Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
YSTRADYFODWG.
YSTRADYFODWG. ETHOLIAD AELOD AR Y BWRDD YSGOL.—Yr oedd y 5ed clydd o'r mis hwn yn cael edrych ariio yn ddydd o bwys neillduol ar xagor nag un ystyr yn y plwyf poblogaidd hwn. Yr oedd dau ymgeisydd ar y maes, y rhai oedd yn groes i'w giiydd 0 ran eu daliadau crefyddol ac i raddau o ran eu barnau politicaidd. Ond er mawr syn- dod dygwyd yr etholiad ymlaen heb yngan gair am na chrefydd na pholitics; ie, ni soniwyd hyd yn nod am y dadgysylltiad. Yr ymgeiswyr oeddynt Mr. E. H. Davies (Rhyddfrydwr ac Yinneillduwr), yr hwn oedd yn aelod blaenorol o'r bwrdd, ond fod olwyn amser yn ei ddiswyddo; a Mr. E. W. Lewis, Rhondda Rise (Ceidwadwr-Rhyddfrydol, o'r un stamp a Mr. Llewelyn, Penllergaer, ac hefyd Eglwyswr a warden yr Eglwys). Trddd y fantol yn drwm o du yr Eglwyswr. Salens fel hyn :—Mr. E. W. Lewis (Eglwyswr), 1,620; Mr. E. H. Davies (Ymneillduwr), 748 mwyafrif i'r Eglwyswr, 878. Yn awr, Mr. Gol., mor wir a ood earn ar ben yr Wyddfa a dwfr yn Ban Bryste, y mae barn a phwyll wedi Ihagfiaenu zel a rhagfarn yn Nghwm Rhondda. Y mae y cynhyrfwyr etholiadol wedi colli eu gwynt wrth chwythu hen udgyrn aflafar Radicaliaeth. Y mae y bobl wedi dyfod i'w hiawn bwyll, gan ddawis y dyn cymhwysaf i'r swydd, yr hyn sydd yn cael ei esgenluso yn fynych mewn etholiadau cynhyrfus. Y mae Mr. E. H. Davies yn ddyn caredig a gwyneb-lawen, ac yn barchus iawn gan bawb. Felly Mr. Lewis, y maeyntau yn foneddwr cymwynasgar ymhob ystyr o'r gair, ond fel dyn profiadol rhaid cyfaddef fod Mr. Lewis, yr hwn sydd yn dirfesurydd, yn deall ei waith yn well yn ol barn mwyafrif o'r plwyfolion. Y mae yn ddiamhen genyf fod canoedd 0 Ymneilldnwyr yn y dyffryn hwn yn edrych yn y dyddiau terfysglyd hyn ar ddyn ag sydd yn Eglwyswr ac yn Geidwadwr Rhyddfrydol yn yr un modd ag oedd Dr. Hellier, gweinidog parchus gyda'r Bedyddwyr yn Exeter, yn edrych ar Dy yr Arg- lwyddi pan oedd yn areithio yn Sonthmolton tua dwy flynedd yn ol. Llefarodd y Dr. parchus y geiriau can- lynol: I!he constitution of Great Britain had a religious character. If they would be safe, they must be cautious; and, thank God, they had a House of Lords to put the drag on the Radical coach".—C. ap Brutus.
LLANDDAROG.
LLANDDAROG. Yn ddiweddar ail-etholwvd Mr. Robert Bodycomb, Glanyrynys, a Mr. Thomas Lewis, Maesdulais, yn war- deniaid eglwys y plwyf. Penodwyd y rhai canlynol yn sidesmen:-Dr. Lloyd, Vale Villa; Mr. D. Gabe, Ys- goldy; Mr. James Davies, Blaenau; Mr. Joseph Harries, Cwmisgwyn; Mr. Thomas Jeremy, Cilyrynys; Mr. Thomas Thomas, Tawelan Mr. D. Harries, Rose Villa; a Mr. Thomas Hughes, Ty lsaf. Dyna ddigon 0 fyddin i ddal i fyny yr achos Eglwysig yn Llanddar- og, ac y maent yn sicr o wneyd eu gwaith. GWARCHEIDWAD Y TLODION.—Etholwyd_ Mr. John Davies, Pantllan, yn ddiwrthwynebiad eleni. Eglwys- wr yw Mr. Davies, ac y mae wedi dal y swydd a'i gwas- anaethu yn anrhydeddus am flynyddau.
LLANGOLLEN.
LLANGOLLEN. Yn llys ynadon y lie hwn, ddydd Llun, cyhuddwyd John Mound, perchenog y Three Tuns Inn, Caerlleon, o geisio llofruddio gwyliwr atonydd o'r enw Thomas Lewis, trwy ei saethn y dydd lau blaenorol. Ym- ddangosai Mr. Aiun Lloyd ar ran Lewis, ac amddiffyn- id gan Mr. Churton, Caer. Holwyd amryw dystion er profi yr ymosodiad. Mewn ainddiffyniad, dywedid fod LewiB wedi treisio merch y carcharor pan yr oedd yn aros yn y cymydogaethau hyn, ac mai amcan y carch- aror yn gollwng yr ergyd ydoedd dychrynu yr erlynydd. Ar ddiwedd yr achos ymneillduodd yr ynadon i ystyr- ied eu dedfryd, ond dycliwelasant i'r llys yn union- gyrchol, gan wneyd j n hysbys eu dyfarniad 0 blaid y carcharor. Derbyniwyd y ddedfryd gyda chymerad- wyaeth gan y rhai oedd yn y llys.
