Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

[No title]

,---YMGOM AP SHON A'R GOF.

News
Cite
Share

YMGOM AP SHON A'R GOF. Go.t.-Mae genyf ychydig 0 gwestiynau heno eto. Bu llawer o daeru yn yr efail aow yn ddiweddar ar bwno cyflogau'r Esgobion. Mynai rhai eu bod yn dorbyn llawer iawn o ddegwm gwahanol blwyfi, ac ardrethi tiroedd hefyd. Ap SHON.—Ar ba sail, tybed, yr oeddynt yn dweyd hyn yna ? Gof.—Ar sail y Faner am Mawrth yr 21ain, '88. Ap Shon.—Mae'r Faner yn gynefin bellach & gwneyd haeriadau dychymygol am yr Eglwys a'i gweinidogion. Nid yw Esgobion Cymru nac Esgob- ion Lloegr ychwaith yn derbyn dim degwm o gwbl, nac ardrethi tiroedd mewn ffordd o gyflog. Gof. WeI, o bl'e, ynte, y maent yn cael eu oyf- logau ? Ap Shon,-O law y dirprwywyr Eglwysig, ac nid o le arall. Oddeutu haner can' mlynedd yn ol gwnaed cyfraith yn darparparu fod y degymau a'r tiroedd ag oeddynt y pryd hyny yn meddiant yr esgobion i gael eu trosglwyddo i ddwylaw pwyllgor neillduol o'r enw Dirprwywyr Eglwysig. Darparwyd hefyd fod iddynt dalu o'r cyllid yma symiau neill- duol i'r Esgobicn fel cyflog. Gof.-Diolch yn fawr i chwi am yr eglurhad yma. Yr wyf yn gweled yn awr, pa fodd y daeth llawer o ddegymau, a llawer o ffermydd i ddwylaw y Dir- prwywyr Eglwysig—eu gwneyd drosodd gawsant o law'r esgobion iddynt hwy, fel trustees, ar amodau neillduol. Hwy oedd o hyny allan i dalu cyfiogau'r esgobion, ond beth am y gweddill ? Beth oeddynt i wneyd St hwnw ? Ap Shon.—Yr oeddynt i'w ddefnyddio er lies yr Eglwys, lie yr oedd galwad neillduol am hyny. Maent eisoes wedi gwaddoli miloedd o eglwysi newyddion-wedi ychwanegu at gyflog miloedd o ber soniaid yr hen blwyfi. Wedi adeiladu llawer iawn o dai i'r gwyr Eglwysig. Ac y maent wedi cynal ac yn oynal miloedd o guradiaid er's llawer blwyddyn bellach mewn plwyfi poblog. Gof.—Dywedai J. W., ar sail y Faner, fod cyflog Esgob Llanelwy yn fwy nag wyth mil o bunau yn y flwyddyn. Ap Shon.—Dywedaf finau nad oes dim gwir yn ei ddywediad. Rhyw bedair mil a dau gant yr un yw cyflogau esgobion Cymru, a llawer o esgobion Lloegr hefyd; ac nid yw hyny ond swm rhosymol, ac ystyried eu sefyllfa, eu gwaith, eu treuliadau, a'r oyfraniadau dibaid at bob aohos da. Gof.—Mae'r Faner, debygwn, yn dweyd hefyd fod esgobion Lloegr—neu rai o honynt, yn derbyn llawer o ddegwm o Gymru. Mae enwau y plwyfydd yn Sir Frycheiniog ar lawr ynddi, ynghyd a'r degymau a delir. Ap Shon.—Yr oedd rhai o honynt yn yr hen amser yn derbyn rhyw gymaint o ddegymau Cymru —ond nid ydynt yn derbyn dim o honynt yn awr. Y Dirprwywyr Eglwysig sydd yn eu derbyn er's llawer blwyddyn bellach, ao yn talu i'r esgobion eu cyflogau. Gof.-Wel, os nad yw Esgobion Lloegr yn derbyn degymau o Gymru, onid yw y Dirprwywyr Eglwysig yn cymeryd llawer o ddegwm, ac ardrethi llawar o ffetmydd yn y fargen, a'u defnyddio er lies yr Eglwys yn Lloegr. Ap Shon.-Derbyniadau y Dirprwywyr Eglwysig, yn ddegwm ac yn ardreth, yw oddeutu deng mil ar hugain o bunau yn y flwyddyn. Ond daliwoh sylw, maent yn rhoddi i Gymru o'r cyllid oyffredinol oddeutupedair mila thriugainyny flwyddyn. Cafodd yr Aelodau Seneddol o Gymru glywed hefyd, a gweled hyny hefyd mewn adroddiad swyddogol o eiddo y Llywodraeth y flwyddyn ddiweddaf. Yr oeddynt hwy, fel y Faner, yn Ued feddwl fod y Dir- prwywyr Eglwysig yn cymeryd llawer o ddegymau o Gymru, ao yn dychwelyd ond ychydig' 0 honynt yn ol; ond cawsant eu siomi yn ddirfawr. Dywedwch wrth J. W. beth a glywsoch heno. Nos dawoh. Brysiwch yma eto.

fIGION O'R ¥ASG GYMREIG.

SOCIALISTIAETIR.

NODIADAU O'R DEHEUBARTH

DEONIAETH ARDUDWf. jt — ^li'