Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

YSTRADYFODWG.

LLANDDAROG.

LLANGOLLEN.

ABERHONDDU.

News
Cite
Share

ABERHONDDU. Mae'r gwahanol bwyllgorau ynglyn a'r Eisteddfod Genedlaethol am 1889 yn gweithio yn brysur i gael pethau mewn trefn fel ag y gallont gyhoeddi rhestr o'r testynau cyn bo hir. Y mae pob argoel y cawn eistedd- fod lwyddianus, gan na fydd prinder arian yn ol pob tebygolrwydd, sef y sinews of war. Agorwyd Mission Room yn yr Avenue Road ddydd Ian, y 12fed cyfisol. Pregethwyd yn y fcoreu gan y Parch. D. Griffith, Llanfihangel Talyllyn; ac yn yr hwyr gan y Parch. Watcyn Morgan, Treforis, y ddau yn gyn-guradiaid y plwyf. Daeth torfeydd ynghyd. Mae'r Eglwys ar gynydd yn y dref hon, ac yn wir yn yr ardal yn gyffredinol. CONFFIRMASIWN.—Ymwelodd Arglwydd Esgob Ty Ddewi a'r dref hon ddydd Mercher, yr lleg cyfisol, pan ddaeth 102 ymlaen i gael eu conffirmio yn Eglwys y Priordy. Yr oedd llawer 0 honynt mewn oedran, fel y sylwodd ei arglwyddiaeth, yr hyn oedd yn brawf fod y drefn apoatohg yn cael ei pharchu a'i gwerthfawrogi yn fwy yn y blynyddoedd presenol magynyramsera aeth heibio. Wele eto brawf fod yr Eglwys yn cynyddu vn feunyddiol. Daeth ymgeiswyr o'r plwyfi canlynol heblaw Eglwyai y drefLlanfyaach, Llandifaelog Fach Garthbrengy, Llanfihangel Talyllyn, Llansant- ffraid, Llanvilo, Llandifalley, &c, Yr un prydnawn conffirmiwyd amryw yn Eglwys Penybont.

GWRECSAM.

PENTREFOELAS.

TRECASTELL.

HIRWAUN.

GARN, DOLBENMAEN.

CAPEL ISAF (BRYCHEINIOG).

LLANGELER, CAERFYRDDIN.

YSTRADGYNLAIS.

FFESTINIOG.

LLEZN A'R AMGYLCHOEDD.

- LLANELLI.

LLANRHYDDLAD.,

TALSARNAU.