ABERHONDDU.
ABERHONDDU. Mae'r gwahanol bwyllgorau ynglyn a'r Eisteddfod Genedlaethol am 1889 yn gweithio yn brysur i gael pethau mewn trefn fel ag y gallont gyhoeddi rhestr o'r testynau cyn bo hir. Y mae pob argoel y cawn eistedd- fod lwyddianus, gan na fydd prinder arian yn ol pob tebygolrwydd, sef y sinews of war. Agorwyd Mission Room yn yr Avenue Road ddydd Ian, y 12fed cyfisol. Pregethwyd yn y fcoreu gan y Parch. D. Griffith, Llanfihangel Talyllyn; ac yn yr hwyr gan y Parch. Watcyn Morgan, Treforis, y ddau yn gyn-guradiaid y plwyf. Daeth torfeydd ynghyd. Mae'r Eglwys ar gynydd yn y dref hon, ac yn wir yn yr ardal yn gyffredinol. CONFFIRMASIWN.—Ymwelodd Arglwydd Esgob Ty Ddewi a'r dref hon ddydd Mercher, yr lleg cyfisol, pan ddaeth 102 ymlaen i gael eu conffirmio yn Eglwys y Priordy. Yr oedd llawer 0 honynt mewn oedran, fel y sylwodd ei arglwyddiaeth, yr hyn oedd yn brawf fod y drefn apoatohg yn cael ei pharchu a'i gwerthfawrogi yn fwy yn y blynyddoedd presenol magynyramsera aeth heibio. Wele eto brawf fod yr Eglwys yn cynyddu vn feunyddiol. Daeth ymgeiswyr o'r plwyfi canlynol heblaw Eglwyai y drefLlanfyaach, Llandifaelog Fach Garthbrengy, Llanfihangel Talyllyn, Llansant- ffraid, Llanvilo, Llandifalley, &c, Yr un prydnawn conffirmiwyd amryw yn Eglwys Penybont.
GWRECSAM.
GWRECSAM. Nos WeneT diweddaf traddododd Mr. Helm anerch- iad rhagorol ar y "Sefydliad: pa beth ydyw?" yn Ysgol Tenters. Nid oes dichon rhoddi gormod 0 gan- moliaeth iddo am ei araith ardderchog. Agorodd jygaid amryw ax y pwnc hwn, ac aeth pawb, yn ddi- ameu, allan o'r lie gan deimlo eu bod yn rhwym i am- ddiffyn a charu yn iawr hen Eglwys eu tadau. Y PHILHARMONIC SOCIETY. Cynhaliwyd cyngerdd xmcrltn a'r gymdeithas uchod ddydd Llun cyny diwedd- Ir Y dernyn ydoedd "The Woman of Samaria" (Bennett), a'r Opera "Lovely" (Mendelssohn). Yr oedd dros ugain yn yr orchestra, a thua 200 yn y c6r. Y Parch. 0. Hylton Stewart, pnf-gantor Eglwys Gadeiriol Caer, yw arweinydd y cor hwn, ac adlewyrch- ai y perfformiad glod mawr iddo.
PENTREFOELAS.
PENTREFOELAS. Traddodwyd darlith, gyda magic lanlern, yn yagoldy lie hwn nos Wener diweddaf gan y Parch. T. Lloyd Williams, oynrychiolydd y S.P.G. Daeth tyrfa liosog pgbycl, a rhoddodd y darlithydd foddlonrwydd mawr i'r gwrandawyr. Swm y casgliad ar ddiwedd y cyfar- fod oedd fl 1211. 6c. Llywyddwyd gan y ficer.
TRECASTELL.
TRECASTELL. DARLITH AR "YB HEN EGLWYS BBYDEXNIG GAN AroNWYSON.—Traddodwyd y ddarlith uchod yn yr Ysgoldy Genedlaethol, nos Fercher diweddaf i gynnll- eidfa rhagorol, yn gynwysedig 0 Xmneilldnwyr yn gystal ag Eglwyswyr, pa rai a amiygaaant ddyddordeb neillduol yn y pwnc tra y bu y darlithydd ar ei draed. Yr oedd yn amlwg i bawb ag oedd yn bresenol fod y darlithydd wedi rhoddi boddlonrwydd mawr i bawb yn aaiwahaniaeth. Cymerwyd y gadair gan Mr. Jones, y ficer. Canwyd hefyd y "Church Defence Hymn' ar y diwedd yn rhagorol, Afonwyson yn canu y penill iÐvntaf ac yn arwain.
HIRWAUN.
