn y plwyf. Ond yr oedd yr an- hawsder arianol yn sefyll 0 flaen y plwyfolion, ac nid oedd modd symud oherwydd hyn. Yr wythnos ddi- weddaf, fodd bynag, agorwyd eglwys hardd yn y lie, gan fod yr anhawsder uohod wedi ei ddiddymu gan haelioni y Viscount Cross a boneddwr lleol o'r enw Mr. King. Ar eu traul bwy adeiladwyd eglwys, yr hon a gyflwynwyd ganddynt at waaanaeth y plwyf- olion. Hysbysir fod y Parch. F. J. Jayne, ficer Leeds, a diweddar brif-athraw coleg Llanbedr, wedi ei benodi yn ganon mygedol yn Eglwys Gadeiriol Caerefrog. Y mae y Parch. C. L. Feltoe, un o athrawon Coleg Dewi Sant, ar ymadael. Penodwyd y bonedd- wr parchedig yn brif-athraw y King's School, Caer, ychydig ddyddiau yn 01. Ail-agorwyd eglwys blwyfol Westbury, Salop, yr wythnos ddiweddaf, ar ol adferiad a gostiodd yn agos i £ 2, COO. Gosodwyd careg sylfaen Eglwys Gadeiriol Mel- bourne, Awstralia, yn y flwyddyn 1880. Oddiar yr amser hwnw y mae £ 70,GOO wedi eu gwario ar yr adeilad, ac y mae y pwyllgor yn gofyn yn bressnol am y Bwm yohwanegol 0 QSO,000 er mwyn cwblhau y gwaith. Deallwn fod X50,000 wedi eu tanygrifio tuag at y "Church House," Llundain. Nifer y tanysgrif- wyr ydyw 7,500. Y mae Dr. Stothard, ficer Maddarlay, yn 9 mlwydd oed. Apwyntiwyd ef y dydd o'r blaen yn gadeirydd y Bwrdd Ysgol yn y plwyf. Y mae y doctor yn dwyn ei waith fel ofieiriad y plwyf ymlaen heb gynorthwy curad, ac er ei fod ar drothwy ei ganfed flwyddyn, mae yn alluog hefyd i reoli y Bwrdd Ysgol!
Y LLADRAD 0 WAITH AUR GWYNFYNYDD.
Y LLADRAD 0 WAITH AUR GWYN- FYNYDD. Yn Ilys ynadon Penrhyndeudraeth hedd- yw cyhuddwyd William Richards, gynt arolygwr gwaith aur Gwynfynydd, o ladrata gwerth o P,250 i £ 400 o gefyg yn cynwys y mwn gwerthfawr. Wedi i Mr, Pritchard Morgan ac amryw eraill roddi eu tystiol- aethau, dedfrydwyd "y carcharor i sofyll ei brawf yn y frawdlys nesaf. Yr un dydd cymerodd Mr. Pritchard Morgan werth tair mil o bunau o aur pur i Lundain, yr hyn a wna gyfanswm o wyth mil o bunau er pan agorwyd y gwaith. Mae y rhagolygon am y dyfodol yn hynod addawol.
ARDALYDD RIPON YN LLANELLI.
ARDALYDD RIPON YN LLANELLI. Traddodwyd araith gan Ardalydd Eipon yn Llanelli heno, lie yr ydoedd wedi ei wahodd gan Radicaliaid y dref. Elid i mewn drwy docynau Is. a 6c., ond nid oedd y capel lie y cynhelid y cyfarfod yn haner llawn. Nos Iau traddodai araith yn Nghaerdydd.
IECHYD YMERAWDWR GERMANI.
IECHYD YMERAWDWR GERMANI. Oddiwrth y newyddion a dderbyniwyd boreu heddyw, da genym ddeall fod Ymer- awdwr Germani yn well nag ydoedd. a bod y dwymyn wedi lliniaru. Ymwelodd y Frenhines Victoria a'i Fawrhydi ddoe, a datganodd ei boddhad wrth ganfod cyf- newidiad er gwell yn iechyd ei mab-yn- nghyfraith.
Y FRENHINES VICTORIA YN BERLIN
Y FRENHINES VICTORIA YN BERLIN Bydd y Frenhines Victoria yn ymadael o Berlin am Loegr boreu yfory. Cynhaliwyd gwledd fawreddog er anrhydedd i'w Mawr- hydi heno yn y ddinas hono.
MAINDEE.
MAINDEE. Y mae eglwys-fudd St. loan, Maindee, ger Cas- newydd, wedi ei rhoddi i'r Parch, J. Swinnerton, curad. Tondu. Arglwydd Esgob Llandaf ydyw y noddwr, ac y mae y psnodiad wedi rhoddi cryn foddlonrwydd. Treuliodd Mr. Swinnerton rai blyn- yddau fel curad yn Mountain Ash a dan y Parch. J. H. Protheroa, ficer Aberystwyth. Oddiar 1885 cylch ei weinidogaeth ydoedd Tondu, ger Penybont- ar-Ogwy.
Boreu DDYDD Iau.
Boreu DDYDD Iau. CYHUDDIAD DIFRIFOL YN ERBYN TAD. Yn llys ynadon Bradford ddoe, dygw) d dyn o'r enw Holgate ymlaen ar y cyhuddiad o lofruddio ei ferch, 11 mlwydd oad, drwy ei gwenwyno. Tystiolaethwyd yn y llys fod y carcharor wedi Iladd ei ferch er m wyn sicrhau swm 0 arian, gan ei fod wedi yswirio ei bywyd beth amser yn.ol. Gohiriwvd v prawf.
Y DIWEDDAR ARGLWYDD BEACONSFIELD.
Y DIWEDDAR ARGLWYDD BEACONSFIELD. Mae mudiad ar droed yn Nghaerdydd i gyfodi cofadail drwy danysgrifiadau cv- hoeddus i'r diweddar Iarll Beaconfield, ac arddangosir cryn frwdfrydedd ynglyn a'r mater hwn gan edmygwyr y diweddar Iarll yn y dref a'r gymydogaeth.
GWELLIANT GAN MR. GLADSTONE-
goleuad mawr, Syr William Harcourt, ymfflam- yehu, ymranodd y Ty am 12.20- Dros welliant Mr. Gladstone 217 Yn erbyn 310 Mwyafrif yn erbyn 93 Cafodd y greatest financier of the age" gurfa haeddianol. Druan o'r hen Ddelw