HIRWAUN. Nos Lun, Ebrill y 9fed, cynhaliwyd cyfarfod ad- loniadol yn ystafell ddarllen y lie uchod, pryd yr awd trwy y rhaglen a ganlyn:-Dadl, Mri. A. a W. Nicholas; cad,' True till death,' Mr. Ivor Davies; can, The little chorister,' Mr. W. Edmunds; darllen, Miss Aubrey; can, Miss Mary Hopkins, Locomotiye Inn; deuawd, Mri. Edmunds ac A. Davies; darllen, Mrs. Le^is; deuawd, Mri. Edmunds a John Davies; ad- roddiad, Miss Harriet Lewis unawd ar y crwth, Miss Kirkhouse; deuawd, What are the wild waves saying,' y Parch. Morgan Powell a Miss Aubrey; can, The blind orphan girl,' Mr. R. Counp can,' Cwymp Llewelyn,' y Parch. M. Powell; can, Mr. Ivor Davies; dadl, Mri. John Edmunds ac A. W. Gambling; can, Miss Hopkins, Locomotive Inn; can ddigrifol, Mr. Ivor Davies. Yr oedd yr elw o'r uchod yn myned at drysorfa addiladu ystafell genhadol yn y plwyf hwn. Yr oedd cynulleidfa fawr wedi ymgynull ynghyd, a llanwyd y gadair yn fedrus gan y Parch. Morgan Powell, B.A. Canwyd ar y diwedd, Duw gadwo'r Frenhines,' 0 dan arweiniad Mr. W. Edmunds.
GARN, DOLBENMAEN.
GARN, DOLBENMAEN. CYFARFOD DIRWESTOL.—Cynhaliwyd y cyfarfod uchod yn ysgoldy y bwrdd dan nawdd y gangen leol o'r Gym- deithas Eglwysig ddirwestol. Dechreuwyd y cyfarfod am 7 o'r gloch trwy i'n parchus Reithor wneyd sylw- adau rhagarweiniol pwrpasol i'r amgylchiad. Y Parch. E. Hughes, Abermaw, oedd y darlithydd, ac yr oedd disgwyliad pryderus yn yr ardal am glywed Mr. Hughes, am fod natur ac arddull y ddarlith yn beth newydd a dieithr i'r ardal, ac felly yn dwyn dyddordeb cyffredinol. Nid ydwyf am draethu unrhyw farn parthed y ddarlith, am fy mod, gyda eioh caniatad Mr. Gol., am roi brae-nodiant o'r cyfryw. Sylwodd i ddechreu fod dirwest wedi cyraedd safle anrhydeddus meddyliau goreu ein gwlad, ac i brofi hyndyfynodd sylw o eiddo Dr. Acland. Yna edrychodd ar ddirwest yn yr agweddau canlynol :-(1) Cynildeb gwleidyddol, (2) Bywyd yn ei ddadblygiad naturiol, a'r diodydd meddwol yn rhwystrau, (3) Athronyddol—y meddwl. Dywedodd y gellir rhanu y meddwl i dair rhan (a) I wybod, (b) i ewyllysio, (c) i deimlo. A sylwodd mai ofer yw ceisio buddugoliaeth ar ddim heb i'r ewyllys gael ei dwyn i ufudd-dod perffaith i'r ewyllys ddwyfol a nefol. (4) Crefyddol—y diodydd meddwol yn rhwystr i ffrydiau iachusol goleuni a chariad i ddisgyn 0 fynwes Duw i enaid dyn. (5) Gwyddonol—rhaid deall beth yw iecbyd. Yna, wedi ychydig eirian detholedig, aeth ymlaen i sylwi ar ddefnydd alcohol i ad-drefniad y nwyau n H x H-20 2 o bwys yn y gwaed bl. Br. 3. A. n. Effeithiau anianyddol. Gwelir hyn yn nghysylltiad a'r gwaed; gwaed yn gynyrch cymysg. Gwaith mym- rynau (albrimea) a'r gwaed (1) i gludo maeth i'r meinweau, (2) cyfleu adnoddau i weithrediad y mein- weau, (3) cludo cynyrch gwisgiad, (4) dosranu y eylwedd i'w gwahanol leoedd neu beirianau. Fibrin yn cael ei ddadblygn i fferu gwaed. Brasder-(a) perygl, (b) dirywiad, &c. Effaith cyffredinol y ddiod, crebychu, cryohu y glus-groen. III. A ydyw yn fwyd? Ni cbyfrana fel cnawd-ffurfiwr, ni chynyrcha wres. Yna, wedi (sylwadau dyddorol ar y mater, gwnaed y sylwadan canlynol ar y gwaed:-(I) Effaith gwaed yn y cyflwr dirywiedig yma ac o dan y dylan- wadau niweidiol hyn ar wahanol ranau o'r corff ag y mae y gwaed yn dod i gysylltiad â hwynt. (2) Ar- brawfipn fferyllol er egluro yn fwy ymarferol yr effeithiau. Felly er egiurdod rhaid dangos rhai o'r arbrawfion yn bresenol, rhyw ddwy neu dair o honynt fel o'r blaen, y gweddill yn wahanol. (1) Mae yna bump 0 wahanol ffurfiau ymha rai y mae y weithrediad fferyllol yn amlygu ei hun, sef (1) cynyrchu y gweledig trwy ymuniad elfenau dan sylwedd anweledig, (2) dad- elfeniad, (3) cyfnewidiad rhwng yr elfenau, (4) symud iad elfen allan, ac un arall yn cymeiyd ei lie, (5) ail- drefniad yr elfenau. Yr ydym yn derbyn yr egwydd- orion rhag-ddywededig fel wedi eu sefydlu trwy ar- brawf digamsyniol, a'u cymhwy^o at alcohol. Beth ydyw alcohol? Cynyrch celfyddydol (artificial pro duction.) Haidd gr. sugar. Alcohol; 2, viz., pro sugar x i P. H2 Ox i oz. yeast. Ex 6-ehedol a llosgadwy- whisci. Ex 7-atdyniad dwfr a nwyau NH 3x H20. Ex 9, gwaelodi a dirywio y glusgroen, Ex 10, toddi sylweddan- camphor, &c. Ex 11, ei ddefnydd dad- ansoddol (Ltr. Na. 12). Ond o'i holl briodoleddau nid oes yr un mor ddifrifol na'r atdyniad alcoholaidd at sylwedd hanfodol i fywyd. (1) I buro'r gwaed, (2) i glirio'r meddwl, (3) i adfywhau gweithrediadau corff- orol, (4) i gryfhau penderfynolrwydd, (5) i wneyd y nerves yn gyfiawn i'w gwaith, (6) i roi lliw iaohus ar y gwynebpryd, (7) i gadw y corff yn ei hoenusrwydd uchaf, (8) i beri i bob cymal gyflawni ei swydd neill- duol, (9) i greu awydd yn ei fesur priodol heb iddo ddirywio i chwant, (10) yn rhoi awyr iach i gadw y corff yn iach. Mae alcohol fel pob un o'r gwenwynau yn y dosbarth y perthyn iddo yn hynod dueddol i ddylanwadu ar y gewynau mewn dwy ffordd 1, Gwyrdroi gweith- rediad gewynau 2, gwyrdroi maethloniad y gewynan. Mae alcohol yn foddion i gadw yn y gwaed sylweddau fel i'w wneyd yn fagwrfa doreithiog i bob clefyd ac afiechyd. Ma'r alcohol hefyd yn dylanwadu ar y mein- weau yn llidiog ac annaturiol, a'r canlyniadau 0 hyn ydynt (a) gwallt dreuliad, (b) sychiant y gwaed, (c) cochni llidiog, (d) ysmotiau cornwydlyd. Nid dychymyg yw hynyna, ond peth sydd wedi ei sylwi arno gyda llygaid agored. Yr oedd yna achos yn" ddiweddar. Anafwyd T. Martin, milwr, yn ei ochr gadag archoll dwy fodfedd a haner mewn cylch. Gwellhaodd y dolur a chadwyd y bwyd yn y stumog trwy gynorthwy com- press. Am 8 ml. gwnaeth Dr. Beaumont arbrawfion. Yn ddieithriad fod y cornwydydd cochion fwy neu lai yn llidiog. Aeth Martin ymlaen i yfed am wyth mlynedd heb deimlo dim yn groes i iechyd da. Ymhen dwy flynedd wedi hyn aeth pobpeth yn waeth. Yr oedd y drwg yn crynhoi ac yn enill tir heb i'r dyn wybod, ac ni ddaeth i wybod hyd nes oedd ei achos yn anobeithiol. Y prawf nesaf ydyw, arholiad meddygol wedi marwol- aeth (post mortem examination.) Dangosodd amryw chart, 1, lliw naturiol ar amwisg y cylla pan mae dyn yn iach a sobr yw melyngoch, a'r llestri gwaed yn anweledig; 2, cyflwr y cymedrolwr-y rhwydwaith prydferth yn lledu ao yn Ilenwi yn weledig i'r llygaid 3, cylla y meddwyn parhaus, yr amwisg fewnol yn dangos y llestri gwaed; 4, bron yn anmhosibl i ddiwygio cyflwr cornwydlyd cylla y meddwyn; 5, y cylla yn gancerog. Wedi sylwi yn y ffordd lafurfawr yna ar y cylla, aeth ymlaen i ddangos fod yr afu a'r kidneys yn cael eu cwbl fwyta gan gancer oherwydd y ddiod feddwol. Gwnaeth ddyfyniadau oddiwrth Drs. Percy a Richardson. Er difyrwoh mawr i'r gynulleidfa rhoddodd ddyfyniadan 0 lyfr cyfrinachol darllawyr i ddangos beth oedd yn gymysgedig mewn gwahanol wir- odydd meddwol. Dywedodd ar y diwedd wrth y gyn- ulleidfa am fod yn unol mewn gair ae mewn trefn, ac i wneyd dirwest yn beth bywydol ac achubol. A chyfeir- iodd at y ffaith mai'r unig ffordd i wneyd hyny yw trwy gyfrwng nerth a dylanwad yr Ysbryd Glan ar fuchedd nett, yn hytrach, ar ewyllys, yr hon sydd yn llywio bywyd dyn yn y byd. Cymhellodd ei wrandawyr i dd'oa yn ddirwestwyr er mwyn anrhydedd eu disgyn- yddion, er mwyn dyfodol y deyrnas, ac er mwyn urddas crefydd. Terfynodd hyn ddarlith a barhaodd am ddwy awr a haner, yr hon oedd y fwyaf addysgiadol a dylan- wadol ag y cefais y pleser erioed i wrando. Yr wyf yn sicr fod pawb oedd yn bresenol yn ddiolchgari'r seindorf bres am eu parodrwydd i gynorthwyo. Chwareusant amryw ddarnau gyda gallu cerdeorol nid bychan. Wedi diolch i Mr. Hughes, ym wahanwyd.—Qohebydd. (
CAPEL ISAF (BRYCHEINIOG).
CAPEL ISAF (BRYCHEINIOG). AMDDIFFYNIAD YB EGLWYS.-Nos Fawrth, y lOfed cyfisol, traddodwyd darlith yn yr Ysgoldy gan Mr. W. Richard (Afonwyson) ar yr Eglwys Brydeinig." Dechreuwyd y cyfarfod gyda chann emyn 215 (A. & M.) a gweddio gan y Ficer, y Parch. W. Howell. Cadeir- iwyd gan Mr. H. Penry Powel, Castell Madog, yr hwn a wnaeth sylwadau pwrpasol i'r achlysur. Yr oedd yn dda genym weled yr yswain ieuanc, yn absenoldeb ei dad, yn llenwi y swydd mor foddhaol, ac yn cymeryd dyddordeb mewn pethau Eglwysig, Yna cawsom araith hynod dda ac addysgiadol gan Mr. Richards. Dangos- odd mewn modd eglur pa fodd y sefydlwyd yr Eglwys yn Nghymru yn y gaurif gyntaf, a'i bodolaeth yn y wlad hon o'r oesoedd borenaf hyd yn bresenol, ac felly nid sefydliad newydd oedd yr Eglwys, nac Eglwys es- tronol oedd hi, fel yr hona ein gwrthwynebwyr; ond un yn mhob oes, ac yn dal yr un credoau a'r Eglwys Apoatolig. Mewn gair, cawsom ein boddhau yn fawr yn y ddarlith, Er fod y ffermwyr yn brysur y tymor presenol ar ol y gauaf hir, a'u gwaith ar ol, eto daeth Iliaws ynghyd nes yr oedd yr ystafell yn llawn o wran- dawyr astud. Terfynwyd gyda'r diolchiadau arferol, a chanu yr hen emyn,' Dan dy fendith,' gyda hwyl anar- ferol.
LLANGELER, CAERFYRDDIN.
LLANGELER, CAERFYRDDIN. ETHOLIAD GWAECHEIDWAID.—Yr oedd copa pob bryn yn y plwyf uchod wedi ei goroni gyda than nerthol nos Fawrth di weddaf, a swn ergydion i'w clywed o wahanol gyfeiriadau hyd yn hwyr, yr hyn oedd arddangosfa o'r balchder a roddai darlieniad canlyniad yr etholiad i'r plwyfolion. Saif fel y canlyn:—Mr. Jones. Rhydy- benau (C.), 311; Mr. Thomas, Penwern (C.), 300; Mr. Lewis, Meiros Hall (R ), 116. Ni chyrhaeddodd mwy- afrif y llynedd yn uwch na rhyw 50.
YSTRADGYNLAIS.
YSTRADGYNLAIS. Traddodwyd darlith yn Ysgoldy Eglwysig y lie uchod nos Iau diweddaf, gan Mr. Richards (Afon- wyson), ar Yr Eglwys yn Nghymru." Yr oedd yr adeilad newydd ac eang wedi ei lenwi 0 bob gradd ac enwad, ac ymddygodd pawb yn deilwng 0 ddynion fyddo yn awyddus am wybodaeth. Yr oedd desgrifiad y darlithydd 0 ddyfodiad Cristionogaeth i'r ynys yn ddyddorol ac adeiladol iawn. Dygai awdurdodau i brofi ei bwnc ymhob cyfeiriad, a'r awdurdodau hyny yn benaf 0 blith Ymneiilduwyr. Yr oedd yn amlwg i bob dyn llygadgraff fod y gynnlleidfa liosog yn cael boddhad ac adeiladaeth mawr tra yr oedd Mr. Richards yn bwrw allan ei facts and figures, neu fel y dy wed ef ei hun, penod ac adnod ar bob mater, a hyny gyda hyawdledd a rhwyddineb anarferol am yn agos i awr a thri-chwarter. Diau genym y bydd pobl Ystrad- gynlais yn teimlo mwy o barch a chynesrwydd at ein hen Eglwys nr ol y ddarlith hon, ac yr ydym yn gobeithio hefyd yr un fel k Dr. Thomas, y bydd i Afon- wyson dalu ymweliad buan a'r ardal eto. Bwriedir iddo draddodi darlith ar "Esgob Morgan a'r Beibl Cymraeg yn Abercrave heb fod yn hir. Cymerwyd y gadair gan Dr. Brenthall, Glantwrch (yn absenoldeb Dr. Thomas), ond da oedd genym weled y Dr. yn dyfod i mewn cyn dibenu y ddarlith. Ar gvnygiad y Rheithor ac eiliad y Dr., talwyd diolchgarwch brwd- frydol i'r darlithydd, ac erfyn arno i dalu ymweliad a'r lie eto, ac heb fod yn hir.
FFESTINIOG.
FFESTINIOG. Pregethai gweinidog o Dowlais mewn capel Annibynol yn yr ardal ddydd Llun y Pasg, a chan ei bod yn sych iawn arno gwaeddai yn hynod ddylanwadol nes cael Amen gan weinidog Tanygrisiau am gydraddoldeb' crefyddol. Yr unig beth cioes i gydraddoldeb yn Ffestiniog ydyw fod yr Hen Gorph am droi bob dwfr i'w felin ei hun. Y mae Caethfrydwyr yn y chwareli yma yn ddig ofnadwy oherwydd bod cyfarfod Arglwydd Salisbury yn Caernarfon mor lwyddianus, ac yn enwedig am ei fod wedi llefaru ychydig 0 eirian caredig am yr Eglwys Llys yr Ynadon ddydd Iau diweddaf sydd yn ngenau pawb bron trwy'r ardal. Dirwywyd hogyn i 10s. a'r costau am roddi cic creulon i hogyn oedd wedi ei gyd- fagu ag ef. Ow fod neb yn colli arno ei hun gymaint, a dylai y llall gofio fod y cytundeb salai yn well na'r gyfraith oreu." Ond gwaeth fyth-Robert Jones, relieving officer y plwyf, a Blaenor Methodist y Llan, yn cael ei ddirwyo i £ 2 a'r costau am ddwyn aur o'r gwaith yn Trawsfynydd. Digon drwg i'r hogyn gamymddwyn yn ei wylltineb. UN 0 FLAENORIAID Y GWRTHDDEGYMWYR.—Yn ddi- weddar aeth Lewis Roberts, Cynfal Faoh, i'r America. Cyn myned ymffrostiai na thalai efe mo'i ddegwm am y flwyddyn flaenorol; ond ei fod ef wedi talu ei holl ddyledion eraill. Ow! ow! Haws dweyd na gwneyd. Gan y deuai y degwm ar ei olynydd, nacaodd hwnw a gadael iddo ddianc, eithr tynodd y degwm allan o'i ddyled wrth setlo ag ef. Dywedir hefyd nad ydyw wedi talu am ysgol ei blant yn Tynant, na chwaith glirio'r siop yn Gellilydan. Dyna onestrwydd y gwrthddegym- wyrt
LLEZN A'R AMGYLCHOEDD.
LLEZN A'R AMGYLCHOEDD. Y newydd cyntaf sydd yn dyfod i'n clustiau y dydd heddyw ydyw fod y Parch. Thomas Hardy Richards, rheithor y Rhiw, gerllaw Pwllheli, wedi marw, ar ol cystudd maith. Penodwyd ef yn rheithor y plwyf uchod yn y flwyddyn 1869, yr hyn sydd yn dangos ei fod wedi gwasanaethu yn ein plith yn y plyvyf hwn am bedair-blynedd-ar-bymtheg. Nid ydym eto yn gwybod yn iawn oa bryd y bydd y claddedigaeth yn cymeryd He. No'ddwr y fywoliaeth ydyw Arglwydd Esgob Bangor, a'i gwerth ydyw oddeutu £ 122 yn gyflawn, ynghyd a saith erw 0 dir, a tbJ-y boblogaeth sydd tua thri cant a deugain (340) ac y mae llawer yn barnn y bydd Llanfaelrys yn cael ei rhoddi yn y dyfodol gyda Rhiw. CYMDBITHAS LENYDDOL YR EGLWys.-Cafwyd cyfarfod clerigol yn ddiweddar yn Edern, pan y dygwyd y pwnc uchod dan sylw, ac y aatganwyd yn unfrydol fod yr offeiriaid am roddi pob cynorthwy i ddwyn y gym- deithas hon ymlaen, ac nid ydym yn bresenol ddim ond yn aros am gynorthwy y gwyr lien, y rhai ydynt o un galon yn barod i weithio. CYFARFOD MAWR Y CEIDWADWYR YN CAERNARFON.—Yr ydym yn barod yn teimlo lies y cyfarfod uchod yn Lleyn, ac y mae yn ddiamen y bydd canoedd yma eto yn rhestrn 0 dan y faner i gynal i fyny Undeb yr Ymerodraeth, oblegid mewn undeb y mae nerth, Paul.
- LLANELLI.
LLANELLI. DARLITH.—Yn yr Ysgoldy Genedlaethol, nos Wener diweddaf, traddododd y Parch. Samuel Davies ei ddarlith ar Gristionogaeth yn Mhrydain cyn dyfod- iad Awstin." Yn absenoldeb Mr. J. H. Rogers (yr hwn a hysbyswyd oedd i lywyddu), cymerwyd y gadair gan y Parch. Canon Williams. Yr oedd yr ysgoldy yn hynod o lawn, ac yr oedd dull meistrolgar y darlithydd mewn perthynas i'w bwnc y fath fel. y sicrhaodd y gwrndawiad mwyaf astud am yn agos i awr a haner o amser. Dygwyd ger ein bron lawer 0 ddarluniau, y rhai a ddangoswyd trwy gymorth y magiclantern, 0 hen Eglwysiac Eglwysi Cadeiriol Cymru. Diweddai y dar- lithydd trwy ddweyd fod Rhagluniaeth fawr y nefoedd wedi gofalu am ei Eglwye cyn i'u un Pabydd na sectwr erioed roddi troed yn y deyrnas. Y mae ganddi ei henwogion er oesau boreuaf Cristionogaeth, a gall ymffrostio yn ei saint am ganoedd 0 flynyddoedd cyn Robert Brown genhedlu yr un Ymneillduwr yn Mhrydain. Ar ol y diolchiadau a'r cadeirydd diweddwyd un o'r cyfarfodydd mwya dyddorol ac adeiladol a fu ein braint 0 fod ynddo trwy ganu emyu.- Cyril.
LLANRHYDDLAD.,
LLANRHYDDLAD. Cynhaliwyd cyfarfod corawl yn Eglwys y plwJ^ uchod ddydd Llun y Pasg, yr 2il o'r mis presenol- Corau Llanfaethle, Cemmaes, Llanfechell, Llanfair yn Nghornwy, a Llanrhyddlad oedd y rhai a gymerasant ran yn y cynuiliad adloniadol a phleserus hwn, a da dros ben y gwnaethant y gwaith o ddangos glr" dderchowgrwydd gwasanaeth yr hen Fam Eglwys JO ei threfn o gann a chantio ei bymnau dwyfol a Saln2fba per ganiedydd Israel, sef y brenin Dafydd, y gwr wrth fodd calon Duw." Y mae y Paich. Jalula Smith, perigiar Rhos y bol, wedi bod yn hynod lafurus yn y gwaith o ddysgu y corau uchod er's droo chwe' mlynedd gogyfer a dydd Llun Pasg, a hyny hollol ddi-dal a di-elw, ond fod y pleser sydd gand"a yn y gwaith wrth weled y cynydd yn nifer aelodau corau a'r mawr ddefnydd y maent wedi wneyd °} I addysg yn foddhaol iawn i'r gwr Parchedig, ac yn ameu ei fod yn teimlo hyny yn wobr. Dechreuwyd f gwasanaeth cyntaf am 2.30 gyda chanu yr emyB|1 Ffydlon filwyr Iesu," tra yr oedd y gweinidogion P myned i fyny, yn eu gwenwisgoedd, i'w lie wrth T allor. Cafodd yr emyn ei chanu yn ardderchog ganf corau a'r gynulleidfa fawr. Intoniwyd y gwasana# gan y Parch. T. P. Watkin Davies, cnrad AberiraWii darllenwyd y llith gyntaf ganddo hefyd, tra y wyd yr ail lith gan y Parch. H. L. Pryce. Gwladol, ac intoniwyd y gweddiau o'r trydydd cole"1 hyd y diwedd gan y Parch. T. Lloyd Kyffin, periglf Cemmaes a Llanbadrig. Pregethodd y Parch. P' Grey Edwards, ficer yr Eglwys Gymraeg, Caer, f\ hynod o effeithiol a theimladwy ar y geiriau GwyDe; fyd y pur o galon;" pawb yn gwrando yn y w0& mwyaf difrif ac astud. Ar ol y bregeth, a yr oedd y casgliad yn myned ymlaen, cafl' wyd yn ardderchog gan y corau a'r eidfa hymn 196 (H. a N.) ar yr hen don Gymiw Brynhyfryd." Ar ol y fendith gan y Deon Gwladw canwyd hymn 138 (H. a N.) tra yr oedd yr offeiriaid ft dychwelyd i'r festri, pawb eto yn uno yn yr elJ11 nefolaidd. Yr anthem oedd, Cenwch g&n o fawl (Dr. Stainer), ac yr oedd y medrusrwydd, a'r teirala yn enwedig yr amser, a hwnw braidd yn anhawdd, gafodd ei gadw, yn brawf o'r drafferth a gymerwyd gaC y dysgawdwr a'r corau 0 dan arweiniad y Parch. Jar»eS Smith i'w dysgu fel y dylai. Chantiwyd "Ti Dda^fl' folwn bob yn ail ochr ar Helmore No. 3, yn dda ia^?f, pob gair i'w glywed yn eglur. Felly hefyd y ta? Psalm, sef yr 2, 111, a 114. Ar ol y gwasanaeth £ e I y coran a ffryndiau eraill i'r Persondy, He yr oedd ty cigau, a bara brith wedi eu parotoi ar en cyfer; yr oodd y byrddau wedi eu harddu & blodau destlus y rhodd Lady Reade, Carreg Lwyd; Miss Wiliiauloj Plasnewydd, ac eraill. Yr oedd yr eglwyi3 hefyd VvOdl ei haddurno yn yr un modd, ond yn fwy Casglwyd mwsogl a blodau gan raio blant y "c6rbach» y rhai hefyd fuont yn gynorthwy i deulu'r Person^? gydag addurno'r eglwys. Ar ol darfod tS, &c., aeth f rhan fwyaf o'r corau 0 bell ffordd adref, ond rhai y gwasanaeth hwyrol a roddwyd yn unol a dy»B,^ iad y plwyfolion. Yr oedd y plwyfolion wedi ynghyd eto yn lliosbg i'r gwasanaeth hwn, ac fel ya 1 pryanaw, yr oedd yr eglwys yn orlawn, a llawer odai' allan. Intoniwyd y gwasanaeth gan y Parch. A* Davies, curad Llanfaethle, a darllenwyd y llith gyntai fan y Parch. A. Grey Edwards, a'r ail lith gany Parch- ames Smith. Pregethwyd yn y dull mwyaf tarawiadoi a phwrpaeol ar aaiben y cyfarfod o'r eanfed Psalm—/ gair cynnf, gan y Parch. E\ Catkin Davief, Yr anthem oedd "Hynod yw Duw vn Judab (Dr. Clarke Whitfield) y geiriau Cymraeg wedi wedi ei haddasu fel ag y maent yn y Beibl a'r Llyir Gweddi Gyffredin, Salm lxxvi. 1—3, gan y Parch- James Smith. Cafodd yr anthem fywiog yma 61 chann yn ardderchog gan gor Llanrhyddlad (nifer P,1,1 rai oedd 46) yn cael eu cynorthwyo gan I denlu caun Llanfair yn Nghornwy, Llanfachraeth, a Llanfaethle- Chwareuwyd yr harmonium gan Mrs. Watkin yn y ddau wasanaeth, a nifer y corau gyda'u gily oedd 118, neu fwy. Yn y gwasanaeth hwyrol canwyo yr hen emynau adnabyddus, sef yr "Hen Ganfed,81 Dan dy fendith," &c,, yn ardderchog, pawb yn cydi° ynddynt yn y modd mwyaf bywiog a phieserne. 5:r emyn a ganwyd cyn y bregeth am 2.30 oedd 136, 1100 a Newydd, ar Elliot." Cafodd yr emyn ei chanu, fel y lleill, gan y gynulleidfa i gyd. Y cyfanaoddwr oedd "Nicander," ac y ma,e y geiriau ysblenyJd i'w gweled yn ei "Flwyddyn Eglwysig." Efe oedd Rheitbo* Llanrhyddlad cyn i'r Parch. D. Watkin Davies Yr un peth ar ol yn y cyfarfod llwyddianus oedd preø.. enoldeb y Rheithor oherwydd afiechyd, ond y mae ylJI dda genym ddeall ei fod yn gwella yn dda.
TALSARNAU.
TALSARNAU. YSGOLDY LLANDECWYN.—NOB Wener, y 13eg cyfieoI, oedd noson yr edrychid ymlaen arni gyda llaweny<J"(r Ar y noson uchod y cynhaliwyd yr olaf o gyfres open11* readings yn y lie uchod. Yr oedd yr adeilad yn orla^D> a chawsom gyfarfod hynod lwyddianus. Yr oedd dda odiaeth drwyddo oil. Cymerwyd y gadair ac weiniwyd yn ddeheuig dros ben gan y ffraeth a'r doD^ Mr. Jones-Morris, Ty Cerrig. Dyma raglen o'r gweit rediadau:—Can, The Sailor Boy,' Plant Ysgol U9,11* decwyn. Can, Before all lands,' Maggie Jones a Ellin Evans. Darlleniad, Mr. F. Walbran E Can, The missing boat,' Miss Sephton, yn cael ei diIY ar yr harmonium gan Miss Jones, Ship-a-ground. Dell awd, The beautiful star,' Mrs. Mynott a Miss Jope: yn cael en dilyn ar yr harmonium gan Miss Hood. !t awd, Sweet day,, so cool,' Miss Sephton a'r Parch- r Hughes. Canig.'Qh hush thee, my baby I pirti Yt, Eglwys. Darllen difyfyr yn Gymraeg—goreu, ;i John Ellis a Willie Roberts yn gyd-ftiddugoi; David Evans; 3ydd, Johnnie Evans. Diclchwn i.J*v John Ellis am roddi ei wobr i'r olaf. CUn, Idris (Jenny Jones), Miss Prichard, yn cael ei dilyD Z, yr harmonium gan Miss Hood. Cau, Pa le roa^g machgen hoff ?' Johnnie Evans. Triawd, A farm well tilled,' Parch. J. Hughes, Mr. C. 1 Evans, a Mr. Jones-Morris, yn cael eu dilyn ar yr.. g, monium gan Miss Jones. Canasant yn hynod a gorfu iddynt ail ganu. CLwareu ar y flute, Jarret Humphreys a'i gyfaill, a chwareusant 7n J. iawn. C^n, 'Rwy'n myn'd,' Mr. David Roberts; t odd encore, ac ail ganodd. Adrodd;ad, I Y BOD"" Mary Owen. I misil Denawd, 'Very suspicious, Prichard a'r Parch. J. Hughes, yn cael eu dilyn a* ? harmonium gan Miss Jones. C&n,' The powder 01 key,' Mr. C. J. Walbran Evans, yn cael ei ddilyn a* harmonium gan Miss Prichard. Can, 'Mentra Miss Mary Anne Hughes, yn cael ei dilyn ar yr monium gan Miss Jones; cafodd encore, ac ail gan Dutch Medley; a ganlyn yw enwau y rhai a —Johnnie Evans, David Evans, Maggie Jones, Owen, Jane Ellin Evans, ac Ellin Prichard; °.a^ iafil un wobr. Can, Nos Galan,' Mr. Jones-Morris, yn ei ddilyn ar yr harmonium gan Miss Jones. Can°d hwyliog dros ben, y presenolion yn uno yn y a yn hen ac yn ieuainc. Cafodd encore brwdfryaig. gorfu iddo ail ganu. CUn, The Monks of old, Walbran Evans, yn cael ei ddilyn ar yr ha,rmonw<w&_j Miss Prichard. Can, Softly falling,' P^n6 Llandecwyn, dafl arweiniad Miss Sephton. Adro